Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 35
← Penawd 34 | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd |
Penawd 36 → |
XXXV.
ELVENAU DAEARYDDIAETH A DAEAREG Y DIRIOGAETH.
Drwy gymorth y map cydiol gyda'r llyvr hwn, gellir amgyfred yn well a chael peth dirradaeth am y wlad vawr sydd yn myned dan yr enw Tiriogaeth Chubut—sev rhan ganol y mynegiad amwys gymerid yn gyffredin gynt dan yr enw Patagonia. Mapiau arverol Prydain ac Ewrob a'i galwasant Patagonia: eithr yr hen enw gwreiddiol Hispaenig ar yr holl wlad oedd Patagones: sev yw hyny, y Traed Mawr, am mai velly y traddodiad am vrodorion cynhenid cawraidd y wlad. Y Llywodraeth Arianin, pan gavodd veddiant o'r wlad, a'i rhanodd yn bedair tiriogaeth, sev Rio Negro, Chubut, Santa Cruz, a Tierra del fuego. A'r un yn myned dan yr enw Chubut yw y rhandir vawr sydd at law y Wladva i'w phoblogi a'i dadblygu (gwel y trevniant llywodraethol). Yr eglurhad ar yr enw sydd vel hyn: Y brodorion arverent alw y briv avon dan yr enw Chupat (vel yn Saesneg) neu Tsiwba: ond chupar yn Hispaenaeg yw diota neu lymeitian, a rhag i'r lle gael llasenw barnodd Dr. Rawson (y priv weinidog) mai Ïlareiddiach enw vyddai Chubut (a seinio y ddwy u vel w).
Wrth wneud y rhaniad hwn, nid yw ond llinelliad daearyddol dychmygol o ran de a gogleddd: ond cadwen mynyddoedd yr Andes yn y gorllewin, a Môr y Werydd ar y dwyrain yn finiau eglur. Rhaniad mawr Natur arni yw y ddwy avon o'r Andes i'r môr—sev y Chubut, o tua lled. 42° a hyd. 72°, gan arllwys i'r Werydd lled. 43.15; a'r llall yw yr avon Sin—gyr, o Lyn Fontana, yn lled 45°, ac wedi teithio rhyw 400 milldir yn ymddyrysu tua Llyn Colwapi, lled. 45.50.
Rhaniad arall Natur arni yw y gwregys, traws i'r ddwy avon (a nentydd eraill), sydd yn finio ymyl mynyddoedd yr Andes—o 42° i 46°—gwregys iraidd tyviantus. gydag aberoedd a choed mewn manau; ond chwyddiadau o ucheldiroedd gwastad, eithr gostyngiadau eang, vel meingciau neu risiau aruthr, dan wisg o borva heb vod yn doreithiog bob amser.
Megys o ystlysau y cewri dwyreiniol i'r chwyddiadau meingciol hyn y daw amryw frydiau a nentydd—y benav o'r rhai yw y Teca, yn llivo o'r de i ogledd am 250 milldir, gan ymarllwys i'r Chubut tua lled 42:50. Y lleill ydynt aberoedd Chirik, Erw—waw, Jenua, Samn, Apele—oll yn tynu tua'r Sin—gyr a Colwapi. Gyda'r arvordir dwyreiniol—min y Werydd—mae y wedd yn wahanol iawn i'r hyn ydyw tua'r gwregys Andesaidd. Yma ceir y furviadau rhyvedd alwai Darwin yn bench formation, megis meingciau neu risiau y cynvyd. Nid ydynt, yn wir, onid gwaelod y môr wedi ei ddyrchavu yn ei grynswth, nes bod yn vyrdd—dir uchel, eithr eilwaith, mewn manau, wedi ei gavnio a'i rychu yn nhreigl cyvnodau. Gan vod hinsawdd y Diriogaeth mor sych, nid yw lleithder a thyviant yn mènu nemawr ar wedd y furviadau ar y copäau: eithr eglur vod rhyw dywalltiadau mawr o wlaw ar adegau yn rhwygo llethrau y paith meingciol hwn yn bantiau a havnau. Amrywia lled y gwregys peithiog hwn o 60 milldir, tua lled. 45.50 (cyver Kolwapi), i 150 mill., lled. 42° at Banau Beiddio. Ond torir ar draws ac ar hyd y paith meingciol priddol, gwaddodol hwn gan rimynau o greigiau celyd neu ronynog garw. Ar gyfiniau y Télsun mae pigyrnau llosgvalog amlwg, yn rhedeg gydag ymylon y paith uchel: tua chwr uchav dyfryn cyntav y Camwy (Chubut) mae y creigiau celyd, talpiog hyn yn rhedeg megys mur gyda'r avon Iámacan, ac yna ryw 50 milldir is i'r de a dorant ar draws, o ddwyrain i orllewin, yn gevnen o'r un creigiau moelion—heb vod yn uchel—nes dod yn agos i'r môr.
Cyvres o'r peithiau a'r creigiau a'r tomenau hyny yw y wlad ganol vawr hono, nes dod at yr agorva o ddyfryndir elwir Dyfryn yr Allorau, neu ar lavar gwlad Rhyd-yr-Indiaid" (lle mae gogwydd i dde-orllewin yn yr avon). Oddiyno ymlaen, i gyveiriad gorllewin, (am ryw 60 milldir eraill) lle yr ymgyvyd gris neu vainc arall uwch, ond yn vwy bryniog a chydiol vel cyvresi cadwenol eithr yn eu hymyl is-beithiau a sych-lynoedd (vel tuag 'Ania"). Ryw 50 milldir pellach yn yr un cyveiriad mae vel petai lanerchau ireiddiach, eithr uwch eto o lyvel y môr—yn ymestyn velly hyd at ymylon y gwregys tyvianus y cyveiriwyd ato.
Mae'n anobeithiol gallu cyvleu mewn darlun geiriau, amgyfrediad o nodweddion mor wahanol i ranbarthau cyfredin Ewrob. Y mae mor eang unfurv o ran rhyw weddau, tra'n amrywio'n ddirvawr o ran rhai neillduolion eraill, vel nas gellir cymhwyso ati yr un desgriviad cyfredinol, vel ag i'r meddwl ddelweddu iddo'i hun ryw syniad clir am y wlad. Ovnadwy, hwyrach, yw y gair addasav am y paith maith, mud: aruthr, evallai, gyvlea y syniad am chwyddion ac uchelion yr Andes yn eu hanverthedd. Nid difaith dywodog: ond difaith gerygog,—sych-bantiau cleiog neu varianog: anialedd o ddrain, a blewyn tuswog rhyngddynt, neu grug cwta mewn manau eraill. Ar rai o'r llethrau oddiar y peithiau, neu wrth odreu rhai eraill, ymddengys tarddiadau o ddwr gloyw—eilw y brodorion "llygaid dyvroedd"—ond lle bynag y byddant dangosir tyviant o vrwyn, neu hesg, neu borva las—yn ol grym y tarddiad. Mewn manau o'r paith hwn mae rhai o'r tarddiadau hyn yn groew, a rhai eraill yn helïaidd, gerllaw i'w gilydd. Mae math arall o'r tarddiadau croew hyn yn bwrlymu o'u cwr yma neu eu cwr arall yn ddysbeidiol, bob ychydig vunudau—rai yn tavlu prilliad yn lled uchel. Lle bo frwd lled grev yn ymwthio o geseiliau neu agenau yn y creigiau, a hono yn ddigon grymus i gerdded gryn bellder, gwelir pysgod ynddi, ond y frwd yn colli ac yn darvod yn raddol, neu y dwr yn nawsio i vod yn helïaidd fel y gwanycha'r llygad. Nodwedd ryvedd yw y frydiau anghyvlawn hyn—lawer ohonynt heb na dechreu na diwedd, a elwir ar lavar gwlad yn "hen welyau". Dichon mai arllwysveydd y tymhorau gwlawog ydynt, ac yna yn madreddu yngwres yr haul nes bod y naws heliaidd ar eu dyvroedd merw oddiwrth yr halltedd sydd yn y tir. Gyda minion y merw—ddwr hwn tyv cyrs a hesg, ac y mae yn gyrchva i lawer o ednod gwyllt.
Ve ddeallir oddiwrth hynyna mai elven vawr hanvodol y Diriogaeth yw Dwr. Lle bynag y mae dwr yn y cyraedd, yno yw cyrchva dyn ac anivail. O gadwen vynyddig yr Andes lliva dyvroedd lawer—y tu gorllewinol (Chili) wlawogydd trymion aml, nes bod y wlad hono (o'i chanol i'w de) wedi ei mwydo'n barhaus. Peth o'r gwlawogydd hyny ddelir gan vrigau yr Andes a livant i lawr y llethrau dwyieiniol, ac a ireiddiant wregysau tyvianus tiriogaeth Chubut: eithr, ysywaeth y son, mae llaweroedd o'r frydiau hyny wedi medru y fordd yn ol i'r gorllewin (Chili) i'r avonydd mawrion sydd wedi ymwthio drwy vylchau yn yr Andes i wneud eu ffordd i'r Tawelfor. Pe buasai yr holl avonydd mawrion hyny i'r dwyrain (yn lle i'r gorllewin), newidiasid holl wedd tiriogaeth Chubut. Daethai avonydd mawrion y Caranlewfu a'r Corcovado (Batu—Palena) i ymyl Bro Hydrev, ond troant yn ol i'r Tawelvor yn ddyvroedd aruthr. Mae llynoedd mawrion Nahuel—huapi a Fontana, a tharddion y Chubut, gerllaw Chili, ond rhedant i'r dwyrain yn yr avonydd mawrion Rio Negro, Chubut, a Sin—gyr. Hawdd olrhain vel y llivai'r Corcovado i'r dwyrain mewn cyvnod daiaregol cymarol ddiweddar iawn, gan gyvuno gyda'r Chubut tua Teca.
Rhwng y Rio Negro (lled. 41°) a'r Chubut (lled. 43.15), nid oes frydiau rhedegog (oddigerth gwregys iraidd y Limay) ynhiriogaeth briodol Chubut. Velly y mae gogleddbarth y wlad, y tu hwnt i Banau Beiddio (hyd. 69°), yn gyvres o beithiau rhywiocach na'r peithiau deheuol: a chan hyny wedi bod yn gyrchvaoedd mawrion i'r brodorion gyda'u haniveiliaid ac i hela.
Mae un nodwedd ddaearyddol arbenig ar ddeheubarth y diriogaeth, sev Llynoedd Kolwapi ac Otron, lled. 45.50, ac o vewn rhyw 50 milldir i'r Werydd. Dangosir ar y mapiau megys petai amryw lynau eithr nid ydynt ond sych—lynau ag weithiau haenen deneu o ddwr ar eu manau isav. Ond mae y ddau lyn (Otron a Kolwapi) yn perthyn i'r avon grev Sin-gyr—y cyntav yn gronva greigiol o ddyvroedd gloywon, a pheth gover yn rhedeg ohono dros erchwyn ddwyreiniol i'r Sin-gyr, lle y gwna'r tro wrth anelu i'r badell vawr sydd yn myned dan yr enw Kolwapi—enw brodorol yn arwyddo cwdyn neu dderbynva. Pan vydd y Sin-gyr yn grev bydd llyn Kolwapi yn gryn 60 milldir o amgylchedd. Ond dywedir ei vod ar adegau yn gwbl sych; tra hyny o ddyvroedd liva o'r Sin-gyr yn ymgolli yn y corsydd canghenog rhwng hyny ag Otron. Ar gyver arllwysva'r Sin-gyr y mae vel petai barhad o'r avon yn myned yn ei blaen o'r llyn, ond mewn gwely llai lawer, ac yn myned dan yr enw Iamacan. Pan sycho Kolwapi, ganol a diwedd hav, a gwyntoedd cryvion y tymor yn codi y llaid sych yn lluwchveydd tomenog nes tagu bala yr Iamacan, neu ymlunio yn gorsydd merw, mor belled ag y bo pwysau digonol i wthio'r avon ar ei gyrva tua'r Chubut. Tua haner fordd yr Iamacan i'r Camwy y mae pantle mawr, yn agor oddiyno am y môr yn y man elwir Camerones: ar waelod y pantle mawr hwnw, gysylltai yr Iamacan â'r Camerones, y mae rhedwely heliaidd yn arwain i'r môr, yn ol vel y bydd tymorau gwlawog a'r tarddiadau oddiar y llethrau yn ymarllwys i'r pantle.
Megys i acenu y sylwadau blaenorol parthed oll—bwysigrwydd "elven deneu ysblenydd" DWR mewn tiriogaeth sech vel y Wladva, rhoddir yma rai dyvynion o lawlyvr D. S. Davies am y gelvyddyd o ddyvrhau:—
"Ceir drwy ddyvriad lawer mwy o gnwd, ac yn vwy cyson—bob blwyddyn yn ddifael, a gellir poblogaeth luosocach ar bob milltir, a gwell iechyd nag a geir mewn un wlad ar y ddaear ag sydd yn dibynu ar y gwlaw am ei chynyrch.
"Y mae y tir o vath ag sydd yn derbyn gwres yr haul i ddyvnder mawr, a pheth o'r dyvnder hwn heb ond ychydig neu ddim lleithder, nid yw y gwres yn cael ei vwrw allan na'i leihau, eithr gwasanaetha velly i gynhesu y rhan a leithir gan ddyvriad, a'r amod hwn sydd yn rhoddi tyviant heb vawr o rwystr gan nad oes nemawr ddyddiau cymylog, niwliog, oer, na llaith. Wedi i'r gwenith gael ei ddyvrio yn ddigonol, ac iddo gael pen da, atelir y dwvr, i'r gwenith gael aeddvedu y mae'r gwaith hwn yn myned rhagddo yn ardderchog. Nid oes tywydd gwlawog i achosi y rhwd, na nosau oerion, llaith yn aravu dadblygiad y grawn trwy ei grebychu na'i vallu; ac â'r gweithrediad feryllol ymlaen yn ddirwystr i vuddugoliaeth."
"Yn Nhiriogaeth Utah y mae dyvriad wedi cyraedd y llwyddiant mwyav yn America. Y mae diwydrwydd medrus a phendervynol y Mormoniaid wedi gwneud i'r "anialwch vlodeuo megis rhosyn." Yn Great Salt Lake City, mae'r frydiau o'r mynyddoedd wedi cael eu dysgu i redeg trwy yr ystrydoedd, i vaethu eu coed cysgodol, a dylivo eu gerddi, a'u maesydd a vlodeuant o frwythlonder. Arwynebedd cyvrivedig y tiroedd aradwy yw 268,000 o erwau, yr hyn, yn ol 640 enaid ar bob milltir petrual o dir dyvredig, a roddai gynhaliaeth i 402,000 o drigolion, ar gynyrch amaethyddiaeth. Dyvrir 134,000 o erwau—yr oll a drinir."
"Yn California gwelais gamlesi dyvriol wedi cael eu hagor gan y brodorion, dan gyvarwyddyd y Cenhadau Jesuitaidd. Ymhob Cenhadaeth Babyddol y mae y camlesi yn ymestyn am villtiroedd dros dir na chynyrchodd ddim cyn i'r frydiau advywiol hyn gael eu gollwng ar led drosto. Mae dylanwad cyfrous yr aurgloddiau, am beth amser, wedi aravu dadblygiad adnoddau amaethol California; ond nid yw yr amser ymhell pan y bydd yr oes euraidd" yn gwelwi o vlaen cyvundrevn berfaith o Ddyvriad; oblegid y mae hinsawdd, a gweryd, a dwvr y Dalaeth yn neillduol addas at hyny. Dygir proviad y mwnwyr ynhrosglwyddiad dwvr i wasanaeth amaethyddiaeth. Troir y dwvr sydd wedi ei groni gan natur i vaethu crasdir dyfrynoedd y Sacramento a'r San Joaquin, gan gyvoethogi yr amaethwr yn vwy na'r mwnwr.
"Yr unig ddyogelwch i amaethyddiaeth yn California yw mabwysiad cynllun eang o Ddyvriad, a'r unig ddyogelwch rhag newyn. Dim ond 20 modvedd o wlaw sydd yn disgyn yn California, pan y mae yn vwy na dwy waith hyny yn y Talaethau Dwyreiniol ac yn Ewrop,"
Italy yw gwlad glasurol y gelvyddyd o Ddyvrio. Yno y mae peirianaeth ddyvriol yn cael ei dysgu vel celvyddyd, a'i hanrhydeddu vel profeswriaeth. Yn Turin y mae priv Athrova y gelvyddyd: a cherllaw y mae cyvundrevn eang o ddyvriad; ceir velly gyvleusderau i'w dysgu yn ymarverol. Mae yr Eidaliaid presenol wedi rhoddi eu sylw yn vwy i ddyvriad tiroedd aradwy; a chanddynt hwy y mae y gyvundrevn berfeithiav o ddyvriad o bawb yn Ewrop. Camlas Ticinio yw bywyd Lombardy, ac y mae yn gweithio er ys 600 o vlyneddoedd. Ac y mae y wlad hono yn un o'r gyvoethocav a mwyav poblog a welodd y byd erioed. Yn Piedmont hevyd, mae y rhandir ddyvredig yn viliwn a haner o erwau."
"Parodd y newyn yn India Brydeinig i'r Llywodraeth ymgymeryd âg adeiladu camlesi dyvriol. Y penav o'r gweithiau hyn yw Camlas y Ganges, agos 1000 o villdiroedd o hyd. Cymer hyn o'r avon Gysegredig 8000 troedvedd cubaidd yr eiliad o ddwvr. Y mae y llavur hwn wedi cael ei wobrwyo yn helaeth yn ngwareiddiad y bobl, yn y gwelliant mawr yn eu cyvlwr iechydol, a'r cynydd anverthol yn y cyllidau i'r Llywodraeth oddiwrth ardreth y tir a'r dwvr. Drwy y rhwydwaith ddyvriol hon, darostyngwyd 11,102,048 o dir gwyllt, difrwyth ac aviachus. Yr oedd y draul yn £1,500,000, a'r elw ar ol 'talu pob treuliau, yn rhoddi cyllid i'r Llywodraeth o 23⅓ y cant.
"Anialwch o dywod a chwerwyn (sage brush) oedd y Salt Lake Basin, Utah, pan sevydlodd y Mormoniaid yno ddwy vlynedd—ar—hugain yn ol; ond trwy ddyvriad a gwrteithiad y mae rhan vawr o'r dyfryn wedi ei wneud yn gyvartal o ran frwythlondeb, i diroedd brasav y Talaethau Dwyreiniol.
"Pan aeth y Mormoniaid yno gyntav, nid oedd coed na phrysgwydd yn tyvu lle mae Dinas y Llyn Halen. Trwy eu dyvriad efeithiol, addurnir y lle yn awr â niver mawr o goed locust a chotwm. Ceir y cyntav o'r had, a thrawsblenir y llall o'r mynyddoedd. Mae gan bob heol yn y ddinas ei frwd o ddwvr, a dyvrir pob gardd yn y ddinas yn rheolaidd dan gyvarwyddyd swyddogol."
"Yn ychwanegol at y sicrwydd am gnydau rheolaidd, y mae cynyrch tiroedd dyvredig yn vwy na chynyrch tiroedd eraill (trwy wlaw) o un ran o bedair i un ran o dair. Mewn hinsawdd dymherus y mae y cynhauav yn cael ei osod allan o gyraedd dylanwad y tymhorau.
"Nid yw tiroedd dyvredig byth yn rhedeg allan. Braseir hwynt yn awr yn rheolaidd gan waddodion. Mae y pwnc o iachusrwydd a moesoldeb wedi cael ei brovi yn voddhaol yn niwylliant ac adveriad llanerchau difrwyth yn India, lle mae pobloedd lluosog wedi cael eu dwyn o gyvlwr o drueni, a newyn a gwrthryvel, i sevyllva o iechyd, boddlonrwydd, a llwyddiant, trwy y cnydau toreithiog a gynyrchir gan Ddyvriad.
"Yn Italy, lle y cedwir covriviad, y mae cynydd y boblogaeth yn y parthau dyvredig yn 50 y cant yn vwy nag ydyw yn y parthau sydd yn dybynu ar y gwlaw. Gellir priodoli lluosogrwydd mawr y Chineaidi helaethrwydd eu cyvlenwadau o ddwvr.
Yn elvenol gellid dosranu Daeareg y Diriogaeth:—(1) Cadwen vawr yr Andes, megys asgwrn cevn; (2) Y gwaenydd godreuol wrth y rheiny, vuont dan waddodion a dylivion, ac a gavniwyd ac a rychwyd wedi eu codiad; (3) Y canolbarth bryniog, creigiog, toredig, gyda chymalau ac ymylon o'r paith; (4) Y peithiau eang, unfurv, wedi eu llivio a'u sgwrio yn gymoedd priddog a chleiog, a'u malurion yn crynhoi tua'r gwaelodion; (5) Creigiau llosgvalog (volcanic) gwahanedig yma ac acw drwy y furviad paith godent yn fyrnau byw ar adegau; (6) Yr arvordir vel dangoseg o'r gweithrediadau.
Wrth vod hinsawdd y Diriogaeth mor sych a sevydlog ni raid dyvalu nemawr am y driniaeth vu ar y wlad. Gwres haul cryv mewn gwlad sych, a rhew miniog ar adegau, a rhuthr o wlawogydd yn ymdywallt weithiau ar lethrau ac i bantiau—dyna'r saernïaeth y bu'r wlad dano. Ar yr uch-wyneb graianog presenol y mae megys petai mewn argraf mai gwaelod môr ydoedd yn ei grynswth, táw ar y gwyneb hwnw ceir cyfion coed envawr wedi ymgaregu yn eu corfolaeth, 12 i 15 llath o hyd, yn brenau preifion di-geingciau; a thalpiau drylliedig ohonynt dros lawer o wlad, ac mewn amryw furviau. Yna mae yr haen drwchus o gleigraig (soap-stone Darwin) o vilionos, morol wedi bod a rhan aruthrol yn y furviadau o'r arvordir i lethrau yr Andes, yn rhimynau gwynion, neu liwiau eraill, ac o amryw furviau a graddau. Gyda'r tosca hwn y mae cregyn wystrys fosylog aruthr o vaintioli: tra ar ben uchav bryncynau neu bigyrnau o baith y mae cregyn wystrys llai a meddalach, yn gystal hevyd a chregyn gleision lled debyg i'r rhai presenol. Gyda'r rhai olav hyn y mac llavnau a chlapiau o gypsum yn disgleirio'n llachar yn yr haul, neu wedi ymdorchi i lawer furv a modd, ond oll yn awgrymu yr halen elai i'w cyvansoddi. Gyda'r malurion morol hyn ceir tomeni o ddanedd siarcod a moelrhoniaid, yn gymysg âg esgyrn pysgod o amrywiol vathau, ond rhai ohonynt heb vod yn ddyeithr iawn. Mewn manau eraill ceir fosylau neu vrisg o greaduriaid lleidiol, a rhai ereill tiriol yn byw ar wellt a gwreiddiau. Arbenigir un o'r rhai hyn gan y naturiaethwr Almaenig enwog Burmeister, vel y ddolen oedd yn cydio y cefyl yn ei ragvlaenor fosylaidd cyn iddo vagu y carn cyvlawn.
Ar gyfiniau y Télsun y mae arwyddion amlwg o gynhyrviadau llosgvalog enbyd—y bryncynau min y paith vel rhesi o simneiau pigyrnol a'u crateri yn agored, lle mae cavnau o ddwr gloyw yn ffynonau i'r gwanacod. Yr uch—baith gerllaw a orchuddir o dalpiau o geryg duon llosgedig, ac o'u deutu yn orchuddiedig o ddarnau crisial a lludw du. Beth yn nes i'r gogledd y mae nant lled grev (Nant Egwyl), a chyda minion y frwd y mae yslaven werdd, debyg a vo'n codi oddiar ryw gyfyrddiad copraidd—tra gwahanol i'r yslaven heliaidd gyfredin i'r paith.
Yn yr un cym'dogaethau ag uchod y mae mynydd Pitsaláw, o ryw vath o galchvaen laswerdd: ac o'r naill du iddo ddwy fynon y barnai gwyddonwr a'u provodd vod rhyw olew carbonaidd ynddynt. Ychydig i'r gorllewin oddiyno mae y dywodvaen goch newydd: ac ar odreu Banau Beiddio, heb vod ymhell o'r un ardal, y mae marmor gwyn yn brigo ar lawer man yno. Tua'r Iamacan y mae talpiau o obsidian du caled iawn. Hwnt i gwr uchav dyfryn Kel-kein y mae haen ddu, elwid Havn-y-glo am y tybid vod trysor du yno. Yna ar draethau y môr yn New Bay y mae tywod du trwm iawn, yn rhedeg yn rhimynau, y gelwir manganese arno: ceir yr un tywod du trwm ar ddyfryn y Camwy.
Rhestrir yma vel hyn rai dichonolion mwnol, vel awgrymion daearegol am y wlad.
Pan giliodd y môr oddiar y paith presenol, gadawodd ar ei ol lawer o naws heliaidd yn y ddaear, ac wrth mai ychydig wlaw mewn cydmariaeth sydd yn disgyn yno nid yw yr halen yn cael ei sgwrio allan i'r avonydd. Gan hyny y mae y vetel drom halen yn ymgeulo mewn llynoedd a fosydd alkalaidd, gan sychu yn yr haul hav, eithr i doddi drachevn pan syrthio gwlaw, os na vydd digon o rym yn y llivogydd i sgwrio'r heli i'r avonydd rhedegog. Pan ddeuir i gyfiniau'r Andes y mae halen yn beth mor amheuthyn vel y mae'r aniveiliaid yn chwilena am bob naws ohono gafont: a chludir peth ohono yno o'r llynoedd halen agosav i'w roi i'r daoedd, am yr ovnir vod prinder ohono yn cadw daoedd heb besgi gystal.
Rhoddir yma erthygl gyhoeddodd naturiaethwr Frengig, deithiasai yn ddiweddar dros ranau o diriogaeth Santa Cruz, sydd yn ddamcanaeth ddaearegol ddeallus am y wlad o Rio Negro i gydvor Machelan—cymwysadwy at diriogaeth Chubut.
"Adeg bell yn ol, ni vodolai y Tiriogaethau Cenedlaethol a elwir Patagonia. Lle yn awr y rhed y brodor a'r wanaco a'r estrys, rhedai tonau y môr nes golchi traed yr Andes. Ond môr bas ydoedd, a'i waelod yn graddol godi, nes o'r diwedd iddo ddyrchavu goruwch y dwr, ac wele dir newydd. Yna planhigion a chreaduriaid a ddaethant i lawr o'r mynyddoedd ac o'r gogledd, a dechreuasant gartrevu ar y gwastadedd newydd. Yr oedd yr hinsawdd yn dyner, ac nid oedd yr Andes mor uchel ag ydyw yn awr. Heidiai yr avrived vathau lawer o greaduriaid a vywient yn y llysieuaeth rongc orchuddiai y wlad. Ymhlith y Mamodiaid y rhai penav oeddynt Gedogion, tebyg i kangarw Awstralia: a chyda hyny 'epenlates, pachyderms a rodents'a'r rhai olav hyn yn anverthol vawr, tebyg i'r Megamys ddarganvyddwyd gan d'Orbigny yn Ross Bay—llygoden gymaint ag elephant. Nid oedd y tir yn uchel uwch y môr, a rhedai cilvachau lawer o'r arvordir allanol. Nid oedd brinder dwr croyw chwaith. Er na vodolai y llynoedd mawrion presenol—Viedma, Santa Crws, &c., eto yr oedd pantleoedd corsiog, bas, yn britho y gwastadedd. Yn yr Andes chwydai llosg—vynyddoedd vwg a thân a malurion, a chludid y rhai olav hyn gan yr avonydd i'r pantleoedd a'r môr. Tebyg iawn hevyd y gwlawiai, ar adegau, luwchveydd llosg—ludw vel geir yn awr, ond yn amlach a thrymach y pryd hwnw. Parhaodd pethau vel hyn yn hirhir, hyd nod i ddaeareg. Yna daeth cyvnod arall yn lle mai mynyddoedd yr Andes yn unig oedd yn llosgi a lluchio, torai y chwydion allan yn nes i'r môr,—gymaint velly vel y gorchuddiwyd llawer rhanbarth gyda'r lava ulw hwnw ddeuai allan o'r ddaear. Yna dyrchavwyd yr holl wlad yn arav, arav: a'r Andes a gododd yn uwch a mwy trwch: eira a arosai ar eu copa a'u llechweddi, a gwyntoedd oerion ddechreuasant ysgubo dros y gwastadedd. Yna y meusydd ia yn y cymoedd a'r ceselion ddelent vwy-vwy, yn enwedig ar yr ochrau dwyreiniol: llithrent yn arav tua'r gwaelodion, nes dyvod ar draws y gweryd a'r lludw ymgrynhoasai yn y gwastadeddau: ond nid arosasant yno eu pwysau anverth a'r malurion yn eu crombil a wnaent bantiau dirvawr yn y ddaear, y rhai ydynt yn awr welyau y llynoedd sydd yn y cydiad rhwng godreu yr Andes a'r gwastadedd: ac oddiyno rhai ohonynt a wthient eu gyrva tuag arvordir y Werydd: carient ar eu cevnau ac yn eu crynswth y cerig gasglasent yn yr Andes: lle bynag yr elent, rhychent wyneb y ddaear, hyd nod y lava nis ataliai hwynt: lle buasai glynoedd, avonydd, neu gorsydd, hwy a'u cavnient yn ddyfrynoedd dyvnion a llydain, y rhai drachevn a haner lanwent gyda chynwys eu crombil rhewedig. Yr oedd yr hinsawdd wedi newid evallai nad oedd ryw lawer oerach nag yn awr, ond nid oedd mwyach yn addas i'r llysiau a'r creaduriad wnaethent eu cartrev ar y gwastadeddau. Yna gwastadeddau Patagonia—o chwith i'r hyn sydd yn myned ymlaen yn awr a ddechreuasant ostwng eilwaith, nes o'r diwedd i'r holl ddwyreindir y wlad vyned drachevn dan ddyvroedd y môr, oddigerth, hwyrach, benau rhai o'r bryniau a'r mynyddau llosgval, y rhai a ymddangosent vel ynysoedd ar wasgar yma ac acw. Dyvroedd y môr a gurent yr hen valurion ddygasid gan y meusydd ia, ac a'u malent yn gerygos a graian: llyvnent ymylon y creigiau a chlogwyni, a gwasgarasant yr holl raian a thywod a cherygos dros wyneb y paith mawr lle y maent hyd y dydd heddyw. Nid ymddengys ddarvod i vawr vywyd fynu yn y môr hwnw: evallai am vod yr hinsawdd yn rhy oer eto, ac nid oedd y ceryg rolient ar y gwaelodion yn gwneud y lle yn vanau addas wersyllva i gregin-bysg. Casglu hyn yr wyv wrth nas gwn am ddim fosylau wedi eu cael ar yr haen hon. Yna ciliodd y môr drachevn, pryd y dechreuodd y codiad tir sydd yn myned yn mlaen yn ein dyddiau ni. Nid ymddengys vod y codiad hwn yn gyson barhaus, eithr weithiau yn aravu, ac ar brydiau yn peidio; ac o hyny y mae'r gyvres grisiau o raian a cherygos a geir ar y dyfrynoedd—olion traethau blaenorol. Y mae soddiad yr arvordir ar ochr Chili wedi ei vesur yn vanwl drwy'r blyneddoedd, a cheir ei vod yn saith ran o ddeg o vodvedd bob blwyddyn. Y mae'r ochr ddwyreiniol yn codi hevyd, a hyny yn gyvlymach. Yn Mhorth Gallegos y mae llawer o draeth ymhell o gyraedd y môr yn awr: nid oes dim llysieuaeth wedi cychwyn byw arno: ond y mae ei gydiad wrth y traeth presenol yn ddi-dor gwbl. Velly teg ydyw casglu vod y llain hwn wedi myned yn llwyr o gyraedd y môr, drwy godiad graddol y tir yn y van hono. Gwelais govnodiad o eiddo y Rhaglaw Fontana, am y llong "Union," gollasid yn agos i aber yr avon Chubut, gweddillion yr hon ymhen 5 mlynedd oeddynt 6 troedvedd yn uwch na lyvel uchav y môr. Yn Mhorth Aethwy aethai llong ar dân, a phan losgodd at vin y dwr, suddodd i'r gwaelod; mae y gweddillion hyny yn awr ddwy sgwar, 300 llath, oddiwrth van uchav y llanw. Velly, yr wyv yn tynu y casgliad, vod seildir yr Andes wedi ei ddyrchavu ar un cyvnod, nes bod awelon llaith y môr yn tewychu ar eu llethrau, gan beri llawer mwy o eira nag sydd yno yn awr: a'r canlyniad ydoedd—mwy o eira mwy nerthol vyth, a meusydd ia.
Mae'n amlwg vod dwyrain Patagonia dan y môr yn y cyvnod Eosin ond mai môr bas ydoedd a ddangosir gan y gwelyau wystrys mawrion adawodd yn fosylau, y rhai nad ydynt byth breswylwyr môr dwvn. Gyda'r fosylau wystrys ceir gweddillion Mamodion, yn dangos vod y gwaelod wedi codi yn dir, lle y trigodd creaduriaid mamaethol, nodwedd y rhai a brovant vod yr hinsawdd y pryd hwnw yn llawer tynerach nag yn awr—nad ysgubai gwyntoedd oerion o'r Andes vel yn awr, gan nad oedd y mynyddau hyny mor ucheled. Oddiwrth fosylau creaduriaid y cyvnod, hawdd barnu vod y tyviant y pryd hwnw yn rhonge a bras: llawer o bryvaid yn ymborth i'r dulogiad aruthrol a vodolent, y rhai yn eu tro a vywient ar lysiau. Vod yr arvordir yn vrith o gilvachau a brovir gan y mathau wystrys a hofant ddyvroedd llonydd. Mewn rhai manau y mae esgyrn Mamodion wedi eu haenu mor reolaidd a manwl, vel y gellir darllen eu bod wedi eu claddu gan ludw llosgval mewn dyvroedd tra llonydd. A chyda hwynt y mae gweddillion pysgod dwr croyw, yr hyn ddyry sail i veddwl vod llynoedd beision mawrion ar y gwastadeddau, ac avonydd arav yn cerdded rhyngddynt y rhai olav hyn yn dwyn gyda hwynt benglogau creaduriaid cevnol, haws i'w treiglo na'r aelodau. Yr oedd lludw llosgvalog yn nodwedd arbenig o'r Cyvnod Trydyddol, ac yn dra manteisiol i gladdu a fosylu unrhyw weddillion. Hysbysir vi gan Greenwood, idao ev unwaith yn ddiweddar, vod allan dan y vath gawodau o'r lludw hwn, ger Llyn Viedma, vel y bu ei gefylau am dri niwrnod yn methu cael blewyn o borva i'w vwyta. Mae yr haen lava ddiweddar yn union ar ben yr esgyrn Mamodiaid: a dan hyny y gwely gwyn fosylog trwchus o dosca—yn gap ar yr oll y mae tywod a graian cerygos yr arwyneb. A'r un mor amlwg yw vod y Cyvnod Ia ar ol y Cyvnod Lava, gan vod ol yr ia ar y lava.