Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 27
← Penawd 26 | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd |
Penawd 28 → |
XXVII.
YR ADVYWIAD.
Y rhaglaw cyntav dan yr oruchwyliaeth newydd oedd Luis Jorge Fontana, a bu'n dal y swydd dros ddau dymor (6 blynedd), Alejandro A. Conesa yn ysgrivenydd iddo yr hwn hevyd ddewiswyd yn ysgrivenydd gan y rhaglaw ddilynodd—sev Don Eugeni Tello. Yr oedd yn 1885 pan ddaeth y rhaglaw Fontana i gymeryd ei swydd, a dechreuodd ar unwaith roddi y gweinyddiad Lleodrol mewn grym. Penododd y Senedd Dr. Horacio Reale yn Varnwr Cyvraith. Aeth pob peth i'r rhigolau yn rhwydd ac ar unwaith, wrth vod yr holl dravodaethau blaenorol wedi parotoi y lle a'r bobl i weinyddu yn ddeallus; a'r rhaglaw o'i 'du yntau yn gynevin â sevydliadau gwledig, ac yn wr goleuedig, rhyddvrydig. Bellach gellid ysgrivenu, "A'r wlad a gavodd lonydd," o ran anesmwythder gwleidyddol-gweinyddol—ac a ddechreuodd lwyddo.
Drwy gydol yr helbulon gweinyddol yr oeddys wedi bod yn ymgodymu ac ymdrechu âg anhawsderau eraill lawer, oeddynt i'r lluaws, hwyrach, yn nes adrev a chyfredadwy—sev oedd hyny: y dyvrhau, y cynyrchu, y cludo, a'r masnachu. Wedi cael y weledigaeth o ddyvrio, a rhwbio llygaid beth amser i'w darllen yn iawn, dechreuwyd cyvundrevn o fosydd o'r avon i vanau cyraeddadwy ar y dyfryn: ond cavwyd gwersi o siomedigaeth a cholled gyda'r rheiny droion oblegid anwadalwch codiadau yr avon. Yna aethpwyd i veddwl yn sicr mai argaeo yr avon a'i chadw velly yn yr un uchder o lyval oedd y cynllun diogelwch. Gweithiwyd yn wydn, egniol, a dyval ar y syniad hwn, drwy anhawsderau a chyvyngderau lawer. Yr argae gyntav geisiwyd oedd un o bolion helyg, uwchlaw Gaiman. Wedi hyny cyvunodd fermwyr y Drova Dywod i wneud cynyg teg am argae goed gynllunedig: a gwariwyd cryn arian am y coed hyny, ac ymdrechion pybyr vwy na hyny, i ymladd â'r hen avon—ond yn over. Yna yr oedd ceryg a chreigiau Gaiman wedi llygad—dynu pobl Bryn-gwyn a'r Dyfryn Uchav i deimlo yn hyderus y trechent hwy ellyll y dwr drwy vwrw digon o'r ceryg hyny i'w grombil—a milain ovnadwy vu y codymu hwnw : cawsid pen ar y mwdwl unwaith, ond cnodd a thyllodd yr hen avon am y sodlau a'r ceseiliau nes ei gadael yn vurddyn mesopotamaidd o wydnwch y Gaimanwyr. Dro wedyn, pan ddaethai peirianwyr ac arianwyr trosolion mawr y byd diweddar—i 'maelyd codwm â'r ellyll, a nerthoedd o egni a dyvais tu ol, disgwylid yn ddiogel gael y llaw uchav arno—eithr ys truain o bethau yw penau a pocedau pan gyvyd Natur yn ei mawredd arddunol i'w teilchioni a phoeri arnynt—ysgubid pob peth devlid i'r anoddyvn—bwyteid y torlanau—furvid traethau —ac elai gobeithion y gwladvawyr hevyd gyda'r lliv. Ceisiwyd unwaith neu ddwy wedi hyny glytio y murddynau argaeon hyny—ond i nemawr ddim pwrpas.
Yna, ar ol yr holl drybaeddu a sigdod, sgrwtiodd y Wladva wrthi ei hun, vel pe'n dywedyd, "Os nad wyt gryv bydd gyvrwys:" ac aed ati ar unwaith i lyvelu ac anelu i hudo yr hen avon yn arav vach o’i manau uchav yn y Creigiau Cochion i redeg drwy GAMLESI graddol dros holl wyneb y dyfryn. Hwn bellach yw yr allwedd aur sydd i agor dorau pob anhawsder—ond vod gwaith gov arno yn aml i fitio—"dim digon o rediad," "newid gwely'r fos," "tori cangen newydd, neu unioni," cavnau, dorau, &c.
Tra yr oeddys eto wrthi yn ceisio dadrys y cylymau hyn, teimlid yr esgid yn gwasgu ar vawd masnach y lle, ac wedi cosi bodiau a fèrau eu gilydd clybiodd dyrnaid o'r gwladvawyr i wneud "Cwmni Masnachol y Camwy"—C.M.C.Chubut Mercantile Co.—Compania Mercantil del Chubut! danvon eu gwenith (taw dyna goin y wlad) yn gyvunol i varchnad Buenos Ayres, a chael nwyddau ac arian yn ol am dano. Yr oedd hyn yn 1885, a chraidd y clwb oeddynt T. T. Austin, W. W. Mostyn, J. C. Evans, D. D. Roberts, B. Brunt, &c.
Tua'r un adeg credasai T. Davies (Aberystwyth), wrth weled aber salw anghyvleus yr avon, mai hwylusdod mawr vyddai cael rheilfordd o vau ardderchog Borth Madryn dros y paith i'r dyfryn (vel yr awgrymasai Syr Love Jones—Parry yn ei adroddiad), a chavodd gan L. J. ac E. J. Williams lyngcu yr un syniad. Ond "hawdd dywedyd dacw'r Wyddva, nid eir drosti ond yn ara." Wedi cael gwared o hunlle y Lleodraeth, aeth L. J. i Buenos Ayres i geisio cael breinteb ganiataol gan y Llywodraeth i wneud rheilfordd velly, a chael lech o dir rhodd o bobtu'r linell. Llwyddodd yn hyny: ond peth arall oedd cael rhywun ag arian i wneyd y fordd haiarn. Wedi unwaith daro ar wr mor egniol ag A. P. Bell, aeth y peth rhagddo i dervyniad llwyddianus a buan. Yn 1887 agorwyd y fordd haiarn honoF.C.C.C.—o 70 kilom. (42 mill.) rhwng Borth Madryn a Threlew yn y dyfryn.
Gwelir wrth y vras olwg yna mai cyvnod mawr i'r Wladva oedd hwnw: (1) Cael Lleodraeth reolaidd. weithiadwy, dan arolygaeth rhaglaw deallus. rhyddvrydig. (2) Agor camlesi dyvrio, vel gwythi arian ar hyd y dyfryn. (3) Cychwyn masnach ar seiliau cydvael, i vod yn allu lleol ac elw. (4) Gosod y rheilfordd yn llinyn travnidiaeth o Borth Madryn gyda'r byd oll, a dwyn 300 o ddyvudwyr i vywyd tra newydd.
TREM DRACH Y CEVN.
Sypiwyd digwyddion y paragraf diwedddav vel crynodeb o helynt y Wladva dros amryw vlyneddoedd, vel y byddent velly yn vwy dealladwy a dyddorol: ond rhaid myned yn ol o ran amseriad i gael penau edavedd y bellen hono eto a'u cydio a'u nyddu i wê y stori.
Yn 1875—6 (10 mlynedd cyn cael o'r niwl) pan ddylivai y dyvudwyr o Gymru i vyn'd tua'r Wladva, a hono ar y pryd yn anaeddved iawn i'r vath ruthr, oblegid y traferthion a'r anhawsderau lawer a'i cylchynai (y cyveiriwyd at rai o honynt)— danvonodd Swyddva Dyvudiaeth un vintai ohonynt i Santa Fé (ardal Reconquista), lle y mae gweddill bychan ohonynt yn aros hyd heddyw. Eithr ymhen hir a hwyr medrodd dau neu dri theulu ohonynt eu fordd i'r Wladva (H. S. Pugh, Robt. M. Jones, J. Loyd, &c.) lle maent wedi cartrevu yn gysurus.
Wrth grybwyll am Sante Fé dylid cyveirio y darllenydd yn ol i t.d. 52, lle y crybwyllir am ran o'r ddirprwyaeth aethai i vynu yno yn 1867 (yr "ail ymblaid"). Talaeth vawr boblog yw Santa Fé yn awr, lle y codir llawer o wenith, a'r tiroedd wedi eu meddianu gan gym'dogaethau o Ellmyn, Helvetiaid, Italiaid, Prydeiniaid, &c. Mae yno un teulu o'r Cymry yn aros eto (John Morgan, Pwllglas, Penygarn, ger Aberystwyth), ac mewn sevyllva gysurus, gan gadw eu hiaith a'u devion Cymreig yn rhyvedd, eithr y gweddill wedi chwalu ac ymgolli yn y cylchynion.
Yn 1877 yr oedd y wasgva yn y Wladva yn ddwys iawn, am nad oedd weledigaeth eglur parthed argaeo yr avon, neu ynte gamlesu (gwel y cyveiriadau at y cyvnod hwnw). Llu o bobl ar draws eu gilydd yn eu chwithdod a'u hiraeth yn methu cael bywoliaeth, ac ynghanol helbulon pethau ar eu haner: a'r vrwydr am leodraeth yn poethi—cynhelid cyrddau, cynhenai pleidiau, ac ymadawai y rhai vedrent. Pan alwodd y rhyvellong Brydeinig "Volage" y vlwyddyn hono, cavodd y cabden y nodyn canlynol oddiwrth rai anvoddlawn i'r sevyllva :"Govyn yr wyv i chwi am gludiad oddiyma i rywle arall i chwilio am vywoliaeth. Yr wyv yn myned yn ddirprwy dros vwy na 150 o rai eraill ddymunent wella eu hunain, yn lle myned yn ol, vel y maent yma. Am vy nghymeriad cyveiriav chwi at A. Oneto, y prwyad cenedlaethol."
Yn 1884-5, pan ddaeth ysgegva yr argae a methiant cynhauav, daeth ton arall o anesmwythder, ac aeth amryw ymaith i van a elwid Curumalan (Sauce Corto) yn nhalaeth Buenos Ayres: a chawsant yno diroedd a chyvleusderau i wneud cynyg arall. Mae yno rai yn aros hyd eto, ambell un yn fynianus, llawer wedi chwalu, ond llawer hevyd wedi dychwelyd i'r Wladva o dro i dro, a chartrevu yno yn voddlonach ymhlith eu pobl eu hunain nag yn y gymysgva a'u cylchynai: a phethau yn y Wladva erbyn hyny wedi ymunioni a gwella.
"CWMNI MASNACHOL Y CAMWY"—C. M. C.
Cyveiriwyd at y Cwmni hwn—"Y Co—operative," vel y gelwir Mae hwn yn sevydliad pwysig bellach: yn meddu tair neu bedair maelva, ac yn ddiweddar wedi prynu llong 300 tunell i'w helw ei hun: cyvala o ryw £10,000, yn rhaneion £1 yr un: rheolir y vasnach gan vwrdd o 12 aelod (elwir hyrwyddai) ac arolygydd (manager). Derbynir y gwenith (a phob cynyrch masnachol arall) oddiwrth y fermwyr, a rhoddir papur am y pwysau a'r gwerth yn gredyd i gyvriv y gwerthwr, a chaif yntau nwyddau neu arian vel y bo eisieu (i hyd ei gredyd): rhenir y vlwyddyn i dau neu dri thymor, a'r pris gwerthu ymhob tymor vydd rheol y credyd: yn Buenos Ayres gwertha y rhyngwr (broker) bob llongaid i gyvriv y Cwmni, a denvyn yn ol y nwyddau neu arian archasid gan yr arolygydd: ar ddiwedd y vlwyddyn gyllidol (Mai), yn y cwrdd blyneddol travodir y vantolen, ac yn y man telir y llôg ar y cyvala a'r elw ar y pryniadau. Mae masnach vlyneddol y C. M. Č. tua $390,000, a'i log cyfredin tua 12 y cant: mae yn delio ymhob peth, vel siopwyr mawr gwlad hen fasiwn : ond un nodwedd arbenig ynddo yw peidio masnachu dim yn y diodydd meddwol: o'i ddeutu y mae lluaws o stordai eraill, yn dybynu am eu helw agos yn gyvan ar ddiodydd (oddigerth dau neu dri eraill Cymreig): mae yn cael ei nwyddau weithiau yn syth o Brydain, er yn gorvod talu cryn 40 y cant o doll arnynt: mae y llong wedi costio £2,000, a rhedir hi i Buenos Ayres o Borth Madryn, oddieithr pan ddanvonir hi i gyrchu llwyth o nwyddau i Brydain.
RHEILFORDD BORTH MADRYN.
Borth Madryn
geryg adeiladu a llorio, o'r hon y codwyd ceryg i adeiladu yr orsav a'r tai yn Nhrelew. Diau yr estynir y llinell hon yn y man ar hyd dyfryn y Camwy, ac ysgatvydd wed'yn bob cam i'r Andes (250 milldir), gan vod y Llywodraeth eisoes wedi penodi gwyddonwr i'w chynllunio.
Cryn siomiant i'r gweithwyr ddygwyd allan o Lerpwli wneud y fordd oedd methu cael tir fermi yn eiddo iddynt wedi gorfen y gwaith. Bu hyny, debygid, am ddarvod iddynt hwy ddeall vod fermi " gweigion" ar eu cyver ar y dyfryn, gyda'u cydwladwyr oedd yno o'r blaen, ond a gymerasid bob un gan eraill ymhell cyn iddynt hwy gyraedd. Mae peth dyfryndir heb ei veddianu ymhellach i'r gorllewin: a rhyw 100 milldir o'r sevydliad mesuredig y mae dyfryn arall (Kel-kein) cwbl debyg i'r dyfryn cyntav, ond ei vod ymhellach o'r mor. Wedi talm o amser neillduodd y Llywodraeth y dyfryn hwnw i'r dyvudwyr hyny, neu eraill, ond erbyn hyny yr oedd y bobl, ran vwyav, wedi ymadael,—rhai mewn soriant, a rhai wedi ymwthio i gilvachau eraill, ond neb i Kel-kein. Bwriad cyntav A. P. Bell (hyrwyddwr y rheilfordd) oedd lleoli mintai y "Vesta" ar Kel-kein, wedi gorfen y gwaith, a'u cynorthwyo i ymsevydlu drwy roi stoc iddynt ond dyrysodd yr holl drevniadau pan luniwyd Cwmni Tir y De, ac y bu varw A. P. Bell.
Dylid deall yn y van hon vod aber yr avon Chubut ryw bedair milldir islaw Trerawson (eisteddle y Rhaglawiaeth), ac vod llongau yn tynu o 7 i 8 tr. o ddwr yn myned i mewn ac allan i vasnachu gyda Buenos Ayres yn syth oddiyno. Mae gorsav y rheilfordd (Trelew) ryw 12 milldir yn uwch i vynu'r dyfryn; a Gaiman 18 i 20 milldir uwch na hyny. Ve ddeallir y savleoedd yn well drwy y map bychan art.d. 47. Gwelir oddiwrth hwnw mai y mor—gaingc elwir yn y map New Bay (Bahia Nueva) yw yr allwedd i'r sevyllva, wrth vod aber yr avon mor anigonol ac anvoddhaol vel porthladd, tra y mae Borth Madryn yn angorva mor gyvleus a chysgodol rhag y gwyntoedd peryglus y fordd hono. Gwelir vod gorsav Trelew yn dervynva ganolog i gynyrchion y dyfryn drosglwyddir i ac o Borth Madryn.
GORSAV TRELEW AC ADEILAD VAWR CWMNI TIR Y DE.
Pentrev Trelew ar y chwith, Capel y M.C. ar y dde.