Cymeriadau (T. Gwynn Jones)/Chwyldroadwr

Ffilosoffydd Cymeriadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Gwas


CHWILDROADWR


EISTEDDEM, dri ohonom, ar ochr yr heol, yn llawn lewych haul yr Aifft, bob un yn ddistaw ac yn ddwfn yn ei fyfyrdod ei hun. Pesychodd pob un ohonom bron ar unwaith.

"Schrecklich!" meddai'r canol o'r tri, a fygodd ei beswch gyntaf, "und Sie auch?"

Adnabuom y peswch a'r crygni yn ei lais, ac atebasom, a'r un grygni, mai felly yr oedd. Ysmaliodd yntau am y peth. Cydchwarddasom. Felly y bu dechrau'r gydnabyddiaeth.

Rwsiad, Almaenwr, a Chymro. Myfi yw'r unig un o'r tri sy bellach ar dir y byw. Ieuainc oeddym, neb ohonom dros bymtheg ar hugain. Cristnogion, o leiaf mewn enw, ond bod tras a hyfforddiant yn ein gosod ymhell ar wahân mewn llawer peth. Ond yr oedd i ni un anffortun gyffredin. Cyfarfyddem bron bob dydd wedyn. Ni byddem byth o ddifrif, ar air, o leiaf, megis pe na fynasem ddatguddio'r hyn oedd odditanodd.

Un tal a main oedd y Rwsiad—galwaf ef Vassili—ond lluniaidd a chymesur, ag iddo'r llygaid breuddwydiol dyfnaf a welais erioed. Canol faint oedd yr Almaenwr—galwer ef Albrecht—a thybiwn ei fod ef unwaith yn dew. Yr oedd breuddwyd hefyd yn ei lygaid gleision yntau, ond nid megis yn llygaid Vassili. Yr oedd y ddau'n ddynion o ddysg, a heb ddim rhodres.

Tyfodd ein cydnabyddiaeth drwy ryw hanner cellwair am ysbaid. Nid bod y naill yn amau'r llall. Byddem fel pe baem ar fin cyfeillgarwch nes, ond hefyd fel pe mynnem ei ohirio, yn hytrach na'i rwystro. Weithiau, digwyddai rhyw beth a fyddai megis yn cilagor y ddôr oddi mewn, ond rywfodd neu gilydd, dôi'r hanner cellwair yn ei ôl, bob amser yn rhywiog ei naws, ond nid yn anfynych yn beth y gallasai eraill dybio nad oedd ond anystyriaeth ag ynddi radd o ryfyg. Ond fe wyddem ni yr achos.

Un hwyr hyfryd yn y gwanwyn, a ninnau'n eistedd yn ddistaw yn y cyntedd, wedi blino heb yn wybod, ond odid, ar ein hymddiddan cyffredin, codwyd cwr y llen oddi ar y peth oedd y tu ôl i'n cellwair, am ryw eiliad. Yr oedd yr haul yn ymachlud yng ngogoniant lliw gwaed a fflam ac orain. Fry yr oedd glas dwfn ffurfafen y Dwyrain, yn feddal a di-gwmwl. Tua'r dwyrain arhosai adlewych rhosynnog, fel y gwrid ar rudd plentyn, a hwnnw'n araf wywo'n las dwfn yn ei dro. Tua'r gorllewin, troi'r anialwch yn ddu ac yn dduach, megis pe byddai fry gyson ysgwyd rhyw adanedd aruthr a bwrw i lawr eu cysgodion tywyll. Nid oedd afon Nil onid llain llwyd yn y gwyll, ac yr oedd pyramidiau Sakkarah a Ghizeh, a fuasai gynnau'n glir a llym mewn llif o ambr tawdd, bellach yn aruthr ac aneglur ym mhlygion y nos.

Buasem efallai hanner awr yn mud wylio miragl gymysg dydd a nos, y prydferthwch anhraethadwy hwnnw nas gwelir yn iawn onid mewn distawrwydd di-symud. Yn sydyn clywid gweddill llais bâs dwfn yn rholio allan beroriaeth geiriau Vergil:

Majoresque cadunt altis de montibus umbra.

Troesom at Vassili, heb ddywedyd gair, ac ail adroddes yntau'r llinell, yn araf a difrif. "Superbe!" meddai Albrecht, yn isel, "encore, une fois." (Ffrangeg fyddai cyfrwng rhwyddaf ein hymddiddan.) Ond distaw fu Vassili, a syllai ar y gymysgedd o goch a glas oedd fel pe'n ymwingo lle'r aethai'r haul i lawr. Yna, â llais dyfnach a chadarnach, adroddes linellau Catullus:

Soles occidere et redire possunt,
Et nobis cum semel occidit brevis lux,
Nox est perpetua una dormienda.

Tinc y gloch ginio. "Manger, toujours manger!" meddai Albrecht tan ei lais.

Torrwyd yr hud. Gwahanu mewn distawrwydd. Ond datguddiwyd rhywbeth heblaw prydferthwch nos y Dwyrain yn yr awr honno. Ni chellweiriem lawn cymaint wedyn. Dôi'r cydofid i'r golwg drwy'r ewyn ar yr wyneb. Ychydig ddyddiau wedyn, eisteddwn yn yr un man. Yr oedd hi yn dywyll. Buaswn fy hun yn gwylio gwyrth yr ymachlud, ac wedi cinio, daethwn allan i ddarllen wrth oleuni'r lamp drydan yn y cyntedd. Yr oedd awel yr hwyr o'r gogledd-orllewin wedi peidio, a'r dymheredd eto wedi tyneru. Miliynau o bwyntiau bychain o ruddaur yn brathu drwy las tawel y ffurfafen, gan ysgafnhau calon dyn ac yna ei llethu drachefn ag anobaith y peth nad oes gyrraedd arno. Ymnyddai rhyw darth gwyn tenau uwchben ac o amgylch y palmwydd gyda'r afon yn y pellter. O ryw gaban dros y ffordd, codai undon leddf gweddi rhyw Fahometan blin, gan nofio gyda sicrwydd ymddiried llwyr ar yr awyr feddal, ac ymgolli yn y chwalfa ddiderfyn, lle'r oedd Allah. Deffrowyd atseiniau El Mokkatam gan chwiban iad agerbeiriant, yn torri fel cri pechod ar fyd o ddiniweidrwydd a thangnefedd, ond a ddarfu mewn tawelwch oedd ddyfnach oblegid yr ysgrech. A darllenwn innau heb ddeall, a da fuasai gennyf fod yn Fahometan, ag iddo o leiaf un sicrwydd na allai dim ei ysgogi.

Disgynnodd dau gysgod ar y llain golau of flaen y cyntedd. Daethai fy nghymdeithion, a chynhesodd fy nghalon atynt. Eistedd yn ddistaw ennyd. Gorweddai'r llyfr y buaswn yn ei ddarllen yn agored ar fy nglin. "Le Temple Enseveli," gan Maeterlinck, ydoedd. Gafaelodd Albrecht ynddo, darllenodd ddalen neu ddwy yn ddistaw.

"Vraiment," meddai, a chan droi'r dalennau yn ôl, dechreuodd ddarllen ar osteg ddarn lle dywed yr awdur fod hyd yn oed droseddau dyn yn mynd allan o'i fywyd yr eiliad y teimlo ef na allai un demtasiwn nac un grym yn y byd beri iddo wneuthur eu tebyg eilwaith.

"Gwir, onid ê?" meddai, gan ddodi'r llyfr ar y bwrdd a throi ataf i.

"Ni wn i ddim," meddwn, "ond efallai ei fod yn iawn. O leiaf y mae'r gosodiad yn gysur ac yn gryfhad i'r natur orau."

"Ydyw," meddai yntau, "canys bydd dyn yn gwneud cynifer peth y bydd ganddo gywilydd o'i blegid wedyn, ac na allo byth ei ddadwneud."

"Na'i anghofio chwaith," meddwn.

Ni ddywedasai Vassili air. Gŵyrodd tuag atom, edrychodd arnom; a gofynnodd, braidd yn arw, mi dybiwn:

"Pa beth sydd gennych chwithau eich dau i'w anghofio?"

Distawrwydd. Ni wn i beth oedd ym meddwl Albrecht. Am danaf fy hun, ni allwn beidio â meddwl am f'atgofion cynnar am "Seiat" yng Nghymru, a theimlo nad mawr iawn y gwahaniaeth rhwng cyffesu a rhyw glafaidd fwynhau ymddarostyngiad. Eto, nid wyf yn amau nad oeddym yn ddigon gonest yn y peth a ddywedasem. Diau mai dyna feddwl Albrecht, canys dywedodd:

"O, llawer peth. Ni all un dyn gymeradwyo'i holl weithredoedd."

"Ond pa weithredoedd?" meddai Vassili.

"Nid gweithredoedd yn unig, efallai," meddwn innau, "ond agwedd a meddwl a geiriau hefyd."

Gwyliai Vassili ein hwynebau. Chwarddodd, rhyw chwerthiniad byr, cras, nid o ddifyrrwch na dirmyg.

"Manion!" meddai. "A wnaeth un ohonoch ryw gyflafan rywdro?" Yr oedd rhywbeth yn ei lais a yrrai iâs drwy ddyn, eto ni theimlwn i ddim atgasrwydd ato. Distaw fuom ein dau.

"Naddo," meddai, "nis gwnaethoch ac nis gwyddoch. Pe gwnaethech, a allech chwi byth anghofio? Na allech. Dywed Maeterlinck y gellwch anghofio, a maddau i chwi eich hun. Ond ni ellwch. Bydd a wneloch â rhywbeth oddi allan i chwi eich hun—Duw, Natur, Cyfiawnder, gelwch fel y mynnoch. Ni waeth i chwi heb. Nid eich meistr eich hun monoch."

"Ond," meddai Albrecht, "dywedyd y mae Maeterlinck, oni allech anghofio, y byddech yn abl i wneud yr un peth eilwaith, ond pe na allai dim yn y byd beri i chwi wneuthur y peth drachefn, yna na byddai gan y weithred ddim hawl i'ch condemnio mwy, y byddech yn feistr arnoch eich hun."

"Meistr!" llefai Vassili, "nid efô! Caeth, offeryn, dim yn y byd. Ond y mae meistr, ac ni ddihengir rhagddo. Pwy neu ba beth yw ef? Ni wn i. Ni wyr neb. Duw meddent. Boed. Ni allant ddywedyd mwy. Ond y mae ef yno. A ddarllensoch "Pelleas et Melisande?" Yr oedd Maeterlinck yn nes i'w le pan ysgrifennodd y chwarae hwnnw. Gofynnir ai moesol yw'r meistr anhysbys hwn. Ni wni. Ein tynged yw gwneud peth a'n cosbi o'i blegid."

"Onid yw'r gosb yn awgrymu moesoldeb?" meddwn.

"Dichon hynny," meddai Vassili; "onid yw'r gorfod yntau yn arwyddo anfoesoldeb?"

"Pe bai orfod," meddwn, "fe fyddai'n debyg eich bod yn eich lle. Ond a orfydd arnom wneuthur gweithred nas cymeradwyom?"

"Gorfydd, gan amgylchiadau," meddai Albrecht.

"Ond," meddai Vassili, "dywedasoch mai dyn yw ei feistr ei hun."

"Do," meddai Albrecht, "ond nis gŵyr ef bob amser. Pan wnêl ef beth na allo wedyn ei gymeradwyo, bydd yn ei gondemnio'i hun, yn dioddef, yn gwneud iawn, ac felly yn dyfod yn feistr arno'i hun."

"Perthyn iddo ddioddef," meddai Vassili, "ond nid eiddo na maddau iddo'i hun nac anghofio, ddim. Na. Nid oes brofiad i chwi'ch dau. Nis gwyddoch."

Tawodd yn sydyn, cyfododd, cerddodd dro neu ddau am y bwrdd, yna eisteddodd. Plyg odd ei ben yn isel. Syllodd arnom â difrifwch gresynus. "A ddigwyddodd i un ohonoch," meddai, fel pe buasai'n gwthio'r geiriau allan, "a ddigwyddodd i un ohonoch erioed ladd dyn?" Syllodd yn graff arnom, a ninnau'n fud, a mi, o leiaf, yn clywed eto yn fy nghlustiau gri ysgyfarnog a glwyfais ag ergyd drwstan, flynyddoedd lawer cynt, ac a griai yr un ffunud â phlentyn.

"Na," meddai ef, "nis gwnaethoch ac nis gwyddoch!"

Cyfododd yn sydyn a cherddodd ymaith. Ni soniasom byth am y peth wedyn, ond pa beth bynnag a fu, yr oedd yn hoff gennym y gŵr a'r wyneb agored a'r llygaid dwfn. Ar draws chwarter canrif, y mae'r olaf o'r tri yn cofio amdano â thynerwch a thosturi. Pwy a edwyn galon dyn? Barned ni, o'i dosturi, bawb ohonom.


Nodiadau

golygu