Cymru Fu/Cader Idris
← Taliesin Ben Beirdd | Cymru Fu Cader Idris gan Isaac Foulkes Cader Idris |
Y "Wlad" a "Syr Oracl" → |
CADER IDRIS.
PRIN y rhaid hysbysu mai mynydd uchel yn sir Feirionydd ydyw Cader Idris. Ar ei grib uchaf y mae toriad yn y graig ar ffurf cader, lle, yn ol traddodiad, y byddai Idris Gawr yn myfyrio seryddiaeth, ac yn olrhain dyrys ddeddfau ac ordinhadau y llu wybrenol. Gosodir y gŵr hwn allan yn y Trioedd, gyda Gwydion ab Don, a Gwyn ab Nudd, fel un o "dri gwyn Serenyddion ynys Prydain," gwybodaeth pa rai o ddeddfau natur oedd y fath fel y gallent ragfynegi yr hyn a ddygwyddai hyd ddydd Brawd. Pa un ai oherwydd fod iddo gorff anferth o faint, ynte oherwydd ei fawr wybodaeth a'i athrylith, y gelwid ef yn "Gawr," nis gwyddom. Dywed un hanesydd y byddai yr hen Gymry yn galw dynion gwybodus a dysgedig yn gewri; ac y mae yn arferiad genym hyd y dydd hwn alw ein pregethwyr dyfnion, a'n hysgrifenwyr galluog, a phobl y teitlau, yn ddynion mawr, er na byddant ond rhyw erthylod ysgeifn, llwydion, llathen a haner o daldra; a galw dynion dienaid ac anwybodus yn gorachod, er eu bod ddwy lath o hŷd yn nhraed eu hosanau. Mae yn ddiameu fod Idris yn gawr o'r dosbarth cyntaf, gan y sieryd hanesiaeth mor uchel am ei ddysg; a myn y wlad gredu ei fod yn gawraidd o gorph hefyd, a dygir engraifft nerthol iawn yn mlaen i brofì hyny: — Y mae tri o feini mawrion, pob un ohonynt yn amryw dunellau o bwysau, heb fod nepell o'r mynydd hwn, eilw pobl yr ardal yn "Dri Graienyn," am i Idris, pan ar un o'i deithiau, eu teimlo yn ei esgid, ac wedi ei thynu oddiam ei droed, efe a'u bwriodd yn y fan hono. Darnau anferth ydynt wedi syrthio o'r graig gerllaw. Yn eu hymyl y mae llyn o ddwfr a elwir, "Llyn y Tri Graienyn."
Oddeutu blwyddyn yn ol, ymddangosodd yr hanesyn
canlynol yn un o gyhoeddiadau goreu ein cymydogion; a
chan ei fod yn dal cysylltiad â thraddodiad poblogaidd am
y Gader, ac mor briodol i ansawdd y llyfr hwn, rhoddwn
efelychiad ohono yma: —
"Gerllaw godreu Cader Idris y safai palasdy bychan y
Talglyn a breswylid gan ddarn o ŵr boneddig o'r enw
Gruffydd, yr hwn oedd ŵr gweddw ar y pryd, a chanddo
ddau fab a thair o ferched. Yr oedd y merched hyn yn meddu cryn lawer o swynion personol, yn enwedig yr
ieuangaf, yr hon, er mwyn hwylusdod, a alwn yn Gwenlliw.
Anfynych y cyfarfyddodd cynifer o ragorolion yn
yr un person. Gwenlliw ydoedd canwyll llygad ei thâd,
gan mor debyg ydoedd i w diweddar fam, â'i brodyr a'i
chwiorydd a dybient nad oedd ei bath o fewn y byd. Nid
oedd yn debygol chwaith y diangasai y ddau lygad gleision
dysglaer hyny, a'r gwallt sidanog arianaidd, a'r ffurf
luniaidd, wisgi, ysgafndroed, rhag edmygwyr yn mysg
cenedl sydd mor hoff o lendid a thegwch gwedd.
Ond nid oedd Gwenlliw chwaith yn ddifai mwy na
rhyw dlws daearol arall; ac os gweddus adrodd ffaeledd
delw mor bur o brydferthwch, bai y wyryf hawddgar hon
oedd ei bod braidd yn rhy ëon a phenderfynol.
Un haf, daeth câr i'r teulu ar ymweliad â'r Talglyn o
Loegr, gŵr ieuanc o gyfreithiwr, a swynwyd ef gymaint
gan degwch Gwenlliw fel y syrthiodd i gariad i hi tros ei
ben. Trwy gydsyniad y rhieni o'r ddwy ochr, dyweddiwyd y
pâr ieuanc y pryd hwnw; eithr oherwydd ieuenctid
y wyryf, gohiriwyd y briodas am flwyddyn neu ddwy yn
mhellach. Dychwelodd Griffin (y boneddwr ieuanc) i
Loegr i efrydu a thrin y gyfraith, ac i weled blwyddyn
cyhyd ag oes un o'r tadau cynddiluwiaidd; ac er fod amser
fel pe wedi sefyll, daeth yr adeg hir ddysgwyliedig i
ben, ac ail gyfeiriodd yntau ei gamrau tua Chymru, i
syllu ar ardduniant ei golygfeydd digymhar, ond yn
benaf oll, i weled ei anwylyd, i gynwys pa un, yn ol ei
dyb orphwydlog ef, yr oedd Cymru wedi ei chreu, fel
blwch ardderchog i gynwys y diemwnt gwerthfawr. Nid
oedd absenoldeb o flwyddyn wedi oeri dim ar serch y naill
at y llall; eithr i'r gwrthwyneb, yr oedd yn fwy angerddol,
a phrofai yn ddiymwad fod eu dedwyddwch yn gorwedd
yn nghwmni eu gilydd. Daeth y gwr ieuanc yn fuan i
adnabod neillduolion cymeriadol ei gariadferch; a dyrchafodd
hyny ei syniadau am dani — ystyriai ei beiddgarwch
yn fath o rinwedd newydd yn ei nodweddiad. Treuliwyd
yr wythnos gyntaf o ymweliad Griffin mewn rhodiana
hyd fryniau a llechweddau yr ardal, a dawnsiai Gwenlliw
ar grib clogwyn ag na buasai gafr yn meiddio sangu arno;
hi chwareuai ar geulan rhuadr ag y buaesi llithiiad ei
throed bychan yn ei hyrddio ddegau o latheni i'r aig
trochionog islaw. Yr oedd gwaed ei chyfeillion yn rhedeg
yn oer wrth sylwi ar ei heondra; ond pe ceisiasent ei
darbwyllo o'r perygl, ni buasai hyny ond chwanegu ei
beiddgarwch.
Ar ol treulio diwrnod yn un o'r ymgyrchiadau hyn, yn yr hwyr cydeisteddai y cwmni oddeutu y tân, a thrôdd yr ŷmddyddan ar Draddodiadau Cymreig. Yn mhlith eraill, dygodd Gwenlliw y traddodiad am Gadair Idris gerbron, sef, fod i bwy byuag a dreuliai noson yn y Gader fod naill ai "yn wallgof, yn fardd, neu yn farw," erbyn tranoeth. Dywedai ddarfod i Taliesin a Merddyn fyned trwy y prawf llymdost, a dyfod i lawr o'r mynydd yn y bore yn feirdd godidog. Dygodd Gwenlliw hefyd gerbron hanes "Pen- defiges y Gader," yn y 13eg ganrif, yr hon a benderfynasai brofi gwiredd y traddodiad yn y gobaith o gael eneiniad corn olew yr awen. Ymdrechodd ei chyffesydd a'i chyfeillion ei pherswadio o annoethineb ei phenderfyniad; ond nid oedd dim yn tycio, yn unig hi esgynodd y mynydd ar y noson apwyntiedig, gan wynebu cynddaredd yr ystorm, ac aneirif ysbrydion y tywyllwch a ddawnsient yn yr oes hygoelus hono ar bob twmpath a bryn. Pan aed i ymofyn am dani bore dranoeth, cafwyd hi yn welw a marw, a'r gwynt dideimlad yn siglo torchau ei gwallt du sidanaidd yn erbyn ceryg llwydion y Gader; a'r difrifohleb argraffedig ar ei gwynebpryd tirion yn profi yn ddiymwad mor galed fu angau wrthi. Gwrthodwyd iddi gladdedigaeth Gristionogol yn meddrod y teulu, oherwydd ei hanufudd-dod i gynghorion ei hoffeiriad; ac o ganlynlad, ychydig o'i chyfeillion a'i pherthynasau galarus a'i claddasant hi yn ddistaw ac wylofus o dan domen o geryg ar lechwedd y mynydd.
Wedi adrodd y prudd-hanes uchod, cymerth Gwenlliw
ei thelyn, a chwareuodd arni un o'r hen alawon syml a
chynhyrfus Cymreig a wefreiddiant yr enaid, ac a barant
i Gymro annghofio ei ddyndod. Dylynai y fanon ieuanc
y delyn mewn llais lleddf a thyner, yn gyntaf galar geiriau gwladgarol
rhyw hen fardd Cymreig; ac wedyn mewn
dernyn coeth teimladol o waith y farddones ddiguro hono
Mrs. Hemans.
Yr oedd Gwenlliw wedi ei llyncu i fynu gan "Hanes
Pendefiges y Gader" — ystyriai hi yn siampl i fenywod y
byd, ac yn arwres deilwng i'w hefelychu. Ond nid felly
am y gweddill o'r cwmni; un a'i beiai am ei rhyfyg, y
llall a gondemniai ei hanufudd-dod i'w chynghorydd crefyddol,
ac arall a wawdiai ei hofergoeledd yn y fath dyb
wirionffol; ond Griffin, oherwydd hynodrwydd yr hanes, ac
yn unol âg arfer ei gydwladwyr call am bobpeth Cymrieg,
a wadai fodolaeth y Bendefiges o gwbl. Nid effeithiodd
gwrthwynebiad ei brodyr a'i chwiorydd ond ychydig ar dymer Gwenlliw; ond chwerwodd geiriau diystyrllyd
Griffn holl felysion ei henaid, a chan daflu golwg ddirmygus
arno, hi a'i hanerchodd — "Nid ydych yn gwybod
eto beth ydyw nerth penderfyniad merch; ond diamheu y
cewch wybod cyn hir;" ac er fod y geiriau yn cael eu llefaru
gyda phwyslais dwys, a gwefr yn neidio o lygaid y ferch
ieuanc wrth eu traethu, ni thybiodd neb o'r cwmni fod
ystyr pellach iddynt nag arddangosiad o deimlad brwdfrydig
ar y pryd. O hyny allan, ni addurnodd gwên
wyneb hawddgar Gwenlllw; hi ddrychai yn synedig, fel pe
buasai ei meddyliau wedi ymgladdu mewn rhyw gynlluniau pwysig.
Yna daeth adeg y " Nos da'wch," ac "Am y cynta' i
lawr yn y bore," ac mewn prudd-der dyeithr yr ymadawodd Gweulliw
am ei hystafell wely. Nid oedd meddwl
Griffin chwaith yn gwbl dawel oherwydd ei amryfusedd
yn gwadu un o hoff dybiau ei anwylyd. Y peth cyntaf a
dynodd ei sylw wedi cyrhaedd o hono i'w ystafell, ydoedd
chwiban cwynfanus y gwynt oddiallan; ac wedi codi llen
y ffenestr, efe a welai yr awyr yn llawn cymylau duon
mawrion bygythiol, a holl natur fel pe buasai yn y
weithred o ddarllaw rhyw ystorm ddychrynllyd. Tynodd
ei hunan yn ol mewn arswyd o ŵydd y fath olygfa
gyffrous, a diolchai mai yn ystafell wely gysurus y Talglyn
yr oedd i dreulio y noson, ac nid ar fôr, neu ar un o lethrau
digysgod y mynydd; ac, er i sŵn pruddaidd y gwynt ei
suo yn fuan i gysgu, yr oedd ei feddwl yn llawn bywiogrwydd,
yn crwydro o'r naill fangre i'r llall, a chrëu mil
myrdd o ddychymygion gwylltion a rhamantus. Ond y lle
yr ymsefydlai arno yn fwyaf neillduol oedd Cader Idris.
Breuddwydiai ei fod yn crwydro hŷd ei chopa yn mhlith y
ceryg mwsoglyd, gerllaw y gadair doredig yn y graig, a'r
aphwys dychrynllyd islaw iddo. Ac nid oedd y Gader yn
wâg. Eisteddai ynddi un o ymddaugosiad fenywaidd.
Efe a welai ei gwisg wen yn siglo trwy dywyllwch y nos;
a'i gwallt rhydd yn ymdoni o faen yr awelon, ac un llaw
iddi fel pe yn gorchuddio ei llygaid rhag rhyw olygfeydd
annymunol, tra yr ymgydiai y llall yn mraich yr orsedd.
Rhuai y taranau yn y clogwyni fel pe buasent yn eu
malurio yn deilchion, a fflachiai y mellt yn ffyrch fflamllyd
gan amgylchu pen y foel â thalaith o dân, ac wed'yn
disgynent yn îs, gan dailu eu gwawl brwmstanaidd ar y
druanes a eisteddai ei hunau yn nghanol cynddaredd yr
elfenau. Yna, ymdywalltai yr ystorm yn ei holl nerth
ar ben y mynydd — yn gesair hyrddiedig gan wynt, a'r ffurf welw yn y Gader gyfareddol a oddefai y cyfan.
Clywai y breuddwydiwr leisiau annaearol yn gymysgedig
â gruddfanau y corwynt, a gwelai glytiau mawrion
o ia yn llithro heibio yn nghanol lluwchfeydd gwlaw a
chenllusg; ac yn ngoleuni y fellten ddiweddaf, gwelai y
ddrychiolaeth yn tynu ei llaw oddiar ei llygaid, ac yn
datguddio gwynebpryd geneth ieuanc — gwyneb Gwenlliw!
— mor angeuol ei thremyn, mor llawn o drallod chwerw,
fel y deffrodd y breuddwydiwr yn grynedig, a dafnau
mawrion o chwys yn crogi ar ei ddwy ael. Bu yn myfyrio
am enyd beth allasai fod ystyr y weledigaeth ryfedd, ond
meistrolodd cwsg ef eilwaith; a deffrodd mewn bore braf
— yr awyr yn las, yr adar yn llawen ganu, a'r coed a'r
maesydd wedi adfywio ar ol y dymhestl. Aeth i lawr i'r
ystafell foreufwyd gyda chalon ysgafn, lle yr oedd Gruffydd
a'i ddau fab a'i ddwy ferch henaf, ac wedi cyfnewid moesgyfarchiadau,
gwelwyd fod Gwen yn absenol.
"Anfynych y mae hi yn olaf," ebe ei thad, "anfonwch
ei llawforwyn i'w hysbysu ein bod oll yn disgwyl am dani."
Daeth y forwynig yn ol, gan ddweyd fod drws ei
hystafell yn gloedig, ac iddi guro amryw weithiau, heb
gael un ateb.
Synasant at yr hysbysiad hwn; aethant oll i fynu ar
frys, yn cael eu blaenori gan y penteulu; yr hwn a alwodd
wrth ddrws yr ystafell, mewn llais crynedig, "Gwen!
Gwenlliw, fy anwylyd." Dim ateb. Torwyd y ddor, ac
yr oedd yr ystafell yn wâg, y ffenestr yn agored, a darn o
riban ar yr astelch oddiallan wedi ei fwydo a'i ddrygliwio
gan y gwlaw. Adwaenid ef fel eiddo Gwenlliw; a
chasglwyd oddiwrth hyn fod y ffoadures allan cyn i'r
ystorm ddechreu, ac i hwn syrthio oddiwrthi ar ei "hymdaith.
Yr oedd pob mynwes erbyn hyn yn faes ymryson
gwahanol opiniynau, a chrebwyll pob un o honynt ar
lawn waith; ymddangosai Gruffydd wedi ymgolli mewn
syndod, nid ynganai air am enyd wrth neb.
"Rhaid ei bod wedi myned cyn yr ystorm," ebai y ferch
henaf. "Neithiwr! yn yr ystorm!" ebai ei thad o'r
diwedd, "rhaid fod fy anwyl, anwyl eneth yn wallgof;
neu ai tric ydyw y cwbl? na, ni feddai hi galon allai
gellwair yn y dull yma."
Tra yr oedd y syfrdandod a'r penbleth hwn yn parhau,
ymsaethodd drychfeddwl ofnadwy trwy enaid Griffin gyda
nerth a chyflymdra un o'r mellt a welsai yn nghwsg —
ei freuddwyd — yr ymryson yn nghylch "Pendefiges y
Gader," a'r penderfyniad diysgoghwnw yn argraffedig ar ei hwynebpryd pan ymadawodd efe â hi y noson flaenorol.
"Mi wn i ynmh'le y mae hi," meddai, "ar y mynydd!
ar Gader Idris yn wallgof neu yn farw cyn hyn! a minau,
hurtyn, fu'r prif achos i'w hanfon yno!"
"Fy anwyl gyfaill ieuanc, y mae eich pryder yn peri i
chwi siarad yn ynfyd. Cader Idris! pa fodd y dichon
iddi fod yno ? Anmhosibl!" ebai y tad.
"Mae hi yno," atebai Griffin, ac argyhoeddiad dwfn
o wirionedd yr hyn a ddywedai yn glywedig yn ei lais.
"Hi soniodd neithiwr am fyned trwy y prawf llymidost o
dreulio noson yn y Gader; a minau yn cysgu tra yr oedd
hi yn marw yn y dymestl. Dilynwch fi yn ddioed; a
dygwch gyda chwi ryw gordial adfywiol, os nad yw o
drugaredd, yn rhy hwyr."
Llefarai gyda'r fath awdurdod fel y lladdodd bob gwrthwynebiad
yn y fan, a chyn pen pum' munud yr oeddynt
yn prysuro at odrau y mynydd. Efe a'u blaenorai hwŷnt
oll; yr oedd ei galon ar dân; a theimlai mor ysgafndroed
a'r ewig buan. i fynu hyd y ceryg rhyddion, heibio i'r
twmpathau eithin a'r llwyni grug, heibio i'r ffrydiau sidellog
a'r creigiau brawychus, ar hyd llwybrau geifr a mân
ddefaid y mynyddoedd, ac efe a safai gan ddyheu ychydig
latheni islaw y Gader. Sylweddolwyd ei freuddwyd.
Yno yn ei gwisg o fuslin a'i mantell fraith, wedi eu
llygru gan y gwlaw a'r pridd, yr eisteddai Gweulllw,
mor oer a'r Gader ei hunan. Ei gwallt hir didrefn
yn gorchuddio ei gwyneb prydferth; a'i dwylaw bychain
wedi eu tŷn blethu yn eu gilydd. Gwasgodd hi i'w
fynwes mewn dull haner gwallgofus, galwodd arni wrth ei
henw, gwahanodd y gwallt gwlyb oddiar ei hwyneb, a
gwelai yno yr un ddelw o drueni — yr un argraff o
gyfyngder ac arswyd ag a bortreadwyd iddo gan ei
ddychymyg mewn breuddwyd. Ond yr oedd ei thafod
hi yn rhy gaeth i ddyferu gair o gysur iddo yn ei adfyd,
y llygad gloew bywiog megys wedi sefyll gan hylldremu
ar bethau dychrynadwy, a'r galon oedd ddoe yn chwyddo
gan serch wedi oeri am byth. Claddwyd hi wedi machlud
haul tu cefn i eglwys y plwyf, — lle beddrod estroniaid,
a'r dosparth hwnw o ddynolryw a aberthant fywyd ar
allor drychfeddwl. Oherwydd amgylchiadau ei marwolaeth,
ni ddarllenwyd y Gwasanaeth Claddu. Yr ochenaid
yn unig a doiai ar ddystawrwydd y seremoni, hyd oni
ddiaugodd y geiriau hyn o enau y tad : — " Gwyn ei fyd
y pur o galon;" ac yr atebwyd ei ddymuniad gan
"Amen" pawb oedd yn bresenol. Teimlai Griffn ei
galon yn hollti yn ysgyrion, a phob peth anwyl ganddo
ar wyneb daear yn cael eu claddu gyda'i anwylyd.
Daeth yn ol o Gymru, byth i ddychwelyd mwy; a
seriwyd delw Cader Idris, a Gwenlliw brydferth farw
yn eistedd ynddi, ar lechres ei galon nad all amser a'i
amgylchiadau byth eu dileu.