Cymru Fu/Priodi a Chladdu yn yr Hen Amser
← Idwal o Nant Clwyd | Cymru Fu Priodi a Chladdu yn yr Hen Amser gan Isaac Foulkes Priodi a Chladdu yn yr Hen Amser |
Y Pedair-camp-ar-hugain → |
PRIODI A CHLADDU YN YR HEN AMSER.
Wedi i'r pâr ieuanc gydweled mai "nid da bod dyn eî hunan," un o'r pethau cyntaf wrth ragdrefnu y briodas ydoedd dewis "Gwahoddwr". Swydd y gŵr hwn oedd myned at y cymydogion i'w hysbysu yn nghylch y briodas, yn nghydâ'r dydd a'r lle y bwriedid ei chynal. Yr oedd llawer o deithi prinion yn anhebgorol i wneud "Gwahoddwr" da. Yr oedd yn rhaid iddo fod yn barod a ffraeth ei atebion, yn un dawnus ei ymadrodd wrth ddweyd ei neges, ac yn gyfaill cywir a diragrith i'r pâr ieuanc, rhag na byddai iddo eu henllibio yn lle eu hamddiffyn yn ngŵydd y cymydogion. Wedi penderfynu ar y gŵr cymhwysaf i'r swydd, ac iddo yntau gydsynio, efe a gychwynai ar farch yn y bore i'w daith. Os byddai y gwahoddedigion ychydig uwchlaw y cyffredin, traddodai ei genadwri trwy lythyr; eithr os tlodion ac anllythrenog fyddent, efe a draethai ei len ar dafod leferydd, ac fynychaf ar gân. Yn yr "Hynafion Cymreig", ceir siampl o
GAN Y GWAHODDWR.
Dydd da i chwi, bobl, o'r hynaf i'r baban,
Mae Stephan wahoddwr a chwi am ymddiddan,
Gyfeillion da mwynaidd, os felly'ch dymuniad,
Cewch genyf fy neges yn gynhes ar ganiad.
Y mae rhyw greadur trwy'r byd yn grwydredig,
Nis gwn i yn hollol ai glanwedd ai hyllig
Ag sydd i laweroedd yn gwneuthur doluriad
Ar bawb yn goncwerwr, a'i enw yw CARIAD.
Yr ifanc yn awchus wna daro fynycha',
A'i saeth trwy ei asen mewn modd truenusa';
Ond weithiau a'i fwa fe ddwg yn o fuan
O dan ei lywodraeth y rhai canol oedran.
Weithiau mae'n taro yn lled annaturiol,
Nes byddantyn babwyr yn wir yn hen bobl,
Mi glywais am rywun a gas yn aflawen
Y bendro'n ei wegil yn ol pedwar ugain.
A thyma'r creadur trwy'r byd wrth garwyro
A d'rawodd y ddeu-ddyn wyf trostynt yn teithio,
I hel eich cynorthwy a'ch nodded i'w nerthu,
Yn ol a gewch chwithau pan ddel hwn i'ch brathu.
Yr wyf yn atolwg ar bob un o'r teulu
I gofio y neges wyf wedi fynegu,
Rhag i'r gwr ifanc a'i wraig y pryd hyny,
Os na chan' hwy ddigon, ddweyd mai fi fu'n diogi.
Chwi gewch yno croeso,rwy'n gybod o'r hawsaf,
A bara chaws ddigon, onide mi a ddigiaf,
Ceiff pawb ei ewyllys, dybacco a phibelli,
A diod hoff ryfedd 'rwyf wedi ei phrofi."
Ar brydiau byddai y Gwahoddwr yn cyfarfod â gwrthwynebiadau. Dywedid wrtho nad oedd y yr ieuanc wedi ymddwyn mor gymwynasgar a chymydogol ag i deilyngu unrhyw garedigrwydd oddiar eu llaw; neu fod eu teuluoedd yn euog o weithredoedd anngharedig. Yn ngwyneb hyn ei ddyledswydd yntau ydoedd gwrthbrofi'r cyhuddiad, neu gyfiawuhau yr ymddygiad, a'u hannog i beidio gadael i feiau bychain y mae dynolryw yn gyffredinol mor agored iddynt eu lluddias rhag cydymffurfio â hen ddefod anrhydeddus a ddisgynodd iddynt oddiwrth eu henafiaid doethion. Ond nid oedd y gwrthwynebwyr hyn ond eithriadau, a'r nifer luosocaf o'r cymydogion a falchient yn y cyfleusdra i roddi help llaw i bobl ieuainc yn dechreu
Oherwydd y gwahoddiadau hyn deuai y cyfeillion o ffordd bell i'r neithior yn llwythog gan anrhegion, megys dodrefn tŷ, arian, enllyn o bob math, &c. yr oedd y Gwahoddwr yn gweithredu fel ysgrifenydd i'r briodas. Rhoddai enwau yr oll oeddynt yn bresenol ar lawr, a'u hanrhegion gogyfer a hyny; y rhai oeddynt i gael eu haddalu, ar amgylchiad cyffelyb, os byddai galw am danynt. Gelwid yr hen ddefod hon "Pwrs a Gwregys," ar anrhegion yn "Dalu Pwyddion," ac oddiwrth hyn, mae yn debyg, y deilliodd y gair a ddefnyddir yn yr oes hon "Talu'r Pwyth." Fel hen ddefod gwlad gellid hawlio ad-daliad y Pwyddion trwy rym cyfraith, ond o ran gweddeidd-dra, anfynych y byddai neb yn defnyddio y moddion hyny i'w hadfeddianu.
Bore dydd y briodas ymgynullai nifer o gyfeillion y priodfab i'w dŷ ef, ac oddiyno elent i dŷ y ferch ieuanc. Ac er y byddai y briodferch a'i chyfeillion yn pryderus ddisgwyl am yr osgordd, er mwyn defod a gweddeidd-dra, ffugient eu han ewyllysgarwch iddi fyned i'r ystâd briodasol. Yna cyfeillion y priodfab a ddechreuent ei foli a thraethu ei ragoriaethau mewn prydyddiaeth ramantus a direol, a chanmol cymhwysder yr undeb bwriadedig; tra, ar y llaw arall, cyfeillion y ferch ieuanc a watwarent y priodfab, ac a ddirmygent y briodas. Ar ol y ffug-ymrysonfa hon, deuai y tad neu rhyw berthynas agos i'r briodferch yn mlaen, ac a'i cyflwynai hi i'r cwmni; croesawid hwynt oll; ac wedi hyny cyfeirient eu traed tuag eglwys y plwyf. Ond ar y ffordd tuag yno drachefn, cyfarfyddid â rhwystrau; gwnai y ferch ieuanc lawer cais i ddianc, gan ymddangos yn dra hwyrfrydig i newid byd. ,Pa fodd bynag, o'r diwedd, ymostyngai i'r drefn, ac wedi cyrhaedd yr eglwys, a myned drwy y seremoni arferedig, yr holl gwmni a ddychwelent i dŷ y briodferch, a dechreuent gadw y neithior gyda gwres ac yni mawr am ddyddiau lawer, hyd oni roddai y Sabbath derfyn ar eu rhialtwch. A'r Sabbath hwnw y "ddeuddyn dedwydd" a eisteddent i dderbyn rhagor o Bwyddion a moesgyfarchiadau cyfeillion. Dywed un awdwr y byddai yr anrhegion hyn rai prydiau yn cyrhaedd y swm hardd o 40p. i 50p. Byddai tymor y Pwyddion trosodd erbyn yr ail Sul, a'r dydd hwnw elai y bobl ieuainc i'r eglwys am y tro cyntaf i addoli fel gŵr a gwraig, a mawr fyddai yr ysgwyd llaw ar ol dyfod allan. Nid ydyw yr arferiad hon wedi llwyr farw mewn llawer man yn Nghymru hyd y dydd hwn, er ei bod wedi colli llawer o'i nodweddion cyntefig. Rhaid "Cadw'r Briodas" cyn y bydd gweithrediadau y dydd yn gyflawn; ac wrth hyn y meddyllir — Lluaws o gyfeillion yn cydymgynull yn nhŷ y briodferch i ganu, cynyg iechyd da y pâr ieuanc, a'i yfed mewn cwrw a metheglin. Cyn i'r cwmni ymwahanu, cymer rhyw gyfaill ddysgl, ac el o gwmpas i dderbyn ewyllys da y cwmni. Er fod yr oliad hwn, yn gystal a'r Pwyddion ei hunan, yn ymddangos ar yr olwg gyntaf fel peth cardotus ac anfoneddigaidd, eto y mae pob lle i gredu ei bod duedd ddaionus, megys i gynorthwyo angenoctyd, a meithrin teimladau da.
Y mae cangen arall o'r Pwyddion yn aros, sef y ddefod sydd mewn parthau gwledig a elwir, "Myned i edrych am y wraig ieuanc." Nifer o gymydogesau calon rwydd yn talu ymweliad caruaidd â'u chwaer ieuanc, gan ddwyn gyda hwynt cwarter o dê, neu bwys o siwgr gwyn, yn anrheg; yna, yfed sudd y tê a'r siwgr cyn dychwelyd, yn nghyda beirniadaeth lem ar y gymydoges hon ac arall nad oedd yn digwydd bod yn bresenol ar y pryd. Byddai y cyfarfod hwn hefyd yn foddion i dderbyn y wraig ieuanc yn aelod o'r "Gymdeithas Dê," gwyliau pa un â gynelid yn olynol yn nhai y gwahanol aelodau, pryd y pwysid cymeriadau y gwŷr, y cedwid cwrdd enllibio, ac y medrus ymdrinid â holl faterion teuluaidd y gymydogaeth; ac un o'r gwersi cyntaf a dderbyniai y wraig ieuanc oedd dysgu sut i gymeryd snisin. Ymddengys, fel y mae gwaetha'r modd, fod y Cymdeithasfaau hyn yn marw yn gyflym, oherwydd fod y wlad yn ymanwareiddio cymaint mewn moes, dysg, a chrefydd.
DEFODAU ANGLADDAU
Gellir yn hawdd casglu fod gan y bobl a feddent y fath arferion hynod wrth briodi, hen ddefodau rhyfedd yn eu hangladdau hefyd. Yr oedd gan ein hynafiaid fil a myrdd o ragargoelion am angau, — megis canwyllau cyrph, adar y cyrph, y teulu, udiadau annaturiol cŵn, caniad anamserol y ceiliog, &c, am ba rai y sonir yn mhellach yn mlaen; ac wedi i'r rhagargoelion hyn gael eu cyflawni (i'r llythyren wrth gwrs), gosodid y trengedig yn ei arch, ac addurnid ef yno âg amrywiol flodeu a phwysiau serch.
Y noson cyn yr angladd, cynelid cyfarfod gweddi a elwid Gwylnos. Hen derm Babyddol, mae yn debyg; ond beth bynag am hyny, cyfarfod effeithiol iawn oedd y Wylnos. O ran ei enw a'i darddiad, yr oedd yr un â Wakes y Gwyddel, ond yr oedd anhraethol wahaniaeth rhyngddynt o ran nodwedd ac amcan. Yr oedd defod y Gwyddel yn drewi gan ofergoeledd, ac yn echrydus o anfoesol; ac er fod y galarwyr yn dolefain, "Paham y buost farw ein brawd?" eto, ymddangosai y cyfan yn debycach i loddest feddw nag i alar ar ol y marw. Yn y Wylnos, o'r ochr arall, ceid y teimladau dwysaf a'r gweddiau mwyaf drylliog. Buasent yn ei hystyried yn rhyfyg bod yn llawen yn nhŷ galar; ac yn annuwioldeb gwarthus cellwair tan yr un gronglwyd â'r marw. Cyfeirient at yr ymadawedig mewn ymadroddion cyffrous, gwnaent bwlpud o'i angau i rybuddio y byw o freuder einioes, a meithder a phwysigrwydd tragwyddoldeb. Apelid at gydwybodau y gwrandawyr, yn enw y lle cysegredig y sangent arno, i gymeryd y ffeithiau hyn tan eu hystyriaeth ddifrifolaf, a pharotoi ar gyfer angau, modd y gallent ei wynebu yn ddi-gryn a gorfoleddus.
Cyn'i'r orymdaith bruddaidd gychwyn tua'r Llan, y cyfeillion a'r perthynasau agosaf a ymgynullent oddeutu y corph, i ochaineidio a galaru eu colled ar ei ol; tra y byddai y gweddill o'r cwmni mewn ystafell arallyn yfed "cwrw brwd," ac yn mygu eu pibelli; a'r menywod mewn ystafell arall drachefn yn cydyfed tê. Wedi dwyn yr arch allan o'r tŷ, a'i gosod ar yr elor gerllaw y drws, byddai un o berthynasau y trancedig yn rhoddi bara a chaws tros yr arch i bobl dylodion, y rhai mewn disgwyliad am y rhoddion hyn a fuont yn ddiwyd i gasglu blodau a llysiau i'w rhoddi yn yr arch. "Weithiau chwanegid at hyn dorth o fara a darn o arian ynddi. Yna cydymgrymai yr holl alarwyr, a'r offeiriad, os yn bresenol, a adroddai Weddi yr Arglwydd; ac arosai yr orymdaith, ac adroddid yr un weddi, yn mhob croesffordd, hyd oni chyrhaeddent y Llan. Ymddengys y byddent yn yr hen amser yn arfer claddu drwg weithredwyr mewn croesffyrdd, a thrwy eu bod yn credu nad oedd ysprydoedd drygionus y cyfryw ddynion yn myned nepell oddiwrth y corph, yr oeddynt yn darllen y gweddi er mwyn gwrthladd effeithiau niweidiol yr ysprydion hyn ar yr ymadawedig.
Cludid yr arch gan y perthynasau agosaf, hen ddefod trwy ba un y cyflwynid y parch uwchaf i'r ymadawedig. Oddiwrth y Rhufeiniaid, mae yn debyg, y cawsom ni y ddefod hon, oblegyd yr oedd mewn arferiad ganddynt hwy. Dygid arch Metellus, gorchfygydd Macedon, gan ei bedwar mab. Fel arwydd o barch i'r sawl a haeddent barch gan y Werin-lywodraeth, cludid ef i dŷ ei hir gartref gan Ustusiaid a Seneddwyr; tra y dygid gelynion y bobl gan gaethion a gweision llogedig. Y mae defod gyffelyb hefyd yn Ucheldiroedd yr Alban, a elwir Coranich.
Ond yr arferiad fwyaf swynol mewn cysylltiad âg Angladdau Cymreig ydoedd yr un o ganu ar y ffordd tua'r Llan. Yr oedd gwrando ar y canu hwn, yn enwedig mewn manau annghyfanedd a gwledig, yn wir ardderchog. Dygwyddais fod unwaith yn eistedd ar ben craig fawr a elwir Clogwyn Dinmel, yr hon sydd yn crogi uwchben un o'r nentydd gwylltaf a serthaf yn ngogledd Cymru, sef y Glyn Diphwys, ar y ffordd fawr rhwng Ceryg y Drudion a Chorwen. Yn ngwaelod y Glyn y mae'r afon Ceirw yn ymdywallt dros graig serth, gan ewynu a ffurfio rhaiadr mawreddog a thrystfawr. Y mae y ffordd wedi ei thori yn y graig rhwng Clogwyn Dinmel a gwaelod y Glyn, ond cuddid hi rhagwyf gan goed deiliog a dyfent ar astellau yn y graig uwch ei phen. Tra yn eistedd fel hyn gan edmygu trwst dibaid y rhaiadr ar y naill law, a chaniadau nwyfus yr adar ar y llall, tarawyd fi â syndod trwy i orymdaith angladdol ddechreu caun "Yr Hen Ganfed " yn y ffordd islaw. Yr oedd yr effaith fel perlewyg, dystawodd pob aderyn yn y fan i wrando ar yr acenion galarus, peidiodd yr awel â chwareu ar ei thelyn y dail, ond yr hen raiadr a bistylliai yn mlaen gan ymunaw a chymeryd y bâs isaf yn y beroriaeth. Wedi iddynt ymsymud ymaith, ac i'r gerddoriaeth raddol ddarfod yn y pellder, nid oedd gan y Glyn unrhyw swynion i mi. Gadewais ef, a'i adar yn fudion, a'i raiadr fel gwallgof yn canu wedi i bawb arall dewi, a phrysurais ar ol yr orymdaith. Goddiweddais hwynt pan ddaethant at leoedd cyfanedd, ac yr oeddynt yn parhau i ganu. Deuai y gwragedd allan o'u tai a'r hosan haner wauedig yn eu dwylaw diffrwyth, wylent yn hidl, ac ymunent â'r gân wrth iddi fyned heibio. Daliasant i ganu hyd oni ddaethant at borth y fynwent, weithiau newidient y dôn am yr "Hen Gyfamod," neu "Fryniau Caersalem;" ond pa dôn bynag a genid, yr oedd teimlad yn mhob nodyn, a galar yn mhob acen, ac nid wyf tu yma i Wynfa yn disgwyl eto clywed canu mor ardderchog. Fel hyn y byddai yr hen bobl yn hebrwng eu meirw i'r bedd, ac y mae yn anmhosibl i ddyn ddymuno angladd parchusach nag yn nghanol acenion pruddglwyfus ei gymydogion a'i anwyliad.
Yr offrwm. — Hen ddefod wedi ei threiglo i ni, a'i chadw yn fyw er cyn y Diwygiad Protestanaidd, ydyw yr un o offrymu mewn angladdau. Wedi i'r offeiriad ddarllen y Gwasanaeth Claddu, efe a arosai wrth fwrdd y cymun hyd oni ddelai y perthynas agosaf i fynu yn gyntaf i roddi ei offrwm ar y bwrdd. Os byddai yn lled gyfoethog, efe a offrymai gini; os amaethwr neu fasnachwr a fyddai, offrymu coron a wnai; ac os tlawd, chwe' cheiniog a roddai i lawr. Y sawl a fwriadent offrymu arian, a elent i fynu o un i un, ac a wnaent hyny; yna byddai ychydig seibiant, a'r offrymwyr pres a gymerent eu hoffrwm hwyhau; ond ni offrymid pres mewn angladdau boneddigaidd. Byddai yr offrymau hyn yn fynych yn cyrhaedd deg neu ugain punt mewn blwyddyn. Y mae yn ddiddadl mai arian i'r offeiriad am weddio tros y marw oedd y ddefod yma o offrymu ar y cyntaf, cyfrandaliad tros ei ryddhad buan o'r purdan, neu fe allai iawn am unrhyw wall o'i eiddo yn nhaliad y dreth eglwys neu y degwm. Er fod y ddefod yn parhau mewn amryw fanau, nid ystyrir hi ond teyrnged o barch i'r ymadawedig, neu amnaid o serch tuag at offeiriad y plwyf.
Y mae hen ddefod brydferth arall, a hon ydyw y caredigrwydd diweddaf a ddangosir tuag at y marw, sef addurno y bedd â blodau, a bythwyrddion. Dywed un ymdeithydd ei fod yn Llanfair, swydd Drefaldwyn, ac yn mynwent y lle, bu yn llygad dyst o'r ddefod. Dygid brigau y pren bocs a'r ywen, a phlenid y rhai hyn, fel amlen oddeutu y bedd, a threfnid blodau amryliw a phrydferth yn y canol, fel y gellid adwaen chwaeth y byw wrth eu dull yn arwisgo trigfanau eu meirw. Dynodid bedd y baban gan ganghenau pedair, — y friallen, a'r crinllys, blodau cynaraf y gwanwyn; y rhosyn coch a blodyn y coed a ddynodent fedd y canol-oedran; a'r rhos Mari, a'r hen ŵr, a arddangosent hen ddyddiau. Ond yr oedd pob un i gynwys dail-bythwyrddion fel arwyddlun hardd, ond gwan, o anfarwoldeb. Ac ar ol gwisgo y bedd, ni adewid ef yn ddiamgeledd, eithr y lle a chwynid bob prydnawn Sadwrn gan ddwylaw gofalus, er parch cysegredig i'r un oedd yn gorwedd ynddo. Yn ei Cymibeline cyfeiria Shakespeare mewn dull toddiadol at yr arferiad hon: —
“ |
|
” |
Y mae ysgrifenydd arall yn dweyd iddo ymweled â mynwent Llanfair, yntau hefyd ar brydnawn Sadwrn, a dywed yr hanes fel hyn: — "Gwelwn luaws o bersonau yn brysur wrth y gorchwyl prudd-pleserus o drwsio y beddau. Tybiais mai annynol ynwyf fuasai eu cythryblu; ac yr oeddwn ar ymgilio yn ol pan y gwelais eu bod wedi sylwi arnaf, ac y gorchfygwyd fy ngwyleidd-dra gan gywreinrwydd. Wrth ganfod merch ieuanc hawddgar a dirodres, dynesais yn araf tuag ati. Anturiais ofyn iddi beth oedd natur ac ystyr y ddefod; eithr hi a osgôdd fy holiadau, ac a aeth yn mlaen i symud y chwyn. Wrth i mi ei hail holi, trodd ei phen, a dangosodd wynebpryd hardd anarferol, a thristwch dwfn yn argraffedig arno; treiglai y dagrau i lawr ei ddwy rudd, ac mewn llais crynedig dywedodd: — ' yr wyf yn dyfod yma bob dydd Sadwrn i chwynu y lle, ac i alaru ar ol fy anwyl frawd — nid oedd genyf ond un, ac yr oedd efe yn frawd — rhy dda i aros yma — gwyn fyd pe buaswn farw yn ei le.' Wedi yspaid o ddystawrwydd, hi a chwanegodd: — "Hwyrach fy mod yn cyfeiliorni, Syr, ond byddaf yn gweddio yn fynych ar fod i fy mrawd flodeuo yn Mharadwys fel y mae'r blodau hyn ar ei fedd. Dywedwyd wrthyf na ddylwn weddio. tros y marw; ond byddaf yn teimlo yn llawer gwell ar ol gwneud hyny, ac awyddfryd cryfach ynwyf i fyw yn dduwiol, fel y byddwyf barotach yn nghynt i fyned ato." Ychydig nes yn mlaen, yr oedd bedd newydd ei drwsio, a'r cyfaill newydd fyned ymaith. yr oedd tlysni neillduol oddeutu y beddrod hwn; oddifewn i'r amlen fawr yr oedd un arall fechan, at faint baban ieuanc. Wrth ymboli, cefais mai gwraig a gladdwyd yno, yr hon yn y weithred o roddi bywyd i arall a gollodd ei bywyd ei hun. Bu farw ar wely genedigaeth; a chan na fu y plentyn fyw ond ychydig oriau ar ol y fam, rhoddwyd hwy yn yr un arch, a claddwyd hwy yn yr un bedd. Y blodau peraroglaidd hyn a gynddrychiolant y baban yn gorwedd ar y fron. yr oedd y gŵr wedi bod yn cyflawni y gorchwyl trist pleserus o dacluso y fan, gan deimlo yn hapus mae'n ddiddadl ddarfod iddo wneud yr oll a allai i'w ddiweddar gydymaith bywyd y goddefai natur iddo wneuthur; ac yn rhoddi ernes i'w gymydogion fod rhinweddau eu hen gyfeilles heb fyned dros gof, a'i bod yn fyw yn ei serchiadau."
Hir y parhao hen ddefodau prydferth o'r fath yma i addurno mynwentydd Gwyllt Walia; a pheth mwy, i lefaru cyfrolau ar dynerwch teimlad, a pharch a charedig- rwydd y genedl at ei meirw? Os dirmygir y ddefod fel penwendid paganaidd, nid oes gan neb ond gresynu tros y dirmygydd, oblegyd y mae yn rhaid i deimlad gael llefaru weithiau, onidê fe â y genedl benbaladr i ragrithio bob amser a chyda phob peth; ac y mae yn hawddach o'r haner ddadwreiddio rheswm dyn na dadwreiddio ei deimlad. yr unig lecyn heb ei Iwyr ddirywio ar y ddynoliaeth ydyw ei theimlad, ac fel y cyfryw dylid rhoddi pob chwareu teg iddo.
Nodiadau
golygu- ↑ Hare-bells, a elwid fynychaf "Clychau Bangor," blodyn bychan tlws o liw yr awyr las.