Cymru Fu/Ystori Cilhwch ac Olwen

Y Derwydd Cymru Fu
Ystori Cilhwch ac Olwen
gan Isaac Foulkes

Ystori Cilhwch ac Olwen
Ffrae Farddol yn yr Hen Amser

YSTORI CILHWCH AC OLWEN

NEU HANES Y TWRCH TRWYTH.

(Hen Fabinogi Gymreig).

CILYDD ab Celyddon a roddodd ei fryd ar gael gwraig, a syrthiodd ei serch ar Goleuddydd ferch Anlawdd Wledig.


Wedi eu priodas, gweddiodd y wlad ar iddynt gael etifedd, a chawsant fab trwy weddi y wlad. Ac o'r awr y beichiogodd Goleuddydd, hi a wallgofodd, a chrwydrai fanau annghyfanedd. Pan ddaeth awr ei thymp, dychwelodd ei phwyll. Ac yr oedd hi yn y mynydd, lle yr oedd meichiad yn gwylio cenfaint foch; a chan ofn y genfaint y cafodd hi ei thymp. Dygodd y meichiad y baban i'r palas, a galwyd ef ar yr enw Cilhwch, am ei eni mewn gwâl hwch. Er hyny, dullwedd foneddigaidd oedd ar y mab, a chefnder ydoedd i Arthur; a rhoddwyd ef at wraig arall i'w fagu.

Wedi hyny, clafychodd Goleuddydd hyd farw, a galwodd ei phriod at ei gorweddfa, a dywedodd wrtho, "Marw yr wyf fi o'r clefyd hwn, a gwraig arall a gymeri dithau, ac weithian, rhodd Duw ydyw gwragedd; eithr na lygra dy fab. Ac archaf it' na chymerot wraig hyd oni welot fieren a dau flodyn arni yn tyfu ar fy medd." Hyny a addunedodd Cifydd. Yna hi a erfyniodd arno adgyweirio ei bedd bob blwyddyn fel na thyfai dim arno. A bu y frenines farw. Anfonai y brenin bob bore was i edrych a dyfai y fieren ar y bedd; ac yn mhen saith mlynedd, annghofiodd ei adduned.

Un diwrnod, tra yr oedd y brenin yn hela, efe a farchogodd at y bedd, fel y gwelai ei hunan a oedd dim yn tyfu arno, modd y gallai wreica eilwaith, a chanfu fìeren yn tyfu ar y fan. Yna efe a ymgynghorodd pa le y caffai wraig. Ebai un o'r cynghor, "Mi wn am wraig weddus it', sef gwraig y brenin Doged." Penderfynwyd mynedi ymofyn am dani, a phan ddaethant at y castell, lladdasant y brenin ei gŵr, a dygasant hi a'i huni g ferch gyda hwynt yn ol at Cilydd, a chymerasant etifeddiaeth y brenin.

Un diwrnod, fel yr oedd y frenines yn rhodiana yn y ddinas, daeth at dŷ hen wrach heb ddant yn ei phen, wrth ba un y dywedodd, "Ha, wrach! a ddywedi di yr hyn a ofyuaf it'? Pa le y mae plant y gŵr a'm dygodd trwy drais?" Ebai y wrach, " Nid oes iddo blant." Ebai y frenines, "Gwae fì fy nyfod at ŵr diblant." Ebai y wrach, "Nid rhaid it' ofidio; canys y mae darogan y bydd iddo etifedd ohonot ti; ac y mae iddo eisoes un mab."

Dychwelodd y frenines adref yn llawen, a dywedodd wrth ei phriod, "Paham y celaist dy blant rhagof fi?" "Ni chelaf hyny yn hwy," ebai y brenin; ac a ni anfonwyd cenadau i gyrchu y mab i'r llys. A dywedodd ei lysfam wrtho, "Da fyddai it' gael gwraig, a merch sydd i mi a gerir gan holl enwogion y byd." "Nid wyf eto mewn oedran priodi," atebai y mab ieuanc. "Mi a dyngaf dyngedit', na chyfarfyddi â gwraig hyd oni cheffych Olwen ferch Yspaddaden Pencawr."Gwridodd y llanc, a'i serch at Olwen a ymdaenodd tros eiholl aelodau, er nas gwelsai hi erioed. A gofynodd ei dad iddo, " Pa afiechyd sydd arnat, fy mab?" Yntau a atebodd, "Fy llysfam a'm hysbysodd na bydd i mi wraig hyd oni chaf Olwen ferch Yspaddaden Pencawr." "Hawdd ydyw hyny i ti," ebai y tad, "Arthur sydd gefnder it': dos ato ef i drwsio dy wallt, a deisyf hyn ganddo." Cychwynodd y mab tua llys Arthur ar farch ag iddo ben brithlas, pedwar gauaf oed, cryf o ewynau, a'i garnau oll ar ffurf cragen; ffrwyn o aur cadwynog oedd yn mhen yr anifail, a chyfrwy o aur gwerthfawr oedd ar ei gefn. Yn llaw Cilwch yr oedd dwy waewffon arian, miniog, tymherus, wedi eu blaenllymu â dur: mor finiog oeddynt fel y gallent glwyfo a thynu gwaed o'r gwynt, a chyflymach oedd eu disgyniad na'r gwlithyn oddiar y glaswelltyn i'r ddaear, pan fo trymaf y gwlith yn mis Mehefin. Cleddyf eurddwrn oedd ar ei glun, i'r hwn yr oedd llafn o aur, a llun croes o liw y fellten yn gerfiedig arno; ac o ifori yr oedd ei gorn rhyfel. Dau filgi bronwynion, brychion, a chwareuent o'i amgylch, a thorch o ruddem (ruby) yn cyrhaedd o'r glust i'r ysgwydd am wddf pob un; a'r un ydoedd ar yr ochr aswy a lamai i'r ochr ddeau, a'r un ar yr ochr ddeau i'r ochr aswy, ac yr oeddynt fel môr- wenoliaid yn chwareu o'i ddeutu. Pedair tywarchen a gyfodai pedwar carn ei ryfelfarch fel pedair gwenol i'r awyr uwchben — weithiau uchod, weithiau isod. Llen o borphor pedair-ongl oedd am dano, ac afal aur wrth bob congl — gwerth can buwch oedd pob afal. Gwerth tri chan buwch o aur oedd ar ei esgidiau, ac ar ei wrthaflau o ben, y glun i flaen y troed. Ac mor ysgafndroed oedd y march fel na phlygai y glaswelltyn tano tra y cyrchai at borth llys Arthur. "A oes borthor?" ebai Culhwch. "Oes, ac oni ddystewi bychan fydd dy groesaw. Myfì ydyw porthor Arthur bob dydd Calan lonawr; a'r porthorion y gweddill o'r flwyddyn ydynt Huandaw, a Gogicwc, a Llaescenyn, a Phenpingyon, yr hwna gerdda ar ei ben er mwyn arbed ei draed, nid tua'r nef na thua'r ddaear, eithr treigla fel maen ar lawr llys." "Agor y porth." "Nac agoraf." "Paham nad agori?" "Y mae'r gyllell yn y bwyd, a'r ddiod yn y corn, a llawenydd yn y neuadd, ac ni faidd neb sangu llys Arthur oni fydd frenin gwlad freintiedig, neu gelfyddydwr a ddyco gelf. Eithr rhoddir lluniaeth i dy gŵn ac i dy geffylau, a dygir i tithau olwythion chwaethus, a gwin melus, a dyddan gerddau. Bwyd dengwr a deugain a ddygir atat i'r yspytty, lle yr ymbortha estroniaid a gwestai, a'r sawl nad ydynt yn dyfod o fewn cylch llys Arthur. Ni bydd gwaeth i ti yno na chydag Arthur yn y llys. Menyw a gyniweiria dy wely, ac a'th ddifyra â cherddau dyddan; ac yforu, pan agorir y porth i'r lluaws dyeithriaid a ddaethant yma heddyw, i ti yr agorir ef gyntaf, a chaniateir i ti eistedd yn y lle a ddewisych yn neuadd Arthur o'r naill ben i'rllall o honi."Ebai y gŵr ieuanc, "Ni wnaf ddim o hyn. Os agori y porth, da y w; os na wnei, mi a ddygaf annghlod i'th arglwydd, a drygair i tithau. Ac mi a roddaf dair gwaedd wrth y porth hwn na bu erioed rai mor angeuol, yn cyrhaedd o ben Pengwaed yn Ngherny w hyd yn Dinsol yn y Gogledd, ac hyd i Esgeir Oerfel yn yr Iwerddon; a'r holl ferched beichiog yn y palas hwn, er clafychu, nid allant ymddwyn o'r dydd hwn allan." Ebai Glewlwyd Gafaelfawr, "Pa faint bynag o rwgnach a wnei, ar drawa deddfau llys Arthur, ni'th ollyngir i fewn hyd onid ymddiddanwyf âg ef yn gyntaf.

Pan ddaeth Glewlwyd i'r neuadd, gofynodd Arthur, "Pa newydd sydd o'r porth?" "Deuparth fy einioes i a'th oes dithau a aeth heibio. Mi a fum gynt yn Caer Se ac Asse, yn Sach a Salach, yn Lotor a Eotor. Mi a fum yn yr India Fawr a'r India Fechan. Yr oeddwn yn mrwydr Ynyr, pan ddygwyd y deuddeg gwystl o Lychlyn. Bum hefyd yn Ewrop, ac yn Affrig, ac yn Ynys Corsica; ac yn Caer Brythwch, a Brythach, a Ferthach; ac yr oeddwn i yn bresenol pan leddaist ti Clis ab Merin, a'r Mil Du ab Ducum, a phan oresgynaist wlad Groeg yn y Dwyrain. Ac mi a fum yn Caer Oeth ac Annoeth, ac yn Caer Nefenhyr, lle y gwelsom naw brenin; ac ni welais erioed ddyn cyn hardded a'r hwn sydd wrth y porth yr awrhon."A dywedodd Arthur, "Os tan gerdded y daethost, dychwel tan redeg; a'r sawl a welsant oleuni, ac a agorant eu llygaid, dangosant barch iddo, a gwasanaethant arno — rhai gydag yfgyrn goreurog, eraill gyda golwythion chwaethus, hyd oni byddo'r bwyd yn barod. Anweddus gadael cyfryw ddyn ag a ddywedi di allan yn y gwynt a'r gwlaw." "Myn llaw fy nghyfaill," ebai Cai, " pe gwnelit fy nghynghor i, ni thorit ddeddfau y llys er Y gŵr hwn." "Nid felly fy nghyfaill Cai, anrhydeddir ni pan gyrchir atom; a pho mwyaf y croesaw a roddwn, mwyaf y clod a'r enwogrwydd a dderbyniwn."

Pan ddychwelodd Glewlwyd at y porth, agorodd y dôr ar frys; ac arferai pawb ddisgyn ar yr esgynfaen, eithr Cilhwch a farchogodd i fewn, ac a ddywedodd wrth Ar-thur, "Henffych well, Penteyrn yr Ynys hon; a henffych yr isaf fel yr uwchaf, ac i'th westeion, a'th ryfelwyr, a'th gadfridogion — derbynied pawb yr henffych mor gyflawn a thydi. Boed mawr dy glod a'th enwogrwydd trwy yr holl ynys hon." "Henffych well i tithau," ebai Arthur, "eistedd rhwng dau o'm milwyr, a chei ddyddan gerddau ger dy fron a braint brenin, pa hyd bynag y byddych yma, A phan ranwyf roddion i'm gwestai a'r dyeithriaid yn y llys, i ti eu rhoddaf gyntaf." Ebai y mab, "Nid daethym yma i fwyta ac i yfed; ond os caf yr hyn a geisiaf genyt, dy fawrygu a'th foli a wnaf; os na chaf, dygaf dy annghlod i bedwar ban y byd." Ebai Arthur, "Gan na thrigi di yma, unben, rhoddaf it' y dymuniad a noda dy ben a'th dafod hyd ysych gwynt — hyd y gwlych gwlaw— hyd treigl haul — hyd y dygfor môr — hyd yr ymestyn daear — oddieithr fy llong, fy mantell, Caledfwlch fy nghledd, a Rhongomyant fy ngwaewffon, ac Wyneb Gwrthuchder fy nharian, a Charnwennan fy nghylleil, a Gwenhwyfar fy ngwraig. Myn y nef, ti a gei yr hyn a nodych yn llawen." "Trwsio fy ngwallt a fynaf," ebai Cilhwch. " Hyny a wnaf yn rhwydd," ebai Arthur.

A chymerth Arthur grib aur, a gwellaif ac iddo ddalenau arian, ac a gribodd wallt Cilhwch. Yna gofynodd y brenin i'r llanc, "Pwy ydwyt? canys y mae fy ngwaed yn cynhesu tuag atat, a gwn dy fod yn un o'm gwehelyth; dywed i mi pwy ydwyt." "Dywedaf; Cilhwch ab Celyddon o Oleuddydd ferch Anlawdd Wledig fy mam." "Gwir yw hyny," ebai Arthur, "cefnder wyt â mi; pa beth bynag a ofynech genyf, mi a'i rhoddaf it'." "Ar dy air, ac yn enw dy deyrnas," "Ie, yn llawen." "Dymunaf arnat gael im' Olwenferch Yspaddaden Pencawr yn wraig. A hyn a ddymunaf oddiar law dy filwyr. Oddiar Cai, a Bedwyr, a Greidawl Galldonyd, a Gwythyr ab Greidawl, a Greid ab Eri, a Chynddelig Cyfarwydd, a Tathal Twyll Goleu, a Maelwys ab Baeddan, a Crychwr ab Nes, a Cubert ab Daero, a Percos ab Poch, a Lluber Beithach, a Corfil Berfach, a Gwyn ab Nudd, ac Edoyrn ab Nudd, a Gadwg ab Geraint, a Flowdew Fflam Wiedig, a Ruawn Pebyr ab Doreth a Bradwen ab Moren Mynawc, a Moren Mynawc ei hun, a Dalldefab Cimin Cof, ac ab Alun Dyfed, ac ab Saidi, ac ab Gwiyon, ac Uchtryd Ardywad Cad, a Curwas Carfagyl, a Gwrhyr Gwarthegfras, ac Isperys Ewingath, a Grallcoyt Gofynyat, a Duach, a Grathach, a Nerthach meibion Gwawrddur Cyrfach (o derfynau uffern yr hanodd y gwyr hyn); a Cilyn Glanhastyr, a Canastyr Canllaw, a Cors Cant-Ewin, ac Esgeir Gulhwch Gofyn- cawn, a Drustwm Hayarn, a Glewlwyd Gafaelfawr, a Lloch Llawrwynyawc, ac Anwas Adeiniawc, a Sinnoch ab Seithfed, a Gwenwynwyn ab Naw, a Bedyw ab Seithfed, a Gobrwy ab Echel Forddwytwll, ac Echel ei hun, a Mael ab Roycol, a Dadweir Dallpenn a Garwyli ab Gwythawr Gwy, a Gwythyr ei hun, a Gonnant ab Ricca, a Mennw ab Teirgwaedd, a Digonon ab Alar, a Selyf ab Smoit, a Gusg ab Athen, a Nerth ab Cedarn, a Drudwas ab Tryffin, a Twrch ab Perif, a Twrch ab Annwas, ac Iona brenin Ffrainc, a Sel ab Selgi, a Teregud ab Iaen, a Sulyen ab Iaen, a Bradwen ab Iaen, a Moren ab Iaen, a Siawn ab Iaeu, a Cradawc ab Iaen (gwŷr Caerdathal oeddynt hwy, perthynasau i Arthur o du ei fam); Dirmyg, Justic, Etmic, Anghawd, Ofan, Celin. Conyn, Mabsant, Gwyngad, Llwybyr, Coth, Meilic, Cynwas, Ardwyad, Ergyryad, Neb, Gilda, Calcas, Hueil (meibion Caw oedd y rhai hyn, yr hwn ni ddeisyfodd ddim erioed oddiar law arglwydd). A Samson Finsych, a Taliesin Ben Beirdd, a Manawyddan ab Llyr, a Llary ab Casnar Wledig, ac Ysperni ab Flergant, brenin Llydaw, a Sarhanon ab Glythwyr, a Llawr Eilerw, ac Annyanniawc ab Menw ab Teirgwaedd, a Gwyn ab Nwyfre. a Fflam ab Nwyfre, a Geraint ab Erbin, ac Ermid ab Erbin, a Dyfed ab Erbin, a Gwyn ab Ermin, a Cyndrwyn ab Ermin, a Hyfeidd Unllenn, ac Eiddon Fawr Frydig, a Reidwn Arwy, a Gormant ab Ricca (brawd Arthur o du ei fam; Penhynef o Gernyw oedd ei dad). A Llanrodded Farfawg, a Nodawl Faryf Twrch, a Berth ab Cado, a Rheidwn ab Beli, ac Iscofan Hael, ac Iscawin ab Panon, a Morfran ab Tegid (ni tharawes neb ef yn mrwydr Camlan oberwydd ei hyllwch; pawb a'i tybient yn ddiafol mewn cnawd. Blew oedd arno fel blew carw). A Sandde Bryd Angel (ni chyffyrddwyd ef gan y waewffon yn mrwydr Camlan oberwydd ei brydferthwch; pawb a dybient mai angel o'r nef ydoedd). A Cynwyl Sant (y trydydd dyn a ddiangodd o frwydr Camlan, a'r ddweddaf a ymadawodd âg Arthur ar Hengroen ei farch). Ac Uchtryd, Eus, Henwas Adeinawg, Henbedestyr, a Sgilti Yscawndroed (meibion Erim oedd y rhai hyn; ac i dri o honynt y perthynai y tair cyneddf hyn; — Nid allodd dyn erioed ganlyn Henbedestyr ar draed nac ar farch; nid allodd mîl pedwar carnol erioed ganlyn Henwas Adeiniawg am un erw chwaithach yn mhellach na hyny; a Sgilti Yscawndroed pan yn myned i neges tros ei arglwydd, os byddai ei ffordd trwy goedwig, nid edrychai am lwybr, eithr ar frigau coed y cerddai, ac ni phlygodd deilen erioed tano gan mor ysgafndroed ydoedd). Teithi Hen ab Gwynhant (goresgynes y môír ei gyfoeth ef, ac o'r braidd y diangodd yntau a daeth i lys Arthur; a chyneddf oedd ar ei gyllell er pan y daeth yno — nid arosai carn byth wrth ei llafn, ac oherwydd hyn daeth haint trosto, ac y nychodd hyd farw). A Charneddyn ab Gofynon Hen, a Gwenwynwyn ab Naf Gysefin (pen campwr Arthur); a Llysgadrudd Emys, a Gwrbothu Hen (ewythrod Arthur oeddynt hwy, frodyr i'w fam). Culfanawyd ab Goryon, a Llenlleawg Wyddel o Bentir Ganion, a Dyfnwal Moel, a Dunard Frenin o'r Gogledd, Teirnon Turyf Bliant, a Tegfan Gloff, a Tegyr Tagellawg, Gwrdinal ab Elrei, a Morgant Hael Gwystyl ab Rhun ab Nwython, a Llwyddeu ab Nwython, a Gwydre ab Llwyddeu (Gwernabwy ferch Caw oedd ei fam ef. Hueil ei ewythr a'i harchollodd, ac am hyny y bu gelyniaeth rhwng Hueil ac Arthur). Drem ab Dremhidydd (a welai o'r Gelli Wig yn Nghernyw y gwybedyn yn codi yu y boreu gyda'r haul yn Blathaon, Gogledd Prydain;) ac Eidiol ab Ner, a Gwlyddyn Saer (yr hwn a gynlluniodd Ehangwen, llys Arthur); a Cynyr Ceinfarfawc (pan wybu fod iddo fab, efe a ddywedodd wrth ei briod, "Os yw dy fab di, forwyn, yn perthyn i mi, oer fydd ei galon, ac ni bydd gwres yn ei ddwylaw; a chyneddf arall bydd iddo, os mab imi ydyw, cyndyn fydd; a chyneddf arall fydd iddo, pan ddyco faich mawr neu fach, ni ddichon neb o'i flaen nac o'i ol ei weled; a chyneddf arall fydd iddo, ni bydd neb all wrthsefyll tân neu ddwfr cystal ag ef; a chyneddf arall fydd iddo, ni bydd ei well fel gwas neu swyddog). Henwas a Henwyneb (hen gydymdeithion Arthur); Gwallgwsc (un arall; pan y deuai ef i ddinas, hyd yn nod pe byddai ynddi dri chant o dai, os byddai efe mewn eisieu, nis gadawai i gwsg ddyfod at lygad gŵr tra y byddai efe yno). Berwyn ab Gerenhir, a Paris brenin Ffrainc, ac Osla Gyllellfawr (yr hwn a ddygai gydag ef ddagr fêr lydan; a phan ddelai Arthur a'i luoedd at lifddwfr, ceisid y lle cyfyngaf ar yr aig, a dodid y gyllell hon yn ei gwain ar draws y cyfwng, a digon o bont fyddai i luoedd ynys Prydain, a'r tair ragynys, ac i'w hanrheithiau). Gwydawg ab Menestyr (yr hwn a laddodd Cai, a lladdodd Arthur yntau a'i frodyr er dial ar Cai). Garanwyn ab Cai, ac Amren ab Bedwyr, ac Ely Amyr, a Rhen Rhwyd Dyrys, a Rhun Rhudwern, ac Eli, a Trachmyr (prif helwyr Arthur). A Llwyddeu ab Celgoed, a Hunabwy ab Gwryon, a Gwyn Godyfron, a Gwen Dathar, wenniddawg, a Gweir Cadell ab Talaryant, a Gweir Gwrhyd Ennwir, a Gweir Paledyr Hir (ewythrod Arthur, frodyr i'w fam). Meibion Llwch Llawwynnyawg (o'r tu hwnt i'r môr terwyn). Llenlleawg Wyddel, ac Ardderchawg Prydain. Cas ab Seidi, Gwrfan Gwallt Afwyn, a Gwyllhenhin frenin Ffrainc, a Gwittart ab Oedd brenin Iwerddon, Garselyt Wyddel, Panawr Pen Bagad, a Fleudor ab Naf, Gwynhwyfar maer Cernyw a Dyfneint (y nawfed gŵr a oroesoedd frwydr Camlan). Celi a Cueli, a Gilla Coes Hydd (gallai ef neidio tri chan erw ar un naid. Efe oedd prif neidiwr yr Iwerddon). Sol, a gwadyn Ossol, a Gwadyn Odyeith (gallai Sol sefyll ar ei untroed am ddiwrnod cyfan. Os safai Gwadyn Ossol ar ben ymynydd uwchaf yn y byd, suddai yn gydwastad â'r dyffryndir tan ei draed. Gwreichionai tân o wadnau traed Gwadyn Odyeith, pan darawent yn erbyn rhyw sylwedd caled; efe a arloesai y ffordd o flaen Arthur). Hirerwn a Hirartrwm (pan fyddent hwy ar daith, tri chantref a ddarparent luniaeth iddynt, ac wedi ymloddesta hyd yr hwyr, hwy a gysgent; ac yna penau pryfaid a ysynt fel pe na chawsynt fwyd erioed cyn hyny. Ni weddillient y tew na'r tenau, yr oer na'r brwd, y melys na'r chwerw, y croew na'r hallt, y berwedig na'r diferw). Huarwas ab Aflawn (hwn a ofynodd am ei wala gan Arthur; a chafodd ei ddeisyfiad pan oedd y trydydd pla yn Nghernyw; ni cheid gwên ar ei wynebpryd ond wedi iddo ymddigoni). Gware Gwallt Euryn; dau genaw Gast Rhymni; Gwyddrud, a Gwyddneu Astrus. Sugyn ab Suguedydd (sugnai hwn fôr a thri chan llong arno hyd oni fyddai yn draeth sych. Bron lydan oedd iddo). Rhacymwri gwas Arthur (dangosid yr ysgubor a fynid iddo ef, os byddai cynyrch deg aradr ar ugain o'i mewn, efe a'i tarawai â ffust haiarn nes byddai'r trawstiau a'r tylathau mor fân a'r mân-geirch ar y llawr). Dygyflwng, ac Annoeth Feidawg. A Hir Eiddyl, a Hir Amreu (deuwas i Arthur oeddynt hwy). A Gwefyl ab Gwastad (y dydd y byddai efe drist, gollyngai ei wefus isaf i lawr at ei fogail; a'r wefus uwchaf fyddai fel penguwch ara ei ben). Uchtryd Faryf Draws (yr hwn a ledai ei farf goch annhrefnus tros wyth trawst a deugain llys Arthur). Elidyr Gyfarwydd; Ysgyrdaf, ac Ysgudydd (deuwas i Wenhwyfar oeddynt hwy. Cyn gyflymed a'u meddyliau oedd eu traed pan ar neges). Brys ab Brethach, o Dalredynawc-du, yn Mhrydain. A Grudlwyn Gorr, Bwlch, a Cyfwlch, a Sefwlch, meibion Cleddyf Difwlch (eu tair tarian ymddisgleirient; eu tair gwaewffyn oeddynt awchus a miniog; eu tri chleddyf oeddynt rwygwyr archollion). Glas, Glessic a Gleisiad (eu tri ci, — Call, Cuall, a Cafall; eu tri march— Hwyrdyddwg, a Drwgdyddyd, a Llwyrdyddwg; eu tair gwraig — Och, a Garym, a Diaspad; eu tri ŵyrion — Lluched, a Nefed, ac Eissiwed; eu tair merch — Drwg, a Gwaeth, a Gwaethaf oll; eu tair morwyn — Eheubryd ferch Cyfwlch, Gorcascwn ferch Nerth, Ewaedau ferch Cynfelyn Ceudawd Pwyll, yr haner dyn). Dwrm Diessic Unben, Eiladyr ab Pen Llarcau, a Cenedyr Wyllt ab Heltwn Talaryanf, Sawyl Ben Uchel, Gwalchmai ab Gwyar, Gwalhafed ab Gwyar, Gwrhyr Gwastawd Ieithoedd (yr hwu a wyddai bob iaith), a Cethcrwm Offeiriad. Clustab Clustfeiniat (pe claddesid ef naw cufydd yn y ddaear, gallai glywed gwybedyn ddeng milldir o ffordd yn codi o'i lwth yn y bore). Medyr ab Methredydd o'r Gelliwig, (gallai saethu y dry w trwy ei ddwygoes hyd ar Esgeir Oerfelyn Iwerddon). Gwiawn Llygad Cath (yr hwn a allai dori pilen oddiar lygad gwybedyn yn ddiarwybod iddo). Ol ab Olwydd (saith mlynedd cyn ei eni lladratawyd moch ei dad, ac ar ol iddo dyfu yn ddyn, efe a'u holrheinies, ac a'u dygodd yn ol yn saith genfaint). A Betwini Esgob (hwn a fendigai fwyd a diod Arthur).

Er mwyn merched eurdorchog yr Ynys hon. Er mwyn Gwenhwyfar, prif rian; a Gweuhwyach ei chwaer, a Rathtyeu unig ferch Clemenhill, a Rhelemon ferch Cai, a Tanwen ferch Gweir Dathan Weiniddawg. Gwen Alarch ferch Cynwyl Canhwch. Eurneid ferch Clydno Eiddin. Eneuawc ferch Bedwyr. Eyrydreg ferch Tutfathar. Gwenwledyr ferch Gwaledyr Cyrfach, Erddudnid ferch Tryffin, Eurolwen ferch Gwedolwyn Gorr, Teleri ferch Peul, Indeg ferch Garwy Hir. Morfudd ferch Urien Rheged. Gwenllian Deg (y forwyn fawrfrydig). Creiddylad ferch Lludd Llaw Ereiut (y fenyw ardderchocaf yn nhair Ynys y cedyrn a'u tair ragynys; ac am hono y mae Gwythyr ab Greidawl a Gwyn ab Nudd yn ymladd bob dydd Calanmai hyd ddydd brawd). Elliw ferch Neol Cyn-Crog (yr hon a fu byw am dair oes). Essyllt Finwen ac Essyllt Fingul. A'r rhai hyn oll a dyngedodd Cilhwch ab Cilhydd i gael ei ddeisyfiad.

Yna y dywedodd Arthur, "Ha, Unben! ni chlywais i erioed am Olwen, nac am ei rhieni; eithr mi a anfonaf genhadau i'w cheisio, yn llawen, os caniatei amser imi." Ebai Cilbwch: "Caniatâf yn rhwydd hyd flwyddyn i heno." Ac Arthur a ddanfonodd genhadau i bob cwr o'r Ynys i chwilio am dani; ac yn mhen blwyddyn, dychwelasant heb gael na chwedl na chyfarwyddyd gan Olwen mwy na'r dydd cyntaf. Yna dywedodd Cilhwch, "Pawb a gawsant eu dymuniad oddigerth myfi. Ymaith yr âf, a dygaf gyda mi dy glod." "Ha, Unben!" ebai Cai, "a warthruddi di Arthur? Dyred gyda ni, ac nid ymadawn â thi hyd oni ddywedych nad ydyw y forwyn hono yn y byd, neu y caffom hi; nid ysgarwn â thi." Yna cyfododd Cai; â gallai Cai ddal ei anadl tan ddwfr am naw niwrnod a naw nos, a byw naw niwrnod a naw nos heb gysgu. Nid oedd feddyg a allai wella archoll cleddyf Cai. Medrus oedd Cai. Cyhyd â'r pren uwchaf yn y goedwig fyddai pan y mynai. Cyneddf arall iddo — mor fawr oedd gwres ei natur, pan fyddai'r gwlaw trymaf, pabethbynag a ddygai yn ei law, dyrnfedd is a dyrnfedd uwch na hwnw a fyddai sych; a phan fyddai mwyaf oerni ei gydymdeithion, byddai ef fel tân iddynt.

Galwodd Arthur ar Bedwyr, yr hwn nid arswydodd gydnegesa â Cai erioed. Cyflymach oedd ef nag ungwr yn yr Ynys hon oddieithr Arthur, a Drych, Ail Cibddar. Ac er nad oedd ganddo ond un llaw, ni thywalltai neb gymaint o waed ag ef ar faes brwydr; a chyneddf arall oedd iddo — ei waewffon a wnai archoll cymaint a naw o waewffyn eraill.

A galwodd Arthur ar Gynddelir Gyfarwydd, "Dos di gyda'r Unben i'r neges hon." Mor gyfarwydd oedd efe mewn gwledydd estronol ag yn ei wlad ei hun.

A galwodd Arthur ar Gwrhyr Gwastawd leithoedd, canys gwyddai ef bob iaith.

A galwodd Arthur ar Menaw ab Teirgwaedd, fel pan elent i wlad farbaraidd, y gallai efe daflu hud a lledrith tros y bobl, fel nas gwelent Cilhwch a'i gyfeillion, tra y gallent hwythau weled pawb.

Teithiasant hyd oni ddaethant at wastadtir eang, ar ba un yr oedd castell anferth, tecaf o holl gastellau y byd. Cerddasant y dydd hwnw hyd yr hwyr; a phan dybiasant eu bod yn ymyl y castell, nid oeddynt agosach ato yn yr hwyr nag yn y bore. Am y ddau ddiwrnod nesaf y teithiasant tuag yno, o'r braidd y gallasant gyrhaedd ato erbyn hwyr y trydydd dydd. A cherllaw y castell, gwelent ddiadell ddirif-ddiderfyn a dibendraw o ddefaid. Ac ar dwyn uchel gerllaw, yr oedd bugail yn eu harail. Am dano yr oedd cwrlid o grwyn, ac wrth ei ochr waedgi blewog, mwy na'r march mwyaf naw gauaf oed. Ni chollodd efe erioed oen chwaithach llwdn; ac nid esgeulusodd erioed gyfleusdra i wneud niwaid. Yr holl goed a thwmpathau ar y gwastadtir a losgodd efe ag anadl ei enau.

Yna dyedodd Cai, "Gwrhyr Gwastawd leithoedd, dos di i gyfarch y gŵr acw." Ebaiyntau, "Cai, nid addewais i fyned gam pellach na thithau." "Yna, awn oll gyda'n gilydd." Ebai Menw ab Teirgwaedd, "Nac ofnwch fyned, canys mi a daflaf hud dros y ci fel nas niweidio un gwr." Aethant i fynu at y bugail, a dywedasant wrtho, "Hardd wyt,! fugail." "Na bo chwi byth harddach nag wyf fi." "Ai tydi yw y penaeth?" "Nid myfi ydyw." "Eiddo pwy ydynt y defaid hyn, ac i bwy y perthyn y castell acw?" "Meredic awyr uwch,[1] gŵyr , pawb tros yr holl fyd mai eiddo Yspaddaden Pencawr ydyw." "Pwy wyt tithau?" " Cystenyn ab Dyfnedic y'm gelwir, â'm priod yr ymlygres fy mrawd, Yspaddaden Pencawr. A phwy ydych chwithau?" "Cenhadau Arthur ydym ni yn erchi Olwen, ferch Yspadden Pencawr." " Ha! wyr, trugaredd nef fo arnoch, na erchwch hyny, er mwyn yr holl fyd, canys ni ddychwelodd neb yn fyw oddiyma a arches yr arch hono." Yna cyfododd y bugail, a Chilhwch a roddodd fodrwy aur iddo. Ceisiodd ei rhoddi am ei fys, eithr rhy fach ydoedd, a dododd hi am fys ei faneg. Pan ddaeth adref, rhoddodd hi i'w briod i'w chadw. Ebai hi wrth y gwr, "O b'le daeth y fodrwy hon? Canys nid dy arfer di i'w cael anrhegion." "Myned i'r môr a wnaethum i ymofyn pysg, a gwelais gelain yn cael ei dwyn gan y tônau, ac ni welais erioed gelain decach; ac oddiar fys hono y cymerais y fodrwy hon." "Ha! ŵr, a ganiatâ'r mor i'w feirwon wisgo tlysau? dangos i mi y gelain." " Ha! wraig, y sawl piau y gelain ti a'i gweli yma heno." "Pwy yw hwnw?" ebai y wraig. "Cilhwch ab Cilydd ab Celyddon Wledig, yr hwn a ddaeth i geisio Olwen yn wraig." A chymysgedig oedd ei theimladau pan glywodd hi hyn — llawen ydoedd oblegyd fod ei nhai fab chwaer ar fedr dyfod ati, a thrist am nas gwelsai neb yn dychwelyd o geisio Olwen a'i einioes ganddo. Cyrchu a wniaethant at dŷ Cystenyn y bugail; a phan glybu hi sŵn eu traed yn dyfod, hi a redodd i'w cyfarfod, ar'fedr eu cofleidio o lawenydd. A chipiodd Cai ddarn o bren o'r pentwr, a gosododd ef rhwng ei ddwylaw, a hi a wasgodd y pren nes y plygodd fel wden. "Ha! wraig," ebai Cai, "pe gwasgesit fi fel yna, ni roddasai neb arall ei serch arnaf. Traserch fuasai hyny." Yna aethant i'r tŷ a chawsant luniaeth; ac ar ol hyn y codasant allan i ymddifyru. Ac agorodd y wraig gist o gareg oedd ar y pentan, a chyfododd gŵr ieuanc pen melyn crycho'r gist. Ac ebai Cai, "Gresyn cuddio y gŵr ieuanc hwn: gwn nad am ddrwg ei dielir." Ebai y wraig, "Nid yw hwn. ond y gweddill; tri mab ar ugain o'm mhlant a laddodd Yspadden Pencawr; ac nid oes genyf fwy o ymddiried am hwn nag am y lleill." Ebai Cai, "Deued yn gydymaith i mi; ac nis lleddir ef oni'm lleddir inau gydag ef." Yna hwy oll a fwytasant. A gofynodd y wraig, "Ar ba neges y daethoch chwi yma?" "I erchi Olwen i'r gŵr ieuanc hwn." Ebai y wraig, "Gan nas gwelwyd chwi hyd yn hyn gan neb o'r castell, dychwelwch fel y daethoch." "Y nef sydd dyst na ddychwelwn ni hyd oni welom y forwyn." Ebai Cai, " A ddaw hi yma fel y gwelom hi?" "Hi a ddaw yma bob dydd Sadwrn i olchi ei phen; ac yn y llestri yr ymylch y gedy hi ei modrwyau, ac ni chyrch hi na'i morwynion hwynt drachefn. Ond y nef ŵyr, ni niweidiaf fi fy enaid, ac ni thwyllaf a'm cret to, oni thyngwch na bydd i chwi wneud cam â hi." "Rhoddwn ein gair," ebynt hwythau. A danfonwyd i gyrchu y forwyn.

Pan ddaeth, gwisg o sidan fflangoch oedd am dani, a chadwen o ruddaur a pherlau emrald oedd am ei gwddf; melynach oedd ei phen na blodau y danadl, a gwynach ei chroen nag ewyn y don. Tecach oedd ei dwylaw a'i bysedd na blodau'r anemoni yn ewyn ffynon gweirglodd. Dysgleiriach oedd ei llygaid na golwg y gwalch a'r hebog. Gwynach oedd ei dwyfron na bron yr alarch gwyn. Coch ach ei dwyrudd na'r claret cochaf. Y sawl a'i gwelai, cyflawn fyddai o'i serch. Pedair o feillion gwynion a dyfent yn ôl ei throed, pa ffordd bynag y cerddai; ac am hyny y gelwid hi Olwen. Yna hi a ddaeth i fewn i'r tŷ, ac a eisteddodd wrth ochr Cilhwch ar ben uwchaf y fainc; ac mor fuan ag y gwelodd hi efe a'i hadwaenodd. Ebai Cilhwch, "Ha, ferch! myfi a'th gerais; a rhag ein henllibio, tyred ymaith gyda mi. Er's llawer dydd y'th gerais." "Nis gallaf wneuthur hyny, canys gwnaethym adduned â'm tad nad ymadawn âg ef heb ei ganiatâd; oblegyd y dydd yr ymbriodwyf y cyll efe ei hoedl. Y sydd, y sydd. Èithr rhoddaf gynghor it': — Dos at fy nhad, a deisyf fi ganddo; a chaniata bob peth a ofyn genyt, a thi a'm cei inau; eithr os gwrthodi iddo un peth, mi nis cei; a ffodus fyddi os diengi a'th einioes genyt." "Addunedaf hyn oll a llwyddaf," ebai Cilhwch. Yna hi a ddychwelodd i'w hystafell, a chodasant hwythau oll, a daethant hyd at y castell. A lladdasant y naw porthor ag oedd wrth y naw porth yn berffaith ddigynhwrf, a'r naw gwaedgi heb i un ohonynt gyfarth; ac aethant i'r neuadd. "Henffych well o nef a daear it', Yspaddaden Pencawr, "ebynt hwy. " I ba beth y daethoch chwi yma?" " Daethom i erchi Olwen yn wraig i Cilhwch ab Cilydd ab Celyddon." "Pa le y mae'm gweision a'm porthorion? Dyrchefwch y ffyrch o dan fy nwy ael, modd y gwelwyf ddull fy mab-yn-nghyfraith." Hyny a wnaethant. " Deuwch y fory a chewch atebiad." Cyfodasant i fyned ymaith, a gafaelodd Yspaddaden Pencawr yn un o'r saethau gwenwynig oeddwrth ei ochr, ac a'i lluchiodd atynt. Daliodd Bedwyr hi, a thaflodd hi yn ol, gan ffyrnig archolli Yspaddaden yn ei lin. " Mab-yn nghyfraith anfwyn yn sicr. Gwaeth y cerddaf oherwydd yr archoll hwn, ac nid oes iddo feddyginiaeth. Fel brath cacynen y meirch ydynt arteithiau yr haiarn gwenwynig hwn. Melldigedig y gôf a'i curodd, a'r eingion ar ba un ei curwyd. Mor dost ydyw!"

Y noson hono lletyasant yn nhŷ Cystenyn y bugail; a chyda chodiad haul dranoeth ymdrwsiasant a daethant i neuadd y castell, a dywedasant, " Yspaddaden Pencawr, dyro dy ferch i ni, a ninau a ddychwelwn ei thlysau a'i hamor (marriage dowry) iti a'i dwy gares. Ac oni roddi, dy einioes a golli trwy hyny." Ebai yntau, "Y mae ei phedair gorhen-nain a'i phedwar gorhendaid eto yn fyw; a rhaid i mi yn gyntaf ymgynghori â hwynt." "Gwna hyny," ebynt hwythau, "awn ninau at fwyd." Ac fel y cyfodant i fyned ymaith, efe a gymerth yr ail saeth oedd wrth ei ochr, ac a'i lluchiodd ar eu holau. Daliwyd hi gan Menaw ab Teirgwaedd, a thaflodd hi yn ol ato, gan ei archolli yn ei ddwyfron nes y treiddiodd allan trwy ei feingefn. "O fab-yn-nghyfraith creulon a melldigedig! Arteithiau yr haiarn caled ydynt fel brathiad cacynen y meirch. Melldigedig y pentan ar ba un ei twymwyd, a'r gof a'i ffurfiodd. Mor dost ydyw! Bellach pan ddringwyf allt, cyfyng fydd ar fy anadl, a phoenus fy nwyfron, a'm cylla yn ddrwg, a diffyg archwaeth." Yna hwy a'i gadawsant, ac a aethant at eu bwyd.

A'r trydydd dydd, pan ddaethant i'r palas, dywedai Yspadden Pencawr, "Na saethwch ataf yn rhagor, os na ddeisyfwch angau. Pa le y mae fy ngweision? Dyrchefwch y ffyrch o dan fy nwy ael, modd y gwelwyf agwedd fy mab-yn-nghyfraith."Hyny a wnaethant; ac fel y gwnelent hyny, cymerodd Yspadden Pencawr y drydedd saeth wenwynig, ac a'i lluchiodd atynt; a daliodd Cilhwch hi, ac a'i tarodd gydag yni yn ol, ac a archollodd Yspadden yn afal ei lygad, nes yr aeth y saeth allan trwy ei wegil. " Mab-yn-nghyfraith, anfwyn a melldigedig! Gwaeth fydd golwg fy llygaid tra fydd- wyf byw; pan elwyf yn erbyn y gwynt, dyfrio a wna, a'r bendro a gaf bob newydd-loer. Melldigedig y tân yn mha un ei twymwyd. Fel brathiad ci cynddeiriog ydyw archoll yr haiarn gwenwynig hwn." Yna aethant at fwyd. A thranoeth, daethant i'r palas, a dywedasant, " Na saetha atom yn rhagor, oni chwenychi ychwaneg o arteithiau a phoenau, ac hyd yn nod dy angau. Dyro dy ferch ini; ac oni roddi hi, dy einioes a golli o'i herwydd." "Pa le mae yr hwn a gais fy merch? Deued yma, modd ei gwelwyf." A dodasant gadair i Cilhwch wyneb yn wyneb âg ef.

Ebai Yspadden Pencawr, "Ai tydi a erchi fy merch i?" " le myfi," ebai Cilhwch. "Ehaid i mi gael llŵ genyt yr ymddygi yn gyfiawn tuag ataf; a phan gaffwyf a ddeisyfwyf genyt, tithau a gei fy merch." " Addawaf hyny ynllaweu, deisyfaddeisyfychgenyf," ebai Cilhwch.

"Wel, a weli di y garth mawr acw?" "Gwelaf." "Ei ddiwreiddio o'r ddaear a fynaf, a'i losgi yn wrtaith ar wyneb y tir, a'i fraenaru a'i hau, ac addfedu o'i gnwd a hyny oll mewn un dydd. Ac o'r grawn hwnw y mynaf wneuthur bwyd a diod i'th neithior di a'm merch. A hyn oll a fynaf ei wneuthur mewn un dydd."

" Rhwydd y gwneir hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

" Er y ceffi di hyny, y mae nas ceffych. T mae y tir hwn mor wyllt, fel nad oes amaethwr ond Amaethon ab Don a dichon ei arloesi; ac o'i fodd ni ddaw efe, ac o'i anfodd nis gelli dithau ei orfodi." " Ehwydd y ceir hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

" Er y ceffi di hyny, y mae nas ceffych, Gofannon ab Don i ddyfod i ben y tir i arbed yr haiarn; ni wna efe waith o'i fodd i neb ond bredin ardaith, ac nis gelli di ei orfodi ef."

"Rhwydd y gwnaf hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

"O ceffi di hyny, y mae nas ceffych. Dau ŷch gwineuIwyd Gwlwlyd wedi eu cydieuo i aredig y tir dyrys 'draw yn wych. Ni rydd efe hwynt o'i fodd, ac nis gelli dithau ei orfodi."

"Rhwydd y gwnaf hyny."

"O ceffi di hyny, y mae nas ceffych. Cydieuo y ddau ychain banog wrth yr un aradr, ac un ohonynt sydd yr ochr hon, a'r llall yr ochr hwnt i'r mynydd bân; sef yw y rhai hyny Nynniaw a Pheibiaw, y rhai a drawsffurfiodd Duw yn ychain oherwydd eu pechodau."

"Rhwydd y gwnaf hyny."

"Er y ceffi di hyny, y mae nas ceffych. A weli di y tir coch braenedig acw?"

"Gwelaf."

"Pan welais gyntaf fam y forwyn hon, hauwyd ynddo naw llestriaid o had llin, ac ni thyfodd na du na gwyn ohonynt eto, ac y mae'r mesur genyf wrth law yn awr. Rhaid i mi gael yr hâd hwnw i'w hau yn y tir newydd acw, fel y gwneler pen-llian gwyn ohonoi'm merch ddydd ei phriodas."

"Hawdd y gwnaf hyny."

"O ceffi di hyn, y mae nas ceffych. Mêl naw melysach na mêl yr haid wenyn ddihalog, heb ysgim na brychau ynddo, a fynaf i wneud bragod i'r wledd."

"Hawdd y caf hyny."

"Llestr Llwyr ab Llwyryon, yr hwn sydd werthfawr iawn. Nid oes lestr yn y byd all ddal y ddiod ond hwnw. O'i ewyllys da ni chei di y llestr, ac nis gelli dithau ei gymeryd trwy drais."

"Hawdd y caf ef."

"Er y ceffi di hyny, y mae nas ceffych. Basged Gwyddno Garanhir. Pe deuai yr holl fyd at eu gilydd, tri naw gŵr a gaent y bwyd a fynent ynddi yr un amser. Mi a fynaf fwyta ohoni y noson y daw fy merch yn wraig i ti. O'i ewyllys da ni rydd Gwyddno hi i neb, ac nis gelli dithau ei chymeryd trwy orthrech."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er y ceffi hyny, y mae nas ceffych. Corn Gwlgawt Gogogin i yfed ohono nos dy briodas. O'i fodd ni rydd efe ef, ac nis gelli dithau ei gymeryd o'i anfodd."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er y ceffi hyny, y mae nas ceffych. Telyn Teirtu i'n dyddanu y noson hono. Pan chwenycher, canu a wna ei hunan; a phan ewyllysier iddi beidio, y paid. O'i fodd ni rydd efe hi, ac o'i anfodd nis gelli ei chymeryd."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er y ceffi hyn, y mae nas ceflPych. Pair Diwrnach Wyddel, maer Ödgar, a mab i Aedd brenin Iwerddon, i ferwi y cigfwyd at dy neithior.""Hawdd y caf hyny."

"Er y ceffi di hyny, y mae nas ceffych. Angenrhaid fydd i mi olchi fy mhen a thori fy marf, a dant Ysgythyrwyn Benbaedd a fynaf i ymeillio, ac ni fydd o les oni thynir ef o'i ben ac yntau yn fyw."

"Hawdd y gellir hyny."

"Er, &c. Nid oes neb yn y byd all dynu y dant o'i ben namyn Odgar ab Aedd, brenin Iwerddon."

"Hawdd y gellir hyny."

"Er, &c. Nid ymddiriedaf neb i gadw yr Ysgythrddant namyn Gado o Ogledd Prydain. Arglwydd yw ef ar driugain cantref y Gogledd, ac o'i fodd ni ddaw efe allan o'i deyrnas, ac nis gelli dithau ei ddwyn trwy drais."

"Hawdd y gellir hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

"Er, &c. Rhaid imi ymledu fy ngwallt cyn ei eillo, ac nid ymleda byth o ni chaf waed y Widdon (sorceress) Orddu, ferch y Widdon Orwen, o Ben Nant Gofìd, ar gyffiniau uffern."

"Hawdd y caf hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

"Er, &c. Ni fynaf y gwaed oni chaf ef yn gynhes, ac ni cheidw yn gynhes oddigerth yn nghostrelau Grwyddolwyn Gorr, y rhai a gadwant y gwres pe rhoddid yr hylif ynddynt yn y Dwyrain hyd oni ddygid ef i'r Gorllewin. Ac o'i fodd ni rydd efe hwynt, ac o'i anfodd nis gelli dithau eu cymeryd."

"Hawdd y gellir hyny."

"Er, &c. Nid oes trwy yr holl fyd grib a gwellaif y gallaf drin fy ngwallt â hwynt, gan mor fras ei dyfiant, namyn y crib a'r gwellaif sydd rhwng dwy glust y Twrch Trwyth ab Tared Wledig. Ni rydd efe hwynt o'i fodd, ac o'i anfodd nis gelli dithau eu cymeryd."

"Hawdd y gellir hyny."

"Er, &c. Nis gellir hela y Twrch Trwyth oni cheir Grutwyn, cenaw Greid ab Eri."

"Er, &c. Nid oes yn y byd gynllyfan [carai â pha un y daliai yr hebogydd yr hebog] a ddeil y Twrch Trwyth namyn cynllyfan Cwrs Cant Ewin." "Hawdd y ceir hono." "Er, &c. Nid oes torch yn y byd ddeil y gynllyfan namyn torch Cynhastyr Canllaw."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Cadwyn Cilydd Canhastyr i ddal i dorch "wrth y gynllyfan. Ni chei di hon o'i fodd, ac o'i anfodd nis gelli dithau ei chymeryd."

"Hawdd y gwneir hyny."

"Er, &c. Nid oes heliwr yn y byd all hela gyda'r ci hwn namyn Mabon ab Modron. Dygwyd ef pan yn deirnos oed oddiwrth ei fam, ac nis gwyddys pa le y mae, na pha un ai byw ai marw ydyw."

"Hawdd y ceir ef."

"Er, &c. Gwynn Mygdwn, march gweddw, yr hwn sydd cyn gyflymed a'r dôn, i ddwyn Mabon ab Modron i hela y Twrch Trwyth. Ni chei di ef o'i fodd, ac o'i anfodd nis gelli dithau ei gymeryd."

"Hawdd y gwneir hyny."

"Er, &c. Ni ddeui byth o hyd i Fabon, canys ni wyddys pa le y mae, o ni chefi. yn gyntaf Eidoel ab Aer, ei gefnder; ac ofer fyddai i ti chwilio am dano."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Garselit Wyddel, prif heliwr yr Iwerddon, canys nis gellir hela y Twrch Trwyth hebddo ef."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Cynllyfan o farf Disstdl Farfawg, canys dyna yn unig a ddeil y ddau genaw hyny. Ac ni bydd cryfder yn y gynllyfan, oni thynir ei farf ac yntau yn fyw, a'i thynu hefyd gyda gefail bren. Tra byddo byw, ni oddef efe wneud o honot hyny iddaw, a brau a diles fydd y gynllyfan os marw fydd efe."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er, &c. Nid oes heliwr yn y byd a ddeill y ddau genaw hyny oddieithr Cenedyr Wyllt ab Hettwn Glafyrawc, a naw gwylltach yw ef na'r anifail gwylltaf ar y mynydd. Ni ddeli di ef byth, a'm merch inau nis ceffi."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Ni helir y Twrch Trwyth, nes caffael Gwyn ab Nudd, yr hwn a ddodes Duw i reoli deifl ieuainc Annwn, rhag iddynt ddinystrio y genedlaeth bresenol. Ac ni hebgarir ef oddiyno."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er, &c. Nid oes farch yn y byd all gario Gwyn i hela y Twrch Trwyth, namyn Du, march Mor o Oerfeddawg."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Hyd oni ddaw Cilhennin, brenin Ffrainc, nis gellir hela y Twrch Trwyth. Anweddus ynddo ef fyddai gadael ei deyrnas, ac yma ni ddaw efe byth."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Nis gellir hela y Twrch Trwyth heb fab Alun Dyfed. Medrus yw efe yn gollwng y cŵn."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Nis gellir hela y Twrch Trwyth oni cheir Aned ac Athlem. Cyflymed ydynt hwy a'r awel wynt, ac nis gollyngwyd hwynt erioed ar unrhyw fwystfil a'r nis lladdasant."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Arthur, a'i gymdeithion i hela y Twrch Trwyth. Gŵr nerthol yw efe, ac ni ddaw i hela erot ti, ac nis gelli dithau ei dreisio ef."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er, &c. Nis gellir hela y Twrch Trwyth oni cheir Bwlch a Cyfwlch [a Sefwlch], ŵyrion y Cleddyf Difwlch. Eu tair tarian ymddysgleiriant; eu tair gwaewffon ydynt awchus a miniog; a'u tri chleddyf ydynt rwygwyr ar- chollion — Glas, Glessig, a Glersag. Eu tri ci — Call, Cuall, a Cafall. Eu tri march — Hwyrdyddwg, Drwgdyddwg, a Llwyrdyddwg. Eu tair gwraig — Och, Garam, a Diaspad. Eu tri ŵyr — Lluched, Fyned, ac Eisiwed. Eu tair merch — Drwg, Gwaeth, a Gwaethaf oll. Eu tair llawforwyn — Eheubryd ferch Cyfwlch, Garasgwrn ferch Nerth, a Gwaeddu ferch Cynfelyn. Y tri ŵyr hyn a ganent eu cyrn, a'r lleill a floeddient, nes y credai pawb fod y nef yn' disgyn i'r ddaear."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Cleddyf Gwrnach Gawr. Nis gellir lladd y Twrch ond â'r cleddyf hwn. O'i fodd ni rydd efe ef i ti,' ac o'i anfodd nis gelli dithau ei gymeryd. " "Hawdd y gallaf hyny."

"Ti a gyfarfyddi âg anhawsderau a nosweithiau blinion yn ceisio y pethau hyn; ac os na byddi llwyddianus i'w cael, ni chei chwaith fy merch."

"Meirch a marchogion, a'r holl bethau hyn, a gaf gan fy nghyfathrachwr Arthur; a mi a enillaf dy ferch, a thithau a golli dy fywyd."

"Dos rhagot. Ni byddi ddyledus am fwyd na dillad i'm merch tra y byddych yn ceisio y pethau hyn; ac wedi it' orfod dy holl anhawsderau, y derbyni fy merch yn wraig."

Teithiasant hyd hwyr y dydd hwnw, pryd y gwelent y castell mwyaf yn y byd. a gwelent ddyn du anferth cymaint a thri o wŷr y byd hwn, yn dyfod allan o'r gaer. Gofynasant iddo, "O! ddyn, o ba le y daethost?" O'r castell a welwch acw." " Pwy biau y castell?" " wŷr, mor ddiwybod ydych! Nid oes neb yn y byd nas gŵyr i bwy perthyn y gaer hon. Castell Gwrnach Gawr ydyw." "Pa groesaw i ddyeithriaid a dariant ynddo?" "Ha! unben, Duw a'ch noddo; ni ddychwelodd gwestai erioed oddiyma yn fyw, ac ni ollyngir i mewn namyn a ddyco gelf."

Cyfeiriasant at y porth, a gofynodd Gwrhir Gwastawd ieithoedd, " A oes borthor?" " Oes: ac os nad yw dy dafod yn fud yn dy ben, paham yr ymholi?" "Agor y porth." "Nac agoraf." "Paham nad agori?" "Y mae y gyllell yn y bwyd, a'r ddiod yn y corn, a llawenydd yn neuadd Gwrnach Gawr; ac oni byddo gelfwr a ddyco gelf, nid agorir y porth iddo y nos heno." Ebai Cai, "Y porthor, y mae celf genyf fì." "Pa gelf sydd genyt?" "Y goreu yn y byd ydwyf am loewi cleddyfau." " Dy wedaf hyn wrth Gwrnach Gawr, ac a ddycaf ateb it'."

Aeth y porthor i'r llys, a gofynodd Gwrnach, "A oes genyt newydd o'r porth?" "Oes; y mae gwŷr wrth y ddor yn chwenych dyfod i mewn." "A ofynaist a oedd celf ganddynt?" "Gofynais, a ddywedodd un ei fod yn fedrus mewn gloewi cleddyfau." "Y mae angen arnom wrth hwnw. Er's encyd yr wyf yn chwilio am ŵr i loewi fy nghledd, ac nis cefais. Gollwng i mewn hwnw gan fod celf ganddo."

Dychwelodd y porthor, agorwyd y porth, ac aeth Cai i mewn ei hunan, ac a gyfarchodd well i Wrnach Gawr. Rhoddwyd cadair iddo gerbron y Cawr, yr hwn a ofynodd iddo: — Ha ŵr! ai gwir a ddywedir am danat y gelli di loewi cleddyfau?" "Gallaf hyny yn dda." ebai Cai. Dygwyd cleddyf Gwrnach iddo. Cymerth Cai ei galen hogi las odditan ei gesail, a gofynodd, "Pa un oreu genyt ai caboliad glas ynte gwyn?" "Gwna a fyddo da yn dy olwg, fel pe byddai yr offeryn yn eiddo i ti."Ac wedi i Cai loewi haner y llafn, cymerth ef yn ei law a gofynodd, "Ai da hyn yndyolwg?" "Rhoddwn haner fy nghyfoeth pe byddai y gweddill o hono fel hyn. Rhyfedd gennyf fod gŵr o'r fath ag wyt ti heb gydymaith." "Ha, fy arglwydd, y mae im' gydymaith, ond nid yw efe fedrus yn y gelf hon." "Pwy ydyw?" " Hysbysaf i'r porthor ei neillduolion ef fel oi hadnabyddo: — Blaen ei waewffon a ddaw yn rhydd oddiwrth y llafn, a dyn waed o'r gwynt, ac a ddisgyn eilwaith i'w le yn y llafn." Atebodd Bedwyr i'r dysgrifiad, agorwyd y porth, a gollyngwyd ef i mewn. A dywedodd Cai, "Medrus iawn yw Bedwyr, eithr nid yn y gelf hon."

Ac yn mhlith y gwŷr oddiallan yr oedd petrusder oherwydd myned Cai a Bedwyr i mewn. Ac aeth y gŵr ieuanc, unig fab Cystenin y bugail, yntau hefyd i mewn. Parodd i'w gydymdeithion lynu yn agos ato tra yr elynt trwy y tri chadlys, nes y daethant i ganol y castell. A'i gydymdeithion a ddywedasant wrtho, " Ti a wnaethost hyn; goreu gŵr ydwyt;" a galwyd ef o hyny allan, "Goreu ab Cystenyn." Yna ymwasgarasant pob un i'w lety, modd y lladdent eu lletywyr yn ddiarwybod i'r Cawr.

Erbyn hyn yr oedd y cleddyf wedi ei gaboli, a dodes Cai ef yn llaw Gwrnach er mewn gwybod a oedd y gwaith wrth ei fodd; ac ebai yntau, "Da yw y gwaith, a boddlon ydwyf." Ebai Cai, "Y wain a rydodd dy gleddyf; moes efe i mi fel y tynwyf ymaith ei ystlysau pren, ac y rhoddaf rai newyddion yn eu lle." Ac efe a gymerth y wain yn un llaw, a'r cleddyf yn y llall, gan sefyll gyferbyn a'r Cawr, fel pe buasai yn rhoi y cledd yn y wain, eithr yn lle hyny tarawodd y Cawr yn ei ben, ac a'i torodd ymaith âg un ergyd. Yna anrheithiasant y castell, ac ysbeiliasant y dâ a'r tlysau oeddynt yno; ac yn mhen blwyddyn i'r diwrnod, daethant i Lys Arthur, a chanddynt gleddyf Gwrnach Gawr.

Dywedasant wrth Arthur y modd y darfu iddynt, ac ebai yntau, " Pa beth sydd iawnaf ei geisio gyntaf o'r rhyfeddolion hyn?" Ebynt hwythau, " iawnaf ceisio Mabon ab Modron, ac ni cheir ef oni cheir yn gyntaf Eidoel ab Aer, ei gyfathrachwr." Yna cychwynodd Arthur a rhyfelwyr Ynys Prydain i chwilio am Eidoel, a daethant hyd at Gastell Glifi, lle yr oedd efe yn ngarchar. Safai Glifi ar ben y gaer, a dywedodd, " Arthur, beth sydd a fynot â mi? gau nad oes dim o fewn y gaer, ac nad oes genyf na llawenydd na phleser, na gwenith na cheirch. Gan hyny na wna imi niwaid." Ebai Arthur, "Nid i'th niweidio y daethum, eithr i geisio carcharor sydd genyt." "Rhoddaf it' y carcharor, er nas bwriadaswn ei roddi i ungwr, a chyda hyny y derbyni genyf bob cymhorth a chroesaw."

A gwŷr Arthur a ddywedasant wrtho, " Arglwydd, dychwel di adref, nid gweddus it' ddylin dy luoedd ar ymgyrchiadau bychain o'r fath yma." Ebai Ai'thur, " Gwrhyr Gwastawt Ieithoedd, i ti y perthyn y neges hon, canys deallus ydwyt yn mhob iaith, a chyfiaith ydwyt a'r anifeiliaid a'r adar. Dylit tithau, Eidoel, fyned gyda'm gwŷr i geisio dy gefnder. Ac am danoch chwi, Cai a Bedwyr, pa beth bynag a gymeroch mewn llaw, y mae ffydd genyf y llwyddwch.: llwyddwch hefyd yn y neges hon."

Yna teithiasant hyd at Fwyalchen Cilgwri, ac ebai Gwrhyr, gan ei thyngedu yn enw y nefoedd, "Dywed i ni, os gwyddost rywbeth am Fabon ab Modron, a gymerwyd oddirhwng ei fam a'r pared pan yn deirnos oed." Ebai'r Fwyalchen, "Pan ddaethym i'r fan hon gyntaf, aderyn ieuanc oeddwn, ac eingion gof oedd yn sefyll ger- llaw. Ac er y dydd hwnw ni bu traul yn y byd ar ni, ond fy ngwaith i yn rhwbio fy mhig arni bob nos; ac yn awr nid oes swm gymaint a chneuen yn aros o honi; eto, dialedd Duw arnaf, os clywais i erioed am y gŵr y gofynwch. Eithr mi a wnaf yr hyn sydd deg a chyfìawn i genadau Arthur — arweiniaf chwi at genedlaeth sydd yn hŷn na myfì."

Yna daethant at y lle yr oedd Carw Rhedynfre, ac ebynt wrtho, "Cenadau oddiwrth Arthur ydym atat ti, canys clywsom nad oes greadur hŷn na thydi yn y byd. Dywed os gwyddost rywbeth am Fabon ab Modron, yr hwn a gymerwyd oddiwrth ei fam yn deirnos oed." Ebai y Carw, "Pan ddaethym i'r fangre yma gyntaf, gwastattir moel ydoedd, heb ddim coed, namyn un gollen dderwen, yr hon a dyfodd yn bren mawr can' cainc. A bu y dderwen farw, ac erbyn heddyw nid oes yn aros o honi ond ei boncyff gwywedig; eithr ni chly wais erioed am y gŵr yr ymholwch. ond byddaf arweinydd i genadau Arthur at greadur a grëwyd o'm blaen i."

A daethant at y lle yr oedd Dallhuau Cwm Cawlwyd. " Ddallhuan Cwm Cawlwyd, wele genadau oddiwrth Arthur yn ymofyn os gwyddost ti rywbeth am Fabon ab Modron a gymerwyd yn deirnos oed oddiar ei fam?" Pe gwyddwn, dywedwn. Pan gyntaf y daethym i'r lle hwn, glyn coediog ydoedd; a dynion a ddaethant ac a ddiwreiddiasant y coed hyny, a thyfodd ihai eraill yn eu lle; a'r tô presenol o goed ydynt y trydydd cnwd er pan y daethym i i'r lle hwn. Onid yw fy esgyll yn gonynau diffrwyth? Ac o'r dydd hwnw hyd yn awr ni chlywais erioed am y gŵr y gofynwch. Pa fodd hynag, byddaf arweinydd i genadau Arthur at y creadur hynaf, a'r un a deithiodd fwyaf yn y byd oll."

Yna daethant at Eryr Gwernabwy, ac ebai Gwrhyr, "Yn genadau oddiwrth Arthur y daethom atat i'th holi os gwyddost am Fabon ab Modron a gymerwyd yn deirnos oed oddi-wrth ei fam." "Daethym i'r lle hwn er's cryn ysbaid o amser bellach, a'r pryd hwnw yr oedd yma faen mawr, oddiar gopa yr bwn yr oeddwn yn pigo y sêr bob nos; ac yn awr nid ydy w dros ddyrnfedd o uwchder. Er y dydd hwnw ni chlywais am y gŵr y gofynwch amdano, oddieithr un tropan oeddwn cyn belled a Llyn Llyw yn ymofyn ymborth. Yno dodais fy ewinedd mewn eog, gan dŷbied y byddai'n ymborth i ni am hir amser; eithr yn lle hyny, tynwyd fi ganddo i'r dwfn, ac o'r braidd y gellais ddianc am hoedl genyf. Wedi hyny cesglais fy holl genedl er mwyn myned i'w difetha, ond efe a anfonodd genadau i wneud heddwch â mi, ac i ddeisyf arnaf dynu deg tryfer a deugain o'i gefn. Os na ŵyt efe am y gŵr yr holwch yn ei gylch, nis gŵyr neb. Pa fodd bynag, mi a'ch arweiniaf ato."

Wedi iddynt ddyfod ato, ebai yr Eryr, "Eog Llyn Llyw, daethym â chenadau Arthur atat i ymofyn os gwyddost rywbeth am Fabon ab Modron a gymerwyd yn deirnos oed oddiwrth ei fam?" Ebai yr Eog, " Yr hyn a wn a ddywedaf. Myned i fyny yr afon yma yr ydwyf gyda phob llanw hyd oni ddeuaf at furiau Caerloew, ac ni welais gymaint o ddrygioni yn unman ag a welais yno; ac fel y credech yr hyn a ddywedwyf, deued dau o honoch. ar fy nwy ysgwydd, a dygaf hwynt i'r lle." Ac aeth Cai a Gwrhyr Gwastawt Ieithoedd ar ddwy ysgwydd yr Eog, a dygwyd hwynt ganddo at furiau castell Caerloew, yn naeardy pa un y clywsant gwynfan ac wylofain. Ebai Gwrhyr, "Pwy sydd yn cwynfan yn y maendy hwn?" "Nid yn ddiachos y cwyna'r sawl sydd yma. Mabon ab Modron sydd yn ngharchar, ac nid oedd carchariad Lludd Llaw Ereint a Greid ab Eri mor dost a'm carchariad i." " A oes genyt obaith yth rhyddheir er aur, arian, a chyfoeth, neu trwy ymladdau a brwydrau?" "Trwy ymladdau y'm rhyddheir, os rhyddheir fi o gwbl."

Dychwelasant at Arthur, a dywedasant wrtho pa le yr oedd Mabon ab Modron yn ngharchar. Gwysiodd Arthur holl ryfelwyr yr ynys, a daethant i Gaerloew. Aeth Cai a Bedwyr ar ysgwyddau y pysgodyn, tra yr ymosodai milwyr Arthur ar y castell oddiar y tir. A thorodd Cai trwy y mur i'r daeardy, a dygodd y carcharor ymaith ar ei gefn, tra yr ymfrwydrai y ddwyblaid rhyfelwyr â'u gilydd. Dychwelodd' Arthur adref, a Mabon gydag ef yn ŵr rhŷdd. Ebai Arthur, " Pa beth sydd iawnaf eto o'r rhyfeddolion hyn?" " lawnaf fyddai ceisio dau genaw Gast Rhymhi." 74 TSTORI CILH-WCH AC OL-WEN. Ebai Arthur, "A ŵyr rhywun yn mha le y mae hi?" " Yn Aber Dau Gleddyf," ebai un. Yna aeth Arthur i dŷ Tringad, yn Aber Cleddyf, i ymofyn os clywsai y gŵr hwnw am dani. " Yn mha rith y mae hi?" " Yn rhith bleiddast, a chyda hi y mae dau genaw." " Hi a laddodd 'lawer o'm dâ i; mewn ogof islaw Aber Cleddyf y mae hi."

Aeth Arthur ar y môr yn ei long Prydwen i'w hela, a'r lleill aethant hyd y tir. Cylchynasant hi a'i dau genaw; a thrawsffurfìodd Duw hwynt, er mwyn Arthur, i'w ffurf eu hunain.

Yna lluoedd Arthur a ymwahanasant yn un a dau. Ac fel yr oedd Gwythyr ab Greidiawl, un diwrnod, yn teithio tros fynydd, efe a glywai lefain a gruddfan, a chyfeiriodd tuag ato. Wedi cyrhaedd i'r fan, dadweiniodd ei gleddyf, a thorodd âg ef dwmpath morgrug yn glos wrth y llawr, a thrwy hyny achubodd ef rhag ei losgi. A'r morgrug a ddywedasant wrtho, " Bendith nef fyddo arnat, a'r hyn ni ddichon dyn ei roddi it' ni a'i rhoddwn." Yna cyrchasant y naw llestraid hâd llin a archodd Yspaddaden Pencawr oddiar law Cilhwch yn llawn mesur heb ddim yn eisiau ohonynt, oddieithr un hedyn, a'r morgrugyn cloff a ddaeth â hwnw cyn y nos.

Pan oedd Cai a Bedwyr yn eistedd ar ben Pumlymon ar y gwynt mwyaf yn y byd, edrychasant o'u hamgylch a gwelent fŵg tua'r dehau yn mhell oddiwrthynt, nad oedd y gwynt yn ei drosi. Ebai Cai, " Myn llaw fy nghyfaill, wele acw dân rhyw yspeilydd." Prysurasant tuag ato, a daethant mor agos ag y gallent weled Dillus Farfawg yn deifio baedd coed. "Dacw y lleidr penaf a ddiangodd rhag Arthur erioed," ebai Bedwyr wrth Cai. "Adwaenost ti ef?" " Adwaen," ebe Cai, " Dillus Farfawg ydyw, ac nid oes gynllyfan yn y byd a ddeil Drudwyn, cenaw Greid ab Eri, namyn cynllyfan o farf y gŵr hwnw; a diles fydd oni thynir hi ac yntau yn fyw gyda gefail bren; canys os marw fydd efe, brau fydd ei farf." "Pa fodd y gwnawn?" ebai Bedwyr. " Gadawn iddo fwyta ei wala o'r cig, ac wedi hyny efe a gysga," ebai Cai. Yn y cyf- amser, gwnaethant efeilion prenau; a phan oedd Cai yn sicr fod Dillus yn cysgu, efe a wnaeth y pwll mwyaf yn y byd o dan ei draed ef; ac wedi rhoddi iddo ddyrnod trwm, efe a'i gwasgodd ef i'r pwll. A difarfwyd ef yn llwyr gyda'r gefeilion prenau, ac wedi hyn y lladdasant ef.

Oddiyno aethant eill dau i'r Gelli Wig, yn Nghernyw, a chyda hwynt y gynllyfan o farf Dillus, yr hwn a ddodes Cai yn llaw Arthur, ac yna canodd Arthur yr Englyn hwn: —

Cynllynfan a orug Cai
O farf Dillus fab Erai,
Pe iach dy angeu fyddai.

O herwydd hyn sorodd Cai, ac o'r braidd y gallodd rhyfelwyr yr ynys gadw heddwch rhyngddo ef ac Arthur. Ac o hyny allan nid ymyrodd Cai yn mrwydrau Arthur.

Ebai Arthur, "Pa un o'r rhyfeddolion hyn fyddai iawnaf ei geisio nesaf?" "lawnaf fyddai ceisio Drudwyn cenaw Greid ab Eri."

Ychydig cyn hyn, dyweddiwyd Creiddylad ferch Lludd Llaw Ereint gyda Gwythyr ab Greidawl. A chyn eu priodi, daeth Gwyn ab Nudd ac a'i dygodd hi ymaith trwy orthrech; a chynullodd Gwythyr ab Greidawl ei lu i ryfel yn erbyn ab Nudd. Eithr Gwyn a drechodd. ac a wnaeth yn garcharorion Greid ab Eri, a Glineu ab Taran, a Gwrgwsg Ledlwm, a Dyfnarth ei fab; a daliodd hefyd Pen ab Nethawg, a Nwython, a Cyledyr Wyllt ei fab. Lladdasant Nwython, a gorfodasant Cyledyr i fwyta calon ei dad, ac oherwydd hyny yr aeth efe yn wyllt. Pan hysbyswyd hyn i Arthur, efe a aeth i'r Gogledd, ac a wysiodd Gwyn ger ei fron, a rhyddhaodd y pendefigion oedd yn ngharchar, a heddychodd Gwyn ab Nudd a Gwythyr ab Greidawl. Dyma yr heddwch a wnaed rhyngddynt: — Fod y forwyn i aros yn nhŷ ei thad heb fantais i'r naill na'r llall, a bod Gwyn a Gwythyr i ymladd am dani bob dydd Calanmai hyd ddydd brawd, a'r hwn fuasai fuddugwr y pryd hwnw oedd i'w chael hi.

Wedi heddychu y ddau benaeth hyn y cafodd Arthur Mygdwn, march Gweddw, a chynllyfan Cwrs Nant Ewin.

Yna aeth Arthur i Lydaw, a chydag ef Mabon ab Mellt, a Gware Gwallt Euryn, i geisio dau gi Glythmyr Ledewig. Ac wedi iddo gael y rhai hyn, efe a aeth i orllrwinbarth Iwerddon, ac aeth Odgar ab Aer brenin yr Iwerddon gydag ef. Oddiyno aeth i'r Gogledd, a daliodd Gyledyr Wylli. Yna aeth ar ol Ysgithyrwyn Penbaedd, a chydag ef yr oedd Mabon ab Mellt, a chanddo ddau gi Glythmyr Ledewig yn ei law, a Drudwyn cenaw Greid ab Eri. Aeth Arthur i'r helfa ei hun, gan dywys Cafall ei gi. Caw, o Ogledd Prydain, a farchogai Llamren, caseg Arthur, ac efe oedd y cyntaf yn yr ymgyrch. A Chaw a gymerth fwyall yn ei law, ac mewn dull. beiddgar cyfarfyddodd y baedd, a holltodd ei ben yn ddau haner. Yn awr ni laddwyd y baedd gan y cŵn a enwasai Yspadden, eithr gan Cafall, ci Arthur.

Wedi lladd Yscithyrwyn Penbaedd, Arthur a'i luoedd a ddychwelasant i'r Grelli Wig, yn Nghernyw; ac oddiyno anfonodd Menw ab Teirgwaedd, i edrych a oedd y tlysau rhwng dwy glust Twrch Trwyth, gan mai ofer fuasai ymosod arno oni buasai y tlysau ganddo. Nid oedd amheuaeth o barth ei breswylfan, gan ei fod yn anrheithio trydedd ran Iwerddon. Aeth Menaw tuag ato, a chafodd efyn Esgair Oerfel, Iwerddon. Yna ymrithiodd Menw yn aderyn, a disgynodd ar ben ei ffau, gan amcanu cipio y tlysau oddiarno felly, ac ni chipiodd efe ddim namyn un o'i wrych. Cyfododd y Baedd yn ddigllawn, ac ymysgydwodd nes y syrthiodd peth o'i lafoer gwenwynllyd ar Ellenw, ac ni bu efe byth yn iach o'r awr hono allan.

Wedi hyn anfonodd Arthur genadau at Odgar ab Aer, brenin yr Iwerddon, yn gofyn pair Diwrnach Wyddel, ei faer. Eithr Diwrnach a atebodd, "Y nef a ŵyr pe gwnaethai rhyw les iddo edrych ar y pair, nis cawsai efe hyny."A chenadau Arthur a ddychwelasant o'r Iwerddon gyda'r nacâd hwn. Cychwynodd Arthur gydag ychydig o'i nifer yn ei long Prydwen tua'r Iwerddon, a daethant at dý Diwmach Wyddel; a lluoedd Odgar a welsant eu nerth hwynt. Wedi iddynt fwyta ac yfed eu digon, archodd Arthur y Pair. Atebodd Diwrnach, "Pe'i rhoddasem i rywun, rhoddaswn hi ar air Odgar brenin yr Iwerddon.

Wedi clywed y nacâd hwn, cyfododd Bedwyr, a gafaelodd yn y Pair, gan ei ddodi ar gefn Hygwyd, gwas Arthur, yr hwn oedd frawd o du mam i Cacmwri, gwas arall i Arthur. Ei swydd ef oedd dwyn pair Arthur, a rhoddi tân o tani. A Llenlleawg Wyddel a afaelodd yn Caledfwlch ac a'i chwifìodd. A lladdasant Diwrnach a'i gyfeillion. Yna daeth y Gwyddelod i ymladd â hwynt. Wedi gorchfygu y rhai hyn, aethant tua'r llong gan gymeryd gyda hwynt y Pair- yn llawn o arian Gwyddelig. Tiriodd yn nhŷ Llwydden ab Celcoed yn Mhorth Cerddin, Dyfed; ac yno y mae mesur y pair.

Yno cynullodd Arthur holl fìlwyr tair ynys Prydain a'u tair rhag-ynys, a holl filwyr Ffrainc, a Llydaw, a Normandi, a Gwlad yr Haf, a'r holl wŷr dethol, a'r marchogion clodfawr. A chyda y rhai hyn yr aeth efe i'r Iwerddon, lle yr oedd ofn ac arswyd mawr rhagddo. A phan laniodd efe yn y wlad, daeth seintiau yr Iwerddon ato gan erchi ei nawdd. Ac efe a ganiataodd iddynt ei nawdd, a rhoddasant hwythau iddo eu bendith. A gwŷr yr Iwerddon a ddaethant a bwyd i Arthur. Yna aeth Arthur mor bell ag Esgair Oerfel, yn Iwerddon, lle yr oedd y Baedd Trwyth a'i saith porchell. Gollyngwyd y cŵn yn rhyddion arno oddiar bob tu. Hyd hwyr y dydd hwnw y Gwyddelod a ymladdasant âg ef, ac er hyny pumed ran yr Iwerddon a anrheithiodd efe. Tranoeth. gwŷr Arthur ymladdasant âg ef, eithr gorchfygwyd hwythau, ac ni chawsant un fantais arno. Y trydydd dydd gwrthsafodd Arthur ef ei hunan, ac ymladdodd âg ef am naw diwrnod a naw nos, heb ladd cynifer ag un o'r perchyll. Gwŷr Arthur a ofynasant iddo pa beth ydoedd tarddiad y Baedd, ac efe a atebodd, "mai brenin ydoedd unwaith, ac i Dduw ei drawsffurfìo yn fochyn oherwydd ei bechodau."

Yna anfonodd Arthur Gwrhyr Gwastawt leithoedd i geisio ymddyddan âg ef. Ymrithiodd Gwrhyr yn aderyn, a disgynodd ar ben y ffau lle yr oedd ef a'i saith parchell, a gofynodd iddo, "Yn enw yr Hwn a'th wnaeth ar y ffurf hon, os gelli siarad, deisafaf ar un o honoch ddyfod i ymddyddan âg Arthur. Grugyn Gwrych Ereint (gwrych yr hwn oeddent fel gwifr arian; a pha un bynag ai trwy faes ai trwy goedwig yr elai, gellid ei olrhain wrth ddysgleirdeb ei wrych) a atebodd, " Mŷn yr hwn a'n trawsffurfiodd i'r wedd hon, ni ddenwn i ymddyddan âg Arthur. Digon o ddyoddef i ni ydyw ein trawsffurfio fel hyn heb i chwi ddyfod i ymladd a ni." Ebai Gwrhyr, " Dy- wedaf wrthych. Nid ymladd Arthur ond am y crib, yr ellyn, a'r gwellaif, sydd rhwng dwy glust y Twrch Trwyth." Ebai Crugyn. "Oni chymer efe ei fywyd ef yn gyntaf, ni chaiff y tlysau gwerthfawr hyn. A bore fory, cychwynwn i wlad Arthur, a chymaint o ddrwg ag a allwn a wnawn ni yno. Felly cychwynasant trwy y môr i Gymru. Ac Arthur a'i luoedd, a'i feirch, a'i gŵn, a frysiasant yn y llong Prydwen, gan feddwl eu goddiweddyd; eithr glaniodd y Twrch Trwyth yn Porth Cleis, yn Nyfed; ac oddiyno aeth i Mynyw. Tranoeth hysbyswyd Arthur eu myned heibio, ac efe a'i hymgudiodd ac a'u goddiweddodd tra y lladdynt ychain Curwas Cwr y Fagyl, wedi dyfetha o honynt bob dyn ac anifail yn Aber Cleddyf, cyn dyfodiad Arthur.

Pan ddynesodd Arthur, aeth y Twrch Trwyth yn mlaen i Preselau, ac ymlidiasant hwynt hyd yno, ac anfones Arthur wŷr i'w hela; Eri a Drachmyr yn arwain Drutwyn cenaw Greid ab Eri; a Gwarthegyd ab Caw mewn cŵt arall yn arwain dau gi Glythmyr Ledewig; a Bedwy, yn arwain Cafall, ci Arthur; a'r hoil filwyr wedi eu trefnu o gylch y Nyfer. A daeth tri mab Cleddyf Difwlch, gwŷr a enillasant glod mawr wrth ladd Ysgithyrwyn Penbaedd. O Glyn Nyfer aethaut i Glyn Cerwyn.

Yno y gwrthsafodd Twrch Trwyth, ac y lladdodd bedwar o bencampwyr Arthur, sef Gwarthegyd ab Caw, a Tarawc o Allt Clwyd, a Rheidwn ab Eli Adfer, ac Iscofan Hael. Ac wedi iddo ladd y gwŷr hyn, efe a wrthsafodd eilwaith yn yr un lle, ac a laddodd Gwydre ab Arthur, a Garselit Wyddel, a Glew ab Ysgawd, ac Iscawyn ab Fanod, ac anafwyd y Baedd yno hefyd.

A thranoeth yn y boreu cyn dydd, rhai o'r gwŷr a ymosodasant arno; ac efe a laddodd Huandaw, a Goginwr, a Penpingyon, tri o weision Glewlwyd Gafaelfawr, fel nad oedd ganddo, Duw a'i gŵyr, unrhyw ddyn a wnai gymwynas iddo, oddigerth Llaesgefyn. Ac heblaw y rhai hyn, efe a laddodd luaws o wŷr y wlad, a Gwlydyn Saer, prif saer Arthur.

Ac Arthur a'i goddiweddodd yn Pelymuawc, ac yno y lladdodd efe Madawc ab Teithyon, a Gwyn ab Tringad ab Nefed, ac Eiryon Penllorau. Oddiyno aeth y Twrch i Aberteifi, lle y gwrthsafodd efe drachefn, ac y lladdodd Cyflas ab Cynan, a Gwilhennin brenin Ffrainc. Óddiyno yr aeth efe i Glyn Ystu, a chollwyd ef yno gan y gwŷr a'r cŵn.

Gwysiodd Arthur Gwyn ab Nudd, a gofynodd iddo os gwyddai rywbeth am y Twrch Trwyth. Ac efe a atebodd nas gwyddai.

A helwyr aethant i hela y genfaint mor bell a Dyffryn Llychwr, a Grugyn Gwrych Ereint a Llwydawg Gofyngad a'u lladdasant oll oddieithr un gŵr. A daeth Arthur a'i luoedd i'r fan yr oedd Grugyn a Llwydawg. Gosododd arnynt ei holl gŵn, a chan faint y swn a'r cyfarth, dygwyd y Twrch i'w cymhorth. Ac o'r amser y croesodd efe Fôr Iwerddon, ni chawsai Arthur drem arno hyd y pryd hwnw, a rhoddodd wŷr a chŵn arno nes ei orfodi i ffoi, ac y daeth i Fynydd Amanaw. A lladdwyd yno un o'r moch ieuainc. Yna ymosodasant arno fywyd am fywyd, a lladdwyd Twrch Lawin, a lladdwyd mochyn arall hefyd, Gwys oedd ei enw. Ar ol hyn aeth y Twrch i Ddyffryn Amanaw, a lladdwyd yno Banw a Benwig. O'i holl berchyll nid oedd ganddo yn fyw erbyn hyn namyn Grugyn Gwallt Ereiut, a Llwydawg Gofyngad. Oddiyno yr aeth efe i Lwch Ewin, ac Arthur a'i goddiweddodd yno, ac efe a wrthsafodd. Ac yno y lladdodd Echel Fordwytwll, a Gorwyli ab Gwydawg Gwyr, a lluaws o wŷr ereill a chŵn. Oddiyno aethant i Lwch Tawy, a gadawodd Grugyn hwynt yno ac a aeth i Din Tywi; ac oddiyno i Geredigiawn, ac Eli a Trachwyr ar ei ol gyda thyrfa fawr. Oddiyno i Garth Gregyn, ac yno Llwydawg Gofyngad a ymladdodd yn eu canol, ac a laddodd Rhudfyw Rhys, a llawer eraill heblaw hyny. Oddiyno aeth Llwydawg i Ystrad Yw, ac ymosododd gwŷr Llydaw arno, ac efe a laddodd ohonynt Hirpeisawg brenin Llydaw, a Llygatrudd Emrys, a Gwrhothu, ewythriaid Arthur, a lladdwyd yno Llwydawg hefyd.

Oddiyuo aeth y Twrch Trwyth rhwng Tawy ac Euryas, a gwysiodd Arthur wŷr Cernyw a Dyfneint ato i Aber Hafren, ac anerchodd fìlwyr yr ynys: — " Twrch Trwyth a laddodd lawer o'm gwŷr, eithr yn enw y cedyrn, nid aiff efe i Gernyw a minau yn fyw. Ac nid ymlidiaf ef yn rhagor, eithr ymladdaf âg ef fywyd am fywyd, gwnewch chwi a fynoch." Ac efe a anfonodd gad o fìlwyr yr Ynys gyda chŵn mor bell a Euryas, y rhai oeddynt i'w ymchwelyd at Hairen, al holl filwyr profedig i amcanu ei wthio i'r afon hono.

A Mabon ab Modron a'i goddiweddodd gerllaw Hafren ar Gwyn Mygddon, march Gweddw, a Goreu ab Cystenin, a Menw ab Teirgwaedd; cymerodd hyn le rhwng Llyn Lliwan ac Aber Gwy. A syrthiodd Arthur arno gyda phencampwyr Prydain. A Osla Gyllellfawr a Manawyddan ab Llyr a ddynesasant ato, a Cacmwri gwas Arthur, a Gwyngelli, a ruthrasant arno, gan ei ddal gerfydd ei draedyn gyntaf a'i daflu i'r Hafren, a'i ddymchwelyd yno. Ai- y naill ochr Mabon ab Modron a ysbardynodd ei farch ac a gipiodd yr ellyn oddiarno, a Gelydr Wyllt ar y llaw arall, ar farch yn y dwfr, a gafodd y gŵellaif. Eithr cyn cael ohonynt y crib, adfeddianodd ei draed, ac o'r awr y cyrhaeddodd y lan, nid oedd ŵr, na chî, na march allent ei oddiweddyd hyd oni ddaeth i Gernyw. Os cawsant drafferth yn dwyn y tlysau oddiar y Twrch, cawsant lawer mwy wrth arbed y ddau ŵr rhag boddi. Fel y tynent Cacmwri allan, dau faen melin a'i llusgent i'r dyfnder. Ac fel y rhedai Osla Gyllellfawr ar ol y Baedd, llithrodd ei gyllell o'r wain, a chollodd hi; ac ar ol hyny llanwyd y wain gan ddwfr, a'i phwysau a'i llusgodd i'r dyfnder, fel mai gydag anhawsder y tynwyd ef allan.

Ac Arthur a'i lluoedd a deithiasant i oddiweddyd y Baedd yn Nghemyw, a chwareu oedd y drafferth. pan gafwyd y tlysau wrth yr hyn a gafwyd pan yn ceisio y crib. Ond o'r naill drafferth i'r llall cafwyd ef o'r diwedd. Yna ymlidiwyd ef o Gernyw, a gyrwyd ef i'r dyfnfor; ac ni ŵyr neb hyd y dydd hwn i ba le yr aeth efe; ac Aned ac Athlem gydag ef. Yna aeth Arthur i'r Gelli Wig, yn Nghernyw, i ymeneinio, ac i orphwys oddiwrth ei lafur.

Ac ebai Arthur, "A oes rhai o'r rhyfeddolion eto yn eisieu? "Y mae eto yn eisieu Waed y Wyddones Orddu, merch y Wyddones Orwen o Ben Nant Gofid ar gyffiniau uffern." Cychwynodd Arthur tua'r Gogledd at y lle yr oedd ogof y Wyddones. A chynghorwyd ef gan Gwythyr ab Greidawl a Gwyn ab Nudd i anfon Cacmwri a Llygwydd i ymladd a'r Wyddones. Ac fel yr elynt i'r ogof, rhuthrodd y Wyddones arnynt, a daliodd Llygwydd gerfydd gwallt ei ben, ac a'i taflodd ar lawr o tani. A gafaelodd Cacmwri yn ngwallt ei phen hithau, ac a'i llusgodd oddiwrth Hygwyd; eithr hi a ymosododd arnynt dra- chefn, ac a'u gyrodd eill dau allan, gan eu troedio a'u dyrnodio.

A llidiodd Arthur wrth weled ei was wedi ei haner ladd, a bwriadodd yntau fyned i'r ogof; eithr Gwyn a Gwythyr a ddywedasant wrtho, "Nid gweddus na phriodol genym dy weled yn ymryson â gwrach. Gad i Hiramren a Hireidil fyned i'r ogof." Felly hwy a aethant. Eithr os mawr fu trafferth y ddau gyntaf, llawer mwy fu rhan y ddau hyny. A'r nefoedd ŵyr nis gallai yr un o'r pedwar symud o'r fan hyd oni roddwyd hwy ar gefn Llamrei, caseg Arthur. Yna rhuthrodd Arthur at ddrws yr ogof, a tharawodd y Wyddones gyda Chaerwenau ei ddagr, ac a'i holltodd yn ddwy, nes y syrthiodd i'r llawr yn ddau haner. A chymerth Caw o Ogledd Prydain waed y Wyddones, ac a'i cadwodd.

Yna cychwynodd Cilhwch, a chydag ef Goreu ab Cystenin, a'r sawl a ewyllysiant niwaid i Yspaddaden Pencawr, a chymerasant y rhyfeddolion gyda hwynt i'w lys. A Caw o Ogledd Prydain a eilliodd farf, croen, a chnawd Yspaddaden yn lân at yr asgwrn, o glust i glust. " Aeilliwyd ti, ddyn? " ebai Cilhwch. "Eilliwyd," ebai yntau, "Ai eiddof fi dy ferch yn awr?" "Dy eiddo ydyw," ebai yntau, " ac nid i mi y rhaid it' ddiolch am hyny, eithr'i Arthur yr hwn a gafodd y rhyfeddolion i ti. O'm rhan i ni chawsit fy merch byth; oherwydd wrth ei cholli hi yr wyf fi yn colli fy mywyd." Yna Goreu ab Cystenin a afaelodd ynddo gerfydd gwallt ei ben, a'i llusgodd ar ei ol, a dorodd ymaith ei ben, ac a'i gosododd ar bawl yn y gadlys. A chymerasant feddiant o'i eiddo, ei gastell, a'i drysorau. Y dydd hwnw y daeth. Olwen yn wraig briod i Cilhwch, a hi a fu yn wraig iddo dra y bu fyw. Lluoedd Arthur a ymwasgarasant, pob un i'w fan. Ac felly y cafodd Cilhwch Olwen ferch Yspaddaden Pencawr.

  1. Geiriau o ddiystyrwch at anwybodaeth.— E. Llwyd