Cymru Fu/Idwal o Nant Clwyd
← Ffowc Ffitswarren | Cymru Fu Idwal o Nant Clwyd gan Isaac Foulkes Idwal o Nant Clwyd |
Priodi a Chladdu yn yr Hen Amser → |
IDWAL NANT CLWYD
(Oddiar Lafar Gwlad)
Yr oedd rhieni Idwal yn amaethwyr cyfrifol a pharchus, ac iddynt luaws o blant, yr oll o ba rai oddigerth ein harwr a fuont feirw yn eu mabandod. Idwal oedd yr ieuengaf, ac fel rhosyn olaf y gwanwyn, yr oedd y deifwynt dinystriol wedi myned heibio'r teulu, a chyflawni ei alanastra cyn iddo ef wneud ei ymddangosiad. Ni raid hysbysu, gan hyny, ei fod yn anwyl iawn gan ei rieni, gan mai trwyddo ef y disgwylient gadw anfarwoldeb eu natur yn y byd hwn. Nid ydyw dyn byth yn marw yn gysurus, os nad all adael rhywun ar ol i drefnu ei angladd, i eneinio ei fedd â dagrau, ac i'w drwsio â blodau; ac oddiar pwy y gellir disgwyl y cymwynasau hyn, os nad oddiar law plentyn! Y mae dyn yn caru credu y bydd tipyn o alaru ar ei ol wedi iddo symud o fyd o amser; a phwy o'r hil ddynol sydd yn ddigon glan oddiwrth y dyb ddiniwaid hon i daflu careg at y llall?
Un diwrnod aeth Idwal allan i hela yn nghymdeithas cyfaill cywir-galon, mab y fferm agosaf at Nant Clwyd. Nid oedd cariad Jonathan a Dafydd yn rhagori ar serch y ddau hyn at eu gilydd. Yr oedd y ddau yn cyd-chwareu- yn cyd-dyfu, yn cyd-garu, a phriodwyd hwy yn yr un eglwys, gan yr un offeiriad, ar yr un dydd ac awr, gyda dwy chwaer. Pa fodd bynag, wedi bod o honynt yn hela am amryw oriau, daethant hyd at Iwyn o frysglwyni, a choed caeadfrig, lle yr ymwahanasant oddiwrth eu gilydd, ac er pob ymdrech methodd ei gyfaill â dyfod o hyd i Idwal drachefn. Ni chauwyd amrant yn Nant Clwyd y noson hono— pryderu, ofni, gobeithio y goreu, ac ofni y gwaethaf, yr oedd pob mynwes. Dranoeth y bore aethpwyd i chwilio o ddifrif am y colledig yn mhob cilfach a lloches oddeutu y fan ei collwyd, a bu pob ymdrech yn ofer. Er mor gynhes oedd cyfeillgarwch y ddau heliwr, ni bu cenfigen heb gynllunio brad yn erbyn cyfaill Idwal, ond yr oedd ei ddull gonest ac wyneb-agored yn ateb pob holiadau, yn lladd pob anmheuon, ac yn peri i genfigen yfed ei gwaed ei hun. Chwiliwyd yn fanwl am Idwal oddeutu y llwyn y collwyd ef; ac yr oedd yr ymchwiliad mor wirioneddol a dwys, nes yr edrychai yr holl deulu fel yfydion yn y fan. Clustfeinient ar y gwynt, eithr ni ddygai hwnw ar ei adenydd yr un lef wan oddiwrth Idwal; a rhugl-drystiad y dail crynedig yn y twyni oeddynt yr unig atebion a dderbynient i'w holiadau enaid-gynhyrfiol. Wedi hir edrych o'u deutu, gwelent gylch Tylwyt Teg yn ymyl y fan; a phenderfynwyd ar unwaith iddo fod mor anffodus a chael ei swyno gan beroriaeth y bodau bychain dyeithr hyny i'w canlyn i wlad hud a lledrith. Yn raddol diflanodd pob gobaith am weled Idwal o Nant Clwyd yn nhir y rhai byw mwyach; ond cyn i hyny gael ei Iwyr ddwyn oddiamgylch, cymerodd dygwyddiad le a'i hail ddygodd mewn dull effeithiol iawn gerbron meddyliau ei deulu. Yn mhen tua phedwar mis wedi iddynt ei golli, ganwyd mab iddo, yr hwn ydoedd wir ddelw a phictiwr ei dad. Tyfodd y plentyn hwn i oedran gŵr, a llanwai le ei dad yn serchiadau ei daid a'i nain. Ymgysylltodd mewn glân briodas â merch ieuanc brydferth o'r ardal, ond nid oedd hawddgarwch a haelioni yn mhlith rhinweddau ei thylwyth. Ni welwyd y ddau nodwedd hyn erioed ar wahân — gefeilliaid cariad ydynt, a haelioni ydyw yr hynaf o'r ddau. Pwy glybu erioed am gybydd hawddgar? Cybyddion oeddynt deulu y ferch ieuanc hon, a phob tynerwch a chydymdeimlad wedi eu halltudio o'u calonau; ac fel y mae gwaetha'r modd, dyna'r anrasau a ddysgent gyntaf i'w phlant. Un o'r nodweddiad yna ydoedd merch-yn-nghyfraith y colledig Idwal. Pa fodd bynag, yn nhreigliad amser bu tad a mam a gwraig Idwal feirw.
Yr oedd haner can' mlynedd o lawenydd a thristwch, o ing a gorfoledd, wedi myned tros ben plant dynion er pan ddiflanodd ein harwr mor gyfrin a dirgel — nid oedd un o honynt yn ddigon uchel i allu osgoi y cwpan chwerw, nac un yn rhy isel i allu cyfranogi weithiau o'r gwpan felus, pan ar brydnawn oerllwm yn mis Chwefror y gwelai teulu Nant Clwyd hen ŵr brigwyn, teneu, tal, yn dynesu at y tŷ. Agwedd cardotyn oedd arno, a rhaid ei fod yn ddyeithr yn y fangre hono, onidê ni chyfeiriasai byth mo'i gamrau at ddrws digardod Nant Clwyd. Yr oedd ei gam yn fyr, a'i wisg yn garpiog; a'r morwynion a'r feistres, wrth sylwi arno yn dyfod a wawdient "yr hen Wyddel." Synasant ychydig wrth weled gŵr ar y dullwedd hwnw yn cerdded i mewn heb guro y drws nac unrhyw rodres, ac yn gofyn pa le yr oedd ei dad, a'i fam, a'i wraig. Gorchymynodd y wraig iddo fyned allan oddiyno mor gynted fyth ag y gallai cyn i'w gŵr ddyfod adref, a rhoddi help iddo gyda blaen ei fotasen. Edrychai yr hen ŵr yntau erbyn hyn yn lled hurt a ffwdanllyd! yr oedd pob peth oddeutu y tŷ wedi cyfnewid — lle yr hen gadair ddwyfraich dderw fawr yn cael ei lenwi gan esmwythfainc, a'r dysglau pewter (looking-glasses yr hen bobl) wedi myned i'r wadd a'r ystlumod, &c., ond eto yr oedd digon o bethau amgylchiadol yn aros yr un i sicrhau meddwl yr hen ŵr mae Nant Clwyd ydoedd Nant Clwyd. Traethodd ei hanes: dywedai iddo y dydd blaenorol fyned allan i hela, ac i drymgwsg rhyfedd syrthio arno yn mrig yr hwyr a barodd iddo dreulio y noson hono yn y coed. "Mi a glywais fy ngŵr yn dweyd fod y gair i'w dad ef fyned ar goll wrth hela, ond credai pawb mai ei ladd a gafodd. "A gwylltiodd y wraig yn enbyd, a pharodd iddo eilwaith fyned allan: cynhyrfodd nwydau yr hen ŵr yntau hefyd, dywedai mai ei eiddo ef oedd y tŷ, ac y byddai iddo yn ddiymaros weithredu ar ei hawl. Yna ymwelodd â'r fferm agosaf, anedd ei hen gyfaill, a gwelodd yno hen ŵr methiantus yn eistedd yn fyfyrgar wrth ochr y tân. Ymddyddanent am ieuenctyd a bore oes, ac ymddangosai y cyfan fel golygfa hafaidd yn y chwareudy. Adnabyddasant y naill y llall, disgynasant ar yddfau eu gilydd gan ymgofleidio, a'r dagrau gloewon yn dylifo ar hyd eu gruddiau rhychedig. Deallodd Idwal ei wir sefyllfa. Yr oedd y gymdeithas mor gynhes cydrhyngddynt, fel na ddychwelodd ein harwr i'w dŷ i Nant Clwyd. Darparwyd gwledd ar frys, a gwahoddwyd holl hen bobl y gymydog- aeth iddi, a threuliwyd y noson yn ddyddan iawn. Ac wedi siarad ac adgofio nes y daeth cwsg yn fwy dmnunol nac ymddyddan, aeth y ddau hen ŵr gyda'u gilydd i gysgu yn yr un gwely. Bore dranoeth, wrth eu gweled cyhyd yn codi, aed i ymofyn am danynt, a chafwyd y ddau WEDI MARW.
Tybiai y werin bobl mai yspryd Idwal ydoedd yr hen ŵr dyeithr wedi dyfod i ymofyn yspryd ei gydymaith; ac i'r cyfaill mor fuan ag y clywodd y neges ofyn caniatâd Llywodraethwr yr ysprydion i fyned ymaith yn uniongyrchol a dirybudd yn nghanol nos. Pa foddbynag, hyn sydd sicr, disgynodd melldith ar deulu Nant Clwyd hyd y pumed âch — pob peth a gymerent mewn llaw anffawd a methiant a fyddai, a gwerthwyd y lle naw gwaith cyn i'r felldith hon gael ei symud.
Cymered y cyfeillion dwrngauad yr amnaid hon o law chwedl: — Nad oes wynfyd i'r sawl a ddirmygont y tlawd, ac na fu bendith erioed ar gybydd-dod.