Cymru Fu/Twm Gelwydd Teg

Llen y Ffynonau Cymru Fu
Twm Gelwydd Teg
gan Isaac Foulkes

Twm Gelwydd Teg
Gwylliaid Cochion Mawddwy

TWM GELWYDD TEG

Twm ab Ifan ab Rhys, neu fel y gelwid ef yn gyffredin Twm Gelwydd Teg, ydoedd fab i Ieuan ab Rhys, yr hwn oedd fynach yn Margam, ac a drowyd allan o'r fynachlog oherwydd ei fod yn Lolardaidd ei farn. Nid yn ol ei ystyr presenol y deallid y gair celwydd gynt. Dywed y Dr. Tregelles yn y Brython tudal. 155, cyf. iv.,[1] fod "y gair celwydd yn tarddu oddiwrth celu a gwydd, sef gwybodaeth ddirgel, a bod y gair celfydd o'r un tarddiad;" ac felly yr oedd llysenw Twm ab Ifan yn taflu mwy o glod arno nag anfri. Bu Twm yntau hefyd yn cyflawni rhyw swydd yn mynachlog Margam; a syrthiodd hefyd i'r un dynged a'i dad. Trowyd ef oddiyno, a bu yn ngharchar amryw weithiau yn nghastell Cynffig, gan Syr Matthew Cradoc, yr hwn a'i rhyddhaodd o'r diwedd, ac a fu haelionus tuag ato. Am ysbaid wedi hyn, bu ein harwr yn gwasanaethu yn mhlwf Margam a Llangynwyd, nes iddo syrthio i ryw feddyliau annghyffredin, yr hyn a barodd i Syr George Herbert eilwaith ei garcharu; ac wedi ei ryddhau y tro hwn, ni wnaeth efe nemawr iawn ond rhodio'r wlad fel cardotyn, dyrnu rhyw ychydig yma ac acw, gwneud cwndidau duwiol, a phroffwydo llawer o bethau hynod, ac am hyn y gelwid ef "Twm Gelwydd Teg."

Yr oedd Twm wedi dechreu proffwydo cyn iddo gael ei garcharu gan Syr George Herbert, a hyn, meddir, fu yr achos o'i garchariad. Wedi geni etifedd i Syr George,cynaliwyd gwledd a rhialtwch mawr ar ei fedyddiad, gan bedoli y ceffylau âg arian, a llawer o rwysgfawredd costus cyffelyb. Pan welodd Twm hyn, dywedai : — " Ha ! dyma rwysg a balchder mawr wrth fedyddio plentyn a aned i'w grogi wrth linyn ei dalaith." Cymerwyd ef i fynu yn ddioed, a bwriwyd ef i garchar yn nghastell Cynffìg. Rhoddwyd y plentyn yn ngofal mamaeth, a gorchymyn

caeth arni i'w wylied yn ddyfal ddydd a nos. Pa fodd bynag, yn mhen amser, cyrhaeddodd y sŵn i glustiau Syr Gíeorge "fod yr ymgrafu ar y llances, yr hyn a barodd i'w foneddiges ac yntau anfon am dani yn ddioed i'r neuadd, modd y gwypent a oedd y peth yn wir ai peidio. Wedi cael ar ddeall mai celwydd oedd yr ystori, dychwelasant gyda hi i'r ystafell fagu, a'r peth cyntaf a ganfyddent ar ôl myned i mewn ydoedd y plentyn wedi rhoddi ei ddwylaw dan linyn ei dalaith, ac wedi eu hymddyrysu yn y fath fodd, nes tagu a marw o hono mewn canlyniad; neu fel y gellid dywedyd, wedi " ymgrogi wrth linyn ei dalaith. "Yna danfonwyd yn heinif ddigon i ryddhau Twm o'r carchar; ac wrth nad oedd cosp a charchar yn tycio i ladd cyflawniad ei broffwydoliaethau, rhoddodd y barwnig arian iddo a phob croesaw.

Un tro arall yr oedd efe yn dyrnu mewn ysgubor, a daeth rhyw lanc heibio ac a'i cyfarchodd, " Wel, Twm Gelwydd Teg, pa newydd sydd genyt ti heddyw ?" " Hyn," ebai Twn, "ti a fyddi marw o dri angau cyn y nos heno." " Ha ! Ha !" ebai y llanc, " nid all neb farw ond o un angau;" ac ymaith âg ef dan chwerthin. Yn nghorph y dydd, aeth y llanc i ben pren mawr ar geulan afon i dynu nyth barcutan, a phan roddodd ei law yn y njth., rhwygwyd hi gan neidr a gludwyd yno gan yr aderyn i'w gywion. Parodd hyn iddo golli ei afael a chwympo, yn gyntaf ar gainc fawr o'r bren, a thori ei wddf; ac oddiyno drachefn syrthiodd i'r afon ddofn islaw. Trwy hyn cyarfyddodd â thri angau, sef ei rwygo gan Neidr, tori ei wddf, a boddi.

  1. Y Brython Ebrill 1860 t155