Cymru Fu/Ffynon Llanddwynen
← Nos Nadolig | Cymru Fu gan Isaac Foulkes |
Y Gwiberod → |
FFYNON LLANDDWYNEN
—————
GAN J. CEIRIOG HUGHES
—————
“ | Pwy bynag a fyddai yn glaf o gariad yn yr hen amseroedd, cynghorid y claf, bid fab bid ferch, i fyned ar bererindod at ffynon Llanddwynen, Sir Fon, ac yfed o'r dwfr hyd oni wellhai ei galon. | ” |
MAE ffynon Llanddwynen yn rhedeg o hyd,
Er hyny mae cariad yn byw yn y byd;
Er gwaetha'r ellyllon sy'n byw yn y lli,
'Does dim eill wahanu fy meinwen a mi.
Mi eis i Landdwynen ar ddiwrnod o hâf,
Yn isel fy meddwl, o gariad yn glaf:
Mi yfais o'r ffynon, ond trois yn ddioed,
I garu fy nghariad yn fwy nag erioed.
Gofynais am gynghor, a d’wedai hen wr,
Y dylwn ymdrochi yn nghanol y dŵr:
Mi neidiais i'r ffynon, a suddais fel maen,
Ond codais mewn cariad dau fwy nag o'r blaen.
Mi eis i'm priodi ar fore teg håf,
I eglwys Llanddwynen-helaethu ni wnaf:
Er gwaetha Sant Dwynen, a'r ing imi roed
'Rwyf heddyw mewn cariad mwy pur nag erioed.
Pob parch i Landdwynen a'r ffynon or-ffôl,
Ond cofied y meibion sy'n aros ar ol:
'Does un feddyginiaeth, na dyfais, na dawn,
Eill wella hen glefyd y galon yn iawn.
Hen draddodiad lled ddifyr a diniwed ydyw hwn, a byddai yn resyn iddo farw. O ran hyny, gresyn ydyw colli unrhyw un o'n coel-chwedlau cenedlaethol. Am a wni, mae celwydd bychan prydferth yn llawn mor ddefnyddiol a'r gwirionedd ei hun, ar rai prydiau. Ysgrifenodd y diweddar Ab Ithel, coffa da am dano, fel y canlyn:
"Dwynwen was the VALENTINE of the Britons, the patron Saint of lovers. In former times, particularly about the middle of the 14th Century, a great number of both sexes visited this well, for the purpose of being cured of love-sickness. If its waters ever afforded a remedy in such cases, they must indeed have been endowed with miraculous properties. Cyn bod yr inc Saesneg yna wedi sychu ar fy mhapur, daeth merch ifanc o Sir Gaernarfon ar ymweliad a mi. Dywedais wrthyf fy hun mae'n syn os nad wyr Miss L. rywbeth am ffynon Sant Dwynen. Gyda'r amcan hwnw mewu golwg, ac am ei fod yn bwnc mor bleserus ag un i'w gyffwrdd, trowyd yr ymddyddan at gariadon—breuddwydion a d'weyd ffortun. Yr oedd fy nghyfeilles yn gwybod y cwbl am rinweddau y ffynon, ac yn adnabod llancesau fuont yn ceisio meddyginiaeth YN Y DWFR NESAF ATO, am fod tywod er's llawer dydd wedi gôrchuddio y llygedyn dwfr am yr hwn y byddai cariadon yn sychedu gymaint yn yr hen amser. Gresyn na buasai Ffynon Dwynwen yn llifo eto, a Ffynon Elian yn ei lle wedi ei chladdu gan dywod.