Cymru Fu/Y Forforwyn

Y Gwiberod Cymru Fu

gan Isaac Foulkes

Sul Coffa Ifan Delyniwr


Y FOR-FORWYN.

GAN GLASYNYS.

Yr oedd Ifan Morgan yn hoff iawn o fod tua glan y môr Sul, Gwyl, a Gwaith; cyn i'r wawr landeg fritho'r dwyrain, ac adar boreuaf y gwigoedd ddeffro, byddai ef yn hwylio at y feisdon. Yr oedd hon yn hen arfer gan ei dad a'i deidiau, oblegyd, mor bell ag y medrai cof fyned, nid oedd neb yn cofio'r un o'r tylwyth yn gwneud dim ond pysgotta ambell dro, a gwylio'r glanau. Ac nid oedd Ifan Morgan ddim wedi newid dim oddiwrth y rhelyw o'i deulu. Byddai yntau yn awr ac eilwaith yn myned allan i'r môr i ddal mecryll yn eu hamser, neu benwaig pan ddelent i'r parthau: ond mwy dymunol ganwaith ganddo, er hyny, oedd rhodio ar hyd glan y môr i edrych pa betha gaffai gan ei "Ewyrth Dafydd Jones," (oblegyd fel yna y galwai ef, a'i deulu o'i flaen, y môr bob amser). Un bore, yr oedd Ifan ar lasiad y dydd yn ymyl ogofau mawrion sydd yn ymledu o dan y bryn sydd ar fin y weilgi fawr, heb weled dim argoel am yr hyn a geisiai. Aeth i mewn yn araf deg i'r ogof, a elwid gan bobl glan y môr yn "Ogof Deio," oblegyd yn hono byddai un o'r hen deulu yn byw a bod y rhan fwyaf o'i amser, ac yr oedd rhyw anmheuaeth rhyfedd yn nghylch y modd yr oedd pethau ya myned yn mlaen yn y gell dan-ddaearol. Byddai'r pysgotwyr yn rhyw sisial hefo'u gilydd fod Deio yn delio hefo rhywun na ddylasai, a'i fod yn cael rhoddion o aur ac arian lawer iawn o rywle nas medrynt hwy, er gwneud eu goreu, rybod o ba le. Coelid yn gyffredin, iddo rywbryd ddod ar draws Mor-forwyn yn y fan, ac y bu i'r ddau gyd-fyw hefo'u gilydd, a chael cryn dorllwyth o blant, os gellid galw'r fath gynyrch ar y fath enw. Hyn oedd ddigon amlwg i bawb, y byddai Deio yn aros yn yr ogof am wythnosau heb ddod ar gyfyl neb; ac er i amryw o'r prsgotwyr fyned yno laweroedd o weithiau, i chwilio am dano ni chlywsant erioed na siw na miw oddiwrtho, ac ni welsant ychwaith un arlliw o hono. Yn ymyl yr ogof hono yr oedd Ifan Morgan mewn tipyn o awydd myned i mewn bore hwn er mwyn ceisio gwella gronyn ar yr amseroedd drwg hyny; oblegyd nid oedd dim llongddrylliad wedi cymeryd lle er's dwy flynedd neu ragor ar y glanau hyn, ac felly digon gwael oedd yr olwg am gael tamaid y gauaf dyfodol. Yr oedd Ifan wedi myned at enau'r ogof, ac mewn penbleth ofnadwy. Methu'n lân yr oedd a gwneud ei feddwl i fynu pa un a anturiai i mewn ai peidio. Er fod y llanw yn myned allan, ac yntau yn nofiwr da, pe digwyddiasai'r gwaethaf iddo, eto, yn ei fyw ni theimlai ar ei galon fentro i'r fath le. Eisteddodd, ar ol cychwyn rhyw deirllath iddi, a siaradai hefog ef ei hun fel hyn, "Pe bae Mor-forwyn yn dyfod ataf mi redwn am fy hoedl. Ond beth dalai hyny? Dim ar wyneb y ddaear las. Rhaid gafael ynddi, a'i charu hi'n iawn i edrych a wneiff hi fy mhriodi fi. Pe cawn i afael ar dipyn go lew o'i harian hi, mi fyddwn ar ben fy nigon. Diawst I; hyny fyddai'n rhywbeth iawn." Cosai ei ben, ac edrychai draw i bellafoedd y lle, a phan yn troi ar gip i edrych allan, gwelai ar darawiad amrant ganwyll werdd mewn cilfach uwch ben llyn o ddwfr. Ac ar garreg gerllaw y llyn, ferch ieuanc dybygasai ef, yn trin ei gwallt. Aeth ati'n araf deg, a dechreuodd siarad hefo'r eneth; ond ni wnai hi ond wylo yn hidl, ac ocheneidio'n drwm. Beth bynag ar a fu, aeth Ifan o'r diwedd i'w hymyl, a chan dynu ei law fawr gyhyrog hyd ei gwallt arafodd dipyn ar ei chri gwylofus. Ond pan afaelodd yn ei llaw, ysgrechiai fel ysgafarnog mewn rhwyd; ac er pob ymgais i'w thawelu edrych yn ofnus a gwyllt yr oedd. Ni wyddai Ifan Morgan ar groen y ddaear pa beth i'w wneud: yr oedd yn gweled ei hun wedi d'od yn bur lwcus;—"cael hyd i ferch ifanc gyfoethog felly; ac fel pe dae, nid oedd eisio dim ond priodi, na byddai yn hen glwch rhag blaen." Yr oedd yn gweled yn ei llaw grib aur, a chadwyn o berlau am ei gwddf, ond yr oedd un peth ar ol; yr oedd hi'n noethlymun groen, heb un edefyn yn agos ati. Ond nid oedd Ifan mor llwfr ar ol cael hyd iddi. Gafaelodd yn ei dwy law, a cheisiai chware hefo rhei'ny fel y byddai yn gwneud hefo phlant ei frawd, i edrych a ddofai hyny ddim arni. O dipyn i beth, daeth yn well o'r haner, a cheisiodd Ifan ei chael ar ei lin: ond gwarchod pawb! dyma hi'n gwichian fel haner dwsin o gywion dyllhuan, a chlywai Ifan ryw "fwrlwm-bwrlwm” yn swnio'n drymllyd gryf yn rhywle draw; "Dos i ffwrdd, dos i ffwrdd," ebai, y mae fy mrawd yn dyfod: brysia, brysia; tyr'd yma fory," a chyda'r gair yna, dyma drochion ewynog yn lluwch llwyd o'u cwmpas, a'r ganwyll werdd yn diffodd; ac Ifan Morgan, druan, yn cael ei luchio yn ol ac yn mlaen; ond pan yn y crychias, dyma rywun yn rhoi rhaff am ei ganol Meddeyliodd Ifan am ddweyd ei Bader, ond nid oedd hamdden: er hyny, ar darawiad llygad, cafodd ei hun heb frifo dim, er fod yno geryg cas yn y gwaelod, a llawer darn cyllellog yn taflu allan o ochrau yr ogof; eto i gyd daeth Ifan Morgan allan o hono heb fod ddim criglyn uwaeth, ond ei fod wedi cael dowcfa dda rïol. Yr oedd y rhaff o hyd am ei ganol; a phan gafodd ei hun ar y feisdon, nis gwyddai yn iawn pa beth i'w wneud: ofnai weithiau godi cynwrf wrth dynu y rhaff ato, ac er hyny yr oedd arno ei blys, oblegyd gwnai raff angor ragorol. Fodd bynag, deued a ddelai, mentrodd ei thynu i'r lan, ac er ei fawr syndod gwelai yn d’od yn nglyn â hi drwnc lled fawr. Tynodd hwnw hefyd i fynu, ond yr oedd mor drwm fel mai prin y medrai ei rowlio o'r dwfr. Ond ar ol hir fustachu, a ffaelu, dyma don yn dyfod ac yn ei gipio ef a'r trwnc i'r môr; ond cyn i hono eu tynu yn mhell, dyma don arall gribog, a'r crib hwnw fel eira, yn d'od ac yn ei gludo ef a'r trwnc i ben y gorlan, nes yr oedd mewn lle glas, yn hollol ddianaf. Agorodd Ifan y trwnc yn union, a chafodd ynddo drysorau beth anrhaith; a bu wrthi drwy gydol y nos yn cario adref. Erbyn bore drauoeth, yr oedd Ifan Morgan wedi cael y cwbl at ei law, ac ni wyddai yn iawn pa fodd i ymddwyn; yr oedd yn gweled ei hun wedi bod mor hynod o lwcus, fel y petrusai fyned wed’yn i'r ogof rhag ofn a fyddai gwaeth: tybiai fod ganddo ddigon i fyw yn wr bonheddig, ac felly, i ba ddyben yr ai ef i ymhel hefo'r fath greadur a'r un a welodd yn yr ogof. Ond wed'yn yr oedd peth arall; pwy a wyddai pa faint a gai, os y medrai ef ddod yn llaw hefo'r For-forwyn; oherwydd gwyddai Ifan o'r goreu, mai unu o'r rhai hyny oedd y neb a welodd. Ar ol hir gynsidro, daeth i'r penderfyniad o fyned; "doed a ddel," meddai, "mi af yno am unwaith beth bynag" ac yno'r aeth. Yr oedd hi'n treio'n gyflym erbyn hyn, ac aeth yntau i'r ogof yn fwy hyderus o lawer y tro hwn, na'r tro cynt. Ond erbyn myned i mewu, nid oedd yno na goleu na 'stwr. Aeth yn ei flaen yn bell bell heb weled na chlywed dim. Bu'n edifar ganddo erbyn hyn na buasai yn d'oda darn o raff gyday ef ermwyn cael goleu. Disgwyliodd am gwrs o amser, ond ni ddaeth neb ar ei gyfyl; troes yn ei ol, a chafodd hyd i geg yr ogof yn lled lwydd, ac aeth adref rhwng rhyw ddau feddwl. Tybiai ambell dro wrth fyned ar hyd y morlan mai wedi breuddwydio y cyfan yr oedd, ac nad oedd y trysor a gafodd yn y trwnc ond un o ffrwythau diddefnydd a diafael cwsg. Cyrhaeddodd adref fodd bynag, ac er ei fawr ddywenydd yr oedd pob peth yno fel y darfu iddo ef eu gadael. Ar ol eu trefnu, meddyliodd mai y peth goreu a allasai wneud yn awr oedd hwylio am ei wely, ac felly y gwnaeth. Cysgodd yn hynod o drwm, ond rywdro gefn trymydd y nos, dyma rywbeth yn d'od ato, ac a dillad llaith yn gafael ynddo. Ceisiodd ymryddhau o'r afael; ond ofer oedd ei waith, oblegyd po mwyaf y treiai, tynaf yn y byd y dirwasgai ei breichiau gwlybion am dano. O'r diwedd, dyma ryw sisial wrth ei glust, "Cofia di fod brydlon fory." "Aros," ebai Ifan Morgan, aros gael i mi oleu canwyll, mi godaf mewn mynyd," ond cyn iddo ddarfod dweyd hyn, nid oedd yno ddim ond cais lle bu y neb oedd yn siarad ag ef. Methodd yn glir a chysgu ddim un mynydyn wed'yn, a chodi a wnaeth i edrych dros ei drysorau, oblegyd yr oedd wedi cael aur ac arian, gemau a pherlau, cadwyni a thlysau beth aneirif! Pan oedd yr haul yn diog hepian draw yn nhir y dwyrain, yr oedd Ifan wedi cychwyn tua glan y môr; yr oedd arno dipyn o arswyd er hyny, a safai'n syn, yn awr ac eilwaith, gan adfyfyrio dros yr hyn a gymerth le: ofnai weithiau mai dyma'r tro diweddaf iddo byth gael golwg ar "y tŷ gwyn a'r tô gwellt". yn yr hwn y ganed ac y maged ef. Waith arall, codai ei galon, a gwelai fyd o hawddfyd o'i flaen. Pan yn nghanol yr adfyfyrion hyn, clywai yn ei ymyl sŵn rhai o'i hen gydnabod, y pysgotwyr, yn tynu eu rhwyd i'r lan. Rhegai y rheiny'n echrydus am na chawsant gymaint ag un pysg odyn: a chlywai un yn dweyd fod rhyw hen globen o For-forwyn wedi agor eu rhwydi, ac achub y pysgod braf oedd ynddynt, ac felly rhoddi eu rhyddid i'r cwbl.

Ciliodd ef oddiwrth y feisdon, ac unionodd am yr ogof: a phan yn safn hono, pwy a'i cyfarfu ond yr eneth a welsai yn "Ogof Deio" yn trin ei gwallt. Yr oedd erbyn hyn wedi cyfnewid yn fawr. Gwisgai fel boneddiges, ac yn un llaw yr oedd ganddi goron o aur pur, ac yn y llall gap o wneuthuriad rhyfedd. Dywedodd wrtho, A ddeuaist ti Ifan Morgan ?--yr wyf am dd'od i fyw am dro yn mysg dynion y tir: cadw hwn," ebai, gan estyn iddo'r cap; chadwaf finau hon," ebai, gan roddi y goron aur am ei phen, —"merch i frenin ydwyf.". Synai Ifan, druan, oblegyd yr oedd hi wedi cyfnewid yn fawr iawn. Pan welodd ef hi gyntaf yn yr ogof, nid oedd ond rhyw lafnes dan oed, ond yn awr yr oedd yn ddynes brydferth wedi llwyr dyfu. Er hyny, yr oedd yn amlwg mai yr un ydoedd drwy'r cwbl. Aethant ymaith pan oedd hi eto ond rhwng dau oleu, ac nis gwyddai Ifan Morgan pa beth i ddweyd. Yr oedd yn fud agos! Ofnai son wrthi am ei fwthyn annhrefnus; ond rhagflaenodd hi'r cyfan. Dywedodd, dan chwerthin, "Gwn dy fod yn awr yn myfyrio pa fodd y medri ddweyd wrthyf am dy gartref: na feddwl ddim am hyny, yr wyf yn ddigon hysbys o hwnw er's amser maith bellach. Yr wyf wedi cadw golwg arnat er yr adeg pan oeddit yn hogyn gwridgoch yn pysgota yn nghwch gwyn dy dad: a chlywais di yn canu rhyw gerdd y pryd hwnw, yr hon a beres i mi dy hoffi.

Pan soniais am dy gân ac y ceisiais ei hail adrodd yn Llys fy nhad, yr oedd ar bawb eisiau ei chael; bum ar ol hyny lawer gwaith yn clustfeinio am dani, ond ni chlywais air o honi byth wedy'n. Ce's o'r diwedd ganiatad gan fy anwylion i dd'od i chwilio am danat hefo thrysorau, gan feddwl na ddysget mohoni heb y cyfryw, i mi; a phan gyfarfuaist fi, canfuais nad oedd gobaith ychwaith ond trwy i mi gael fy ngwneyd fel y gweli fi yn awr. Fy enw, oeddwn yn fy ngwlad fy hun, yw Nefyn, a merch wyf Nefydd Naf Neifion, a nith i Gwyn ab Nudd a Gwydion ab Don: y mae genyf lawer byd o geraint yn eich byd chwi, a'm byd inau bellach: na feddwl ddim mwy am dy fwthyn: ond cyflawna yr hyn a ddywedaist, ac yna bydd pob peth er daioni.' Synodd Ifan Morgan fwy yn awr nag erioed ar ol clywed y fath hanes rhyfedd, a'r penderfyniad rhyfeddach fyth. Bloesg-ofynodd o'r diwedd, a wnai hi aros gydag ef" er gwell ac er gwaeth." Atebodd hithau y gwnâi, ar yr amod iddo ef bob amser guddio y cap o'r golwg, a dysgu'r gân iddi. Nid oes petrusder i fod na chydsyniodd ar unwaith, a phan fwyaf y goleuai'r dydd, mwyaf oll y gwelai Ifan brydferthwch ei ddarpar wraig.

Nid oedd dim ond priodi ar unwaith, ac aed at y gwaith o ddifrif—ac yn wir nid peth i chwarreu ag ef yw priodi—ni ddylid gadael iddo ddyfod ar warthaf dyn fel cawodydd Gwyl Grog. Hwyliwyd ati, ac aed y bore hwnw at y neb ag oedd ganddo awdurdod; a'r pryd hwnw nid oedd dim ond un mewn neb rhyw blwyf yn honi'r fath awdurdod. Ond pan yr aeth Ifan Morgan a Nefyn at y neb rhyw un hwnw, yr oedd y chwedl wedi myned ar led mai Morforwyn oedd hi, ac ni fynai ef gymaint a son am eu huno mewn glân briodas. Ond gwyddai Ifan pa beth a wnai'r tro. Y mae un agoriad a egyr bob clo, ond un; ac yr oedd yr agoriad rhyfedd hwnw ganddo ef. Sisialodd rywbeth, a thawelwyd cydwybod yr hen frawd mewn awdurdod rhag blaen. Rhyfedd y fath allu a dylanwad sydd gan yr offeryn hwn! Gwyr pawb beth yw.

y Priodwyd y ddau rhag blaen, a dyna ddiwedd ar yr annghaffael yna. Buont yn cyd-fyw yn dra chysurus yn mwthyn Ifan dros dro, ac yn crwydro gyda glan y môr yn fynych, ac nid oedd neb yn gwybod pa beth a ddeuai i'w rhan bob tro yr aent i mewn i "Ogof Deio."

Yn awr tröer am fynyd at hanes Deio. Un oedd yntau a fedrodd dynu sylw un o'r Môr-forwynion, ac aeth ef i fyw i'w gwlad atynt, a galwyd ef yno yn Dylan; ac yno yr arosodd, heb ddyfod byth yn nes i dir ei dadau na'r maen a elwir ar ei enw, sef yw hwnw Maen Dylan, ac yn Llanfeuno y mae'r maen hyd heddyw i'w weled.

Ond am Ifan Morgan a Nefyn ei wraig, gwell oedd ganddynt hwy anadlu'r awyr, na llyncu'r môr heli, ac felly, gwnaethant anedd gysurus a phrydferth i fyw ynddo heb fod yn mhell o'r lle y safai'r bwthyn. Ni bu dau erioed yn cyd-dynu yn well, ac yn defnyddio cysuron bywyd yn fwy rhinweddol. Bu iddynt amryw blant; dywedir amryw, oblegyd nid cyd-ryw mo'nynt. Bu iddynt bum mab a phum merch, a thyfodd pob un o honynt i'w maint. Dylid dweyd efallai nad aeth Nefyn gymaint ag unwaith i'w hystafell i orwedd i mewn, heb fod yno fab a merch! Pan fel hyn, yn nghanol eu dedwyddwch, nid anghofient un amser beidio a myned i'r Ogof, ac aml hefyd y byddent yn myned allan mewn cwch i ymddifyru hyd y môr. Un diwrnod, pan allan yn mhell o dir, a chwech neu saith o'r plant hefo hwynt, cyfododd tymhesti anniddan. Yr oedd y tonau yn maeddu poer, ac yn glafoerio fel ci cynddeiriog; a chlywyd ryw wichiadau hollol annaearol. Dychrynai'r plant, ac nid rhyw dawel iawn yr edrychai eu mam; ond yn fuan y gwelid hi yn plygu ei phen dros ochr y cwch, ac yn sibrwd rywbeth; ac er eu mawr syndod tawelodd y cwbl yn y fan! Cyrhaeddwyd y lan yn dawel ar ol hyn, ond yr oedd y plant hynaf yn methu'n lan loyw a dirnad yr oedd eu mam yn gallu tawelu'r môr. Rywbryd, fodd bynag, yn mhen hir a hwyr ar ol hyn, yr oedd plant hynaf Ifan Morgan yn myned heibio i dwr o hen ferched y pentref cyfagos, yn lloffa mewn cae, a chlywent dafodau flib-fflab y rhai hyny yn cabarlatsio yn ddibaid. Aeth un o'r plant atynt i'r cae, a rhyw fodd neu gilydd, tynodd un o'r hen ferched yn ei ben, ac ni fuasai yn waeth iddo dynu haid o wenyn meirch neu gacwn geifr yn ei ben na'r rhai hyn. Edliwiasant ddiogi ei dad iddo, a'i fod yn perthyn i Deio fawr," yr hwn a aeth yn was i'r Forwyn-fôr, a chywion Morwyn-fôr y galwasant ef' a'i frodyr a'i chwiorydd. Peth cas enbyd fydd am y tro cyntaf glywed rhyw hen rinciadau fel hyn yn cael eu taflyd i wyneb rhywun, ac yntau erioed heb glywed dim son am danynt, na breuddwydio unwaith yn eu cylch o'r blaen! Cafodd llawer un pan na wyddai ef yn flaenorol ddim am y peth, agor ei lygaid yn bur ddisermoni mewn tipyn o ymrafael; felly y bu yma. Cafodd y plant druain edliw eu mam ac eraill o epil eu tad yn hynod o ddifloesgni gan y giwaid tafotrwg oedd yn y cae yn lloffa. Parodd hyn i'r bachgen hynaf gymeryd ei feddwl ato, a throi a throsi yn ei fyfyrdod amryw bethau a welodd ef yn digwydd. Cofiai am yr adeg y siaradodd ei fam hefo rywun dros ochr y cwch, ac y tawelodd y tonau creisionog mewn chwiff: hefyd yr oedd rhyw ddirgelwch mawr iddo tuag "Ogof Deio." Yr oedd yn gwybod na byddai ef byth yn cael myned hefo'i dad a'i fam i'r lle hwnw. Yr oedd, yn wir, wedi bod yn yr Ogof ei hun, ond ni welodd ac ni chlywodd ddim byd yno mwy nag mewn rhyw ogof arall : er hyn i gyd, yr oedd yr edliwiad mai Môr-forwyn oeddei fam yn peri cryn drallod meddwl iddo. ClÌywsai ei fam hefyd, ambell dro, yn son am bethau na welodd erioed ddim byd yn debyg iddynt, yn enwedig am "lys Nefydd Naf Neifion," ac am "ddyffrynoedd Gwenhidiw," a "thiriogaethau Gwyn ab Nudd," ac yr oedd y tywysog olaf hwn wedi talu ymweliad a hwynt amryw droion; nid oedd dadl i fod nad teulu cyfoethog iawn oedd pobl ei fam; ond os Môr-forwyn oedd, dyna bob peth ar ben. Yr oedd y plant yn arw am eu mam, a hithau yn dyner, tawel, a thirion, bob amser. Un diwrnod daeth i balas Ifan Morgan ymwelydd,—ymwelydd na chai'r plant ddim cymaint a'i weled, yr hyn beth ni bu hefo neb o'r blaen. A rhyw ddechreunos, pan oedd y Deuad ieuanc newydd suddo dros orwel y Gorllewin, aeth Ifan a Nefyn allan yn ddistaw bach; ac er mor ddidwrf yr aethant, fe anmheuodd rhai o'r plant fod rhywbeth ar droed. Ond yr oeddynt hwy, sef Ifan a'i wraig, wedi dweyd wrth y pen gwas na ddeuent yn ol am dair wythnos neu fis, a chlywodd y bachgen hynaf hyn, a chyfododd ei chwilfrydedd yn fwy nag erioed: aeth ar eu hol hyd at lan y môr, a phan yno, gwelai dòn grychias fel bryn go lew, yn d'od oddi draw yn mhell yn y môr, a gwelai ei fam yn taflu mantell o groen dros ei dad a hithau, ac ill dau yn. ymollwng i fonwes glochog y don fawr; ac ni welodd ddim wed'yn ond y môr fel arferol. Cafodd brawf yn awr mai Môr- forwyn oedd ei fam, ac aeth adref, ac ymhen y naw diwrnod. druan, yr oedd wedi marw. Torodd ei galon yn deilchion mân pan wybu pwy oedd ei deulu! Pan welodd ei chwaer ei brawd wedi marw, aeth hithau i lan y môr a thaflodd ei hun iddo. Ond yn lle boddi, dyma ryw farchog glandeg ar gefn march ysplenydd yn ei chyfodi hi ar ei farch ato, ac yna yn marchogaeth nerth gafaelion y traed hyd wyneb y môr gan garlamu dros y tonau mawr fel ag y gwna ceffylau ein gwlad ni wrth hela. Ni wyddai'r gweision a'r morwynion yn y byd pa beth i wneud, oblegyd yr oedd Nefydd Morgan, sef y mab hynaf, yn gorph marw yno; ac yr oedd Eilonwy Morgan wredi taflu ei hun i'r môr. Yr oeddynt mewn penbleth ofnadwy: "Ond," ebai'r ail fab, sef Tegid Morgan, a bachgen gwrol a dihitio yn nghoegni neb oedd efe, os na ddaw cenad yma heno, rhaid claddu Nefydd, a thyma'r hyn wnawn; nyni a'i cymerwn i'r feisdon, ac ond odid na ddaw rywun i'w nol er mwyn iddo gael ei gladdu yn mysg teulu mam." Ond tua haner nos dyma genad, sef Marchog, yn eu hysbysu "byddai'r angladd y bore hwnw am dri; ond y deuai eu brawd atynt yn ol, am iddynt beidio ag wylo; a bod eu chwaer Eilonwy i gael ei phriodi yn fuan hefo un o farchogion glanaf a gwronaf Gwerddonau Llion: fod eu tad a'u mam hefo Gwyn ab Nudd yn y Gwaelodion, a bod Gwydion ab Dòn i gyfarfod yr angladd, ac i droi'r cwbl yn llawenydd trwy roi calon newydd i Nefydd Morgan, yr hon ni thorai o dan bwysau yr holl fyd crwn cyfa! Yr oedd yr holl bethau hyn yn rhyfedd! Ond tri o'r gloch y bore hyny aed a'r arch i lan y mor, a rhoed ef yn y fan lle bydd y tonau yn ymhyfrydu bod,—yn haner y gorlan: nid cynt nag y cyffyrddodd ton â'r arch nad oedd y cauad yn agor o hono ei hun, a Nefydd yn neidio allan o hono fel llamhidydd o'r dwfr. Ac mna gwelwyd Gwydion ab Dòn yn rhodio fraich-yn-mraich ag ef at long oedd yn aros draw. Iddi yr aethant, ac ni chlywodd y rhai oedd ar y lan y fath ganu peraidd erioed. Hwyliodd y llong ymaith, ac yr oedd yn myned dros y tonau heb gyffwrdd ond a'u brig yn unig.

Rhyfeddai pawb, ac ofnent yngan gair, y naill wrth y llall hyd yn oed, rhag ofn fod yno rywun o deulu eu meistres yn gwrando! Yn mhen un dydd a blwyddyn gron daeth Ifan Morgan yn ei ol, a phrin yr adwaenai ei blant ei hun ef; yr oedd wedi cyfnewid yn fawr nid er gwaeth, fel y mae hi fynychaf; ond yn ddilys er gwell. Ni soniai air am Nefyn, hyd yn oed wrth ei blant; o'r diwedd gofynodd Tegid iddo, pa le mae'n mam?" "Y mae hi yn Nwfn-gwm Eigion Annwn yn chwilio am hynt Eilonwy eich chwaer, yr hon a ddiangodd oddiwrth ei gŵr o Werddonau Llion, ac aeth yn ossymaith hefo Glanfryd ab Gloywfraint. Daw yn ol cyn hir, a chewch yna hanes y rhyfeddodau a welsom ac a glywsom." Aeth Ifan Morgan i'r wely, ond erbyn bore dranoeth yr oedd wedi marw yn ei wely, a choelid yn gyffredinol nad oedd wedi cael chware teg, oblegyd yr oedd y teulu er's tro wedi gweled Marchog Du yn d'od i mewn gefn trymydd y nos, ac yn rhoi tro yn y Neuadd, ac yna'n diflanu i'r ffynon oedd bwrlwmu mewn cul-gell gerllaw. Aethpwyd ar ei ol lawer gwaith, ond ni cheid dim o'i ol; oblegyd diflanai. Yr oeddis wedi ei weled o ddeutu yn lled ddiweddar, a thybid mai ef a wnaeth ben ar Ifan Morgan. Mawr oedd y twrf yn nghylch y digwyddiad, a chlywid aml un o'i hen gydnabod yn dweyd o dan eu danedd, "O hir ddilyn drwg y mawrddrwg a ddaw," a "Drwg yw'r drwg, a gwaeth yw'r gwaethaf," yn nghyda "Llawer bore clir, noswylia yn gymylog."

Ond claddwyd Ifan Morgan yn barchus, a bore ei gynhebrwng yr oedd Nefyn wedi dychwelyd! Wyla i'n hidl am dano, ac ni welwyd mo honi'n llwybro daear ar ol y diwrnod hwnw! Tegid oedd yr etifedd penaf yn awr, a gwnaeth ef dro brawd â'i frodyr a'i chwiorydd, Dygodd hwynt i fynu yn foneddigaidd, a cheisiodd gadw oddi-wrthynt bob chwedl ddrwg yn nghylch eu mam, &c., ac fe anfonodd ei chwiorydd i wlad bell i gael eu haddysgu yn y dull goreu; a dygodd ei frodyr i fynu yn y dull costusaf. Yr oedd Tegid hefyd wedi penderfynu, os oedd modd, fwrw dros gof yr hyn a boenai ei frawd gymaint: ei air cyswyn oedd, "dyn yw dyn; ac nid llai dyn chwaith." a chan ei fod ef yn ddyn, ac yn profi hyny yn feunyddiol mewn mwy nag un dull, ni faliai pa beth a sisialid yn nghylch eu deulu. Yr oedd yn gyfoethog iawn, oblegyd po fwyaf a wariai, mwyaf yn y byd a ddeuai i mewn: ac nid oedd un achos da, nad oedd ef yn gymwynaswr iddo. Yr oedd un peth, er hyny, yn ei flino yn fawr, sef pa fodd y daeth ei dad i ben ei daith mor ddisyfyd. Un diwrnod, pan oedd ef a dau frawd iddo yn pysgota yn yr arfor, daethant, wrth fyned o flaen y gwynt, i'r lle rhyfeddaf a welsent erioed; yr oedd y môr mor lyfn a gwydr, ac mor ddisglaeriaf a'r goleuni cliriaf! Gwelent, heb fod yn mhell iawn oddiwrthynt, faesydd ffrwythlonaf a dolydd mwyaf porfelog: y gwrychoedd a'r cloddiau yn flodeuog arbenig, a'r llwyni gwyrddleision a'r coedwigoedd ireidd-dwf yn cyforio'n ddeiliog! Yr afonydd yn ddiog orwedd gan ymlawenhau wrth edrych ar eu cysgod eu hun. Draw ao yma yr oedd aneddau prydferthaf, cgywrain gynllun a theg adeiladaeth; ac yn y lle, gwelent bob rhyw fath o lawenydd a gorhoenedd; digrifwch a mwyneidd-dra; ac mewn ambell i le, amlwg oedd fod yno berori melus gainc awen a cherdd, yn nghyda'r dawnsio mwyaf ystig. Megis yn y tonau mân gwrymiog yr oedd ad-sŵn yn aros, a phan oeddynt hwy wedi blino'n syllu, yr oedd rhyw sŵn yn eu dilyn nes y daethant i'r lan. Wedi myned adref y noson hono, breuddwydiodd y tri brawd yr un peth; sef fod y Marchog Du yn ymguddio mewn ogof yn nglan y môr. ac mai efe a lindagodd eu tad. Ar ol adrodd eu breuddwydion y naill wrth y llall wrth gymeryd eu boreubryd, penderfynwyd myned yno i'w ddal: ond pan ddaethant i'r ogof, o dan luwch llwyd o ewyn tonog. dihangodd, a gwelent ef yn myned ar hyd gwyneb y môr fel pe buasai ar weirglodd deg yn marchogaeth er mwyn digrifwch. Y diwrnod hwnwyr oedd eu chwiorydd yn croesi cainc o for wrth dd'od adref o'r ysgol, a phan oeddynt tua haner y ffordd cododd yn dymhestl ddychrynllyd, a suddodd y llestr a boddwyd y cwbl, a choeliai'r brodyr mai'r cenaw anhwylus y Marchog Du a wnaeth hyn o ddial arnynt hwy.

Tua'r adeg hon, cododd cynhwrf mawr yn mysg y pysgotwyr oherwydd rhyw for-neidr enbyd a welidi yn awr ac eilwaith yn ymdorchi am y creigiau gerllawyr ogofàu; ac nid oedd na byw na bywyd i Tegid a'i frodyr heb dd'od allan ryw ddiwrnod i'w lladd: allan yr aethant wedi ymarfogi, ond pan yn ymyl y fan lle gwelid hi fynychaf, mewn llais dwfn, gwaeddai rywun, "Cymer ofal niweidio dy chwaer." Synasant yn arw, ac aethant ymaith yn bur ddiswta. Y noson hono aeth Tegid ei hun i lan y môr ac at y lle y meddyliai yroedd y for-neidr, a dechreuodd alw arni erbyn ei henw, ond nid oedd neb yn ateb am yn hir. Pan bron a blino'n disgwyl, gwelai hi yn ymlusgo ato, ac yn adrodd iddo mai cosp arni oedd hyn, ac y byddai'n rhaid iddi barhau felly am beth amser wed'yn; cyfaddefodd pa beth a wnaeth, sef dianc ymaith gydag un na ddylasai. Dywedai iddi hi weled ei chwiorydd yn rhodio hefo'u mam, a bod eu tad i ddod i'r Ogof yn fuan: ar amrantiad dyma'r Marchog Du atynt, a thyma'i gleddyf yr hwn oedd yn disgleinio fel fflam dân, yn cael ei daflyd lawr yn noeth. Yna gydag ef torodd y for-neidr i fil neu fwy o ddarnau; ond ymiachai hi bob gafael, fel erbyn iddo fyned i un pen yr oedd y llall wedi d'où fel o'r blaen ac o'r diwedd ymglymodd y neidr am ei wddf, a brathodd ef yn arswydus yn ei ddwyfron. Pan yn y miri hwn dyma'r Marchog Gwyn yno, ac heb seremoni rhedodd ei waywffon drwy gorph y Du a chwympodd ef yn y fan, ac ymaith a'r Gwyn ar darawiad a'r for-neidr yn dorch am ei wddf. Dihangodd Tegid am ei hoedl, ond nid cyn i ryw anghenfil erchyll ei weled a bygwth am ei fywyd ef. Yr oedd hwn yn anferthach na dim a welodd erioed: ac yn gallu byw yn y tir yr un fath ag yn y dwfr. Croch lefai, "Daw dial, dial daw," a Hir yr erys Duw heb daro, llwyr y dial pan y delo." Troai o gwmpas Tegid yn mhob ystum a dull. Weithiau byddai fel môr, ond medrai Tegid nofio: bryd arall fel mynydd o îa, ond gallai Tegid ei ddringo: ambell waith fel ffwrnes o ufel, ond ni fennai y tân ar Tegid: ond fynychaf fel cyd-grynhöad o beth bwystfil ac anifail ysglyfaethus a gwenwynig: eto Tegid oedd dawel a digynwrf; a phan oedd bron a rhoddi ei galon i lawr dyma ddyn ieuanc ato ac yn gafael yn ei fraich, ac yna'n dywedyd wrtho, "Nac ofna; cei nerth." Ar hyn dyma'r anghenfil yn dianc ymaith gan ysgrechian, a llu mawr o Farchogion mewn dillad ysplenydd ac ar feirch hyweddus yn prancio ac yn ymgodi, ac yn mysg y llu gwelai ei frodyr, ac yntau ei hun hefyd a aeth yn eu gosgordd i wlad ei fam. Ca'dd groesaw arbenig; a chyfarfu a phawb yno'n hapus, ond ei dad. Meddyliodd am fyned i chwilio am dano i'r byd uchod, a chafodd ganiatad ei daid i'r perwyl hwn. Daeth ef a'i fam a'i frodyr i chwilio am gorph Ifan Morgan, a chydag ef yr oedd Gwydion ab Don a Gwyn ab Nudd. Ond ar ol d'od at fedd Ifan Morgan ni fynai ei ddeffro, a pha beth a wnaeth ei ail fab, yr hwn a hoffai ei dad yn fawr, ond gofyn caniatad i orwedd ar ei fedd nes y dadebrai; ac felly y gwnaeth. Ac ar fedd Ifan Morgan yr erys Tegid hyd y dydd hwn, yn dyst o ffyddlondeb a serch mabaidd. Bydd ei fam yno'n d'od i'w ddyddanu, a'i frodyr hefyd yn anfon anrhegion iddo, ac yntau yn anfon ei roddion i Nefydd Naf Neifion ei daid; ac yn byw mewn heddwch a thawelwch a phawb hyd y gall, a dywedir fod ei chwaer Ceridwen, sef ei gyd-gyfaill ef, wedi d'od ato i fyw er's tro hir, a'u bod yn gwneyd y llawen yn llawenach, y tlws yn dlysach, a'r pur yn burach, ac yn cadw i fynu eu hurddas a'u hanrhydedd mewn heddwch a thangnef, heb doll na mall. Ac felly y terfyn teulu'r Fôr-forwyn.


Nodiadau

golygu