Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 16
← Penawd 15 | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd |
Penawd 17 → |
XVI.
LLONG ETO I'R WLADVA I GEISIO GWEITHIO ADNODDAU'R WLAD.
Dangosai adroddiad y "Cracker" pa mor ddigyswllt oedd y Wladva wrth y byd y pryd hwnw (1870), ac y byddai raid cael eto long i redeg ol a blaen i Buenos Ayres, at gadw cymundeb cyson. Caniatesid i L. J. a D. W. Oneida, ddod i Montevideo, yn y "Cracker," i edrych vedrent wneud rhywbeth i hyrwyddo hyny; ond pan ddaethant yno yr oedd y vad velen (yellow fever) mor ddrwg yn Buenos Ayres, vel yr ysgubid ymaith y trigolion hyd i 500 y dydd a rhagor.
Velly bu raid aros yno am ddau vis cyn gallu myned at y Llywodraeth i ovyn am ymwared llong. Bu L. J. ddyval a thaer gyda'r awdurdodau yn ceisio egluro y sevyllva a gweithio y deisyviad—ond oll yn over. Bu raid iddo droi eilwaith at lys—genad Prydain i ovyn ei help caredig ev, er vod Capt. Bedingfield wedi datgan yn gryv yn erbyn ymyryd.
Yr wyv dan orvod i apelio eto at yr un caredigrwydd ag a vedrodd ddanvon y Cracker," i holi hynt y Wladva, yn Ebrill diweddav. Gwelsoch oddiwrth yr adroddiad hwnw mai angen mawr y sevydliad yn awr yw moddion cymundeb i ddanvon cynyrchion i'r varchnad, a chael rheidiau yn gyvnewid. Er cyniver o anhawsderau ydys wedi gael, mae y gwladvawyr yn awr mor fyddiog yn eu gwlad newydd vel y maent yn codi tai brics cysurus iddynt eu hunain, a'r unig gais arall wnaethant atav, heblaw llong, oedd am weithredoedd ar eu tir, ac ychydig gymorth at ysgol. Eglurais i'r Arlywydd Sarmiento nad oedd y gwladvawyr yn hofi bod yn vaich ar y Llywodraeth, ac y gallent bellach, gynal eu hunain, pe cafent gyvleusdra marchnad i'w cynyrchion. Er y pryd hwnw bum 84 o weithiau yn swyddfeydd y Llywodraeth, a dwyn pob dylanwad vedrwn o'm tu—ond oll yn over. Yn Mehevin, govynwyd i'r agerlong "Patagones" pa swm chwanegol ovynai hi am redeg i'r Wladva o'r Rio Negro ddwywaith yn y vlwyddyn, a dychrynwyd pan ovynid $3000 aur (£600) bob tro. Yna govynais am y $2000 neu $3000 tuagat brynu llong vel o'r blaen i'r Wladva. Oedwyd o ddydd i ddydd, hyd Awst 2, pryd yr hysbyswyd vi gan yr isysgrifenydd, "Vod yr Arlywydd wedi pendervynu peidio gwario yr un ddoler yn rhagor ar y Wladva, os na symudai y sevydlwyr i rywle arall." Yn y cyvwng hwn nid oes genyv gan hyny ond syrthio'n ol ar eich cydymdeimlad chwi. Wedi pedwar mis o ddihoeni a disgwyl yma, yr wyv yn cael vy hun yn analluog i vyn'd yn ol at y sevydlwyr a vy nheulu, na chymeryd iddynt y nwyddau y gwn vod arnynt gymaint o'u hangen. Mae son am "symud" pobl nad oes arnynt un dymuniad i hyny, ac ydynt wedi mynd drwy galedi anhygoel i ymgartrevu mewn gwlad newydd, yn greulondeb debygav vi, ac yn anheilwng o'r Weriniaeth Arianin. Am hyny, nid oes genyv ond tavlu vy hun a'm cydwladwyr ar drugaredd cynrychiolydd Ei Mawrhydi Brydeinig.—L. J.
Canlyniad yr apêl hwnw vu y nodyn canlynol ymhen tair wythnos oddiwrth lys—genad Prydain :
Mae'n dda genyv eich hysbysu vod mater y llong wedi ei setlo. Prynwyd hi, ac y mae'r archeb wedi ei rhoi i'r Capitania i'ch cyvlenwi â phob peth rheidiol i'w fitio i'r môr. Ĉeir yr arian gan y Llywodraeth, hyd i swm amcan—gyvriv Ballesteros. Gallwch gymeryd meddiant ohoni pan y mynoch, a brysiwch i wneud hyny gynted cewch y nodyn hwn.—H. G. MACDONNELL. Yna daeth cyhoeddeb y Llywodraeth vel hyn:
Wrth ystyried y dymunoldeb o gynal Gwladva Chubut, rhodder $3000 i brynu llong ar y telerau canlynol:—(1) Fod y llong i'w hystyried yn eiddo'r Llywodraeth, ac i vod dan y vaner Arianin, nes yr ad-delir y swm gan y Wladva. (2) Dros ystod hyny nis gellir ei gwystlo na'i gwerthu. (3) Vod i gynrychiolydd y Wladva yswirio y llong ar unwaith rhag pob colled môr. (4) Hyd nes y trevnir awdurdodau y Wladva, vod i'r cynrychiolydd weinyddu yn yr hyn vo angenrheidiol. (5) Vod i'r cynrychiolydd arwyddo ei gydfurviad â'r telerau, a throsglwyddo papur perchenogaeth y llong, ac inventory o bob peth sydd ynddi. ALSINA (Luis L. Dominguez).
Enw y llong hono oedd "Maria Ana," ond newidiwyd yr enw gan y Llywodraeth i "Chubut." Yr oedd hono yn llong grev, o ryw 200 tunell. Dychwelai D. W. Oneida a'i ofer amaethol yn y llong hono gyda L. J., a Leesmith, a Greenwood. Freitiwyd hi gan dŷ masnachol yn Buenos Ayres, i lwytho guano ar lenydd y Wladva, y rhai a ddodent ynddi gyvlenwadau o vwyd a chelvi at y gwaith. Velly, drwy y llong hono, cawsid cyvle o'r diwedd i wneud prawv ar yr hyn vuasai drwy'r blyneddau mewn golwg—sev gweithio adnoddau naturiol y wlad. Vel ceidwad y llong dros y Llywodraeth, freitiodd L. J. hi i'r cwmni am £300 y mis; ond bu raid iddo vynd yn bersonol gyvrivol am gyvlog y gweithwyr o'r Wladva elent i lwytho y dom ynddi. Cychwynodd yr anturiaeth yn eithav llwyddianus; ond cyn hir, aeth yn ddyryswch gyda rheolydd y cwmni—un o'r enw Stephens, ddaeth wedi hyny yn hysbys ddigon. Wedi bod rai misoedd yn gweithio velly, ac wedi gadael y feryllydd ac ereill ar ynys anghyvanedd i ddala moelrhoniaid, daeth y briv long oedd yn y gwasanaeth—“ Monteallegro"—i geisio dod i'r avon—ond aeth ar y traeth, ac yn llongddryll, a'r llwyth tom oedd ynddi gyda'r môr. Bu raid velly ddanvon llong y Wladva, "Chubut," i achub y feryllydd a'r dynion oedd tua Camerones, am yr hyn wasanaeth y mynai'r feryllydd Lewald dalu o'r arian oedd ganddo ev perthynol i'r cwmni: ond yr hyn na chaniatai Stephens, a bu peth frwgwd. Cawsid nad oedd y guano gesglid ond peth lled salw, ac na thalai y fordd i'w gasglu i long a'i drosi wedyn i long arall; ac vod cyvlogau y dynion yn crynhoi tra'r oeddys yn aros tywydd gweithio. Deallwyd wedyn mai gweld yr anturiaeth yn myn'd yn golledus yr oedd y rheolydd, ac ddarvod rhedeg y "Monteallegro " i'r làn yn vwriadol, er mwyn yr yswiriad. Bid a vyno, hwyliodd y "Chubut" i Montevideo, ac oddiyno i Buenos Ayres, i ddisgwyl y freit, a chyvlogau, a lluniaeth i vynd yn ol. Oud ni chavwyd ddimai vyth—ond pob dyhirwch a chnaveiddiwch. Velly syrthiodd y llong yn ol i'r Llywodraeth. Ond yr oedd gan L. J. i wynebu £300 cyvlogau y gweithwyr gartrev yr oedd yn gyvrivol am danynt; a bu raid iddo werthu pob peth a veddai ar ei helw y pryd hwnw i gyvarvod govynion y dynion —a hyny a wnaed hyd y fyrling eithav.
Eithr nid hyny wedyn oedd diwedd helbulon y "Monteallegro" a'r guano. Cawsid y llong "Chubut" drwy i lys-genad Prydain wasgu peth ar y Gweinidog Tramor—Dr. Tejedor. Yna, ar y lav Chwev., 1872, danvonodd hwnw y nodyn canlynol at L. J.:—
Derbyniais eich llythyr Rhag. 5, ac Ion. 15. Nis gallav gymeradwyo eich gwaith gyda'r llong Oriental " Monteallegro." Dylasech gyvyngu eich hun yn unig at noddi y rhai gollasant eu llong. A p'le mae' ysgwner "Chubut?" [Yn Montevideo]. Nid ydych yn mynegu yn eglur: ac i roi y cyvarwyddiadau y govynwch am danynt, rhaid cael gwybod hyny yn gyntav dim. Ar hyn o bryd, digon yw adgovio vod y llong wedi ei rhoddi at wasanaeth y Wladva, ac na ddylid, ac na ddylesid colli golwg ar hyn. Pan gav vwy o vanylion byddav veithach. O.Y.—Yr wyv newydd dderbyn o Montevideo lythyr oddiwrth Stephens, yn yr hwn y mae'n gwadu yr holl hanes a roddwch chwi: a gall hyny beri llawer o ovid. Danvonwch adroddiad llawn cyn dychwelyd.—Tejedor.
Yr "adroddiad" goreu hwyrach yw y dyvynion canlynol o lythyr Capt. Harrison, meistr y Monteallegro," am y dyn gevnogid gan Dr. Tejedor:—"Montevideo, Chwev. 4, 1872. Ve synwch, mi wn, pan vynegav i chwi i Stephens ddevnyddio vy enw i ar 6 o dderbynebau am £30 nad oedd wnelwyv ddim â hwy. Ymhlith ei bethau cavwyd gwn pres, ac arvau lawer. Govidus i mi yw bod wedi cymysgu gyda'r vath leidr a fugiwr enwau. Da vyddai genyv gael eich tystiolaeth (L. J.) am y rhybudd roisoch i vy mate, pan yr awyddai hwnw ar i'r 'Monteallegro' ddod i'r avon i'w dinystr yn vwriadol.—M. HARRISON."
Gwelir velly mai methiant a cholled vawr vu y cais i ddadblygu adnoddau'r arvodir y Wladva y pryd hwnw. Ymhen rhai blyneddau gwnaed peth masnach gyda chrwyn y moelrhoniaid oddiar y tueddau hyny.