Cymru Fu/Ffrae Farddol yn yr Hen Amser
← Ystori Cilhwch ac Olwen | Cymru Fu Ffrae Farddol yn yr Hen Amser gan Isaac Foulkes Ffrae Farddol yn yr Hen Amser |
Glyndwr a'i Fardd → |
FFRAE FARDDOL YN YR HEN AMSER.
DAU LYTHYR A FU RHWNG SION MAWDDWY A MEIRUG DAFYDD OBLEGID BARDDONIAETH.
(O'r Greal)
Atoch, Meurig Dafydd, hyn o lythyr, i'ch gwybyddu fy mod yn rhyfeddu yn fawr iawn eich bod yn beio ar fy ngherdd cybelled ag y clywaf eich bod. Mi a gaf foneddigion, a chyffredin Cymru, a ddyweto yn amgenach, heblaw dysgyblion a phencerddiaid; eto nid mor rhyfedd hyny a'ch bod yn dywedyd bod eich cerdd chwi cystal a'm heiddo i. Os felly, Meurig, chwi a wyddoch iawn farnu ac iawn ddysgu, trwy gyflawn gydgordiadau ymadroddion, niydr, a sillafau, a chyfoethogrwydd y gerddoriaeth; nid amgen mesurau, cywyddau, awdlau, ag englynion; a chanu y rhai hyny yn awenyddgar yn marn pencerdd, fal y mae yn rhaid iwch, cyn bod yn brydydd wrth fraint a defawd yr hen Brydeiniaid. Ond myfì a welais ŵr fal chwi, a gafas fenthyg pum' llyfr barddoniaeth tros ddwy flynedd; ac a fum fy hunan yn ceisio ei ddysgu, pe yd fuasai dysg yn myned yw ben; ond yr oedd ef mor ddwl at ddysg â gŵydd wyllt, mor falch-ffol â Satan, mor genfigenus â Lucifer, can galled â Ieuan Grod Hen, cyhawsed i ddyn ymddiried iddo ag i Iddawc Cam Brydain; a chantho ben mawr a synwyr bychan i ddysgu canu cerdd blethedig, gysylltiedig, gyfochredig, ddiadwyau, a synwyrau godidawg, ystyriaethawl; er hyny yr oedd ef yn gall i gasglu da'r byd, yn llawn lloriau fal hen gastell, cymaint ei gywilydd a'r afr, cyn daered a'r âb, un wên a Suddas, cybaeled a'r llyffant am y pridd, cymaint ei gariad a'r iar at yr halen, a llawn cymaint ei weniaith â charn putain: a mêl ar ei fin a bustyl yn ei galon, a'r wlad o'r bron yn adrodd ei gampau o'i febyd hyd at henaint; minau a'i hadwaen ef yn awr i'm tyb; nid chwi, Meurig, ydyw hwnw; Ha! Ha! ha! he! he! nage, nage; wrth hyny dau nage a wna un 'ie: byddwch wych, Meurig, oni boch gwrda. Ffarwel i'th fyw.
Sion Mawddwy.
ATEB MEURIG DAFYDD
Derbyiwch hyn yn ateb i'ch llythyr, Sion Mawddwy. Rhyfedd iawn yw hefyd genyf inau achwyn o honoch i mi feio ar eich cerdd: ni feiais i fwy na hyn arni, sef beio ar eich celfyddyd a wnaethym; sef achos ei bod ar Ddosbarth Gwynedd; gwell fyddai ei galw Dosbarth Dafydd ab Ed- mwnd. Beirdd Gwynedd a Deheubarth a'u derbyniant: ond ef a Iwyrymwrthodwyd â hi yn Morganwg. Beirdd gwlad Forgan a gyneiliant yr hen ddosbarth, fel y mae yn llyfrau yr hen ddysgodron godidawg; ac nid canu ffol a ymorchestu, fal chwareu plant bach ar eiriau heb air hy chan yn debyg i synwyr. Cymered beirdd Dafydd ab Edmwnd eu celfyddyd atynt i'w cartref, a balchied pob un ynddi, a chanent y gadwen fer, a gorchest y beirdd, yn awenyddgar synwyrawl, yn marn pencerdd, os medrant; ac yna beirdd Morganwg ni fynaut o hyny allan fod yn feirdd wrth fraint a defawd yr hen Brydeiniaid; ond byddant feirdd wrth fraiut a defawd Dafydd ab Edmwnd. Y chwi, Mr. Mawddwy, yn anad neb o feirdd Morganwg, a hoffasoch wagsain yn fwy na synwyr; gwnaed eich cywreinrwydd i chwi wynfyd calon, a llawenydd i chwi o'ch clod; nid oes fawr, ar a wn i, a genfigena wrthych; ni allaf lai fy hun na thosturio wrthych. Dyben cywreindeb mesur a chynghanedd oedd cynal y Gymraeg, a'i barddoneg, rhag ei cholli; yr hyn beth ni wna lawer o fesurau Dafydd ab Edmwnd, oni ellir cynal iaith a mydr drwy fwrw allan bob synwyr o'i hansawdd. Chwi a soniasoch am iawn ganu, iawn farnu, ac iawn ddysgu; gorchest yn wir yw pob un o'r tri; ond nid aml yr arferwch un o honynt. Dylai cerdd fod yn aml-bar iaith, yn gyfoethawg synwyr, ac yn gywrain fydraeth. Cadwch at hyn, Sion Mawddwy, dilys y byddwch wrth fraint a defawd hen Fryteiniaid; ac nid heb hyny. Gwir yw i mi gael benthyg eich pum' llyfr; ac y mae eu dysgeidiaeth yn fy mhen, pe bae hyny les yn y byd i mi: ond da yw gwybod ffolineb er amlygu callineb, yr hyn a ddengys ôl traed doethineb. Mae genych lawer iawn o sen gelwyddawg yn eich llythyr; ni fyddaf waeth o hyn. Mi adwaenwn Sion y Tincer Fargam cyn iddo briodi etifeddes Mawddwy, a chymeryd benthyg enw yn Ngwynedd. Bu hawdd ymddyddan unwaith âg ef; nid felly y mae yn awr. Mi a ddysgaf i chwi bwnc o addysg, ni wyddoch chwi fawr byd yn hyn am dano. Nid iawn i fardd hoffi. chwaithach ymarfer, â chelwydd; mae defodau yr hen feirdd yn gwahardd y peth hyn. yr ydych chwi chwyddedig iawn eich llafar: ond nid unwaith na dwywaith y gwelais i lawer peth, a dybygid ei fod yn fawr, yn troi o'r diwedd i maes yn o lliprynaidd a salw. — Sion bach! ni flinaf fy mhen mwyach o'th blegyd: bydd wych, a chais fod yn gall — ryw bryd.
Meurig Dafydd.