Cymru Fu/Mab ab Mathonwy
← Owen Glyndwr | Cymru Fu Mab ab Mathonwy gan Isaac Foulkes Mab ab Mathonwy |
Y Creaduriaid Hirhoedlog → |
MATH AB MATHONWY.
(Hen Fabinogi Cymreig.)
MATH AB MATHONWY oedd arglwydd ar Wynedd; a Phryderi ab Pwyll oedd arglwydd ar un cantref ar hugain yn y Dehau, sef oedd y rhai hyny:— Saith cantref Dyfed, a saith cantref Morganwg, pedwar cantref Ceredigion a thri Ystrad Tywi.
Ac yn yr amser hwnw, Math ab Mathonwy ni byddai byw namyn tra fai ei ddeutroed yn mhlyg ar lin morwyn, onibyddai cynhwrf rhyfel yn ei atal; a'r forwyn hono oedd Goewin ferch Pebin, o Ddol Pebin yn Arfon, a hon ydoedd tecaf morwyn ei hoes hyd y gwyddent hwy yno.
A Math a breswyhai beunydd yn Nghaer Dathyl yn Arfon, ac ni allai fyned ei hun oddiamgylch ei gyfoeth, eithr Gilfuethwy ab Don ac Eneyd ab Don, ei neiaint feibion ei chwaer, a amgylchynent y wlad yn ei le ef.
A'r forwyn oedd gyda Math yn wastadol, ac yntau Gilfaethwy ab Don a ddodes ei fryd arni, ac a'i carodd hyd na wyddai pa beth i'w wneud am dani; ac oherwydd hyny, wele ei liw a'i wedd yn dadfeilio hyd nad oedd hawdd ei adnabod.
Ei frawd Gwydion un diwrnod a sylwodd yn graff arno, "Ha! was," ebai ef, " pa flinder sydd arnat?" Ebai yntau, " Paham? beth a weli di:-" "Gwelaf i ti golli'th bryd a'th liw; a pha flinder sydd arnat?" "Arglwydd frawd," ebai yntau, "yr hyn a'm blina i, ni leshâ im' ei draethu i un gwr." "Beth yw hyny, Eneyd?" ebai ef. Ebai yntau, " Ti a wyddost gyneddf Math ab Mathonwy, sef pa sisial bynag a fo rhwng dynion, os cyffwrdd y gwynt â'r sisial hwnw, Math a'i gwybydd." "Gwir;" ebai Gwydion, "taw, bellach, mi a wn dy flinder: caru Goewin yr ydwyt." A phan wybu efe fod ei frawd yn hysbys o'i feddwl, efe a roddodd yr ochenaid drymaf yn y byd. "Taw, Eneyd, â'th ocheneidio," ebai Gwydion, "nid fel yna y gorfyddir; mi a baraf, gan nad ellir heb hyny, gydymgynull Gwynedd a Phowys a Deheubarth i geisio y forwyn. Cymer di gysur, mi a'u paraf."
Yna y ddau a aethant at Math ab Mathonwy. " ArgIwydd," ebai Gwydion, " Mi a glywais ddyfod i'r Deheudir rhyw bryfed na ddaeth erioed eu bath i'r Ynys hon." "Beth y gelwir hwy?" " Hobau, arglwydd." " Pa ryw fath o anifeiliaid ydynt?" " Anifeiliaid bychain, gwell eu cig na chig eidion." "Bychain ydynt?" "le; ac y maent yn newid eu henwau. Weithian, moch y gelwir hwynt." "Eiddo pwy ydynt?" "Eiddo Pryderi ab Pwyll, yr hwn a'i cafodd o Annwn, gan Arawn brenin Annwn; ac y maent eto yn cadw yr enw o haner hwch, haner hob." "Ie," ebai yntau, " pa fodd y ceffir hwynt oddiarno?" " Mi a âf yn un o ddeg, yn rhith beirdd, i geisio y moch ganddo." "Efe a eill eich nacau," ebai Math. " Ni bydd fy ymdaith yn ofer, arglwydd, ni bydd i mi ddychwelyd heb y moch." "Yn llawen, ynte, dos rhagot," ebai Math.
Felly Gilfaethwy ac yntau a deg o wyr eraill a aethant, a chyrhaeddasant Geredigion, i'r fan a elwir yn awr Rhuddlan Teifi, lle yr oedd llys Pryderi. Yn rhith beirdd yr aethant a deryniwyd hwynt yn llawen. Ai' ddeheulaw Pryderi y dodwyd Gwydion y noson hono.
"Yn wir," ebai Pryderi, " da fyddai genym gael chwedl oddiwrth un o'r gwyr ieuainc acw." "Y mae yn arferiad genym ni arglwydd," ebai Gwydion, "y nos y delom at wr mawr, fod i'r pencerdd ddweud ei chwedl yn nghyntaf. Yn llawen, mi a adroddaf chwedl."A Gwydion oedd y chwedlenwr goreu y byd; a'r nos hono, dyddanu y llys a wnai âg ymddiddanau digrif a chwedlau, onid aeth yn dda gan bawb am dano, a dyddan gan Pryderi oedd ymddiddan ag ef.
Ar ddiwedd hyny, " Arglwydd," ebai Gwydion, " ai gwell y gwna rhywun arall fy neges na myfi fy hun?" "Nid gwell," ebai yntau, " tafod ffraeth sydd genyt ti." "Yna, arglwydd, dyma fy neges: Deisyf genyt yr anifeiliaid a anfonwyd i ti o Annwn." Ebai yntau, "Y peth hawsaf yn y byd fuasai hyny,onibai fod cyfamod rhyngwyf fi a'm gwlad am danynt; sef nad elont oddiwrthyf hyd oni hiliont eu dau gynifer yn y wlad." " Arglwydd," ebai yntau, "gallaf dy ryddhau oddiwrth y cyfamod yna, fel hyn: — Na ddyro y moch i mi heno, ac na nacâ fi ohonynt, ac yforu mi a ddangosaf i ti gyfnewid am danynt."
A'r nos hono, Gwydion a'i gydymdeithion agymerasant gynghor yn eu llety. "Ha! -wyr," ebai ef, "ni chawn ni y'moch o'u gofyn," "Aie," ebynt hwythau, "pa fodd ynte y ceir hwynt?" " Mi a baraf eu cael," atebai Gwydion.
Yna efe a ddefnyddiodd ei gelfyddyd a'i hud, a pharodd i ddeuddeg emys [cadfarch; Saes. Charger] ymddangos; a deuddeg milgi bronwynion, a chanddynt ddeuddeg torch a deuddeg cynllyfan, nas gallasai y sawl a'u gwelent wybod nad aur pur oeddynt. Deuddeg cyfrwy oedd ar y meirch, ac ar y manau y dylasai haiarn fod yr oedd aur; a'r ffrwyni oeddynt yr un defnydd. Gyda'r cwn a'r meirch hyn y daeth Gwydion at Pryderi.
"Dydd da i ti, arglwydd," ebai ef; "Duw a'th lwyddo, â chroesawit'," ebai yntau. "Arglwydd," ebai Gwydion, "wele ryddhad iti oddiwrth y geiriau a ddy wedaist wrthyf neithiwr am y moch — nas rhoddit ac nas gwerthit. Ti a eill eu cyfnewid am a fo gwell. Rhoddaf it' y deuddeg meirch hyn,yn nghyda'u cyfrwyau a'u ffrwyni; a'r deuddeg milgi hyn fel eu gweli, gyda'u torchau a'u cynllyfanau; a'r deuddeg tarian euraidd a weli di draw." Y rhai hyn oll a rithiasai Gwydion o'r madrlch [bwyd llyffant; Saes./fungus]. " Mi a gymeraf gynghor," ebai Pryderi. Ac yn y cynghor efe a gafas roddi'r moch iGwyd- ion, a chymeryd y cŵn a'r meirch a'r tarianau yn eu lle.
Yna Gwydion a'i wyr a gymerasant eu cenad, ac a deithiasant ymaith gyda'r moch. " Ha! gyfeillion," ebai Gwydion, "rhaid i ni gerdded yn brysur, canys ni phery y lledrith ond hyd yr un amser yforu." Y nos hono, cyrhaeddasant hyd warthaf Ceredigion, ac arosasant mewn lle a elwdr o'r herwydd Mochdref. Tranoeth, cymerasant eu hynt trwy Melenydd, a'r nos tariasant mewn tref rhwng Ceri ac Arwystli, a elwir hefyd o'r achos hwnw Mochdref. Oddiyno aethant rhagddynt ac arosasant y noson nesaf mewn cwmwd yn Mhowys, a elwid o'r herwydd Mochnant. Yna cerddasant hyd gantref y Rhos, ac yno y buont y noson hono, mewn man a elwir eto Mochdref.
"Fy ngwyr," ebai Gwydion, " rhaid i ni brysur gyrchu gyda'r anifeiliaid hyn i gadarnfeydd Gwynedd, canys y mae llu yn ein hymlid." Felly y teithiasant yn mlaen hyd y dref uchaf yn Arllechwedd; yno y gwnaethant gren (sty) i'r moch, oherwydd hyny gelwid y lle Crenwyryon. Wedi gwneuthur y cren, cyrchasant i Gaer Dathyl, at Math ab Mathonwy. Pan aethant yno, cawsant fod y wlad yn derfysg drwyddi. "Pa newydd sydd yma?" ebai Gwydion. Ebynt hwythau, "Pryderi sydd yn casglu un cantref ar hugain i'th ymlid di. Rhyfedd mor araf y cerddasoch. Pa le y mae yr anifeiliaid yr aethoch i'w hymofyn?" " Gwnaethom gren iddynt yn y cantref islaw," ebai Gwydion.
Ar hyny, Math a'i wyr a glywent sain udgyrn a dygyfor mawr yn y wlad, a gwisgasant amdanynt, ac aethant hyd y Penardd, yn Arfon. A'r noson hono, Gwydion ab Don, a Gilfaethwy ei frawd, a ddychwelasant yn llechwraidd i Gaer Dathyl; a chymerth Gilfaethwy feddiant ar ystafell Math, gan orfodi Goewin i aros a throi y morwynion eraill allan.
Ar lasiad y dydd dranoeth, dychwelasant i'r fan yr oedd Math a'i lu. Pan gyrhaeddasant, yr oedd y gwyr hyny yn ymgynghori pa du yr arhonynt Pryderi a gwyr y Dehau, ac i'r cynghor yr aethant hwythau. Yn y cynghor, penderfynwyd aros yn nghadernid Arfon, ac yn nghanol dwy Faenor yr arosasant, sef Maenor Penardd a Maenor Coed Alun. Yno ymosododd Pryderi arnynt, ac y bu brwydro caled; a lladdwyd yno laddfa fawr o bob ochr. ond bu raid i wyr y Deheu encilio. Enciliasant i le a elwir eto Nant coll; ymlidiwyd hwynt, ac yno y bu aerfa ddifesur ei maint. Enciliasant oddiyno hyd y lle a elwir Dolbenmaen, ac yno ceisio heddwch a wnaethant.
Er mwyn cael heddwch, rhoddodd Pryderi wystlon, sef Gwrgi Gwastra a thri ar hugain o foneddigion eraill. Yna Pryderi a'i wyr a deithiasant mewn heddwch hyd y Traeth Mawr; ond fel yr elent tua Melenryd, nis gellid atal gwyr y wlad rhag saethu arnynt. Pryderi a ddanfonodd genhadau atMath yn deisyf arno luddias y saethu; â gadael rhyngddo ef a Gwydion ab Don, canys efe a barasai hyn oll. Daeth y genad at Math; "le," ebai ef "os da gan Wydion ab Don, mi a'i gadawaf yn llawen; ni chymellaf fi ar neb i ymladd." " Diau," ebai'r cenhadau, "Pryderi a ddywed mai tecach i'r hwn a wnaeth gymaint o gam ag ef ddyfod i ymladdfa law-law ei hunan, a gadael ei luoedd yn segur." Ebai Math, "Myn y nefodd, nid archaf fi i wyr Gwynedd ymladd troswyf; os caf ymladd law-law gyda Pryderi, rhwydd y gwnaf hyny." Dygasant yr ateb hwn at eu harglwydd, "Diau," ebai yntau, "nid archaf finau neb i hawlio fy iawn ond fy hunan."
Y ddau a gyfarfuant mewn arfwisgoedd, ac a ymladdasant; a thrwy nerth cadernid a llidiowgrwydd Math, a hud a lledrith Gwydion, lladdwyd Pryderi. Claddwyd ef yn Maen Tyriawc, uwch. Melenryd, ac yno y mae ei fedd.
A gwyr y Dehau a gerddasant yn drist tua'u gwlad; ac nid rhyfedd, canys eu harglwydd a gollasent, a llawer o'u goreugwyr, a'u meirch, a'u harfau gan mwyaf.
Gwyr Gwynedd ar ol eu buddugoliaeth a ddychwelasant yn llawen. " Arglwydd," ebai Gwydion wrth Math, " onid iawn i ni ollwng gwystlon gwyr y Dehau, ac a ddylem eu dal yn ngharchar?" " Rhyddhaer hwynt ynte," ebai Math. Felly y gwr ieuanc hwnw a'r gwystlon oeddynt gydag ef a ryddhawyd.
Yna aeth Math i Gaer Dathyl. A Gilfaethwy ab Don, a'r rhai oeddynt gydag ef, a aethant i amgylchu Gwynedd yn ol eu harfer, heb fyned i'r llys. Math a gyrchodd i'w ystafell, ac a barodd barotoi lle iddo benlinio, fel y byddai ei draed ar lin y forwyn. "Arglwydd," ebai Goewin, " cais forwyn arall i gynal dy draed: gwraig wyf fi." "Pa ystyr sydd i hyn?" " Ymosodwyd arnaf,' arglwydd, yn ddirybydd; nid oes yn y llys ar nas gwyb ydd amdano, canys ni buom i ddystaw. yr ymosodiad hwn a wnaed arnaf gan dy ddau nai feibion dy chwaer, sef Gilfaethwy a Gwydion ab Don; cam a wnaethant i mi, a chywilydd i tithau." " Diau," ebai ef, " yr hyn a allaf mi a'i gwnaf; mi a baraf i ti gael iawn yn nghyntaf, ac yna mynaf finau iawn. Ac mi a'th gymeraf yn wraig, a dodaf fy holl gyfoeth yn dy law.
Ni ddaeth Gwydion a Gilfaethwy ar gyful y llys, eithr trigo ar gyffiniau y wlad a wnaethant, onid aeth gwaharddiad allan iddynt gael bwyd a diod. Ar y cyntaf ni ddeuent yn. agos at Math, ond o'r diwedd daethant. "Arglwydd," ebynt hwy, "dydd da it'." Ebai yntau, " Ai ni roddi iawn im' y daethoch" "Arglwydd wrth dy ewyllys yr ydym ni." "Pe buasech wrth fy ewyllys, ni chollaswn gynifer o wyr ac arfau. Nis gellwch byth roddi iawn i mi am fy nghywilydd, heb son am angau Pryderi. Eithr gan i chwi ddyfod yma at fy ewyllys, dechreuaf eich cosp yn ddioed."
Yna efe a gymerth ei swynlath, ac a darawodd Gilfaethwy â hi, onid aeth yn ewig yn y fan; ac ymaflodd yn y llall yn ebrwydd rhag iddo ddianc, a chyda'i swynlath efe a'i tarawodd yntau yn garw, gan ddywedyd, "Gan eich bod mewn rhwymedigaeth, mi a wnaf i chwi fyned yn nghyd a bod yn gydmaredig, a meddu anian y creaduriaid yr ydych ar eu ffurf. Ac yn mhen y flwyddyn, dychwelwch yma ataf fî."
Yn mhen blwyddyn i'r diwrnod hwnw, dyna dwrf tan ffenestr Math, a chyda'r twrf, cŵn y llys yn cyfarth. "Edrych," ebai ef wrth un o'r gweision, "pa beth sydd yna oddi allan." "Arglwydd, mi a edrychais, y mae yna garw ac ewig, ac elein (fawn) yn eu canlyn."Ar hyny, Math a gyfodes ac a aeth allan, ac ef a ganfu y tri anifail. Yna dyrchafodd ei swynlath, " Yr hwn oedd ewig y llyuedd, bydded faedd coed eleni; a'r hwn oedd garw y llynedd, bydded garnen goed [a wild sow] eleni;" a tharawodd hwynt â'i swynlath. "Yr ieuanc hwn a gymeraf fi i'w feithrin, a pharaf ei fedyddiaw;" a'r enw a roddwyd arno oedd Hydwn. " Ewch chwithau, a byddwch faedd a garnen goed, ac anian moch fyddo arnoch, a blwyddyn i heddyw byddwch yma tan y pared a'ch etifedd gyda chwi."
Yn mhen blwyddyn, clywid cyfarthfa cŵn tan bared yr ystafell, a'r llys a ymgynhyrfodd. Yna Math a aeth allan, a gwelai y tri bwystfil. A'r bwystfilod a welodd oeddynt faedd coed a charnen coed, a llwdn da yn eu dilyn. A mawr ydoedd o'i oed. "Yn wir," ebai Math, " paraf fedyddio hwn." Ac efe a'i tarawodd ef gyda'i swynlath, onid aeth yn llanc teg, gwallt-wineu (auburn), a galwyd ef Hychdwn. " A chwithau, yr un ohonoch oedd faedd coed y llynedd, bydded fleiddast eleni; a'r hwn oedd, garnen y llynedd, bydded flaidd eleni; a byddwch o anian gyffelyb i'r anifeiliaid yr ydych ar eu ffurf, a dychwelwch yma yn mhen y flwyddyn."
Ac yn mhen y flwyddyn, efe a glywai gynhwrf a chyfarthfa cŵn tan bared yr ystafell. Ac wedi iddo gyfodi a myned allan, canfu flaidd a bleiddast, a chenaw cryf yn eu canlyn. "Hwn a gymeraf fi," ebai ef, "a .pharaf ei fedyddiaw; ac y mae'r enw yn barod, sef yw hwnw, Bleiddwn: —
“ |
|
” |
Yna efe a'u tarawodd gyda'i swynlath, onid oeddynt yn eu cnawd eu hunain. "Ha! wyr," ebai ef, "os gwnaethoch gam â mi, digon o boen a chywilydd mawr a gawsoch. Darperwch yn awr," ebai ef wrth ei weision, "enaint gwerthfawr i'r gwyr hyn, a golchwch eu penau ac adgyweiriwch hwynt." A gwnaed hyny.
Wedi Iddynt ymdrwsio, daethant at Math. "Ha! wyr," ebai ef, "gan i chwi gael fy heddwch, chwi a gewch hefyd fy nghyfeillgarwch. Rhoddwch im' gynghor pa forwyn a geisiaf." "Arglwydd," ebai Gwydion ab Don, "hawdd ydyw dy gynghori; cais Arianrod ferch Don, dy nith ferch dy chwaer."
Dygpwyd y forwyn ato. "Ha! ferch," ebai ef, "ai morwyn ydwyt?" "Nis gwn, arglwdd, amgen nad wyf."Yna efe a gymerth ei swynlath ac a'i plygodd, "Cama di dros hon," ebai ef, "ac os morwyn ydwyt mi a gaf wybod."Yna hi a gamodd tros y swynlath, ac yn y fan ymddangosodd bachgen teg, ac iddo wallt bras melyn mawr. Ac wrth ddolefain y mab hwn, hi a gyrchodd tuag at y drws. Ar hyny, rhywbeth bychan a welwyd; a chyn y gallai neb gael ailolwg arno, Gwydion a'i cymerth. a rhoddodd lèn o bali o'i gylch, ac a'i cuddiodd. A'r lle y cuddiodd efe ef oedd gwaelod cist wrth draed ei wely.
" Yn wir," ebai Math, " mi a baraf fedyddio y mab hwn, a Dylan ydyw yr enw a roddaf arno."
Felly y mab a fedyddiwyd; ac fel y bedyddient ef, efe a ymsuddodd i'r môr. Ac mor fuan ac yr aeth i'r môr, anian y môr a gafodd, a chystal y nofiai ag un pysgodyn yn yr eigion; ac oherwydd hyn y, gelwid ef Dylan eil Ton. Ni thores tôn odditano erioed. A'r ergyd trwy ba un y daeth efe i'w angau a roddwyd gan ei ewythr, Gofannion. Hwnw oedd " y trydydd anfad ergyd."
Fel y gorweddai Gwydion un diwrnod ar ei wely yn effro, efe a glywai sŵn yn y gist wrth ei draed; ac er nad oedd yn uchel, yr oedd er hyny yn hawdd ei gly wed. Cyododd Gwydion ar frys, ac agorodd y gist; ac wele ynddi fab bychan yn rhwyfo ei freichiau o blygiadau y llen, ac yn ei bwrw o'r neiìldu. Ac efe a gymerth y mab yn ei freichiau, ac a'i cyrchodd i fan y gwyddai fod gwraig a bronau ganddi, a chytunodd gyda hi i fagu y mab; a magwyd ef y flwyddyn hono.
Ar derfyn blwyddyn, edrychai yn debyg i blentyn dwy flwydd oed. Yr ail flwyddyn, yr oedd efe yn fab mawr, ac yn gallu myned ei hunan i'r llys. A phan ddaeth i'r llys, Gwydion a sylwodd arno, ac a synodd. A'r mab a ymgynefinodd ag ef, ac a'i carai yn fwy nag ungwr arall. Yna magwyd ef yn y llys, onid oedd yn bedair oed, ac edrychai mor fawr a phe buasai yn wyth mlwydd.
Un diwrnod, Gwydion a gerddodd allan, a'r mab a'i dilynodd hyd i Gaer Arianrod; a phan aeth Gwydion i'r llys, cyfododd Arianrod i'w groesawu ac i gyfarch gwell iddo. "Duw a roddo dda it'," ebai ef. " Pwy ydyw y mab sydd gyda thi?" "Y mab hwn, mab i ti ydyŵ ef." Ebai hithau, "Och! paham y cywilyddi fel hyn? paham y cedwaist fy nghywilydd cyhyd?" "Oni bydd arnat ti gywilydd mwy na meithrin ohonynt fi lanc cystal â hwn, bychan o beth fydd dy gywilydd." "Pa enw sydd ar y mab?" " Nid oes iddo enw hyd yn hyn." "Tyngaf 'dynged," ebai hi, "na chaffo enw hyd oni chaffo genyf fi." Ebai yntau, "Dygaf y nefoedd yn dyst, mai gwraig ddiriaid wyt ti; ond y mab a gaiff enw, er dy waethaf; yr hyn a'th flina di ydyw na'th elwir mwyach yn forwyn."Ar hyny, efe a ymadawodd yn ei lid, ac a gyrchoddi Gaer Dathyl, ac yno yr arosodd y noson hono.
Tranoeth. cyfododd a chymerth y mab gydag ef, a cherddodd ar hyd glan y môr rhwng hyny ag Aber Menai. Canfu yno hesg a môr-wiail, a gwnaeth fâd ohonynt; ac o'r brigau gwynion a'r hesg y gwnaeth lawer o gordawl (Cordovan or Turkish leather); ac a'u lliwiodd yn y fath fodd, nas gwelsai neb ledr tecach nag ydoedd. Yna efe a •wnaeth hwyl ar y bâd, a'r mab ac yntau a gyrchasant ynddo hyd borth Caer Arianrod. Yno efe a ddechreuodd lunio esgidiau a'u gwnio. Sylwyd ar y ddau o'r Gaer; a phan wybu Gwydion hyny, efe a gyfnewidiodd ei wedd a'i ffurf fel nad adnabyddid ef. "Pa wyr sydd yn y bâd acw?" ebai Arianrod. "Cryddion ydynt," ebynt hwy. "Ewch ac edrychwch pa ryw ledr sydd ganddynt, a pha ryw waith a wnant."
Felly, gwyr Arianrod a ddaethant at y ddau; a chawsant 'hwynt yn britho cordawl ac yn ei oreuro. A'r cenhadon a ddychwelasant gan fynegi hyn wrthi. Ebai hithau, "Mesurwch fy nhroed, ac erchwch i'r cryddion wneuthur esgidiau i mi." A Gwydion a wnaeth yr esgidiau, nid yn 'ol y mesur, ond yn fwy. Dygwyd hwy ati, ac yr oeddynt yn ormod. "Gormod ydynt y rhai hyn," ebai hi, "talaf iddo amdanynt, a gwnaed eto rai a fo llai na hwynt." Yna efe a wnaeth eraill, ac yr oeddynt yn rhy fychain, ac a'u danfonodd iddi; "dywedwch wrtho nad i mi y mae y rhai hyn."A dywedwyd hyny wrtho. Ebai yntau, " Yn wir ni wnaf esgidiau iddi oni chaf weled ei throed." Ebai hithau, " Mi a geddef hyd ato ef." A phan ddaeth hi at y llong, yr oedd efe yn lluniaw esgidiau, a'r mab yn gwniaw. "Dydd da it', arglwyddes," ebai ef. "Duw a roddo dda it',"ebai hithau; " y mae yn syn genyf nas gellit wneud esgidiau oddi wrth fesur." Ebai yntau, "Ni a medrwn, ond medraf yn awr."Ar hyny, wele ddryw yn sefyll ar ystlys y llong; a'r mab a anelodd ato, ac a'i saethodd yn ei goes, rhwng y gewyn a'r asgwrn. Yna hi a chwarddodd. "Diau," ebai hi, "gyda llaw gyffes (steady) y tarawodd y llew ef." Yna ebai Gwydion, " Na ddiolched y nef it, eithr yn awr y bachgen a gafas enw, ac enw da ddigon ydyw hefyd. galwer ef o hyn allan, Llew Llaw Gyffes."
Ar hyny, diflanodd y gwaith, yr hesg, a'r môr-wiail; ac efe nis dilynodd ef yn mhellach. Oherwydd hyn y gelwir Gwydion, y trydydd Eurgrydd. Ebai hi. " Ni bydd dy Iwyddiant yn fwy wrth fy nrygu i." " Ni buom i ddrwg wrthyt ti." Yna efe a droes y mab i'w ffurf briodol ei hun. " Wel," ebai hi, "mi adyngaf dyngedi'r mab hwn na chaffo arfau byth onis gwisgwyf fi hwynt amdano." "Rhyngwyf fi a'r nefoedd," ebai Gwydion, "er gwaethaf dy ddireidi, efe a gaiff arfau."
Yna aethant tua Dinas Dinllef; ac yno meithrinwyd Llew Llaw Gyffes, onid allai farchogaeth pob march, ac onid ydoedd yn ei lawn ffurf o bryd, nerth, a maint. A chanfu Gwydion ei fod yn gwaethygu o eisiau meirch ac arfau, a galwodd ef ato, "Ha! was," ebai ef, " ni a awn ein dau ar neges yforu, a bydd dithau lawenach nag wyt."
"Hyny mi wnaf," ebai y mab.
Ac yn ieuenctyd y dydd dranoeth, cyfodasant, a chymerasant eu ffordd hyd yr arfordir i fynu tuag at Bryn Aryen. Ac ar ben uchaf Cefn Clydno, cymerasant feirch, a daethant at Gaer Arianrod. Yno newidiasant eu pryd, a myned i'r porth a wnaethant yn null dau was ieuainc, eithr fod pruddach pryd ar Gwydion nag ar y gwas. "Y porthor," ebai ef, "dos, a dywed fod yma feirdd o Forganwg."Y porthor a aeth. "Croesaw y nef iddynt; gollwng hwynt i mewn," ebai Arianrod.
Gyda dirfawr lawenydd y croesawyd hwynt; y neuadd a drefnwyd, a'r bwrdd a huliwyd. Wedi darfod bwyta, ymddiddan a wnaeth hi gyda Gwydion am chwedlau a hanesion; chwedlenwr da oedd Gwydion. A phan ddaeth adeg ymadael â'r gyfeddach, ystafell a gyweiriwyd i'r ddau ŵr dyeithr, ac i gysgu yr aethant.
Yn ngwyll y cyfddydd, Gwydion a gyfodes ac a alwodd am gymhorth ei hud; ac erbyn eu bod yn oleu dydd, yr oedd sain udgyrn a thrwst arfau yn diaspedain tros yr holl wlad. Ar hyny clywent guro ar ddrws eu hystafell, ac Arianrod yn erchi ei agoryd. A'r gwas a'i hagorodd, ac i mewn yr aeth hi a morwyn ieuanc gyda hi. "Hawyr da!" ebai hi, " pa le ddrwg yr ydym ni?" Ebai yntau, "ie, mi a glywaf udgym a llefain, beth debygi di o hyn?'"ebai hi, "Diau nis gallwn weled lliw y weilgi gan gynifer o longau sydd yn cyniwair ar hyd-ddo; ac y maent oll yn cyrchu i'r tir. A pha beth a wnawn ni?" Ebai Gwydiôn, "Arglwyddes, nid oes dim i'w wneuthur ond cau y gaer arnom, a'i hamddiffyn hyd y gallom." "Duw a dalo i chwi," ebai hi, " cewch yma ddigon o arfau."
Ar hyny, i nol yr arfau yr aeth hi; a dychwelodd yn ebrwydd a dwy forwyn gyda hi, ac arfau denwr ganddynt, "Arglwyddes," ebaiGwydion, " Gwisga di am y gwr hwn, a'r morwynion a wisgant amdanaf finau. Mi a glywaf dwrf gwyr yn dyfod." "Hyny a wnaf yn llawen;" a hi a wisgodd am dano yn gyfangwbl. " A ddarfu i ti wisgo y gwr ieuanc?" ebai ef. " Do," ebai hithau. "Yr wyf finau wedi darfod," ebai Gwydion; " diosgwn ein harfau weithian, canys ni raid ini wrthynt." "Paham?" ebai hithau, " wele y mae'r llynges oddiamgylch y tŷ." "Ha! wraig, nid oes yna lynges." "Och!" ebai hithau, "ba le yr oedd y swn mawr a glywid?" "Hud ydoedd, i dori dy fwriad di, ac i gael arfau i'th fab. Ac yn awr y mae ganddo arfau, ond heb achos diolch i ti amdanynt." "Rhyngwyf fi â Duw," ebai hithau, "gwr drwg ydwyt. Hawdd fuasai i lawer mab golli ei enaid oblegyd y trwst a wnaethost yn y Cantref hwn heddyw. Eithr mi a dyngaf dynged i'r mab hwn, na chaffo efe wraig byth o'r genedl y sydd ar y ddaear yr awr hon." "Diau," ebai yntau, "gwraig ddiriaid wyt ti erioed, ac ni ddylai neb dy gynorthwyo. Er hyny efe a gaiff wraig."
Yna, y ddau a ymadawsant â Chaer Arianrod, ac a ddaethant at Math ab Mathonwy, ac a achwynasant wrtho yn chwerw oherwydd Arianrod. Gwydion a'i hysbysodd hefyd pa fodd y cawsai arfau i'r gwr ieuanc. Ebai Math, "Wel, nyni, a tydi a minau, trwy hud a lledrith, a wnawn iddo wraig o flodeu. Bellach y mae ef yn wr llawn maint, a chyn deced ei bryd ag un mab a welais erioed." Yna, cymerasant flodeu y derw, a blodeu y danadl, a blodeu yr erweni (meadow-sweet); ac ohonynt ffurfiasant, trwy hud a lledrith, y forwyn decaf a theleidiaf a weles dyn erioed. Ac wrth ei bedyddio, galwasant hi Blodeuwedd.
Wedi iddynt briodi, ac i'r wledd fyned heibio, ebai Gwydion, "Nid hawdd i wr heb gyfoeth fyw yn anrhydeddus."Ebai Math, "Mi a roddaf i'w ddal i'r gwr ieuanc y cantref goreu feddaf." "Pa un yw hwnw, arglwydd?" ebai Gwydion. "Cantref Dunodig," ebai yntau. Gelwir y Cantref yn awr Eifionydd ac Ardudwy. A'r lle y cyfaneddodd efe ynddo oedd balas o'i eiddo a elwid Mur y Castell, yn ngwrthdir Ardudwy. Yno y cyfaneddodd ac y gwladychodd efe, a phawb a fuont foddlawn iddo ef ac i'w arglwyddiaeth. Ac efe a aeth i Gaer Dathyl, i ymweled â Math ab Mathonwy. A'r diwrnod yr aeth efe i Gaer Dathyl, Blodeuwedd a rodiodd o'r llys. A hi a glywaisai corn; ac ar ol sain y corn, wele hydd blinedig yn myned heibio iddi, a chwn a helwyr o'i ol; ac ar ol y cwn a'r helwyr, bagad o wyr traed yn eu dilyn. " Danfonwch was," ebai hi " i ymofyn pwy ydynt y nifer acw." Y gwas a aeth, a gofynodd iddynt pwy oeddynt. "Gronw Pebyr ydyw hwn, y gwr sydd yn arglwydd ar Penllyn,"ebynt hwy. Hyny a ddywedodd y gwas wrthi hithau.
Gronw Pebyr a ymlidiodd yr hydd, a cherllaw yr afon Cynfael goddiweddodd a lladdodd ef. Ac wrth flingo yr hydd a bwydo ei gŵn, yno y bu hyd onid ymdaenodd y nos o'i ddeutu. A phan oedd y dydd yn adfeilio, a'r nos yn nesau, efe a ddaeth at borth llys Mur y Castell. Ebai Blodeuwedd, "Diau gogenir ni gan yr arglwydd hwn os gadawn iddo fyned ymaith mor hwyr heb ei wahodd i mewn." Ebynt hwythau, "Diau, arglwyddes, gweddus i ni ei wahodd."Yna aeth cenhadon ato i'w wahodd, a chymerth yntau ei wahodd yn llawen, ac aeth i mewn i'r llys. A Blodeuwedd a gyfarchodd well iddo ac a'i croesawodd. Ebai ef, "Arglwyddes, ad-daled y nefoedd it' dy garedigrwydd. "
Wedi iddo ymddiosg o'i wisg helwrol, myned i eistedd a wnaeth ef a Blodeuwedd. A hi a edrychodd arno, ac. o'r awr yr edrychodd hi arno, hi a lanwyd o'i gariad. Yntau a edrychodd arni hithau, a daeth yntau hefyd i'r un meddwl, ac nis gallai gelu ei serch rhagddi, eithr ei fynegi iddi a wnaeth. Hyn a barodd iddi lawenydd mawr; ac o barth y serch a'r cariad a roddasai'r naill ar y llall y bu eu hymddiddan y noson hono. A threuliasant yr hwyr hwnw yn ngwmni eu gilydd. Tyranoeth, efe a ddarparodd at fyned ymaith. Ebai hithau, " Deisyfaf arnat nad elych oddiwrthyf heddyw." A'r nos hono ef a arosodd; a buont yn ymgynghori pa fodd y gallent fod beunydd yn nghyd. Ebai ef, "Nid oes gynghor ond un, sef fod i ti gael gwybod gan Llew Llaw Gyffes, a hyny yn rhith gofal amdano, trwy ba ddull y daw efe i'w angau." Tyranoeth drachefn, efe a ddarparodd at fyned ymaith. Ebai hi, "Diau ni chynghoraf di i fyned oddiwrthyf heddyw." Ebai yntau, "Y mae perygl i arglwydd y llys ddychwelyd adref." "Yforu caniatâf iti fyned'," âtebai hithau.
A'r diwrnod nesaf, efe a gychwynodd, ac ni cheisiodd hithau ei luddias. "Cofia," ebai ef, "am yr hyn a ddywedais wrthyf; ac ymddiddan ag ef mewn ysmaldod cariad, ac ymhola pa fodd y daw efe i'w angau."
Y noson hono, Llew Llaw Gyffes a ddychwelodd, a threulio llawer o amser a wnaethant mewn ymddiddan a cherddau a chyfeddach. A'r hwyr aethant i orphwys, ac efe a siaradodd unwaith a dwywaith wrth Blodeuwedd, eithr nid atebodd hi iddo un gair. "Pa beth a ddigwyddodd i ti? a ydwyt iach?" ebai ef." "Myfyrio yr oeddwn am yr hyn nas myfyret ti am danaf fi, sef gofalu am dy angau, os elit o'm blaen i." "Duw a dalo it' am dy ragofal; eithr hyd oni chymer y nef fi, nid hawdd fydd fy lladd." Ebai hithau, "Er mwyn y nef a minau, dywed wrthyf yn mha wedd y daw dy angau; canys y mae fy nghof i yn well i'w ymogelyd na'r eiddot ti." "Dywedaf yn llawen," ebai ef, "nid hawdd y gellir fy lladd, oddieithr trwy ergyd; a rhaid i'r waywffon y'm tarewir ag ef fod flwyddyn yn ei wneuthuriad, heb i neb weithio arni o gwbl ond pryd aberth ddydd Sul." "Ai gwir hyn?" ebai hithau. "Digon gwir; ac nis gellir fy lladd mewn tŷ nac allan o dŷ, ar farch nac ar droed." " Yn mha ddull ynte y gelli' dy ladd?" "trwy wneud badd imi ar lan afon, a dodi cronglwyd uwchben cerwyn y badd, a thoi hwnw yn dda a diddos; a dwyn bwch a'i ddodi ger llaw y gerwyn a dodi ohonof finau un troed ar gefn y bwch a'r llall ar ochr y gerwyn; a phwy bynag a'm tery felly, a bâr fy angau." " Diolchaf i'r nefoedd," ebai hithau, "y gellir osgoi hyny yn hawdd."
Mor gynted ag y cafodd hi yr ymadrodd hi a ddanfon- odd at Gronw Pebyr. Gronw a lafuriodd yn gwueud y waywffon, ac yn mhen un dydd a bwyddyn yr oedd yn barod, ac efe a barodd i Blodeuwedd wybod hyn y. "Arglwydd," ebai hi wrth y llew, " bum yn myfyrio pa fodd y gall yr hyn a ddywedaist wrthyf gynt fod yn wir; a ddangosi di i mi pa fodd y gallet sefyll ar ymyl y gerwyn ac ar y bwch, os darparaf y badd-le?" "Dangosaf," ebai yntau.
Yna hi a ddanfonodd at Gronw, ac a archodd iddo gadlechu yn nghysgod y bryn a elwir yn awr Bryn Cyfergyr ar lan yr afon Cynfael. Hi a archodd hefyd gynull yr holl eifr yn y Cantref, a'u dodi yr ochr arall i'r afon, gyferbyn a Bryn Cyfergyr.
A thranoeth, hi a ddywedodd wrth llew: — "Perais ddarparu y gronglwyd a'r ymdrochle, ac y maent yn barod." Ebai llew, "Awn i edrych arnynt." Tranoeth aethant i -weled y fan. " A â fy arglwydd i'r ymdrochle?" ebai hi. " Af yn llawen ebai yntau, Efe a aeth i'r ymdrochle, ac ymeneiniodd. " Arglwydd," ebai hi, "wele yr anifeiliaid y dywedaist wrthyf mai bychod oeddynt." "Pâr ddal un ohonynt a'i ddwyn yma," ebai "ef. Yna efe a gyfododd o'r ymdrochle, rhoddodd ei lodrau amdano, a dododd un troed ar ymyl y gerwyn a'r llall ar gefn y bwch.
Yna cododd Gronw i fynu o'i helwrfa, a phwysodd ar ben ei lin; ac efe a daflodd saeth wenwynig, yr hon a darawodd y llew yn ei ystlys nes y lluchiodd y paladr ymaith, eithr blaen y saeth a lynodd yn y clwyf. Yna y llew a roddodd waedd galon-rwygol, ac ehedodd i fynu yn ffurf eryr, ac a ddiflanodd yn fuan o'r golwg.
Mor fuan ag y diflanodd llew, Gronw a Blodeuwedd a aethant ynnghyd i'r llys y noson hono. tranoeth, Gronw a gymerth feddiant o Ardudwy; ac wedi iddo oresgyn y wlad, efe a wladychodd yno, onid oedd Penllyn ac Ardudwy yn ei arglwyddiaeth.
Dygwyd y newyddion hyd at Math ab Mathonwy; a thrymder a thristwch a ddaeth arno o'u herwydd; a thristach nag yntau ydoedd Gwydion. Ebai ef, "Argl- wydd, ni orphwysaf byth oni chaf hysbysrwydd am fy nai." "Duwa fo nerth it'," ebai Math. Yna Gwydion a gychwynodd, a cherddodd rhagddo hyd derfynau Gwynedd a Phowys. Wedi darfod hyny, efe a gerddodd Arfon, ac a ddaeth hyd at dŷ aillt (vassal) yn Maenor Penardd. Efe a ddisgynodd wrth y tŷ, ac a dariodd yno y noson hono. Gwr y tŷ a'i dylwyth a ddaethant i mewn, ac yn ddiweddaf oll y daeth y meichiad. Ebai gwr y tŷ wrth y meichiad, " Ha! was, a ddaeth dy hwch heno i mewn?" Ebai yntau, "Do; ac yr awrhon" y daeth hi at y moch." "Pa ryw gerdded sydd ar yr hwch " ebai Gwydion, "Bob bore pan agorer y cren yr â hi allan, ac ni cheir craff arni, ac ni wyddis pa ffordd yr â mwy na phe suddai i'r ddaear." "A wnei di gymwynas a mi" ebai Gwydion, "peidio agoryd dôr y cren oni byddwyf fi yno gyda thi." "Gwnaf yn llawen," ebai ef. I gysgu yr aethant y noson hono. A phau welodd y meichiad liw y dydd, efe a ddeffroes Gwydion. Safasant wrth y cren; " agorodd y meichiad y ddôr, a'r hwch a neidiodd allan ac a gerddodd ymaith yn gyflym. Gwydion a'i canlynes; a hi a groesodd afon, gan gyrchu i nant a elwir yn awr Nant y llew. Yno hi a ymataliodd, ac a ddechreuodd bori o tan goeden fawr. Gwydion a ddaeth o tan y pren, ac a edrychodd pa beth. oedd yr hwch yn fwyta, ac wele bwyta yr oedd gig pwdr crynrhonllyd. Ac efe a edrychodd i ben y pren, ac ar y brig gwelai eryr; a phan ymysgydwai yr eryr, disgynai oddiwrtho bryfaid a chig pwdr, a'r rhai hyn a ysai yr hwch. Ac efe a dybiodd mai'r llew oedd yr eryr, a chanodd iddo yr englyn hwn: —
“ |
|
” |
Ar hyny yr eryr a ddisgynodd hyd at ganol y pren, a Gwydion a ganodd iddo englyn arall: —
“ |
|
” |
Yna'r llew a ddisgynodd onid oedd ar y gainc isaf i'r pren, a thrachefn canodd Gwydion iddo yr englyn hwn: —
“ |
|
” |
Yna yr eryr a ddisgynodd ar lin Gwydion. A Gwydion a'i tarawes gyda'i swynlath, nes y trawsffurfiwyd llew i" w ffurf ei hun. Ni chanfu neb erioed dremyn truenusach nag oedd arno — nid oedd ddim ond croen ac esgyrn.
Yna hwy a aethant hyd i Gaer Dathyl, a dygpwyd at llew feddygon da yn Ngwynedd, ac yr oedd efe yn holl iach cyn diwedd y flwyddyn.
" Arglwydd," ebai ef wrth Math ab Mathonwy, " y mae yn llawn bryd imi gael iawn gan yr hwn y dioddefais gymaint oddiar ei law." Ebai Math, " Diau nas gall efe ymgynal mewn meddiant o'th eiddo di." "Goreu bo'r cyntaf," ebai yntau, " y caffwyf fi iawn."
Yna cynullasant holl wyr Gwynedd, a chyrchasant i Ardudwy. Gwydion a gerddodd o'u blaen tua Mur y Castell. A phan glybu Blodeuwedd ei fod yn dyfod, hi a gymerth ei morwyniyn ac a ffodd i'r mynydd. Wedi croesi yr afon Cynfael, cyrchasant tuag at lys oedd ar y mynydd; a chan ofn, yr oeddynt yn cerdded drach eu cefnau, oni syrthiasant i lyn yn ddiarwybod; a boddwyd hwynt oll oddieithr Blodeuwedd. Hithau a oddiweddwyd gan Gwydion; ac efe a ddywedodd wrthi, " Ni laddaf dydi, eithr mi a wnaf it' y sydd waeth na hyny, sef dy drawsffurfio yn aderyn, am y cywilydd a ddygaist ar Llew Llaw Gyffes: ac ni feiddi byth ddangos dy wyneb hw dydd, a hyny rhag ofn yr holl adar, canys bydd yn eu hanian dy faeddu a'th anmharchu. Ac ni cholli dy enw, eithr gelwir di drachefn Blodeuwedd." Dallhuan ydyw Blodeuwedd yn iaith yr oes hon; ac oherwydd hyny, yr holl adar a gashant y ddallhuan.
Yna Gronw Pebyr a ymgiliodd i Penllyn, ac oddiyno danfonodd genhadau. A'r cenadau a ofynasant i Llew Llaw Gyffes os cymerai efe dir neu ddaear, neu aur neu arian, yn iawn am ei sarhad. "Na chymeraf, myn y nefoedd," ebai llew, " a dyma y peth leiaf a gymeraf fi ganddo: — Iddo ddyfod i'r man yr oeddwn i pan archollwyd fi gyda saeth ganddo, ac i minau sefyll lle y safai yntau, a chyda saeth anelu ato. A dyma'r iawn lleiaf a gymeraf fi ganddo."
Mynegwyd hyn i Gronw Pebyr. Ebai yntau, "A raid i mi wneud hyn? Fy ngwyr ffyddlon, a'm tylwyth, a'm brodyr maeth, a oes un ohonoch chwi a gymer yr ergyd hwn yn fy lle?" "Nac oes, yn ddiau," ebynt hwythau. Ac oherwydd gomedd ohonynt ddyoddef un ergyd tros eu harglwydd, y gelwir hwynt hyd y dydd hwn, "Y trydydd anniwair deulu." "Wel," ebai ef, " mi a'i cymeraf."
Yna daethant eill dau hyd at lan yr afon Cynfael; a Gronw a safai yn y fan y safai Llew pan ei harchollwyd, a Llew yn y fan y safai Gronw. Ebai Gronw wrth Llew, "Yn gymaint ag imi wneud a wnaethum i ti trwy ystryw gwraig, tyngedaf di yn enw y nefoedd i ganiatau imi roddi rhyngwyf â'r ergyd y llech a welir acw ar lan yr afon." Ebai llew, "Diau ni'th omeddaf o hyny." "Duw a dalo it'," ebai Gronw; ac efe a gymerth y llech, ac a'i dodes rhyngddo a'r ergyd.
Yna llew a daflodd y saeth, nes y treiddiodd trwy y llech ac i gefn Gronw. Felly y lladdwyd Gronw Pebyr. Ac y mae llech eto ar lan yr afon Cynfael, yn Ardudwy, a thwll ynddi; a gelwir y llech hono, llech Gronw.
Eilwaith, cymerodd Llew Llaw Gyffes feddiant o'i diroedd, a gwladychodd yn llwyddianus ynddynt. Ac yn ol yr hanes efe a fu. arglwydd wedi hyn ar Wynedd oll.
Felly y terfyna y gainc hon o'r Fabinogi.