Cymru Fu/Robin Ddu Ddewin

300 o Ddiarhebion Cymreig Cymru Fu
Robin Ddu Ddewin
gan Isaac Foulkes

Robin Ddu Ddewin
Traeth yr Oerlefainn
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd (Robin Ddu Ddewin)
ar Wicipedia

ROBIN DDU DDEWIN.

Ni wyddis ond y nesaf peth i ddim am y bod rhyfedd hwn heblaw yr hyn a drosglwyddir i ni gan draddodiad a llafar gwlad. Sonir am dano tan yr amrywiol enwau R. Ddu Ddewin, Robin Ddu o Arfon, a Robin Ddu Hiraddug, a chamgymerir ef weithiau am Robin Ddu o Fon, bardd lled alluog a flodeuai yn y pumthegfed ganrif. Tua haner canrif yn ol, gallesid gweled hen adfail ar ochr Arfon i'r afon Menai a elwid y Tŷ Ceryg, neu Furddun Tŷ Robin .Ddu. Y mae hefyd luaws o chwedlau am dano yn dwyn cysylltiad â'r Faynol a'r Bryn Tirion, palasau ar gyffiniau y Fenai; ac oddiwrth hyn gellir casglu iddo dreulio rhyw .ysbaid o'i oes yn y parthau hyny; er ei fod yn frawd i Dafydd Ddu Hiraddug, ac yn enedigol o ry wle tua Hiraddug — moel uchel gerllaw y Rhyl yn perthyn i res-fynyddau Clwyd. Math o glerfardd hir ei ben ydoedd, yn enill ei fywiolaeth wrth ddewinio, brudio, a rhigymu barddoniaeth. Y mae'n ddiau ei fod yn gyfrwys tros ben; canys er fod rhai o'i ddaroganau heb eu cyflawni, y mae eraill, o honynt wedi "dwad fel yr oedd o yn deyd" i'r llythyren. Y mae yn ddiddadl hefyd fod y wlad wedi tadogi llawer gwrhydri iddo nad oedd y cysylltiad lleiaf rhyngddo âg ef. Pa fodd bynag, nid oes genym ni ond adrodd a glywsom am dano gan hen bobl ddifyr yn nghilfachau mynyddau" Gwyllt Walia. "

ROBIN DDU FEL DAROGANWR.

Un tro yn mherfedd nos yr oedd efe ar daith rhwng Capel Curig a Llanrwst, a phan yn dyfod i lawr Nant Bwlch yr Heyrn, goddiweddodd hen amaethwr o Ddolyddelen, yn myn'd i farchnad Llanrwst. Yr oedd yr hen ffermwr hwn yn meddwl ei bod yn tynu at" lasiad dydd," pan mewn gwirionedd nad oedd ond tri o'r gloch y bore gefn y gauaf; nid oedd clociau gan neb y pryd hwnw — cloc yr hall Llanrwst oedd yr unig awrlais yn Nyffryn Conwy. Pa fodd bynag, aeth yn ymgom rhwng Robin a'r gwladwr, ac yn yr ymgom hono dywedai ein harwr, wrth son am y naill beth a'r llall, "Wyddost ti beth? pan dyf bedwen ar dalcen tŷ y Gwydr Isaf yn gyfuwch a chorn y simddai, bydd y Gwydr Isaf yn llyn dwfr a'r Gwydr Uchaf yn gorlan defaid." Rhyfeddai ac amheuai ei gydymaith y fath ddywediad. "Y mae cyn wired," ebai yntai, "ag y tery cloc Llanrwst dri o'r gloch pan gyrhaeddwn y farchnad." Cyn wired a bod dwr yn Nghonwy, dyma'r cloc yn taro tri mor fuan ag y daeth y ddau i'r farchnadle; er fod y gŵr o Ddolyddelen yn disgwyl yn siwr mai saith neu wyth fuasai yn daro. Rhyfeddach fyth; y mae bedwen iachus yn tyfu oddiar dalcen y Gwydr Isaf, a thuag ugain mlynedd yn ol, yr oedd y pren wedi dringo mor agos i linell derfyn y darogan, nes y tybiwyd yn ddoeth godi y simddai ddwy neu dair llath yn uwch, er mwyn gohirio y trychineb. Felly nid yw Gwydr Isaf yn llyn dwr na'r Gwydr Uchaf yn gorlan defaid, eto; hyd oni thyf y fedwen yn gyfuwch a chorn y simddai.

Gyda'r un rhagwybodaeth cyfrin y daroganodd efe hefyd y canlynol:

Codais, ymolchais yn Môn,
Boreubryd yn Nghaerlleon,
Canolbryd yn y Ŵerddon,
A'r prydnawn wrth dân mawn yn Môn.

Gydag agoriad rheilffordd Caer a Chaergybi gall dyn fod yn bersonol yn y manau uchod, fel y bu Robin Ddu yn ddychymygol.

Dyma Ddarogan arall o'i eiddo:

Dwy flynedd cyn aflonydd
Pont dos Fenai a fydd
.

Agorwyd y Suspension tros Fenai yn y flwyddyn 1826; a'r Britannia yn 1849; ond ni wyddis fod agoriad yr un o'r ddwy yn rhagflaenu unrhyw aflonyddwch annghyffredin. Ond gwyddai yr hen ddewin cyfrwysgall yn dda mai byd aflonydd ydyw hwn, a pha bryd bynag'y cyflawnid y fath orchestwaith, y dilynid hyny gan ryw aflonyddwch neu gilydd. Er hyny, y mae y peth rhyfeddaf o'r cwbl yn aros yn ddirgelwch, sef pa fodd y daeth i galon dyn yn yr Oesoedd Tywyll hyny y codid y fath "Uchelgaer uwch y weilgi," tros grigylloedd enbydus Porthaethwy.

Y Bala aeth, a'r Bala eiff;
A Rhuthyn yn dref harbwr.

Yn nglyn â'r llinellau hyn clywsom y traddodiad hefyd fod y Bala unwaith yn orchuddiedig gan ddwfr; ac hefyd i'r dref gael ei diluwio amryw weithiau pan fyddai gwynt nerthol yn chwythu ar y llyn. Ond y mae pob lle i gredu na chyflawnir y brophwydoliaeth hon byth, oni sudda y dref gryn lawer, neu y dysg dwr fel "balch angenus" fyw uwchlaw ei lefel. Y mae tuag ugain milldir rhwng tref Rhuthyn a bod yn" dref harbwr," ac yn ol pob golwg nid ydyw yn debyg o gael ymweliad gan Dafydd Jones yn oes neb sydd yn fyw yn bresenol. Hwyrach, er hyny, mai "Mi ddown, pan ddown," a fydd hi gyda Dafydd rywbryd eto.

Chwedlau oddiar Lafar Gwlad am dano.

"Gosodir ef allan," ebai Cynddelw, "fel brawd i Dafydd Ddu Hiraddug, ac adroddir y chwedl hon am danynt: Yr oedd Robin wedi penderfynu lladd pwy bynag a ddygai y newydd iddo fod ei fam wedi marw. O'r diwedd, bu farw yr hen wreigan; ond ni anturiai neb â'r newydd i Robin. 'Myfì a fynegaf iddo,' ebai Dafydd ei frawd. Yna Dafydd a gymerth ei ddameg ac a ddy wedodd wrth Robin, 'Syrthiodd y gangen â'n dygodd ni'n dau. 'Fu farw fy mam?' ebai Robin mewn cyff'ro. 'Tydi a ddywedodd y newydd gyntaf,' ebai Dafydd. Felly nid oedd gan Robin hawl i ladd neb yn ol ei fygythiad."

Ystyrid ef hefyd yn ddewin heb ei fath. Yr oedd ei enwogrwydd yn y gangen hon o'r gelfyddyd ddu wedi cyrhaedd hyd i'r Deheudir — i blith mawrion y tir yn gystal a'r werin bobl. Yr oedd gwraig rhyw foneddwr yn Nyffryn Teilo wedi colli tri gèm gwerthfawr iawn, na fynasai mor byd yn eu lle. Chwiliwyd am danynt yn mhob ystafell yn y palas, a holwyd yr holl forwynion a'r gweision yn eu cylch, heb y rhithyn lleiaf o obaith am eu. hadferiad. Ymgynghorwyd â dewiniaid a dewinesau yr holl ardaloedd oddiamgylch. ond yr un mor aflwyddianus. Yr oedd y foneddiges yn dihoeni o'u hachos, canys rhodd oeddynt iddi hi gan chwaer drengedig. Pa fodd bynag, daeth i feddwl y boneddwr am Robin Ddu, a thybiodd oddiwrth y son am dano, os byddai rhywun yn abl i'w cael, mai Robin oedd hwnw. Danfonwyd cenad ar farch ar frys gwyllt i Wynedd i ymofyn y Dewin; ac ufuddhaodd yntau i'r cais. Yr oedd i gael haner cant o bunau os llwyddai i dd'od o hyd i'r trysorau. Eithr wedi cyrhaedd yno ni ddechreuai ef ar y gwaith o gwbl, os na chai y tâl, llwyddianus neu beidio. Barnai y gŵr boneddig fod hyn yn ormod o arian i'w rhoi ar antur, a hysbysodd Robin y carasai wneud prawf o'i allu dewinol yn nghyntaf cyn talu. "Boddlon fi," ebai yntau; er nad oedd ganddo ond ffydd fach nad syrthio trwodd y buasai yn y prawf; "ond," meddai, "mi gefais fy ngludo yma yn rhad, ac nid peth bach ydyw hyny i glerfardd. "Felly yr hunan-fyfynai efe mewn un ystafell, tra yr oedd y boneddwr yn parotoi y prawf mewn ystafell arall. Y prawf a ddewiswyd oedd dodi Robin Goch dôf oedd yn y palas o tan gawgen ar y bwrdd, a pheri i Robin Ddu ddewinio beth oedd o tan y llestr. O'r diwedd, gwysiodd y boneddwr ef ato, a daeth yntau tan grafu ei lechwedd a gwneud golwg hurt, fel dallhuan yn breuddwydio. "Wel," ebai'r gwr boneddig," beth sydd o tan y gawgen yna, Robin?" Ond ni wyddai Robin tu yno i lidiart y mynydd beth i'w ddweyd na'i wneud. Tybiodd o'r diwedd mai y ffordd oreu fyddai iddo addef ei anwybodaeth. "Mae Robin wedi ei dual yr 'rwan," ebai ef. "Da iawn, wir; da iawn, wir," ebai'r boneddwr, sut y gwyddet ti, Robin, beth oedd islaw i'r gawg? Yr wy'n foddlon 'nawr i dalu'r aur." Ac nid oedd gan Robin yn yr oes hono ddigon o gydwybod i'w gwrthod; yn wir, ychydig fuasai yn eu gwrthod yn yr oes gydwybodol hon.

Pa fodd bynag, y peth nesaf i Robin ar ol derbyn yr arian oedd ei henill. I ddechreu, mynodd gael ystafell yn y palas at ei wasanaeth ei hun, a chael allwedd y cyfryw yn hollol tan ei awdurdod. Cafodd un yn rhwydd, ac yno yr aeth, ac yno y byddai yn ocheneidio ac yn darllen rhyw druth o hen lyfrau a ddygasai gydag ef tros yr holl dŷ, er mwyn argyhoeddi y bobl ei fod mewn cyfrinach bwysig â bodau annaearol o barth y lladrad. Ar brydiau deuai allan i'r gegiu, gan lygadu a chlustfeinio, holi a stilio, ar draws ac ar hyd, pawb yn nghylch y gemau. Yr oedd yn llwyr argyhoeddedig oddiwrth ffeithiau amgylchynol, mai rhai o bobl y tŷ oedd yn euog o'r lladrad, a chael allan y pechadur yn eu mysg oedd testyn ei graffder o hyny allan. Un diwrnod aeth i roi tro trwy yr ardal, ac un o'r gweision gydag ef, er mwyn ei gyfarwyddo. Daethant ar ddamwain at fynwent lle yr oedd y torwr beddau wrth ei waith, a hwnw fel grave-digger Shakespeare, yn ddibris ddigon yn taflu esgyrn penglog i fynu o'i weithfa. Wrth edrych ar y gwrthddrych dynolwawdus hwn, tarawyd y dewin gan ddrychfeddwl o gynllun campus. Cododd y danedd a dododd hwynt yn un o'i logellau. Ni wyddai ei gydymaith ar y ddaear beth i'w feddwl o hyn; edrychodd gydag arswyd ar Robin o hyny allan. Wedi cyrhaedd adref aeth y gwas i'r gegin, a Robin i'w ystafell. Adroddodd y gwas hwn wrth ei gydwasanaethyddion pa fodd y bu'r tua'r fynwent; ac edrychent oll ar eu gilydd yn fudanod dychrynedig. Toc, daeth Robin hefyd i'r gegin, ac archodd mewn modd awdurdodol ar i bob enaid yn y lle ymgynull ger ei fron ef. A phawb a ddaethaut. Yna, gan edrych yn sobrddwys a chraff i'w gwynebau, ebai'r dewin, "Fechgyn a genethod, bydd yn noson erchyll yma heno; yr wyf am alw tair lleng at fy ngwasanaeth, y rhai a ddygant gorwynt yn ei hadenydd, ac a nithiant bawb a phobpeth yn y lle mor fân fel yr â gyda'r gwynt, er mwyn d'od o hyd i'r gemau. Ond ni fynwn er dim i'r dieuog gael ei gospi gyda'r euog, am hyny yr wyf yn rhoddi i bob un ohonoch y papuryn hwn (yn estyn i bob un bapuryn yn cynwys un o'r danedd crybwylledig), a'r sawl sydd ddieuog ni chospir mohono; eithr y sawl sydd euog, bydd yn ddigon mân erbyn y bore i fyned trwy ogr. "Yr oeddynt yn delwi ger bron y dewin rhag ofn i'r corwynt hwnw wneud rhyw gamsyniad. "Ond o ran hyny," ebai ef yn mhellach, "ni raid wrth gorwynt na pheth, ond i mi gael y gemau yn fy ystafell o hyn i haner nos; ac ni raid i un ohonoch ofni y bydd i mi achwyn; na, cadwaf y dirgelwch yn nghilfach ddyfnaf fy nghalon. "Yna efe a ddychwelodd i'r ystafell, gan bryderus ddisgwyl pa effaith a gai'r bygythiad llymdost hwnw arnynt. Pa fodd bynag, cyn pen haner awr dyma guro wrth y drws, a daeth un o'r morwynion i mewn tan grynu a dodi y gemau mewn llian o bali yn llaw y dewin." Cofiwch yr amod," ebai hi wrth fyned ymaith. "Ni raid i ti ofni yn nghylch hyny," ebai yntau. Bu agos iddo hollti ar ei draws gan chwerthin a llawenydd oherwydd ei lwyddiant. Yr oedd y fath lwyddiant tu hwnt i'w obeithion disgleiriaf. Ond nid oedd y boneddwr na'i foneddiges yn gwybod dim am yr ymdrafod hwn; ac yr oedd Robin yn penderfynu na byddai iddo dori ei air yn y gegin na datguddio yr euog. Felly yr oedd yn rhaid iddo drethu ei ymenydd drachefn am gynllun a fuasai yn eu dychwelyd i'w perchenog yn ddyogel a diammheuaeth, a fuasai hefyd yn celu y dull y daeth ef o hyd iddynt. ac ar yr un pryd, cynllun a fuasai yn adlewyrchu clod arno ef fel dewin. Ac yn yr olwg ar ei anhawsderau blaenorol nid oedd hwn ond anhawsder bychan. Cyn cysgu y nos hono yr oedd efe yn dyfeisio ei ddyfais. Cododd yn bur fore dranoeth, a gwelai haid o wyddai yn pori ar y maes tu cefn i'r palas; aeth tuag atynt, a'r gemau mewn darn bychan o fara ganddo. Sylwodd yn graff ar un ohonynt a thaflodd y darn bara gerllaw hono, a llyncwyd ef ganddi yn' uniongyrchol. Yna efe a ddychwelodd i'r tŷ, a chyfarfyddwyd ef wrth ddrws yr ystafell gan y boneddwr, yr hwn a ofynai iddo os cawsai efe rhyw awgrym am y gemau eto. Ebai'r dewin, " Deuwch allan gyda fi yn mhen ychydig fynydau, a dangosaf pa un o'ch adar sydd yn cadw eich trysor. "Felly fu; aeth y boneddwr ag yntau i'r maes, a dangosodd Robin iddo yr wydd lwyd. "lleddwch hon yna," ebai ef, "a chewch yn ei choluddion y tri gèm a gollasoch. "Rhyfeddodd y gŵr boneddig yn fawr at y fath ddywediad; ond yr oedd yn rhaid ufuddhau i'r gorchymyn. "Dyma nhw," ebai Robin, wedi lladd ac agor yr aderyn, "yn gyfan a dianaf. Dyna i chwi ddewin!" gan ymsythu a haner gredu ei fod yn rhywbeth uwchlaw dynion cyffredin mewn gwirionedd." Dyfod yn ddamweiniol yn. mhlith yr ysgubion o'r parlwr i'r domen a wnaethant, a'r wydd hon yn ei rhaib a'u llyncodd. "Wel, ni fu erioed y fath groesaw ag a gafodd ef: yr oedd y foneddiges yn barod i fyned ar ei gliniau i ddioich iddo; cafodd yr anrhydedd o ymborthi wrth yr un bwrdd gyda y boneddwr, a diwrnod neu ddau o hela yn ei gymdeithas; ac nid oedd neb yn fwy ei llawenydd na'r forwynig anonest yr arbedodd efe ei bywyd trwy gelu ei chamwedd.

Wedi aros yno am fis yn mhellach, i wledda ac ymddigoni, daeth i'w fryd ddychwelyd adref; a'r boneddwr llawen a wnaeth anrheg iddo ar ei gychwyniad o farch gwineu ysgafndroed llygadlym, ac ar gefn hwnw, a chanddo haner canpunt yn ei logell, y dychwelodd efe i Arfon.

Dyna'r dull a gymerai Robin Ddu i enill ei fara, ac argyhoeddi y werin ei fod yn ddewin, ac mewn cyfathrach â bodau annaearol.

Dyma chwedl y clywais fy nhaid yn ei hadrodd ganwaith gan droi y naill fawd o amgylch y llall: — Yr oedd Robin pan yn hoglanc yn cael ei damaid yn y Faynol, am y gorchwyl safnrwth o ddychryun brain. Ond yr oedd y gyneddf oruwchnaturiol yn dechreu blaen-darddu ynddo y pryd hwnw; ac un diwrnod yr oedd ffair yn Nghaernarfon, ac yntau yn llawn aspri ac awydd am fod ynddi, ond yr andros o honi ydoedd, nid âi'r brain yno gydag ef. Tra y byddai ef yn y ffair, yr oeddynt hwythau yn lled sicr o ddisgyn yn heidiau ar y maes gwenith. Pa fodd bynag, trwy rym ei gelwyddoneg, penderfynodd wneud o'r goreu â hwynt am yr amser. Cynullodd holl frain y fro yn un lleng ddu grawclyd i ysgubor y Faynol, a chlodd y drws arnynt, gan brysuro tua'r ffair a'r allwedd yn ei logell.

Dyna fel y byddai yr hen frawd yn trin y teulu duon — go hwylus, onide?

Ond y chwedlau mwyaf rhamanutus yn ei gylch ydynt y rhai hyny sydd yn son am yr ymdrafodaeth fu rhyngddo â'r diafol yn bersonol. Ymddengys fod Robin a'i gyfaill dieflig mewn math o gyngrair, tebyg i'r un a fodolai .rhwng Faust a Mephistopheles, yn ngwaith Goethe, y bardd Germanaidd rhagorol. Addefa pawb fod y diafol yn un lled graff yn ei fargeinion, ond oddiwrth y chwedlau canlynol gwelir fod Robin yn rhy dost iddo. Rywdro yn nghanol haf addawodd ei hunan iddo, gorph ac enaid, pan fyddai'r coed yn ddi-ddail; eithr pan ddaeth yr Hydref, a'r diafol yn galw am gyflawni yr adduned, ymesgusododd y cyfrwysgall Robin trwy ddywedyd, —

Yr eiddew, a'r celyn, a'r pren yw,
Ni chollant eu dail tra byddaut byw.

Yr oedd ar Robin eisiau myn'd i Lundain ar frys gwyllt i fod yn dyst mewn cynghaws cyfreithiol. Fel y dylai pawb wybod, yr oedd taith o Arfon i Lundain, bedwar can' mlynedd yn ol, mor bwysig ac yn cymeryd cymaint o amser a thaith o Lerpwl i Gaerefrog Newydd yn ein dyddiau ni. Ond nid oedd gan Robin, yn nghanol Gwynedd, ond ychydig oriau na byddai ei eisiau yn y Brifddinas. Trwy rym ei ddewiniaeth galwodd am wasanaeth ei gyfaill, ac ymddangosodd yntau ar ffurf march gwelwlas uchelwaed. Neidiodd y dewin ar gefn y march hwn, ac ymaith ag ef fel pluen ar aden corwynt uwchben nentydd a mynyddau, afonydd a threfydd, y rhai a lithrent heibio iddo fel ffug-olygfeydd mewn breuddwyd gwrach. Cyrhaeddodd ben ei daith yn mhen dwy- awr union i'r amser y cychwynodd. Buasai hyn yn curo pob trên yn deilchion.

Byddai Robin yn cael cymdeithas ei gyfaill yn rhodfeydd cyffredin bywyd; ac yn gwneud iddo trwy ei gyfrwysdra gyflawni llawer o fân orchwylion yn ei le, a a phob amser yn llwyddo i siomi a thwyllo yr archdwyllwr. yr oedd y Dewin un diwrnod ar ei daith i godi pytatws. "I b'le yr ei di?" ebai'r diafol. "I gynull cnwd y maes," oedd yr ateb." Roddi di yr haner i mi am dy helpio?" "Gwnaf," ebai Robin;" pa un fyni di ai'r hyn sydd allan o'r ddaear ai'r hyn sydd yn y ddaear?" "Yr hyn sydd allan o'r ddaear," ebai Apolyon gan dybied mai i fedi yr oeddynt eu dau yn myned. Felly cafodd Robin y pytatws a diafol y gwlydd. Drachefn, yr oedd Robin dro arall yn myned i fedi, a chymerodd geiriau cyffelyb le rhyngddynt, a'r diafol y tro hwnw a ddewisodd yr hyn oedd yn y ddaear, gan iddo gael ei siomi o'r blaen. A chafodd Robin frig y gwenith a'r diafol ei wraidd.

Gwarchod ni! onid allem lanw cyfrol drwchus a thraddodiadau anhygoel cyffelyb? Ar gefn Robin Ddu Ddewin y mae pobl y Gogledd yn rhoddi pob cast a hen chwedl ryfedd. Deallwn mai Sion Cent, bardd enwog yn ei ddydd, ydyw bwch diangol gwyr Gwent a Dyfed; a phriodolir ambell un o'r chwedlau hyn i'r naill a'r llall.

Un ysgub ramantus arall, a dyma ni yn troi pen ar ein mwdwl hwn o chwedlau yn nghylch Robin Ddu. — Efe a addawodd lawer tro y celai y diafol ef ar ol ei farw — pan ar ol dwyn ei gorph trwy ddrws ei fwthyn a thrwy y porth i'r fynwent; a chredai'r bôd ufferuol nad oedd modd iddo gael ei siomi yn hyn beth bynag. Pan fyrhaodd ei anadl, ac y gorweddai ar ei wely cystudd diweddaf. gwyliai y diafol yn ddyfal trosto, rhag iddo trwy ryw ddichell geisio ysgoi cyflawniad yr amod. Ond profodd Robin eto yn rhy dost iddo; yr oedd wedi rhoddi gorchymyn fisoedd yn ol i un o'r cymydogion yn mha fodd ac yn mha le yr oeddid i'w gladdu. Yr oeddynt i dori agen yn mur y bwthyn, a myned a'r arch allan trwy hwnw, er mwyn ysgoi y drws; a gochel porth y fynwent trwy ei gladdu tan wâl y fynwent — haner i mewn ynddi a haner allan o honi.

Felly, ni chafodd y diafol na phytatws, na gwenith, na chorph Robin Ddu; ac er cyfrwysed ydoedd, ac ydyw o ran hyny, efe a gyfarfyddodd â'i gyfrwysach yn mherson y Dewin dichellgar o Arfon. Nid oedd ganddo ond gadael y corph yn y fan yr oedd, a dychwelyd yn waglaw a siomedig i rhyw gŵr arall o'i ymherodraeth. Ac oddiar y traddodiad hwn y tarddodd y ddiareb, "Da fod gan y bwystfil a gornia gyrn byrion;g ac un arall, "Y ci a lyf y gareg am na fedr ei chnoi. "


Nodiadau

golygu