Cymru Fu/Nos Nadolig
← Iarlles Y Ffynon | Cymru Fu gan Isaac Foulkes |
Ffynon Llanddwynen → |
NOS NADOLIG.
DISGWYL Y PLYGAIN.
DRIUGAIN mlynedd i heno, yr oedd hên ŵr briglwyd, gwargam, sydd yn adrodd yr hanes yma wrthych yn llanc ieuanc deunaw oed; ac wrth adgofio digwyddiadau difyrus y Nos Nadolig hono, bron na chreda mai deunaw oed ydyw eto, er fod ei ogwydd ar bedwar ugain mlynedd. Wel, y mae gan adgof ei phleserau. Pleserau gobaith ydynt eich pleserau chwi, fy nghyfeillion ieuainc—pleserau edrych yn mlaen; fy mhleser inau ydyw edrych yn ol. Edrych yn ol driugain mlynedd trwy niwl amgylchiadau, a chanfod rhyw lecyn dedwydd ar fy mywyd pan ddechreuodd tân cariad gyneu ar allor fy serch, yn ngoleuni yr hwn y gwelais fy hun yn unig a diamddiffyn.
Wrth edrych yn ol (ar fan i, yr wyf yn teimlo yn
farddonol) y mae'r cryd cymalau yma yn marweiddio yn fy esgyrn, a gwallt cudynog yn ail gyhwfan o gylch fy mhen; irder ieuenctyd yn dychwelyd, a llesgedd yn llesmeirio o'm mewn; bron nad wyf yn amheu a'i fi ydyw fi; a thra y byddwyf tan y gynfaredd wynfydus hon, gadewch imi ddweyd sut y byddem ni, yr hen bobl, yn bwrw rhan o'n Gwyliau heibio.
Yn nghyntaf, byddai pobl dda ein hardal yn cydymgynull i dŷ rhyw gymydog; a chan fod ffermdy yn meddu mwy o gymhwysderau at gynal y fath gwrdd nac un math o dŷ arall, ffermdŷ yn gyffredin a ddewisid; ac ar lawer ystyriaeth, nid oedd ffermdŷ cymhwysach na Bodangharad. Hen dŷ mawr wedi ei adeiladu yn ol y dull hen ffasiwn oedd Bodangharad, ac aelwyd iddo a allai gynwys deugain i eistedd yn gymfforddus o flaen ei thân (y fath dân ag oedd yno, canys yr oedd yno hen foncyff mawr o wreiddyn derwen wedi ei ddarpar tan gamp ar gyfer y Nos Nadolig), a phentanau gymaint â chegin ambell i fan. Yr oedd teulu Bodangharad yn gynwysedig o wr a gwraig llawen-fryd a charedig; ac un mab ac un ferch, geneth bropor tros ben. Penderfynodd y ddau genada etholwyd i ddewis lle, ar wahoddiad wresog oddiwrth bobl Bodangharad, mai yno y disgwyliem y plygain am 1801; ac yno yr aethom yn un torllwyth lliosog.
Noson oer ddryghinog oedd y nos hono—caenen dew o eira wedi ei thaenu tros natur farw, a “gwynt traed y meirw" o'r fath oeraf yn sturmantu ei alarnad ar ei hol yn mhob twll a cheubren. "Gwynt traed y meirw," y galwai yr hen bobl wynt y Dwyrain, am ei fod yn chwythu at draed preswylwyr y mynwentydd; hen bobl farddonol oedd yr hen bobl er's talwm. Ond waeth ichwi be fo nac eira nac amdo, fe ddaeth yno gwmni i Bodangharad nad oeddynt yn malio mewn dim byd ar Nos Nadolig ond am ei threulio hi mor ddifyr ag oedd modd; a barned darllenydd yr adroddiad hwn o'r hyn a gymerth le pa un a iwyddasant ai peidio.
Dechreuwyd y Nadolig yn Bodangharad trwy i gyfeillion ieuainc y fab a'r ferch gyfarfod yno am dri o'r gloch pryd- nawn Rhagfyr 24ain, a buont hwy yn brysur iawn o'r awr hono tan wyth, yn chwareu mwywd yr ieir, tynu cwtws, brathu afalau crogedig, bwyta cyflaith, &c. Yr oedd yno ugain o honynt oll, a'r hen ŵr gwachel yma sydd yn dweyd yr hanes wrthych yn eu mysg, ac erbyn heddyw efe ydyw'r unig un sydd yn aros o'r ugain. Yr oedd Angharad, merch y tŷ, yn un o'r ugain, ond y mae hithau wedi myn'd-wedi mynd er's ugain mlynedd. Pan ddaeth wyth o'r gloch i fynu, torwyd y cwmni hwnw, ac aeth pawb i'r fan gan ddymuno Gwyliau llawen, a blwyddyn newydd dda," a phenderfynu un ac oll bod yn brydlawn yn y Llan am chwech bore dranoeth ar gyfer y plygain. Pa fodd bynag, yr oeddwn I yn gryn law gyda gwr Bodangharad, a thrwy fod fy nhad a'm mam yn aros yno, a minau yr unig blentyn, ac yn gantor lled rigil hefo'r tanau, cefais inau aros hefyd. "Mab a merch y tŷ a minau oeddynt yr unig rai a gawsant aros i ddisgwyl y Plygain, o'r ieuenctyd; a gellwch gredu ein bod yn ei hystyried yn ffafr fawr.
Fel y dywedais, yr oedd yno tuag ugain o honom, a gellid rhanu ein cwmni yn naturiol i ddau ddosparth, sef dosparth y glust a dosparth y tafod. Peth pwysig iawn, 'mhlant I, ydyw i ni ddeall i ba un o'r ddau ddosparth yma y byddwn ni yn perthyn, canys fel y dywed Solmon, "y ffol tra tawo a gyfrifir yn gall, ac o'r ochr arall, gallasai ddweyd, "y call tra tawo a gyfrifir yn ffol," felly pwnc digon anhawdd ei benderfynu ydyw pa un ai i fod yn dafod ynte yn glust y bwriadwyd ni yn y byd yma. Baich drom ar wlad neu gwmni ydyw gormod o dafodau, a rhyw led farwaidd fyddai hi heb yr un hefyd. Tipyn o bob un, 'mhlant I, a'u harfer nhw yn iawn. Beth bynag yr oedd cwmni Bodangharad yn meddu anhebgorion cwmni da a difyr, sef clust a thafod. Eisteddem oll ar yr aelwyd fel lleuad haner llawn; a'r tân o'n blaenau yn gwasanaethu fel haul. Ar gadair ddwyfraich o dderw yn y gornel yr eisteddai gwr y tŷ, ac fel y mae'n alarus dweyd, pibell cyhyd â'i fraich yn ei ben—efe oedd cadeirydd y cyfarfod; ar y pentan wrth ei benelin yr oedd Huw îfan, y telynor dall; ac ar ei ddeheulaw "bardd " y cyfarfod, Ifan "Shibbols" Roberts o Dyddyn Shibbols—efe oedd y cyntaf a arferodd y dull addurnol o ddodi ei ffugenw rhwng ei ddau erw priod—mewn gwirionedd, "tad y trueiniaid a'r tri enw," ydoedd. Ar gyfer y cadeirydd, yn y gongl arall, dacw'r hen chwaer ffraethbert Catrin Davies, neu Cadi Catrin; ac yn union ar gyfer y tân yr oedd y brodyr doniol Robert Cyffin y Gwehydd, Roli Rolant y porthmon, a Huw Bifan yr hen sowldiwr,—galwai y "bardd" y tri hyn "yn drioedd dawn a chwedl," yr ardal hono. Y rhai hyn oeddynt dafod a cwmni, ac edrychasid ar y glust bynag a fynasai draws-feddianu eu lle hwynt gyda chryn lawer o eiddigedd. Beth bynag i chwi, wedi cryn lawer o besychu, symud a threfnu > cadeiriau a stolion trithroed, ac ambell un yn gorbwyso ochr ei stol ac yn cael cwymp lled drwstan, er mawr ddifyrwch i'r gwyddfodolion; ac ar ol i'r chwerthin a'r dyhïan oherwydd hyny fyned heibio, dyma E. Huws,Yswain, Bodangharad, o'i gadair ddwyfraich yn y gongl yn codi i agor y cyfarfod, ac wedi dodi ei bibell hir o'r neilldu, cymeryd corniad da o'r ddiod griafol oedd ganddo ef fel pawb arall o'i flaen, pesychu cryn lawer fel y byddis wrth deimlo pwysigrwydd sefyllfa, dechreuodd.
Fy nghymdogion anwyl,—Dydw'i fawr o siaradwr, fel pe tae; ond y mae geny' feddwl, fel pe tae, taswn I wedi cael dysg fod geny' feddwl mawr, fel tae; mi fydda yn ceisio perswadio fy hun fod esgid fy nhafod I yn rhy fechan i droed fy meddwl I, hyny ydi, fel tae, tyden nhw ddim ffitio'u gilydd. Ond mi geisia dynu fy nhroed i mewn a stretsio fy esgid allan goreu gallaf, fel tae, heno. Mi fydda yn meddwl bob amser mai bendith fawr ydi'r Gwyliau yma, rhyw gareg filltir ydi o ini ar ei siwrnai fawr, fel tae; rhyw inn ar fin y ffordd lle byddwn yn troi i mewn i gael tipyn o spree (nid wrth feddwi ydwi'n feddwl ychwaith, fel tae) rhyw ben y gwys, fel tae, lle byddwn ni, yr hwsmyn yma, yn chwanog i edrych yn ol ar ein gwaith, a phenderfynu gwneud y gwys nesa' yn well, felly o gwys i gwys yr yden ni yn troi ein grwn i gyd, ac yn cael ein symud i ffwrdd, ac eraill yn cym'ryd ein lle. Y mae nhw yn deud fod yr hen dad Nadolig yn hen iawn, cyn hyned a Christionogaeth os nad yn hyn; canys rywbryd tua'r amser yma ar y flwyddyn y byddai'r Derwyddion yn tori yr uchelwydd gyda rhwysg a rhialtwch mawr fel tae, ac yn aberthu y ddau darw gwyn dianaf yn offrwm i'w Duw am y gwydd cysegredig, ac yn rhanu'r cangau rhwng y bobl, a'r rheiny, druain, yn eu hogian ar gapan drysau eu tai er dyogelwch rhag anffodion ac ysprydion drwg am y flwyddyn hono. Pan giliodd Derwyddiaeth o flaen Cristionogaeth, ni ddileodd yr olaf mo'r hen ŵyl arbenig hon, feallai eu bod wedi ei symud ychydig, a pheri i'r hen dad dd'od atom ar amser arall. Nid oedd y Crist'nogion ychwaith i gyd o'r un farn ar y pwnc, mynai rhai iddo ddyfod ar y 25ain o Ragfyr, mynai y lleill iddo dd'od ar y 6ed o Ionawr; a bu raid i'r hen wr am beth amser ddŵad i'n byd ddwy waith yn y flwyddyn; un tro at eglwys Rhufain, a'r tro arall at eglwys Groeg, fel tase. Beth bynag, fe ddaru Julius I., Esgob Rhufain, tua chanol y 4edd ganrif, benderfynu mai ar y 25ain o Ragfyryr oedd yr hen ŵr i ddwad o hyny allan. A felly y daeth o hyd y dydd hwn. Yr ydych yn gwybod mai i gofio genedigaeth Crist y sefydlwyd yr Wyl hon: a chredai llawer am hir amser mai ar gyfer y diwrnod y ganed ein Harglwydd y cedwir yr wyl, a pheth da ydyw cadw y fath enedigaeth mewn coffhad bendigedig. Fe fydde'n tadau ni, yr hen Gymry er's talm, yn credu fod creaduriaid di-reswm hyd yn nod yn talu parch i'r nos yma; byddai'r gwenyn am haner nos yn canu'n braf yn eu cychod; a'r gwartheg yn y beudy yn penlinio fel pe buasent mewn eglwys—talu parch welwch chi, fel tae. Wniddim p'run ydych chi yn coelio peth fel hyn. [Catrin Davies: Bob gair, E. Huws, mi gwelais I nhw fy hun]. Or goreu, Catrin Davies, well imi beidio mynd dim pellach ffordd ene, onite mi dyna ddryghin yn y mhen, fel tae. Ond y mae nhw yn deud nad ar y 25ain o Ragfyr y ganwyd Crist, ac o ganlyniad nad oes dim mwy o rinwedd yn y diwrnod na rhyw ddiwrnod arall. [“Mae nhw yn deud yr hyn a ddeudodd eu nain yn yr Eglwys te,” ebai Cat. Davies]. Wel, p’run bynag, gwyl noble ydy'r Nadolig, a pheth noble ydy'r plygain, a'r gwasanaeth, a'r cyflaith, a'r wydd, a'r cwbl. Hen ŵr noble ydy'r Nadolig. Gyfeillion, gadewch ini 'neyd yn fawr o hono a'i groesawu, ac yfed iechyd da iddo, a llosgi tybacco i'w anrhydedd, a dweyd chwedlau difyr yn ei glustiau, a'i demptio i frysio atom eto, a chan alw ar Mr. Rolant, arglwydd y porthmyn, i ddeud rhyw hapes difyr, yr ydw I yn myn’d yn ol i nghornel tan ewyllysio i chwi. Wyliau Llawen a Blwyddyn Newydd Dda. Wedi tipyn o rodres dyma'r rhychor porthmonol yn ufuddhau i'r alwad.
ROLI ROLANT Y PORTHMON
Pwt o ddyn gwridgoch, yn tynu at ei haner cant oed, oedd Roli, dyddan ei wala, ac ymffrostiwr gwych. Bostiai iddo dalu yn ystod ei fywyd ugain mil o bunau i ffermwyr Cymru am fustachiaid, ac y dylasent hwy beth bynag ei ystyried yn gymwynaswr. Dywedai iddo fod yn Llundain gant o weithiau, ac iddo lawer gwaith gerdded deg milltir a thriugain yn y dydd am dridiau yn olynol, neu yr holl ffordd o Lundain i'w dy ei hun, y Llwyn Ynn, yn Nyffryn Clwyd. Dechreuai: Byddai yn well genyf bob amser gerdded na marchogaeth; 1af, am nad oedd yr un ceffyl a allasai fy nwyn mor gyflym ag y deuwn ar fy neudroed ; 2il, am fod y ffyrdd mor ddrwg mewn llawer man er's talwm fel mai llawer mwy rhesymol fuasai i mi gario y ceffyl hyd ochr clawdd y ffordd, nag i un truan anifail fy nghario I trwy y llaid dwfn fyddai ar ei gwaelod; 3edd, am fod yn hawddach i mi gael fy nghymeryd am ddyn tlawd diarian ar draed, gan y gwylliaid ysglyfus a wylient ddychweliad y porthmon o'r ffair, i'w yspeilio o'r oll a feddai. Byddai Pero, taid y ci acw sydd gennyf yn awr, gyda fi ar fy nhaith bob amser—yn cerdded wrth fy lledol ar hyd y dydd, a'r nos yn cysgu wrth draed fy ngwely. Nid ychydig oedd fy ymddiried ynddo. Ci call oedd o; yr oedd mwy yn mhen Pero nag oedd yn mhen dwsin o gŵn cyffredin. Buom ein dau mewn peryglon mynych; ond rywfodd yr oeddwn yn d'od trwyddynt yn well na'm disgwyliad. Mae llawer o honnoch yn cofio Pero? [Catrin Dafis :—O, ydym; nefoedd i'w enaid]. Wel, yr oeddwn yn d’od adref tros Fwlch Penbarras, yr hwn, fel y gwyddoch, sydd ar yr hen ffordd rhwng Wyddgrug a Rhuthyn, un tro; ac yr oedd hi yn berfeddion o'r nos arna'i yn croesi—rhwng un a dau ar fore Sul, os da 'rwy'n cofio. Ychydig islaw Pen y Bwlch, y mae bedd y Gwyddel hwnnw a lofruddiwyd gan Wyddel arall pan oedd y ddau ar er taith o ffair Rhuthyn; ac fel y mae yn gywilyddus dweyd porthmyn oedd y ddau—fe ddylasent hwy, beth bynnag, wybod gwell pethau. Wel, byth oddiar amser y gyflafan yma, yr oedd cryn lawer o draddodiadau fod ysprydion yn hoffi ymlithro hyd y fangre honno, yr hyn a barai imi glustfeinio a llygadu fy ngoreu bob amser wrth groesi y Bwlch ar y nos. Ac felly yr oeddwn y nos honno.
Gyda fy mod wedi cyrhaedd Pen y Bwlch, dyma Pero yn dechreu chwyrnu, a minnau yn dechreu arswydo; sefyll, gwrando, clywed sŵn siarad. Tan grynu, myned ychydig yn nes; teimlo'n siŵr mai lleisiau dynol oedd y swn, beth bynag a'u llefarai. Pero yn cyfarth yn fygythus, minau yn gwrando drachefn, ac yn meddwl am y porthmon hwnnw, druan, a laddwyd ar y mynydd. Gwrando wed'yn, a deall mai Gwyddelig oedd yr iaith a siaredid gan y lleisiau. Yna rhuthrodd i'm meddwl y syniad ofnadwy, ai tybed mai y llofrudd a'r llofruddiedig oedd yno yn ysprydol ail fyned tros y weithred o un yn lladd y llall : Yr wyf yn cyfaddef fod fy ngwaed a'n newrder i lawr yn rhywle tua gwadnau fy nhraed, os nad yn is. Meddyliais am droi yn ôl, ond yn mlaen y mynai Pero fyned; ac nid oeddwn am i neb gael dweyd fod creadur o gi yn ddewrach na Roli Rolant y Porthmon. Yn mlaen yr aethum inau, er y buasai yn well genyf gerdded deng milltir o ffordd na rhoddi cam yn mlaen y pryd hwnw; ond nid da gan neb gael ei ystyried yn llwfrddyn, chwi wyddoch. Felly, yn a yr mlaen yr eis I; a beth oedd yno debygech chwi?-dau Wyddel mewn cymaint dychryn â finau, a chan ofn wedi sefyll yn y fan yr oeddynt, gan feddwl mai banshee oedd y ci a minau. Wedi i ni ddeall ein gilydd, cefais allan mai myned yr oeddynt o'r Dyffryn i Dreffynon i ymofyn rhai o'u cydwladwyr i'w cynorthwyo i gadw gwyłnos i rhyw frawd ymadawedig. Canasom "Nos Dda," ac aeth pawb i'w ffordd, wedi ei ddychrynu ond nid gan ddrychiolaeth. A dyna fu am y tro hwnw.
Ond yn Birmingham y bu hi yn galed arnom pan yn d'od adref o Lundain, un tro. Byddwn I yn bur fanwl gyda fy lletty; ac arferwn lettya bob amser yn y Ffythars pan yn Birmingham, am fod y bobl yn onest, a'r tŷ yn dý parchus. Ond y tro hwn, yr oedd y Ffythars yn llawn, a dywedodd y wraig wrthyf nad oedd yno wely ar fy ngyfer, ond yr ymorolent hwy am un. Tybiwn inau fod ateb braidd yn gwtta i ddyn fel fi—dyn a mwy na llon'd ei logell o arian, dyn ag yr oedd cynifer o'r Saeson blonegog yn dibynu arno am gig; teimlais fy holl waed porthmonol yn berwi, a phenderfynais y chwiliwn allan am letty troswyf fy hun. Felly, allan yr eis, gan wneud golwg mor ffyrnig fyth ag y medrwn ar bobl y Ffythars. Crwydrais hyd yr heolydd gan edrych ar bob tafarndy gyda llygad dyn parchus yn edrych allan am orphwysfan ddyogel. Gwelais yn fuan fy mod yn un lled anhawdd ei foddloni, ac er mwyn tynu fy hunan o'r cast hwnw, penderfynais gymeryd y tafarndy cyntaf a ddeuai drachefn o'm blaen, neu yn hytrach y deuwn I o'i flaen ef. Ac felly fu. Tŷ bychan digon dèl oedd o; aethum i mewn, a gofynais i'r wraig lygadgroes oedd yn y bar os oedd yno letty i ddyn diarth. Gofynodd hithau i'w gŵr gwyneb-lawen, yntau a gyflwynodd y gofyniad yn ol, a hithau wedi edrych yn lled fanwl arnaf (yr wyf yn meddwl mai arnaf fi yr oedd hi yn edrych), a ddywedodd y byddai yn dda ganddynt fy ngwneud yn gysurus. Aethum i mewn, a Phero wrth fy ngwt, canys yr oedd o gyda fi y tro hwn hefyd. Ac er fod pob man yn edrych yn lân a gweddus o'm cwmpas eto nid oeddwn wrth fy modd—yr oedd yno rywbeth ar ol, beth bynag oedd hwnw. Yr oedd y bobl yn edrych yn ddigon llawen groesawus arnaf fi, ond am Pero, yr oedd o druan naill ai ar y ffordd neu yn y goleuni o hyd; ac nid oes genyf fi fawr o feddwl o'r bobl hyny sydd bob amser a'u dialedd ar greaduriaid direswm. Chwi a ellwch benderfynu mai cas fuasent wrthych chwithau oni buasai am eich rheswm, ac nid iddynt hwy yr ydych i ddiolch am hyny. Fy egwyddor I ar y pwnc ydyw yr hen ddiareb, "A'm caro I, cared fy nghi." Yr oedd rhyw bethau eraill o gylch y teulu hwn na waeth imi heb eu henwi, a barent i mi benderfynu mai dyma y tro olaf y lletywn tan y gronglwyd hono. Beth bynag fe ddaeth amser gwely, a digiwyd fi yn mhellach. Yr oedd Pero, fel y crybwyllais, er mwyn diogelwch fy arian, yn arfer cysgu wrth draed fy ngwely. Ac fel yr oeddwn yn dringo tuag at fy ystafell, a'r ci wrth fy sawdl, dyma waedd o'r tu ol imi yn gofyn, "Os oedd y bwystfil hwnw i gael rhan o'm gwely?" ac yn dymuno fy hysbysu yn y dull mwyaf moesgar" Nad oedd gwelyau wedi eu bwriadu i gwn." Atebais inau yn lled sychlyd nad oeddwn yn bwriadu i'w gwely gael yr anrhydedd o gynal esgyrn lluddedig y ci; ond fod genyf y fath werth arno fel nas goddefwn iddo fod yn mhellach oddiwrthyf na'r llawr wrth draed fy ngwely. Grwgnachai hithau rywbeth rhwng ei dannedd nas gwyddwn ac nas maliwn lawer pa beth. Wedi cyrhaedd fy ystafell, a dodi fy eiddo mewn man dyogel, sef yn fy hosan a hono wedi ei rhwynno am fy nghanol, ymofynais am gwsg i'm hamrantau; ond cwsg d'ai meddyliau gwibiog, ac amheuon ac ofnau. Meddyliwn yn nghyntaf nad pobl garedig oedd y bobl yr oeddwn tan eu cronglwyd, meddyliwn yn ail fod rhywbeth yn amheus yn eu hymddygiad at Pero, yn enwedig yn eu gwrthwynebiad iddo ddyfod i'r un ystafell i orphwys â mi; yna daeth i'm cof luaws o chwedlau a glywswn pan yn hogyn am borthmyn mewn tai yn cael eu hyspeilio, eu lladd, eu darnio, ac yn eu claddu mewn calch o tan gareg yr aelwyd. Bum fel hyn yn magu nadrodd yn fy mynwes fy hun, hyd oni chlywais swn y troed olaf yn darfod oddi ar y grisiau, ac hyd oni chredwn beth bynag fy mod yn clywed dau neu dri yn chwyrnu yn braf o'r ystafelloedd eraill. Yna syrthiais yn ddiarwybod i gwsg trwm o ba un ni ddeffroais am rai oriau. Eithr pan ddeffroais, o ddeffroad! na byddo imi ddeffro eto byth yn y dull hwnw. Yr oedd Pero wrth y drws, yn cyfarth ac yn awphio fel peth cynddeiriog. Rhuthrais inau tua'r un lle a gwelwn oleuni yn myned heibio ol a blaen, a chlywn swn siarad uchel; ond yr oedd yn anmhosibl deall beth a ddywedid gan mor ffyrnig y cyfarthai'r ci. Wedi cael ganddo ostegu ychydig, clywn rhyw eiriau tebyg i "y mae'r ci mileinig yna wedi ei ddychryn o;"—llusgais i y ddwy gadair at y drws gan wneud hwnw mor gadarn ag oedd modd; gwrandewais drachefn, "y mae yn debyg y buasai yn well ganddo fod heb y ci heno :" lusgais y gwely hefyd at y drws; "rhaid i ni frysio ei ladd o tra byddo y dwr yn boeth," ebe llais arall cryf treiddgar, gwaedlyd, llais na chlywais I o'r blaen yn y tŷ hwnw. "Aie, ie!" ebe fi, fy lladd ac yna fy ysgaldio!" rhedais at y ffenestr ar fedr agor hono a gwaeddi allan am help, ond er fy mawr siomedigaeth, ac er ychwanegiad dirfawr at fy helbul, nid oedd moddion agor ar gyful hono; felly mi a droais yn ol at y ddôr gan benderfynu cyfarfod fy nhynged, a phrynu fy angau mor ddrud byth ag y medrwn. Yr oedd y ci yn parhau i gyfarth yn achlysurol, ac yn mhen ychydig, dyma guro trwm ar y drws, "Trowch y ci yna allan i'r buarth," ebe llais gwr y tŷ; Atebais inau yn ddewr, "Os gwele fo yn dda y cadwn fy ci ac y gallai yntau gadw ei dafod." Gyrodd hyn ef yn gaclwn gwyllt, rhuthrodd yn erbyn y. drws, nes y tybiaswn y buasai y fath nerth yn dryllio tri o ddrysau. Yr oedd Pero yn wylltach nag yntau, cyfarthai nes oedd ei dafod allan yn dyheu am anadl. dyn cyntaf a ddaw i mewn i'r room yma," ebe fi, "mi saetha fo yn farw gorn gelain gegoer, mi dryllia fo yn ddigon man i fyned trwy ogr rhawn, mi gochaf y muriau a'i waed o, ac mi-mi-mi geiff y ci yma ysu yr hyn a adewir o hono heb fyned i ganlyn y gwynt,' ac yn ddiarwybod i mi fy hun tra yn traddodi yr araith hon yr oeddwn yn dal darn o bren yn lle gwn, gan anelu at y drws. Ni y chlywais air mwyach gan y gwr, credwn ar y pryd fod y geiriau mawr a arferais wedi ei bendroni, ac mai iddynt hwy yr oeddwn yn ddyledus am fy mywyd. Yr oedd sŵn mwstwr yn parhau yn y gegin, minau yn parhau i wylio, a Phero yn parhau i gyfarth, er wedi crygu. Yn y cyfamser yr oedd fy ofnau weithian yn cilio, ond yr oeddwn yn arswydo wrth feddwl beth fuasai'r canlyniad o ddyfod gŵr y tŷ a Phero i gyfarfod â'u gilydd, ni buasai ond bywyd am fywyd am dani; a dichon y buasai'r ci a minau yn y diwedd yn cyfarfod â'r un dynged. Pa fodd bynag, o'r diwedd, fe wawriodd y bore arnaf i roddi terfyn ar y fath nos flin adfydus, a dechreuodd fy yspryd ymloni o'm mewn. Ac yn mhen yr hir a'r hwyr, tybiwn ei bod yn amser i minau droi allan o'm hystafell-wely: ond sut i edrych yn ngwyneb y fath dylwyth mileinig ag oedd yn y gegin oedd bwnc sobr eto. Beth bynag i lawr yr eis I; ni fwyteais yr un tamaid; gofynais i'r wraig pa faint oedd arnaf am fy lletty annghysurus? Troais gil fy llygaid a gwelwn fochyn newydd ei ladd yn hongian yn y bwtri. Dywedodd hithau mor ffyrnig fyth ag y medrai mai fy mai İ fy hun oedd fod fy lletty ynannghysurus; eu bod hwy yn lladd mochyn y bore a hwnw, a phe buasent yn lladd hyny o foch oedd yn y byd, na buasai raid i'r ci wneud cymaint o stwr; ei fod wedi deffro eu plentyn bychan chwe mis oed a'i ddychrynu i ffitiau bron; "ac yr oeddym oll yn synu sut y gallech chwithau oddef y fath genaw trystfawr yn yr un ystafell a chwi." Ar hyn, minau a ddechreuais agor fy llygaid, a throi y peth yn fy meddwl, ac ystyried ai nid anmheuon ac ofnau oeddynt achosion fy holl anghaffael y noson cynt; ac ai nid y mochyn a feddylid wrth son am ei ladd o, ac ai nid pobl yn cadw trefn dda yn eu tŷ oeddynt pan yn grwgnach am i mi gymeryd Pero gyda fi i'r ystafell-wely. "Hwyrach, ar ol y cwbl," meddwn I, "fod y bobl yma y bobl lanaf, onestaf, trugarocaf (ond at gwn) yn holl dref Birmingham!" Daeth y gŵr yn mlaen o rywle tan chwerthin yn braf, a sylwi ei fod yn meddwl imi gredu fy mod wedi disgyn yn mysg lladron; ac addef ei fod ef unwaith yn credu yn ddiysgog mai dyn haner o'i hwyl oeddwn yn cymeryd y ci hwnw gyda fi i'r gwely; ond fod yr araith fygythus hono wedi haner ei ladd ef wrth iddo chwerthin am ei phen. Lled addefais inau fod genyf un tro feddyliau rhyfedd am y bobl y syrthiaswn i'w plith;— chwarddasom oll yn braf, ac ysgwydasom ddwylaw yn galonog; ac wedi i mi dd'od dipyn ataf fy hun, mi a eisteddais wrth gystal pryd o fwyd ag a ddarparwyd i borthmon erioed. Byth ar ol hyn, yn nhŷ Robert White(canys dyna oedd enw fy llettywr) y llettywn I yn Birmingham. Daeth y teulu yn dra hoff o Pero; ac o hoffi Pero, daethant i hoffi creaduriaid direswm eraill; a byddai y plant yn crechwenu, a'r wraig lygad-groes yn llygadloni, a llawenydd Robert White yn ymsionci, wrth ddyfodiad Pero a minau byth oddiar hyny; ac ni byddai neb mwy ei groesaw yno na Roli Rolant y Porthmon Cymreig a Phero ei gi brych. A dyna fy hanes I; a'r cnewyllyn ydyw hyn, "Nid yn y bore y mae barnu diwrnod teg," ac "Ni bydd doeth yn hir mewn llid."
"Chwedlau da dros ben, fel tae," ebai'r Cadeirydd, "ac addysg i llon'd nhw;" ac ymddangosai yr holl gwmni o'r un fain, ond yn unig Catrin Davies. Yr oedd hi yn meddwl fod sylw Roli ar lygaid croesion yn beth hollol groes i'w golwg hi. "Ti ddylset gofio, Roli, fod llygaid Nelw fy chwaer yn edrych naill ar draws y llall, a pheidio brifo fy nheimladau I fel ene; o ran hyny be ddisgwyliech chwi oddiwrth fustachiaid?" "Mi ddeudaf i chwi be na I, Catrin Davies, mi alwaf arnoch chwi i ddweyd y stori nesaf," ebai Roli tan chwerthin, "gael i chwi wneud yn well;" ac ar hyny dyma waeddi mawr am i'r hen gares draethu ei chwedl.
CATRIN DAVIES O NANT YR HUNLLEF.
Plentyn annghoeth natur oedd hi, yn byw mewn bwthyn unig bychan yn un o'r nentydd mwyaf anghysbell ac anial yn Nghymru; yr hon nant a alwaf Nant yr Hunllef, i'w gwahaniaethu oddiwrth "Nantau" afrifed eraill Cymru; ac fe wel y cyfarwydd â'r lle briodoldeb yr enw, canys yn y glyn coediog hwnw y mae natur bob amser yn ymddangos mor lonydd farwaidd, a phe buasai hunllef trwm yn gorwedd arni. Yr oedd yno tua deg cyfair o dir o gwmpas y bwthyn, lle y cadwai yr hen chwaer fuwch a mochyn at ei bywiolaeth. Y rhai hyn oeddynt ei chyfeillion arbenicaf—cydofidiai â hwynt yn eu trallod—cydlawenychai â hwynt. Ydi'r teulu acw yn iach ?" ebai ambell i genay sobr-wedd wrthi ambell dro. Na wir mae'r mochyn acw wrth hel mês wedi cael pigyn cas iawn yn ei droed," neu, Y mae'r fuwch acw wedi cael Clwy'r Braenar," fyddai ei hatebiad hithau.
Od a fuasai y sawl a ymgymerasai a byw yn y fath le, ac od yn ddiau y gwnelsai y fath le pwy bynag a el'sai i fyw iddo. Nis gwyddom ar bwy yr oedd y bai, ond nid oes dadl nad oedd Catrin Davies yn bentwr o hynodrwydd. Yr oedd edrych ar ffurf ddigrifol ei gwyneb yn ddigon à gwneud i'r sobraf chwerthin; ac yr oedd ei dyn oddifewn yn llawer digrifach fyth. Yr oedd hi yn cashau pob peth newydd â chas perffaith —o ddiafol y byddai pob ffasiwn ganddi ond yr hen ffasiwn. Yr oedd hi yn lanwedd iawn o gorph, am fod hyny yn hen ffasiwn; ond yr oedd golchi lloriau tai rhagor nag unwaith yn y flwyddyn, a hyny ar Nos Sadwrn y Pasg, yn ei thyb hi yn falchder a rhodres anfaddeuol; am nad oedd hyny yn hen ffasiwn. Llawr pridd chwi gofiwch oedd gan yr hen bobl; ni buasai golchi pridd yn ei wneud ddim glanach, ond ei ysgubo y byddent ag ysgub o ddanadl; ac odid fawr na byddent wedi ysgubo y llawr i gyd i'r twll lludw erbyn y Pasg, ac yna byddai raid ail lorio, a dyna "olchi'r llawr" gan yr hen bobl. Yr oedd Catrin Davies yn doriaidd iawn; ac y mae'n debyg mai'r egwyddor hon a barodd iddi beidio a phriodi drwy ei hoes; er iddi, meddai hi, gael llawer cynyg hardd a theg. Yr oedd ei syniadau ar Briodas fel pobpeth arall yn od. "Priodi yn wir," ebai hi, "mi wn bedy Cadi, wn I ddim bedy neb arall. Gŵr yn wir! i ddiogi a meddwi tra byddwn I a'r plant yn ll'w'gu gartre'. Plant! mi ga rywbeth am fagu moch a lloiau; chawn I ddim ond gofid wrth fagu plant." Yr oedd hi cyn dywylled â'r fagddu; ni fedrai ddarllen gair ar lyfr; er hyny, anfynych y cyfarfyddech â neb yn medru ar dafod leferydd gymaint o waith beirdd Cymreig hen a diweddar â hi. Gallai adrodd llawer o interliwdiau Twm o'r Nant mor rigil a disgyniad pistyll; ac o bob bardd efe oedd y penaf yn ei thyb hi. Pan ofynid iddi mewn cwmni fel yma adrodd rhyw chwedl ddifyr, er ei bod yn gwybod ugeiniau o'r cyfryw, yn lle chwedl, troi i ganmol ei hoff awdwr a wnai hi, ac o dipyn i beth, dechreu adrodd rhyw ddarn tarawiadol, er mwyn iddynt gael blas ar y peth, a gofyn iddi am ddernyn hirach. Felly y gwnaeth hi y tro hwn, a dyma y darn a adroddodd; ac fel ffafr fawr hi a'i hail adroddodd wrthyf fi dranoeth, minau a'i hysgrifenais. Rhoddais arno yr enw
DIWEDD ARTHUR GYBYDD.
Arthur. Hai, how, heno, 'r cwmni eglur, |
ENTER Doctor.
Doctor. O dear heart, you are sick, 'rwy'n cweled!
[Exit]
|
Arthur. Wel, bendith eich mam i chwi, meistr anwyl, |
Duwioldeb. Pwy sydd yma, caetha' cwyn, |
Duwioldeb. Duw roes glefyd i'th rybuddio, |
[Exit Arthur.
Yn ddrych i bechaduriaid byd, |
ENTER Arthur, wedi myned yn iach.
Arthur. O, nid wyf am gynhwys yma dduwiol ganu, |
Pan ddel dy ddiwedd, gwanaidd gwynion ?
[Exit. Arthur. Wel, hawdd ganddi hi b'rablan a b'reblian, |
Siawns ond hyny deuaut i'n tŷ ni,
ENTER Doctor. Doctor. How do, 'r hen corph, darf'ych mendio clyfar. |
Arthur. Ni fedra i fawr Saesneg, be' ddywed e', Ned? |
ROBERT CYFFIN Y GWEHYDD.
Chwi a glywsoch am Syr Johu Salsbri o Leweni, neu Syr John y Bodiau, neu "Sanau glelsion;" canys adwaenid ef wrth y tri hyn; am ei fod yn ŵr boneddig mawr; am fod ganddo gymalau dwbl, a dwy fawd ar bob llaw; ac am fod ganddo ffansi ryfedd bob amser at hosanau o liw glas. Chwi a wyddoch hefyd fod dynion a chymalau dwbl yn gryfion iawn, ac felly Syr John. Yr oedd ef mor gryf, fel y byddai cryn benbleth yn mysg ei gymydogion beth mewn gwirionedd oedd ei nerth. A beth a wnaeth dau neu dri o fyddigions ond ceisio cael allan y dirgelwch. Arfer Syr John bob bore oedd rhoi tro heibio'r Eglwys Wen—heibio'r fynwent er mwyn dwyn ar gof iddo ei hun mai marwol oedd yntau; a beth wnaeth y byddigions hyn ond gosod ar ei lwybr hen geffyl, a sach yn llawn o dywod ar lawr fel pe buasai wedi syrthio oddiar ei gefn, a hogyn yn sefyll gerllaw; a pheri i'r hogyn gymeryd arno grio pan welai Syr John yn dyfod. Hyny a wnaed, a'r byddigions am y gwrych yn dysgwyl pa beth a gymerai le. Yn mhen ychydig, dyma'r boneddwr yn d'od, a'r hogyn yn crio ei oreu glas, " Am be' 'rwyt ti yn crio, machgen i?" ebai'r barwnig cymwynasgar. Am na fedraf gael y sach yma yn ol ar gefn y ceffyl, syr," ebai'r hogyn. Wel aros, gâd i mi weld os gallaf wneud rhywbeth o honi." Yna gafaelodd yn hollol ddidaro yn ngheg y sach, a thaflodd hi ar gefn yr anifail, a'r fath oedd ei phwysau fel y torodd asgwrn cefn yr hen geffyl, druan. Felly nid oedd neb agosach i wybod beth oedd nerth Syr John y Bodiau. Efe hefyd, medden nhw, a laddodd yr anghentil ofnadwy hwnw Bych; ac ar ol gorphen y gwrhydri, a ddolefodd yn orfoleddus " Dim Bych," yr hyn ydyw tarddiad enw tref Dinbych.
Fel y gwyddoch, y mae cerfddelwau o'r barwnig a'i deulu yn yr Eglwys Wen gerllaw Dinbych. Byddai Syr John hefyd yn hoffi tipyn o ddigrifwch diniwaid, er yn myned bob dydd i weled mynwent yr Eglwys Wen; ac yr oedd Gwladus, ei chwaer, wedi priodi gyda gwr boneddig o Lundain—dyn ysmala, llawenfryd, yn gwybod cryn lawer, ond mor anwybodus yn nghylch trin tir a gardd a darn o bren. Mae'n debyg fy mod I, Ifan Huws, yn gwybod llawn cymaint am gyrn yr hen fuwch yna sydd yn yr awyr ag mae'r bobl ddysgedig yn ei galw hi yn Lleuad, ag a wyddai y Llundeiniwr hyn am farmio a garddu. Ond yr oedd Syr John ac yntau yn benau ffrindiau: er fod prif bleser Syr John mewn trin tir, yn enwedig gyda'r ardd. Yn ei ardd ceid casgliad o'r blodeu prinaf ac ardderchocaf. Garddu oedd prif bleser gwr Lleweni. Pan ar ymweliad â Lleweni un tro, daeth y Llundeiniwr i wybod hyn, a phenderfynodd chwareu cast diniwaid ar y Sanau Gleision. "Wyddoch chi beth, nghefnder," medde fo un diwrnod pan oeddynt ill dau yn rhoddi tro trwy yr ardd, "y mae geny' hadyd blodeu, newydd eu cael yn bresant o Jamaica, a ganmolir yn uchel gan y sawl a'u gwelsant yn tyfu yn y wlad hono; ac ni hitiwn I fotwm corn a'u rhanu rhyngoch chwi a minau." "Diolch i chwi, fy nghefnder," ebai Syr John; ac nid allesid addaw odid i rodd mwy derbyniol ganddo na'r rhold hon o ychydig hadyd o Jamaica.
Daeth y pryd i'r gwr boneddig diarth droi ei wyneb tuag adref; a gair olaf Syr John wrtho oedd erfyn arno gofio danfon y rhodd gyda'r cyfleusdra cyntaf. Yntau a adduwodd y gwnai, a bu cystal a'i air. Bu disgwyliad mawr am ddyfodiad y cerbyd o Lundain i Ddinbych; a phan ddaeth, a'r sypyn gydag ef, brysiodd Syr John i'w agor; a chyn wired a'r pader dyna lle 'roedd rhyw ddau ddwsin o hadau cochion bychain wedi d’od yr holl ffordd o Jamaica. Dangosodd hwynt i lawer o'i gymydogion, y rhai a synent yn fawr wrth edrych arnynt, er na wyddent fawr am danynt; ac a synent fwy fod pethau bychain mor ddisylw wedi eu danfon mor bell o ffordd. Beth bynag, wrth i Syr John eu trin a'u trosi, a'u dangos i hwn a'r llall, tybiai fod oglau rhyfedd arnynt, ac ammheuai ai nid oglau penwaig ydoedd; synodd yn aruthr at hyn, ond yn ddios oglau penwaig oedd yr oglau; a pha fwyaf ogleuai arnynt, cryfach cryfach oedd ei gred ar y pwnc. Rhoddodd un o honynt yn ei enau, ac yr oedd blas cryf penog coch arno. Wyddoch chi beth," meddai, rhwng difiri a chwareu, "y mae'r Andros yn Roger yna ya danfon hadau o fol penog coch i mi; ond gadewch iddo, mi dalaf inau y pwyth yr ol." Yr oedd hyn tua'r Nadolig.
Daeth Llundeiniwr ar ymweliad yn mis Ebrill drachefn; mis tra phwrpasol i weithredoedd castiog, it disgwyliai gryn lawer o bleser oddiwrth ei waith yn cogio Syr John gyda'r hadyd. Yr oedd y barwnig, er mwyn chwareu ei ran yntau, wedi crybwyll yn un o'i lythyrau fod yr hadyd yn y ddaear. Parodd hyn i'r Llundeiniwr gredu fod yr abwyd wedi cymeryd; a phan gyrhaeddodd Leweni, un o'r pethau cyntaf yr holodd efe yn eu cylch oedd yr hadựd o Jamaica. "O, d'od yn mlaen yn gampus," ebai Syr John, "y maent wedi egino bron i gyd." "Egino!" ebai'r Llundeiniwr, "egino!" ac edrychodd yn graff yn llygaid ei gyfaill, ac edrychodd drachefn yn graffach; ond nid oedd yno ond y dilysrwydd perffeithiaf i'w weled—dim yr arliw leiaf o rsmaldod. "O ie egino," ebai Syr John, ac heb ychwaneg o siarad, efe a wahoddodd ei gyfaill i gael golwg arnynt; a chan gymeryd y blaen, a'r Llundeiniwr yn ei ddilyn tan fwmian, "Wel, os nad hon ydyw yr wythfed rhyfeddod !" daethant at gongl neillduedig yn yr ardd; ac yn ddigon siwr dyna lle 'roedd tuag ugain o egin penwaig cochion mewn tair o resi ar ddull rhesi maip. a thua throedfedd rhwng pob un, "er mwyn iddynt," ebai Syr John, "gael lle i wreiddio a dail-ledu." Blaen trwyn ambell un o honynt oedd allan o'r ddaear, tra'r oedd llygaid ereill yn sylldremio yn llygaid yr edrychydd; "ond y mae y rhai hyn wedi cael mwy o haul," ebai Syr John, ac yr oedd tagellau y rhai hyny uwchlaw y pridd. Wel, cyn wired a bod mwg yn Llundain," ebai'r gwr diarth, “os gwelais I y fath beth erioed!" ac edrychodd yn llygaid sobr y barwnig, ac edrychodd y barwnig yn ei lygaid synedig yntau, ond nid oedd yr arliw gwanaf o dwyll na hoced yn y sobrwydd na'r syndod. Tir da ydyw hwn; mi dŷf y peth fynoch chwi ynddo," ebai Syr John. 'Ddyliwn wir," ebai'r Llundeiniwr, ac aethant tua'r tŷ yn ol; er mawr ollyngdod i'r pen garddwr, yr hwn oedd yn yr holl gyfrinach, a'r hwn a ymollyngodd i ffit o chwerthin mor fuan ag y cafodd gefn y byddigions. Yr oedd y newydd-beth hwn i'r Llundeiniwr mewn garddwriaeth wedi troi a'i gwadnau i fynu bob tyb ag oedd ganddo o'r blaen ar y pwnc. Pysgodyn o benog, yn tyfu fel meipen! hwyrach y tyfai ceryg mewn "tir da fel gardd y Lleweni; hwyrach y tyfai aur ynddo? Mae'r darganfyddiad yma yn werth rhywbeth. Y mae geny' feddwl am roddi gini yn naear yr ardd yma." Bwriadodd hefyd am wneud y peth yn destun araith yn ei glwb yn Llundain, ac mi baratodd gryn lawer o feddyliau ati. Ac mi feddyliodd gryn lawer o feddyliau ereill cyffelyb, meddai Robert Cyffin, gan droi y sylwedd oedd rhwng ei ddeintle a'i fochgern; ond welwch chwi 'does geny' ddiin amser i fyn'd trostyn' nbw. Digon i mi ydyw dweyd fod yr hyn a welodd efe yn ngardu Lleweni bron wedi synu y boneddwr i farwolaeth. [Catrin Davies:—Dyna dwll newydd i'r byd tragwyddol na wyddwn i ddim am dano o'r blaen). O, ai ie ? (ebai Robert wedi moni braidd). Ond beth bynag i chwi, (gan ail afael yn awenau ei dymher) mae llawer math o angau, Catrin Davies,—angau llawenydd, ac angau gofid, ac angau cariad, ac felly yn y blaen. Ond mi welodd Syr John fod y gwr yn dihoeni, ac fel gŵr boneddig, mi ddeudodd wrtho fo; ac felly fe ddaeth pobpeth i'w le, ac fe gafwyd chwerthin braf uwchben y cast, ac fe gafwyd prawf fod y gwladwr Cymreig llawn cystal cogiwr a'r Sais o brif ddinas Lloegr. A dyna fy chwedl I, Ifan Huws.
HUW BIFAN YR HEN SOWLDIWR
Pan oeddwn I yn gwasanaethu fy ngwlad a'm brenin yn y 'Merica, yr oedd genym ŵr ifanc yn gapten mwyaf rhwydd- galon a welsoch chwi erioed. Nid rhyw glepgi oedd o, na rhyw lêch ffals, ac nid rhyw genaw brwut balch; ond dyn diwyddo draw, ac yr oedden ni i gyd yn ffond dros ben o hono. Yr oedd o mor galon dyner tuag at y troseddwr, mor gymwynasgar i'r claf, mor hawdd ganddo gynorthwyo y tlawd, fel na chyfeiliornwn lawer pe dywedwo ei fod y
mwyaf anwyl gan ei ddynion o holl gapteniaid George III. Yr oedd yr olwg gyntaf arno yn ddigon a pheri i chwi syrthio mewn cariad ag ef. O ran corph nid oedd o ond byr; ond, 'rwy'n siwr na welsoch chwi erioed neb yn edrych yn well mewn dillad sowldiwr. Ond yr oedd yn hawdd gwybod fod rhywbeth yn pwyso yn drwm ar ei feddwl o; beth oedd y rhywbeth hwnw nid oedd ei gyfeillion mwyaf mynwesol y medru dyfalu. Byddai yn ymuno yn y cinio misol ag oedd gan ein swyddogion, ond nid yfai ddim, ac yr oedd y gyfeddach bob amser yn ei sobri yn hytrach nag yn ei lawenhau. Unigrwydd oedd ei brif bleser; a mynych y ceid ef yn y coed wrtho ei hun ac yn ymgomio ag ef ei hun rywbeth nad allodd neb ddyfod yn ddigon agos ato i wybod beth a ddywedai yn iawn. Yr unig air a glywyd oedd, "Felly Gwilym!" Nid oedd neb yn gwybod yn iawn yn mha gwr o'r byd y ganwyd ef; a phan holid ef ar y pwnc dywedai mai yn Nehebarth Cymru, ond ni ddangosai unrhyw awydd i fyned yn mhellach i fanylion ei haniad. Tybid mai y rheswm tros hyn ydoedd ei fod yn hanu o deulu isel; ond yr oedd ei foes a'i arfer foneddigaidd yn lladd y dybiaeth hon hefyd. Ond y penderfyniad y deuwyd iddo oedd mai wedi ei siomi gyda i serch yr ydoedd ; a bod y geiriau a glyvsid o'i hunan-ymddiddan yn cadarnhau y penderfyniad hwyn; ac mai rhyw Gwilym oedd ei withymgeisydd. Ond pwy oedd y Gwilym hwn, ni wyddai neb. Nid amlygai y capten unrhyw bryder ych waith ar fater yn y byd—buasai hyny hwyrach yn rhoi rhyw awgrym i ddatguddio y dirgelwch. Mae'n wir iddo holi unwaith neu ddwy os oedd y 45th foot yn y Merica; a phan hysbyswyd ef nad oedd, ymddangosai braidd yn siomedig; a phan atebwyd ef drachefn fod y regiment ar ei ffordd o Brydain ymddangosai braidd yn llawen. Holai y cornol (colonel) drachefn pa bryd y cyrhaeddai y 48th, ac i ba gwr o'r wlad yr oedd hi i gwartro? Atebai yntau ei bod i gyrhaedd New York ar y 6ed o'r mis canlynol; ac yn ol pob tebyg y byddai iddi aros am yspaid beth bynag gyda ni yn Utica. Nid oedd y ddadl leiaf na wenodd y capten wrth y newydd hyn un o'r gwenau llydain, dyfnion, hyny sydd bob amser a'u tarddiad yn y galon. Ond er hon oll yr oedd dirgelwch ei fywyd llawn mor ddiesboniad ag erioed. A oedd ei wrthymgeisydd yn y regiment, ac yntau yn bwriadu dial! eto nid gwên ffals ddieflig y dialgar oedd ar ei wyneb pan glywsai y newydd. Wedi hyn, ar ystorm, ymddangosai mewn pryder dwfn, a mynych holai ei gyfeillion os meddylient ei bod yn gymaint ystorm ar y dwr ag ar y. tir. O'r diwedd, dyma'r Cornol yn derbyn llythyr yn ei hysbysu fod y 18th wedi cyrhaidd yn ddyogel i New York; ac y byddent gyda ni tua'r 25ain. Yr oedd yn dda genym oll glywed hyn; yr oedd gan rai o honom gyfeillion yn y regiment hono; eraill a ddysgwylient fanylion rhyw newydd o'r hen wlad: ac nid wyf yn meddwl fod gan neb glywed ein bod i gael cwmni y 48th. Ond o bawb, y capten oedd y llawenaf am y newydd hwn; nid oedd dim terfyn ar ei sirioldeb.
Beth bynag i chwi, o'r diwedd fe ddaeth y 25ain o'r mis, a pharatoisom ninau i roddi derbyniad croesawus i'n cydfilwyr; ac yn hyn o beth nid oedd neb prysurach a mwy gwresog na'r capten. Tua haner dydd, dyma ni'n clywed eu seindorf, a ninau yn ymdrefnu mewn dull milwrol i'w chroesawu: dacw nhw a'u baner yn chwifio, a'r wisg goch Brydeinig yn pelydru yn llygad haul; taniwyd y gynau. ac wedi gorphen y ddefod filwrol prysurasom at ein gilydd i roddi cyfarchiad llai ffurfiol ond cynesach; cyfarchiadau calon gynes Prydeiniwr yn cyfarfod Prydeiniwr mewn gwlad bell. Yr oeddwn I yn gwylio'n ddyfal holl ysgogiadau y capten. Gwelwn ef yn carlamu ar ei farch hyd at gapten y 18th, yn ei gyfarch fel milwr, ac yn ysgwyd llaw ag ef yn galonog. Gyda hyn, disgynodd y ddau oddiar eu meirch, gan syrthio ar yddfau eu gilydd ac ymgusanu. Aethun yn nesatyntachlywais y geiriau, "Gwilym anwyl, yr oeddwn yn eich disgwyl!" Luned! Luned!" ebai'r capten arall, "pwy fuasai yn meddwl am danoch chwi, a'ch gweled yn sowldiwr!" Bu llawer ychwaneg o siarad o'r un natur, na byddai ond gwastraff ar amser i mi eu ail adrodd. Aethant ymaith gyda'u gilydd, a'r olwg nesaf a gefais I ar fy nghapten oedd mewn gwisg merch; ac os oedd o (neu hi ddylwn I ddweyd) yn edrych yn dda mewn dillad sowldiwr, welais I neb erioed yn edrych yn well yn nillad boneddiges. Cyn pen y mis i ddyfodiad y 48th i Utica, cefais y pleser o weled priodas fy hen gapten gyda Capten Gwilym Williams, o'r 48th gwyr traed byddin ei fawrhydi George III.
Gyda fod y gymeradwyaeth i araith Huw Bifan wedi gostegu, dyma yr hen gloc derw mawr yn y gornel yn taro dau o'r gloch y bore; a dyma fwyd o'u blaenau mor sydyn, dystawa di-ddysgwyliad, a phe buasai rhai o fodau gwlad hud a lledrith wedi ei ddwyn yno. Ond ni fynai y Cadeirydd son am fwyta, fel tae, cyn gorphen v cyfarfod yn drefnus yn ol y cynllun a osododd efe o'i flaen; ac yr oedd yn aros eto Anerchiad gan y Bardd; a chanu hefo'r Tanuau yn yr hen ddefod o derfynu Nos Nadolig. Yn nghyntaf galwyd ar y Bardd, ac yntau wedi ymsythu a chorn-garthu addywedodd:— "Llyma Myfinau, trwy ras ein cadeiriawl gyfaill, yn meddu yr anrhydeddawl bleser o eich anerch. Gwnaf hyny mewn 70 o Englynion Unodl Union." Taflodd llawer un olwg hiraethus ar y bwrdd a'r swper. Ac yn wir pwy a garasai eistedd o flaen ei swper i wrando ar 70 o Englynion Anerchiadol. Ond yr oedd ein Cadeirydd am drefn,ac yr oedd yn rhaid i'n clustiau ninau fyned tan y driniaeth chwerw; eithr o drugaredd fe ddaeth ymwared annisgwyliadwy. Dechreuodd y Bardd:—
Ddoniol ddynion gor-ddenawl—digrifawl
Dyna grefydd cas gan-ddiawl
Yn cadw'r nos Nadoligawl
Twy'r gwyll hyll, hyd awr gwawr gwawl.
Ar hyn bu mwstwr anghyffredin, pawb yn rhuthro o'i gadair tuag at Catrin Davies yr hon oedd mewn ffit, ac yn ei dau ddwbl weithiau a phryd arall yn ymsythu mor gam a phe buasai am daflu ei chorphyn fel dilledyn dros gefn ei chadair. "Dwr iddi!" ebai un; "gwynt iddi," ebai'r llall. Yn y cythryfwl, rhedodd Angharad ataf fi a rhoddodd ei phwys ar fy mraich; a dyna yr engraiff't gyntaf o'i serch tuag ataf; a neidiodd y marworyn serch a lechasai er's talwm yn fy mynwes I ati hithau yn fflam. Rywfodd neu gilydd anghofìais Catrin Davies yn Angharad Huws. Yr oedd ei genau yn llydan agored, a'i breichiau yn ymluchio yn ol a blaen. Yn mhen tua thri mynyd ymlonyddodd. "Oho! Oho! bobl anwyl," meddai hi, "wel dyna y brydyddiaeth ddigrifaf a glywodd fy nwy glust I erioed. Prydyddiaeth y gath," ebai hi tan chwerthin yn uchel; "wel yr oedd dy Englyn di, Twm, druan, yr un ffunud a phrydyddiaeth Twm y gath acw pan rodd o ei droed yn yr uwd poeth. Paid a deud gair arall, Twm anwyl, onide mi lladdi fi yn farw gorn." A dechreuodd pawb chwerthin yn galonog am ben Catrin Davies ac am ben y farddoniaeth. Pawb ond Shibbols; edrychai ef, a'i bapur yn ei law, cyn sobred â sant, a thybiai fod rhyw deilyngdod uchel yn ei waith pan y cynyrchai y fath effeithiau. Daliai yr hen chwaer i chwerthin a gwaeddi, "Paid Twm anwyl!" ac yn nghanol yr annhrefn, cododd y Cadeirydd i fynu a dy wedodd er mor dda fuasai ganddo sefyll at ei gynllun, a thrwy hyny glywed holl waith y Bardd Thomas Shibbols Roberts, fel tae; eto yn ngwyneb y cynhwrf a greasai yr Englyn cyntaf, ei fod yn erfyn arno gadw y 69 Englynion eraill hyd y Nos Nadolig nesaf.
"Canu hefo'r Tannau
'rwan. I ddechreu; Huw, tara "Serch Hudol"
Y CadeiRydd:—
Hwda! Roli, ar ol yfed,
Cyffin, caffia'r gerdd i gerdded,
Cadi, codwch, myner mwyniant,
Huw, a Shibbols, na foed seibiant.
Roli: O'n ngwaith fy hun pan oeddwn yn y byd o'r blaen, ac yn myn'd tan yr enw Huw Morys:—
Caseg wine coesau gwynion,
Croenwen denau carnau duon;
Camau duon croenwen denau,
Coesau gwynion caseg winau.
Robert Cyffin a Huw Bifan yn datganu Hen Benillion. Catrin Davaes:—
Caffio ddaru Robert Cyffin
Fod rhyw fferdod anghyffredin—
Cociie'n smelio lle ysmala,
A dyua synu yn nhraed hosana'.
"Shibbols am byth!" ebai hi, tyr'd tithau a phill, Twm;" ond yr oedd y Bardd mewn soriant, ac ni ddywedodd air.
Tyr'd dithau Gruffydd, ebai Ifan Huws wrthyf finau; a chan fy mod I yn dipyn o fardd, mi genais fel hyn:—
Bodangharad! boed 'y nghoryn
Mor wyn a'r barug ar y Berwŷn;
Os ymswnio a wna'm syniad
Nad y' nghoron Bodangharad.
Bodangharad! be 'dy ngore
Byw yn ngolwg mwg 'fy nghartre',
Cael yn wraig a fyddo'm cariad,
Bydio yn nghyraedd Bodangharad.
Boed Angharad byw dan goron,
Rheded gwin o'i gwenau gwynion;
Boed i minau fy nymuniad—
Bydio yn nghyraedd Bodangharad.
Yna tawodd sain y delyn, a dechreuodd sŵn y cyllill a'r ffyrch, ond yr oedd yn amlwg fod fy mhenillion musgrell I wedi cael eu hefîaith, canys edrychai Angharad yn yswil gariadlawn arnaf; am y lleill yr wyf yn meddwl fod eu bryd hwy ormod ar y swper i ystyried yn iawn beth a ddywedwn. Buom yn cadw cwmni am bum mlynedd, ac yn briod am yn agos i ddeugain. Ond y mae hi eich nain chwi, 'mhlant I, wedi myn'd er's ugain mlynedd. A dyna, hyd y gallaf fi gofio, fel y cynaliwyd Nos Nadoiig, yn Bodangharad yn y flwyddyn 1804. Aethom yn un criw cariadus i'r Plygain, ac ni welais I ddim o olion digrifwch Bodangharad ar y defosiwn yn Nhy Uduw.