Cymru Fu/Ystori Doethion Rhufain

Tudur Aled a'r Bysgodwraig Cymru Fu
Ystori Doethion Rhufain
gan Isaac Foulkes

Ystori Doethion Rhufain
Sôn am Ysprydion

YSTORI DOETHION RHUFAIN.

DECLEISIAN oedd ymherawdwr yn Rhufain. Ac wedi marw Efa, ei wraig briod ef, a gado un mab a oedd etifedd iddo ef, efe a ddanfones i nol SAITH DOETHION RHUFAIN ato; sef oedd eu henwau, Banteilas, ac Wystws, a Leteilws, a Malcwidas, Cato Hen, Iesse, a Marteinws. A'r gwyr hyny, wedi dyfod, a ofynasant i'r ymherawdwr pa achos y cyrchasai efe hwynt yno. "Llyma yr achos," ebai'r ymherawdwr, "un mab y sydd i mi, a'i ro'i a wnaf i ddysgu moesau a defodau." "Rhyngwyf fi a Duw," ebai Banteilas, "pe rhoddit ti dy fab ataf fi, mi a ddysgwn iddo gymaint ag a wn inau, mi a'm chwech cydymaith, erbyn pen y saith mlynedd." "Ie," ebai Gwstws, "rhodder y mab ataf fi, a mi a ddysgaf iddo erbyn pen y saith mlynedd gymaint aga wn, mi a'm chwech cydymaith." "Ie," ebai Cato Hen, gherwydd y ddysg a'r athrylith a gymero y mab, addawaf fi ei ddysgu iddo ef." "Ie," ebai Iesse "os ataf finau y rhoddi di dy fab i ddysgu, minau a'i lysgaf ef goreu gallwyf.g Ac yna y cafas yr ymherawdwr yn ei gynghor roddi y mab, ar faeth, at y Saith Doethion; ac adeiladu tŷ a wnaethpwyd ar lan yr afon Deibr, mewn lle caruaidd ar ddyffryn gwastad sych ar Faes Rhufain; fel y b'ai ddisathr y lle hwnw. A hwy a ysgrifenasant y Saith Celfyddyd ar y wal o bob parth i'r tŷ, ac a ddysgasant y mab onid oedd aeddfed ei synwyr, a chymhenddoeth ei barablau, ac araf-gall ei weithredoedd.

Ac yna y priodes yr ymherawdwr ymherodres wych o wlad bell, a dyfod a hi i'w lys ef. Ac ar ben talm o amser, hi a ymofynodd â phob dyn a oedd dim plant i'r ymherawdwr; ac un diwrnod, gofynodd i hen wrach heb un dant yn ei pben, "Er y nef, mynag i mi y gwir." "Nid oes iddo un mab," ebai'r wrach. "Gwae fi ei fod heb yr un," ebai'r ymherodres."Ni raid i ti hyny," ebai'r wrach, "ef a gaiff blant o honot ti, er nas caffai o arall; ac na fydd di drist, un mab y sydd i'r ymherawdwr, yn ei ddysgu gyda Saith Doethion Rhufain." Ac yna y daeth hi at yr ymherawdwr yn llawen, gan ddywedyd wrtho," Paham y celit ti dy blant rhagof fì?" "Nis celaf finau bellach yn hwy," ebai'r ymherawdwr, "ac yforu mi a ddanfonaf un i'w nol ef. "

A'r noson hono, fel yr oedd y mab a'i athrawon yn rhodio yn yr hwyr, hwy a welent yn eglurder y ser a chyffroedigaeth y sygnedd, y byddai y mab yn ŵr dienydd, onibai amddiffyn cymhenddoeth arno. A'r mab ei hun a weles hyny, ac yna y dywed efe wrth ei athrawon fel hyn: —"Pe amddiffynech chwi fi â'ch doethineb y saith diwrnod cyntaf, minau a amddiffynwn fy hun yr wythfed dydd." Ac addo a wnaethant.

A thranoeth, wele genadau yn dyfod oddiwrth yr ymherawdwr yn erchi dyfod â'r mab i'w ddangos i'r ymheredres newydd. Yntau a ymdrwsiodd mewn sidan, a melfed, a brethyn aur; a myned a wnaeth tua llys yr ymerawdwr a'i athrawon gydag ef. Yna, wedi ei ddyfod i'r llys, a'i groesawu gan ei dad a'r holl foneddigion, ni ddywed ef un gair. A drwg yr aeth gan yr ymherawdo weled ei unig fab yn fud; ac erchi ei ddwyn i'w ddangos i'r ymherodres. Pan y gweles hithau ef, hi a enynwyd o'i serch. A hi a'i dug ef i fewn ystafell ddirgeledig, a thrwy gellwair geiriau serchol yr ymddiddanodd hi âg ef, gan geisio ganddo adael llwybrau rhinwedd. A'r gwas ifanc, pan weles hyny, a adewis y tŷ iddi hi; a hithau, pan weles hyny, a roddes lef uchel, a thynu gwisg ei phen, a'i fwrw i'r llawr; a chyrchu tuag ystafell yr ymherawdwr; a rhyfedd nad oedd ysig penau ei bysedd, rhag mor ffested y maeddai ei dwylaw yn nghyd; a myned i gwyno trais a gorddwy wrth yr ymherawdwr rhag y mab, a dywedyd ei fod ef yn ceisiaw dwyn trais arni hi. Ac yna y tyngoddyr ymherawdwr y llŵ mwyaf — un a'm fudaniaeth ei fab, nad oedd waeth ganddo ei farw na'i fyw; yr ail, o achos sarhad y frenines — na byddai ei enaid ynddo yn hwy nag hyd dranoeth.

A'r nos hono, y dywed yr ymherodres wrth yr ymherawdwr,"Ef a dderfydd i ti am dy fab fel y darfu gynt i'r pren pinus mawr o achos y binwydden fechan ag oedd yn tyfu yn ei ymyl, a changen o'r fawr yn llesteirio i'r fechan dyfu. Yna yr erchis y bwrdais bioedd y gwydd i'w arddwr dori cangen y binwydden ben ag oedd yn llesteirio ar y fechan gyfodi. Ac wedi tori y gainc, y pren yn gwbl a grinodd; ac yna yr erchis ei dori oll. Megys hyn y derfydd i tithau am dy fab a roddaist i'w feithrin at y Saith Wyr Doeth, er colled i ti. Y mae ef dan gêl yn ceisio undeb y gwyr da hyn, i'th ddistryw di. "

A'r ymherawdwr a lidiodd, ac a addawodd ei ddyfetha dranoeth. Wedi treulio y dydd hwnw a'r nos hono ar ardduniant a digrifwch i'r frenhines, yn ieuenctyd y dydd dranoeth y cyfodes yr ymherawdwr, a gwisgo amdano, a chyrchu i'r dadleudy, a gofyn i'r doethion pa angau a wneid ar ei fab ef.

Yna, codes Beatilws i fynu, ac a ddywedodd fel hyn: — "Arglwydd ymherawdwr," ebai ef, "os o achos fod dy fab yn fud y peri di ei roddi ef i angau, iawnach fyddai bod yn drugarog wrtho na bod yn greulon. Trymach iddo ef yr anaf nag i neb arall. Os o achos cyhuddiad yr ymherodres y peri di roi dy fab i angau, un ffunud y derfydd iti am dy fab, ag y darfu gynt i farchog boneddig am ei filgi." "Beth oedd hynny?" ebai'r ymherawdwr. "I'm cyffes i Dduw, nis mynegaf it' o ni roddi dy air ar arbed y mab heddyw." "Rhof yn wir'," ebai'r ymherawdwr, " mynag i mi y chwedl."

"Yr oedd marchog cadarn gwych yn Rhufain, a'i lys wrth ystlys y gaer. Ac un diwrnod yr oedd dwrdd mawr rhwng arglwyddi, a marchogion, a gwyr mawr; ac yna myned a wnaeth yr arglwyddes a'i mamaethod i ben y gaer i edrych ar y chwareu, a'r holl ddynion i gyd, heb adael neb yn y palas. Eithr mab bychan oedd i'r marchog llai na blwydd, yn y gadair yn cysgu yn y neuadd, a milgi yn gorwedd ar y brwyn yn ei ymyl. A chan weryriad y meirch, ac angerdd y gwyr, a thrwst y gwyr yn curo wrth y tarianau, y deffroes gwiber o wâl y dref, a chyrchu tua neuadd y marchog, ac ar ganfod y mab yn cysgu yn ei gawell, a dwyn hynt tuag ato. A chyn i'r sarph gael gafael yn y mab, bwrw naid o'r milgi, a gafael yn y wiber, a'r wiber ynddo yntau; a chan ei hymladd ill dau, troi o'r cawell a'i wyneb i waered, a'r mab ynddo; a'r milgi a laddodd y wiber, a'i gado yn ddrylliau yn ymyl y cawell. Yna, pan ddaeth y mamaethod i mewn, a gweled y cawell a'i wyneb i waered, a'r gwaed o bob parth iddo, myned a wnaethant dan lefain at eu harglwyddes, a dywedyd wrthi i'r milgi ladd ei hunig fab hi, yr hwn oedd yn cysgu yn y cawell. Myned a wnaeth hithau dan lefain at y marchog, gan ffusto ei dwylaw yn nghyd, a dywedyd i'r milgi ladd ei unig fab ef. A'r milgi oedd yn gorwedd yn lluddedig yn ymyl y cawell. A phan glywes y milgi ei feistr yn dyfod i fewn, codi a wnaeth i'w gyfarfod; a'r marchog a dynodd ei gledd, ac a dorodd ben y milgi oddiar ei gorph. O achos cyhuddiad y mamaethod, ac er dyddanu yr argIwyddes, y marchog a droes y cawell a'i wyneb i fynu; ac yno yr oedd y mab yn holl iach, dan y cawell yn cysgu, â'r wiber yn ddrylliau mân yn ymyl. Ac yna yr ymofidiodd y marchog ladd o hono ar arch ei wraig filgi cystal â hwnw."

Yna y dywed yr ymherawdwr na leddid ei fab ef y dydd hwnw.

Ac wedi terfyn y dadleu, i'r neuadd yr aethant; a phan oedd barod y swper, i'r byrddau y daethant bawb yn ei radd. A phan wybu yr ymherodres fod yn well gan yr ymherawdwr ymddiddan na bwyta, hi a ymddiddanodd ag ef, ac a ofynodd os rhoddwyd y mab i angau. "Na ddo eto," ebai'r ymherawdwr."Mi a wn," ebai hi, "mai Doethion Rhufain a beris hyny. Un fodd y derfydd i ti o gredu iddynt hwy ag y darfu i'r baedd gwyllt a'r bugail." "Pa fodd y bu hyny " ebai'r ymherawdwr. "Myn fy nghred, nis mynegaf, oni roddi di dy air ar roi'r mab i angau yfory." "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr. "Llyma'r chwedl," ebai hi." Pren pêrffrwyth oedd mewn fforest yn Ffrainc; a baedd gwyllt oedd yn y fforest, yr hwn ni fynai ffrwyth un pren yn y coed namyn y pren hwnw. Un diwrnod, bugail a ganfu y pren, a gwelodd yr afalau yn deg arno, ac yn felusber addfed, a chynull llonaid ei arffedog a orug efe ohonynt. Ac ar hyny, dyma y baedd yn dyfod; ac ni chafodd y bugail onid encyd i ddringo i frig y pren, a'i afalau ganto; a phan welodd y baedd nad oedd afalau yno fel arfer, ffroeni ac ysgyrnygu danedd a orug, ac arganfod y bugail yn mrig y pren; a thrwy lid dechreu diwreiddio'r pren a orug y baedd. A phan welodd y bugail hyny, efe a ddechreuodd ollwng afalau i lawr i'r baedd. A'r baedd, wedi bwyta ei wala, a gysgodd tan y pren; a phan y gwelodd yntau ef yn cysgu efe a ddisgynodd i'r llawr, ac â'i gyllell efe a dorodd gorn gwddwg y baedd.

Pelly y derfydd i faedd Rhufain o gredu y Saith Doethion; a'th fab a ddwg ffrwyth dy ymherodraeth oddi arnat." A'r ymherawdwr a dyngodd lŵ mawr na byddai ei fab fyw yn hwy na thranoeth. A thranoeth, trwy ddirfawr lid, efe a ddaeth i'r dadleudy, ac ar hynt erchi dienyddio y mab.

Yna y codes Gwystws i fynu, ac a ddywedodd fel hyn: —" Arglwydd ymherawdwr, na chaniatäed nef iti wneuthur fel y gwnaeth Ipogras am ei nai." "Beth oedd hyny?" ebai'r ymherawdwr."Myn fy nghred, nis mynegaf, oni roddi di dy air ar amddiffyn y mab heddyw." "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr.

"Llyma'r chwedl: Goreu physigwr yn y byd oedd Ipogras, a nai fab chwaer oedd iddo. A brenin Hungari a ddanfones i erchi i Ipogras ddyfod i iachau mab oedd iddo yn wan-glaf ddiobaith. A hen ŵr dall oedd Ipogras; nis gallai ef na cherdded na marchogaeth ffordd cyn belled â hyny. Ac efe a ddanfonodd ei nai ieuanc yno; yr hwn wedi dyfod i'r llys a fwriodd olwg ar y brenin ac ar y frenines ac ar y mab, ac a ddywed, 'Nis gallaf fi ei feddyginiaethu ef heb wybod yn nghyntaf naturiaeth ei dad.' Yna y dywed ei fam mai ordderch ydoedd o Iarll Nafarn. A'r meddyg ieuanc a barodd roddi cig ych ifanc wedi ei rostio i'r mab, ac efe a ddaeth yn holl iach. Wedi i'r nai ddyfod yn ol, Ipogres a ofynes iddo pa fodd yr iachaodd efe y llanc yn holl iach. 'A chig ych ifanc,' ebai y nai. ' Os gwir a ddywedi, was,' ebai Ipogras, 'o ordderchiad y caed y mab hwnw.' 'Gwir,' ebai'r nai. Pan welodd yr hen wr fod ei nai mor gyfarwydd ag yntau, efe a benderfynodd ei ladd. Archodd iddo ddyfod i rodio gydag ef i le disathr dirgeledig; ac yno efe a ddywedodd, 'Mi a glywaf aroglau llysiau da'; 'mi a'i gwelaf hwynt,' ebai'r nai, 'a fynwch chwi hwynt?' 'Mynaf,' ebai Ipogras, 'hwde fy llaw; arwain fi uwch eu penau.' Ac felly y gwnaeth ei nai. Ac fel yr oedd y gwas ieuanc yn gostwng ei gefn i fedi'r llysiau, tynu ei ddagr a wnaeth Ipogras, a brathu ei nai o'r tu cefn iddo yn ei galon, a'i ladd yn farw. Am hyny y cablodd pawb Ipogras, ac y melldigwyd ef.

Ac felly, arglwydd ymherawdwr, y'th felldithir dithau, o pheri ro'i dy fab i angau." "Na pharaf yn wir, heddyw," ebai'r ymherawdwr.

A'r nos hono, ar ol swper, gofyn a wnaeth yr yrmherodres a roisid y mab i angau. "Na ddo," ebai yntau." "Ie," ebe hithau, "Doethion Rhufain a beris hyny. Un ffunud y derfydd i ti am dy fab ag y darfu gynt i hen ŵr da y tores ei fab ei ben." "Pa fodd y bu hyny?" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir, nis mynegaf oni roddi di dy air ar ro'i y mab i angau yforu." "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr. "Llyma'r chwedl," ebai hithau: "Mi a glywais fod ymherawdr yn Rhufain, gwr tra chwanog i dda bydol, sef oedd ei enw, Grasian. Ac wedi iddo gasglu Llonaid tŵr o aur ac arian, a thlysau mawrwerth, gosodes wr o gybydd cyfoethog yn geidwad ar y tŵr hwn, tra f'ai ef yn casglu ychwaneg mewn lleoedd eraill. Ac yr gwr boneddig tlawd yn trigo yn y ddinas, a gwas ieuanc dihafarch-lym yn fab iddo. A'r gwr hwn a'i fab a ddaethant o hyd nos am ben y tŵr, ac a'i torasant, gan ddwyn llawer o'r da yn lladrad. A phan ddaeth y ceidwad i edrych y tŵr, canfu fod llawer o'r da wedi myned; ac yn ystrywgall, efe a osododd lud ardymheredig yn y lle y toresid y tŵr o'r tu mewn, i edrych a allai ddal y lladron, a'u dwyn at yr ym- herawdwr. Y lladron, wedi treulio y da hwnw, a'i osod ar diroedd a phalasau teg, a ddaethant yr ail waith tua'r tŵr; ac ar ol myned i mewn, cawsant ddigon o dda. Ond wrth ddyfod allan, a'u hyspail ganddynt, y gwr hen a syrthiodd i'r gerwyniad lud hyd at ei ên. Yna gofynodd gynghor gan ei fab. Y mab a ddywed: Fy nghynghor fyddai it' dori dy ben, a'i guddio mewn rhyw le dirgel; canys os byw a fyddi, ti a boenir ac a gystuddir, a pherir i ti gyfaddef y da, a'r sawl fu gyda thi yn ei ladrata. 'Och! fy arglwydd fab, nid felly y gwnei di; trugarocaf gwr yn y byd yw'r ymherawdwr; a'r da sydd genyf a roddaf i fynu iddo, a'm bywyd a gaf.' Yna y dywed y mab: — ' Myn y Gwr y credaf iddo, nid anturiaf fi dri pheth yn hytrach na thori dy ben oddiwrth dy gorph. 'Pa dri pheth yw y rhai'ny?' ebai y tad. 'Y da sydd genyf yr awr hon, a'm bywyd fy hun, a'r tiroedd a'r palasau teg a brynaist tithau.' Ac yn greulon efe a dorodd ymaith ben' ei dad."

"Ac felly y pâr dy fab dy ladd dithau o chwant dy deyrnas di a'th gyfoeth." "Myn fy nghred," ebai'r ymherawdwr, "ni bydd efe byw ond hyd y bore yforu." A thranoeth, yr ymherawdwr a aeth i'r dadleudy, ac archodd roddi y mab i farwolaeth yn ddiddeuair.

Yna y codes Lentiliws i fynu, ac y dywed; — "Un ffunud y derfydd i ti am dy fab ag y darfu i hen wr boneddig gynt am wraig ieuanc oedd iddo, yr hon a garai ef yn fawr." "Beth oedd hyny!" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir nis mynegaf, oni roddi di dy air ar gadw y mab ieuanc heddyw." "wnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr.

"Llyma'r chwedl," ebai ef,"Hen wr da boneddig gynt a briodes forwyn ieuanc foneddig; ac ni bu'n hir ar ol y briodas oni fwriodd hi gariad lledradaidd ar was ieuanc oedd yn llys arglwydd cyfagos. A hi a gytunodd i gwrdd ei gordderch gefn y nos. Yna myned i'r gwely rhwng ei gwr â'r pared; a chyn gynted ag y cysgodd y gwr hen, hi a godes o'i gwely yn araf a lledradaidd, ac a wisgodd am dani, a myned yn ddystaw trwy ddrws y neuadd, ac yn gymhwys at ei gordderch. Ac ni bu hir wedi hyny nes dihuno yr hen wr, a rhyfeddu glywed ei wely yn wag o'i gymhar; a thrwy lid mawr y codes ef i fynu, a chael canwyll, ac ymofyn am dani yn mhob rhan o'r plas, eithr yn aflwyddianus. Ac efe a ddaeth at ymyl y drws, a'i gael heb un pren, a'i drosolio yn ffest â dau drosol, megys na ddo'i hi i'w dŷ ef byth. Yn mhen yr hir a'r hwyr, hi a ddaeth at y drws, ac a'i cafodd wedi ei folltio yn dŷn; ac erchi agor a wnaeth hi. 'Dyma fy ngair, nas agoraf,' ebai'r gwr, 'ac yforu, yn ngwydd dy genedl, mi a fynaf wneuthur y gyfraith arnat ti'. Sef oedd y gyfraith yn yr amser hwnw, llabyddio â meini i farwolaeth. Ac wrth dalcen y tŷ, yr oedd llyn mawr o ddwfr, tua dau wrhyd o ddyfnder. Yna y dywed y wraig, 'Myn y Gwr y credaf iddo,' ebai hi, 'gwell genyf fi farw na hyny; neu yn y pysgodlyn fy moddi, na bod y dienydd hwnw arnaf.' A hi a gymerth faen mawr, ac a'i cododd ar ei hysgwydd, a'i daflu i ganol y llyn, a rhedeg i gornel i ymguddio. Pan glybu yntau y swn, daeth ar redeg i lawr o'r llofft, agores ddrws y neuadd, a rhedodd i'r llyn hyd ei wâr. Yna y rhedodd hithau trwy y drws, ac i'r llofft, a chan roddi ei phen trwy y ffenestr, hi a ofynodd iddo beth a wnai ef yno. 'Dy geisio di,' ebai ef. 'Yr wyf fi yma ar y llofft yn esmwyth iawn,' ebai hi. A gwylwyr y dref a ddaethant yno, a daliasant y gwr hen, a gwaeddodd hithau trwy y ffenestr, 'Deliwch y cydymaith yna, a gwnewch y gyfraith arno, canys nid iawn i hen wr syn o'r fath yna godi oddi wrth ei wraig briod lân a myned at buteiniaid.' Yna'r gwylwyr a'i dygasant i'r carchar; a gorfu arno ddyoddef yr angau a ddylasai hi ei ddyoddef, cyn haner y dydd hwnw, sef ei labyddio â meini. "

"Ac felly, arglwydd ymherawdwr, y sioma dy wraig dithau am dy fab; y hi sydd gelwyddog, a'r mab y sydd wir." "Mi a'i harbedaf ef, ynte, heddyw."

Ac wedi darfod swper, hi a ddywed wrtho "Mi a wn na adawodd Doethion Rhufain roi y mab i angau heddyw." "Na ddo yn wir," ebai yntau. "ie," ebai hi," un ffunud y derfydd i ti am dy fab ag y darfu gynt i un o ddinaswyr Rhufain am bren pêrffrwyth oedd iddo, yr hwn oedd anwyl ganddo." Beth oedd hyny?" ebai'r ymherawdwr." Yn "wir nia mynegaf, oni roddi di dy air ar roi'r mab i anngau yforu." "Gwnaf yn wir," ebai yntau.

"Llyma'r chwedl," ebai hi, —"Yr oedd i wr boneddig gynt yn Rhufain, bren pêrffrwyth yn tyfu yn ei berllan, ac afallen ieuanc yn tyfu wrth fôn yr hen afallen; ac yr. oedd yn anwyl gan y gwr yr hen afallen, eithr anwylach ganddo yr un ieuanc, oherwydd ei thegwch. 'Yn wir,' ebai'r garddwr, 'pe fy nghynghor i a wnelit, ti a barit dori y pren ieuanc am ei fod yn esgynbren lladron a dynion drwg iddynt allu yspeilio yr hen bren o'i ffrwyth; ac nid oes modd dringo iddo ond ar hyd y pren ieuanc 'Yn wir,' ebai yntau, 'ni thorir dim o'r pren ieuancg Boed felly,' ebai'r garddwr. A'r nos hono y daeth lladron i'r berllan, ac yspeiliasant y pren yn gwbl o'i ffrwyth, a'i adael yn llwm erbyn tranoeth."

"Felly, arglwydd ymherawdr, dy fab dithau a Doethion Rhufain a'th yspeiliant er mwyn dy deyrnas, oni pheri di ro'i dy fab i angau; yr hwn a geisiodd wneuthur siom a chywilydd i mi ac i tithau." "Yn wir," ebai'r ymherawdr, "mi a baraf ei ro'i ef i angau yforu, a Doethion Rhufain gydag ef." Bore dranoeth, efe a ddaeth i'r dadleudy mewn llid mawr, ac a barodd roddi'r mab i angau yn ddiohir, a Doethion Rhufain hefyd.

Yna y codes Malcwidas i fynu, ac y dywed fel hyn: — "Os ar anogaeth dy wraig y peri di roddi dy fab i farwolaeth, hi a'th sioma di, fel y siomodd y blaidd y bugail." "Pa fodd y bu hyny?" "Yn wir ni s mynegaf oni roddi di dy air ar gadw y mab heddyw." "Gwnaf yn wir," ebai yntau.

"Blaidd creulon oedd gynt yn ceisio cyfle ar y bugail a'i anifeiliaid i'w lladd. Eithr yr oedd cwpl o waedgwn mawr gan y bugail, pa rai a ymlidient y blaidd, pan ddelai yn agos; yntau a gynygiodd heddwch i'r bugail os danfonai y cwn yn rhwym ato ef. A'r bugail ynfyd a gredodd weniaith y blaidd a'i ffalster, ac a ddanfonodd y cwn yn rhwym iddo. Yntau yn gyflym a'u lladdes hwynt; ac yn fuan wedi hyny, yr anifeiliaid; ac o'r diwedd y bugail. "

"Megys y lladdodd y blaidd y bugail a'i holl anifeiliaid, felly y lladd dy wraig dithau, o pheri roddi dy fab i angau o'i hanogaeth hi." "Ni pharaf hyny heddyw yn wir," ebai'r ymherawdwr.

Ac wedi swper y dywed yr ymherodres wrtho, "Megys y tyn dail a sawrau teg yr adwedd oddiwrth y bytheuaid, hyd pan gollont hwy ol y llwdn; felly y mae Doethion Rhufain i'th dynu dithau, trwy eiriau teg a pharablau "wenieithus am dy fab di, hyd oni chaffont dy ymherodraeth di a'th gyfoeth. Canys yr un ffunud y derfydd iti o gredu iddynt hwy ag y darfu gynt i Asian, ymherawdwr Rhufain." "Beth oedd hyny?" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir, nis mynegaf, oni roddi dy air ar roi'r mab i angau yforu" "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr," mynega'r chwedl. "

"Yr amser yr oedd Fferyll yn Rhufain, efe a blanodd golfen yn nghanol Rhufain; ac ar ben hono yr oedd drych o gelfyddyd Igmars; ac yn ydrych hwnw y gwelai Seneddwyr Rhufain pa deyrnas bynag a fyddai'n troi yn erbyn Rhufain. Yna, yn gyflym hwy aent am ben y wlad hono, ac a'i troent tan Rufain yr ail waith. A'r golfen hono oedd yn peri i bob teyrnas ofni Rhufain yn fwy na dim; ac am hyny y cynygiodd brenin y Pwyl beth difesur o dda i'r neb a gymerai arno fwrw y golfen hono i lawr, a thori y drych. Yna y codes dau frawd i fynu yn y fan, a 'dywedyd fel hyn: — 'Arglwydd frenin, pe caem ni ddau beth a geisiem genyt, ni a fwriem y golfen i'r llawr, a'r drych a dorem. 'Beth yw hyny?' ebai'r brenin. 'Nid amgen na'n dyrchu ni mewn cyfoeth ac anrhydedd o hyn allan; a rhaid i ni gael cyfreidiau priodol yr awr hon, nid amgen na dau farilaid o aur; canys chwanocaf gwr o'r byd i aur yw'r ymherawdwr.' 'Hyny a gewch chwi yn llawen,' ebai'r brenin. A'r awr a gawsant, a phen y daith a gyrhaeddasant; ac ar hyd nos hwy a gladdasant y ddau farilaid aur mewn dau fan gerllaw pyrth y dref yn ymyl y ffordd; ac i'r dref yr aethant y nos hono, a lletya. Dranoeth daethant i lys yr ymherawdwr,a chyfarch gwell iddo, a deisyf cael bod o wasanaeth iddo. 'Pa wasanaeth a fedrwch chwi ei wneuthur?' ebai'r ymherawdr. 'Ni a fedrwn fynegi i chwi a fo a ni ' neu arian cuddiedig yn eich. teyrnas chwi; ac o bydd, peri i chwi eu cael hwynt oll' 'Ewch heno ac edrychwch erbyn yforu a oes aur neu arian i'm teyrnas i; ac o bydd, mynegwch i mi; ac o chaf hwy, mi a'ch gwnaf chwi yn anwyliaid im'. Ac i'w llety yr aethant y nos hono. A thranoeth y mab ieuangaf a ddaeth ger bron yr ymherawdwr, ac a ddywedodd gael ohono mewn dewiniaeth wybod pa le yr oedd barilaid o aur yn ymyl porth y dref, yn nghudd. Yna y peris yr ymherawdwr fyned i geisio hwnw; ac wedi ei gael a'i ddwyn iddo, efe y cymerth y gwas yn anwyl wasanaethwr. A thranoeth y daeth y gwas arall ger bron yr ymherawdwr, a dywedyd gael ohono, ar freuddwyd, wybodaeth pa le yr oedd barilaid o aur yn nghudd, yn ymyl porth arall i'r dref. Ac wedi profi hyny, a'i gael yn wir, credu iddynt o hyny allan, a mawr fu gan yr ymherawdwr, am danynt, a'u cymeryd yn anwyliaid iddo. A'r dydd nesaf hwy a ddywedasânt fod aur o dan y golfen a gyfoethogai'r deyrnas. Yna y dywed Seneddwyr Rhufain, o ddiwreiddio'r golfen, na byddai cyn gadarned deyrnas Rhufain o hyny allan. Eithr nid adawodd chwant yr aur a'r arian i'r ymherawdwr fod wrth gynghor y seneddwyr, nes diwreiddio'r golfen a'i bwrw i lawr, a thori y drych yn llaprau. A phan ddarfu hyn, dyfod am ben yr ymherawdwr a wnaethant, a'i ddal, a'i rwymo, a chymheli arno yfed aur berwedig, gan ddywedyd wrtho, ' Aur a chwenychaist, ac aur a yfi.'"

"Yn y modd yna, tithau a wrandewi ar Ddoethion Rhufain, y rhai a'th ddyhuddant ag euraidd barablu, i annghredu fy nghynghor i, am ddienyddio dy fab, hyd oni wnelont dy angau a'th addoed yn ddibris." "Myn fy nghred," ebai ef, "ni fydd byw y mab eithr hyd yforu." A thranoeth y bore, efe a archodd ddienyddio y mab.

Yna y cyfodes Cato Hen, wr cymhenddoeth, a dywedyd fel hyn: "Arglwydd ymherawdwr, nid yn ol ymadroddion ffals, celwyddog, a glywo dy glustiau, y dylit ti farnu; namyn trwy amynedd a cheisio gwirionedd rhwng hen ac ieuanc; ac mor gywir fydd dy wraig i ti, yr hon yr wyt yn ei charu ac yn ei chredu, ag y bu gwraig y Siryf o Lesodonia." "Cato," ebai'r ymherawdwr, "pa wedd fu hyny?" "Dyma fy ffydd, nis mynegaf, oni roddi di dy air na ddienyddir y mab heddyw." "Na ddienyddir, myn fy nghred," ebai ef.

Yr oedd gynt was ieuanc o Rufain yn Siryf yn Lesodonia; ac un diwrnod, yr oedd efe yn naddu paladr, a'i wraig yn cydgam ag ef, ac yntau yn chwareu â hi. Ac wrth chwareu felly, cyfarfu blaen ei gyllell â'i llaw hi, oni ddaeth y gwaed; a chynddrwg oedd ganddo oherwydd hyny, nes y brathodd â chyllell ei fron ei hun, ac y bu farw. Wedi gwneuthur ei gywirdeb, a gwasanaeth yn y llys, efe a ddygpwyd tua'r llan i'w gladdu; a rhyfedd' nad ysig penau ei bysedd rhag ffested y maeddai ei dwylaw yn nghyd, wrth gwyno ei cholled i'w gwr; uwch oedd ei llef a'i diaspedain nag a oedd o gorn a chloch dros wyneb yr holl ddinas. Wedi claddu y gwr, ac i bawb gilio o'r eglwys, ei mam a erchis i'r weddw ieuanc ddyfod gyda hi adref. Hithau a dyngodd i'r Gwr oedd uwch ei phen, nad ai hi oddiyno oni fai farw. ' Nis gelli di,' ebai ei mam, ' gyflawni y gair yna; ac am hyny iawnach iti ddyfod i'th lys dy hun i gwyno dy wr, na thrigo mewn lle ofuog, unig, ac aruthr fel hwn.' 'Mi a brofaf os gallwyf,' ebai hi. Yna y peris ei mam gyneu tân goleu ger ei bron, a gadaw bwyd a diod iddi i'w dreulio pan ddeuai newyn ati, wrth na chyfarch. newyn o'i borthi. A'r nos hono y daeth marchog ar ei farch o'r gaer i wylied herwyr a grogesid y diwrnod hwnw. Ac fel yr oedd efe yn dysgwyl o bell ac o agos, efe a welai oleuni mewn lle nas gwelsai erioed o'r blaen. Aeth ar ei farch i edrych pa le yr oedd y goleuad, a pha achos oedd iddo. A phan ddaeth efe yn agos, efe a welai fur, a mynwent, ac eglwys; ac yn yr eglwys, dân uchel a goleu. Yna ffrwyn-glymu ei farch a orug wrth ystigl y fynwent, a myned i edrych pwy a welai yn yr eglwys. Ac nid oedd yno namyn un forwyn- wraig ifanc, yn eistedd uwch ben bedd newydd, a goleu a thân difwg ger ei bron, a digon o fwyd a diod yn ei hymyl. A gofyn a wnaeth y marchog iddi, beth a wnai un mor ieuanc â hi mewn lle mor ofnog â hyny ei hunan. A hithau a ddywedodd nad oedd arni ofn dim cymaint ag oediad angau i ddyfod ati. Pa achos sydd i hyny?' ebai ef. 'Claddu,' ebai hi, 'y gwr a gerais fwyaf, ac a garaf tra fwyf byw, yn y lle hwn heddyw; a digêl a dyogel genyf, y carai yntau finau yn fwy na neb, pan ddygai ef ei fywyd ei hun o'm hachos.' 'O, unbenes i' ebai'r marchog, 'pe fy nghyngor i a wnelit, ti a newidiet y meddwl yna, ac a gymrit wr a f'ai cystal ag yntau, neu well' 'Na fynaf,' ebai hi, 'myn y Gwr sydd uwch ben, wr byth ar ei ol ef.' A'r marchog a aeth tua'r crogbren; ac efe a gafodd fod un o'r cyrph wedi ei gymeryd oddiar y pren, a drwg oedd ganddo am hyny. Y gwasanaeth hwnw oedd arno i'r ymherawdwr tros ei dir; nid amgen na chadw gwyr boneddigion crogedig rhag i'w cenedl ddwyn eu cyrph i'w claddu. Ac eilwaith y daeth efe at yr unbenes, a dywedyd wrthi ladrata un o'r cyrph. Pe rhoddit ti dy gred ar fy mhriodi i, myfi a'th wnawn yn rhydd oddiwrth y golled yna,' ebai hi. ' Dyma fy nghred, y'th briodaf,' ebai'rmarchog. 'Fel hyn y gwnei di: dadgladd di y corph y sydd yn y bedd hwn, a chrog ef yn lle y lleidr; a hyny nis gwyr neb ond nyni ein dau.' A dadgladd y bedd a wnaeth, hyd oni ddaeth at y corph. ' Dyma'r gelain,' ebai hi, 'bwrw i fynu ef. "I'm cyffes i Dduw,' ebai'rmarchog, 'hawddach fyddai genyf ymladd â thri o wyr na rhoi fy llaw ar un marw.' 'Mi a'i gallaf,' ebai hi; a rhoi naid ysgymun i'r pwll, a'i godi ar y naill ben, a'i fwrw i fynu. 'Dwg di hwn, bellach,' ebai hi, 'tua'r crogbren.' 'Na, nis gallaf fi na'm march gerdded ond yn anhawdd, gan faint sydd o arfau i'm cylch. 'Mi a'i Wnaf', ebai hi, 'dyrcha di ef ar fy ysgwydd.' Ac wedi ei gael ar ei hysgwydd, hi a gerddodd fras-gamau gwrol, nes dyfod ag ef hyd at y crogbren. 'Och!' ebai'r marchog, 'pa les er hyny? yr oedd dyrnod cleddyf ar ben yr hwn.' 'Taro dithau ddyrnod ar ben hwn,' ebai hi. 'Na tharawaf, i'm cyffes,' ebai ef. 'Mi a'i tarawaf,' ebai hi; a chymerth afael yn nghleddyf y marchog, a tharaw y marw lawn dyrnod yn ei ben ag ef. 'Ie,' ebai'r marchog. 'pa les er hyny? yr oedd yr herwr yn fantach, wedi tori tri o'i ddanedd blaen wrth ei ddala.' 'Mi a wnaf hwn felly hefyd, ebai hi,' a chymerth faen mawr, a'i godi ar ei hysgwydd, a'i daro yn erbyn ei drwyn a'iddanedd, nes eu tori hwynt yn ddrylliau mân. 'Ie,' ebai'r marchog, 'nid ydwyt nes; yr oedd yr herwr yn arfoel.' 'Mi a wnaf hwn felly hefyd,' ebai hi; a chymeryd ei ben ef rhwng ei dwy goes, a dechreu plycio ei wallt. Ni fu na gwr yn eillio, na gwraig yn gwnio, haner can gynted ag yr oedd hi yn tyrnu gwallt ei ben ef, nes ei wneuthur yn foel o'i wegil hyd ei dalcen. Wedi hyny yr erchis hi i'r marchog ei grogi ef. 'Dyma fy nghred, nas crogaf, ac nas crogi dithau ef. Pe na f'ai ond tydi yn y byd, ni fynwn dydi; pan fait mor angharedig i'r gwr a'th briodes di yn forwyn, ac a ddug ei fywyd o'th achos di, angharedig o beth fyddit ti i mi, heb weled golwg arnaf hyd heno. A dos di ag ef i'r lle y mynych.' Yna y cymerth hi y gwr ar ei chefn i'w gladdu ei hunan eilwaith. "

"Ym cyffes i Dduw, arglwydd ymerawdwr, cyn anghywired â hyny fydd dy wraig i tithau, yr hon yr wyt yn ei chredu, ac yn ceisio rho'i dy fab i angau o'i hachos." "Yn wir,'i ebai'r ymherawdwr, "mi a'u cadwaf ef heddyw."

A'r nos hono yr ymherodres a ofynes i'r ymherawdwr, os dienyddiwyd y mab. "Naddo eto," ebai yntau. 'Ni dderfydd hyny byth tra fo byw Doethion Rhufain; canys megys y tỳn y famaeth y dyn bach o'i lid a'i gyffro trwy seinio yn ei glustiau, neu ddangos rhywbeth ffol; felly y mae Doethion Rhufain i'th dynu dithau oddiar dy lid a'th gyffro, am fy ngwaradwydd i a'm cywilydd gan dy fab di, trwy eu gweniaith a'u hymadrodd teg. Un ffunud y derfydd i ti o'r diwedd ag y bu i'r brenin a welai trwy ei hun ei ddallu beunydd." "Pa fodd y bu hyny?" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir, nis mynegaf it', oni roddi dy gred ar ro'i'r mab i angau yforu." "Gwnaf yn wir," ebâi yntau.

"Yr oedd gynt frenin ar un o ddinasoedd Rhufain; ac wedi myned yn mhell mewn oedran, efe a osodes saith o wyr cymhengall i lywodraethu y ddinas. A'r gwyr hyny a ymroddasant i gasglu aur ac arian, onid oedd gyfoethocach y tlotaf o'r saith na'r brenin ei hun, o dda parod; a gwuaethant hyny trwy gydgynghor, fel y gallent hwy ladd y brenin o nerth a chadernid eu da. A'r brenin a welai trwy ei hun, bair a saith droed odditano, a mygdarth mawr yn codi oddiwrth y pair; a hwnw a ddeuai yn nghylch ei lygaid i'w ddallu. Yna y danfones y brenin i bob lle i geisio deongl i'w freuddwydion, a'r gweledigaethau a ddelynt iddo rhagllaw. A'r cenadau ar ddamwain a ddaethant at was ifanc oedd yn rhagori ar bawb mewn hysbysrwydd o ddewiniaeth a deongli breuddwydion. A'r gwas ifanc a ddaeth ger bron y brenin, ac yntau a adroddes ei freuddwydion wrtho. 'Ie,' ebai'r gwas, 'deongli'r breuddwyd a fedraf, a'th gynghori a wnaf; ac o byddi di wrth gynghor, ti a fyddi well; ac oni fyddi, ti a fyddi gwaeth. Y pair a welaist ti, a arwyddocâ ddinas; y saith troed a welaist, ydynt saith o wyr sydd â gormod o gyfoeth, ac yn darparu dy fradychu onis lleddir hwy yn ebrwydd.' Oni ni fynai'rbrenin fod wrth gynghor y gwas, nes iddynt ei ladd ef yn nghyntaf, a dwyn y frenhiniaeth oddiarno. "

"Ac felly, ni byddi dithau wrth gynghor am dy fab a Doethion Rhufain, y rhai sydd i'th fradychu di; a'r rhai, oni leddir hwynt yn ebrwydd, a ddygant dy deyrnas oddi arnat." "Dyma fy nghred y lleddir hwynt yforu." A thranoeth, trwy lid mawr, efe a gyrchodd i'r dadleudy, ac a barodd grogi ei fab a Doethion Rhufain hefyd.

Yna y codes Iesse, i fyny, a dywedyd fel hyn: " Ni ddylai arglwydd fod mor anwadal a gado ei droi drwy ffalsedd a chelwydd, a thwyll; ac fel y siomes y frenines gynt y brenin am y marchog, felly y sioma dy wraig dithau dydi." "Pa fodd y bu hyny?" ebai yntau."Yn wir, nis mynegaf i ti, oni ro'i di dy gred ar gadw y mab yn fyw heddyw." "Gwnaf yn wir," ebai ef.

"Yr oedd gynt farchog cadarn yn y Dwyrain; ac efe a welai beunydd trwy ei hun ei fod yn ymgaru ag arglwyddes wych, na welsai erioed olwg arni ond trwy ei hun; ac efe a guriodd yn fawr o gariad at yr unbenes. A chafodd gynghor i fyned a rhodio gwledydd pell, a edrych a gaffai ei gweled yn un lle oddieithr trwy ei hun. Ac un diwrnod, fel yr oedd efe yn marchogaeth ar brif-ffordd fawr mewn gwlad ddyeithr, efe a welai gaer fawr, a chastell teg yn ei hymyl, a thŵr teg ar ben y castell, tebyg i'r tŵr a welsai ef trwy ei hûn, ac hefyd yr arglwyddes fwyaf a garasai erioed. Ac i'r ddinas yr aeth efe y nos hono, a dy wedwyd wrtho mai brenin urddedig oedd yn trigo yno. Yr anoeth yr aeth efe i ymyl porth y castell. a galw y porthor ato, a gofyn iddo a fynai y brenin farchog cywir, diffals, yn ei wasanaeth. A'r porthor a ddywedodd y mynai. Ac i'r castell yr aeth, a chanmoledig a fu gan bawb, ac yn mhen amser y brenin a'i gwnaeth ef yn oruchel ystiwart dros ei holl gyfoeth; yna efe a ddywedodd wrth y brenin fod yn rhaid iddo gael ystafell mewn lle dyeithr i feddylio yn nghylch ei swydd a'i gyfrifon. 'Cymer y lle a fynych,' ebai'r brenin. 'Dyma a fynwn i ei gael,' ebai'r marchog, 'adeilad ystafell yn ymyl eich tŵr chwi.' 'Da yw genyf fi hyny,' ebai'r brenin. A'r marchog a beris wneuthur ystafell iddo yn ymyl y tŵr. A'r brenin oedd yn cadw y frenines mewn tŵr cauad; a phan elai allan, cloi y tŵr a wnai, a dwyn yr allwedd ganto. A'r marchog a beris i'r masiwn wneuthur ffordd ddyogel iddo ef fyned i'r tŵr at y frenhines; a'r saer a wnaeth hyny. Ac fel yr oedd y marchog un diwrnod yn gwasanaethu wrth y ford, y brenin a weles y fodrwy anwylaf ar ei elw ar fys y marchog; ac yn llidiog gofynodd iddo pa le y cawsai efe y fodrwy hono. A'r marchog a dyngodd na buasai feddianus neb ar y fodrwy, eithr mai efe a'i prynasai. Yna tewi a wnaeth y brenin nes darfod cino. Y pryd hwnw aeth i'r tŵr i ofyn y fodrwy i'r frenhines; a'r marchog a aeth o'i flaen i roi y fodrwy iddi hi; a hithau a'i dangoses i'r brenin. A'r brenin a ddigiodd wrtho'i hun am feddwl mor ddrwg o'r marchog. Yna y dywed y marchog wrth y frenines: 'Mi a âf i hela yforu gyda'r brenin, ac mi a'i gwahoddaf ef i'w frecffast; ac mi a ddywedaf wrtho ddyfod y wraig fwyaf a gerais erioed ataf o'm gwlad; a bydd di yn yr ystafell erbyn ein dyfod ni adref, ac amryfal wisgoedd am danat; ac er a gymera y brenin o gydnabod arnat ti, na chymer arnat ei adnabod ef, na'th fod wedi ei weled cyn hynny erioed.' 'Mi a wnaf hyny,' ebai hithau. trauoeth aethant i hela, ac wedi darfod hela, y marchog a wahoddes y brenin i ddyfod i'w ystafell ef i frecffast. A phan aeth i mewn, gwelai ei frenhines ei hun yn ystafell y marchog, a gofynodd iddi pa ffordd y daethai yno. ' Anhawdd imi fynegi pa sawl ffordd ddyeithr a gerddais o'm gwlad hyd yma; ac ni wn i am le iawnach i mi fod nag yn ystafell y gŵr mwyaf a gerais i erioed; ac os bwrw cydnabod yr wyt, edrych pa le y mae yr hon yr wyt yn ei cheisio, canys ni welaist ti olwg arnaf fi erioed o'r blaen. Yna tewi a wnaeth y brenin, a meddylio na welsai efe hi erioed. Ac wedi iddynt fwyta eu brecffast, y cyrchodd y brenia tua'r tŵr i geisio deheurwydd am y wraig, megys y cawsai am y fodrwy. A hithau a'i rhagflaenodd y ffordd nesaf, ac a roes y dillad hyny heibio, a gwisgo cartref-wisg amdani. A phan welodd y brenin hyny, digiodd wrtho ei hun yn fwy o lawer nag y darfuasai am y fodrwy. Ac ar ben ychydig o amser, y marchog a welodd nad oedd weddus iddo gadw brenhines y brenin yn ei blas ei hun; ac efe a gafodd yn ei gynghor barotoi llong fawr, a'i llanw o bob rhyw dda; ac yna efe a ddeisyfodd genad gan y brenin i fyned i ymweled â'i wlad, o achos na buasai efe yno er ys talm o amser. A'r brenin a ganiataodd iddo. tranoeth, cyn eu cychwyn oddi cartref, dyfod a wnaeth i'r eglwys at y brenin, lle yr oedd ef yn gwrando yr offeren, a deisyf arno ef beri i'r offeiriad teilwng ei briodi ef a'i ordderch cyn eu myned i'w gwlad; a'r brenin a beris eu priodi; ac ef a roes ei wraig ei hun, ar ddrws ei eglwys, heb yn wybod iddo. Wedi eu priodas, hwy a aethant i'r llong; ac ar fyr wedi hyny, yr aeth y brenin tua'r tŵr, ac a'i cafodd yn wag o'i frenhines, wedi ei myned gyda'r marchog. "

"Ac felly, arglwydd ymherawdwr, y sioma dy wraig dithau, o pheri ro'i dy fab i angau o'i hachos hi." "Na pharaf yn wir heddyw," ebai'r ymherawdwr.

A'r ymherodres a ddywed yn drist ac yn alarus wrth yr ymherawdwr, "Ef a dderfydd i ti megys y darfu gynt i ystiwart brenin y Pŵl." " Beth oedd hyny?" ebai'r ymhaerawdwr. "Yn wir, nis mynegaf it', oni roddi dy gred ar roi'r mab i angau yforu." "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr.

"Y brenin hwnw a fagasai glefyd o'r tu fewn; ac wedi ei feddyginiaethu a'i wneud yn iach, y meddyg a erchia i'r brenin logi gwraig i gysgu gydag ef y nos hono, er ugain punt. A'r brenin a archodd i'w ystiwart ymofyn y wraig iddo. Sef a wnaeth yr ystiwart, o chwant y da, dwyn ei wraig briod ei hun i'r brenin. Bore dranoeth, yr ystiwart a ddaeth, ac a archodd iddi godi i fynu a myned adref; a'r brenin a gododd i fynu, ac ni adawodd iddi fyned oddiyno. A'r ystiwart a ddaeth yr ail waith, ac a erchis iddi fyned adref ar ffrwst; ac er hyny y brenin a'i cadwodd hi. A'r drydedd waith, yr ystiwart a ddaeth, gan ddweyd wrth ei arglwydd pa fodd y gwnaeth o chwant y da. A phan glybu y brenin ei fod mor chwanog â hyny i gyfoeth, efe a gymerth ei holl dda ef yn fforfed, a dwyn ei swydd oddiarno, a chadw ei wraig gydag ef, a'i anfon yntau o'i frenhiniaeth ef," "Ac felly y derfydd i tithau, o chwant gwrando ar Ddoethion Rhufain, y rhai sydd yn nghylch dy ddileu di a'r deyrnas; ac er hyny, mi a gaf ddigon o dda gan fy nghenedl." Yna yr ymherawdwr a lidiodd yn fawr am y gair hwnw, ac a ddywed y parai ef ro'i y mab i angau bore dranoeth. A'r bore hwnw y daeth efe i'r dadleudy, ac yr erchis ro'i'r mab i angau heb ohir.

Yna y codes Martenws, ac y dywedai fel hyn: "Ef a dderfydd iti megys y darfu i hen wr da boneddig am wraig ifanc a briodes ef." "Pa fodd y bu hyny?" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir, nis mynegaf it' oni ro'i di dy gred ar gadw y mab heddyw." "Gwnaf yn wir," ebai ef.

"Hen wr boneddig a briodes wraig ifanc. A hi a fu gywir iddo flwyddyn. Ac ymddyddan a orug â'i mam yn yr eglwys, a dywedyd ei bod hi yn caru gwas ifanc. Yna y dywed ei mam, ' Prawf anwydau dy ŵr priod yn gyntaf, a gwna di fel hyn: Tòr y coed ifainc sydd yn tyfu yn y berllan, a dod hwy ar y tân. Ac wedi darfod iddi hyny, dyma'r gŵr yn dyfod i'r tŷ, yn canfod y coed ar y tân, a gofyn pwy a'u rhoisai ar y tân. A'r wraig a ddywed mai hi a'i rhoisai, er mwyn gwneud tân iddo i ymdwymno wedi ei ddyfod adref. Tranoeth, cyfarfu ei mam a hithau yn yr eglwys, a hi a fynegodd y ddamwain iddi, ac a ddywed ei bod hi yn caru y gwas ifanc yn wastad. A'i mam a erchis iddo brofi anwydau ei gŵr yr ail waith. Ac fel yr oedd y gŵr dranoeth yn dyfod o hela, a bytheuades oedd iddo, ag oedd anwylach ganddo na'r holl gŵn eraill; hono a ddaeth i'r tŷ ychydig o flaen y meistr, a'r wraig a gymerth brac o gyllell hir yn ei llaw, ac a frathodd y fytheuades drwyddi, o ni bu farw, Ac y dywed hithau mai'r âst a sangasai ar bwrffil ei phais newydd hi; ac y dywed na wnai felly mwy. A'r gwr ni ddywed mwy wrthi. A thranoeth hi a ddywed wrth ei mam fel y gwnaeth, a'i bod yn caru y gwas ieuanc i maes o fesur. Gofyn a wnaeth ei mam iddi pwy oedd efe. Hithau ddywed mai yr offeiriad plwyf ydoedd, ac nad oedd iddi hi ddiolch er ei garu. 'Ie' ebai'r fam, 'prawf anwydau dy ŵr priod y drydedd waith, ac ofna yn nghyntaf rhag bod yn greulonach dig ofaint gwr hen pan ddigio na gŵr ifanc' Ac o anog ei mam y profodd hi fel hyn: tranoeth, yr oedd y gŵr yn gwneuthur gwledd i holl foneddigion y ddinas; ac wedi gosod pawb i eistedd, a gwasanaethu y cwrs cyntaf, sef a wnaeth hithau sefyll wrth ben y ford, a rhwymo cornel y llian wrth allwedd ei phrenfol, a dwyn rhedegfa tua'r ystlys arall i'r tŷ, a thynu y lliain, a'r bwyd a'r ddiodoedd arno, i ganol y llawr. Ac esguso drosti a wnaeth y gŵr, a dywedyd mai myned i nol cyllell yr oedd i gerfio y bwyd gerbron y boneddigion. Yna y rhoed lliain newydd ar y bwrdd, a dechreu y gwasanaeth o newydd. A bore dranoeth, y gŵr a ymliwiodd â hi am y tair gweithred hyny; a dywedodd hithau mai amlder o ddrygwaed oedd ynddi oedd yn peri iddi wneuthur hyny, ac mai nid o'i hanfodd y gwnaeth. Yna y gŵr a beris gyneu tanllwyth mawr o dân, ac a beris iddi dwymo ei breichiau wrth y tân yn dda, a'u rhwbio yn ffest; ac ef a beris ollwng gwaed o'i dwy fraich, a'i adael i redeg hyd oni fyddai hi yn ffentio wrth y tân, ac heb allu dywedyd dim; ac yna ef a beris ystopio y gwaed, a'i rhoi hi yn y gwely yn esmwyth. Yna hi a ddanfones at ei mam gan ddywedyd ddarfodi'r gwr ei lladd hi. A'i mam a ddaeth ati, ac a ddywed wrthi, ' Oni ddywedais iti nad creulonach digofaint neb na gŵr hen.' Ac yna y gofynodd ei mam iddi: ' A wyt ti yn caru y gŵr ifanc eto?" Na charaf fi un gŵr byth mwy.'"

"Ac felly gochel dithau, arglwydd ymherawdwr, rhag credu dy wraig yn gymaint a pheri rhoi dy fab i angau o'i 'hachos i; a bid hysbys y llefara dy fab di yforu."Ni chredaf hyny nes y gwelwyf," ebai'r ymherawdwr. A'r nos hono y mynegodd efe i'r ymherodres y llefarai y mab dranoeth. Yna cywilyddio yn fawr a wnaeth hi, yn gymaint ,ag na fedrodd hi ddychymygu dim o hyny allan. A thranoeth, ar godiad haul, y daeth yr ymherawdwr a'i holl wasanaethwyr i'r eglwys; ac wedi'r offeren, y daeth efe i eistedd ar hen taren uchel o dir oddiar y fynwent.

Yna y daeth y mab gerbron ei dad, rhwng dau o'r Doethion, a chyfarch gwell i'w dad, ac erchi ei fendith, o achosa na baeddasai ef ei fâr erioed, gan ddywedyd: "Fy .arglwydd dad, Goruchaf Dduw, y Gŵr a ŵyr bob peth, a ddangoses yn amlwg i'm hathrawon a minau trwy arwydd y lleuad a'r seren oleu yn eu hymyl, o dywedwn i un gair o fewn y saith diwrnod diwaethaf, na ddiangwn i rhag angau cywilyddus; ac am hyny y peidiais i a llefaru. A'r ymherodres a fu i'm cyhuddo i yn ffest wrthyt ti, a mi heb ei baeddu, o achos na ddywedais i ddrwg wrthi na'i gwneuthur, a'i bod hi megys gelynes i mi. Eithr tebyg yw rhyngddi hi â mi ag y bu gynt rhwng marchog a'i fab ar y môr. "Beth oedd hynny" ebai'r ymherawdwr.

"Marchog a'i fab oeddynt mewn ysgraff ar y môr; a dwy frân a ddaethaut a gregan uwch eu penau, a disgyn ar gŵr yr ysgraff. A rhyfedd fu gan y marchog hyny, a gofyn i'w fab: 'Yr wyt yn ysgolhaig da, a wyddost ti beth y mae'r brain yn ei regan arnom ni?' A'r mab a ddywed ' fod y brain yn dywedyd y bydd yn dda genych chwi ddal blaenion fy llewys tra bwyf fi yn ymolchi, a'm. mam yn dala tywel.' A llidio a orug y marchog am y gair hwnw, ac ymafael yn ei fab, a'i fwrw dros y bwrdd i'r môr, a myned ymaith a'i ysgraff ganto. Ac megys yr oedd Duw yn ei fynu, y môr a dewlis y mab i ystlys craig oedd yn y môr; âc ar ei draed a'i ddwylo, myned o'r mab i ben y graig; a daeth. pysgodwyr heibio, a chanfod y mab yno ar farw o newyn, a'i gymeryd i mewn i'w llestr, a'i werthu i ystiwart o wlad bell er ugain punt. Ac oherwydd ei foesgarwch a'i ddysg, efe a gafodd anrhydedd mawr. A'r amser hwnw, brenin y wlad hono oedd yn cael ei flino o achos fod tair brân yn gregan uwch ei ben ef nos a dydd heb orphwys; pa le bynag yr elai, byddai y tair brân yn ei aflonyddu yn wastad. Yna, galw a wnaeth ei gynghoriaid, gan ddywedyd, pwy bynag o ŵr ifanc sengl a gymerai arno dynu y brain oddiwrtho, ef a gai ei ferch ef yn briod, a haner ei frenhiniaeth gyda hi. Gyrwyd cenadau i bob lle; ac nid oeddid yn cael neb a gymerai arno wneuthur hyny. A daeth marchog gerbron y brenin, gan ddywedyd, o cwblhäi ef ei addewid. y tynai yntau y brain oddiwrtho. 'Gwnaf yn wir,' ebai'r brenin. A'r mab a ddywed: 'llyma yr achos y mae'r brain yn aflonyddu arnat, nid amgen nag er's deng mlynedd neu fwy y bu newyn ar yr adar, a'r brain ieuainc mewn perygl o'u bywyd gyda hwynt; yntau a aeth i wledydd pell i geisio ymborth; ac yna y daeth brân arall ati hithau, ac a'i helpiodd hi i amddiffyn ei hadar; ac yn awr, wedi gwellhau y byd, a bod digon o ymborth yn mhob lle, daeth yr hen frân yn ol drachefn; a dywed y ddwy frân arall na chaiff' hi ddyfod; ac y mae'r tair brân wedi bwrw y mater at eich barn chwi, oherwydd eich bod yn frenin. 'Yna y brenin a'i gynghoriaid a'i barnodd hi i'r cymhar diweddaf; yr hwn a'i helpiodd hi a'i hadar pan oedd hi mewn perygl angau, ac a'i dilynodd hi o hyny hyd heddyw; ac nad oedd i'r llall ddim o honi. A'r hen frân a hedfanodd i'r naill ffordd ei hun, gan grio a germain; a'r ddwy frân eraill a hedasant ffordd arall yn llawen ac yn gytûn. "

"Ac yna yr oedd merch y brenin i'r mab yn briod, a haner y frenhiniaeth gyda hi. Ac un diwrnod yr oedd y brenin ieuanc yn myned trwy y sytai, ef a welai ei dad a'i fam yn myned i letya i ostri gyffredin yn nghanol y dref, yn dlodion, wedi darfod o'u da, a gorfod arnynt ado eu gwlad o eisiau da. A'r nos hono, y brenin ieuanc a ddanfones genad i beri parotoi ei frecffast ef yno erbyn naw ar y gloch. Yna y brenin a aeth i mewn ei hunan, er mwyn cael ymddyddan â'i fam a'i dad; can's ef a'i hadwaenai hwynt, ac nid adwaenent hwy ddim ohono ef. A phan aeth ef i mewn, nid oedd neb yn y neuadd namyn ei dad ef a'i fam yn eistedd wrth y tân. Yntau a alwodd am ddwr i ymolchi; a'r hen farchog a godes i fynu, ac a gymerth fasn yn ei law, ar fedr dal dwr i'r brenin, eithr nis mynodd ef; a'i fam a geisiodd ddala tywel iddo, ac nis mynodd ef. Yna, ebai ef yn llawen, tan chwerthin oddifewn, 'llyma ddyfod yn wir a ddywedais i ar y môr, pan oedd y brain yn gregan ar gwr yr ysgraff. Ac na fydded waeth genych chwi er hyny, Duw a'i troes er lles i mi; ac o hyn allan, trigwch gyda mi, i gael bara, a chig, a chwrw, a gwin, a brethyn marchnad, a sidan, a melfed, a groeso tra fyddoch chwi byw. "

"Ac felly, fy arglwydd dad, mor ufudd ag y bu hwnw i'w dad, fyddaf finau i chwithau. Ac atolwg, fy arglwydd dad, na chredwch i mi geisio treisio yr ymherodres, ond iddi ymgynyg imi yr hyn nid oedd deilwng; a phan ballais i o hyny, y tynodd hi wallt ei phen, a thynu gwaed o'i hwyneb â'i hewinedd, a'm hathrodi i wrthyt ti, a cheisio genyt fy rho'i i angau, yr hyn a ddylai hi ei gael: canys y mae gyda hi ddau ŵr mewn dillad gwragedd yn llawforwynion iddi, wedi dyfod gyda hi o'i gwlad, y rhai sydd yn ei hystafell hi yn wastad; ac oni byddant hwy felly, crogwch fi"

Ac yr oeddynt megys y dywedodd ef. Ac yna barnwyd yr ymherodres i'w llosgi. A'r mab wedi hyn y a drigodd gyda'i dad mewn anrhydedd ac urddas, tra fu byw.

Ac felly y terfyna Ystori Saith Doethion Rhufain.


Nodiadau golygu