Cymru Fu/Taliesin Ben Beirdd

Cantref y Gwaelod Cymru Fu
Taliesin Ben Beirdd
gan Isaac Foulkes

Taliesin Ben Beirdd
Cader Idris

TALIESIN BEN BEIRDD

NID oes yr un enw Cymreig mor adnabyddus i genedloedd estronol ag enw "Taliesin Ben Beirdd." Cyfenwid ef yn "Ben Beirdd" oblegyd ei fod yn mysg y beirdd hynaf a feddwn fel cenedl; ac ar lawer o ystyriaethau yn rhagori mewn awen a gwybodau ar ei gydoeswyr — Aneuryn, Merddin, a Llywarch Hen. Arddengys yn ei weithiau y fath gydnabyddiaeth eang â chyfrinion Barddas a Derwyddiaeth, nes ydynt yn gwbl annealladwy i'r nifer luosocaf o ddarllenwyr yr oes hon; ac y mae yr hanes canlynol yn perchen llawer o'r cyfyw deithi cyfriniol. Ni byddai ond rhyfyg ynom ni amcanu deongli y fath aralleg henafol, er y tybiwn ar brydiau ein bod yn gweled trwy ei niwl a'i thywyllwch. Gwnaed y darllenydd y goreu allo ohoni. Dywed y Celtic Davies mai dyma y tamaid goreu o hynafiaeth a fedd ein llenyddiaeth; ac y mae efe, trwy Dderwyddiaeth a ffugiaeth, yn gweled y cyfan o'r hanes mor oleu a chanol dydd. Yr argyhoeddiad ar ein meddwl egwan ni, pa fodd bynag, ar ol darllen ei waith dysgedig ar y pwnc ydoedd, ei fod yn gwneud tywyllwch yn dywyllwch eithaf.


HANES TALIESIN

Yr oedd boneddwr gynt yn Mhenllyn elwid Tegid Foel, etifeddiaeth yr hwn a safai yn nghanol Llyn Tegid. Enw ei wraig oedd Ceridwen; ac iddynt yr oedd mab elwid Morfran ab Tegid, a merch elwid Creirfyw, yr hon oedd y fenyw deca yn yr holl fyd; eithr brawd i'r ddau hyn, a elwid Afagddu, oedd y dyn hagraf yn yr holl fyd. A Cheridwen ei fam, yn tybied na chai efe dderbyniad yn mhlith boneddigion, oherwydd ei hagrwch, oni bae arno ryw gampau neu wybodau urddasol, a benderfynodd ferwi pair o awen a gwybodau i'w mab. Cyfarwyddid hi gan lyfrau Pheryllt, a chymerodd hyn le yn amser Arthur a'i ford gron.


Yr oedd y pair hwn i ferwi yn ddidor am un dydd a blwyddyn, ac hyd oni cheid ohono dri dyferyn bendigedig o rad yr Yspryd. Rhoddwyd gofal y pair ar ŵr o'r enw Gwion Bach, mab Gwreng o Lanfaircaereinion, yn Mhowys; a gŵr cibddall, o'r enw Morda, oedd i wylied dros y tân, ac i ofalu na phallai y berw am yr amser penodedig. Ceridwen hithau, wrth lyfrau Astronomyddion, ac wrth oriau y planedau, oedd yn llysieua beunydd yn y meusydd o bob amryfal lysiau rhinweddol. Fel yr oedd hi un diwrnod yn llysieua, yn mhen tua blwyddyn wedi i'r pair ddechreu berwi, damweiniodd neidio a disgyn ar fys Gwion Bach dri dyferyn rhinweddol o'r sudd berwedig, a chan mor boeth oeddent, Gwion a darawodd ei fys yn ei ben. Mor fuan ag y gwnaeth ef hyny, daeth i wybod pob peth, ac yn mysg pethau eraill fod iddo fawr berygl oddiwrth Ceridwen; ac mewn ofn a dychryn efe a ffoes tua'i wlad ei hun. Wedi ymadael o'r tri dyferyn rhinweddol, y pair a holltodd yn ei haner, a'i gynwysiad gwenwynig a lifodd i aber gerllaw; a meirch Gwyddno Garanhir, yn dygwydd yfed ohoni ar y pryd, a fuont feirw; ac o hyny allan y gelwir yr aber hono, "Gwenwyn meirch Gwyddno."


Pan ddychwelodd Ceridwen o lysieua, a chanfod ei llafur blwyddyn wedi myned yn ofer, hi a ymaflodd mewn pastynffon, ac a darawodd Morda gibddall yn ei ben âg ef, onid aeth un o'i lygaid ar ei rudd. "Paham ym hanffurfiaist? " ebai yntau, "ni bu dy golled o'm hachos i" "Gwir a ddywedaist," ebai Ceridwen, "Gwion bach a'm hysbeiliodd," a hi a brysurodd i ddilyn Gwion, yr hwn a'i canfyddodd hi yn dyfod o bell, ac a ymrithiodd yn rhith ysgafarnog, ac a redodd ymaith. Ceridwen a ymrithiodd yn Filast, ac a'i dilynodd at fin afon. Gwion a neidiodd i'r dwfr, ac a drawsffurfiodd ei hun yn bysgodyn; hithau a ymrithiodd yn Ddyfrast, gan ei ymlid mor galed dan y dwfr nes ei orfodi i droi yn aderyn. Eithr ni ddiangodd efe rhag dialedd ei erlynes yn y ffurf hono chwaith, canys Ceridwen a ymrithiodd yn Farcutan, gan ei ymlid yn galetach nag erioed; a phan ar ei orddiwes, ac yntau âg ofn angau arno, efe a ganfu dwr o wenith nithiedig ar lawr ysgubor. Disgynodd ar ei ben iddo, ac ymrithiodd yn un o'r gronynau. Yna ymrithiodd hithau yn iâr ddu gopog; daeth at y twr gwenith, canfyddodd ef ym mhlith y grawn, a hi a'i llyucodd. Dywed yr ystori iddi fod yn feichiog arno naw mis; a phan esgorodd, nis gallai hi gael ar ei chalon ei ladd, gan mor dlws ydoedd. Yna hi a'i gwniodd mewn cwrwgl (bol croen), ac a'i bwriodd i'r môr, at drugaredd y tonau, ar y 29ain o Ebrill.


Y pryd hwnw yr oedd cored (ffishing weir) Gwyddno Garanhir yn sefyll ar y traeth rhwng Dyfi ac Aberystwyth. gerllaw ei gastell ef ei hun; ac yn y gored hono y delid gwerth can punt o bysgod bob nos Calanmai. i'r Gwyddno hwn yr oedd mab a elwid Elphin, un o'r gwŷr ieuainc mwyaf anffortunus yn y byd, yr hyn a ofidiai ei dad yn fawr, gan y tybiai iddo gael ei eni ar awr ddrwg. Trwy anogaeth ei gynghoriaid, boddlonodd Gwyddno roddi iddo dyniad y gored y flwyddyn hono, i edrych a wenai ffawd rywbryd arno, ac er mwyn bod hyny yn gynysgaeth iddo ar gyfer bywyd.


Dranoeth pan ddaeth Elphin at y gored, nid oedd yno un pysgodyn; eithr efe a welai rywbeth wedi glynu ar bawl y gored, a beth ydoedd ond cwrwgl. Yna dywedodd un o'r coredwyr wrth Elphin, " Ni buost ti erioed mor anhapus a heno, canys ti ddinystriaist gymeriad y gored, yn yr hon y ceid gwerth can punt bob nos Calanmai." "Efallai, ar ol y cwbl, fod cyfwerth can punt yn y cwrwgl acw," ebai Elphin; ac efe a barodd i un o'r dynion fyned i'w geisio a'i agoryd. Wedi ei agor, beth oedd o'i fewn ond plentyn tlws odiaeth; a'r dyn a'i cyrchasai a lefodd mewn edmygedd, "Llyma Daliesin! " [gwyneb tlws — fair face]. "Taliesin bid ei enw," ebai Elphin, ac efe a neidiodd ar ei farch, i fyned tua chartref, ac a gymerth y plentyn wrth ei ysgil, yr hwn a farchogai mor ddiysgog a phe buasai yn y gadair esmwythaf. A'r pryd hwnw, yn ol yr Hanes. efe a gyfansoddodd gân o ddyhuddiant a moliant i'w achlesydd Elphin ab Gwyddno, a welir yn niwedd yr ysgrif hon.


Yn mhen ychydig amser wedi i'r bardd sychu y deigryn oddiar rudd ei noddwr, gofynes Gwyddno Garanhir iddo beth oedd efe, ai dyn ai yspryd. Atebodd Taliesin y gofyniad mewn cân, a dechreua trwy ddywedyd mai prif- fardd Elphin ydoedd, ac mai ei wlad gysefin ydoedd bro y cerubin; ac yna crwydra y greadigaeth gan ddyweyd iddo fod yn bobpeth bron, dyben yr hyn, mae yn ddiameu, ydoedd gosod allau yr athrawiaeth Dderwyddol o draws-sylweddiad. Drachefn dygodd Elphin ei gaffaeliad gydag ef i balas Gwydduo, a'r tywysog a ofynes i'w fab pa Iwyddiant a gawsai efe gyda'r gored. Atebodd Elphin iddo gael peth gwell na physgod. "Beth oedd?" ebai Gwyddno. "Bardd" ebai Elphin. "Och! druan, beth dâl hwnw i ti?" Yna Taliesin a atebodd, "Fe dâl hwnw iddo ef fwy nag a dalodd y gored erioed i ti." "A fedri di ddywedyd pa beth, a chyn fychaned wyt" ebai Gwyddno. "Medraf fi ddwedyd mwy nag a fedri di ofyn i mi," ac mewn cân arall, efe a fola yr elfen ddwfr; ac a ymhona hollwybodaeth— "canys gwn a fu ac a fydd rhagllaw;" ac ymddigrifa eto yn athrawiaeth traws- seylweddiad — " teirgwaith i'm ganed, &c."


Dyna Hanes Taliesin, fel ei ceir yn y Myfyrian Archaiology, gydag ychydig gyfnewidiadau, er mwyn y darllenydd cyffredin.

DYHUDDIANT ELPHIN.
TALIESIN A'I CANT.


Elphin deg, taw a'th wylo —
Na chabled neb yr eiddo —
Ni wna les it' ddrwg obeithio
Nid a wyl dyn a'i portho—
Ni bydd coeg gweddi Cynllo —
Ni thyr a'r addawo —
Ni chaed yn nghored Wyddno
Erioed cystal a heno.


Elphin deg:, sych dy ddeurudd—
Ni weryd bod yn rhybrudd;
Cyd-dybiaist na chefaist fudd—
Ni wna les gormod cystudd;
Na ameu wyrthiau Dofydd —
Cyd bwyf bychan, wyf gelfydd;
O foroedd ac o fynydd,
Ac eigion afonydd
Y daw Duw a da i ddedwydd.


Elphin, gyneddfau dyddan,
Anwraidd [1] yw dy amcan;
Nid rhaid it' ddirfawr gwynfan —
Gwell Duw na drwg ddarogan
C'yd b'wyf eiddil a bychan
Ar gorferw mor lydan,
Mi a wnaf yn nydd cyfran
It' well na thrichan' maran. [2]


Elphin, gyneddfau hynod,
Na sor ar dy gaffaelod —
Gyn b'wyf wan ar lawr fy nghod,
Mae rhinwedd ar fy nhafod:
Tra b'wyf fi i'th gyfragod,
Nid rhaid it' ddirfawr ofnod —
Ond coffa enwau'r Drindod,
Ni ddichon dim dy orfod.


Nodiadau

golygu
  1. Anfilwraidd
  2. Math o bysgodyn