Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 13

Penawd 12 Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig

gan Lewis Jones, Plas Hedd

Penawd 14


XIII.

LLONGAU ΕΙ MAWRHYDI TRITON A CRACKER—TREVEDIGAETH BRYDEINIG Y FALKLANDS.

Yn y digalondid a'r chwithdod cyntav wedi sevydlu'r Wladva, gwnaeth rhai o bobl anvoddog y cyvnod helbulus hwnw ddeiseb ddistaw at raglaw y Falklands (y drevedigaeth Brydeinig gerllaw) i ovyn cael eu symud oddiyno i ryw van arall. Y Falklands oedd cyrchva pysgotwyr moelrhoniaid vynychent arvordir y Wladva ar y pryd, a thrwy un o'r llongau hyny y cavwyd cyvle i ddanvon achwyn gyda dau o'r gwladvawyr. Yr oedd bwrdd prwyol Ymvudiaeth Brydeinig (a'i orsav yn Lerpwl) yn cilwgu o'r dechreu ar yr ymvudiad i'r Wladva, a chyhoeddasid Rhybudd Gochel i ymvudwyr rhag mynd yno, a adnewyddwyd wedyn yn 1872, pan ddylivai ymvudwyr i'r Wladva o Gymru a'r Unol Daleithau.

Proclamasiwn—Rhybudd i Ymvudwyr i avon Chupat, Patagonia.—Rhybuddiwyd ymvudwyr o'r blaen rhag myned i'r van uchod, am y rheswm vod y sevydlwyr yno wedi syrthio i drybini mawr, ac vod natur y wlad yn gwbl anaddas i ddibenion amaethol. Ymddengys, er hyny, vod rhai yn myned yno eto; gan hyny erchir gan y Llywodraeth i rybuddio eto. Yn yr adroddiad diweddav gavodd y Llywodraeth [adroddiad y "Triton"] dywedid vod y Wladva mewn sevyllva gyvyngrhai o'r sevydlwyr mewn perygl newyn, heb gysgod, ac heb waith—ac os na allai neu na wnelai y Cyngor eu cynorthwyo, y byddai dioddevaint mawr. Velly, mae y Bwrdd yn rhybuddio eto ar i ymvudwyr ystyried yn ddivrivol beth a wnant wrth ymvudo i'r Wladva, ar y Chupat: ac iddynt govio, os gwnant ar ol y rhybudd hwn, mai arnynt hwy eu hunain y bydd y bai am unrhyw ddioddevaint ddaw arnynt.—ALFRED H. ENGELBACH.

Velly, pan gavodd rhaglaw y Falklands y ddeiseb lechwraidd, a chael holi y ddau wrthgiliasent. llythyrodd yn ebrwydd at yr awdurdodau llyngesol Prydeinig yn Montevideo (yr orsav agosav) ar i un o longau ei Mawrhydi wanu i lawr i'r Chupat i chwilio i'r helynt. Rhag i hyny vod yn dramgwydd i'r Llywodraeth Arianin, cynygiwyd mordaith i un o swyddwyr y Llywodraeth hono (Arenales) i vyned yn y "Triton" gyda R. G. Watson, ysgrivenydd y llys—genad Prydeinig. Hyny oedd achlysur cyntav i longau rhyvel Prydain alw yn y Wladva; ond y maent wedi galw agos bob blwyddyn ar ol hyny. Bu y dravodaeth hono a'r ymchwiliad yn voddion i esmwytho meddyliau a definio yn well y cysylltiadau a'r trevniadau o hyny allan. Yr oedd sevyllva y Wladva yn y man iselav vu arni. Cyhoeddwyd y gohebiaethau hyny yn llyvryn Seneddol; a dyddorol, os rhyvedd, yw dirwyn yr edavedd swyddogol, a'u nyddu yn llinyn dealladwy. Dengys yr adroddiad hwnw, nid yn unig ddilunwch pethau yn y Wladva, ond hevyd mor amhroviadol o nodwedd y wlad a'r bobl oedd yr adroddydd. I rai hysbys o'r Wladva, ac o'r helyntion govnodir, mae yr adroddiad yn wyrgam a rhagvarnus. Ond dodir y dyvynion canlynol, modd y gwelo'r darllenydd drosto ei hun:—

Buenos Ayres, Gor. 20, 1866.

I Mr. Jones, Coleg y Bala, y mae tadogi y Wladva hon, yr hwn a ddymunai sevydlu gwladva lle y deallid Cymraeg, i'r hon y gallai pobl yn siarad yr iaith hono yn unig ymgrynhoi, heb vod o dan anvantais oblegid hyny, vel mewn gwledydd eraill. Y prwyad ddanvonwyd ymlaen i edrych y lle oedd un Lewis Jones, a chydag ev un Mr. Parry—y rhai yn ol a ddywedir wrthyv a arosasant ar y Chupat am un diwrnod yn unig. Wedi dychwelyd ohonynt i Gymru rhoisant adroddiad mor lachar am Patagonia vel lle priodol i sevydlwyr Cymreig, vel y pendervynodd M. D. Jones vyned ymlaen gyda'i gynllun. Yr oedd yn ddechreu Hydrev pan gyraeddodd yr ymvudwyr i'r dyfryn, yn lle mis Mai vel y dylesid. Yr oedd L. J. wedi cael o Patagones gyvlenwad o luniaeth, mewn rhan drwy dynu biliau ar Loegr ac ar goel. Yn y cyvamser yr oeddid yn hyderu ar Dr. Rawson, y gweinidog cartrevol; ond cyn i'r cyvlenwad gyraedd galwodd L. J. gyvarvod o'r Pwyllgor, a dywedodd ei vod yn anobeithio cael cymorth y Llywodraeth, a'i vod ev velly—yr hwn yn y savle a ddaliai a'r rhan gymerasai i dynu eraill yno, ddylasai vod yr olav i'w gadael,—yn bwriadu ymadael o'r lle, a myned i rywle y gallai wneud yn well. Velly, gyda 3 neu 4 eraill, eve a aeth ymaith yn y llong oedd yn barod i hwylio : ceisiodd wedyn pan ddaeth y llong cyvlenwadau—gymeryd y blaen, ond ni vynai y sevydlwyr mohono mwy. . . . . Am y 19 enw wrth y ddeiseb ddanvonwyd i'r Falklands, ymddengys nad oedd amryw o'r rhai enwir wedi ei harwyddo, vod 5 yn blant, ac vod 4 oedd a'u henwau i lawr heb erioed glywed son am y ddeiseb: velly nid oedd ond 9 a thri plentyn am symud, tra'r oedd 90 o'r 130 sevydlwyr yn dymuno aros lle maent, ac yn voddlawn ar eu sevyllva. Mae dyfryn y Chupat yn meddu gweryd priddog, cyvoethog, tra addas naill ai i bori neu amaethu: ac y mae'r rhanbarth y gellid cymhwyso y desgriviad hwn ato, gellid cyvriv, yn abl cynal poblogaeth o 20,000. Mae gan y sevydlwyr yn awr (1866) 60 erw o wenith allan o'r ddaear: 62 o ddynion mewn oed, ydynt wedi bod yn ddyval i lusgo eu pethau o lan y môr, cynull coed tân, codi cloddiau a thai, a gwneud 10 milldir o fordd, vel nas gellir eu cyhuddo o vod yn ddiog. Ymhen dwy vlynedd caif pob un weithred am 100 erw o dir. Cyvrivant y bydd cynyrch 30 erw, yn ol 1000lbs i'r erw, yn ddigon i gynal y sevydliad dros y tymor nesav, a thalu hevyd ran o'r ddyled vawr sydd arnynt, heb vai yn y byd o'u tu hwy. Ond ni ddylid dybynu yn gwbl ar wenith, rhag y digwydd i un o'r pamperos mawr sydd yn ysgubo dros y gwastadeddau hyn weithiau, a'u dinystrio mewn un noswaith. Y mae ganddynt 50 o o wartheg a 30 o aneri.—R. G. WATSON.

Teg, hevyd, â'r adroddydd yw rhoi y dyvynion o'r achwynion gyfroasai raglaw y Falklands. "Yn ol yr addewidion teg wrth gychwyn y Wladva, ymunodd llawer o Gymry yn y mudiad, yn y llawn obaith o gael pob peth yn iawn yn y wlad odidog ddarluniasid gan yr arweinwyr. Disgwyliem bob parotoad ar ein cyver; ond pan laniasom wedi ein mordaith hir, ni chawsom ond yr awyr agored nos a dydd, a llawer ohonom wedi bod mewn eisieu bwyd—yn enwedig y rhai ar y Chupat. Am wythnosau nid oedd genym i'n cadw'n vyw ond dwy viscïen y dydd bob un, ac o'r diwedd dim ond cwpanaid vach o ddwr a the i gynal ein cyrf gweiniaid, ac nid oes genym yn awr ond bara caled a dwr. Nid oes gan y Pwyllgor ddim darpariaeth ar ein cyver a'n mawr angenion. Yr ydym megis caethion a charcharorion: nid oes yn y Wladva hon na rhyddid na chyvleusdra i symud oddiyma. Gan hyny yr ydym yn apelio atoch chwi vel rhaglaw Prydeinig i gydymdeimlo â ni a'n symud i'r Falklands. Er mwyn Duw, trugarewch wrthym, a dygwch ni i ryddid Prydeinig.—(19 o enwau).

D. John a Joseph Jones dystiolaethent: Nid oedd genym ddevnyddiau adeiladu—coed, ceryg, na chlai: nid oedd genym gefylau, drylliau na chwn: lladdem i'w bwyta bob bwystvil ac aderyn vedrem ddal—cadnaw, barcut, skunk. Addawsai

y mesurydd tir, Diaz, vod yn llywydd yn lle L. J., ac y cymerai oval na vyddem heb vwyd, ond ni welsom mohono ev na bwyd. Dioddevasom yn ddychrynllyd o newyn ac oerni; dim cysgod i orwedd dano; dim i'w vwyta ond cig cefyl; gorweddem yn y llaid a'r llaca: collodd tri ohonom y fordd na welwyd byth mo'nynt: bu 14 varw: bywiem mewn ovn a dychryn rhag Indiaid: da vyddai gan bawb foi i rywle oddiyno o olwg y vath drueni a dioddev: nid oes ganddynt ddillad, ac os byddant yno y gauav rhaid y trengant oll.

O'r ochr arall, ebai J. Ellis a 21 o benau teuluoedd: "Mae'r adroddiadau drwg ledaenwyd am danom yn dra eithavol. Gwnaed y chwedlau hyny gan 4 neu 5 o ddynion anvoddog, a fugio enwau 5 eraill. Cydnabyddwn ein bod yn cael digon o vwyd i'n cadw mewn iechyd da, a'n bod wedi hau tir digonol i vedru disgwyl cnwd digonol at gynhauav 1867.

Pan gyraeddodd adroddiad y "Triton" i law L. J., eve a varnodd yn bryd danvon gair at y llys—genad Prydeinig:—

Buenos Ayres, Hyd. 14, 1867.

At J. Buckley Matthew, Ysw., C.B.—Yr wyv newydd gael copi o adroddiad R. G. Watson am y Wladva ar y Chupat, ac yn cyvlwyno i chwi vel hyn vy ngwrthdystiad yn erbyn amryw o'r camsyniadau wneir yn hwnw. Goddevwch i mi ddatgan, vel dinesydd Prydeinig, mai syn a govidus yw canvod swyddog llysol wedi camddeall mor ddybryd yr helyntion y danvonwyd ev i'w chwilio, ac yn mynegu barn mor bendant a dywediadau mor ddisail am bobl nad oedd yn deall eu hiaith na'u syniadau. Dyvynir tystiolaeth 8 o bobl am y "twyll" oedd yn yr hysbysleni Cymraeg am y Vintai Gyntav. Mae 4 o'r rhai hyny heb vedru Saesneg, 3 arall yn dra amherfaith, a'r llall oedd awdwr y ddeiseb fugiol i'r Falklands! Dywedir i Mr. Ford (eich blaenorydd yma) vynegu vod Dr. Rawson wedi beio L. J. yn bendant am y costau dibris yr aethai iddynt i dderbyn yr ymvudwyr. Ni ynganodd Dr. Rawson erioed wrthyv y vath beth. Wrth gwrs, govidiai ev, a govidiwn inau. Vy unig gostau i yn Buenos Ayres oedd am vwyd i'r ymvudwyr, a chartro y llong "Juno" i'w cludo i Patagones a Chupat, ac am yr hyn yr aethai Mr. Denby yn veichiau. Y "costau dibris" hyny oeddynt 1,000 o ddevaid, a'u cludiad, 300 sachaid o wenith, gwartheg, cefylau, coed, &c., a 3 mis o draul y llong, yr oll hwyrach yn £1,400. Dywed Mr Ford na addawsai y Llywodraeth ddim at dreuliau y sevydlu. Naddo. Ond yn mis Medi y vlwyddyn hono talodd y Llywodraeth £800 at y draul hono, a gwarantu tal am y devaid i Aguirre a Murga, a gwerth mil o bunau wedyn o aniveiliaid. Cydnabyddir ar bob llaw mai difyg mawr y sevydliad yw prinder aniveiliaid ac ofer: ond pob peth sydd ganddynt o vy "nhreuliau dibris "i y maent. Y gwenith ddygais i yno hevyd a gadwodd y Wladva'n vyw wedi colli y tymhor hau. Er y pryd hwnw mae y Llywodraeth wedi talu £2,000 o gymorth misol i'r sevydlwyr, am yr hyn nad oes vuwch na davad na chefyl nac oferyn wedi eu chwanegu. Pan ddywedai capten y "Fairy" vy mod i yn cadw "store," dylasai wybod mai anwiredd ydoedd, gan mai y Pwyllgor ovalai am y stor ac nid y vi. Y Mr. Parry y cyveirir ato mor gwta yw mab Lieut.—General Syr Love Jones—Parry. Buom yn y Chupat nid am ddiwrnod, ond am wythnos, ac yn New Bay am wythnos arall. Pan ddychwelsom ni roddasom adroddiad llachar yn y byd. Ni thynwyd biliau heb awdurdod: ond pan aeth pob peth bendramwnwgl dyrysodd pob trevniadau masnachol, a bu raid i'm dilynwyr wynebu canlyniadau eu cynllwynion hwy eu hunain. Parthed awgrymiadau personol yr adroddwr am danav vi, digon yw cyveirio at y faith vod Dr. Rawson a minau yn parhau i gydweithio yn galonog i gadarnhau y Wladva, ac vod y sevydlwyr yn voddlawn iawn ar vy nghyvarwyddyd; tra mae'r bobl oedd yn adrodd ac yn athrodi wrth yr ymchwiliwr wedi hen gevnu ar y Wladva, a vinau, "vel y dylaswn, yn aros yr olav."—L. J.

Ar ol ymweliad y "Triton," bu cyvyngderau blin ar y Wladva. Buwyd 13 mis heb gymundeb gydag unman arall o'r byd! Digwyddasai rhyvel mawr Frainc a'r Almaen heb i'r Wladva glywed am ei dechreu na'i diwedd. Eithr Ebrill 4, 1871, daeth y gwnvad Prydeinig "Cracker" i edrych helynt y Wladva. Ond cyn rhoddi adroddiad o hyny gwell yw cydio pen yr edevyn wrth yr adeg yr aethai L. J. i Gymru (1869) gyda'r dyvyniadau canlynol o'r llyvr seneddol hwnw am y "Cracker."

Buenos Ayres, Mawrth 16, 1871.

Llys—genad Prydain at Iarll Granville.—Gwelais yn newydduron y ddinas hon vod pryder rhag vod y Wladva ar y Chupat mewn eisieu, ac yn awgrymu mai da vyddai ped elai un o longau Ei Mawrhydi i lawr yno i ymchwilio; yn enwedig gan vod yr Indiaid tua Bahia Blanca yn ymdervysgu. Daethum o hyd i Mr. Carrega, y masnachwr vyddai arverol o ddanvon i'r Chupat roddion lluniaeth y Llywodraeth, ond y rhai a dervynasent yn Mehevin, 1869. Dywedai eve vod L. J. (Chubut), wrth ysgrivenu ato ev o Brydain, yn govyn iddo barhau i ddanvon bwyd i'r Wladva, gan y disgwyliai ddanvon ymvudwyr yno at ddiwedd y vlwyddyn, drwy Gwmni Llongau furviesid yno i hyny. Wedi hyny cawsai lythyr arall oddiwrth L. J., o'r Wladva, yn hysbysu vod y llong wedi cyraedd gyda rhai ymvudwyr, a pheth llwyth, ac yn ervyn arno ev (Carrega) gael gan y Llywodraeth roi rhoddion eilwaith i'r Indiaid, vel y byddai'r Wladva yn ddiogel rhag y rheiny. Yr oedd hyn yn Mai, 1870; eithr ni wnai y Llywodraeth ddim, ac nid ymholai chwaith i dynged y Wladva. Ni vedrais olrhain y llong ddiweddav oddiyno ["Myvanwy"], ac ni wyddid am yr un cymundeb gawsid wedi hono. Ceisiais ymhob modd wasgu ar y Llywodraeth wneud ymchwiliad; ond yn gwbl over: yr oedd yr ymladd yn Bahia Blanca ac Entre Rios yn ddigon o esgus. Gan nad oedd dim yn tycio, apeliais at Capt. Bedingfield, priv swyddog yr orsav lyngesol, i anvon gwnvad i'r Chupat. Ond barnai y swyddog hwnw pe buasai rhyw wasgva ar y Wladva y mynasent ryw gymundeb gyda Bahia Blanca neu Rio Negro. [Gwel hanes yr ymdrechion wnaed.] Awgrymai L. J. wrth Carrega pe delai llong tuag atynt mai doeth vyddai i hono alw y tuallan i aber yr avon. Bid a vyno, chwi sydd yn gwybod beth vedr y llongau wneud: ond ystyriav vy hun wedi gwneud vy nyledswydd wrth roddi ger eich bron y sevyllva a'r pryderon. —H. G: MACDONNELL.

Oddiwrth hynyna ve welir sut y daeth y "Cracker," pan oedd gyvyng ar y Wladva—a da iawn vu y dyvodiad hwnw. Mae yn engraift, hwyrach, o lawer gwasanaeth distaw wneir gan Lywodraeth Prydain. Dyry y dyvyniadau canlynol o adroddiad y Cracker ryw ddirnadaeth o'r cyvwng yr aethai y Wladva drwyddo, ac o'r sevyllva a'r syniadau erbyn hyny.

Montevideo, 16 Ebrill, 1871.

Ebai Capt. Denniston: "Mae'n hyvrydwch mawr i mi vedru mynegu ddarvod i ni gael y Gwladvawyr mewn iechyd ac ysbryd rhagorol, er mor ryvedd hyny wrth ystyried na vu cymundeb rhyngddynt â'r byd er's 20 mis, oddigerth pan ddaeth L. J. ac 11 o ymvudwyr yn Mai, 1870. Yr oedd diolch y bobl druain hyn i lys—genad Prydain'am ymholi yn eu cylch ac i'w helynt, yn olygva doddedig; a diau y bydd yr ymweliad hwn yn voddion i ddileu y teimlad o lwyr unigedd oedd yn peri i rai ohonynt ddigaloni. Mae y Wladva wedi dioddev dwy vlynedd o sychder [camlesi anigonol], vel mai methiant vu y cynhauav. Cyvrivir vod eu cnwd tuag 16 tunell o wenith—tua digon i gyvlenwi bara iddynt. Ond y mae hyny yn perthyn i ychydig bersonau: dau deulu heb ddim grawn; a 10 heb yn agos ddigon; tra nas gellir disgwyl cymorth am bedwar mis o leiav. Velly, wedi archwiliad trwyadl i'r sevyllva, pendervynais gymeryd y cyvrivoldeb arnav vy hun i hebgor o vwyd y llong i'r rhai tlotav (19 mewn niver) 504 lbs. bara caled, 309 lbs. pys, 404 lbs. blawd, 308 lbs. blawd ceirch, 201 lbs. tatws parotoedigoll 1724 lbs. o luniaeth, a 200 lbs. o sebon. Mae yr holl Wladva wedi bod am ddeng mis heb un math o groceries, gan vyw ar vara menyn, llaeth, a chig helwriaeth. Cyn y dervydd hwn disgwyliant y bydd cynydd y gwartheg yn ddigon i gyvlenwi eu hangenion. Mae'r pellder i Patagones (y man agosav atynt) yn 200 milldir o wlad ddifaeth ddi—ddwr, vel mai yr unig gymundeb ymarverol iddynt vyddai llong vechan o ryw 80 tunell. Gwelais bron bob un yn y Wladva, ac ni chlywais ond un gri, sev difyg cymundeb, ac velly ddifyg holl vân angenion cyfredin bywyd. Ni ynganodd neb ddymuniad i adael y lle; a chytunent oll y byddent yn gwbl gysurus pe cawsent y rheidiau cyfredin yn eu cyraedd. Mewn cyvarvod o'r holl sevydlwyr govynwyd i mi ganiatau cludiad i Mr. L. Jones, er mwyn iddo ymdrechu cael Ilong at eu gwasanaeth; ac i Mr. D. Williams, Oneida, ddisgwyliai gyvlenwad o ofer amaethu o'r U. Daleithau—a chaniateais y ddau gais.—R. P. DENISTOUN.

Ac ebai'r meddyg Turnbull: "Ymwelais yn bersonol ag agos bob un o'r trigolion, a gallav velly dystio i iechyd rhyveddol yr holl sevydliad, yn neillduol y plant. Yr oedd y casgliad yn anocheladwy—vod y newid o hinsawdd Cymru i'r hinsawdd dymherus hon wedi bod o anrhaethol les iechydol i'r trigolion.

Vel rhan o adroddiad y "Cracker," cyhoeddwyd am y tro cyntav ystadegaeth vanwl am bawb a phob peth yn y Wladva ar y pryd:—Poblogaeth 153, teuluoedd 34, gwartheg 148, aneri a lloi 80, bustych 73, cefylau 108, cesyg 39, ebolion 4, devaid 9, erwau o wenith 257, cnwd llynedd 37,850lbs, haidd 1300lbs.

Hynyna! ymhen chwe' blynedd! wedi dioddeviadau, cynhenau, aberthau, ymdrechion, dewrder, eiddilau, egnion, cydweithio, cynllunio, methiantau.


TREVEDIGAETH BRYDEINIG YW Y FALKLANDS yn gorwedd ryw 150 o filldiroedd i'r dwyrain oddiar arvordir deheuol y Weriniaeth Arianin (ddynodir yn gyfredin "Patagonia"). Hinsawdd wyntog a niwlog sydd i'r ynysoedd; ond megir llawer o ddevaid a daoedd yno. Bu cryn giprys am y Falklands ar un adeg rhwng llywodraethau Frainc, Prydain, a Spaen, ac am gyvnod byr bu yr Unol Daleithau hevyd yn llygadu yn eu cylch. Vel olyniaeth i etiveddiaethau Spaen, mae y Weriniaeth Arianin o dro i dro wedi gwrthdystio yn erbyn meddiant Prydain ohonynt. Ond llywodraethir hwynt gan Brydain er's blyneddau lawer vel Trevedigaeth y Goron (Crown Colony), gydag awdurdodau gwladol, milwrol, ac eglwysig. Hon yw yr unig drevedigaeth Brydeinig yn Ne Amerig briodol; ac edrychir arni vel cartrev gorsav lyngesol De—ddwyrain Amerig, er mai Montevideo yw cyrchva benav y llynges. Oblegid hyn, mae cyswllt wedi bod o dro i dro rhwng y Wladva a'r Falklands. Llongau rhyvel Prydain yn galw ar eu fordd i neu o'r Falklands i saethu a threulio gwyliau hav mewn hinsawdd dymerus: ac wrth vod y morwyr a'r swyddogion o'r un bobl a magwraeth a'r gwladvawyr, bydd cyvathrach a thravnidiaeth rhyngddynt.

Yn y 7 degau, a chyn hyny, arverai llongau pysgota moelrhoniaid chwilena arvordir y Wladva a'r tiriogaethau ereill, a gwneud y Falklands yn orsav eu masnach. Un o'r llongau vynychent y lle oedd yr "Irene," Capt. Wright; ac un tro, pan mewn cilvach tua Tombo Point, ryw 80 milldir islaw y Wladva, daethant ar draws gweddillion dynol, a lle bedd gerllaw. Ni avlonyddwyd ar y bedd, ond cavwyd yn ei ymyl oriawr arian, ag arni enw'r gwneuthurwr, J. Hughes, Čarnarvon; cyllell boced a'r llyth'renau D. D. arni: a botwm livrai lled hynod. Deonglai y Wladva y creiriau hyny vel yn perthyn i bobl y llong vach "Denby," gollasid yn 1868—9: D. D. oedd D. Davies, mab T. Davydd, Dyfryn Dreiniog; y botwm livrai berthynai i T. Dimol pan wasanaethai glwb yn Manchester; yr_oriawr vel un a roisid i oval Cadivor Wood i'w glanhau yn Patagones. Aeth Capt. Wright a'r creiriau i'r Falklands, gan wneud datganiad yno o'r darganvyddiad. Bu peth gohebiaeth rhwng L. J. a'r rhaglaw yno yn eu cylch, ond newidiwyd y rhaglaw hwnw, ac o ddifyg cymundeb rhwng y Falklands a'r Wladva, collwyd golwg a hysbysrwydd yn eu cylch.

Bu Esgob y Falklands, cyn ei ddyrchavu i'r meitr, yn genadwr at vrodorion Tierra del fuego, vel dilynydd i'r merthyr Allan Gardner, a gwnaeth Cymdeithas Genadol De Amerig orsav genadol yno iddo ev, ac ysgol genadol yn y Falklands. Mae stori Allan Gardner a'i ddilynwyr newynwyd mewn ogov gan y Fuegiaid yn evengyl genadol wasanaethodd i sylvaenu a phai hau y gymdeithas hono; ond hunan—alltudiaeth yr esgob (Mr. Stirling y pryd hwnw) am dair blynedd ei hunan i ganol y rhai isav dynol hyny, a sevydlu yno ysgol genadol y Falklands (Keppel Island), yw addurn penav yr ynysoedd. Erbyn hyn y mae rhan o vaes llavur yr esgob wedi d'od yn sevydliad Arianin haner lyngesol a physgotol, a'r rhan arall o dan nodded Chili.

Er's blyneddoedd bellach aethai y Falklands yn rhy lawn o aniveiliaid a devaid, a bu raid i'r rhai cevnog oddiyno symud eu deadelloedd i Diriogaeth Santa Cruz (yn y cyver) a Chydvor Machelan. Erbyn hyn mae y rhimyn o'r tir goreu gyda'r Cydvor, a chyda'r Andes, ac oddiyno i'r Werydd, yn dryvrith o ddevaid "pobl y Falklands:" hyd nod maent wedi gweithio gyda'r arvordir i gwr deheuol tiriogaeth y Wladva (Chubut). Mae agerlongau y "Kosmos" (Ellmynig) yn galw yn y Falklands a Montevideo a'r Cydvor, wrth vynd drwodd i Chili, a llywodraeth y Falklands yn talu £200 y tro iddynt, heblaw cludiad teithwyr a nwyddau.

Yn 1873 bu un cyswllt masnachol arall rhwng y Wladva a'r Falklands, sev pan brynodd Geo. M. Dean & Co., 50 o gefylau y Wladva i'w gwerthu yn y Falklands, a gadael dilladau yn gyvnewid am danynt. Bu hyny o gryn hwb i'r Wladva ar y pryd, a diau i'r cefylau dalu i'r masnachwr. Tua'r un adeg y galwodd yr "Allan Gardner"—llong Cymdeithas Genadol De Amerig, gyda'r Esgob Stirling ac eraill ar ei bwrdd, ar ei fordd o Tierra del fuego i Patagones. Danvonodd yr Esgob oddiyno ynddi hi vuches newydd i Mrs. L. J., yn lle y rhai werthasid i dalu cyvlogau gweithwyr y guano tua'r adeg y galwasai eve.

Nodiadau

golygu