Cymeriadau (T. Gwynn Jones)/Ffilosoffydd

Daniel Rees Cymeriadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Chwyldroadwr


FFILOSOFFYDD


YR hyn a roes i mi fy syniad cyntaf am ffilosoffyddion oedd yr hanesion bychain a geid mewn rhai llyfrau am Roegiaid a Rhufeiniaid o'r dosbarth hwnnw gynt. Meddyliwn amdanynt fel dynion ag iddynt farfau go laes a dillad heb fod o'r deunydd na'r dull gorau fu erioed. Credwn mai dynion oeddynt na byddent yn rhoi pris yn y byd ar gyfoeth nac anrhydedd, na byddai waeth ganddynt pa beth a ddoi i'w rhan, a'u bod yn arfer dywedyd na fedrai neb ddwyn dim o'u heiddo oddi arnynt, gwnaed a fynnai. Darllenswn dystiolaeth gredadwy y byddent weithiau yn dywedyd pethau plaen iawn, hyd yn oed wrth wŷr mawrion y byddai eraill yn eu hofni ac o leiaf yn cymryd arnynt eu perchi dros fesur. Deuthum i ddeall y byddai pobl weithiau yn eu canmol, a thro arall yn rhoi gwenwyn iddynt i'w yfed. Dyellais hefyd mai ymhen hir a hwyr ar ôl eu claddu—neu beidio â chymryd cymaint â hynny o drafferth—y canmolid mwyaf arnynt. Yn ddiweddarach, sylweddolais fod o leiaf ddau ddosbarth ohonynt hwythau, er eu galw wrth yr un enw, ac mai â thôn y llais yn unig y gellid gwahaniaethu rhwng y ddau. Wrth sôn am un dosbarth, codech eich llais o ganol hyd ddiwedd y term. Wrth grybwyll y llall, gostyngech. Aech i helbul yn fynych hefyd am eu bod hwy mor hoff o eiriau dieithr a'u harfer yn barhaus heb eu bod oll yn rhoddi'r un ystyr iddynt. Yr unig siawns i ddeall meddwl llawer ohonynt fyddai eu gorfod i lefaru iaith y byddai raid i ddyn gwbl wybod ystyr ei dermau ei hun cyn y gallai eu trosi i'w heglurder hi. Oblegid rhyw ystyriaethau o'r fath, anodd oedd peidio â thybio bod yr hen ffilosoffyddion. wedi darfod o'r byd, neu ynteu fod yn amheus a fuont erioed i'w cael ynddo yn gymwys fel y cawsai dyn yr argraff amdanynt. Ond y mae ambell lwc yn y byd o hyd. Pan oeddwn ar fin anobeithio a chredu na byddai yn y byd byth eto un ffilosoffydd, cyfarfum ag un yn cyfateb yn union i'r ddelwedd honno a gawswn yn y dyddiau gynt.

Ym mis Awst, 1914, y bu hynny. Digwyddai nad oedd fy iechyd yn rhyw dda iawn, a gorfu arnaf gilio i un o'r ardaloedd hoffaf gennyf yng Nghymru i fwrw ychydig seibiant a cheisio denu cwsg yn ei ôl, ardal uchel, agored, lle y mae awyr lân, ysgafn, unigeddau maith i'w crwydro, ac adfeilion hen fynachlog yn y gilfach dawelaf a phrydferthaf yn y byd.

Yr wythnos y torrodd y Rhyfel Mawr allan ydoedd, a theimlwn fel pe buaswn yn mynd ar bererindod i chwilio am weddillion Cristnogaeth. Odid na chawn orffwys yn yr ardal honno a'i chorsydd, ei rhosydd a'i chilfechydd tawel, lle byddai dyn fel pe bai wedi gado'r byd ac na byddai arno byth mwy eisiau troi'n ôl. Ond methais. Yr oedd y cysgod yno o'm blaen i. Holai pawb a gyfarfyddwn am y newydd diweddaraf. Daeth y post â llythyr oddi wrth gyfaill o Lydawiad oedd ar gychwyn yn llawn ysbryd i'r drin . . .

Cerddais un prynhawn ar hyd ffordd unig i'r mynydd-dir. Un dyn a welais yn ystod milltir oedd o gerdded. Gweithiwr deugain oed neu ragor, ffon tan ei law, pac bychan ar ei gefn. Cyfarchodd fi yn Saesneg, gan holi am y lle nesaf y cai'r traen. Hen filwr ydoedd, meddai, wedi bod ysbaid yn gweithio mewn gwaith mwyn yn y mynydd-dir. Clywsai am yr helynt. Cychwynnodd rhag ei flaen, cyn dyfod galwad, i chwilio am y traen a'i dygai at orchwyl oedd ar y pryd, efallai, yn edrych yn ddewisach iddo na'r gorchwyl a adawodd. Dywedais y newydd a ddarllenswn wrtho, rhennais fy nhybaco ag ef, cyfarwyddais ef i'r lle nesaf y cai draen. Cododd ei gap i mi ac ymlaen ag ef. Popeth a feddai mewn un pac bychan ar ei gefn, yn mynd ar ei gyfer cyn dyfod y gorchymyn. Sylweddolais fod dynion felly, a'u bod eisoes ar eu hynt i ymladd â rhai'r un ffunud â hwy nas gwelsant erioed ac nad oedd un cweryl rhyngddynt â'i gilydd.

Un hwyr, yr oedd gwasanaeth ymostyngiad, fel y gelwid, yn yr eglwys, oedd heb fod ymhell o'r lle yr arhoswn. Euthum yno. Yr oedd yr adeilad yn llawn. Darllenwyd gweddïau arbennig a drefnwyd at yr amcan, a drefnwyd yn weddus hefyd. Nid oedd ynddynt awgrym mai dyletswydd Duw oedd bod ar un ochr. Yr oedd y canu yn rhagorol, yn enwedig y canu salmau. Cawsom bregeth oedd, yr wyf yn sicr, yn gwbl onest, ond bod cyfnod neu ddau o wahaniaeth rhyngddi ag agwedd y gweddïau. Nid oedd Duw ynddi hi onid Duw tylwythol, Duw un gainc o drigolion yr ynys hon hefyd, ac ym ddengys mai ei ddial ef am droseddau politicaidd y cyfnod oedd y rhyfel. Nid oedd ar y bregeth gymaint ag ôl mudiadau a datblygiadau canrif yn syniadau'r eglwys ei hun am y byd a'r greadigaeth a pherthynas Duw a dynion. Yr oedd dysgeidiaeth y bregeth yn syml ac elfennol iawn, yn gwbl gyntefig, yn wir. Nid fel beirniadaeth na chondemniad yr wyf yn dywedyd hynny, ond fel ffaith seml, a ddengys mor anodd yw i unpeth onid greddf gyntefig lywodraethu dynion ar rai adegau. Nid ymddengys fod dysg na gwybodaeth yn cyfrif pan ddêl y dwymyn, na bod y pwyll a'r farn, yr ystyrir eu bod, yn gyffredin, yn anhepgor ym mhob agwedd ar fywyd gwareiddiedig, mwy yn gallu gweithredu. Syml ac elfennol iawn, yn sicr, oedd cymhelliad yr hen filwr a welswn yn cyrchu ar ei gyfer wrth alwad ias yr arswyd cyntefig sy'n diffrwytho pob cynneddf uwch a ddatblygodd dynion ym mylchau cymharol dawel eu hanes tymhestlog yng nghwrs yr oesau. Hynny oedd ystyr y bregeth, a thrist oedd gorfod teimlo mai ê, gan orfod amau a fydd hi byth amgen nag y bu. Sylweddolais fod dynion digon gonest hefyd yn synio am Dduw a dyn wrth rym y reddf gyntefig, a'u bod hwythau yn eu ffordd eu hunain eisoes yn ymladd â rhai tebyg iddynt ar yr ochr arall, rhai nas gwelsant erioed ac na allai fod un cweryl rhyngddynt fel dynion.

Fore drannoeth, dychwelwn wedi bod yn chwilio am bapur newydd. Ar y ffordd, cyfarfum â hen ŵr tal. Barf weddol laes ganddo, wedi britho'n drwm. Dillad go gyffredin am dano. Golwg braidd yn welw. Llygaid tawel, tirion, a dynnai sylw dyn. Cyfarchodd well i mi, a gofynnodd gwestiwn pawb y dyddiau hynny— beth oedd y newydd. Buom yn ymddiddan yn hir. Cymraeg â blas arno ganddo, a'r synnwyr cryf a geir gan wladwyr syml wedi treulio oes yn agos at natur. Wedi sôn cyffredinol am yr helynt, gofynnodd i mi pa beth oedd fy meddwl mewn gwirionedd am y cyffro. Dywedais mai fy nhuedd gref oedd credu nad oedd wahaniaeth rhyngddo a phob rhyfel a fu o'i flaen. Edrychodd. yn graff arnaf, yna gofynnodd:

"A pha beth meddech chwi am y lleill?"

Dywedais mai ffrae rhwng cnafon oedd pob rhyfel wrth farn y ffilosoffyddion pennaf y gwyddwn amdanynt.

"Y mae'n fwy na thebyg," meddai, "ond beth am y miloedd cyffredin?"

"Wel," meddwn, "ffyliaid y bydd ambell ffilosoffydd yn galw'r rheini, nid mewn ystyr ddrwg, efallai, ond galwn hwy'n ddynion di niwed. Ni wn i am ddim tebycach fel esboniad na bod y cnafon pan ffraeont yn gyrru'r diniwed i ymladd trostynt. Y mae dosbarth arall o ddynion, rhai heb fod yn ddi-fai, y mae'n debyg, ond a fydd yn rhywle tua'r canol, dywedwn. Bydd y rheini'n ceisio argyhoeddi'r lliaws mai ofer yw ymryson a dinistrio. Yn gyffredin, methu a wnant, ond ambell waith, cyfyd y lliaws mud yn erbyn y cnafon a'u trin dipyn yn erwin, a chaiff y dynion canol siawns i rai o'u cynghorion am ennyd. Ond cyn hir daw'r cnafon yn ôl, wedi ymolchi ac ymdrwsio, ac fel y buont y bydd pethau wedyn. Onid ydych yn meddwl mai rhyw chwarae felly yw hanes dynion fyth a hefyd, ac nad yw cynnydd ond dychymyg?"

"Nid annhebyg i hynny," meddai, "ond ni wn i ddim na ellir barnu yn rhy fuan. Hir yw pob ymaros ac araf fydd pob newid. Ni ddaw dim cyn ei dymor ac ni ddysgir ond trwy ddioddef. Er hynny, nid rhaid efallai ddioddef cymaint ag a ddioddefir, ac fe dyf pethau'n gynt o ddaear wedi'i thrin. Ysgrifennwch, fy machgen i, 'rych chwi yn ifanc."

Dywedais nad oeddwn fy hun yn meddwl y gwnawn lawer o les i neb, yn enwedig i mi fy hun, pe gwnaethwn hynny, a thebyg i mi, yn siomedigaeth y dyddiau hynny, sôn rhywbeth am oferedd pob breuddwyd am fuddugoliaeth doethineb a rheswm, ac am hyder anghymesur y dynion fyddai'n meddwl y gallai dim a sgrifennant fod yn unpeth amgen nag oferedd munud awr.

"Er hynny," meddai'r hen ŵr, "sgrifennwch. A fyddech chwi a minnau'n ymddiddan am bethau fel hyn yma heddiw oni bai am rai a sgrifennodd gynt? Litera scripta manet."

Aeth yr ymddiddan ymlaen. Pan ymadawsom, gwyddwn fy mod wedi gweled a siarad ag un o'm ffilosoffyddion gynt, gŵr a ddarllenai Roeg a Lladin, a dreuliodd ei oes yn dlawd, fel hwythau, onid am ei ddoethineb, na allai un ddamwain ei dwyn oddi arno. Carwn ped arhosai rai o'r llythrennau hynny, a dorrwyd yma wedi llawer blwyddyn, am eu bod yn cadw cyfran o ddoethineb hen ffilosoffydd y cyfarfuwyd ag ef orig ar hynt bywyd.


Nodiadau

golygu