Cymru Fu/Sôn am Ysprydion

Ystori Doethion Rhufain Cymru Fu
Sôn am Ysprydion
gan Isaac Foulkes

Sôn am Ysprydion
Priodas yn Nant Gwtheyrn

SON AM YSPRYDION.

(Gan Glasynys.)

NID wyf am haeru fod bwganod yn ymrithio i neb. Yr unig bethau ag y mae arnaf flys rhedeg drostynt, ydyw rhyw swp o chwedlau digrif a glywais draw ac yma. Coelied a goelio, a pheidied a beidio, ni bydd hyny yn ddim ar wyneb y ddaear gron genyf fi. A pheth arall hefyd, nid ydyw yn beth o angenrhaid fy mod i, mwy na'r hen bobl a glywais yn adrodd y pethau hyn, yn eu dilys gredu. Nofelau bychain, efallai, ydynt; ac er na feddant ddilysdeb gwir hanesyddol, coeliaf fod ynddynt er hyny addysg a gwir moesol. Yn awr, i ddechreu, hefog un o Fwganod Mawddwy, sef


BWGAN Y BRYN.

Lle rhyfedd odiaeth ydyw hen gwm cordeddog Mawddwy. Y mae ei droadau cornelog a'i lethrau glaswelltog yn addurno'r fro yn dra phrydferth. Ar waelod y cwm, y mae'r hen afon Dyfi fel llinyn arian yn di-sŵn lithro yn nghanol y ceinder a'r tlysineb penaf. Yn nghwr y Pennant, wrth sawdl Bwlch y Groes, ac yn nghanol ysgethrin ddaneddog yr Aran, y mae palas a elwir y Bryn. Nid ydyw o ddim pwys ar y ddaear pwy fu yno yn byw, na pha bryd y bu'r olaf o'r teulu farw; pwy oedd ei briod, nac o ba âch y daethant — nid ydyw erbyn hyn o ddim pwys i neb, am a wn i; ond y mae'r hyn a welodd amryw o bobl meddan nhw, yn deilwng o sylw. Yn y cyfnos du, pan fyddai hen bobl y Cwm yn eu hûn a'u heddwch, fe welodd rhai ag oeddynt yn digwydd bod allan ar yr adeg hono o'r nos, bethau pur wrthun; ac nid neb felly yn fwy na llanc ieuanc o'r enw Deio.

Bachgen tirion a charedig oedd Deio, ac nid oedd neb mwy cymeradwy nag ef; ond rywfodd neu gilydd, nid oedd yn wiw iddo fyned allan ar ol deg o'r gloch, oblegyd yr oedd rhywbeth ar gefn ceffyl gwyn yn ymddangos iddo yn wastadol. Un nos dydd Nadolig pan oedd yn myned i ddanfon adref eneth ieuanc (ei wraig er's blynyddoedd bellach), pan ar Riw'r Offeiriad, dyma'r Ceffyl Gwyn yn dod nerth y carnau ar ei ol; a phan ddaeth gyferbyn â hwynt, arafodd, a cherddodd yn amyneddgar ochr yn ochr hefo'r ddau am hir ffordd. O'r diwedd, troisant hwy i dŷ cyfaill, a da oedd gan eu henaid gael lle i ochel. Yno yr arosasant am oriau yn llawn braw. O'r diwedd, penderfynodd Deio gychwyn adref, a gadael ei gydymaith ar ei ol tan y bore. Nid oedd efe wedi gadael y tŷ neppell, nad oedd yr hen law ar gefn y Ceffyl Gwyn wedi cael trywydd arno drachefn; a thyma'r ddau yn cyd-drafaelio'n law- law. Bu tipyn o ymgom rhyngddynt, a gorchymynwyd i Deio gyfarfod y gŵr march gerllaw y Bryn ar noson bennodol, ac ar adeg a nodwyd. Ac ar ol hyny, ymaith â'r ceffyl a'r marchog drwy'r coed, gfel corwynt. " Y noson apwyntiedig a ddaeth, ac nis gallaf wneud yn well na dyfynu geiriau ei fam er dangos teimladau trwmbluog y bachgen a'i rieni. "Yr oedd Deio, druan," ebai, "yn crynu pan yn cychwyn o'r tŷ fel dail yr aethnen. Mi eis hefog ef mor bell â'r llidiard sy'n myned i'r ffrynt; ac yna fe aeth y creadur gwirion ei hun i lawr tan grynu i'r berllan— a chlyw-wn i ryw siffrwd rhyfedd. Ofnais unwaith fod rhywbeth wedi lladd fy machgen gwirion, oblegyd yr oedd yno'r gruddfaniadau mwyaf torcalouns a glywais erioed. Ond ar ol hir ddisgwyl, mi welwn Deio yn dod yn ol ataf yn araf deg; a'r fynyd y daeth o fewn cyrhaedd, syrthiodd i fy mreichiau yn farw gelain. Bu arnaf fyd chwith yn ceisio ei lusgo adref, ac ni fedrai yngan gair o'i ben am hir amseroedd." Dyna chwedl y fam. Dywed Deio ei hun i'r hen Geffyl Gwyn dd'od yno, a dangos iddo ryw ddirgelwch, ac nas gall ef byth adrodd y cyfryw wrth ungwr byw bedyddiol. Ond nid Deio ydyw yr unig un a welodd y Geffyl Gwyn yn ymyl y Bryn; na choelia'i fawr. Gwelodd Jack y Cwm ef unwaith neu ddwy gefn trymwedd y nos, a dywed eraill iddynt yn aml weled rhywbeth. Yr Hen Gutto, Ty-nant, coffa da am dano, a fu lawer gwaith yn ysgoi'r fan yn mhell bell, er mwyn peidio rho'i siawns i'r peth cas dd'od ar ei draws. Mynych y safai'r ddrychiolaeth ar y grisiau; bryd arall, ysgydwai y tŷ hyd ei sylfeini; ac yr oedd yno un offeryn i gludo glo ar y tân a fyddai yn cael ei herlyd yn ddiwêdd. Byddai hefyd mewn un ystafell yn fynychach na'r un arall; paham, nis gwn — oddieithr fod rheswm da yn peri, sef rhyw erchyllwaith ddieflig. Nid oes dadl na bu'r Bryn yn nythle pob dyhirwaith a fedrai'r Un Drwg ddyfeisio, ac ni d rhyfedd ynte fod y Cryf Arfog yn gwneud ei oreu i gadw ei neuadd; ond dros ba hyd y gwna, nis gwn. Y mae Deio, fodd bynag, wedi cael llonydd ganddo er's tro bellach, ac yn myned heibio'r lle yn lled ddiarswyd; ac nid oes neb yn awr yn cael ei flino yn y lle a'r fan. A gobeithio y ceir llonyddwch o hyn allan tra fo'r Ddyfi lân yn "llyfndeg redeg yn rhydd."

BWGAN LLANEGRYN.

Ond pa beth oedd rhyw erthyl o fwgan fel yna i'w gyffelybu i'r un y bu Williams y Ficer mewn ymdrech mor felltigedig ag ef? Yrwan am dani hi. Rhyw dri ugain a deg, mwy neu lai, o flynyddoedd yn ol, cythryblid pobl plwyf Llanegryn, Meirion, gan ryw ysgerbwd anweledig mewn modd hyn od o annhrugarog. Yr oedd yr hen fachgen dyddan, duwiol, a da, Lewis Williams, o Lanfachraith, yn byw ac yn bod yn yr ardal ar y pryd hwnw, a chan ei fod ef pan yn fyw yn cael ei gyfrif yn ddyn geirwir, ie. geirwir iawn, y ffordd decaf o'r haner ydyw cofnodi yr hwn fyddai ef yn ei ddweyd yn nghylch y trybini y bu ynddo. Hen ŵr eithaf diofn oedd Lewis, ac ymddengys ei fod felly er pan oedd yn llefnyn. Dywedai ei fod yn cofio unwaith bod yn cynull mewn cae yn perthyn i'r tyddyn dan sylw. efe a llawer eraill hefyd; ond ar ol iddynt rwymo tua haner y cae, daeth rhywbeth anweledig i ddatod pob ysgub yn mhob ystwc, gan eu hysgrialu o gwmpas y lle yn dryblith-drablith." Nid unwaith na dwywaith y gwnaed hyn," ebe fe, go flaen fy llygaid, ar gefn canol dydd goleu. " Aeth Lewis William hefyd i gysgu i'r tŷ ryw noson er mwyn ceisio gwastadhau, os oedd yn bosibl, y fath gynhwrf anhyfryd. Ond nid oedd dim siawns cael llonydd; yr oedd rhywbeth ambell dro o dan y gwely, bryd arall uwch ei ben; weithiau tua'r traed, a phryd arall yn tynu'r gobenydd i ffwrdd: ac yn y diwedd fe ysgystiai'r holl dŷ mor gynhyrfus. fel y gorfu ar y teulu chwilio am gymhorth o le arall. Nid dyn digalon, llwfr, a gwael, oedd Lewis William; na. nid ar chwareu bach y rho'ai ef y goreu iddi; ac felly fe benderfynodd wneud ail gynyg arni hi. Cymerth Fibl a chanwyll, ac i'r ystafell a flinid fynychaf yr aeth. gan feddwl treulio'r nos mewn gweddio a darllen y Gair Dwyfol; ond gwarchod pawb! yn mhell cyn haner nos, dyma yr hen gythryblwr yn dechreu arni hi,ac er gwaethaf na Bibl, na gweddi, dechreuodd hel a thrin yn iawn.

Dyma fo'n peri "i fab Sian bach fyned yn nghylch ei fusnes ei hun," ac yn llenwi y lle â drewdod mwyaf annioddefol. Yr oedd oglau mawr ar ddillad Lewis dranoeth. "Noson ofnadsan oedd hono," meddai, "ac nis gwn yn siwr felly, pa sut y fu hi yno i gyd; ond methais, beth bynag, a gwastradedd y peth." Âr ol hyn, awd am yr hen Williams y Ficer, oblegyd nid oedd neb yn yr oes hono yn debyg iddo. Bu ef mewn amryw fanau yn siarad neu rhywbeth efo'r cyfryw gythryblwyr anghyweithas; ac er iddo farw yn werth tua deugain mil o bunoedd, nid oddiwrth y rhai hyny y mae yn cael ei adnabod gan ei ôl-oeswyr, ond fel y dyn a fyddai yn "gostegu cythreuliaid." Awd i ymofyn yr hen Ficer yno o rywle, pe dae waeth, a daeth yntau yn unol â'r cais, a bu yno helynt blin. Methai yn lân loyw landeg a chael na phen na phont ar yr Un Drwg, a dywedai ei chwaer fod ei ddillad pan ddaeth yn ei ol yn drewi yn enbydus; fod oglau brwmstanaidd ar ei gnawd am ddyddiau. Ond bu ef yn fwy ffodus na Lewis William, oblegyd medrodd ef -wastadhau'r cythrwfl, ac ni bu mwyach ddim o'r twrf câs pensyfrdanol yn blino'r bobl a gyfaneddent y lle; a thyna ddiwedd BWGAN LLANEGRYN, yn ol a glywais i.

BWGAN SALI MINFFORDD,

A

CHAMPAU BESSI RISIART

.

Byddai f' Fewyrth Tomos, Esgair Adda (un o hen deulu Mawddwy, heddwch i'w enaid), yn ddefosiynol iawn pan yn adrodd am ystumiau câs y ddwy globen anhywaith hyn, Byddai drychiolaeth yn dilyn Bessi yn wastad, weithian yn weledig, ac weithiau heb fod felly. Unwaith, pan oedd yn ymyl Esgair Adda yn gofyn cymhorth y plwyf (oblegyd tad f' Ewyrth Tomos oedd y Warden), dywedai gyda llŵ rheglyd, os na chai yr hyn a geisiai y byddai yn edifar i'r hen ŵr cyn pen ychydig o fynydau. Dywedodd yntau yn bur ddifater wrthi, "Amser a ddengys, Bessi" Ond cyn pen tri mynyd yr oedd y defaid yn bowlio dros y llechweddau yn ystrim-ystram-ystrellach, ac yn tori eu gyddfau wrth y dwsingau; a da i galon yr hen fachgen oedd gwneud i fynu'r heddwch hefo'r greadures ddieflig. Ond daeth ei hamser i ben (oblegyd coelid ei bod wedi gwerthu ei hun i'r diafol), a rhyw ddiwrnod fe'i cipiwyd i ffwrdd gan rywbeth, ac ymaith â hi dros lechweddi Cowrach fel "rhedynen o flaen corwynt;" a'r olwg gyntaf a gaed arni wedyn oedd yn y gored gerllaw Mallwyd wedi marw yn gelain geg-oer; a dywedir mai golwg pur fawr oedd ar ei chorpws gwrthun. A thyna ddiwedd Bessi, er ei holl ddewiniaeth.

Ond os un gâs oedd Bessi, canwaith mwy cythreulig Sali. Ni chai neb lonydd yn nghwsg nac yn effro gan yr ellylles felynddu hon. Pan oedd yn llafnes o eneth, nid oedd neb yn y cwm a hoffid yn fwy; ond ryw fodd fe aeth yn rhy lac a gwantan hefo ryw drychfil o ŵr mawr oedd yn byw heb fod neppell o'r fan. A chollodd Sali ei choron, ac er y pryd hwnw gwell filwaith fuasai iddi ymgrogi na bod yn gorfod byw fel yr oedd hi. Yr oes i dir melltigedig dewinio, ac nid oedd un peth dan haul y ffurfafen nas gwnai os medrai. Ni cheisiai wneud dim ond poeni a chythryblu pawb. Tarawai laeth ambell i fan fel na fedrent ei gorddi, gwnaent a wnelent: rho'ai hud ar ddefaid le arall, ac ni fedrai cant o fugeiliaid eu cadw ar eu cynefin: gwnai lygad-croes ar fuches fan draw, a myswynogydd fyddai'r holl dda blithion am dair blynedd o leiaf, ac odid fawr nad erthylu fyddai diwedd y trybini llawer geneth wenithaidd iachus a wnaeth yn adyn gwelw afiach; a llawer mam a wnaeth yn amddifad o'r rhai ag yr oedd ei chalon wedi cael ei chyplysu â hwynt. Dywedid na chysgai na dydd na nos, ond y byddai yn gwylio am ymddangosiad drychiolaethau. Ac yr oedd yn medru cael gwybod pob rhyw gynllun a wneid er mwyn ceisio cael ymwared â hi. Pan oedd dau neu dri un noson mewn tŷ tafarn yn y Ddinas wedi bwriadu myned â hi yn un aflwydd cebystr i'r Amwythig, a'i dwyn dan law'r gyfraith, cafodd wybod hyn oll cyn y bore, ac yr oedd wedi peri i chwech o fustych un syrthio tros y graig; wedi medru gyru cŵn yr ail i ladd ei ddefaid o'u cyrau; ac wedi rhoi diofryd arall ar y trydydd fel na fedrai, pe caisai'r byd am ei boen, fod yn llonydd am ddim un mynyd. Yr oedd yn meddwl pan eisteddai fod pigau eithin a drain yn mhob peth, ac felly yr oedd yn gorfod crwydro fel llwdn â'r bendro; eisiau cael eistedd, ac yn methu bod yn llonydd; blino'n crwydro, ac eto nis gallai aros amrantiad yn yr unman.

Ond yr oedd gŵr cyfarwydd yn rhywle yn y Deheudir, ac ato yr aed am swyn ar gefn Sali, a chaed un ofnadwy. Dechrsuodd ei heu gydymaith (cythreulig) ei hysu a'i chigyddio yn arswydus, ac nid oedd derfyn ar ei phoenau; rhedai oddiamgylch gan waeddi'n wyllt, "Dyma fo! dyma fo!" ac yna dyrwygai ei chnawd mewn modd mileinig Pan gaffai rywfaint o seibiant, naill ai byddai yn gweddio, neu yn tyngu, gan erfyn am ychwaneg o boenydiau croesdynns i'r adyn a'i hudodd oddiar lwybrau rhinwedd. Ond erbyn rhyw fore, yr oedd Sali wedi croesi'r llinell. Dy- wedir fod ei chorph yn ysgynon mân — nad oedd yno fodfedd o groen cyfa, nac un asgwrn heb ei falurio. Bu ei thŷ yn annghyfanedd am hir feithion flynyddoedd, ac y "mae nhwn deyd" nad rhyw dawel iawn ydyw y lle hyd yn oed yn ein hamser ni. Cafodd Rhys y Cwm "meddan nhw;" afael ar rai o lyfrau Sali, ond methodd a'u deall, ac felly fe ddarfu am y cwbl o swynion Sali o fewn terfynau Cwm Mawddwy.

Dyna swp o goelion mynyddig.


Nodiadau

golygu