Cymru Fu/Cantref y Gwaelod

Rhagdreth Cymru Fu
Cantref y Gwaelod
gan Isaac Foulkes

Cantref y Gwaelod
Taliesin Ben Beirdd

HANESION CYMREIG, &c.


CANTREF Y GWAELOD.


Cantref y Gwaelod oedd ddarn anferth o dir yn gorwedd ar yr ochr orllewinol i Gymru, a orlifwyd gan y môr, ac a orchuddir yn bresenol gan donau cythryblus Beisfor Aberteifi (Cardigan Bay). Cymerodd hyn le tua chanol y 5ed canrif. Tywysog y Cantref y pryd hwn oedd Gwyddno Garanhir, neu hirgoes, a elwid hefyd Dewrarth Wledig, mab i Gorfyniawn ab Dyfnwal hen, brenin Gwent ab Ednyfed, ab Macsen Wledig. Yn meddiant Gwyddno yr oedd un o dri thlws ar ddeg ynys Prydain, sef "Mwys [cawell] Gwyddno Garanhir, bwyd i ungwr a roid ynddi, a bwyd i ganwr a geid ynddi pen egorid." Math o rwyd pysgota ydoedd hwn, a'r abwyd roid ynddi yn abl i ddigoni ungwr, ac yn foddion i ddal cynifer o bysgod ag a ddigonai gant o wŷr. Yr oedd Gwyddno yn fardd hefyd fel y cawn brofi yn ol llaw.

Gweirglodd-dir cnydfawr oedd y Cantref, llawn o ffrwythgoed a blodau, canys ymddengys fod y trigolion ym bobl foethus, ac yn ymloddesta cryn lawer ar y gwin a'r medd, cynyrch eu gwinwydd a'u gwenyn eu hunain. Pa fodd bynag, perthynai iddo un anfantais bwysig, sef ei fod yn sefyll mor isel fel yr oedd yn angenrheidiol codi gwrthglawdd rhyngddo â'r môr, rhag ei orlifo. Yn y clawdd hwn, ar gegau yr afonydd, yr oedd dorau, y rhai a gauid ar ddystill llanw, ac a agorid ar ddystill trai, er mwyn i'r dwfr, oedd wedi croni a llynio, lifo allan. Swydd bwysig oedd gofalu dros y dorau hyn, oblegyd yr oedd bywyd yr holl Gantref yn crogl wrthi; ac ymddengys y byddai y tywysog yn chwilio am ŵr o sefyllfa led uchel, o ran cyfoeth ac urddas, i ymgymeryd â hi. Y drysawr yn amser Gwyddno ydoedd ŵr o'r enw Seithenyn ab Seithyn Seidi tywysog Dyfed. Pa beth bynag ellir ddywedyd am waedoliaeth Seithenyn, anhawdd fuasai dychymygu person mwy anaddas nag ef i lenwi y swydd hon, oblegyd gosodir ef allan yn y Trioedd fel un o dri “Charnfeddwon Ynys Prydain.” Nid ydym yn gwybod am well testyn i'r areithydd dirwestol na bywyd Seithenyn ab Seithyn Seidi.


Dywed y Trioedd mewn man arall y ceid yn y Cantref “un ddinasdref ar bymtheg yn oreuon ar holl drefydd a dinasoedd Cymru, a gadu yn amgen Gaerlleon ar Wysg.” “Hafan Gwyddno, yn ngogledd Cymru,” oedd “un o dair prif borthladdoedd ynys Prydain;” a chan ei bod yn sefyll yn y rhan hono o'r môr rhwng Sarn Badrig a gwlad Feirion, nid rhyfedd ei hystyried mor rhagorol. Ysgrifenwr darfelyddol a roddasant yr enw o Mansua i'r porthladd hwn, a dygid masnach helaeth yn mlaen rhyngddo a Llydaw a manau ereill o'r Cyfandir. Gelwid y brif-ddinas yn Gaer Wyddno, yr hon a safai ar gwr eithaf Sarn Gynfelyn, gerllaw Aberystwyth; ac yma yr oedd palas y tywysog. Dynodir y fan yn bresenol gan adfeilion hen furiau.


Dyna hanes byr y Cantref anffodus hwn cyn ei orlifiad; ond y mae deddfau natur yn ddigyfnewid — i fyny y dring y fflam, i'r pant y rhed y dwfr — ac y mae trueni bob amser wrth sawdl afradlonedd. Melldith y bobl hyn fu glythineb, ac ar ŵyliau yn enwedig gollyngent y ffrwyn ar wâr blys. Un o'r gwyliau hyn, tra yr oedd pawb yn ymddigrifo mewn gwleddoedd a rhialtwch, a Seithenyn y drysawr gan wamaled ag un ohonynt, efe yn ei feddwdod a esgeulusodd gau y dorau cyn nos, a daeth y llanw i fewn, yn cael ei hyrddio gan ruthrwynt gollewinol. Goddiweddodd hwynt mor ddirybydd ag angau disyfyd; llwyr ddinystriodd eu perllanau; dadwreiddiodd eu deri; dadsylfaenodd eu haneddau; eu gwartheg a'u hanifeiliaid a laddodd efe â blaen ewyn ei gynddaredd, a'r rhan luosocaf ohonynt hwythau a gyfarfuasant a dyfrllyd fedd. Anmhosibl dysgrifio'r cyfyngder y deffrodd llawer ohonynt ynddo o gwsg trwm meddwdod, yn cael ei drymhau gan si marwol y llanw a'u prysur amgylchynai, a'u deffro yn y diwedd gan ryw dòn wenoer i'w sefyllfa drallodus a diymwared. Y rhai allasant ddianc a ffoisant, rhai i Feirion, rhai i Leyn, rhai i Geredigion, a phob un yn rhedeg am ei einioes i'r ucheldir agosaf ato. Erbyn tranoeth yr oedd y fangre wedi ei llwyr ddinystrio; y lasdon a'i mil myrdd preswylwyr yn chwareu hyd y dolydd meillionog a'r dyffrynau toreithiog; a'r môr fel arwr buddugoliaethus yn ymorchestu yn ei fuddugoliaeth, trwy anfon ei bysg yn llengoedd i chwilio i mewn i ansawdd ei diriogaeth newydd. Pereiddgan yr eos ddylynwyd gan ysgrech annaturiol y fôr-forwyn; morloi a ymbrancient y weirglodd fras, lle ddoe y chwareuai yr ŵyn nwyfus, a phalas tywysogaidd Gwyddno Garanhir, yn Nghaer Wyddno, a lanwyd â llymriaid a chrancod y môr. Yn mysg y rhai diangol yr oedd Gwyddno, tywysog y Cantref; ac er llawened ydoedd oblegyd ei waredigaeth o afael angau mor ddibris, yr oedd edrych ar ei dywysogaeth brydferth yn orchuddiedig â dinystr yn ofid tost iddo. Y mae diareb ar lafar gwlad tua glanau Beisfôr Aberteifi, a ddefnyddir pan fyddo gŵr mewn cyfyngder diymwared, neu pan gyfarfyddo âg aflwydd a chanddo ddim llaw yn ei ddygiad oddiamgylch, fel hyn; —

"Ochenaid Gwyddno Garanhir
Pan droes y don dros ei dir."

Pa un ai Gwyddno ei hun a gyfansoddodd y ddwy linell hyn, ynte rhywun arall, nis gwyddom, ond yr oedd efe yn fardd, ac yn fardd mewn oes ar Gymru pan fyddai bron cymaint syndod gweled un o blant Ceridwen ag ydyw canfod yn yr oes hon Gymro heb honi rhyw berthynas â'r hen wrach hono. Yn Llyfr Du Caerfyrddin, yr hwn a gasglwyd tua dechreu y 9fed ganrif, ceir tri dernyn o ffrwyth ei awen, sef, Cân, Foesol, Ymryson Gwyddno a Gwyn ab Nudd, a Chwynfan oherwydd Gorlifìad Gantrêr Gwaelod, Er mwyn cywreinrwydd, yr ydym yn cyfleu y dernyn olaf o'r rhai hyn yn ei hen wisg Gymreig : —

PAN DDAETH Y MOR TROS GANTREF Y GWAELAWD.

GWYDDNEU A'I CANT.

Seithenin saw di allan ag edrych
Uirde varanres mor maes Gwitneu rhytoos

Boed emendigeit y morwin
A hellyngaut gwydi ewyn
Ffynnawn Wenystyr mor terrwyn

Boed emendigeit y vachdeith
Ai golligaut guydi gweith
Ffynnawn Wenestyr mor diffeith

Diaspad mererit yar van kaer
Hyd ar Duw i dodir
Gnawd gwedi trama tranc hir


Diaspad mererit y ar van kaer
Hetiu hyt ar Duv y dadoluch
Gnawd gwedi traha attregwch

Diaspad mererit am gorchwyt heno
Ac nim haut gorluyt
Gnawd gwedi traha tramcwyt

Diaspad mererit y ar gwineu
Kadir Kedaul Duw ae goreu
Gnawd gwedi gwedi gormod eisseu

Diaspad mererit ain kymhell
Heno wrth vy ystavell
Gnawd gwedi traha tranc pell

Bet seithenin synwyr van
Rhwng kaer kenedyr a glan
Mor, maurhydic a kinran


"Seithenyn, saf allan, a gwel drigfanau cewri; — dyffrymdir Gwyddno a orchuddiwyd gan y môr. Boed melldlgedig y gwrthglawdd, a ollyngodd wedi gwin, ffynonau y dyfnder mawr. Boed melldigedig geidwad y llifddor, a ollyngodd i fewn yn y nos ffynonau yr eigion diffaeth. Llef Mererit [enw a roddid ar y gwynt gorllewinol] oddiar uchelfan y Gaer, gwrandawed Duw arni, 'Gwedi gwynfyd y daw drygfyd.' Llef Mererit oddiar uchelfan y Gaer, atolygir heddyw ar Dduw, 'Y mae diwedd ar drawsedd.' Llef Mererit a'm gorfydd heno, rhy amlwg yw yn fy nglyw, 'Gwedi trawsedd daw tramgwydd.' Llef Mererit oddiar adfeilion y gwinwydd, 'Gwedi gwastraff daw eisieu.' Llef Mererit a'm cymhell, heno wrth fy ystafell, 'falchder y daw dinystr diarbed.' Boed Seithenyn wau synwyr rhwng Caer Cenedir a'r lan, pan fyddo'r môr gythryblus a chynddeiriog."

Y mae un o feirdd godidocaf yr oes hon wedi rhoddi y geiriau canlynol yn ngenau Gwyddno Garanhir, a diameu eu bod cystal dysgrifiad o adfyd y tywysog ar y pryd a'r geiriau blaenorol o'i gyfansoddiad ef ei hunan : —


"O, DDYLIF! O, ddialedd!
Mae'n flin bod ar fin dy fedd.
Tywod sy'n llenwi'n teiau,
A'r pysg yn gymysg sy'n gwau :
Morfeirch dihefeirch, hyfion,
Llymriaid, arw haid, 'r awrhon
Sy'n heigiau'n amlhau y'mhlith
Y gweunydd fu'n dwyn gwenith;
Lle porai defaid dofion
Yn y lle pranciai wyn llon,

Cynulla morgwn hyllion
A mor-gathod — syndod son!
E geir lle bu yd a gwin
Fawr grugiau o for gregin.
Hoff lysoedd a phalasau,
Gan nerth y mor certh, mawr, can,
Eu cydiawl furiau cedyrn
Ddatodid, chwelid'yn chwym :
Ni ddorid eu gwedd eirioes,
Tan eu traed tonau a'u troes;
A'u holl stor, y mor mawrwanc,
A fwria'i wyllt far ei wanc.
O! fy ngwlad, rhaid im' d'adu
Dan y dwr a'i donau du.
Llwybrau rodiwn, garwn gynt,
I'm mawr dristwch mor drostynt
A lifeiria lafoerion
Oerion dig ei erwin don.
O! hen eigion creulon, cred,
Y gelyn calon galed —
Ni bu un a'i raib yn bod
Debyg mor ddigydwybod
A thydi, weilgi mawr wanc,
Didoraeth yw dy daerwanc;
Llyncu'r byd i gyd ar gais
I dy fol mewn du falais
Wnait unwaith, ar hynt anwar,
Hyn ni fu ddigon o far —
Llyncu mad wlad fy nhadau
Wnait i'th grombil, gawrfil gau;
Daw arnat dal diwymi, —
Dial tan — y fo dal i ti !"

Y mae cryn lawer o amrywiaeth barn yn mysg haneswyr mewn perthynas i'r trychineb anaele hwn, Dywed rhai mai traddodiad gwag a disail ydyw y cyfan. o'r un natur a lluaws o'r ffugchwedlau rhamantus 'Cymreig hyny a elwir Mabinogion; ereill a ystyriant yr hanes yn gymysgfa o ffugiaeth {mythology) a Derwyddiaeth; a'r trydydd dosbarth a gredant fod y Trioedd a'r traddodiadau yn ei gylch yn seiliedig ar ffeithiau diymwad. Y dosbarth cyntaf a seiliant eu barn ar yr ymresymiadau hyn: — Fod y Trioedd a soniant am dano yn gloff ac ansicr; fod arwynebedd y fan yn bresenol yn. ymresyniad nerthol na chymerodd erioed le y fath beth a gorlifiad, — paham nad ymgiliai y môr o'r Cantref yn awr ar ddystill trai ? — nad ydyw y manylydd rhyfedd hwnw, Giraldus Cambrensis, yn hanes ei deithiau trwy Gymru, 1188, yn yngan gair yn nghylch dinystr y fath le, a'i fod yn nesaf peth i anmhosibilrwydd i'r hen fwnc beidio croniclo y fath ddygwyddiad, a thynu moeswersi am farn ar annuwioldeb oddiwrth yr hanes; — nad oes dim yn y dysgrifiad a ddyry y Rhufeiniaid o Gymru, yr adeg y goresgynasant hwy ynys Prydain, yn tueddu neb i gredu fod darn mor fawr o dir wedi ei feddianu gan y môr ar ol hyny; na bod dinasoedd na phorthladdoedd o bwys yn bodoli y pryd hwnw lle y saif yn awr Feisfor Aberteifi; — na sonir gair yn nghylch y Cantref na'i ddinasoedd ardderchog yn Itinerary Antonius, na chan Ptolemaus, na Richard o Cirenester.


Davies, awdwr dysgedig y Mythology of the Druids, ydyw arweinydd yr ail ddosbarth. Dywed ef mai yr un person ffugiol ydoedd Gwyddno Garanhir a Thegid Foel, gŵr Ceridwen, a thad tybiedig y bardd Taliesin, — etifeddiaeth yr hwn a safai yn nghanol Llyn Tegid, gerllaw y Bala.[1] Olrheinia yr awdwr hwn Gwyddno a Thegid Foel hyd y diluw, a dywed mai enwau ereill oeddent ar Noa. Llong nofiadwy sydd i'w ddeall wrth "etifeddiaeth yn nghanol y llyn," a'r llong hon ydoedd arch Noa. Aralleg o'r diluw ydoedd dinystr Cantref y Gwaelod, wedi ei chyfansoddi ganrifoedd cyn Cred, i ddwyn yr engraifft hono o ddigllonedd cyfiawn Duw i gyrhaedd amgyffredion a chylch dealldwriaeth yr hen Gymry.


Dosbarth y trydydd a gredant fwy neu lai o'r hanes fel y gosodasom ef i lawr yn y dechreu, ac y maent yn "unfryd unllais" o wirioneddolrwydd ffaith y gorlifiad. Seiliant eu barn ar y Trioedd, cydgasgliad ffeithiau hanesyddol, a daeareg y man y safai y Cantref arno. Dygir y ddau flaenaf gerbron yn nes yn mlaen. Traetha daeareg ei llên yn y Sarnau a geir yn Meisfor Aberteifi. Sarn Badrig (neu Badrhwyg, medd Pennant, oherwydd nifer y llongau a ddryllid arni), yn Meirionydd, a ymestyna 21 milldir i'r môr, ac a welir yn sych, medd rhai, am naw mill- dir, a gynwys olion amlwg o hen fur neu wrthglawdd; Sarn Gynfelyn, gerllaw Aberystwyth, a gyrhaedd saith milldir i'r môr, ac yn ei phen eithaf y mae adfeilion hen Gaer, lle yn ol Lewis Morris, yr oedd palas Gwyddno Garanhir. Y mae tair o sarnau ereill byrach, eithr yn cynwys llawn cymaint o deithi hanesyddol a'u chwiorydd hirach ac enwocach, sef Sarn y Bwch, yn sir Feirionydd, milidir a haner o hŷd; Sarn Dewi, gerllaw Ty-Ddewi, chwarter milldir; a Sarn Cadwgan, milldir a haner o hyd. Hefyd, rai blynyddau yn ol, cafwyd lluaws o goed derw o dan wely y môr yn agos i geg yr afon Dysyni, un o ba rai a fesurâi chwe' troedfedd o drwch. Oddeutu tair milldir i'r gorllewin o Aberaeron, a haner milldir oddiwrth y lan, y mae cylch crwn o furiau peryglus, a elwir gan drigolion y cyrau hyny, "Eglwys y Rhiw." Gwelodd Lewis Morys faen a gafwyd gan' llath islaw pen llanw yn sir Aberteifi, a llythyrenau Rhufeinig wedi eu cerfio arno. Hefyd, darllenwyd papur o flaen y Geological Society, gan foneddwr o'r enw Yates, yn y flwyddyn 1832, ar y "Goedwig Danforawl," a ddarganfyddwyd tua'r amser hwnw yn Meisfor Aberteifi. Dywedai Mr. Tates fod y goedwig hon yn ymestyn ar hyd tueddau Meirion ac Aberteifi, ac yn cael ei gwahanu yn ddwy ran gan ymarllwysiad yr afon Dyfi. Rhyngddi â'r lan, yr oedd traeth tywodog, a chlawdd o raian a cheryg bychain. Tu hwnt i'r clawdd hwn, yr oedd llain o fawndir, a gorchuddid y goedwig gan haen o fawndir.


Y mae gwahaniaeth barn gyda golwg ar amseriad y Gorlifiad yn mysg y sawl a'i hystyriant yn ffaith. Wrth ganfod dystawrwydd cynifer o hen ysgrifenwyr yn ei gylch, tueddwyd rhai i gredu iddo gymeryd lle cyn y cyfnod Crist'nogol, ac y mae hen gywydd yn Meyrik's History of Cardigan yn dweyd yn bendant iddo ddigwydd yn 3591 o oed y byd, neu dros bedwar can' mlynedd cyn Crist. O'r ochr arall, tuedda doabarth lluosog i ystyried y Trioedd yn awdurdod digonol ar y pwnc; a chan fod y Triad hwn wrth law, ac o bwys i'r darllenydd gywir ddeall pa beth mewn gwirionedd a ddywed, yr ydym yn ei ddyfynu: — "Tri Charnfeddwon ynys Prydain : — Ceraint Feddw, brenin Essyllwg, a losges yn ei feddwdod yr holl ŷd yn mhell ac yn agos hyd glawr gwlad, ac o hyny dyrfod newyn bara; ail, Gwrtheyrn Gwrthenau, a roddes Ynys Daned yn ei ddiawd i Hors, am gael ymodinebu â Rhonwen ei ferch ef, a rhoddi hawl a wnaeth efo i'r mab a enid o hyny ar Goron Lloegr; ac yn un â hyny brad a chynllwyn yn erbyn cenedl y Cymry; trydydd, Seithenyn ab Seithyn Seidi, brenin Dyfed, a ollynges yn ei ddiawd y môr dros Gantre'r Gwaelod, oni chollwyd o dai a daear y maint ag oedd yno, lle cyn hyny y caed un dinasdref ar bymtheg yn oreuon ar holl drefydd a dinasoedd Cymru, a gadu yn amgen Gaerlleon ar Wysg; a chyfoeth Gwyddno Garanhir, brenin Ceredigiawn, ydoedd Cantre'r Gwaelod; ac yn amser Emrys Wledig y bu hyny; a'r gwŷr a ddiangasant rhag y bawdd hyny a diriasant yn Ardudwy, a gwlad Arfon, a mynyddoedd Eryri, a lleoedd ereill nad oeddent gyfanedd cyn hyny."

Y mae amseriad y dygwyddiad yn eithaf eglur yma, sef yn "amser Emrys Wledig." Ond pwy, a pha bryd yr amserai, y gŵr hwn ? Rhaid ei fod yn rhywun enwog cyn y galwesid ei oes ar ei enw. Dyma ei fywgraffiad yn ol Williams' Eiminent Welshmen : — Mab oedd Emrys Wledig (Aurelius Amhrosius) i Gystenyn Fendigaid, yr hwn a etholodd y Brutaniaid yn frenin arnynt wedi ymadawiad y Rhufeiniaid â'r ynys. Cystenyn a laddwyd yn un o'i ryfeloedd â'r Ffichtiaid; a'r pryd hyny yr ocdd Emrys yn cael ei addysgu yn Llydaw (Brittany) dan ofal ewythr iddo o'r enw Aldrawd, brenin y wlad hono. Y Brythoniaid, ar farwolaeth ei dad, a ddeisyfasant arno ddyfod trosodd atynt, gyda 10,000 o wŷr, i'w cynorthwyo i orthrechu y Sacsoniaid a wahoddasai Gwrtheyrn y sonia, y Triad blaenorol am dano i Brydain. Cymaint ydoedd llwyddiant Emrys fel rhyfelwr, nes yr etholodd ei gydwladwyr ef yn frenin arnynt, gan orfodi Gwrtheyrn i roddi gorllewinbarth yr ynys i fyny iddo; ac yn fuan wedi hyny, oherwydd fod yr hen frenin trythyll a moethus yn parhau yn fradwrus yn erbyn ei wlad a'i genedl, gwnaed Emrys yn frenin ar yr holl ynys. Dywed Brut y Brenhinoedd a Geofrey o Fynwy mai Emrys a adeiladodd y Cor Gawr Stonehenge, yr hwn a elwir hefyd 'Gwaith Emrys,' er cof am y tri chant pendefigion Prydeinig a fradwrus lofruddiwyd mewn gwledd gan y Seison. Rhydd Geoffrey gymeriad uchel iawn iddo, a dywed mai ei wenwyno a gafodd yn y diwedd yn Nghaerwynt (Winchester), gan ffug-feddyg o Sais o'r enw Eopa, wedi ei logi i'r anfadwaith gan Pascentius, un o feibion Gwrtheyrn. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 500."


Wele brawf arall dros yr un syniad. I Wyddno Garanhir yr oedd mab o'r enw Elphin, ac efe ydoedd noddwr penaf y bardd enwog Taliesin. Talodd y bardd lawer teyrnged o fawl a pharch i'w noddwr, a'r dernyn hwnw elwir "Dyhuddiant Elphin" o'i waith a ystyrd yn mysg ei oreuon. Y mae yr haneswyr Cymreig bron yn ddieithriad yn ystyried y Prif-fardd yn un o ddeiliaid y 5ed canrif.


Dyna ni wedi rhoddi barnau y teirblaid mor deg a diduedd ag y gallem. Ond y mae yn lled amlwg na chymerodd y weilgi damaid mor fawr o dir oddiarnom ar unwaith. Nid yw y Triad yn crybwyll ond am orlifiad un cantref, sef 625,000 o erwau (acres). Gorwedda y beisfor ar naw neu ddeg o'r cyfryw gantrefi; ac y mae yn debyg mai rhan ohono yn unig a orlifwyd yn amser Gwyddno, megys y Traeth Mawr, rhwng Lleyn a gwlad Meirion, neu yn hytrach y darn hwnw o fôr rhwng trwyn Sarn Badiig ac Aberystwyth. Y mae y ffaith nad oedd y Cantref ond math o dalaeth perthynol i Geredigion, ac i'r dinystrydd ddyfod i fewn trwy esgeulusdra cau un o'r llifddorau, yn fafriol i'r dyb hon. Onid yw yn eithaf posibl, ac yn fwy rhesymol, ddarfod i'r gorlifiad gymeryd lle ar amrywiol amserau?


Pan ddelo Cymru mor doreithiog o ddaearegwyr ag ydyw yn bresenol o feirdd, diameu y teflir llawer o oleuni ar bynciau o'r naturyma; ac y mae yn rhyfeddod pa fodd na chododd o'n mysg luaws o enwogion yn y wyddon werthfawr hon, tra y meddwn gynifer o fanteision at astudio ansawdd a chyfansoddiad y ddaear. Mewn llawer ardal cyd gyferfydd pump neu chwech o wahanol haenenau â'u gilydd; ac y mae nifer mor lluosog o'r genedl yn enill bywioliaeth wrth dreiddio i fewn i'w chloddfeydd, a dwyn oddiyno y meini gwerthfawr, o'r gareg las a ddefnyddia y bugail i adeiladu ei luest hyd aur sir Feirionydd; ond er hyn oll, y mae yn ffaith alarus na feddwn yr un daearegwr gwerth son amdano.


Ond, heblaw Cantref y Gwaelod, y mae y môr wedi ysbeilio Cymru o aml ddarn gwerthfawr arall o dir. Dywed traddodiad ddarfod i drychineb gyffelyb oddiweddyd y traeth tywodlyd a pheryglus hwnw sydd yn cyrhaedd o ymyl Biwmaris hyd y Penmaen Mawr, a elwir Traeth y Lafan, neu Traeth y Wylofain, yr hwn a berthynai i dywysog o'r enw Helyg ab Gwlanog. Cymerodd y dygwyddiad le tra y cynelid gwledd fawr yn 'mhalas Helyg. Pan oedd y cwmni yn ymloddesta, tarawyd y telynor, yr hwn oedd broffwyd hefyd, â dychryn wrth ganfod y trychineb yn dyfod o bell; ac un o'r gweision a ddygwyddai fod yn y seler ar y pryd, yn ceisio rhagor o ffrwyth y winwydden i borthi mwythau ei uwchradd, a darawyd â dychryn, ac a redai ymaith fel un gwallgof, dan waeddi, " Y môr! y môr!" Y telynor a'r gwas hwn yn unig a lwyddasant i ddianc i ddiogelwch; y gweddill, yn nghyda'r eiddynt, a gollwyd yn yr elfen ddinystriol.


Dywedir hefyd fod darn mawr o dir wedi ei orlifo o du'r gogledd i dreflan Abergele ac fel prawf o hyny, dyfynir y beddargraff canlynol oddiar hen gareg fedd sydd yn mynwent y lle hwnw: —


"Yma mae'n gorwedd,
Yn mynwent Mihangel,
Gŵr oedd a'i anedd
Dair milldir i'r Gogledd."


Ond yn bresenol y mae y môr o fewn tri chwarter milldir i'r dref. Byddai trigolion yr ardaloedd hyny er's talm yn cynull tanwydd lawer oddeutu milldir oddiwrth y lan; eithr oherwydd eu drygsawr wrth losgi, nid oes neb yn awr yn myned i'r drafferth o ymofyn am danynt.


Dyna hyd y gwyddom yr unig draddodiadau sydd ar gael o'r môr yn cwtogi rhandiroedd Cymru; ac wrth ystyried er's cynifer o filoedd o flynyddau y mae efe yn parhaus ymguro yn erbyn ei glanau eang a phrydferth, a chynifer o brydiau y bu yn ymgynddeiriogi mewn tymestl, gan ymddangos mor fygythiol a phe buasai am lyncu ein Tywgsogaeth ardderchog i'w grombil anferth, y mae yn syndod na syrthiasai rhagor ohoni iddo yn ysglyfaeth.


Yr Hwn a roddodd ei ddeddf iddo ar y cyntaf, a'i ffrwynodd hefyd yn rhwymyn ei derfynau; ac ni ruthrodd efe erioed dros erchwynion ei wely heb ganiatad ei Lywodraethwr.

Nodiadau

golygu
  1. Gwel Hanes Taliesin yn y llyfr hwn