Cymru Fu/Chwilio am arian Daear

Sul Coffa Ifan Delyniwr Cymru Fu

gan Isaac Foulkes

Traddodiadau Eryri


CHWILIO AM ARIAN DAEAR.
GAN GLASYNYS.

Y MAE chwilio am arian daear wedi bod yn un o brif. ymchwiliadau rhyw ddosparth o bobl yn yr oesoedd diweddaf. Fyth ar ol i'n gwlad gael mwydo ei dolydd, a gwlychu ei bryniau, â gwaed rhyfelwyr, ac ar ol i ddifrod fod yn ysgubo pob peth o'i flaen am oesoedd; pan y caed heddwch, coeliai'r wlad fod peth wmbreth o drysorau wedi cael eu cuddio yn y ddaear yn yr adegau terfysglyd hyny. Ac yn wir, yr oedd coel arall, hynach a chyffredinach, sef fod rhyw fodau goruwch-naturiol yn meddu cuddfeydd llawnion o drysorau, draw ac yma, yn mysg llawer iawn o genhedloedd heblaw ein cenedl ni, ac y gwnai y rhai hyn, pan ddelai yr un iawn yno i chwilio am danynt, ddatguddio eu cronfa'n rhwydd a rhad, ac felly wneud y cyfryw greaduriaid ffodog yn gyfoethog rhag blaen. Nis gwn am un plwyf nad oes arian daear ynddo yn rhyw le; o'r hyn lle na ddywed rhywun fod yno rai.

Rhyw ddeugain mlynedd yn ol, mwy neu lai, yr oedd crefftwr yn bywyn Môn, ac nid oedd dim ar wyneb y ddaear gron, na than ei gwyneb ychwaith, am wn I, a chwenychai yn fwy na chael arian daear. Pan elai ei gyfeillion i edrych am dano ddechreunos, byddai'n bur debyg o dynu ar draws yr hen bwnc, a hwythau yn ei borthi hefyd yn ddigon hwylus, y mae yn fwy na thebyg, Un noson, yr oedd un o'i gyfeillion penaf yn dweyd ei fod wedi cael gweledigaeth ryfedd yn ystod amser cysgu, a pha beth oedd hono, ond fod arian daear yn un o feusydd mawrion y Plas oedd gerllaw. Dywedodd yr hanes yn fanwl wrth y crefftwr, a synai hwnwyn arw at y fath ddatguddiad rhyfedd. Wy'st ti beth, Robin," ebai, "y mae'n rhaid fod yno rywbeth. Paid ti a son wrth neb, Robin. Mi ddof fi yno hefo thi'r pryd y myni, wy'st ti. Pwy wyr pa faint sydd yno? Paid ti a deud wrth neb, Robin." Addawodd Robin gadw'r peth yn ddirgel. Yn mhen rhyw wythnos wed'yn yr oedd Robin wedi breuddwydio drachefn yr un fath bron yn union. Nid oedd ond rhyw ychydig bach o gymhelliadau ychwanegol yn hynodi tro hwn oddiwrth y tro'r blaen. Aeth at ei hen gyfaill, y crefftwr, a dywedodd wrtho'r hyn a fu, a bod gwahoddiad iddo dd'od i'r parc nos dranoeth rhyw dro dro gefn trymeddion y nos, sef ar ol un-ar-ddeg; a bod arno eisiau cael rywun i dd'od gydag ef. Yr oedd y crefftwr ar dân gwyllt am fyned, ac nid oedd na byw na bywyd i Robin heb addaw iddo gael d'od a bod yn rhanog! Gadawodd yntau iddo gael ar ol tipyn o grefu. Yr oedd ar Robin ofn nad oedd y crefftwr ddim yn ddigon calonog; dyna oedd ei esgus, oblegyd meddai, "Un gwan iawn ydwyf fi: pe gwelwn rywbeth, y mae arnaf ofn na fedrwn ddim dweyd un gair o'm pen. Peth gwael fyddai hyny wedi myned mor agos at y peth !" Sicrheid ef gan ei gyfaill, nad oedd ef yn malio dim mwy yn y nos nag yn y dydd, ac y siaradai ef y cwbl rhag blaen hefo beth bynag fyddai yno. Nos dranoeth a ddaeth, ac yr oedd y ddau wedi rhag-ddarparu pob peth yn eithaf deheuig. Yr oeddynt ill dau yn aros am yr awr benodol yn nhy y crefftwr; ond yr oedd ei wraig ef, druan, bron a thori ei chalon. Tybiai y gwnai'r yspryd aflan gipio ei gŵr yn ging-gong-gafr a'i slanu ef i ffwrdd i ryw le nas gwelai na migwrn nac asgwrn. o hono byth mwy.

Crefai yn galed arno ef beidio myned beth bynag; ond nid oedd yn waeth ceisio cadw llanw'r môr yn llonydd na threio cadw'r gŵr yn y tŷ: na, yr oedd yn rhaid i Robin ac yntau fyned: a myned a wnaethant hefyd. Yr oedd hi'n noson ddwl, dywyll, heb ddim chwà o wynt bron. Yn debyg ddigon o ran hyny, i lawer noson a fu cynt ac wed'yn yn ystod Hydref a Thachwedd: teyrnasai llonyddwch marwol ar bob llaw. Ymaith yr aed, ac at y fan yr oedd Robin wedi breuddwydio gweled ei hun yn cael yr arian. Yr oedd y lle heb fod yn mhell oddiwrth ffynon ag oedd yn y cae; a cheisiasant wneud eu ffordd am hono. Pan oeddynt yn agoshau at y fan, dyna'r Crefft wr yn gofyn i Robin, "A weli di rywbeth, Robin?" Na welaf ddim," meddai yntau, "a weli di rywbeth?" Gwelaf, wel di." Yn mlaen yr aed, y Crefftwr yn gyntaf a Robin yn olaf. Wel ddim 'rwan, Robin," ebai drachefn. Gwelaf," meddai yntan, "rhyw oleu glas bach fel canwyll." Safodd y ddau yn ddistawyn y fan hono am dipyn; ac ebai'r Crefftwr, "Oes arnat ti ofn, dywed?" "Fawr lai," ebai Robin: " A glywi di rywbeth" Ond ar ol sefyll enyd dyma ail-gychwyn at y tân y Crefftwr yn mlaenaf o hyd, a dilynid ef yn araf deg gan Robin. Pan oeddynt wedi d'od o fewn rhyw ddeugain llath at y tân, diffoddodd yn llwyr am fynyd, ac nis gwyddent ar groen y ddaear pa beth i'w wneud. Gofynai y Crefftwr wed'yn, "Oes arnat ti ofn Robin?" 'Nac oes ddim rhyw lawer," meddai yntau, "ond y mae hi'n bur gâs, onid ydyw?" A chyda'r gair yna, dyna'r tân yn d'od i'r amlwg yn fwy o lawer nag o'r blaen, yn un lwmp coch, ac yn codi oddiar y ddaear yn araf deg ac yna yn gostwng drachefn. Codai wed'yn, a gostyngai, a'r ddau erbyn hyn yn sefyll fel mudanod. "Tyr'd Robin,' ebai'r Crefftwr, "tyr'd ato fo." Cychwynodd y ddau, ond ar amrantiad, dyma'r tân yn ymgodi i'r awyr ac yn chwrlio yn y wybr, a gwreichion yn ymdaenu i bob cwr o'r cae. Tyr'd i ffwrdd Robin anwyl," ebai'r Crefftwr, a'r tân erbyn hyn yn gylch mawr bron-bron uwch eu penau, ac ymaith a hwy nerth eu gwadnau. Rhedodd y ddau nes cyrhaedd tŷ y Crefftwr, a da oedd ganddynt yn eu calonau gael lle llonydd. Yr oedd gwraig y Crefftwr, druan o honi, wedi bod mewn llewygon dros ystod yr adeg yr oeddynt wedi bod allan, a da iawn oedd ganddi hithau gael un golwg ar ei gwr gwirion wedi d'od yn ol, ac yr oedd yntau yn llawer mwy gwrol yn ei golwg hi, nag oedd yn ngwydd y tân rhyfedd yn y cae. A thyna'r tal a gafodd y ddau yma wrth fyned allan y nos i chwilio am arian daear: ond os hyn fu eu tal hwy y mae eraill wedi cael llawer deng mynyd o chwerthin difyr ar gorn hyn. A dyma fel y bu pethau: Cenaw cyfrwysddrwg, ystumddrwg, a llawn direidi, oedd Robin, ac yr oedd ganddo ef bartner llawn cyn ddihired ag ef ei hun. Hudodd Robin y Crefftwr i chwilio am yr arian, ac yr oedd ei gyfaill Ifan yno'n barod hefo lantern a ffunen ganddo am dani,—ffunen fflam goch; ac felly, yr oedd y cyfryw nos, fel olwyn o dan! Yr oedd ganddo hefyd wialen bysgota, a pha beth a ddarfu ond rhwymo'r lantern with ei blaen, ac yna ei throi hi yn yr awyr; ac nid dyna'r cwbl, yr oedd ganddo fanwen wedi mwy na haner losgi, a thyna'r peth oedd yn gwreichioni mor ofnadwy: a gwyr pawb mai peth enbyd o wreichionllyd ydyw mawnen linynog, os bydd yn sech. A thyna ddiwedd y chwedl yna, yr hon a adroddir gan ugeiniau yn Môn heddyw.

Clywais hefyd pan yn las-lefnyn am Robert Gruffydd y Fotty a Wil Griffydd Ty Newydd. Yr oedd y ddau hyn wedi bod mewn Festri yn y Llan, ac wedi mwynhau eu hunain yn eithaf da,—os mwynhad ydyw yfed hyd na's gwyddent ragor rhwng llidiart a chlawdd ceryg. Rywle with dd'od adref daeth yn mhen Robert i ofyn i Wil dd'od hefog ef i'r Muriau, oblegyd dyna oedd enw'r lle, i chwilio am arian daear yn y Parc bach. Rywbryd cyn y bore, medrodd ddau gyrhaeddyd yno, a dywedai Robert y gwyddai ef o'r goreu yn mha le yr oedd y trysor; oblegyd pan ryw dro cynt yn pasio'r fan, gwelodd yno ddyn lled fychan a barf wen hir ganddo, ac wedi ymwisgo mewn mantell laes, ac heb ddim am ei ben,-yn cerdded yn ol ac yn mlaen, a gofynodd hwn i Robert a fedrai gadw cyfrinach: dywedodd yntau y medrai; ar hyn, meddai'r hen ŵr gwargam wrtho, Tyred di yma, wythnos i heno; mi gei di ran o'r trysor sydd yn y fan yma yn cael ei gadw ar dy gyfer; ond cofia di beidio son nac yngan un gair am y peth wrth neb." Aeth Robert adref y tro hwnwyn falch iawn o'r newydd, a chymerth ddigon o ofal i beidio crybwyll un gair am y peth yn nghorph yr wythnos hono, fel pe buasai ar ei lw. Ond aeth i'r dref ddydd Sadwrn, ac wrth fyned yno, yr oedd mor benderfynol ag y bu dyn erioed, na soniai wrth yr un creadur. Fodd bynag, wrth dd'od adref, tarawodd ar ddau neu dri o'i hen gyfeillion. ac aethant i dy tafarn oedd ar eu ffordd adref, ac yno yfodd Robert fwy na ddylasai. Ac fel y dywed y ddihareb, "Allwedd calon cwrw da," felly fu hi hefog yntau, druan; dechreuodd frolio'r arian daear oedd i dd'od iddo wrth ei gymdeithion, ac y byddai erbyn nos Sadwrn wed'yn yn globyn o wr boneddig. Aeth adref; ac yn hefyd dyma chwedl yr arian daear allan. Yr wythnos wed'y'n aeth i'r Parc bach, ond er ei ddirfawr ddychryn, yn lle gweled yr hen ŵr caredig a welodd y tro cynt, dyma globyn o Ellyll yno, a'i ben o gymaint a llestr dau gyfyniad, a chloben o geg fel camog trol, "a dannedd 'machgen I, fel danedd cribin doi; a fflamiau gleision yn dwad allan, 'machgen I, o'i geg a'i lygaid o. Dywedai hefyd fod ganddo dwr o aur yn ei ymyl, ac yn codi rhai hyny yn faweidiau! Nid oedd dim i'w wneud pan welodd hwnw ond ei choesio hi nerth yr esgyrn, ac adref yr aeth fel ci wedi tori ei gynffon y noson hono heb ddim dimeu goch y delyn o'r arian daear. Yr oedd arno flys o hyd, er hyny, am gael ei ran o'r trysor, ac yn edifarhau yn enbyd am iddo fod mor ffol a dweyd ei gyfrinach. Dywedai yn aml, mai " dweyd oedd y drwg onite y buasai ef yn ŵr bonheddig. Y noson dan sylw, sef y pryd yr aeth yno hefo'i frawd o'r Festri, yr oedd am wneud ail gynyg; cyrhaeddodd yno fel y crybwyllwyd, rywbryd cyn y bore; a phan oedd wedi cyrhaedd y lle y darfu iddo weled yr hen wr y tro cyntaf a'r Ellyll anferth yr eiltro, gwelai rywbeth gwyn yno. Dyma fo, Wil," gwaeddai, "Dyma fo." Daeth Wil yno rhag ei flaen, a dywedodd, "Dyma fo a deud y gwir, Robin." Aeth y ddau yn nes at y gornel, a thyma rywbeth yn codi, ac yn d'od ar wib atynt, a thaflodd y ddau nes oeddynt yn pellenu ar lawr; a pha beth oedd ond llwdn dafad, a orweddai yn y cysgod; a thyna hynt yr hen fechgyn hyn wrth chwilio am arian daear y Parc bach.

CADWALADR LEWIS Y CRASWR.

OND nid fel yna yr oedd hi hefo Cadwaladr Lewis yn Meirion. Yr oedd sôn fod arian daear mewn hen furddyn heb fod yn mhell o'r odyn lle'r oedd Cadwaladr yn arfer crasu, a mynych y byddai blys arno fyned i'r lle i dirio. Ond yr oedd arno arswyd myned i'r fan ei hun, rhag ofn i rywbeth dd'od ato; ond er hyny, yr oedd y blys yn myned yn gryfach bob dydd, a pho amlaf y soniai am y llonaid crochan o aur oedd yno wedi cael ei guddio, cryfaf yn y byd y teimlai ryw ysfa myned i dreio. Gwnaeth gaib gref, a rhoes droed newydd yn y fatog oedd ganddo yn yr odyn, ar fedr llwyr myned yno ryw noson y gauaf hwnw. O'r diwedd gwnaeth ei feddwl i fynu, ac yno'r aeth ryw noson tua haner nos. Dechreuodd geibio, ac wrthi y bu am yn hir heb weled na chlywed dim. Yr oedd yn gweithio ei oreu glas, a'r chwys yn rhedeg yn ffrydiau dros ei wyneb.

O'r diwedd clywai ryw sŵn gwag odditanodd, a tharawodd ei gaib yn erbyn careg. Wrth dreio'r gaib draw ac yma, yr oedd y gareg yn atsian yn mhob lle. Tybiodd wrth y sŵn gwag fod yno wagle o danodd, a chwiliodd am ei hymyl; cafodd hyd i hwnw, a rhoes flaen ei gaib o dan yr ymyl a rhoes flaen ei droed ar y pen arall, a phwysodd ei oreu, ond nid oedd yn yswigiad. Daeth i'w ben i roi brisgyn dan ei gaib, ac felly dreio ei hysgwyd, ond nid oedd ddim yn chwimio. Rhoes ail gynyg, dyma hi'n gwyntio, a chyda hyny dyma wynt ofnadwy yn d'od allan, a'r ysgrechfeydd cethinaf i'w clywed i lawr yn rhywle yn nyfnder daear. Ar hyn hefyd, daeth rhyw ysgerbwd annaearol, i fynu o'r ddaear, heb ddim cnawd yn agos ato; dim ond yr esgyrn moelion. Y penlglog heb ond ceudyllau lle bu'r genau, y llygaid, a'r clustiau! Asenau yn rhes bob ochr, ac esgyrn y breichiau a'r dwylaw heb ddim am danynt! Safodd y drychiolaeth yn syth ar y gareg, ac agorodd ei safn amryw weithiau; a chlywodd Cadwaladr Lewis ryw lais dwfn yn dywedyd "Ni ddaeth yr amser eto." Ar ol d'od dipyn ato ei hun meddyliodd am ddianc i ffwrdd, ond ni fedrai symud pe cawsai'r byd am ei boen. Yr oedd rhywbeth wedi rhwymo ei draed fel na allasai ysgogi. Yno y bu nes y canodd ceiliog y Felin; ond pan seiniodd mab yr iar y gloch ddydd, diflanodd yr ysgerbwd, a chafodd yntau ei draed yn rhydd, a gellir coelio iddo fyned adref yn nghynt na chynta' gallai, a thyna fu diwedd cynyg Cadwaladr Lewis wrth chwilio am arian daear.

Y PLAS A GYTHRYBLID GAN RYWBETH.

RYWBRYD yn ystod mis Awst, tua naw mlynedd yn ol, yr oeddwn ar "daith yn nhir y de," ac ar fy hynt daethum i le o'r enw Pont Newydd, ar y ffordd rhwng Lanfair-yn- Muallt a Rhaiadr Gwy. Pan oeddwn yn dyfod ar hyd y ffordd fawr, yr oedd rhyw deimladau trwmbluog yn llen wi fy mynwes. Yr ydoedd yn nosi'n drwm, a phob peth o'm deutu'n swnio, ac yn edrych yn bruddglwyfus. O'r diwedd, cyrhaeddais y lle a enwyd, ac aethum i'r Gwesty er mwyn cael tamaid o fwyd a llymaid o ddiod; ac os oedd modd, lety noson. Erbyn myned i mewn, yr oedd yno chwech neu saith o ddynion pur barchus yr olwg arnynt yn "difyru uwch ben diferyn" o rywbeth, pe buasai'n waeth o ran hyny pa beth.

Yr oedd yno gegin lanwaith helaeth, a phob peth ynddi yn edrych yn lân a threfnus. Eisteddais i orphwyso yn eu cwmni, a ches lasiad o Sider o dan gamp gan wraig y tŷ yr hon a edrychai yn llawen, fwyn, a charedig. Pan aethum I yno, fel y deallais wed'yn, yr oedd un o'r rhai oedd yn eistedd yn adrodd chwedl oedd wedi ei chlywed yr wythnos cynt, am ddigwyddiad hynod oedd wedi cymeryd lle mewn cwr o sir Faesyfed, heb fod yn rhyw bell iawn o Fynachlog y Cwmhir. A thyma'r hyn a loffais I o honi. Yr oedd yno ŵr a gwraig newydd briodi, ac mewn awydd mawr am gael lle i fyw. Gan fod gan y wraig gynnysgaeth dda, a chan y gŵr lawer o dyddynod yn ei eiddo ei hun, heblaw swm mawr o arian a gafodd ar ol hen ewyrth iddo, yn ol llythyr cymun ei dad;-felly yr oeddynt yn gyfoethog, ac yn naturiol yn chwilio am le amgen na chyffredin. Bu'r ddau, a'u teuluoedd, yn edrych allan am le cymwys am yn hir, ac yn ffaelu cael eu plesio am dro : ond o'r diwedd cawsant ar ddeall fod Syr Hwn-a-Hwn, (gwell peidio rhoddi'r enw'n llawn, gwnaiff y ffug-enw hwn y tro), am osod hen balas ag oedd wedi bod yn wag er's amryw flynyddoedd;—yn wag er's rhai ugeiniau, oddigerth fod yno un hen wreigan yn cysgu ynddo, ac yn cadw tân o'r naill ystafell i'r llall. Ni chysgai yr un o'r gweision yn y tŷ pe blingid hwy: os yr arosent yno am ddwy noson pan ddeuent yno gyntaf, byddent yn sicr o fynu cael myned allan i'r ystablau neu rywle, neu ymadawent oddiyno rhag blaen. Er nad oedd y perchenog yn ei ollwng ef o'i law un amser; oblegyd yr oedd hyny yn ewyllys yr hen lanc a'i rhoddes ef i'r teulu, sef nad oedd y lle fyth i gael ei osod i eraill, ond i gael ei gadw yn rhan o leoedd byw Syr Hwn-a-Hwn o oes i oes yn ddiball. Yr oedd o leiaf dair oes wedi myned drosodd er pan oedd wedi d'od yn eiddo'r teulu anrhydeddus, ac yr oedd pob un o'r teulu, rywbryd yn eu hoes, wedi gwneud cais am fyw ynddo, ond ni bu'r un o honynt erioed ynddo fwy na dwy noson olynol, ac nid oedd neb yn medru dyfalu paham ar y cyntaf; ond daeth y peth yn chwedl pen gwlad o dipyn i beth, ac nid oedd dim cyfrinach yn mysg bobl ag oedd yn byw o gwmpas, paham nad oedd yno neb yn aros yno ddim ond am gyn lleied ag y medrent. Bu'r lle yn wag am hir feithion flynyddoedd, er hyny, cedwid ef yn drefnus; oblegyd yr oedd yn rhaid gwneud hyny yn ol y rhoddiad. Aeth sï ar led fod y palas ar osod, ac nid oedd na byw na bywyd, i'r gŵr ieuanc oedd newydd briodi, gan ei wraig, nad elai heb atreg i chwilio am dano. Myned a wnaeth ryw ddiwrnod hefog ewyrth iddo at y neb a edrychai ar ol y lle, er mwyn cael gwybod a oedd rhyw sail i'r son a wneid, a cha'dd wybod gan hwnw, na osodid mo'r lle, ond ei fod yn meddwl "y cai fyned yno i fyw, heb na threth na degwm, am yr hyd y mynai; yr oedd yr un ag oedd wedi bod yno y rhan oreu o gan' mlynedd newydd farw, ac nid oedd neb yn tywyllu mo'r fan ond gefn dydd goleu er pan fu hi farw." Dywedodd y deuai, os ewyllysient, y diwrnod hwnw at yr hwn a'i pioedd, ac y caent felly sicrwydd yn nghylch y peth. Myned a wnaethant, a chawsant Syr Hwn-a-Hwn yn ei lyfr-gell: caed derbyniad croesawus, a phan glywodd eu neges, dywedodd ar unwaith na osodai mo'r palas, ond bod cyflawn groesaw i'r gŵr ieuanc fyned yno i fyw am yr hyd a ddymunai, ac y cai le i gadw ychydig o wartheg a cheffylau am ardreth resymol, yn y dolydd gerllaw iddo. Gwnaed y cytundeb yn ddinac, ac wed'yn cychwynwyd tua thref yn llawen o herwydd pa mor ffodus a fuant y diwrnod hwnw. Wedi cyrhaedd adref nid oedd yno ddim ond llawenydd, ac nid neb a lawenychai yn fwy na'r wraig ieuanc, pan wybu fod y palas i'w gael. Yr oedd hi ar unwaith yn ei meddwl yn dechreu trefnu pethau ynddo. Yr ystafelloedd a'r dodrefn. Y morwynion a phob peth; a chan eu bod yn cael y lle am ddim yr oedd am dori tipyn o gyt er mwyn dangos i'r wlad yn enw dyn, eu bod hwythau yn rhywun. Garwydyw'r byd am fod yn rhywun!

Paratowyd i fyned yno'n union deg, a lle hynod o dlws ydoedd. Safai'r tŷ ar gwm gwastad lled eang, drwy ganol hwn yr ymddolenai afon loyw. Ar gyfencyd yr oedd bryniau coediog yn graddol a diog ymgodi: tra o'r ochr arall ymsythai mynydd serth wedi cael ei wisgo'n dewglyd hefo grug a mwsogl. Yr oedd y gwastadedd wedi cael ei ranu'n ddolydd mawrion, a'r cloddiau'n llawn o goed iraidd gan mwyaf o goed afalau perion. Yn gylch o gwmpas y palas yr oedd derw canghenog, ynn talfrigog, masarn deiliog, a ffinwydd talog: mewn gair, yr oedd yn un o'r lleoedd prydferthaf a ellid weled yn y rhan hono o'r wlad. Yr oedd yno hefyd bysgodlyn o flaen y drws, ac elyrch cyn wyned ag eira yn araf nofio, hefo'u gyddfau bwâog o'u hesgyll ymchwyddog, ar hyd ei wyneb mandonog. Ofer crybwyll am y gwelyau o flodau symudliw, a'r gerddi ffrwythlon, yn nghyda'r berllan drefnus oedd gerllaw iddo; gan hyny, awn i mewn i edrych pa fath olwg sydd yno,

Nid oedd modd fod dodrefn gwell, eu hunig fai a'u prif brydferthwch ydoedd eu bod yn bur hen. Y mae'n wir fod ryw fath o leithder awyrol yn yr ystafelloedd: ond nid oedd hyn ond effaith peidio ag agor y ffenestri, a diffyg goleu tanau: deuai pethau fel hyn i'w trefn yn bur fuan wedi cael pobl iawn i fyw ynddo. Daeth y par ieuanc yno hefo'u gweision a'u morwynion, ac yr oedd pob peth yn addaw hawddfyd iddynt yn eu lle newydd. Caed pob peth i drefn yn fuan, a choeliai pawb fod llawenydd a dedwyddyd yn aros ac am fod yn eu plith. Ond, "Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog," ac nid wrth y diwrnod a'r noson gyntaf yr oedd barnu pa fodd y digwyddai yn y plas. Tua haner nos, pan oedd pawb yn eu gwelyau y noson gyntaf, clywid y drysau yn dechreu clepian, a sŵn gwynt mawr yn suo drwy'r coed llwyfen oedd yn rhes yr ochr draw i'r pysgodlyn, a rhyw dwrw cerdded hefyd o'r naill fan i'r llall. Deffroes pawb drwy'r tŷ, ond ni fedrodd neb gael ar ei feddwl godi. Ysgydwai'r muriau fel llong mewn tymhestl, neu'r coed gan gorwyntoedd, ac yna distewai'n ddisymwth. Tua dau o'r gloch caed heddwch. Sisialai'r gweinidogion y bore dranoeth, ac yr oedd dau neu dri o honynt wedi cael digon ar eu hoedl yn y fath le, a phenderfynasant fyned at eu meistr a'u meistres mor fuan ag y deuent i lawr i ddweyd na fedrent aros yno am un noson wed'yn. Yn wir yr oedd y cwbl yn hollol o'r un feddwl a theimladau, ond fod rhai o honynt yn fwy tafodog, ac yn haws ganddynt ddweyd yr hyn oedd ar eu calon na'r lleill. Ar ol i'w meistr godi aed ato, a dywedwyd wrtho nad oedd dim posibl byw yno,—eu bod ganwaith wedi clywed son am y twrw a'r trwst a gedwid gan Rywbeth yn y plas, ond na choeliasant neb tan y noson hono. Na chymerasant yr holl fyd am geisio byw yno. Crefodd yntau arnynt aros am un noson wed'yn. Fod y wraig yn sâl iawn wedi dychryn, ond meddai, hwyrach y daw pethau yn well. Ar ol ystyried am dipyn a siarad a'u gilydd, ac ymresymu'r y naill hefo'r llall, gaddawasant aros am y noson nesaf, ac yna'r aed oll at eu gorchwylion, naill at y peth yma a'r llall at y peth arall. Yr oedd y diwrnod hwnw yn myned heibio yn rhy gyflym o'r haner, a chas beth pob un o honynt oedd meddwl am y nos. Yn ystod y dydd ni welodd neb mo'u meistres, a choelid ei bod hi yn sâl iawn, ond pan aeth un o'r merched i'w hystafell nid oedd yno un hanes o honi. Methid a deall i ba le yr aethai !

Daeth eu meistr atynt i'r gegin ac ni soniai air am dani hi. Cafodd pawb ddechreunos digon dyddan, ac yr oedd pawb yn ceisio dangos ei fod ef yn ddi ofn pwy bynag oedd fel arall. Ond fel y gellid gweled galar y weddw yn ei dagrau crynion, er y bydd yn treio gwenu ar ryw ddigwyddiad trwstan diniwaid, felly hefyd yma, hawdd oedd gweled nad ellid galw eu llawenydd ond llygiedyn o haul rhwng dwy gawod o wlaw. Arosasant ar eu traed hyd nes oedd "un-ar-ddeg yn agos:" ac yna hwyliwyd am eu gwelyau. Cyn ymadael dywedodd y gŵr ieuanc fod ei wraig wedi dianc adref er y bore, ac buasai yn dda ganddo gael cwmni un o'r llanciau am y noson hono. Ond ni chai un fyned heb y llall, a'r ddau a aethant er mwyn bod hefo'u gilydd. Prin y cawsant fyned i'w hystafell nad oedd yno rywun yn curo wrth y drws; aeth y tri yno gan feddwl nad oedd yno ddim y pryd hwnw ond y merched yn d'od i'w dychryn; agorwyd y drws ond nid oedd yno neb. Cauwyd ef wed'yn yn ddyogel. Yn fuan dyma dri chnoc trwm ar y ddôr drachefn. Ond ni wnaethant ond neidio i'w gwely oddieithr y meistr ieuanc, yr hwn ei hun yn awr a aeth at y drws ac agorodd ef yn llydan, ac fe aeth allan i ben y grisiau a'r ganwyll yn ei law. Pan yno, clywai, dybygai, rywbeth yn llithro ar hyd y canllaw yn drwm, gan sŵnio yn bur debyg fel ag y bydd eira'n tyrfu wrth lithro'n araf hyd y to pan fo hi yn dadmer. Ar hyn clywai waedd ddychrynllyd yn ei ystafell ei hun, a pha beth oedd yno, meddai'r llanciau ar ol hyn, ond dynes heb un pen ganddi yn sefyll wrth y ffenestr. Yr oedd hwnw, sef y pen, yn cael ei droi o gwmpas ei ben ei hun gan ddyn mawr a safai wrth draed y gwely: yr oedd yn gafael yn mlaen y gwallt! Aeth y meistr atynt a'r ganwyll yn ei law; ond pan yn d'od oddiwrth ben y grisiau, clywai rywun yn cerdded o'r tu ol iddo. Troes i edrych, ond ni welai ddim. Pan gyrhaeddodd yr ystafell o'r hon y daethai allan, yr oedd hono'n llawn o ryw darth tew llinynog, ac o'r braidd y cyneuai'r ganwyll ynddo. Yr oedd y llanciau, druain, yn ceisio ymguddio o dan dillad y gwely, ac yn wylo'n dorcalonus. Safodd yntau yn y tawch yn ddiysgog, a dechreuodd groesi ei hun a dywedyd ei Gredo a'i Bader. Pan ddaeth at enw'r IESU yn y Credo, cliriodd pob peth ar darawiad amrant, a goleuodd y ganwyll fel o'r blaen. Meddyliodd yn awr fod pob peth drosodd, ond nid cynt nag y diffoddodd y ganwyll nad oedd y tŷ drwyddo draw yn ferw cynddyrus drachefn o ben i ben. Ysgydwid y gwelyau: ysgytid y llofftydd, cauai ac agorau y drysau, a chlywid ambell dro sŵn cadwynau yn singl-sanglo yn eu gilydd. Felly ar ol hir oddef, daeth yn blygain, ac ymadawodd pob peth a aflonyddai, a chaed y tŷ yn glir a thawel. Pan wawriodd bore dranoeth, cododd y llanciau, ac ni welwyd yr un o honynt yno am fynyd yn hwy nag y medrasant agor y drws a myned allan. Y merched, hwythau, ar ol cael noson flin aflonydd, a ddechreuasant hel eu dillad yn nghyd cyn gynted ag y daethant dros yr erchwyn, ac nid oedd yno neb yn y plas ond y meistr yn unig yn mhen ychydig ar ol iddi ddyddio. Cododd yntau, ac ar ol aros tipyn yno i edrych o'i gwmpas ac i ryfeddu pa beth a allai fod yr achos o'r cynhwrf dychrynllyd, cychwynodd tuag adref ar ol cloi'r drysau. Pan ar y ffordd, cyfarfyddodd â Meddyg ieuanc, yr hwn a adwaenai er pan oeddynt eu deuoedd yn blant. Gofynodd hwnw iddo, gan wenu, pa fodd yr oedd y pethau yn troi allan y plas? a dywedodd yntau wrtho'r holl helynt. Ymadawsant y pryd hwnw heb ddim byd yn neillduol rhyngddynt heblaw fod y Meddyg yn gwrando'n astud ar bob peth a ddywedodd wrtho.

Aeth adref a chafas ei wraig yn drymglaf, a'i theulu mewn syndod dirfawr wrth glywed eu hanes o'r pethau a welsent ac a glywsent yn y plas. Cyn y nos daeth y Meddyg yno i chwilio am y gŵr ieuanc, ac i ddymuno arno dd'od gydag ef am un noson i'r plas, er mwyn cael gweled, os oedd modd, pa beth oedd gwir achos yr holl gynhwrf a'r rhith-ymddangosiadau hyn. Coeliai'r Meddyg nad oedd y cwbl ond effaith rhyw nwy, ac fod yn bosibl rhoi terfyn ar y cyfan. Ar ol cryn ystyried, addawodd fyned, ac felly, hwyliasant eu hunain yn gysurus gogyfer a'r hyn oedd o'u blaen. Yr oedd gan y Meddyg gostowci milain a chryf gartref, a phenderfynodd fyned a hwnw yn nghyda llaw-ddryll a chleddyf yno, rhag na byddai dim diffyg arfau, os y byddai galwad am danynt. Aethant i'r plas yn lled gynar, a dechreuasant hwylio gwneud tân mewn un ystafell,—yr ystafell ag y bu'r gŵr ieuanc ynddi y ddwy noson cynt; a chan fod yno ddigon o gynud sych wrth law, nid rhyw hir y buont nad oedd yno ddigon ohono. Yr oedd y ddau yn hapus ddigon yn sôn am y peth yma neu'r peth draw, a'r ci mawr yn gorwedd yn dawel o flaen y tân. Rhwng un-ar-ddeg a haner nos, dyma'r ci yn codi ei glustiau ac yn eu moelio yn enbyd: cododd ar ei golyn; clustfeiniai'n astud. O'r diwedd cododd yn sydyn ar ei draed, ac edrychai at y drws, ac yna at ei feistr. Ni ddywedodd neb yr un gair, ond dyma fo'n dechreu crynu ac yn ymwasgu rhwng coesau'r Meddyg. Nid oeddynt hwy yn gweled nac yn clywed dim. Ar hyn, dyma dwrw cerdded oddiwrth ben y grisiau at ddrws eu hystafell hwy, ac yna dyna dri chnoc ar ddôr. "Dewch i mewn," ebai'r Meddyg, a gafaelodd yn ei law-ddryll, "Dewch i mewn. Yr oedd arnom eisiau cael cwmni." Ac at y drws ag ef; ceisiodd ei agor, ond ni fedrai mo'i chwimiad. Ar hyn, gwelai, pan droes at y tân, ddyn yn sefyll a'i gefn at y simneu, ac fel yn rhoi pwys ei gefn ar y fantell, a'i ddwylaw o'r tu ol o dan gynffon ei gôt. Gofynodd i'w gyfaill nesu oddiar y ffordd y saethai ef beth bynag oedd yno: ond dyma rywbeth yn gafael yn ei ddwy fraich o'r tu'n ol ac yn ei gyffio ar unwaith. Ceisiodd waeddi, ond ni ddeuai ei lais allan. Yr oedd ei gyfaill yn eistedd ar erchwyn y gwely, ac yn gwylied crwydriadau ryw oleu bach gwyrdd a dreiglai hyd y llawr. O'r diwedd dyma fe'n cynyddu'n bêl goch, ac yn suddo i'r coed. O'r fan yr aeth y tân o'r golwg, dyma lawyn d'od allan! Cipiodd yntau y cleddyf oedd ar y bwrdd a cheisiodd i thori. Ond er iddo roddi'r cleddyf drwyddi laweroedd o weithiau, dyna lle'r oedd hi o hyd. Edrychodd arni yn graff, a phan oedd yn gwneud hyny, teimlai y llofft o dano fel yn codi bob mymryn. Meddyliodd y pryd hyny am ofni," "ond na," meddai wrtho'i hun, er fod arnaf arswyd, cadwaf fy meddwl yn lân oddiwrth ofn. Nis gall y pethau rhyfedd hyn wneud dim niwaid i mi, os y medraf gadw fy MEDDWL yn glir." Ond yn awr dechreuodd pethau edrych yn hyllach o'r haner nag o'r blaen. Daeth cloben o neidr anferth i mewn o dan y drws, ac ymlusgai i'r gwely, a thyma ryw greadur arall anferthach fyth yn ei dilyn, ac un arall ar ol hyny, a danedd ganddo fel danedd og, a'r rhai hyny yn dân byw. Ac o gwr arall i'r ystafell, heb fod yn mhell o'r fan y gwelwyd y llaw, dyma ryw wreichion mân yn dechreu codi allan, ac yn hedeg o amgylch-o-gylch yr holl le. Rhyw fath o chwysigenod bob lliw a llun,-rhai gwyrddion, rhai cochion, rhai melynion, rhai glas-gwan, ac eraill rhudd-goch fel tân marwor. Hedent yma ac acw,-i lawr ac i fynu, ac o'r diwedd dechreuasant ymffurfio yn fath o ddrychfilod anolygus, cyffelyb i'r bwystfilod cethin a welir gyda chwydd-wydr mewn diferyn o ddwfr, ac yna dinystrient a llyncent y naill y llall. Ond yr oedd yr ystafell yn llawn o honynt: yr oeddynt hyd fy nillad, yn cripio hyd fy ngwyneb yn llenwi fy ffroenau, ac yn ymlusgo hyd fy nghlustiau! Yr oedd y tân hefyd yn ymddangos fel pe wedi diffodd, a'r ganwyll yn pallu goleuo. O'r diwedd, dyma'r sarph dorchog oedd wedi dolenu o gwmpas post y gwely, yn llyncu pob trychfil o honynt, ac yn siag-wigio'r ddau beth hyll a ddaeth i mewn ar ei hol, ac yna'n ymchwyddo, nes oedd yn haner llonaid yr ystafell, ac yn trawsffurfio ei hun i fenyw brydferth tua phump ar hugain oed! Yr oedd y ganwyll erbyn hyn wedi d'od i oleuo fel cynt, a'r tân lawn mor siriol ag oedd pan ddaeth y pethau i'n cythryblu. Ond nid oedd yno ddim hanes o'r Meddyg. Safai'r ffurf yno'n ddiysgog. "A minnau," ebe'r gwr ieuanc wed'yn yn mhen blynyddoedd, "a geiriau ddigon ar fy nhafod, ond yn fy myw nis medrwn eu hysgwyd allan." Diflanodd hon yn araf drwy y ffenestr, ac yna nid oedd ond y gŵr ieuanc yn yr ystafell, a phob peth o'i mewn oedd fel cynt, heb eu rhwygo na'u cyfnewid. Eisteddodd wrth y tân am enyd hir i edrych a ddeuai ei gyfaill ddim o rywle yn ol. Wedi blino'n disgwyl a phob peth yn llonydd, aeth at ben y grisiau: ond ni welai ddim arlliw o hono. Aeth yn ei ol, ond pan wrth ddrws ei ystafell dyma ddyn yn sefyll o'i flaen,—dyn mewn dillad hollol wahanol i ddim a wisgir gan neb sefyllfa yn y dyddiau hyn. Rhoes ei law ar ei ysgwydd, yna diflanodd! Yr oedd y tân erbyn hyn yn dechreu myned yn isel, a'r ganwyll wedi byrhau cryn lawer; aeth yntau i mewn i'r ystafell, ond ni chauodd y drws. Eisteddodd yn y gadair ger hyny o dân oedd yno. Ond cyn cael hamdden i feddwl dim, dyma gorach o hen ŵr wrth ei ffon i mewn, a rhoes dro ar y llawr a dywedodd,—"Mi fum I yma'n byw." Yna diflanodd gan daro ei phon deirgwaith yn y ddor wrth fyned allan. Daeth un arall ar ei ol,— dyn canol oed, a golwg bruddglwyfus arno;—ei wallt yn llywethau hirion, a'i wyneb rheolaidd a phrydferth fel yn arwyddo dyn o feddwl a threiddgarwch digyffelyb. "Cefais inau'r lle gan fy nhad, a rhoddais ef i Dduw." Syn-safodd hwn yno ar ol siarad, ac wrth ymadael ymgrymodd yn foneddigaidd. Dywedodd y gŵr ieuanc yn awr wrtho'i hun, "Mi ddywedaf finau rywbeth trwy gymorth, wrth bwy bynag a ddaw yma nesaf." A chyda'r gair, dyma ryw dduwch mawr yn d'od drwy'r drws. Yn wir yr oedd yn ei lenwi, ac yr oedd rhywbeth yn ei ffurf yn debyg i ddyn: yr oedd ganddo lygaid fel dwy bellen werdd, a rhai hyny yn edrych drwy rywun. Ac anadlai arogl brwmstanaidd. Siglai'r tŷ fel rhedynen mewn gwynt yn niwedd y flwyddyn, a thybiai'r dyn druan y melid ef yn eisin sil heb ball nac aros. Ond cyn iddo lwyr lewygu gan ofn, dyma lais dwfn cras yn dywedyd wrtho, "Bu'r lle hwn yn eiddo i mi." Yna bu distawrwydd trwyadl am ronyn. "Y mae trysor allan: ond pwy a'i caiff." Yna corwyntoedd allan drwy'r drysau, nes oedd pob man yn crynu ac yn crensian. Yr oedd y gŵr ieuanc bron iawn a darfod am dano: ond yn y cyfamser dyma ddyn ieuanc glandeg a mwyn yn d'od i fynu drwy'r llawr, bron o dan ei draed. "Tyred allan ar frys," ebai, a gafaelodd yn y gŵr ieuanc. Aeth ag ef allan, a thrwy'r berllan, ac i lawr i ddyrysle dreiniog a mierïog. Tarodd ei law wrth fon coeden yno; safodd am fynyd heb chwifliad. Dyma'r lle: cloddia yma: cei drysor. Yna gafaelodd ynddo drachefn a chymerth ef i'r ochr bellaf i'r pysgodlyn; ac wedi cyrhaedd cwr y coed, safodd drachefn a dywedodd, "Agor a thiria, yna wrth fon y goeden cei olwg ar beth gwerth ei gael, ac yna ceir llonyddwch yn y plas." Yna fel olwyn o dân aeth ymaith gan adael y gŵr ieuanc yn y coed. Ni wyddai yn awr pa un ai yn nghwsg ai yn effro yr oedd, a dechreuai chwys oer ddyfod trosto, a chryndod iasaog ei feddianu. Nid oedd na siw na miw i'w glywed yn un man. Pob man a pheth mor ddistaw a'r bedd llonydd ei hun. Cododd yn mhen tipyn a cheisiodd gerdded, ond gollyngai ei aelodau ef. Ni ddalient mo hono ddim. Dwfn ocheneidiai yn ei galon, a gwaeai weled y nos hon erioed. Aeth i feddwl gweddio, ond yr oedd yn rhy lesg a di-yni at y gwaith. Methai ysgwyd ei dafod, ac ni symudai ei yspryd. Pan yn y trybini hwn, clywodd geiliogod y tai oddeutu yn cyhoeddi plygain; siriolodd hyn beth arno, ac aeth yn araf deg gan afael yn y coed at y plas. Yr oedd yn disgwyl o hyd fod y Meddyg yn rhywle o'r cwmpas. Wedi cyrhaedd yno; (nid oedd dim arswyd mwy, oblegyd yr oedd wedi pasio caniad y ceiliog), aeth i mewn o lech i lwyn, ond nid oedd yno neb ar ei gyfyl. Rhoes goed ar y marawydos, ac yna gorweddodd ar y gwely: pan oleuodd y tân gwelai'r ci yn un clap wedi ymwthio i ryw gornel fach, ond ni feddyliodd fod dim ond effaith dychryn arno. Erbyn iddi wawrio ac iddo yntau agor y ffenestr, gwelai fod y ci wedi marw yn gelain gegoer, a bodolion mathru a gwasgu arno. Synodd pa beth a allai fod wedi dyfod o'r Meddyg, a dechreuodd fyfyrio pa'r un oedd goreu iddo, ai myned i'r lle bu gyda'r dyn (os dyn oedd efe hefyd) yn ystod y nos, ai ynte myned adref a pheidio byth wed'yn a d'od ar gyfyl y lle, na son gair am a welodd ac a glywodd. Bu rhwng dau feddwl am dipyn; ond o'r diwedd dechreuodd ochri o blaid gwneud cais, poed a fo, i weled a oedd yno rywbeth ai peidio. Yn chwil fore aeth a rhaw bâl ar ei gefn at y lle, yn y sinach, yr ochr bellaf i'r berllan, a daeth o hyd i'r fan a nodwyd iddo heb rhyw lawer o drafferth. Dechreuodd balu a chloddio, ac ofn erbyn hyn wedi cymeryd lle arswyd; pan yn cloddio, daeth ar draws careg wastad, ac o dan hono dyma grochan pridd lled fawr, ac yn hwnwyn uchaf peth yr oedd rhol o femrwn. Cododd y memrwn a gwelai bethau eraill digon cymeradwy yr olwg arnynt o dano, ac yn eu mysg ddysgl wen a dŵr ynddi. Cauodd y lle yn ol, ac ni chymerth ond y meinrwn yn unig gydag ef ymaith. Troes ei wyneb tuag adref yn dra diffygiol; er hyny, erbyn hyn, yr oedd yn fwy ystig nag y buasid yn meddwl; oblegyd yr oedd yr hyn a addodd ar ol ei weled, yn ymyl y berllan, wedi ei fywiogi yn anwedd. Pan wedi myned gryn encyd oddiwrth y plas, cwrddodd brawd i'w wraig ef mewn cerbyd, ac felly cyrhaeddodd adref; ond heb fwyta un tamaid nag yfed un gyffiniad aeth i'w wely, a chysgodd; ac yn y cwsg poeth berwedig hwnwy bu am fwy na naw niwrnod yn ddi-dor! Pan yn y dwymyn boeth, yr oedd yn siarad peth enbyd am yr hyn a welodd; a chan ei fod yn anhawdd ar brydiau ei ddal yn ei wely, galwyd am yr hwsmon yno i'w wylied, —yn ei glefyd yr oedd wedi colli arno'i hun, ac yn siarad hefo'r pethau a weles yn ddi-ball. Ac nid oedd dim yn fwy aml ganddo na'r crochan pridd, a'r lle arall yr ochr draw i'r llyn wrth fcnyn y goeden, &c. Coelient oll mai wedi dyrysu'r oedd, ac nad oedd y cwbl a draethai ond creadigaethau ffansi, wedi cael ei gollwng yn rhydd oddiwrth ofal rheswm. Bu felly yn y cyflwr gwyllt hwn am yn agos i bythefnos, a phan ddechreuodd droi ar fendio, hir ac anniben fu heb dd'od ato'i hun fel cynt.

Yn awr, pa le'r oedd y meddyg? Bu ef ar goll am ddeuddydd neu dri. A'r pryd y cafwyd ef, yr oedd mewn sefyllfa mor lawn o bob ofnau fel y meddyliodd y rhai a ddaethant ar ei draws mai myned ag ef ar ei union i'r gwallgofdy oedd y peth goreu. Mewn coedwig, ryw ugain milltir oddiwrth ei gartref, yr oedd hen dderwen fawr gafniog. Yr oedd o'r tu mewn yn holwy gwag. Ryw ddiwrnod wrth fyned drwy'r coed, ac ar ddamwain yn pasio'r hen goeden, troes dau ddyn i'w hedrych, ac o'r tu mewn, fel pe buasai wedi marw, cafwyd y Meddyg; yr oedd ganddo law-ddryll llwythog gydag ef, a'i wyneb yn gripiadau dyfnion, a'i ddillad yn llyfreiai gwylltion am dano. Yr oeddynt yn meddwl pan welsent ef gyntaf ei fod wedi marw, ond ar ol nesu ato gwelsant mai cysgu yr oedd; deffroisant ef; ond nid oedd ganddo ddim croen ar ei chwedl, a choeliai y dynion hyn mai wedi yfed ar y mwyaf yr oedd, a bod y pethau gleision hyny wedi ymddangos iddo a'i yru'n wallgof! Cariasant ef at dy tafarn cyfagos, ac yno y cawsant hanes am y "Noson yn y Plas," &c. Aed ag ef adref, a bu am fisoedd mewn sefyllfa beryglus. Gwellhaodd i raddau, ond nid byth fel cynt. Ni ddilynodd ei waith ar ol hyn, ac yr oedd ei olwg hurt yn dangos ei fod wedi cael ei gynhyrfu gymaint fel nad allai byth dd'od ato'i hun fel ag yr oedd cyn i'r peth mawr yma gymeryd lle. A thyna gafas y Meddyg; ond y gwr ieuanc ar ol ychydig o wythnosau a wellhäodd rhag blaen, ac aeth at y plas cyn gynted ag y medrodd; ond er ei fawr syndod yr oedd rhywun wedi bod yno, ac wedi cael hyd i'r crochan pridd, a'i gynwys, chwi a ellwch feddwl. Aeth i'r ochr arall i'r llyn, ac yno dan wraidd hen foncyff o bren mansarn, cafodd goffr derw, ac yr oedd yn rhaid cael gwif i'w dynu'n rhydd. Ond tynwyd ef allan, ac aeth y gŵr ieuanc ag ef adref heb ei agor. Ond pan gafodd ei agor yr oedd yn llawn o drysorau gwerthfawr. Chware teg iddo! aeth dranoeth at Syr Hwn-a- Hwn a dywedodd wrtho pa beth oedd wedi digwydd, a dangosodd iddo'r memrwn. Ar ol ei edrych yn fanwl gofynodd y boneddwr iddo a welodd ef rywbeth yn y crochan heblaw y peth hwnw. "O! do," ebai yntau, "yr oedd yno aur laweroedd, ac yr oedd yno hefyd ryw ddysgl fach a dwr gloyw ynddi, ac ar y dwr yr oedd cnepyn o bren tri-sgwâr yn nofio yn aflonydd. Mi gymerais I hwnw allan ac mi deflais y ddysgl, oblegyd yr oedd yn drewi yn arswydus, ac mi dorodd, ac wed'yn mi a gymerais y memrwm ac a gauais ar crochan gan feddwl myned yno drachefn, ond gan i mi fod yn sàl iawn, nis gellais fyned yno mewn pryd, oblegyd pan aethum nid oedd yno ddim ond lle bu'r crochan a'r oll oedd yuddo; ond mi fum yn fwy ffodus hefo choffr a gefais mewn lle arall, ac yr wyf am i chwi gael gwybod ei gynwys." "O! na," meddai Syr Hwn-a-Hwn, "cymer a gefaist a dyro'r diolch i Dduw am danynt," a bu'n llawen ganddo oherwydd hyn. Cymerth y memrwn, ac ebai'r boneddwr witho pan yn cychwyn adref, "Cymer ofal o hwn yna. Cei lonydd i fyw yn y plas mwy. Dos yno'n fuan a gwna yn fawr o'th ddigwyddiad, a deuaf yno cyn hir i ymweled a thi.” Wrth fyned ar hyd y ffordd adref nid oedd dim ond dau beth yn ei flino, sef colli yr hyn oedd yn y crochan, ac afiechyd parhaus ei gyfaill dewr y Meddyg. Am yr olaf nis gallai wneud dim ond cynyg rhan o'r cwbl a gafodd, ond ni fynai hwnw son am y peth. Ac am y blaenaf daeth i'w ben wneud un cynyg am gael y peth allan. Yr oedd yn gwybod erbyn hyn, fod yr hwsmon gydag ef pan oedd yn ei anhwyl, a phriciodd rhywbeth ef y gallasai ddweyd cymnaint am y crochan pan yn ei glefyd nes peri i'r dyn fyned i'r fan a'r lle i chwilio am dano a'i gael. Aeth adref, a chymerth y memrwn yn ei law, ac aeth at dy'r hwsmon, a thyma fe'n agor y rhôl femrwn, ac yn dweyd mai hwnw a barai'r helynt fwyaf o bob peth. Os y dywedasai'r hwsmon pa faint a gafas, yrholiaiy memrwn yn y fan: ond os na wnai, fe gai'r hwsmon fyned drwy'r un prawf ag yr aeth ef ei hun drwyddo! Dychrynodd yr hwsmon pan welodd y memrwn a rhedodd dan y gwely, ac yno'r oedd y crochan yn haner llawn. Am iddo fod mor anonest digiodd y gŵr ifanc witho. Er hyny, rhoddodd iddo ddigon i fyw yn dawel am y gweddill o'i oes, ac nid oes dadl nad aeth y gŵr yn gyfoethog iawn, ac fe ddywedir fod ei deulu fel yntau yn gyfoethog o hilgerdd ar ei ol. Aeth y gŵr ieuanc i'r plas i fyw, ac ni chlywodd na chynhwrf na chythrwf yno fyth ar ol y noson fawr," a "chlywes fy nhaid ei hun yn doidid pw mor enbid," ebe'r adroddydd, "oidd hi arno fe y nosweth hyni." A thyna ddiwedd y chwedl yna, heblaw crybwyll fod un o deulu cyfoethocaf yn deilliaw o'r gŵr a gafodd yr arian daear.


Nodiadau

golygu