Cyfrinach y Dwyrain/Ysgrifau mewn Clai

Cenadwri y Cerrig Cyfrinach y Dwyrain

gan David Cunllo Davies

Ysgrifau ar Bapur-Frwyn

III. YSGRIFAU MEWN CLAI.

GANRIFOEDD cyn i hyd yn oed y Chineaid ddyfeisio papur i ysgrifennu arno, arferwyd llawer o ddefnyddiau heblaw cerrig i dderbyn meddwl a chario neges dynion trwy ysgrifen. Cawn sylwi yn y penodau a ddilynant ar y defnyddiau o groen, o bapurfrwyn, ac o fetel; ac yn awr, taflwn olwg dros rai o'r llechau clai fu unwaith mewn bri mawr.

Yng ngaeaf 1887, yr oedd nifer o amaethwyr Aifftaidd yn chwilio am flawr (nitre) i achlesu eu tir, a phalasant ran o domen adfeilion hen adeilad. Ynddi tarawsant ar lyfrgell frenhinol o dri chant o lechau. Cynhwysant mewn argraff tua hanner maint pum llyfr Moses. Tell El-Amarna yw enw mangre'r darganfyddiad; a bu'r lle unwaith yn brif ddinas yr Aifft. Saif ar lan y Nilus, tua dau cant of filltiroedd uwchlaw Cairo a thua deucant islaw Thebes. Y mae gogoniant y lle wedi ymadael ers oesoedd; ac y mae'r ddinas fu'n adseinio gan swn carnau'r meirch a sain udgyrn llys yr Aifft yn awr yn ddistaw fel y bedd dan y malurion.

Llythyrau ar gynllun brysnegeseuau sydd ar y llechau. Danfonwyd hwynt gan swyddogion brenhinoedd yr Aifft a chan raí o frenhinoedd y gwledydd cyfagos at y ddau Pharaoh, Amenôthês III. ac Amenôthes IV.; ac ysgrifennwyd hwynt o Gebal, Beirût, Tyrus, Sidon, Hazor, Joppa, Ascalon, Gezer, Jerusalem, a lleoedd ereill. Y maent yn y llythyren gŷnffurf (cuneiform) Fabilonaidd. Nid ydynt o'r un maint nac o'r un lliw. Megis y mae'n hawdd i deithwyr yng Nghymru ar eu ffordd drwy ddyffryn Gwy adnabod sir Frycheiniog wrth gochni pridd ei daear, felly gall daearegwr ddywedyd o ba ran o Ganan y daeth y llythyrau hyn oddiwrth. liw y elai yr ysgrifennwyd hwynt arno.

Ymhlith y rhai a ohebent â'r ddau Pharaoh, y mae Asur-uballit, brenin Asyria; Burra burias, brenin Babilon; a Dusratta, brenin y Mitanni-pobl â pherthynas agos rhyngddynt a'r Hethiaid, ac a drigent rhwng yr afonydd Euphrates a'r Tigris. Ysgrifenna Calimmasin, brenin arall o Fabilon, lythyr neu ddau, hefyd, at ei frawd o'r Aifft.

Blynyddoedd teyrnasiad Amenôthês III. oedd 1414 cyn Crist i 1379; a bu ei olynydd, a ddygai'r un enw, ar yr orsedd o 1379 i 1362 cyn Crist.

Yn Thebes yr oedd cartref llys yr Aifft am ganrifoedd, ac yno y bu prif ddinas crefydd a gwleidyddiaeth hyd ddyddiau Amenôthês IV. Wrth chwilio am resymau digonol dros i deyrnas yr Aifft symud ei gorsedd o Thebes ceir llawer o amrywiaeth barn ymhlith yr awdurdodau. Dywed rhai fod Amenôthês III. wedi priodi gwraig o deulu brenhinol y Mitanni, ac i'w olynydd yntau briodi merch Dusratta, brenin yr un bobl. Yr oedd yr Aifft wedi gorchfygu Syria a Phalestina i ryw fesur; ac yr oedd llawer o bobl o'r gwehelyth Semitaidd, o'r rhai yr hanna yr Iddew a'r Arab, wedi dringo i sefyllfaoedd o bwys yn llywodraeth yr Aifft. Rhwng dylanwad y bobl hyn, a dylanwad y gwragedd o'r Mitanni, penderfynodd Amenôthês IV. gymeryd crefydd y wraig o'r Mitanni, gan gryfed y teimlad o blaid honno oedd yn ei amgylchynu. Dywed Maspero mai merch o'r Aifft oedd priod Amenôthês III., ac nad oedd yn perthyn i dylwyth y brenin, eithr mai cariad oedd sail yr undeb priodasol ac nid defod ac arfer. Awgryma efe mai amharodrwydd offeiriaid Thebes i gydnabod ei mab yn olynydd i'w dad a fu yn achos iddo ddatgysylltu gorsedd yr Aifft â hen grefydd y wlad. Modd bynnag, bu anghydfod, a bu ei waith yn rhoddi safle o'r fath anrhydedd i dduw newydd yn ddigon fel achos o lawer o bethau ereill. Nis gallodd newid peth mor gysegredig a chrefydd heb iddi fyned yn dywydd mawr arno. Aeth yn rhwyg difrifol rhyngddo âg offeiriadaeth Thebes; a bu iddo symud ei brif ddinas i Tell El Amarna, a chymerodd enw newydd, sef Khu En Aten— gogoniant y duw newydd a addolai. Gyda'r llys symudwyd y trysorau a'r cofnodion brenhinol a'r ohebiaeth rhwng y swyddogion â'r orsedd; ac ymysg y rheiny yr oedd rhai o'r llechau elai sydd dan ein sylw. Wedi marw Amenôthês IV., a chan nas gadawodd fab i lanw'r deyrngadair ar ei ol, nid hir y parhaodd mawredd ei ddinas na'r ymlyniad wrth ei grefydd. Ar ei ol ef dechreuodd llinach newydd. o frenhinoedd—y bedwaredd ar bymtheg; a thrachefn daeth Thebes i fod yn brif ddinas; ac wedi ymadael o'i gogoniant ni chadwodd Tell El Amarna garreg ar garreg am yn hir. Claddwyd hi a'i llyfrgell o dan yr adfeilion; ac yr oedd yng ngolwg y wlad fel dinas wrthodedig. Nid oes angen am grebwyll byw iawn i ddeall yr amgylchiadau. Onid oedd y ddinas newydd yn gartrefi i'r duwiau a drawsfeddianasant hawliau hen dduwiau'r Aifft? Nid yw yn debyg y gallasent gredu y buasai yr hen dduwiau yn cymeryd dinas fel hon dan eu nodded: ac nid yw dyn yn reddfol yn hoffi lle nas gall ddisgwyl am aden ei dduw drosto. Ciliwyd o Tell El Amarna; ac aeth hithau yn garnedd.

Dywedasom fod yr Aifftiaid wedi goresgyn rhan helaeth o Ganan; a chawn syniad am lwyredd eu concwest pan gofiom mai â meirch a cherbydau yr ymladdai'r Aifft. Nid hawdd oedd darostwng gwyr y mynyddoedd â'r rhai hyn. Yr oedd y graig a'r dibyn a ilwybrau'r geifr a'r defaid yn rhy beryglus i'r meirch; ond yr oedd y gwastadeddau yn dra llwyr o dan eu hawdurdod; ac yn gwylio'u heiddo a chadw'r ffyrdd tramwyol o law'r lladron a'r gelynion, yr oedd swyddogion y llywodraeth. Ar hyd y ffordd hon y teithiai'r Ismaeliaid a brynasant, am ugain darn o arian, un o gymeriadau prydferthaf hanes. Ar y llechau adroddir helynt y swyddogion, fel y danfonwyd ef yn frysneges at eu meistr, Pharaoh, a hwy yn gwarchod masnach a buddiannau ereill yr Aifft.

Cofnodir buddugoliaeth yr Hethiaid ar Damascus, a buddugoliaeth yr Amoriaid ar Phoenicia. Dywed yr Uchgadben C. R. Conder, yn y llyfr y rhydd gyfieithiad o'r llechau ynddo, eu bod hefyd yn cofnodi concwest yr Hebreaid yn Judea. I raddau pell, er nad yn hollol, ymddibyna'r dystiolaeth ar yr hon y seilir y dywediad am yr Hebreaid ar gyfieithiad o enw; ac os cywir yr hyn a ddywedir gan Conder, y mae'r hyn a gredwyd am ddyddiad y gorthrwm a'r Exodus yn syrthio i'r llawr. Yr enw mewn dadl yw 'Abiri; a barn y gŵr cyfarwydd a ennwyd yn ei ddehongliad ef o hono ydyw mai'r Hebreaid a feddylir. Dywedir yn un o'r Ilythyrau fod milwyr yr Aifft wedi eu galw adref yn y flwyddyn y daeth yr 'Abiri (yn ol Conder, yr Hebreaid) o'r anialwch. Ysgrifenna rhyw swyddog i ddwedyd wrth Pharaoh fod darn o'r deyrnas mewn perygl. Fel hyn y dywed,—

"Y mae'r tiroedd yn pallu i'r brenin fy Arglwydd. Y mae'r penaethiaid Hebreig yn anrheithio holl dir y brenin. Er pan aeth pen— aethiaid y milwyr Aifftaidd ymaith gan roddi i fyny y tíroedd y flwyddyn hon, O frenin fy Arglwydd."

Rhydd Conder yr enw Adonisedec ar awdwr mwy nag un o'r llythyrau a anfonwyd o Jerusalem (Urusalim); a geilw ein sylw at hwnnw a laddwyd gan Josua (Jos. x. 3). Cyfeirir yn un o lythyrau Gezer at bobl yr anialdiroedd; a deisyfa Yapa'a— gŵr a eilw ei hun yn bennaeth Gezer a meistr y meirch—am gynorthwy rhagddynt. Dyma ddyfyniad o un o lythyrau Jerusalem,—

"I'r brenin fy Arglwydd, yn galaru fel hyn y mae hwn Adonisedec dy was. Wrth draed fy Arglwydd fy mrenin seithwaith a seithwaith yr ymgrymaf. Pa beth a ofynaf gan y brenin fy Arglwydd? Hwynthwy a orchfygasant, hwy a (gymerasant amddiffynfa Jericho)—hwy a ymgasglasant yn erbyn brenin y brenhinoedd, yr hyn beth a eglurodd Adonisedec i'r brenin ei Arglwydd. Wele, am danaf fi, fy nhad nid yw a'm byddin nid yw. Y mae'r llwyth sydd wedi fy malu yn y lle hwn yn wrthryfelgar iawn i'r brenin, yr un sydd yn ymgasglu yn fy ymyl er cymeryd ty fy nhad. Paham y pechodd y llwyth yn erbyn fy Arglwydd y brenín. Wele, O frenin fy Arglwydd, cyfod. Dywedaf wrth y pennaeth y brenin fy Arglwydd—Paham y mae'r tir mewn caethiwed i bennaeth yr 'Abiri a'r llywodraethwyr a ofnant y diwedd?"

Mewn llythyr arall dywed,—

"Y mae holl wlad y brenin a gymerwyd oddiwrthyf wedi ei dinistrio. Ymladdasant yn fy erbyn mor bell a thiroedd Seeri (Seir), mor bell a dinas Giot (yn ol Conder, Gibeah) a ddinistrasant. . . Wele yr ydwyf fi, pennaeth yr Arglwyddi (neu'r Amoriaid), yn torri yn ddarnau; ac nid yw y brenin fy Arglwydd yn sylwi ar y deisyfiadau tra y maent hwy wedi ymladd yn fy erbyn yn ddiorffwys. Wele, O frenin cadarn, trefna lynges ynghanol y môr. Ti a orymdeithi i'n tir, tir Nahrima â thir Casib, ac wele, amddiffynfeydd y brenin yw. Ti a orymdeithi yn erbyn penaethiaid yr Hebreaid."

Esbonia yr Uchgadben Conder y cyfeiriadau hyn ynglyn â'r gorymdeithiad. Dywed fod yr Aifftiaid i ddod dros y môr i Ascalon neu Gaza—lleoedd ymron ar gyfer Jerusalem. Dyma'r ffordd a gymerodd y Philistiaid yn eu hymgyrch yn erbyn Saul; a byddai'n fwy dirwystr iddynt ddyfod y ffordd hon na llwybrau'r anialwch.

Carem allu credu fod y llythyrau hyn o Ganan yn cyrraedd yr Aifft ac yn cael eu darllen gan Pharaoh, pan oedd lluoedd Israel yn dyfod i fyny o'r anialwch i wlad a addawyd iddynt a lifeiriai o laeth a mêl. Cymerai i ni ofod go fawr i wneud cyfiawnder âg ymresymiad yr Uchgadben Conder; ac hyd nes cawn oleuni mwy a chanfyddiad eglurach, y mae'n well gennym yn ostyngedig gredu fod yn y llythyrau ddesgrifiad o helyntion yng Nghanan ganrif cyn i'w hetifeddion gyrraedd iddi. Ystyr y gair Hebreaid yw pobl wedi croesi. Gall olygu eu bod wedi croesi o eilunaddoliaeth i wasanaeth y gwir Dduw; neu gall feddwl eu bod wedi croesi môr neu afon. Yn awr, nis gwyddom am bobl a chymaint o groesi yn eu hanes a chenedl Israel. Croesodd Abram yr Euphrates ar y ffordd o Haran i Ganan. Ar eu hymdaith o gaethiwed y priddfeini croesodd Israel y môr yng nghysgod gosgordd o golofnau, ac ar drothwy eu hetifeddiaeth aethant drwy'r Iorddonen. Os yw 'Abiri a Hebreaid yn gyfystyr gellir dod dros yr anhawsder sydd yn codi o'r llythyrau drwy awgrymu mai llwyth o bobl o'r tu draw i ffiniau Canan barodd. i'r swyddogion ddanfon at Pharaoh.

Ymhlith llechau Tell El Amarna ceir tua thrigain o lythyrau oddiwrth Ribadda — Gebal, prif ddinas Phoenicia. Dyn rhyfedd oedd hwn. Yr oedd yn wastad mewn anhawsder a gofid. Y mae un o ddau beth yn wir am dano. Gosodwyd ef mewn lle eithriadol o ran awydd a chyfleustra i ddynion ymosod arno; neu, yr oedd ganddo galon ofnus a gallu i ddychmygu fod gelynion lle nad oeddynt. Y mae dynion felly. Clywant fyddin yn symud yn eu herbyn pan na fydd ond dail yn ysgwyd gan awel, a phan y bydd brân yn crawcian neu ddyllhuan yn wban cryn eu calon, a chlywir eu inglais am y cred— ant fod lluoedd y tywyllwch ar eu hynt yn eu ceisio.

Cwyd Ribadda ei galon pan ddenfyn y brenin gynhorthwy iddo. Yn un o'i lythyrau, wedi desgrifio'r modd yr ymladdwyd. am ddinas Smyrna, dywed ei fod yn aros fel aderyn ynghanol y rhwyd. Y mae ei ostyngeiddrwydd yn eithafol. Cyfeirial ato ei hun fel llwch traed y brenin. Ystol droed wrth draed y brenin ei arglwydd ydyw. Abdasherah, gŵr a elwir ganddo yn gi, yw ei brif wrthwynebydd; ac y mae amryw o bobl bwysig glan y môr wedi eu tynnu i mewn i'r cweryl. Un dydd yr oedd ei helbul yn eithafol. Dyma fel yr ysgrifenna,—

"Ai ni fydd i'm harglwydd wrando neges ei was? Dynion o ddinas Gebal a'm plentyn a'm gwraig yr hon a gerais, a gipiwyd . . . anfon di ddynion y gwarchodlu, dynion rhyfel, i'th was.

Ysgrifenna Amenôthês III at Calimmasin, brenin Babilon. Derbyniodd y Pharaoh lythyr neu lys-gennad oddiwrtho. ac y mae yn ateb fel a ganlyn,—

"Dymuni ar un i ddanfon ei ferch i fod yn wraig i ti; ond fy chwaer yr hon a roddodd fy nhad sydd gyda thi; ac nid oes neb a wel a ydyw yn fyw nen a ydyw yn farw."

Ac a yn y blaen i son am y gwaddol. Cyfrifid priodas yn gyfystyr a chyfamod; a ffordd effeithiol a hawdd o sicrhau cydymdeimlad a chynhorthwy brenhiniaeth oedd ennill llaw, beth bynnag am galon, un of ferched y penadur.

Ceir awgrym yn y llythyr am y pellter oedd rhwng priod y brenin a'i theulu unwaith yr oedd drws ty y gwragedd yn ei chartref newydd wedi cau arni. Hawdd y gellid symud y ferch a briodwyd, drwy lofruddiaeth neu ryw ddull arall, ac mor fanwl y gwarchodwyd drostynt fel nad oedd modd gwybod i sicrwydd ddim o'u helynt.

Gresyn fod yr ysgrifenwyr hyn yn gwastraffu cymaint ar ofod ac amser drwy y moesgarwch eithafol sydd yn eu nodweddu pan gyfarchant eu brenin. Gwell fuasai gennym gael ychydig o bethau mwy dyddorol. Treulia mwy nag un o honynt hefyd amser i brotestio yn erbyn cyhuddiadau am anffyddlondeb i'r orsedd a ddygwyd yn eu herbyn; ond megis drwy y dellt ceir llawer o oleuni ar arferion ac ar hanes cyfnodau nad oes ond ychydig iawn o'u holion yn aros.

Darganfu y Proff, R. A. S. Macalister rai llechau clai yn Gezer—dinas adfeiliedig ar y ffordd o'r môr i Jerusalem. Bu hon ym mhob cyfnod o hanes gwlad Canan yn bwysig. Yng nghyfnod trigolion yr ogofeydd, yr oedd Gezer mewn bri, oherwydd yr oedd y graig yno yn feddal, ac o ganlyniad yn hawdd i'w thrin, fel pan yr oedd angen ar ben teulu i ychwanegu ystafell at ei dyddyn, gallasai wneud hynny heb lawer o lafur. Maluriai'r graig dan ergyd ei forthwyl o garreg neu o bren yn hawdd iawn. Yn yr ymyl yr oedd digonedd o borfa i'w anifeiliaid a chyflawnder o ysglyfaeth i'w fwa, ac yr oedd yno nifer o ffynhonnau a dorrent ei syched bob amser. O ganlyniad bu'r ddinas yn bwysig iawn ar hyd yr oesau. Bu'r Aifft a'i gafael arni, am y gallai o'i thyrau wylied un o'r ffyrdd o lan y Nilus i Mesopotamia, dros yr hon y tramwyai y masnachwyr gan gludo pethau gwerthfawr y naill wlad i'r llall. Rhoddwyd Gezer yn anrheg i'w ferch, gwraig Solomon, gan Pharaoh; a dywedir i Solomon ei hadeiladu, gan awgrymu ddarfod i frenin yr Aifft ei dinistrio wrth ei gorchfygu. Y mae Gezer fel cyfrol ar wareiddiad Palestina. Wrth gloddio i'w malurion troir dalen ar ol dalen o hanes y wlad; eithr nid ar hyd y llwybr hwn y bwriadem gerdded wrth gychwyn.

Ond cyn tewi ar hyn buddiol yw i mi ddywedyd fod olion preswyliad trigolion. hynach na'r Cananeaid a'r Amoriaid yng gwlad yr addewid. Perthynent, y mae'n amlwg oddiwrth eu hofferynau, i oes y meini. Nid oeddynt o deulu Sem, oherwydd nid yw asgwrn eu pennau o ran ffurf yn debyg i eiddo yr Arab a'r Iddew. Llosgent gyrff eu meirw, ac y mae hyn eto yn eu gwahaniaethu oddiwrth y Semitiaid. Trigent yn y wlad o leiaf dair mil o flynyddoedd cyn Crist. Son yr oeddem am y llechau.

Cafwyd rhai o honynt yn y lle; a pherthynant i'r cyfnod Assyriaidd— wedi cwympo o deyrnas Israel. Ar un y mae gweithred gyfreithiol yn cofnodi arwerthiant eiddo. Ceir enw caethwas yn gyntaf. Y mae efe ymysg y dodrefn sydd yn newid dwylaw, a sicrheir y prynwyr y bydd y caethion yn rhydd oddiwrth anhwylderau corfforol am gyfnod. Llawnodir y weithred gan y prynwr a'r gwerthwr dan seliau, a dilyna enwau deuddeg o dystion, o'r rhai y mae Huruasi, y maer neu'r pennaeth, yn un. Daethpwyd o hyd i un arall o gymeriad cyfreithiol. Y mae gŵr o'r enw Nethaniah-Hebrewr of genedl, y mae'n sicr,-yn gwerthu cae; ac ar y llech y mae'r cyfamod yn ysgrifenedig. Yn un o'r dyfrffosydd cafwyd un ac arni ddarlun o fwystfil yn bwyta dyn.

Amser a balla i ni sylwi ar lyfrgell Assurbanipal, a gyfodwyd o'r murddyn, fel y cyfeiriwyd mewn ysgrif flaenorol, gan Layard yn Ninifeh; ac y mae'n rhaid bodloni ar yn unig enwi y darganfyddiadau a wnaed gan y cwmni a ddanfonwyd allan gan Brifysgol Pennsylvania i Nippur, dinas hynaf Babilonia, yn 1900. Yn y ddinas ar ddydd ei mawredd yr oedd teml gysegredig i addoliad un neu fwy o dduwiau, ac yn y deml yr oedd llyfrgell a gynhwysai tuag ugain mil o lechau clai. Arnynt y mae pob math o lenyddiaeth. Ceir ysgrifau ar rif a mesur, seryddiaeth, meddyginiaeth, arwriaeth, ac emynyddiaeth. Dyma hen wyddorau'r byd. Creadur amser a lle ydyw dyn; ac y mae llinyn mesur a chloriannau yn ei law er yn fore; ac y mae hithau seryddiaeth yn hen, yn hŷn na daeareg er engraifft. Y mae dyn yn greadur crefyddol. Edrychodd i fyny cyn edrych i lawr. Rhoddwn yma dair llinell o emyn o glod i'r dduwies Istar, yr hon yw Astaroth y Beibl,—

"Y dduwies Istar a ddyrchafaf, cân o fawl a ganaf iddi
A hufen, palmaeron, a llaeth melus, a chyffeithfwyd a saith pysgoayn
Yr arlwyaf ei bwrdd (hi) yr hon a elwir cyhoeddwr y byd."

Mewn Sumeraeg, un o hen ieithoedd Babilonia, ceir casgliad o emynnau a gweddiau i dduw a elwir Ninib; a dywed Dr. Sayce eu bod yn hŷn na dyddiau Abraham. Rhydd y gŵr dysgedig hwn un o'r emynnau yn gyfieithiedig i'r Saesneg. Dywed bethau tebyg i hyn. Yr oedd y barbariaid o'r gogledd—ddwyrain wedi ymdaenu dros y fro. Dinistriwyd y temlau, ac yr oedd y brodorion wedi eu gorfodi i wneud priddfeini i'w meistriaid gormesol. Yr oedd Ninib yn hawlio awdurdod ar yr ystorm, a "chlustymwrandawodd â gweddiau'r" bobl, a daeth i'w cynorthwyo. Gwlawiodd gesair ar y gelyn a llifodd y meusydd â dwfr.

Y llechen fwyaf dyddorol yn y llyfrgell. yw'r un a gofnoda hanes y diluw. O gyfieithiad y darlithydd mewn Assyriaeg ym Mhrifysgol Llundain sylwn fod yr hanes yn rhyfeddol o ran ei debygrwydd i'r cofnodiad ysgrythyrol. "Ac wele, mi a'u difethaf hwynt gyda'r ddaear," medd llyfr Genesis. Efe a ysguba ymaith bawb dynion gyda'u gilydd" ebe darlleniad llech Nippur: a dyma frawddegau ereill o'r un ffynhonnell,—"Adeilada gwch mawr"—"bydd dy fâd-dy yn cario yr hyn a achubwyd o fywyd"—"anifeiliaid y maes."

Y mae nifer mawr o gyfeiriadau at y diluw a'r arch i gadw'r ty yn llenyddiaeth grefyddol baganaidd y byd. Nid syn hynny, oherwydd yr oedd teulu pob dyn ar y ddaear yn mwynhau diddosrwydd trugaredd y dwthwn hwnnw.

Ar y llechau clai a ddarganfuwyd ym. Mabilonia ceir hanes Gilgames—Samson y wlad honno. Gorchfygodd ddinas Erech. (Gen. x. 10) a llywodraethodd hi â ffon o haearn, ac ocheneidiodd ei thrigolion. am ymwared. Troisant at eu duwies garedig. Tosturiodd hi, ac yn ebrwydd, er estyn cynhorthwy iddynt, creodd greadur oedd yn hanner dyn ac yn hanner bwystfil.

Clywodd Gilgames am y greadigaeth hon, a goddiweddwyd ef gan ddychryn. Sut y medrai ddiarfogi neu ddinistrio'r creadur oedd ei gwestiwn yn awr. Taflodd ei linyn drosto, a thybiodd, gallem. feddwl, nad oedd ei fraich ef yn ddigon i wynebu'r gelyn newydd; a chymerodd y ffordd y mae'r byd yn chwannog i'w mabwysiadu dan amgylchiadau tebyg. Ceisiodd swyno'r creadur a gwneud cyfaill o hono. Llwyddodd. Aethant yn gyfeillion, ac fel cyfeillion gwnaethant orchestwaith.

Teimlodd Istar (Astaroth), gallem gasglu, fod perygl, a lladdodd y creadur a grewyd i waredu Erech, a chawn Gilgames mewn enbydrwydd eilwaith. Yn ei fraw chwiliodd am anfarwoldeb; ac er mwyn cael y peth dymunol hwnnw, rhaid iddo ddod o hyd i un o'i hynafiaid—gwr o'r enw Sit-napistim, a wyddai gyfrinach y bywyd diddarfod. Taith arw gafodd Gilgames. Yr oedd ei rhwystrau a'i pheryglon yn aml fel taith pererin arall; ond fel y digwydda i bob taith daeth y diwedd, a chafodd ei hun ym mro lonydd cartref ei hynafiad, ac edrydd Sit- napistim yr hanes am y modd y meddiannodd efe anfarwoldeb.

Dywed fod y byd yn ddrwg a llygredig; a phenderfynodd un o'r duwiau ei foddi; ond yr oedd gan Sit-napistim gyfaill ymhlith y duwiau, a pharodd y duw hwn iddo wneud arch i ddiogelu ei hun. A hi yn barod, aeth ef a'i deulu a'i eiddo iddi. Gwlawiodd am chwe niwrnod, a chuddiwyd y mynyddoedd mwyaf gan y llifogydd. Ataliwyd y cawodydd ar y seithfed dydd, a gorffwysodd yr arch ar fynydd, ac anfonodd Sit-napistim, o ddiddosrwydd ei dŷ, golomen allan i chwilio am le i'w throed, ond dychwelodd. Yna danfonodd wennol, a daeth hithau'n ol. Yn olaf, gollyngodd gigfran; ac er iddi ddychwelyd i grawcian o gwmpas yr arch, ni ddaeth i mewn drwy'r ffenestr.

Ar ol i'r dŵr dreio, aethant allan, ac fel Noah aberthasant; a derbyniodd Sit-napistim y ddawn o anfarwoldeb gan y duw barodd y diluw. Yna cyfarwydda Gilgames sut i gael y peth yn feddiant iddo ei hun.[1]

Bernir fod y llechau hyn wedi eu hysgrifennu o 1350 i 1450 cyn Crist. Dehonglir cynnwys y llechau gan ysgolheigion profedig, ac yn ystod y blynyddoedd nesaf ysgubir llwch yr oesoedd oddiar lawer cofnodiad pwysig, ac y mae pob un a ddaw yn dystiolaeth adnewyddol i'r gwirionedd fod y Gwir Oleuni yn goleuo pob dyn a'r y sydd yn dyfod i'r byd. Nis gallasai y genedl etholedig fwynhau cyfrinach yr hwn oedd yn Dduw i'w Habraham, i'w Hisaac a'i Jacob, heb i'r barbariad a'r pagan oedd yn gymdogion iddynt fwynhau rhyw gymaint o lewyrch y goleuni hefyd.

Yn yr Amgueddfa Brydeinig cawn. Epistol oddiwrth Hammurabi at un a ddwg yr enw Sin-Iddinam. Rhoddir gorchymyn iddo gan y deddfroddwr. Y mae capteniaid llongau neillduol i'w danfon o Larsam fel ag i gyrraedd Babilon ar y degfed dydd ar hugain o fis Adar. Y mae y bobl sydd yn byw ar lan camlas Damanum i'w lanhau yn ystod y mis. Ysgrifenna Addu Daian, "Edrychaf yma ac edrychaf draw, ac nid oes goleuni; ond edrychaf at y brenin, fy Arglwydd, ac, wele, y mae goleuni; ac er i briddfeini gael eu hysgwyd o'r mur eto, nid. ysgydwir mo honof fi o dan draed fy Arglwydd." Erfynir gan y brenin Alashiya ar i Amenôthês ddanfon arian iddo, ac enfyn bum cant o ddarnau o bres yn anrheg. Bu farw un o drigolion gwlad y brenin yn yr Aifft, a dymuna ar Pharaoh gasglu eiddo'r trancedig at eu gilydd a'u danfon iddo ef. Cawn hefyd lawer o amlenni o glai ac ysgrif arnynt yn y casgliad. o'r llechau clai sydd yn yr Amgueddfa.

Cafwyd llythyrau yn Lachis. Hyderwn y ceir llawer o honynt eto ym Mhalestina. Dyma'r defnydd, ynghyda charreg, sydd. wedi gallu dal heb heneiddio na darfod yn hinsawdd gwlad yr addewid.

Nodiadau

golygu
  1. Gweler llyfr Mr. Handcock.