Cymru Fu/Glyndwr a'i Fardd

Ffrae Farddol yn yr Hen Amser Cymru Fu
Glyndwr a'i Fardd
gan Isaac Foulkes

Glyndwr a'i Fardd
Ffowc Ffitswarren

GLYNDWR A'I FARDD.

Pan ddienyddwyd Dafydd ab Grufuydd yn yr Amwythig, cymerth y cigydd ei galon ac a'i taflodd i'r tân, a neidiodd y galon o'r tân ac a darawodd y cigydd yn ei lygad, ac a dynodd ei lygad ymaith.

Harri IV., brenin Lloegr a ysgrifenodd at Arglwydd Grey o Riuthin, yn erchi iddo ef trwy ryw ystryw fradychu Owain Glyndwr. Yna gyrodd Arglwydd Grey at Owain i'w hysbysu y byddai yn ciniawa gydag ef y dydd a'r dydd. Atebodd Owain y byddai croesaw iddo, o ni ddygai gydag ef uwchlaw dengwr ar ugain. Daeth yr arglwydd yn yr amser penodedig, ac ychydig o gydymdeithion gydag ef; a gallu mawr arfog yn dyfod yn ddirgel ar ei ol. Pan ddaeth amser ciniawa, gosododd Owain osgordd ar ben bryn i wylio tra y byddai ef ar giniaw. Pan oedd Owain ar ganol ciniaw, yr osgordd a welent lonaid y ddôl o wŷr arfog. a dywedasant with Iolo Goch, bardd Owain, er mwyn iddo ef fyned a rhybuddio eu harglwydd o'i berygl. Aeth Iolo i mewn ar frys i'r palas, a chanodd ar ddameg yr englyn rhybudd yma ar osteg, rag i Grey dybied fod twyll ynddo; canys er ei fod yn deall traethawd Cymreig, nid oedd efe yn deall ein mydr ni: —

Coffa ben, a llen, a llywenig —
A las nos Nadolig
Coffa golwyth Amwythig,
O'r tan a fwriodd naid dig.

Deallodd Owain y ddameg, a defnyddiodd ei draed i arbed ei ben.