Cymru Fu/Y Gwiberod
← Ffynon Llanddwynen | Cymru Fu gan Isaac Foulkes |
Y Forforwyn → |
Y GWIBEROD
GAN GLASYNYS
1.—GWIBER PENHESGYN
Yr oedd mewn lle yn Mon a elwir Penhesgyn, yn yr hen amser, wr a gwraig yn byw, ac iddynt bu un mab, ac efe wrth gwrs oedd yr etifedd; ac os gwir y chwedl, etifeddiaeth fawr oedd iddo. Rhyw ddiwrnod, fodd bynag, fe ddychrynwyd y rhieni gan ddaroganiad rhyw ŵr cyfarwydd. Dywedai ef y codai gwiber ar dir Penhesgyn a frddai'n sicr o fod yn achos angau'r etifedd; a chyn pen hir, clybuwyd fod yr anghenfil wedi gwneud ei hymddangosiad mewn dyryslwyn gerllaw, Anfonwyd y bachgen yn ebrwydd yn ddigon pell fel na chaffai'r wiber ddim siawns i wneud ei frâd ef; aethpwyd ag ef i eigion Lloegr. Yn y bryn cyfagos yr oedd y wiber, a mawr oedd ofnad y bobl o'i herwydd, a llawer fu'r dychymygu pa fodd y lleddid hi. O'r diwedd, daeth un hen fachgen hirben i'r penderfyniad fod ganddo ef lwybr difai i'w lladd; a thyma'r ffordd a gymerodd. Aethi gae gerllaw, a thiriodd dwll dwfn yn y ddaear—twll crwn o drawsfesur penodol, ac yna cymerth badell bres fawr, a rhoes hi a'i gwyneb yn isaf ar y twll a gloddiodd. Pan welodd y wiber y pres yn dysgleinio, cynhyrfodd, ac ymaith a hi ato, a gwnaeth ymosodiadau egniol ar y badell am hir amser, nes o'r diwedd iddi lwyr ddiffygio. Yna aed ati, a gorphenwyd ei lladd, a chladd- wyd hi gyda llawenydd yn y bryn lle yr arferai fod o'r blaen yn ddychryn i bawb. Ar ol hyn gyrwyd am etifedd Penhesgyn i ddod adref, gan fodd ei elynes wenwynig wedi ei lladd a'i chladdu; ac adref y daeth yn un cawr, gan fod yr hyn a ofnai wedi darfod am dani. Ar ol bod gartref am dipyn, nid oedd na byw na bywyd i neb os na chai ef weled ysgerbwd yr hen wiber, os oedd dim ohoni ar gael, a mynodd gael agor ei bedd. Gwnawd hyny, ac nid oedd yn aros o honi ddim ond asgwrn y pen. Pan welodd y dyn ieuanc ei phenglog, rhoes gic i'r asgwrn, a gwaeddai yn llawen, "Tydi yn wir fy lladd! yr hen ysgerbwd gwael." Ond gan nad oedd ganddo am ei draed ond esgidiau pur deneuon, a chan iddo yntau roi cic tra egniol, aeth darn o'r asgwrn truy gefn ei esgyd, a thorodd friw bychan ar fawd ei droed, medd rhai; ar gefn ei droed, medd eraill; a bu farw'r dyn ieuanc mewn canlyniad i hyn. Ac felly fe ddaeth geiriau'r gŵr cyfarwydd i ben, sef mai Gwiber fyddai'n angau i etifedd Penhesgyn
2.—GWIBER MOWDDWY
Ryw bryd gynt, gerllaw y Dugoed, yr oedd gwiber fawr ddolenog yn cyflawni peth wmbreth o ysgelerderau; a phawb yn ei hofni oherwydd ei maint a'i gwenwyn echrydus. Ond un diwrnod, rhoes un o drigolion hirben y lle ei feddwl ar waith pa fodd i'w dinystrio, a gwnaeth y cynyg canlynol. Canfu fod rhyw gasineb greddfol rhwng y Wiber â phob peth o liw coch, a pha beth a wnaeth ond gosod i fynu bren wedi ei bicellu yn dda, a thaenodd bais goch yn dô drosto. Pan welodd y Wiber y lliw annymunol, hi a gythruddodd yn gynddeiriog, ac ato yr aeth heb oedi, gan ymosod arno gyda'i holl nerth; ond pa fwyaf nerthol yr ymosodai'r Wiber, dyfnaf yn y byd yr ai'r picellau i'w chnawd, ac with geisio malu y bais goch fe laddodd y Wiber ei hun.
3.—GWIBER COED Y MOCH
BYDDAI ar yr hen bobl ofn ddydd a nos yn Nghoed y Moch, a'r achos o hyny sydd amlwg. Yn y nos byddid yn dysgwyl yn ofnus am glywed swn erchyll ysgrechfeydd aflafar cythreuliaid corniog o gwmpas Ceubren yr Ellyll, ac yn y dydd drachefn byddai'r Wiber yn gwybetta, ac yn barod bob munyd i ddod ar draws y neb a ddeuai'n agos i Goed y Moch. Byddai ambell dro yn tor-heulo yn ddiog ar lan Llyn Cynwch, ac ar brydiau eraill gellid ei gweled yn ymlusgo draw ac yma hyd lethrau Moel Othrwm, ac yn bwrw y llysnafedd glafoeriog sydd erbyn hyn yn gruglwyth gwenwynig ar leppen y mynydd. Creadur bwytteig ofnadwy oedd y Wiber; byddai yn llyncu oen yn ei gorpholaeth ar droiau, ac am ffrwythydd, nid oedd digon iddi hi i'w gael. Tybia rhai iddi ladd llawer dafad, ac yna llusgo'r ysgerbwd at goeden, a chylymu ei hun am un gangen, a gosod y ddafad cyd-rhyngddi â'r pren, ac yra dirwyn am dani nes malurio'r esgyrn yn siwtrws mân. Ond yr oedd un hen law yn byw yn y Ganllwyd ag arno flys mawr gwneud pen arni. Bu yn hir iawn yn dyfeisio pa fodd y dygai ei amcan i ben, ac yr oedd ef yn cael ei ystyried yn rhywbeth uwchlaw y cyffredin yn y parthau hyn; mewn gair efe oedd gŵr cyfarwydd y fro. Yr oedd Arglwydd Nannau wedi cynyg tri ugain muwch i bwy bynag a'i lladdai, ac yr oedd eraill yn cynyg eu rhoddion gwobr am y gamp ofnadwy. Fel yr oedd y Wiber yn myned yn hynach yr oedd ei lladd hi yn beth anhawddach, ac felly yr oedd hi yn rhywyr glas cynllunio rhyw lwybr ymwared.
Byddai yn gallu hud-ddenu creaduriaid ati. Os edrychai yn llygaid unrhyw greadur, ni fedrai ddianc o'i gafael. Yr un fath ag y bydd pry'r ganwyll, er gwibio o amgylch-ogylch, ei ddiwedd fydd—fe fyn fyned i fflam y ganwyll, felly yn union pob creadur a welai lygaid y wiber swyn-hudid ef ati rhag blaen. Yr oedd felly yn fil anħawddach ei difrodi o herwydd hyn. Fodd bynag, yr oedd yr hen ddewin Llwyd o'r Ganllwyd wrthi yn parotoi am ei dihenydd. Cynygiodd unwaith am ei gwaed trwy gyflogi cryn ddwsin o Wylliaid Cochion Mowddwy, y rhai a ystyrid y saethwyr cywiraf yn y wlad, ond ni fedrwyd cael un golwg ar yr anghenfil erchyll yr amser hono, ac felly ni ddaethpwyd i ddim gwell pen yn y diwedd. Ond gan fod y tri ugain buwch yn wobr fawr, a llawer un mewd digon o eisiau'r cyfryw, daeth un o fugeiliaid Cwm Blaen y Glyn i lawr, ar fedr treio ei law. Nid oedd hwn ond llafn o lanc ystwythgryf, prin wedi cyrhaedd ei un ar hugain oed, a chan nad oedd yn foddlon i neb wybod ei hynt rhag ofn iddo fethu yn ei gais, aeth ymaith i chwilio am y Wiber yn ddystaw bach heb ddweud dim gair wrth neb dyn na dynes, ond wrth Ellyw merch yr Hafod-fraith. Yr oedd hono yn y cwnsel. Cychwynodd oddi cartref, ar ol cael cunogiad o faidd, i wylied ei thramwy hefo'i ddau gi. Yr oedd hyn yn beth pur ryfygus, oblegyd yr oedd Dewin y Ganllwyd wedi rhagfynegi mai celain gegoer fyddai pwy bynag a ai yn agos ati heb wisg ddur neu lurig am dano: ond y Bugail o'r Cwm ni faliai fawr yn ei eiriau, oherwydd yr oedd cael y tri ugain buwch i ddechreu byw yn benaf peth ei feddwl.
Cafodd ei brisg yn lled fuan, heb fod yn mhell o Lyn Cynwch, a dilynodd hwnw'n llechwraidd; ac o'r diwedd gwelai'ranghenfil yn cysgu'n dawel o dan berthen o ddrain gwynion. Yr oedd y ddraenen wen yn un gynfas o flodau, a gwyddai'r dyn ieuanc nad oedd dim ar y ddaear las yn well am feddwi'r anghenfil hefo chwsg na sawyr trymllyd y nwy a wasgara'r ddraenen. Aeth yn ol o'i golwg, yn llawn myfyr a chynllun; ond pan yn encilio, tarawodd rhywbeth yn ei ben, os y gallai gael bwyall yn rhywle y medrai ladd y wiber; ac felly gael y tri ugain muwch a phriodi Ellyw, a rhoddi buches iddi yn waddol briodas. (Ac yn wir yr oedd Ellyw wedi cadw ei fywyd ef cyn hyn, pan unwaith oeddynt yn chwilio am eu defaid yn y lluwchfeydd, syrthiodd ef i luwchfa ac ni ddeuasai allan ychwaith oni buasai iddi hi, trwy ei diwydrwydd serchog, dirio i lawr ar ei ol, ac felly rhoi chwareu teg iddo i anadlu.) Tarawodd yn sydyn yn ei ben mai'r ffordd oreu oedd rhedeg i Fynachlog y Fanner, oblegyd gwyddai y cai yno fwyall iawn, ac hefyd "ollyngdod" rhag ofn digwydd y gwaethaf. Prysurodd yno: cafodd y ddau beth a geisiai, sef "gollyngdod" a bwyall, a dychwelodd yn ei ol gyn gynted ag y medrai: tynodd am ei draed yn mhell cyn d'od at y ddraenen; yna yn mlaen yr aeth gan deimlo awch min ei erfyn hefo'i fawd, a theimlo ambell ias oer hefyd o ofn ond odid.
O'r diwedd daeth i olwg y Wiber, a gwelai hi yn uniondeg fel ag ei gadawodd yn dorchau swith. Araf nesäodd, a phan oedd yn codi ei fwyall i'w tharo cil-agorodd hi un llygad, ond cauodd ef yn ebrwydd, a chyn iddi gael amser i ail-agoryd y naill na'r llall yr oedd min y fwyall wedi treiddio trwy ei phenglog, a'r bugail yn dianc ymaith o gyrhaedd ei llosgwrn: ond cyrhaeddodd ef er hyny yn greulon, nes yr oedd yn ymdreiglo o dan bwys y dyrnod, Pan ar ei hyd gyd, teimlai iasau oerion yn dyfod drosto, ac nis gwyddai yn iawn pa'r un ai byw ai marw ydoedd; ond o dipyn i beth dadebrodd, a gwelai'r anghenfil yn eithaf llonydd. Ar ol gwneud gwyden, cylymodd hono am ei chanol, a llusgodd y wiber tua neuadd Nannau, ond methodd a'i thynu yn mhell, a bu raid iddo fyned tua'r lle hebddi. Hysbyswyd y boneddwr pa beth oedd wedi digwydd, a mawr oedd y llawenydd, aed i'r fan a'r lle, a chaed yr anghenfil yno yn ddigon marw; a mawr oedd llondid pob goppa walltog oddigerth Dewin y Ganllwyd, o herwydd teimlai yr hen law fod dewrder eondra wedi llwyr guro ei ysgil ddewinol ef. Cafodd y bugail ei dri ugain buwch yn rhodd, a rhoes pawb eu hewyllys da yn ol cyfraith cymhortha. Claddwyd y Wiber mewn bryn gerllaw i'r fan ei lladdwyd, a chodwyd carnedd anferth arni, a galwyd y bryn fyth wedi hyn yn Fryn y Wiber, a'r garnedd yn Garnedu bedd y Wiber. Aeth y bugail at yr Hafodfraith yn dalog i ddangos ei hun i Ellyw, ond erbyn cyrhaedd yno nid oedd Ellyw gartref, yr oedd wedi myned i edrych am ei chwaer dros y mynydd. Yr oedd hi yn bur niwliog, a thrbiai ei rhieni na ddeuai adref y noson hono oherwydd fod yr hin mor anffafriol, ond ymddengys iddi hi, er hyny, fynu cychwyn gyda'r tywyllnos, a cherdded a wnaeth drwy'r nos; collodd y ffordd yn fuan, a cherdded a phystodi drwy fawnogydd a siglenydd y bu hi. Ni wyddai ddim yn mha le yr oedd, er hyny yn mlaen yr ymlwybrai heb un cydymaith byw yn agos ati, nes iddi o'r diwedd du'od ar draws nyth iâr fynydd. Cododd hono wedi dychryn, a thyna'r unig greadur a welsai, neu yn hytrach a glowsai, yn ei llwybr diarffordd. Cyn pen ychydig o fynydau aeth wedyn i ganol siglen neu donnen, ac yno'r oedd heb allu d'od allan: pob cais a wnai i lawr yr elai, nes o'r diwedd yr oedd wedi suddo hyd at ei cheseiliau. Yn awr dechreuodu adrodd y Pader o ddifrif, a daeth Meredydd i'w meddwl. Ai wedyn i'r Hafodfraith; gwelai ei thad a'i mam, a thorodd allan i wylo, ac yn nyfnder trallod ocheneidiai ei chalon. Pan yn y trybini meddyliol ofnadwy hwn clywai ryw dwrf, ond coeliai nad oedd y cwbl ond ffansi. Yr oedd yn oeri yn brysur, oblegyd dwfr neillduol o fferllyd ydyw gofer siglen; a cheisiai wueud ei henaid yn dawel i wynebu'r byd tragwyddol. Pan yn ceisio bloesg lefaru, "O! na fuasai yn bosibl i Bedo wybod lle'r wyf," dyma rywun yn gwaeddi nerth esgyrn ei ben, "Ellyw, Ellyw," a phwy oedd yno wedi bod yn crwydro trwy gydol y nos ond Bedo druan. Cychwynodd i fyned i gyfarfod Ellyw o'r Hafodfraith, a phenderfynodd 'os na ddeuai hi i'w gyfarfod ar y ffordd, fyned i dy ei chwaer i ddweud withi fod y Wiber wedi ei lladd, a bod ganddo dri ugain muwch at ddechreu byw, ac yna nid oedd dim bellach yn eisiau ond pennu'r diwrnod priodas. Ac fel y mae pethau yn mynu bol, collodd y ffordd yn glir faes. Ond yn ei fyw nis medrai beidio gwaeddi “Ellyw," a phan oedd efe fel hyn yn ei ddyryswch, clywai rywryderst bloesg, ac adnabu lais main yr hon a garai. Prysurodd at y lle yr oedd y llais, ac o fedd anamserol—o fonwes oer y siglen fferllyd, medrodd o'r diwedd lusgo allan ei Ellyw gariadus. Er ei bod yu haner marw, yr oedd hi iddo ef yn fywyd gwir. Ar ol gwneud ei oreu i'w glanhau a'i chynesu, cludodd hi ymaith ar ei gefn wedi rhoddi o hono ei ddillad ei hun an dani. Cyn pen hir torodd y wawr, a chwalodd y niwl, ac erbyn y plygain yr oedd y ddau wedi cyrhaedd yr Hafodfraith, ac yr. ddiddadl mawr oedd y llawenydd yno. Er iddi hi deimlo am ddeuddydd neu dri oddiwrth yr anghaffael, eto, buan y daeth yr eneth galed ac iachus ati ei hun. Priodwyd y ddau, a bu iddynt genhedlaeth gref; ac oherwydd iddo ef wneud y gwrhydri mawr o ladd y Wiber, daeth i sylw'r gwyr o gyfoeth, ac aeth ei hun yn gyfoethog iawn. do fel Meredydd neu Bedo'r bugail, yn ddewr ëon a phenderfynol y bu ei dylwyth am oesoedd, a daeth rhai o'i eppil i arfer pais arfau, ac arni yr oedd, "Gwiber, bwyall, a ffon bugail, ar faes glas." A thyna ddywed traddodiadau'r mynyddoedd am helynt Gwiber Coed y Moch.
4.-GWIBER LLECHCYNFARWY.
Yr oedd, rhyw dri-ugain mlynedd yn ol, mwy neu lai, Wiber yn mhlwyf Llechcynfarwy. Byddai ar y trigolion ei hofn a'i harswyd yn barhaus. Yn wir, yr ydoedd wedi creu dychryn drwy'r rhan hono yn gyffredinol. Llawer a fu'r dyfeisio pa fodd i'w lladd, ond rywfodd nid oedd fawr o lwydd ar y gwaith. Yno'r oedd y faeden yn tor-heulo'n dawel. Ond, ryw ddiwrnod daeth i ben llanc o ôf i wneud cais am ei lladd. Gwnaeth bastwn pwrpasol; blaenllywodd ef yn ddeheuig, ac yn y Gwanwyn—tua'r Pasg, penderfynodd roddi ei gais mewn grym. Dydd Sul y Pasg oedd y diwrnod. Aeth i'r Eglwys yn y bore, a chymerodd ei gymun, ac yn y prydnawn aeth i chwilio am y Wiber. Cafodd hyd iddi yn dorchau o gwmpas cricyn o gareg, ac aeth ati yn hyderus. Cynygiodd ddyrnod iddi, ond rywsut ni chyffyrddodd mohoni, ac fel y bu gwaethaf yr anlwc torodd ei bastwn yn ddau ddarn. Troes y Wiber ato, a ffodd yntau. Dilynai hithau ef; parhau i redeg yn ei flaen oedd, a chan arfer y darn pren hefug un llaw oreu y gallai i'w churo yn ei hol, cyrhaeddodd wal gerig, a medrodd neidio dros hwnw cyn iddi allu ei oddiweddyd. Pan gafodd fod am y clawdd â hi, troes i edrych yn ei ol, a gwelai er ei fawr lawenydd y Wiber yn gwaedu yn ei thòr. Yna ail-feddyliodd am orphen ei waith, ac ati yr aeth hefo'r darn pren, a churodd hi yn ei phen nes y lladdodd hi.
Ac felly bu diwedd Gwiber Llechcynfarwy. Enw y dyn a wnaeth hyn oedd Owen Tomos Rolant, yr hwn a fu ar ol hyn yn bregethwr hefo'r Methodistiaid Calfinaidd yn Môn, ac y mae crybwylliad am y digwyddiad hwn yn Methodistiaeth Cymru, gan y diweddar Barch J. Hughes, Llerpwl
5.-GWIBER GLAN HAFREN.
HEB fod yn nepell o Lanidloes, yr oedd Gwiber anferth yn gwneud drygau aneirif, a byddai ei harswyd ar bawb am filltiroedd o gwmpas. Ni fedrai'r pysgodwyr fyned at lan yr i bysgota rhag ei hofn, a gadewid pa greadur bynag a elai i'r cyrau lle'r oedd yno heb i neb ymofyn dim o'i ol. Ar lan yr afon yn gyffredin y gorweddai, a dywedid y byddai'r dwfr gloyw yn troi'n wyrddlas weithiau pan fyddai hi yn chwythu arno, neu pan y byddai ar brydiau yn ymdrochi yn rhyw fasle. Yr oedd son am y Wiber yn mhell ac yn agos, a dychryn a braw yn llenwi meddwl y trigolion. Buwyd yn cynllunio llwybr i'w dyfetha, a'r dull a gymerwyd oedd llosgi'r coed yn oddaith, ond cyn gynted ag y daeth y tân yn agos at ei nyth hi, nofiodd dros yr afon yn dawel i'r ochr arall, a gwnaeth ei hun mor ddedwydd yr ochr arall ag oedd o'r blaen yn y lle a losgwyd. Penderfynwyd llosgi'r ochr arall drachefn yn yr un modd: ac ati yr aethpwyd, ond ni thyciodd hyn, oblegyd nofiodd yn ol i'w hen nyth, ac yno yr arosodd am sem o ddyddiau; gwelid hi yn aml yn amgordeddu o gylch boncyffion golosg y coed, ac yn parotoi ei hesgyll. Cyn hir, collwyd hi yn llwyr, a thybiodd pawb ei bod wedi marw. Aed i dynu y boncyffion yr danwydd, ac i chwilio am ei nhyth hefyd; ond pan yr oeddis un diwrnod wedi bachu dau eidion wrth ddarn o goeden, gwelai'r bobl oedd yno ben rhywbeth yn d'od allan rhwng y gwraidd, ac ni arosasant am amrantiad yno gan faint eu hofn, ac ymaith coesiasant yn ddiatreg ymosododd y Wiber ar yr ychain, a lladdodd y ddau yn fuan. Yr oedd y ddau ych, druain, yn beichio'n arswydus, a gelwid y lle fyth wed'yn yn Bant yr Ychain. Dechreuodd y Wiber sugno gwaed y ddau ych, a gwnaeth hyny gyda'r fath awch nes y chwyddodd yn un rholen. Pan ganfu rhyw hen bysgottwr a ddigwyddai fod ar yr afon yn ei gwrwgi hyn, cymerth ei dryfer a chan na allai symud lladdodd hi rhag blaen; a dywedir fod cymaint o waed wedi d'od o honi nes cochi'r afon am filltiroedd, ac i'r fan lle'i claddwyd gael ei alw yn Ddol-goch er cof am y gwaed, ac yn Dir y Wiber er cof am dani hithau. Nid oes dim son am fedd i'r Wiber hon.
6.-Y WIBER NANT
Pan oedd yr afanc yn Llyn yr Afanc, yn uwch i fynu, mewn cainc o'r un afon, yr oedd Gwiber yn peri arswyd i'r neb a elai yn agos at ei glenydd, ac a elwid o'r plegyd yn Wiber Nant, neu Nant y Wibher. Yr oedd yr afanc yn greadur difirodus enbyd, a pha beth a wnaed ond bachu yr ychain banog wrtho, a'i lusgo o'i lyn ei hun yr holl ffordd i Lyn Llydaw yn y Wyddfa, tua'r un adeg gwnaed cais i ddistrywio'r wiber hefyd, oblegyd yr oedd yn berygl bywyd myned yn agos at y lle. Ni wyddai y trigolion ar faes medion y ddaear pa fodd y caent ymwared rhagddi, oblegyd blinai hwynt yn ddi-dor-derfyn, ac yr oedd un peth yn perthyn i'r Wiber hon na feddai yr un o'r lleill mo hono.
Gallai fyw yn y dwfr fel ar y tir, a phan bwysid arni naill ai gan ddynion neu rywbeth arall byddai yn hwylus newid ei sefyllfa. Bu felly am ugeiniau os nad canoedd o flynyddoedd, ebe Edward Llwyd, yn cyflawni direidi. ac yn peri poen a blinder. Ond un o Wylliaid Hiraethog wedi blino clywed pobl yn son ac yn rhuo yn nghylch y Wiber, a benderfynodd fynu ei lladd deued a ddelai.
Cyn dechreu ar ei orchwyl anturus, aeth heibio i ryw hen Ddewin, ag oedd yn byw mewn bwthyn unig ar ei ffordd i ofyn tesni ganddo. "Pa fath farwolaeth fydd i mi?" ebai, yn bur geiliogaidd. "Gwiber a'th frath," ebai'r Dewin. Ofnodd pan glywodd, a rhoes ei antur i fynu. Yn mhen tipyn o amser drachefn aeth at yr un hen Ddewin, mewn gwedd a dull gwahanol, a gofynodd iddo'r un gofyniad. Atebodd yntau, "Torri dy wddf a wnei." Yntau a aeth ymaith gan gilwenu am ben mor amryw oedd chwedl y Dewin. Cyn pen rhyw lawer iawn aeth yno wed'yn a gofynodd rywbeth i'r un perwyl ag a wnaeth v ddau dro cynt. Cafodd ateb, "Boddi a wnei." Chwarddodd y Gwylliad dros bob man am ben anghysondeb dywediadau'r Dewin, a dywedodd wrtho, "Pa fodd y mae'n ddichonadwy i mi gael fy lladd gan wiber, torri fy ngwddf, a boddi?". "Amser a ddengys, amser a ddengys", atebai'r Dewin yn bur ddigyffro. Aeth y Gwylliad ymaith ar lwyr fedr cael gornest hefo'r Wiber. Aeth i'r Nant ac yna y bu yn dyfal geisio y bwysfil gwenwynig: O'r diwedd ar lethr serth pan yn ymgreinio yn mlaen hyd risyn ar fron clogwyn: uwch ei ben dyma'r Wiber yn nesu ato a brathodd ef yn enbyd yn ei law. Pan yn y bang syrthiodd ryw swm o latheni i lawr, ac yna ar ei ail godwm ymgladdodd mewn corbwll dwfn, ac felly daeth y tri pheth i ben yn ol gair y Dewin. Ar ol i'r si fyned ar led am y digwyddiad, ffyrnigodd y Gwylliaid fwy nag erioed o herwydd weithred hon, a phenderfynasant wneud cais o'r newydd, ac felly y gwnaed; a saethodd rywun y Wiber ond nid oedd ddim un mymryn gwaeth. Aeth i'r afon a gwellhaodd ei harchollion yn ebrwydd, ac yno'r arhosodd am lawer o amseroedd meithion ar ol hyn, a daethpwyd i gredu yn ddilys fod rhywbeth yno heblaw Gwiber, a buwyd yn sôn am hir a hwyr am dani. Ond erbyn hyn y mae ei hoes wedi darfod, ac nid oes dim cof am dani oddigerth yr afon fyddarllyd yn neidio hyd y creigleoedd, yr hon a fedr, pe mynai, adrodd y pethau fu yn ddifloesgni wrth y rhai sydd,—nid oes ond yr afon yn gof o Wiber y Nant.
Dyna ddigon o lên y Gwiberod, er fod ugeiniau o chwedlau lled gyffelyb ar hyd a lled Cymru.
(FEL Attodiad i "LEN Y GWIBEROD," dodwn yr hanes canlynol a dderbyniasom oddiwrth Mr. E. Evans, Cynwyd; diau fod hanes llawer Gwiber yn gorwedd ar gyffelyb sail i hanes y Wiber hon.-GOL.)
7.-GWIBER LLANDRILLO
Er's oddeutu haner cant o flynyddoedd yn ol, aeth y gair ar led trwy gymydogaeth Llandrillo yn Edeyrnion fod Gwiber yn cartrefu mewn llwyn yn yr ardal hono, yn agos i le a elwir Plas y Faerdref. Derbynid y newydd ar y cyntaf gydag anmheuaeth, ond gan fod amryw o wyn a mân greaduriaid wedi meirw trwy, fel y credid, ei brathiadau gwenwynig; a bod llawer o bobl eirwir wedi gweled rhywbeth yn ehedeg o gwmpas yr ardal hono ag iddo gorph hir ac adenydd byrion, a thybient hefyd pan arafai ychydig eu bod yn canfod rhyw gèn symudliw hardd i gyd trosto, a bod iddo lygaid fel fflam dân yn ymsaethu trwyddynt; nid oedd neb yn y gymydogaeth yn ddigon rhrfygus i wadu y ffaith.
Cyn hir, yr oedd pwnc y Wiber wedi dyfod mor bwysig, fel mai dyna oedd byrdwn pob stori. Ymddiddenid am dani gyda sobrwydd yn yr efail, a siop y crydd; a phryd bynag y cyfarfyddai dau gymydog a'u gilydd, odid fawr nad y Wiber fyddai testyn yr ymddiddan. Dyna mewn gwirionedd oedd pwnc y dydd, a'r nos hefyd. Yr oedd yn amlwg hefyd fod yn rhaid gwneud rhywbeth heblaw siarad, canys er mor finiog ydyw y tafod, yr oedd yn amlwg nas gallasai ladd y Wiber. Penderfynwyd galw cynadledd o hynafgwyr a doethorion yr ardal. Wedi dwys ystyried y pwnc, daeth y cynghor rhyfel i'r penderfyniad o benodi diwrnod i wneud ymosodiad cyffredinol ar y gelyn. Ac wedi hir ddisgwyl daeth y diwrnod penodedig—diwrnod pwysig oedd hwn ar lawer ystyriaeth. Teimlai llawer mam y pryder dwysaf oherwydd y peryglon yr oedd yn rhaid i'w mab fyned trwyddynt cyn machlud haul; a llawer morwyn landeg a roddai aml i ochenaid ar ran ei chariad. Y diwrnod hwn yr oedd dewrder llanciau y fro i gael ei brofi, a'r gwroldeb hwn yr honai llawer eu bod yn feddianol arno i gael ei ddadblygu. Mewn gair yr oedd dedwyddwch yr ardal yn dybynu yn hollol ar weithrediadau y dydd hwn.
Yn fore iawn, cyn i'r haul ddyfod yn iawn allan o'i ystafell, dyma y fyddin yn cychwyn gan gerdded yn araf eto yn benderfynol at lan yr afon Dyfrdwy. Dyna y fan oedd wedi ei benodi fel maes y frwydr. Yr oedd yn y fyddin hon amrywiaeth mawr, rhai o bob oed a gradd; ac ambell hen batriarch pentyn mewn angen ffon, ond eto yn ddigon gwrol-calon y dydd hwn i fyned hebddi. Ond pa amrywiaeth bynag oedd yn y fyddin, yr oedd mwy yn yr arfau, y rhai yn benaf oeddynt bigffyrch, crymanau, &c., ac ambell hen frawd wedi dyfod o hyd i'r fwyall, gan yr ystyrid y cyfryw arf fel y mwyaf pwrpasol. Mor fuan ag r cyrhaeddodd y fyddin i lan y Dyfrdwy, gosodwyd baner goch i fynu, yn yr hon yr oedd picellau wedi eu gwlychu mewn gwenwyn. Amcan y faner goch oedd hudo y Wiber, oddiar ei chasineb at bob peth coch, i ymguro yn erbyn ei chasbeth, ac felly anafu ei hun. Ond er disgwyl yn bryderus an oriau ni wnaeth y wiber ei hymddangosiad; a pheuderfynodd llywyddion galluog y gàd, mai y doethaf oedd i bawb fyned' ir fau, a phenu diwrnod arall i ail Enrg am frwydr.
Ond cyn i'r diwrnod hwnw ddyfod, fe ddigwyddodd i rywun ddyfod i'r gymrdogaeth oedd wedi gweled mwy o'r byd a'i greaduriaid na'r cyffredin; a thrwy rhyw ddamwain, cafodd olwg ar y Wiber, a hysbysodd y trigolion dychrynedig, er mawr ryddhad iddynt, nad oedd y Wiber yn ddim amgen na CHEILIOG PHEASANT.
Deallwyd wed'yn mai wedi dianc o Wynnstar yr oedd yr aderyn diniwaid, ac wedi crwydro gan belled â Llandrillo, lle na welwyd yr un erioed o'r blaen. A dyna'r hanes a'r helynt a fu gyda Gwiber Llandrillo.