Cymru Fu/Traddodiadau Eryri
← Chwilio am arian Daear | Cymru Fu gan Isaac Foulkes |
Y Crochan Coel → |
TRADDODIADAU ERYRI.
GAN GLASYNYS.
Y DDWY DDRAIG YN LLYN DINAS
PAN oedd Merddin Emrys wedi adeiladu castell i Gwrtheyrn Gwrthenau, myned a wnaeth y brenin i'w ben un diwrnod, a chanfod a ddarfu ddwy ddraig yn ymladd yn y llyn, sef draig goch a draig wen. Ar ol edrych arnynt a sylwi ar y ddwy yn ymornestu mor filain, galwodd ato Merddin Ďdewin, a gofynodd iddo pa beth oeddynt. Merddin yn wybyddus yn nghyfrinion a chel-ddysg ddew- inol yr oesau. a eglurodd iddo, neu ynte a brophwydodd pa wedd y byddai ar genedl y Cymry am ganrifoedd lawer. Y ddraig goch oedd cenedl y Cymry, neu'r Brutaniaid, a'r wèn y Saeson. Neu y ddwy elfen anghydfod. Yr oeddynt wedi cael eu "cuddio" er's llawer oes gan "Lludd ap Beli yn ninas Affaraon, yn nghreigiau'r Eryri," ac yn amser Gwytheyrn y datguddiwyd y cudd, sef y dreigiau. Dywed Nennius i Myrddin egluro cyfrin y dreigiau; a dywed eraill hanesyddwyr, i'r dreigiau ladd y naill y llall, ac i'w gwaed lifo mor ofnadwy nes cochi dwfr y llyn. Ond y goel gyffredin ydyw i'r ddraig a welwyd yn y llyn gyntaf, yr hon oedd dawel a diniwaid, ar ol ffrwgwd echrydus, ladd y llall a daeth ar ei hol i'r dwfr, a chyfodi o honi ar ol diwedd yr ymgyrch uwchlaw gwyneb y llyn, ac ysgerbwd ei gwrthwynebydd ganddi ar ei chefn, a'i bod yn fflamgoch o waed ei hymosodydd. Iddi, er cael ei briwo'n dost aethus, orchfygu; ac er hyny daeth Pendragon yn gyfenw unbenol ar ein Tywysogion, yn enwedig y rhai a lywyddent eu byddinoedd yn erbyn eu gelynion, a thyna ddechreu yr hen ddywediad milwrol ac unbenaethol, "Y Ddraig Goch a ddyry gychwyn."
O. Y. Y mae'n wir i Deio ab Ieuan Ddu ddefnyddio'r llinell, mewn Cywydd o'i eiddo yr hwn sydd yn Ngorchestion Beirdd Cymru, yn llawn llythyr, ond er hyny y mae'n debyg mai dihareb gyffredin ydoedd o oes lawer hynach.
OGO'R GWR BLEW.¹
"Ac yn ngheunant afon Ierch² (yn Nanhwynen³) y mae ogo'r gwr blew; yr hwn gynt a ddaeth i'r Ty'n 'r ow all⁴ (ychydig islaw'r Ogo) lle yr ydoedd gwraig ar ei gwely, ac ei hun yn unig yn y tŷ, o ran fod rhai o'r teulu wedi myned i'r llan, (yr hwn hefyd oedd yn yr ymyl yno, fel y cewch glywed yn y màn,) i fedyddio'r plentyn, a'r lleill yn edrych ar ol rhyw beth allan; ond roedd y drws yn gaead, fe a estynodd ei law flewog dros y drws, ar fedr ei agor, pan welodd y wraig hyn hi a dorodd y llaw yn wrol â'r fwyall, a phan ddaeth y bobl adref nhw a olrhanasant y gwaed hyd yr eira tan na ddaethant i'r ogo a elwir hyd heddyw "ogo'r gwr blew." Yn agos yma yn y bu lan⁵ yn yr hen amser; mae sylfaen'r eglwys i'w gweled eto; ag a elwir y Tyddyn oddiwrth hyny Hafod y llan. Yn ymyl Llan Trawsfynydd y mae Tomon y mûr, neu lys Ednowen Bendew,⁶ un o 15 llwyth Gwynedd. Yn nglan Llyn Dinas y mae 3 bedd⁷ a elwir:—Bedde'r tri llanc, a 3 thri gŵr, a 3 milwr, (sef milwyr Arthur,) a bedde'r gwyr hirion: a 2 fedd a elwir Bedd y Crythor a'i wâs, neu fedd y Crythor du a'i wàs. A rhwng y Dinas a'r llyn y mae Bedd Sr. Owen y Mhaxen,⁸ yr hwn a fu yn ymladd a'r cawr a phellenau dûr, mae pannylau yn y ddaear lle'r oedd pob un yn sefyll i'w gweled eto, mae rhai eraill yn dywedyd mai ymladd â saethau yr oeddynt, a'r pannylau a welir heddyw yno cedd lle darfu iddynt gloddio i amddiffyn eu hunain, ond ni escorodd yr un mo'r tro. Pan welodd y Marchog nad oedd dim gobaith iddo fyw fawr hwy; fe ofynwyd iddo p'le y myneu gael ei gladdu, fe archodd saethu saeth i'r awyr, a lle y disgynai hi y gwnaent ei fedd ef yno.
Un o filwyr Arthur a'i enw March⁹ (ne Parch) ymherchion oedd hyna Castellmarch yn Llŷn; yr hwn oedd ganddo glustiau march (tebyg i Midas), a rhag i neb wybod hyny'r oedd ef yn lladd pawb ar a oedd yn ei geisio i dori ei farf, rhag na fedrai ef beidio a rhoi'r gair allan a lle'r oedd ef yn claddu nhw y tyfodd cyrs, a thorodd rhywun un o'r rhai'n i wneuthur pîb, ni chanai'r bîb ddim ond "Mae clustiau march i Barch y Meirchion;" pan glybu'r milwr hyn braidd na buasai'n lladd y dyn gwirion oddiwrth hyny, oni bai iddo ef ei hun fethu a gwneuthur llais arall yn y byd ar bib; ond ar ol gwybod lle y tyfasai y Gorsen, ni cheisiodd ef na chelu'r mwrdwr na chuddio'i glustiau ddim yn hwy.
Hwn a ddygodd Esyllt gwraig Trustan (neu Drustan ei wraig ef, nis gwn pa ryw un, ond pa ryw un bynag, nid o'i hanfodd hi,) ag a ffoes i'r coed hefo hi, ac nid oedd ef yn dyfod i'w dalfa nhw y rhai oedd yn ceisio cytuno'r ddwy blaid, gan ddywedyd haws yw dyddio o goed nag o gastell, ond ar ol hir grefu efe a fu yn foddlon i roi ar farn Arthur, yr hwn a farnodd i un i'w chael hi tra byddai'r dail ar y coed, a'r llall i'w chael hi tra byddai'r coed heb ddail, ag i'r gwr priod i gael ei ddewis gyntaf, yr hwn a ddewisodd ei chael hi tra byddai heb ddim dail ar y coed; hithau a atebodd yn llawen, "Bendigedig yw Barn Arthur ; Celyn, Eiddew, ac Yw, Ni chyll mo'i dail tra b'o nhw byw." A'r gŵr a ganodd fel hyn neu ryw un trosto.-"Tybygaswn, teg Esyllt, ffriw dirion, ffrwd oerwyllt, gwawr raddol, eurad wallt, (neu gwawr raddol ireidd wyllt, neu gwawr rudded eurad wallt, neu wyllt yn lle gwallt os oes y fath air yn arferedig,) gwiw roddiad gad gain; Na, besit bûn weddaidd, gnwd eira, gnawd iredd, gwadolwedd, mawr foledd mor filain."
Tair gwaith y sylfaenwyd Capel Gwyneu, ac yn ol darogan Rhobin (neu Ddafydd) ddu, y mae eto, ag a fydd byth, yn anorphen, sef heb ei gysegru. Hafod Lwyfog₁₀ a enwir felly o ran fod yno brenau Llwyfane, ond heblaw yr enw hwnw, mae iddi enw arall mewn Cywyddau, sef Hafod Lwyddog. Yr achos fod coed yn ngwaelod llynau wedi eu tori, yw o ran bod coed cyn amled mewn dyffrynoedd ag na ellid er's talwm mor myned ond ar hyd penau mynyddoedd, ac yr oedd hyny yn anghyfleus i gario pynau a llawer byd o bethau heblaw hyny; ag o ran hyny ddarfod tori derw mawr a'u taflu i'r llynau, ac y mae rhai yn cofio oherwydd clywed dywedyd fod rhai gan dewed y derw yn eu tori ac yn eu llosgi ar y maes, ond odid nad oeddynt yn gwneuthur hyn pan allent eu bwrw nhw yn haws i lynau. 'Roedd y deyrnas hon gynt yn llawn o anialwch, fel y gwyddoch; ag y mae llawer o fanau wedi cael eu henwi oddiwrth goed, (yn Nghymru). Yn Nanthwynen 'roedd coed cyn dewed fel na welid dyn ar farch gwyn o Lyn Dinas i ben y gwryd, ond mewn dau fan, ag a elwir un o'r manau yma er hyny y Goleugoed,₁₁ y rhai'n oedd uwch ben fan lle'r adeiladwyd tref Nanhwynen. Mae Llwybr Elan Lueddog12 rhwng Maen Gwynedd a Bwlch y Ddwylech ar fynydd Berwyn, ag a elwir llwybr cam Elan. Mae llwybr arall yn mlaen Ffestiniog, yr hwn sy'n dyfod tros fwlch careg y fran, ac o ran ei fod ar draws y ffordd, a elwir croes ar saru; ag y mae'n dyfod i Gwm Penammeu, lle y gelwiref Ffordd-wneuthur, ag yn myned oddiyno trwy blwy Dolydd Elan trwy Lyn Llugwy ag a elwir Sarn ar fynydd, ac y mae yn myned trwy blwy Llan Rhychwyn ag i Gonwy. (Aber Cowneu o ran fod dwy gowneu yn cyrhaedd tros yr afon mewn un man, lle y mae hi yn draeth llydan yn awr). Elan a ddaeth o Gonwy i Nant tal y llyn lle lladdodd Cidwm gawr o'i gastell a saeth ei mab hi; mae tỷ lle y claddwyd ef ag a elwir tŷ yn medd y Mab, ac Ysgubor Ifan (wrth hyn mae rhai yn meddwl mae Ifan oedd gelwid ef,) hi a ddaeth tros Gadair yr Ychain (cadair aur wrychyn) lle y gwnawd Sarn o'i blaen hi, hi ddaeth oddiyno gyda glan Llyn Dinas, lle y mae ei sarn hi fyth, ag oddiyno trwy Nantmor, a tros fwlch (lle bu faes rhyngddi a rhyw un) a elwir er hyny Bwlch y Battel, ag i gwm lle y clybu hi gyntaf farw o'i mab, ac ar ol y newydd anedwydd hwnw hi a ddywedodd Croesawr13 fel y gelwir hi hyd heddyw y cwm hwnw. Chwi a wyddoch o b'le y cafodd Beddgelert yr enw hwnw. Mae llech yn Nanhwynen lle yr oedd gynt geffylau yn tripio, rhag hyn y darllenwyd yr Efengyl arni ag a elwir Llech yr Efengyl.14"-Allan o'r Cambrian Journal. Alban Elfed 1859. Edward Llwyd 1693.
Yn y darn blaenorol y mae'r hynafiaethydd penigamp E. Llwyd yn cyffwrdd ag amryfal chwedlau, ac yn eu cymysgu yn ddi-drefn ddi-reol: er mwyn eu crynhoi yn daclusach a'u gosod yn drefnusach, rhoddaf hwy yn fath o eglurhad ar y gwaith uchod yn llawn llythyr gan adgyweirio ei amryfuseddau aml ef. Nid o'i fodd ond oherwydd diffyg hyfforddiant, yr aeth ef iddynt, oblegyd ni bu neb hynafiaethydd yn ein gwlad a ystyrid yn fwy manwl a chywir oddieithr Iolo Morganwg, nag Edward Llwyd. Yn wir y mae ei waith yn faen prawf a threul- iodd oes ddiwyd a llafurus dros ben yn egluro tywyll, dyryslyd, a throellog, bethau hynafol ei wlad. Er hyny gwnaeth amryw gam-gymeriadau pur bwysig.
amgylch ogylch godreuon y Wyddfa. Pan ganfu ei fod wedi colli ei gyfeillion, dianc a wnaeth i'r fan hon, a gwneud ei drigfod yn yr ogof. Yr oedd yn byw yn hollol ar ladrad. Yn y tywyllnos byddai fel eraill gwylliaid, yn d'od allan i gyniwair am rywbeth i dori ei angen. Gan fod ei ddull o fyw yn wyllt ac annhymig, tyfodd cnwd o flew trosto fel eidion, ac yr oedd yn ddychrynllyd yr olwg arno. Buwyd am hir amser yn methu a chael allan ei guddle. Ond fodd bynag, daeth un diwrnod eiryawg i Dy'n 'row allt," a thorodd y wraig à bwyall ei law (Onid oes yma gyfeiriad at Chwedl Owain Lawgoch?) wrth iddo geisio d'od i'r tŷ; dihangodd yntau yn ebrwydd, ond yr oedd brisg y gwaed ar hyd yr eira yn dangos ei lwybr, ac hefyd yn arwain tua'i guddfan, a thyna'r ffordd y deuwyd o hyd i'w ogof. Wedi darogan llawer, a thalm o amser fyned heibio, penderfynwyd ceisio ei ddal, a chronwyd yr afon fel i'w dynu allan neu ynte ei foddi yn ei ffau. Ond pan ddechreuodd y dwfr lenwi ei ogof dyma fo allan yn glamp, ac ymaith ag ef dros lechwedd y Lliwedd fel milgi, ac ofer oedd anelu bwa ato oblegyd ni thyciai y saethau er eu cyflymed, i'w orddiwes. Ac ni chlybuwyd dim gair o'i helynt am hir amser, ond un boregwaith yn mhen hir a hwyr caed achlust ei fod yn byw yn ymyl Maen Ddu'r Arddu mewn agen yn y graig, ac aed yno i'w hela; ond cyn bron glywed eu trwst yn dynesu ato, cymerth y goes a thros ben y Wyddfa, ac i lawr trwy Gwm Llan, a thros Flaen Nanmor i ogof arall sydd eto i'w gweled wrth sawdl y CNICHT. Pa hyd y bu yno ni ddywedir, ond byth ar ol hyn cafodd lonydd, ac nis gwyr neb pa bryd y bu farw nac yn mha le y claddwyd y "Gwr blew."
2.—Afon Ierch, h.y. Afon Ferch gerllaw Bwlch Mwyalchen. Y mae'r ffrwd hon eto i'w gweled, ond ni elwir moni ar yr enw uchod. Y mae yspaid dau can' mlynedd yn gwneud cyfnewidiad enbyd ar yr enwau. Yr ydys wedi colli peth ddigydwybod o enwau yn gystal a choelion yn ystod y ddau gant diweddaf. Yn wir, pe crynhoesid pethau yn fwy trefnus ddwy oes yn ol cawsid trysorfa ardderchog o chwedlau.
3.—Nanhwynen. Y farngyffredin yw mai Nant Gwyn— ant ydyw iawn sillebiad yr enw: er hyny caf cyn pen hir sylwi mai nid peth anhebyg ydyw fod ystyr arall i'r gair a bod y dull yma yn llawn cyn agosed i'r un cywir a neb rhyw un arall a feddir. Yn wir, mai dyma'r gwir ystyr, sef yr un sydd i dd'od.
4.—Ty'n'r ow allt.—Nid ydwyf yn fy myw yn medru canfod un tŷ yn awr yn dwyn yr enw dan sylw. Ond o ran hyny, y mae cymaint o gyfnewidiadau wedi cymeryd lle er oes "Y gwr blew," fel mai peth gwyrthiol fuasai gallu d'od o hyd i fwthyn yn meddu yr un enw yn awr a'r pryd hwnw.
5.—Y bu lan, &c.—Y mae Edward Llwyd yn camgymeryd. Nid oes yn awr, ac ni fu dim cymaint ag un crybwylliad gan yr un awdwr am gapel nac eglwys ar dir Hafod Llan, nac ychwaith yn nes ato na phen uchaf y nant. Tu isaf i Hafod Lwyfog, gerllaw y fordd fawr, y mae ol Capel Gwyneu. Os edrychir i "Fonedd y Saint, ceir fod Gwyneu yn Santes, a bernir fod Llanwnen yn Ngheredigion wedi cael ei gysegru ganddi. Y mae y fynwent yno i'w weled yn awr, ac hefyd adfeilion neu olion y sylfaeni. Hafod y Llan, a Cwm Llan oeddynt ran o'r glasdir ag oedd yn perthyn i Fynachlog Beddgelert. Dywedir fod gan Robert, Prior y lle, fuches fawr, a pha le cymhwysach i gadw Hafod na'r lle hwn gan fod y porfeldir cylchynol yn eiddo'r Fynachlog. Ond hyn sydd amlwg ddigon fodd bynag, nad oes yma'n awr ar gof a chadw na thraddodiad na pheth yn nghylch y Llan hon : tra y ceir am y llall ddigonedd o honynt.
6.—Ednowain Bendew.—Y mae awdwr dysgedig Enwogion Cymru wedi syrthio i'r un amryfusedd ag Edward Llwyd. Dyry Ednowain Bendew yn lle Ednywain ab Bradwen. Pe creffid ar eu pais arfau, gellid yn hawdd ganfod mai nid yr un ydynt. Pais arfau y Pendew oedd tri phen baedd, a'i gyswyn ofner na ofno angau," tra y mae pais arfau y llall yn dwyn, Gules, tair neidr yn nghwplws mewn cnottyn triongl o arian. Deillia y blaenaf o Gwaethfoed fawr o Bowys, ac yn ngororau Dyffryn Clwyd y mae ei hil hyd yn awr. Disgynydd o hono ef oedd y diweddar Dr. Bethel, Esgob Bangor; ac hefyd ein gwladgarwr dysgedig Ab Ithel. Ond y mae disgynyddion uniongyrchol yr olaf wedi pallu. Ednyfed ab Aaron, uno honynt, a guddiodd Owain Glyndwr am hir o amser, unwaith mewn ogof ar lan y môr heb fod yn neppell o Lan Gelynin, a gelwir y lle hyd heddyw, "Ogof Owain Glyndwr." Y fan yr oedd Ednywain ab Bradwen yn byw ydoedd Llys Bradwen yn nghwmwd Cregenau yn Meirion. Y mae olion y Llys i'w gweled eto. Gerllaw i lan yr afon Cregenau y mae gweddillion adeilad lled fawr. Y mae'r lle yn rhyw ddeg llath ar hugain petryal : a'r porth yn eithaf saith droedfedd o led. Y mae'n debyg mai cymeryd Tomen y Mur yn lle'r llall a wnaeth. Neu ynte, efallai, mai Ednywain a bioedd y lle hwn, oblegyd yr oedd yn Arlwydd cyfoeth mawr. Yr oeddynt eu deuoedd, sef y Pendew, ac ab Bradwen, yn perthyn i bymtheg llwyth Gwynedd.
7.—Y mae tri bedd, &c.—Nid gwaith hawdd ydyw cael allan beddau hyn yn awr. Ar ol dyfal chwilio a chlustfeinio fy ngoreu glas, nid oes dim byd o werth i'w gael yma. Y mae'n wir fod ar y lleindir sydd islaw Dinas Emrys ryw wrymiau. Ac hefyd y mae ar fin y llyn, wrth geg yr afon, ryw ddau neu dri o dwmpathau neu domenydd bychain. Gwn am fedd y Crythor Du, y mae ef yn uwch i fynu. Marw o oerfel a wnaeth ef a'i gydymaith wrth dd'od i Wylmabsant Beddgelert, ac nid oes rhyw lawer er hynny Tybiaf mai yr un rhai a olygir yma a'r dewiniaid. Deuddeg oedd nifer y gwyr hyny, a deuddeg sydd yma yn cael eu coffhau; ond feallai mai amryfus ddywediad ydyw, ac mai yr un lle a olygir. Oblegyd yr ydys eisoes wedi canfod amryw gamgymeriadau parthyddol yn yr Erthyglau o eiddo'r hybarch Edward Llwyd, megis dywedyd fod Cricerth gerllaw Aber y Traeth mawr, tra y mae amryw filltiroedd dybryd rhyngddynt. Sonir mai Milwyr Arthur oeddynt. Milwyr y Pedragon hwn yr ystyrid pob marchog yn y cyn—amseroedd, a thybia ei fod ef yn fyw yn mhen canrifoedd ar ol ei gladdu.
8.—Bedd Sr Owen Mhaxen.—Cymerodd ymgyrch ffyrnigwyllt le cyd—rhwng Owen ab Maxen mab Elen Lueddog, ac Eurnach Gawr, wrth ymyl Dinas Ffaräon. Lladdasant y naill y llall. A dywed traddodiad fod gwaed y ddau ar geryg y fan yn gof—arwydd parhaus o'r ymladd creulon a gymerth le rhyngddynt. Y mae bedd Owen ab Maxen ar y weirglodd yn dwmpath i'w weled, ac yn wir y mae'r pannylau" yno hefyd, a dywedir mai ôl traed dau gawr ydynt.
9.—March.—Meirchion oedd un o farchogion Arthur; cybydd ofnadwy oedd, ac iddo yr oedd clustiau march, a thyna paham y galwyd ef felly. Pa beth bynag y cyffyrddai ei law arno tröai yn aur. Y mae lle o'r enw Castell March, yn Lleyn, meddir wedi bod unwaith yn anedd iddo, a bernir mai efe a'i sylfaenodd. Digon tebyg mai un o wyr Celyddon ydoedd, a chyfoesai a Gwallawg ab Llênawg ac eraill, a ddaethanti lawr o'r Gogledd ac ymsefydlasant yma a thraw ar hyd arfordir Arfon. Yr oedd iddo nai o'r enw Trystan ab Tallwch, neu Trystan ail March, oblegyd yr un oeddynt. Digwyddodd iddo ef, sef Trystan, syrthio "dair llath dros ei ben" mewn cariad hefog Esyllt, gwraig March, ac am hyny gelwir ef yn y Trioedd yn un o "dri serchawg' Ynys Prydain, y ddau arall oedd Caswallon ap Beli a Cynon ap Clydno. Gyrodd Arthur wyth ar hugain o farchogion i'w ddala, ond ffoes ef a hithau i'r coed, a methasant yn glir faes a'u dwyn at y brenin, hyd nes i Gwalchmai dafod aur ei hudo; a rhaith Arthur oedd iddynt ei chael bob yn ail, sef un tra byddai dail ar y coed, a'r llall pan byddai diddail a moelion yr unrhyw. Dewisodd March yr amser diddail: ac am hyn y tores hithau allan yn orfoleddus fel yma, "Bendigedig yw barn Arthur,
Celyn, Eiddew, Ffaw ac Yw,
Ni chyll mo'n dail tra bo nhw byw."
Pan glywodd March hyn, edrychodd yn ddifrifddwys arni, a thyma ei atebiad galaethus, iselfryd, a thrymglaf iddi. Ond eithaf gwers i hen glymach cybyddlyd oedd hyn, Nid ag arian y prynir serch:—
"Ty'gaswn teg Essyllt, ffriw dirion, ffrwd oerwyllt,
Gwawr ruddedd eurad—wyllt, gwiw roddiad gad gain:
Na besit bun weddaidd, gnwd eira gnawd iraidd,
Gwadolaidd, mawr folaidd, mor filain."
Ymddengys mai un o foesau lled anghyweithas oedd Esyllt, ac y mae hi a'i dwy chwaer yn cael eu cyfenwi yn barhaus yn y Trioedd, yn dair anniweirwraig Ynys Prydain." Y ddwy arall oedd Bun, gwraig Fflamddwyn (Ida, brenin Northumberland); a Penarwen, a gwraig Owain ap Urien Rheged ydoedd. Y mae Trystan yn gymeriad arbenig yn y Mabinogion, ac y mae chwedleu— oniaeth fydryddol hynafol y Cyfandir yn cael eu haddurno à champau Syr Tristram.
10. Hafod Lwyfog.—Hen balasdy mynyddig o gryn lawer o enwogrwydd yn yr oesoedd gynt. Tebyg ddigon mai oddiwrth y llwyn llwyfanau y cafodd ei enwi felly. Yr un fath a Celynog o Celyn, Rhedynog o Rhedyn, &c., cyffelyb yntau: yn wir y mae o gwmpas y lle eto amryw lwyf, ac arwyddion amlwg fod er's talm lawer byd yn ychwaneg. Y mae'n wir i rai o'r beirdd yn yr unfed cant ar bymtheg er mwyn y gynghanedd newid yr enw yn Llwyddog," ac y mae chwedl wneuthur lled ddiweddar fel hyn am y lle.
HAFOD LWYDDOG.
YR oedd yma gynt fugail yn aros yn Nghwm Dyli, a myned y byddai bob haf i fyw yn mysg y defaid mewn caban sitrach gerllaw y Llyn Glas. Un bore, pan yn deffro yn ei hafoty wledig, canfu er ei fawr brofedigaeth ferchetan ddigon glan a chryno yn trin plentyn yn ei ymyl, ac nid oedd ganddi nemawr i roi am y truan bach anwydog. Cyfododd y bugail ar ei benelin ac edrychodd yn dosturiol arni, ac yna cymerth afael mewn hên grys tipiog a thaflodd ef iddi, a dywedai, "Cymer hwn, druan, a rho fo am dano." Cymerodd hithau y dernyn hen grys yn eithaf diolchgar, ac aeth ymaith. Bob nos, yn brydlon, ar ol hyn, mewn hen glogsan ag oedd yn y caban, ceid dernyn o arian gleision. Parhaodd felly am hir feithion flynyddoedd, ac aeth Meirig yn gyfoethog ddidrefn. Priododd, a daeth i'r Hafod i fyw, a pha beth bynag a drinai, llwyddai o dan ei law, ac oddiwrth hyny y galwyd y lle yn Hafod Lwyddog oblegyd y llwydd anghyd- marol a ddilynodd ymdrechion Bugail Cwm Dyli. Yr oedd y Tylwyth Teg yn talu eu hymweliadau nosol â'r Hafod, ac ni thyciai gŵg un rwyll, na swyn-gyfaredd un ddewines yn erbyn y fan, canys yr oedd " bendith y mamau yn cael eu hidlo yn gawodydd ar y teulu; felly, er symud, caed yr un fath roddion ganddynt, ac yn naturiol ddigon yr oedd Meirig Llwyd, a'i epil ar ei ol, yn cael eu cyfrif yn arianog i'w ryfeddu. A thyma chwedl Hafod Lwyddog.
HAFOD LWYFOG.
Yr oedd pobl Hafod Lwyfog tua haner can' mlynedd yn ol yn cael eu haflonyddu yn enbyd gan ryw fod anweledig. Ddydd a nos, yn hwyr ac yn fore, byddai y drychiolaeth yn cythryblu'r teulu! Ni chai y defaid gwirion ar lechwedd y mynydd, na'r gwartheg druain ar y porfeldir, mwy na'r teulu yn y tŷ, ddim llonydd. Lluchid y gweision, a llybindid y morwynion y ddibaid, nes yr oeddis wedi meddwl ei bod hi yn haner uffern yno. Awd i Laneilian a Dinbych, ond ni lwyddasid. Methwyd a gostegu'r pethau anhywaith a flinent bobl Hafod Lwyfog. O'r diwedd, penderfynwyd myned at ŵr eglwysig pur nodedig yn ei ddydd. Yr oedd eisoes wedi medru gostegu cythrwfwl Gwynfynydd, neu Yspryd mawr Llanegryn.' Yno y daeth yr offeiriad hybarch, ac ar ol ymdrech ofnadwy gallodd orthrechu y cryf arfog; ac o hyny allan caed llonyddwch i mewn ac allan, a myn y werin mai hen felldithwraig fawr Beddgelert oedd achos yr holl gyf-ymliw a'r trybini anesgorol hwn. Ni welwyd moni hi, beth bynag, fyth ar ol hyn, allan o'i bwthyn, a choeliai y rhan fwyaf o'r oes o'r blaen, mai ei meistroli a'i diofrydu a gafodd. Y mae ei hepil yn hawdd eu hadnabod: oblegyd y maent oll a "llygaid croesion" ganddynt, fel nôd difeth eu bod yn perthyn i'r faeden ystumddrwg a barodd gymaint o ofid yn y cyffiniau hyn yn yr amser a aeth heibio; a da, hyd yn oed yn awr, os ydyw arswyd rhai o'r hil wedi diflanu yn Meddgelert.
11.—Y Goleugoed.—Y mae'r lle hwn yn dwyn yr un enw eto; digon tebyg mai teneuach y coed ar y grimpan greiglyd hon, ac y gellid gyda mwy o rwyddineb ganfod teithwyr yma o'r herwydd.
12.—Elan Lueddog.—Merch ydoedd y rhian hon i Eudaf, arglwydd Caer Eudaf, sef yw hyny, Caer yn Arfon, a phriodi a wnaeth Maxen Wledig neu Clemens Maximus, llywydd y fyddin Rufeinig yn Mhrydain, o dan yr ymer— awdwr Grasian. Cyfododd yn erbyn ei feistr tua'r flwyddyn o. c. 383. Dywed traddodiad, a phwy wyr yn well, mai ei llwybrau hi ydyw y gwahanol ffyrdd sydd yn croesi, yn groes—ym—groes, y wlad o ben bwygilydd. Gel— wir y cyfryw yn Sarn Helen. Y mae ôl un o'r llwybrau yma i'w weled ar lan Llyn Dinas, er i'r cyfryw rywsut ddianc o olwg llygadgraff y Parch. H. L. Jones, yr hwn sydd wedi llafurio yn galed iawn, i gofrestru ac i gael allan yr olion Rhufeinig. Camgymera Edward Llwyd trwy geisio dilyn ffordd Elen o Nant Tal y Llyn i Ddinas Emrys. Methais yn glir a chael dim tipyn o weddillion y cyfryw, r dyfal chwilio. Nid oes rhith o honi yn Nghwm Llan, nac ychwaith ar hyd yr holl lechwedd o'r Ffridd i Ddinas Moch. Pe buasai rywbryd wedi bod, y mae'n ddilys genyf y gallesid naill ai cael rhyw olion o honi, neu ynte rhyw draddodiad yn ei chylch. Coelio yr wyf, os byddid yn croesi, nad oedd yr un ffordd na llwybr penodol y pryd hyny. Gellir gweled llwybr Elen ar un o gaeau Meillionen, ac hefyd rhwng y Gwesty a Chwm Cloch, fel ag y crybwyllais o'r blaen, ac yn ddiameu, ar hyd yr ochr hon yr oedd ei gyfeiriad. Sonir am Gastell Cidwm. Darn o graig anferth ydyw, yn nhalcen y Mynydd—mawr, a dywedir fod yn y graig ogof o'r hon y saethodd yr anghenfil cynddyrus" y Mab." Canodd dau fardd fel hyn i Gastell Cidwm yn ddiweddar.
Castell Cidwm, trwm y tro,—a fwriwyd
O'i fawredd i angho':
Clogwyni ceulawg yno
Wela'i fyth i'w wylio fo.
Lle llid fu Castell Cidwm.—y clegir
A'r clogwyn yn gwlwm:
Anferth dwr ger cwr y cwm !
Aruthrol fan i orthrwn.
Er's cwrs o flynyddoedd yn ol, pan oeddid yn aredig gerllaw pen isaf Llyn Cwellyn; (Tarddyni yr hen feirdd) caed cist—faen. Agorwyd yr unrhyw, a chaed ynddi olosg a thipyn o esgyrn braenllyd. Nid oedd ynddo ddim arwydd fod yno ddim Garn wedi bod. Gelwid y fan bob amser "Gweirglodd bedd y mab;" ond nid oedd yno na thy na thwlc yn agos i'r fan, ac nid oes yno, ychwaith, argoel i'r un gael ei chwalu. Nid ydyw'r lle yn mhell o'r Caeau Gwynion, a gwyr pobl y nant yn weddol dda am Fedd y Mab. Barna rhai mai yr un chwedl hanesyddol, wedi ei thrawsgyfleu, ydyw ag eiddo Owain Finddu; ac mai'r un ydyw Cidwm Nant Tal-y-llyn ag Eurnach Gawr Dinas Ffaraon. Ac os gwir, mai tri mab oedd gan Elen, nid oes dim tebygolrwydd i'r ddau ddigwyddiad gymeryd lle. Gwneir hyn yn fynych ddigon â chwedlau hanesyddol. Ceir crynhodeb cymhwysiadol i holl chwedlau Cymru oddeutu godre y Wyddfa, ac yn wir, y mae'n dra thebyg i amryw ddigwydd yn y cyrchle nodedig yma, oblegyd yr Eryri oedd dinas noddfa ein hynafiaid bob amser yn y dydd blin.
13.—Croesor. Y mae'r cwm hwn yn Mlaenau Nanmor, ac y mae "ffynon Elen" yno, yn bwrlymu grisial-ddwr gloywber. Pan ar ei hymdaith naill ai o Domen y Mur, tuag adref, neu ynte pan yn myned yno, y goddiweddwyd hi â'r newydd annedwydd o farwolaeth ei mab. Gwaeddodd yn wylofus "Croesawr i mi," a thyna paham y gelwir y cwm cul cornelawg hwn ar yr enw yna.
14.—Llech yr Efengyl.—Heb fod yn neppell o Blas Gwynant y mae'r fan hon; ac un o fynachod Beddgelert a wnaeth y weithred. Dywed eraill mai'r un ydyw a "Chareg y Dewin," rhwng Dinas Emrys a'r pentref: ond hwyrach y bu rhaid gwneud rhywbeth cyffelyb yn y ddau le.
DYN YN PRIODI UN O'R TYLWYTH TEG.
Yr oedd mab Drws Coed un diwrnod niwliog yn bugeilio ar ochr y mynydd dipyn yn is na Chwm Marchnad: a phan yn croesi gwaen frwynog canfyddai yn nghysgod twmpath fenyw fach brydferth odiaeth. Yr oedd ei gwallt crych— felyn yn gudynau modrwyog, a'i llygaid yn gyfliw y lâs— wybr oleu; ei thalcen
gyn wyned a'r donog luwchfa
Neu eiry un—nos ar lechweddi'r Wyddfa."
Ac ar ei dwy-rudd crynion "ddau rosyn coch, un ar bob
boch," a'i genau mindlws yn ddigon a pheri codi chwant
cusan ganddi ar angel. Y llanc meddalfwyn a ymdoddai
mewn gwres serchiadol, a dynesu ati a wnaeth yn llednais
gariadlawn, a gofyn iddi a wnaeth, a gai ef ymgom;
hithau a wenodd yn hynaws, a chan estyn ei llaw,
dywedai, "Eilun fy ngobeithion, yr wyt wedi d'od o'r
Dechreuasant ymgyfrinachu, a beunydd ym-
gyfarfyddent draw ac yma, ar hyd y gweunydd sydd o
amgylch glanau Llyn y Gadair: o'r diwedd, aeth eu serch
yn eirias danllyd, ac ni fedrai y dyn ieuanc fod yn llonydd
yn nghwsg nac yn effro. Mynych y byddai'n selgyugian
rywbeth yn debyg i'r penill melusber hwn:-
diwedd.'
"O! BELLA'r wy'n hoffi dy rudd,
Mil harddach dy wefus na rhos
Myfyriaf am danat y dydd,
Tydi yw fy mreuddwyd y nos.
F'anwylyd mae nghalon yn dan,
A'm henaid yn oddaith o serch
O! tyred, atebs fy nghan,
Yr ydwyt yn fwynach na merch."
Collid y llanc pen-felyn am hir amseroedd weithiau, ac
nis medrai neb frudio ei dreigl: coelid gan ei gydnabod ei
fod wedi ei hudo: o'r diwedd caed allan ei gyfrinach. Yr
oedd o amgylch Llyn y Dywarchen lwyni cysgodol hudd,
ac yno yr elai, a phob tro yr ai yno, byddai'r wyddan yn
sicr o fod yno yn ei aros, ac oblegyd hyn galwyd y lle yr
arferent gyfarfod yn "Llwyn y Forwyn;" ar ol caru yn
anwyl am hir amser, penderfynwyd priodi; ond yr oedd
yn rhaid cael cenad tad y fun. Ryw noswaith loergan
cytunwyd cyfarfod yn y coed, ac yno y daethpwyd, ond
nid oedd hanes y teulu tan-ddaearol, nes yr aeth y lleuad
tu hwnt i'r Garn. Yna dyma'r ddau yn d'od, a'r hen ŵr
yn ddiseibiant a ddywedai wrth y cariadfab, "Ti a gei fy
merch ar amod na tharewi hi â haiarn. Os cyffyrddi byth
ei chnawd â'r peth yna, ni bydd mwy yn eiddo i ti, eithr
dychwel at ei cheraint. Cydsyniai'r dyn yn ebrwydd, a
mawr oedd ei lawenydd, ac ni sonid y pryd hyny am gynhysgaeth, oblegyd serch oedd yr unig gymeradwy waddol,
er y byddai y rhieni, os gallent, yn gofalu am wneud eu
rhan tuag at eu plant.
Dyweddiwyd y ddau, ac nid aml y gwelwyd pâr glanach a phrydferthach wrth yr allor ar ddydd eu priodas. Sonid fod swm enfawr o arian gwaddol wedi d'od hefo'r rhian dlosgain i Ddrws Coed noson ei neithior, ac yn fuan ar ol hyn, yr oedd bugail mynyddig Cwm Marchnad yn ddyn cyfoethog a thra chyfrifol. Yn ol trefn gyffredin anian, bu iddynt blant amryw, ac ni bu dau ddedwyddach yn cydfydio erioed. Yr oedd pob peth yn myned yn mlaen yn drefnus a chariadlon am swm o flynyddau, a golud yn ymdywallt yn gronfa i'w rhan, oblegyd un ryfedd ddigon ei throion ydyw Tynghedfen. Hon ydyw merch hynaf Rhagluniaeth, ac iddi hi yr ymddiriedodd ei mam ei thrysorau i'w cyfranu yn ol ei hewyllys. A dywed yr hên air "mai i'r pant y rhed dwfr," felly yn union bu yma. Aethant yn gyfoethog dros ben. Ond "ni cheir mo'r melus heb y chwerw." Un diwrnod aeth y ddau allan i farchogaeth, a digwyddodd iddynt fyned i ymyl Llyn y Gadair, aeth ei cheffyl hi i'r donen a suddodd at ei dòr. Wedi tynu ei anwyl Bella oddiar ei gefn, a ffwdanu cryn lawer, caed y ceffyl i'r lan, a gollyngwyd ef. Yna cododd hithau ar gefn ei un ei hun, ond yn anffortunus wrth frysio ceisio rhoi ei throed yn y gwrthol (gwrthafl), llithrodd yr haiarn a tharawodd, neu yn hytrach cyffyrddodd, a phen glin y Wyddan. Cyn eu bod wedi cyrhaeddd haner y ffordd adref yr oedd amryw o'r teulu bach yn ymrithio, a chlywai sŵn canu soniarus ar ochr y bryn; a chyn cyrhaeddyd Drws Coed yr oedd wedi myned oddiarno, a bernir iddi ddianc i Lwyn y Forwyn, ac oddiyno i'r byd isod, i wlad hud. Gadawodd ei blant bach anwyl i ofal ei hanwylyd, ac ni ddaeth mwy ar eu cyfyl. Ond dywed rhai y byddai ar brydiau, er hyny yn cael golwg ar ei hanwyl un yn y wedd a ganlyn. Gan na oddefai cyfraith ei gwlad iddi rodio ar y ddaear gyda neb un daearol, dyfeisiodd ei mam a hithau ffordd i osgoi'r naill a chaffael y llall. Rhoed tywarchen fawr i nofio ar wyneb y llyn, ac ar hono y byddai am oriau meithion yn rhydd-ymgomio yn anwylfryd â'i phriod, a thrwy y cynllun hwn medrasant gael byw gyda'u gilydd nes y gollyngodd ef ei enaid allan gan awel." Bu eu hepil yn perchenogi Drws Coed am lawer oes, a chyfathrachasant a chymysgasant a phobl y wlad, a bu llawer ymladdfa fileinig, mewn oesoedd diweddarach, yn Ngwyl-mab-santau Dolbenmaen a Phenmorfa, oblegyd y byddai gwŷr Eifionydd yn gwaeddi Bellisiaid ar bobl y Penant. Yma y terfyn chwedl y Wyddan.
NODIAD. Dylwn efallai sylwi, fod y chwedl hon yn cael ei lleoli mewn amryw fanau, heb nemawr gyfnewidiad oddigerth bod enwau a lleoedd gwahanol yn cael eu cymhwyso at ei hangen. Peth rhyfedd hefyd ei bod bob amser yn canlyn llwybr Elen. Hyny ydyw, mai yn ymyl y cyfryw, hyd ag y medrais i gael allan, yr ydys yn gosod y digwyddion i lawr. Sonia W. Williams, Llandegai, yn ei "Lyfr ar yr Eryri," mai yn yr Ystrad, gerllaw Bettws Garmon, y cymerth hyn le, a dilynir ef yn ei haeriad gan ysgrifenydd yn yr Herald Cymraeg am Rhagfyr, 1855. Y mae un arall yn Taliesin, yr 2il ran, yn yr Erthygl ar "Chwedlau a thraddodiadau plwyf Llanfachraith," yn ei dwyn i Feirion. Rhiwfelen (neu Riw Elen fel yr awgryma yr ysgrifenydd yno) ydyw'r lle y dywedir i hyn ddamweinio yn y wlad hono.
ELFOD Y BUGAIL
PAN oedd Elfod yn rhyw ddeuddeg neu dair ar ddeg oed, ac yn blino edrych ar ol praidd ei dad, ymgiliodd i lwyn o frysgyll, lle bu am ddeuddydd a dwy noswaith heb archwaethu tamaid. O'r diwedd ymddangosodd iddo ddau ddynyn rhithiawg, cwta droedfedd a haner o daldra. Dywedodd un o honynt wrtho yn hynaws ac addfwyn, Tyred hefo ni, a thi a gei bob peth a ddymuna dy galon." "Deuaf," ebe Elfod, "a da gan fy nghalon ydyw dyfod" yna canlynodd ar eu hol nes y cyrhaeddasant ddôl deg, ac yno suddasant a threiddiasant i grombil daear, nes o'r diwedd iddynt dd'od i wlad wastadlyfn hyfryd, lle'r oedd afonydd tryloywon yn troelli trwy ddoldir meilliondwf—lle'r oedd meusydd cnydiog, a choed— lanau blodeuog yn cynyrchu pob melusber ffrwyth: ond nid oedd yn oleu; lled dywyll oedd yr awyrgylch, os gweddus galw nenfwd o'r fath ar y fath enw. Nid oedd y trigolion yn amgen na chorachod; ond yr oeddynt yn lân odiaeth: penfelyn pob un o honynt, a'u cnawd fel trochion llyn.
Ond, er hyny, yr oeddynt yn ddewr eu gwala, ac yn marchogaeth ceffylau hyweddfalch cyflym-garn, tua'r un faint ac ysgyfarnogod. Eu bwyd oedd pob rhyw fath o afalau ac aeron, yn nghyda llaeth a gwreiddiau. Ni chlywid dim twrf o'r naill ben i'r llall iddi, ac ni chlybüid na llw na rhêg o ben neb, ac nis gallent feddwl goddef twyll na chelwydd yn eu cyffiniau.
Bu Elfod am lawer o flynyddoedd yn y byd isod, a mawr oedd ei barch a'i urddas yno. Ond er mor ddedwydd ei le, deuai awydd weithiau am fyned yn mysg eraill i'r byd uchod, oblegyd yr oeddynt yn medru myned a dyfod pan fynent, a dywedai y byddai ysgelerder gweithredoedd y byd hwn yn eu blino yn ddidrefn. Yr oedd aur ac arian mor luosog yno fel yr oedd hyd yn oed teganau chware y plant yn fwnau gwerthfawr oll. Pan oedd yno, addawodd beidio byth myned oddiwrthynt, ac byddai mwy fel un o honynt hwy eu hunain. Ond cododd rywbryd awydd arno am weled ei deulu am unwaith, a phenderfynodd dori ei flys, a dechreuodd hel pethau at eu gilydd gogyfer â'r daith.
Cymerth lawer byd o eiddo, ac ymaith ag ef am wlad ei enedigaeth: yr oedd pawb yn sôn an Elfod ar ol ei ddyfod: ond ni fynai ef ddweyd yn mha le y bu. Dywedodd, fodd bynag, wrth ei fam, fod yno ddarnau o arian ac aur fel ceryg; a chynghorai hithau iddo dd'od yno drachefn a pheli aur, a lympiau arian. Aeth yntau yn ol gyda'r bwriad hwnw, ond methodd yn glir faes a chael hyd i'r twll, a thra bu ef allan daeth dau ddyn i chwilio am dano, ar gefn merlynod gwynion: ac aethant a'i hudlath o'r tŷ, oblegyd pe buasai ei ffon wen ganddo, medrasai gael gafael ar y ffordd i lawr: ond gan iddo golli hono, ffaeliodd byth a chael gafael ar y twll.
Ar ol hyn, rhoes ei fywyd ar bethau dwyfol, ac aeth i'r Fynachlog i arwedd bywyd crefyddol. Urddwyd ef yn Offeiriad, a bu yn ŵr cymhwys a duwiol dros ystod ei oes, ac nid aeth ei feddwl fyth oddiar y golygfeydd a'r pethau a welodd ac a ddysgodd, yn y wlad isod, yn mysg y Tylwyth Teg. Yma y terfyn chwedl Elfod, a alwyd tua phen olaf ei oes, Elfod Offeiriad.
LLAM Y TRWSGL.
Yr oedd clobyn o gawr esgyrniog yn byw yn Nghwm Trwsgl. Byddai yn arfer myned i garu i'r Hafod Wydyr; ond nid oedd teulu'r ferch yn rhyw fodlon iawn i'r garwriaeth. Er hyny talu ymweliadau mynych a wnai y cawr er gwaethaf pob anhwylusdod. Ni ddywedir pa deimladau a achlesid gan y ferch; ond tebygol fod yno "dalu'r echwyn adref." Un noswaith, penderfynodd gwŷr y Nant wneud ymgais i'w ddal, ond rhedodd y cawr ymaith o'u blaenau, a llamodd o ben craig uchel nes yr oedd yr ochr arall, ac y mae ol ei droed yn glewt yno fyth : ond druan gŵr, cwympodd yn wysg ei gefn, a syrthiodd yn un gledren nes yr oedd fel pont ar draws yr afon. Fyth wedi hyn galwyd y lle yn "Llam y Trwsgl," a'r cwm yr ochr arall i'r Nant yn "Gwm Trwsgl," oherwydd y digwyddiad annghysurus a grybwyllwyd.
Y TYLWYTH TEG
PRIF le y Tylwyth Teg ydoedd Cwm Llan, a byddai bugeiliaid Hafod Llan yn eu gweled beunydd yn yr oesoedd ffyddiog sydd wedi diflanu. Unwaith, ar brydnawngwaith niwliog, yr oedd un o honynt rywdro wedi bod yn chwilio am ddefaid yn ochr Nant y Bettws. Pan wedi croesi Bwlch Cwm Llan, ac yn brysio'n ffwdanus i lawr, gwelai beth dirifedi o bobl bach, yn canu ac yn dawnsio yn hoenus ysgafndroed, a'r merched tlysaf a welsai erioed yn unlle, yn parotoi gwledd. Aeth atynt a chafodd ran o'u danteithion, a thybiai na phrofasai yn ei oes ddim byd yn eilfydd i'w seigiau. Pan ddaeth dechreunos lledasant eu pebyll, ac ni welodd y dyn y fath harddwch a chywreindeb yn ei einioes. Yr oeddynt yn rhoi iddo wely esmwyth o fan-blu tyner, a chynfasau o'r lliain meinaf; aeth yntau i'w orphwysfa mor gymenllyd a phe buasai yn dywysog. Ond bore dranoeth, dyn a'i catto, ar ol yr holl rialtwch â rhith ysplander, agorodd y truan ei lygaid, ac nid oedd ei wely yn ddim ond llwyn llafrwyn, na'i obenydd ond twmpath mwswg. Ond er hyny, cafodd lawer o arian gleision yn ei esgidiau: a chafodd ar ol hyn am hir amser ddernyn bob wythnos o arian bâth rhwng dwy gareg yn ymyl y lle y bu'n cysgu. Ond, fe ddywedodd ryw ddiwrnod wrth gyfaill iddo ei gyfrin yn nghylch yr arian, ac ni cha'dd ddim byth wed'yn.
Yr oedd un arall, rywbryd yn anos yn Nghwm Llan, a chlywai ryw rydwst mewn agen craig. Troes i edrych pa beth oedd yno, a chafodd allan fod rhyw greadur yno yn wylo yn hidl. Aeth i'r fan a'r lle a thynodd enithig allan, ond cyn pen nemawr dyma ddau ddyn canol oed yn d'od ato, a diolchasant iddo am ei gymwynas, ac wrth ymadael rhoes un o honynt ffon yn rhodd iddo fel cof-arwydd o'i weithred ddaionus. Y flwyddyn wedi hyn, yr oedd gan bob dafad a feddai ar ei helw, ddwy oen fanyw. Ac felly y parhaodd ei ddefaid i epilio am flynyddoedd rai. Ond un noson yr oedd wedi aros yn y pentref nes yr oedd hi'n bur hwyr, ac ni fu noswaith fawr erioed mwy tymhestlog na hono; udai y gwynt a phistylliai'r cymylau, ac yr oedd mor dywyll fel na welid ond y nesaf peth iddim; pan yn croesi yr afon sy'n d'od i lawr o Gwm Llan, a'r llif yn genlli enbyd yn ysgubo pob peth o'i flaen, aeth y ffon ryw fodd o'i law ac erbyn bore dranoeth pan awd i fynu i'r Cwm, gwelwyd fod ei ddefaid oll agos wedi cael eu hysgubo ymaith gan y llif, a bod ei gyfoeth wedi myned i
ffwrdd bron fel ag y daeth-hefo'r ffon.TREF NANHWYNEN.
YN nghwr uchaf Nant Gwynant yr oedd tref fawr unwaith, yn cyrhaedd o lan y llyn i sawdl Gallt y Gwryd. Yr oedd y trigolion yn perthyn i'w gilydd i gyd, ac yn arwedd bywyd penrhydd a diofal. Nid oedd un pechod yn rhy annghariadus ganddynt i'w gyflawni, ac nid oedd "ofn Duw o flaen eu llygaid." Mynych y cynghorai ac y rhybuddiai y mynachod hwy, ond ni thyciai na gŵg na gwên i'w cyfnewid. Yn raddol ymgaledasant gymaint fel ag y llwyr fwriadasant ladd pob Offeiriad a ddeuai atynt. Rhoisant rybydd i'r cyfryw i ymogel d'od i'w tref: ond ni fynai gweision Duw hyny, eithr fel o'r blaen, deuent yno i'w rhybuddio hwy i edifarhau. Un diwrnod ar ol i ddau fynach fod yn pregethu bygythion dialeddol Duw am bechod wrthynt, ymroisant i'w lluchio â cheryg, a merthyrasant y ddau yn ddiseibiant. Y noson hono ymddangosodd i un lodesig, yr hon nid oedd o'r un dras a phobl y dref, a'r hon hefyd a wylai yn hidl wrth weled yr ysgelerder, angel claerwyn, a dywedodd wrthi, "Brysia, tyred allan: ffoa o dan gysgod fy aden." Cododd hithau ac aeth ymaith hefo'i gwarchodydd ysprydol. Wedi cyrhaedd allan o'r dref, eisteddodd ar gareg, a gwelai lif o dân gwreichionllyd yn disgyn o'r awyr yn gawod wyrddlas-goch. "Nac ofna," ebe'r angel, a llewygodd hithau, ac erbyn iddi ddadebru rywbryd dranoeth yr oedd tref Nanhwynen yn domen o ludw. Arosodd hi yn yr un lle am ddyddiau rai, yn gweddio Duw ac yn canu ei fawl Ef, ac er cof o'r digwyddiad, galwyd man ei gwaredigaeth fyth wedi hyn Gwastad Annas, oblegyd dyna oedd ei henw: (Agnes y mae'n debyg; ac y mae tŷ anedd yn awr heb fod yn neppell o'r lle y dywedir bod y dref unwaith yn sefyll, yn dwyn yr enw uchod.)