Cymru Fu/300 o Ddiarhebion Cymreig
< Cymru Fu
← Priodas yn Nant Gwtheyrn | Cymru Fu 300 o Ddiarhebion Cymreig gan Isaac Foulkes 300 o Ddiarhebion Cymreig |
Robin Ddu Ddewin → |
300 O DDIAREBION CYMREIG.
- PECHODAU athrawon ydynt athrawon pechodau.
- A ddysger i fab ddydd Sul ef a'i gwybydd ddydd llun.
- Gwna dda ni waeth i bwy.
- Nid oes dŷ heb ei gyfrinach.
- Gwell myn'd i gysgu heb swper na deffro mewn dyled.
- Allwedd tlodi, seguryd.
- A hauo ddrain na fydded droed-noeth.
- Ni thỳr dyrnod gwrach yr un asgwrn.
- Ni chêl grudd gystudd calon.
- Y groes waethaf yw bod heb yr un.
- Ar ni phortho gath porthed lygod.
- A wnel Duw a farn dyn.
- A wnel dyn Duw a'i barn.
- A wnel dwyll a dwyllir.
- Nid twyll twyllo twyllwr.
- Balchder heb droed (h.y. heb foddion i'w borthi.)
- Po tynaf bo'r llinyn cyntaf oll y tỳr.
- Breuddwyd gwrach yn ol ei hewyllys.
- Cadarnach yr edef yn gyfrodedd nag yn ungor.
- Cyfaill blaidd bugail diog.
- Cyn fynyched yn y farchnad, croen yr oen a chroen y ddafad.
- Cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd.
- Câr cywir, mewn ing ei gwelir.
- Asgre lân diogel ei pherchen.
- Dadleu mawr yn nghylch cynffon llygoden.
- Deuparth gwaith yw ei ddechreu.
- Digrif gan bob aderyn ei lais ei hun.
- Dyled ar bawb ei addewid.
- Duw a ran yr anwyd fel y rhan y dillad.
- Da gan y gath bysgod, eithr nid da ganddi wlychu ei throed.
- Ewyn dwfr ydyw addewid mab.
- Aelwyd ddiffydd, aelwyd ddiffaeth.
- Daw hindda -wedi dryghin.
- Goganu'r bwyd a'i fwyta.
- Goreu canwyll pwyll i ddyn.
- Goreu meddyg, meddyg enaid.
- Gwae a gâr ac nis cerir.
- Gwae a gaffo ddrygair yn ieuanc.
- Gwae y dyn a wnel gant yn drist.
- Gwae'r anifail nid edwyn ei berchen.
- Gwell cariad y ci na'i gâs.
- Gwell bodd pawb na'i anfodd.
- Y ci a gysgo a newyna, y ci a gerddo a geiff.
- Gwell Duw yn gâr na holl lu daear.
- Gwell hir weddwdod na drwg briod.
- Gwell marw na hir nychdod.
- Gwell pwyll nag aur.
- Gwell synwyr na chyfoeth.
- Gwell un hwde na dau addaw.
- Gwell y wialen a blygo na'r hon a doro.
- Gwerthu mêl i brynu peth melus.
- O bob cwr i'r awyr y chwyth y gwynt y daw y gwlaw.
- Oed y dyn ni chanlyn y da.
- O flewyn i flewyn yr â'r pen yn foel.
- O lymaid i lymaid y derfydd y cawl.
- Po mwya'r brys mwya'r rhwystr.
- O gywirdeb ei galon y llefara'r gwirion.
- Oni byddi gryf bydd gyfrwys.
- O Sul i Sul yr â'r forwyn yn wrach.
- Oni heuir ni fedir.
- Hir yr erys Duw cyn taro, ond llwyr y dial pan y delo
- Pawb drosto ei hun a Duw tros bawb.
- Pob cadarn gwan ddiwedd.
- Po mwyaf y llanw mwyaf y trai.
- Ni thycia ffoi rhag angau.
- Rhaid cropian cyn cerdded.
- Rhy lawn a gyll.
- Rhy uchel a syrth.
- Tafl â'th unllaw, casgl â'th ddwylaw.
- Trech anian na dysg.
- Trech gwlad nag arglwydd.
- Trydydd troed i hen ei ffon.
- Y cynta' i'r felin geiff falu gynta',
- Cyntaf ei ôg cyntaf ei gryman.
- Y gath a fedd groen da a flingir.
- Yn mhob gwlad y megir glew.
- Yn mhob rhith y daw angau.
- Wrth geisio y blewyn glas y boddodd y gaseg.
- Y neb a fo a march ganddo a geiff farch yn menthyg
- Yn y croen y genir y blaidd y bydd efe marw.
- Hysbys y dengys y dyn o ba radd y bo'i wreiddyn.
- Yr aderyn a enir yn uffern, yn uffern y myn drigo.
- Hawdd cyneu tân ar hen aelwyd.
- Hawdd yw digio dig.
- Hawdd peri i foneddig sorri.
- Haws dywedyd mynydd na myn'd trosto.
- Heb Dduw, heb ddim.
- Duw, a digon.
- Lle caffo Cymro y cais.
- Nid da rhy o ddim.
- Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog.
- Nid yn y bore y mae canmol diwrnod teg.
- Ni fu Arthur ond tra fu.
- Nid oes allt heb oriwaered,
- Y maen a dreigla ni fwsogla.
- Ni châr buwch hesp, lo.
- Ni cheir afal sur ar bren pêr.
- Ni cheir da o hir gysgu.
- Ni cheir gan lwynog ond ei groen.
- Gwell câr yn y llys nag aur ar fys.
- Gwae a ymddiriedo i estron.
- Gwaethaf celwydd celu rhin.
- Nac addef dy rin i was.
- Goreu cynydd, cadw moes.
- Hir y cnoir tamaid chwerw.
- Wrth anmhwyll pwyll sydd oreu.
- Ni bydd cyttun hûn a haint.
- Gwae'r wraig a gaffo ddrygwr
- Gwae'r gŵr a gaffo ddrygwraig.
- Edifeirwch y gŵr a laddes ei filgi.
- Hwyr hen a hawdd ei orddiwes.
- Ni bydd doeth yn hir mewn llid.
- Yn mhob dirgelwch Duw a fydd.
- A fyno Duw a fydd.
- Gwaethaf anaf yw drygfoes.
- Pe traethai'r tafod a wypai, ni byddai'n gymydogol neb rhai.
- Diwedd lleidr cael gwarth.
- Duw a phob daioni.
- Och! rhag gelyniaeth brodyr.
- Celfydd, celed ei arfaeth.
- Nis gwyr dyn beth yw ei ddamwain.
- Pwy wyr ddamwain mab wrth feithrin?
- O bob crefft a phob campau, gweddio Duw sydd oreu.
- Gwell goddef cam na'i wneuthur.
- Nid da gwylder mewn eisiau.
- Anaml elw heb antur.
- Nid oes gŵyl rhag rhoi elusen.
- Gwell yw crothell bach mewn llaw, na gleisiad a fo'n nofiaw.
- Hardd ar ferch bod yn ddystaw.
- Hardd ar fab ymgellweirio.
- Clydwr dafad yw ei chnu.
- Gwynfyd herwr yw hirnos.
- Adar o'r unlliw a hedant i'r unlle.
- A Duw nid da ymdaraw.
- A ddyco ŵy a ddug a fo mwy.
- Da rhoes Duw'n ddiamheu, gorn byr i'r fuwch a'i hwyliai.
- Dysgu'r doeth â gair, dysgu'r ffol â gwiail.
- Hir pob aros.
- Na phryn gath mewn cŵd.
- Ni thawdd dyled wrth ei ohirio.
- Ni thores Arthur nawdd gwraig (ei thafod).
- Ni thynaf ddraen o droed arall, a'i rhoddi yn fy nhroed fy hun.
- Ni wich ci er ei daro âg asgwm.
- Ni wna'r llygoden ei nhyth yn llosgwrn y gath. *Ni wyddis werth y ffynon hyd onid elo'n hesp.
- Namyn Duw nid oes dewin.
- Nes penelin na garddwrn.
- Ni bydd dialwr diofn.
- Ni ddaw drwg i un na ddaw da i arall.
- Nid all neb ochel tynged.
- Yr hwn ni lafuria ac ni weddia, nid teilwng iddo'i fara.
- Ni lwydd eiddo anonest.
- Ni thyfa egin mewn marchnad.
- Gwyn y gwêl y frân ei chyw, er fod ei liw yn loywddu.
- Nid hawdd chwythu tân a blawd yn y genau.
- Nid oes ar uffern ond eisiau ei threfnu.
- Ni raid cloch wrth wddf ynfyd.
- Y cyfoeth goreu yw iechyd.
- Glanaf o bawb y pysg.
- Ochenaid Gwyddno Garanhir pan droes y dôn ei dir.
- Gwaith byrbwyll nid gwaith ystyrbwyll.
- Y felin a fâl a fỳn ddwfr.
- Y naill wenwyn a ladd y llall.
- Nid ar redeg y mae aredig.
- Hwy pery llid na galar.
- Hawdd clwyfo claf.
- Hen bechod a wna gywilydd newydd.
- Hiraeth am angau ni weryd.
- Adwyog cae anhwsmon.
- Addas i bawb ei gydradd.
- Addaw teg a wna ynfyd yn llawen.
- A ddwg angau nid adfer.
- A êl i chware' gadawed ei groen adre'.
- Aelwyd a gymhell.
- Po agosaf i'r eglwys, pellaf o Baradwys.
- Y goreu mewn rhyfel fydd ddyogelaf mewn heddwch.
- A fydd ddigywilydd a fydd ddigolled.
- Trechaf treisied, gwanaf gwaedded.
- A fyno glod bid farw.
- Gair Duw yn uchaf.
- A gyniler a geir wrth raid.
- Allan o olwg, allan o feddwl.
- Aml bai lle ni charer.
- Amlwg gwaed ar farch gwelw.
- Amlwg cariad a châs.
- Angel penffordd a diawl pen pentan.
- A ogano a ogenir.
- Arwydd ddrwg mwg mewn diffaethwch.
- Annoeth llithrig ei dafod.
- Boed lyfn dy weddïau, boed rydlyd dy arfau.
- Po amlaf fo'r bleiddiau, gwaethaf fydd i'r defaid.
- Can' câr fydd i'r dyn a chan' ŷch.
- Nid dyddan gwrando caswir.
- Câs gŵr ni charo'r wlad a'i macco.
- Bibl i bawb o bobl y byd.
- Chwareu ac na friw, cellwair ac na chywilyddia.
- Chwerthin a wna ynfyd wrth foddi.
- Dangos nef i bechadur.
- Da yw'r maen gyda'r Efengyl.
- Deuparth ffordd ei gwybod.
- Dibech fywyd gwyn ei fyd.
- Drwg y ceidw diafol ei was.
- Edifar cybydd am draul.
- Nid oes dim heb allu.
- Er heddwch, nac er rhyfel, gwenynen farw ni chasgl fêl.
- Gadael ein nos waethaf yn olaf.
- Wedi rhodio gwlad a thre', teg edrych tuag adre'.
- Gwell aderyn mewn llaw na dau mewn llwyn.
- Gormod esmwythder sydd anhawdd ei drin.
- Gwell am y pared â dedwydd nag am y tân â diriaid.
- Gwell chwareu nag ymladd.
- Gwell dyn drwg o'i gospi.
- Gwell cysgu ar wellt nag ar y llawr.
- Gwell gwegil câr nag wyneb estron.
- Gwell gŵr o'i barchu.
- Gwell gwraig o'i chanmol.
- Gwell i ddyn y drwg a wyr na'r drwg nis gwyr.
- Gwell migwrn o ddyn na mynydd o wraig.
- Gwell nâg nag addaw ni wneir.
- Gwell-well hyd farf, gwaeth-waeth hyd farw.
- Gwerthu cig hwch, a phrynu cig moch.
- Diniwaid pawb yn ol ei chwedl ei hun.
- Gwna dda am ddrwg ac uffern ni'th ddwg.
- Hael Hywel ar bwrs y wlad.
- Hardd pob newydd.
- Hwy pery clod na golud.
- I'r pant y rhed y dwr.
- Lle ni bydd dysg ni bydd dawn.
- Fel y dyn felly ei anifail
- Mam ddiofal a wna merch ddiog.
- Melys bys pan losgo.
- Mwy nag un ci a'm cyfarthodd I.
- Cludo dwfr mewn gogr,
- Mynych y syrth mefl o gesail.
- Heb ei fai heb ei eni.
- Nid rhodd, rhodd, oni bydd o fodd.
- Myn'd i gysgu 'run pryd â'r fuwch, a chodi gyda'r hedydd.
- Ni wyr, ni ddysg; ni ddysg, ni wrendy.
- Nerth eryr yn ei ylfin.
- Nerth unicorn yn ei gorn.
- Nerth sarph yn ei cholyn.
- Nerth hwrdd yn ei ben.
- Nerth arth yn ei phalfau.
- Nerth ci yn ei ddant.
- Nerth tarw yn ei ddwyfron.
- Nerth ysguthan yn ei hadenydd.
- Nerth gwraig yn ei thafod.
- Ni ddaw henaint ei hunan.
- O flewyn i flewyn yr â'r pen yn wyn.
- O ddau ddrwg dewis y lleiaf.
- Paham y llyf ci y maen? am nas gall ei gnoi.
- Po cyfyngaf gan ddyn, eangaf fydd gan Dduw.
- Pob diareb gwir, pob coel celwydd.
- Ei le i bob peth a phob peth. yn ei le.
- Po dyfnaf y môr, dyogelaf fydd i'r llong.
- Pryn hen pryn eilwaith.
- Rhoi'r càr o flaen y ceffyl.
- Rhoi'r dorth a gofyn y dafell.
- Trech gwan arglwydd na chadarn was.
- Tyf y baban ac ni thyf ei ddillad.
- Uchenaid gwrach ar ol eu huwd.
- Unllygeidiog -wna frenin yn ngwlad y deillion.
- Uwch pen na dwy ysgwydd.
- Gwyneb trist drwg a'i herys.
- Y ci y myner ei grogi dyweder ei fod yn lladd defaid.
- Un yn ceisio ei gaseg a'i gaseg dano.
- Y llaw a rydd a gynull.
- Yn mhob clefyd y mae perygl.
- Yr hoedl er cyhyd ei haros, & dderfydd yn ddydd ac yn nos.
- Yr oen yn dysgu i'r ddafad bori.
- Hwde i ti a moes i minau.
- Anghall fel dall a dwyllir.
- Angen a ddysg i hen redeg.
- Drwg yw drwg a gwaeth yw gwaethaf.
- Hir yw'r ffordd ni cherddwyd ond unwaith.
- Drych i bawb ei gymydog.
- Adwaenir y dyn wrth ei waith.
- Y mae gobaith o alltudiaeth, nid oes gobaith o fedci.
- Pob peth a ddaw trwy'r ddaear ond y marw mawr ei garchar.
- Gwell gochel ymryson na'i ddial.
- Gwell gwir na chelwydd.
- Gwell tewi na dywedyd drwg.
- Hawdd cymod lle bo cariad.
- Melys, moes mwy.
- Ceiniog a enillir ydyw'r geiniog a gynilir.
CAS BETHAU GWYR RHUFAIN:
- Brenin heb ddoethineb
- Marchog heb brofedigaeth.
- Arglwydd heb gynghor
- Gwraig heb feistroliaethwr
- Cyffredin heb gyfraith
- Gwasanaethwr heb ofn
- Tlawd balch
- Cyfoethog di-elusen
- Ustus heb gyfiawnder
- Esgob heb ddysg
- Henddyn heb ddwyfoldeb
- Ieuanc heb ostyngeiddrwydd
- Doeth heb weithredoedd da.
DIAREBION AMAETHYDDOL
- lonawr a dery i lawr.
- Chwefror chwyth ni chwyd neidr oddiar ei nyth.
- Mawrth a ladd.
- Ebrill a fling.
- Ebrill garw parchell marw.
- Haid wenyn os yn Mai ei cair,
A dalant lwyth wyth ŷch o wair. - Da haid Mehefin os da ei hoen,
Am haid Gorphenaf ni rown ffloen. - Os yn mis Chwefror y tyf y pawr (porfa),
Trwy'r flwyddyn wed'yn ni thyf e' fawr. - Os yn Mawrth y tyf y ddol,
Gwelir llawndra ar ei ol. - Mis Mai oer a wna'n ddi-nâg
'Scubor lawn a mynwent wâg. - Gwell gwel'd dodi mam ar elor
Na gwel'd hinon deg yn Ionor. - Haid o wenyn yn Ngorphenaf
Had rhedynen ei phris penaf. - Blwyddyn gneuog, blwyddyn leuog.
- Gwanwyn a gwawn, llogell yn llawn.
- Mai gwlybyrog gantho cair
Llwythi llawn o ŷd a gwair. - Haner Medi yn sych a wna
Seler lawn o gwrw da.