Cymru Fu/Gwylliaid Cochion Mawddwy

Twm Gelwydd Teg Cymru Fu
Gwylliaid Cochion Mawddwy
gan Isaac Foulkes

Gwylliaid Cochion Mawddwy
Syr Hywel ab Huw

GWYLLIAID COCHION MAWDDWY

.

TUA chanol yr 16eg ganrif, yr oedd haid o ddrelgwn lladronllyd a llofruddiog yn crwydro ac yn ysglyfaethu yn nghymydogaeth Dinas Mawddwy, a adnabyddid wrth yr enw " Gwylliaid Cochion Mawddwy," neu "Gwylliaid y Dugoed." Lladron pen ffordd oeddynt, o'r rhyw fwyaf trwsgl a barbaraidd; dyhirod ysgymunedig o'u bro eu hunain, wedi dewis y lle anial hwn i ddwyn yn mlaen eu gweithredoedd ysgeler. Barnai Pennant mai gwehilion anfad y rhyfel cartrefol rhwng York a Lancaster oeddynt, wedi eu gorfodi, pan wnaed heddwch, i ddewis maes newydd, er mwyn byw ar eiddo pobl eraill. Dysgwyd brodorion y parthau hyny yn fuan i'w hofni a'u hymogelyd; dygent arfau gyda hwynt pan elent oddicartref, a gosodent bladuriau, ac offerynau miniog eraill, yn eu simneiau i'w lluddias rhag dyfod i'w haneddau trwy y llwybr hudduglyd hwnw. Cymaint ydoedd grymusder, rhif, a threfn y " Gwylliaid," fel yr ymffurfiasent yn gorfforiaeth rheolaidd, a chanddynt ddeddfau yn eu mysg eu hunain, a phenaeth neu arweinydd yn eu llywodraethu. Gyrent ddeadelloedd cyfain o anifeiliaid oddiar faesydd yr amaethwyr i'w llochesfeydd yn y coedydd a'r mynyddau yn llygad haul ganol dydd; ac os byddai i rhyw ddyn neu ddynes fod mor anffodus a syrthio i'w crafangau, ni ollyngid hwynt yn rhyddion heb dalu llawer iawn o arian. Pa fodd bynag, tyfodd eu hesgelerderau i'r fath raddau nes dwyn dialedd ymarhous y wladwriaeth arnynt, (ymarhous yn yr oes hono,) a phenderfynwyd eu cospi â llaw drom. Apwyntiwyd Syr John Wyn ab Meredydd, o Wydir, a LewisOwen, un o farwniaid trysorlys Gwynedd, i ddwyn hyn oddiamgylch. Y ddau foneddwr a gasglasant fyddin o wŷr arfog, ac ar nos Nadolig llwyddasant i ddal tua chant o'r "Gwylliaid," llawer o ba rai a alltudiwyd o'r fangre, ac eraill a grogwyd. Yn mhlith y rhai a dderbyniasant y ddedfryd olaf, yr oedd dau frawd, y rhai a ddeisyfasant yn daer ar Lewis Owen am bardwn. Yntau a'u nacâodd; a'u mam mewn cynddaredd a ddywedodd wrth y barwn gan noethi ei mynwes, "Y mae y bronau hyn wedi maethu rhai a ddialant waed eu dau frawd, ac a olchant eu dwylaw yn ngwaed dy galon di."

Yr oedd y giwed mileinig a weddilliwyd o'r ddalfa nos Nadolig wedi penderfynu ar ddialedd, a buan y cawsant gyfleusdra i roddi eu penderfyniad cythreulig mewn grym. Clywsant fod y barwn i eistedd yn mrawdlys sir Drefaldwym, ac yr oedd ei ffordd tuag yno yn gul, ac yn arwain trwy goed tywyll a chauadfrig. Bwriasant amryw brennau i lawr nes cau y ffordd i fynu, er mwyn gwneud ei ddiangfa yn anhawddach. Pan ddaeth efe i olwg y rhwystr hwn, ei osgordd-weision a fachogasant yn mlaen er ei symud, eithr cyfarfyddasant â'r fath gawod a saethau oddiwrth y gelynion a lechent yn y prysglwyni gerllaw, nes y ffoesant yn ol am eu bywydau. Y Gwylliaid a ymlidiasant y rhai hyn hyd oni ddaethont at y barwn, ac yna ymosodasant arno ef a'i fab-yn-nghyfraith, John Wyn o'r Ceiswyn, y rhai a amddiffynasant eu hunain mor lew a gwrol ag yr oedd yn bosibl i ddynion anmharod wneud. Tynodd Lewis Owen un saeth o'i wyneb, a thorodd hi yn ei haner; ond yr oedd y gelynion yn rhy luosog, a'u holl nwydau barbaraidd wedi meddwi ar ddialedd; ac o'r diwedd efe a syrthiodd, a dim llai na deg-ar-ugain o saethau, fel cenadon angau, yn glynu yn ei gorph. Gadawsant ef ar lawr yn farw yn ei waed. Eithr wedi myned o honynt oddeutu chwarter milltir oddiwrth y fan, meibion yr hen wrach gynddeiriog hono a gofiasant fygythiad eu mam, a ddychwelasant at y corph, a golchasant eu dwylaw llofruddiog yn ngwaed y Barwn Owen. Bu llofruddiad y Barwn yn achlysur i lwyryr ddinystrio "Gwylliaid Cochion Mawddwy;" gweinyddwyd cyfiawnder llymaf y gyfraith arnynt; llawer o honynt fuont feirw fel aderyn ar y "pren;" ac eraill a ymlidiwyd o'r wlad, byth i ddychwelyd mwyach; diwreiddiwyd hwy a'u hliogaeth mor llwyr, fel nad oes un sir yn Mhrydain mor lân oddiwrth ladron a llofruddion a sir onest a rhinweddol Meirionydd — sir y menyg gwynion, a'r dim troseddau.