Cymeriadau (T. Gwynn Jones)/Gwas
← Chwyldroadwr | Cymeriadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
→ |
GWAS
"YR Hen Dolc." Dyna oedd yr enw a
roddem i gyd arno bob amser, a hynny am
na welodd neb ohonom erioed mono'n gwisgo
het na byddai ynddi ryw dolc arbennig. Bu'n
anodd gennyf ddeall fy hun gynt pa fodd y medrai
ef bob amser beri tolc a fyddai'n union yr un fath
ym mhob het a gaffai. Dyellais wedyn. Ni
phrynodd het newydd, yr wyf yn sicr, yn ystod
yr wyth mlynedd y bûm i'n byw yn yr un ardal
ag ef.
Mab i amaethwr cefnog ydoedd, a thrigai'r teulu yn un o ddyffrynnoedd ffrwythlonaf Gogledd Cymru. Un oedd ei dad o'r dosbarth hwnnw o ffermwyr Cymreig y ganrif ddiwethaf, a fyddai fel pe buasent wedi cadw nodweddion y ddeunawfed ganrif yn gyflawn, dyn mawr cadarn, bonheddig ei olwg, arafaidd ei leferydd, gosgeiddig ei symudiadau, anhraethol foneddigeiddiach ei olwg a'i lais a'i eiriau na'r ysgwieryn hanner gwaed oedd biau'r fferm lle'r oedd ef yn byw.
Dyn gwahanol iawn oedd ei fab, Yr Hen Dolc. Nid oedd yn hen iawn pan adwaenwn i ef, ond edrychai, ar ryw wedd, yn hŷn na'i dad. Dyn canol faint, tenau, megis pe na buasai ynddo ddim ond croen ac esgyrn, cyn galeted â'r dur o'i gorun i'w sawdl. Wyneb cul, a hwnnw fel pe buasai wedi gwystno, fel y gwelsoch ambell afal, onid oedd yn rhychau mân i gyd trosto. Barf lwyd-olau, denau, a fyddai erbyn tua diwedd yr wythnos fel col haidd ar ei gernau a'i ên, a thrawswch o'r un lliw, nad eilliai byth moni. Gwallt llwyd-olau, tenau, a gadwai yn wastad yn fyr. Dau lygad las, garedig, yn gloywi'n rhyfedd ambell waith, pan wenai ef. Cnoai dybaco nes bod ei ddannedd cryfion yn felynion. Pan wenai, gostyngai un cwr i'w wefl isaf fwy na'r cwr arall, a chaeai yntau un llygad y mymryn lleiaf, fel pe buasai ef am wneud llygad bach arnoch. Wrth yr olwg honno arno gallasech feddwl ei fod yn dipyn o walch, ac y deuai geiriau â min arnynt dros ei wefus, Ond os oeddynt yn ei feddwl, ni ddoent byth dros y wefus gam honno.
Cerddai â rhyw hanner plygiad yn ei gorff, y peth tebycaf a welsoch i osgo dyn â phladur yn ei ddwylo, yn camu ymlaen ar fedr torri arfod â hi, a phan âi'n gyflym-ni welais erioed mono, o ran hynny, yn mynd yn araf-ysgydwai ei freichiau o ochr i ochr, yn debyg iawn i osgo breichiau dyn a laddo wair â phladur. Mewn gwirionedd, mab y bladur oedd Yr Hen Dolc. Wrth ei weled byddwn i yn meddwl am bladur wedi troi'n ddyn. "Un garw amdani ydi'r Hen Dolc," meddai pawb, ac arferid dywedyd ddarfod iddo unwaith wrth ladd gwair, gan faint ei" erwindeb amdani," gamu ymlaen mor eiddgar nes mynd llafn y bladur rhwng gwadn ei esgid a bysedd ei droed. Nid wyf yn meddwl y gallai hynny fod yn wir llythrennol. Ond yr oedd yn ddigon gwir mewn ystyr arall. Busnes Yr Hen Dolc mewn bywyd oedd "bod wrthi," a'i eiriau mawr oedd gyrru 'mlaen," "gyrru arni," "dal ati."
Ni chawsai odid ddim addysg, er bod iddo chwaer a gawsai. O'i fachgendod, y mae'n debyg, dysgwyd ef i "yrru 'mlaen." Byddai sôn ei fod yn medru "dal yr arad" yn wyth oed, ac yr oedd yn "canlyn y wedd" yn ddeuddeg. Ei un gofid fyddai methu "gyrru arni." Pan fyddai'n dywydd gwlyb, cwynai nad oedd fodd "gyrru arni." Pan godai eraill yn y bore, byddai'r Hen Dolc eisoes yn "gyrru arni," ac wedi nos wylio pawb, byddai yntau fyth yn "gyrru arni." Torrodd ei law yn o ddrwg unwaith with "sbaena gwenith," ond daliodd i "yrru arni" drwy'r dydd, nes bod rhaid arno ymatal am beth amser wedi hynny tan law'r meddyg. Yn ystod yr amser hwnnw bu agos iddo dorri ei galon am na fedrai "yrru arni."
Ni fedrai na phrynu na gwerthu. Ni welwyd mono erioed mewn ffair na marchnad. Ei dad oedd y dyn at beth felly. Ped aethai'r Hen Dolc i'r ffair, "gwag symera" y galwasai ei dad hynny, ac yr oedd bob amser ddigon o waith "gyrru arni" adref i'r Hen Dolc.
Ai i'r capel ar y Sul, ond "gyrru arni" y byddai rhwng y cyfarfodydd y diwrnod hwnnw yr un fath. Ai i'r cyfarfodydd ar noson waith hefyd, bob amser ar frys gwyllt oherwydd methu "dwad i ben" a chychwyn mewn pryd. A gwelid ef yn prysuro ar hyd y ffordd, fel dyn â phladur yn ei ddwylo, ar ei hynt i'r capel, i wrando ar ei dad ac eraill yn sôn am y byd arall a drygioni hwn. Pa faint o ddifyrrwch neu o les a gaffai wrth hynny, ni wyddys, ond ni soniai'r Hen Dolc fyth air am un byd ond hwn, a'r rhaid oedd arno ef i "yrru 'mlaen" ynddo.
Bu farw ei dad a'i fam, priododd ei chwaer. Aeth y rhan fwyaf o'r eiddo, a gasglasai'r Hen Dolc ei hun drwy "yrru arni" mor gyson, i gadw'r chwaer a'i theulu ar eu traed rywsut. Ac am Yr Hen Dolc, bu raid iddo ef fynd i weithio am gyflog. Cyflog bychan iawn oedd hwnnw hefyd, rhyw chweugain yn yr wythnos a'i fwyd. Ond dyma'r cyflog cyntaf a enillodd Yr Hen Dolc -nage, y cyntaf a dalwyd iddo erioed. Paham nad aethai'n ffarmwr ei hun, meddai'r cymdogion wrth ei gilydd. Sut y gallasai? Ni wyddai ddim am brynu a gwerthu. "Gyrru arni" oedd ei orchwyl ef, ac aethai ffrwyth ei lafur i osod eraill ar eu traed.
Ni chwynodd Yr Hen Dolc ddim, hyd y gwybu neb. Aeth yn "was ffarm cyffredin," fel y dywedid, "gyrrodd arni" yr un ffunud tros arall am flynyddoedd, am chweugain yr wythnos a'i fwyd. Hyd y gwyddai neb, yr oedd "gyrru arni" yn gymaint o bleser iddo wedyn ag oedd cynt. Ac nid oedd ei feistr newydd fymryn tirionach wrtho nag a fuasai ei hen feistr, ei dad. Beth yn y byd oedd gymwys i'r Hen Dolc ond gyrru arni," a pha waeth dros bwy y gwnai hynny?
Collais olwg arno, am fod yn rhaid i minnau yn fy nhro ddechrau "gyrru arni" yn fy ffordd. Aeth blynyddoedd heibio. Un diwrnod, digwyddais fod yn yr hen ardal. Yr oeddynt yn claddu'r Hen Dolc y diwrnod hwnnw. Cefais innau weddill ei hanes, a thynnais fy het— het feddal a tholc ynddi hithau—ar lan ei fedd, druan gŵr.
Buasai farw ei frawd ynghyfraith, gan adael gweddw a thri neu bedwar o blant heb ddim ar eu cyfer. A chadwodd Yr Hen Dolc hwy tra medrodd, drwy ddal i "yrru arni" hyd y dydd olaf.
Diniwed, gonest, diwyd, hael, mud. Dyna'i fywyd. Aberth i syniadau cul, caled, am ddau fyd. Nid wyf yn meddwl iddo unwaith dybio bod dim o'i le ynddynt chwaith. A thristach fyth yw na feddyliodd ei dad hynny mwy nag yntau. Na'i ddosbarth. Na neb.
ARGRAFFWYD GAN
HUGHES A'I FAB
WRECSAM