Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 5

Penawd 4 Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig

gan Lewis Jones, Plas Hedd

Penawd 6


V.

Y CYFRAWD GWLADVAOL YN YR UNOL DALEITHAU, 1851—6.

Y mynegiad furviol cyntaf sydd ar glawr am symudiad i gael Gwladva Gymreig ydyw yr adroddiad am gyvarvod o Gymry yn Philadelphia, y cyveiriwyd ato uchod. Yna y mae dysbaid hyd 1854, pan y danvonwyd y llythyr canlynol at Mr. Griffith, Chicago:—

"Mae genym i'ch hysbysu vod Cymdeithas Wladvaol yn bodoli yn New York, ers tros 30 mlynedd yn ol, dyben pa un yw cael gwlad i'r Cymry ymsevydlu gyda'u gilydd, yn lle gwasgaru vel y maent heddyw, ar hyd a lled y wlad vawr yma. O! na vuasai rhyw gynllun wedi ei drevnu vlyneddoedd yn ol i'r Cymry vyn'd i'r un wlad ac i'r un lle, vel y buasent heddyw yn bobl luosog. Ond yn lle hyny, mae ein dull o ymvudo wedi ein hau dros bedwar parth y byd, i golli am byth fel cenedl ein hiaith a'n henw, gan genedloedd eraill y byd. Ovnwyv vod yr amser wedi pasio am byth i gael Gwladva yn y wlad hon: ond y mae eto wledydd da heb eu meddianu, a llawer mewn rhan. Buom bron a prynu Vancouver Island, gan yr Hudson Bay Co., i wneud gwladva. Dyna Paraguay —yn wlad vawr a frwythlon, ond hynod deneu ei phoblogaeth: byddai cael 20,000 o Gymry yno yn ddigon i vyn'd a phob peth o'u blaen. Hevyd mae Llywodraeth Buenos Ayres, yr hon sydd weriniaeth ar lan La Plata, hynod deneu ei phoblogaeth, ond yn veddianol ar diroedd eang a bras, yn cynyg tiri ni wneud gwladva yn ei thiriogaeth mewn lle o'r enw Bahia Blanca. Mae gohebiaeth yn myned ymlaen yn bresenol â'r Llywodraeth hono am y lle a nodwyd, a disgwyliwn vod mewn sevyllva yn vuan i'ch hysbysu vod gwlad wedi ei chael—hyd hyny, eich mantais yw casglu nerth: ein penderfyniad ni yw peidio rhoddi i vynu nes cyraedd amcan dechreuol ein cymdeithas.

Yn Ebrill 14, 1860, ysgrivenai J. Rees, Williamsburg, N.Y., at Edwin Roberts vel y canlyn:—

Rhy vaith vyddai i mi adrodd am ein holl dravodaeth o amser bwygilydd—pa vodd y bu i ni benodi ar Ynys Vancouver ar lanau Oregon, i wneuthur cychwyniad. A thra yr oeddym yn cynllunio mesurau i'w chael gan yr Hudson Bay Co. y daeth yr hanes am aur California, ag a gludodd ymaith y rhai mwyaf bywiog ac anturiaethus o'n haelodau, ac a gyvnewidiodd sevyllva yr Ynys hono yn hollol tu hwnt i'n cyraedd ni. . . . . Yr oedd cymdeithas wedi ei furvio yn Utica vel mam-gymdeithas, D. Price yn llywydd, ac Edward Jones yn ysgrivenydd; eithr pan ymholais â hwy ymhen talm o amser i wybod beth oeddynt yn wneud gyda'r mudiad, yr ateb gevais oedd, na veddent hwy yno yr un drysorva, ac nad oeddynt yn cymeradwyo ein dull ni o vyned ymlaen ; os na ellid cael gwlad heb gynyg llwgr—wobrwyo vel y soniem ni, eu bod yn tori pob cysylltiad â ni, ac yn gwahardd i ni ddevnyddio eu henwau hwynt: nad oeddynt vel swyddogion yn bwriadu gwneud dim i hyrwyddo y symudiad, nac erioed wedi bwriadu, ac vod y gymdeithas yn ymwasgaru! . . . . . Gwnai y llongau sydd yn myned i California ac Awstralia gludo ymvudwyr i Patagonia yn rhad iawn, a'u glanio yn Montevideo neu Maldonado, a digon hawdd cael cludiad oddiyno i Buenos Ayres, a myned oddiyno dros y tir. Dywedwyd wrthyv gan ddinesydd o Buenos Ayres y gwnai'r llywodraeth hono anrheg i ni o amddifyna a porthladd Bahia Blanc (!) ar yr amod i ni atal Indiaid lladronllyd Patagonia rhag dwyn aniveiliaid y cyfiniau. Ond yr wyv vi yn myned ar y dybiaeth mai gwell genym vyddai sevydlu yn nyfrynoedd bras y Paraná neu Paraguay, yn hytrach na myned i unman yr avlonyddid arnom gan Indiaid.

Pan ddechreuwyd cyhoeddi y Drych (newyddur y Cymry yn yr Unol Daleithau), cavwyd cyvrwng hylaw i wyntyllio a thravod y dyhead yno am Wladva Gymreig. Ac am vlwyddi lawer bu y cyfrawd hwnw yn berwi Cymry y Taleithau. Eithr ar ddydd Nadolig 1855 yr ymluniodd y dyhead hwnw i furvio Cymdeithas Wladvaol yn Camptonville, California—T. B. Rees yn llywydd; C. Morgan, is-lywydd; D. P. Edwards, trysorydd; Wm. ap Rees, yn ysgrivenydd. Danvonodd yr ysg. gylchlythyr allan i bob cyveiriad, ac i'r newydduron. Am y tair blynedd dilynol i hyny bu y cyfrawd Gwladvaol yn cerdded ac yn lledu. Sevydlwyd cymdeithasau gwladvaol mewn llawer iawn o'r ardaloedd Cymreig drwy yr Unol Daleithau. Yn 1857 yr oedd gan y vam—gymdeithas yn California drysorva o $2,000, a gwnaethpwyd trevniant cyfredinol i'r amrywiol ganghenau gyduno ar bwyllgor gweinyddol a thrysorva gyfredin—i barhau nes y byddai'r gwladvawyr cyntav wedi cyhoeddi cyvansoddiad gwladol ac ethol swyddogion mewn fordd reolaidd. Brithid y Drych yn y blyneddau hyny gan grybwyllion am gyrddau Gwladvaol drwy yr U. Daleithau, a chevnogid y mudiad yn galonog gan y newyddur hwnw. Wrth edrych dros feil y Drych yn y dyddiau hyny ceir, ymysg covnodion lawer, y rhai canlynol:

Big Rock, Illinois , Medi 20 , 1857 .
Bethel, Wisconsin, $120 yn y cwrdd cyntav.
Pittson Ferry, Mawrth 26, 1857.
Vermont, Meh. 13, 1858, $ 100.
Webster Hill, Hydrev 3, 1857.
Brownville, Maine, Chwev. 26 , 1858 .
Cwmbwrla, Silver Creek, Mawrth 27, 1858.

[Y_cadeirydd , J. Williams, Bryn eryr, "wedi cychwyn tua Patagonia, ar ei draul ei hun, Chwev. 5, 1858."]

Racine, Wis., Mawrth, 1858.
Penuel, Oshkosh, Mawrth 5, 1857.
Middle Granville. Ion. 21, 8858.
Evrog Newydd, Chwev. 20, 1858.

[Dr. W. Roberts yn gadeirydd: Pendervynwyd: Ein bod yn cymeradwyo bwriad a hunanymwadiad M. D. Jones i ddyvod drosodd i hyrwyddo y symudiad Gwladvaol.]

Yn y cyvwng hwn y mae enwau brodyr enwog Llanbrynmair yn d'od i'r wyneb. Yn 1856 7 yr hwyliodd G. R., ac wedi hyny S.R., gyda'r bwriad o gael sevydliad neu gym'dogaeth Gymreig yn Tennessee. Eithr ys truain vuont i gychwyn eu hanturiaeth ar vin tymhestl ovnadwy y Rhyvel Gartrevol.

Yn y Drych am Medi 4, 1858, cyhoeddwyd vel erthygl arweiniol yr hyn a ganlyn: "Glaniad y Parch M. D. Jones, Bala. Mae ein cydwladwr aiddgar, y Parch M. D. Jones, gwron y Wladva Gymreig, wedi tirio yn y ddinas hon Awst 30, 1858. Hysbyswyd ei amcan eisoes, yr hyn yw, furvio mintai ymchwiliadol i vyned i ddechreu ymsevydlu y'Mhatagonia, vel y gallo wneud lle cymhwys i'r Cymry ymvudo iddo. Mae Mr. Jones yn ddyn uchel ei gymeriad a'i ddylanwad, ac yn teilyngu y derbyniad gwresocav gan ei genedl ymhob man. Yr ydym yn dymuno pob llwyddiant iddo yn yr ymdrech genedlaethol. Mae gan Mr. Jones luaws o anerchiadau yn ei veddiant oddiwrth amryw gymdeithasau yn yr Hen Wlad, yn cyvarch eu brodyr y tu yma i'r Werydd.

Un o'r anerchiadau y cyveirid atynt oedd hon gan Ceiriog:

"Ar eich ymadawiad i America ar y genadwri bwysig o wneuthur ymchwiliad i ansawdd Patagonia, ac i gydweithredu gyda'n brodyr tu draw i'r Werydd gogyver a furvio Gwladva gysurus i'r dosbarth lluosog hwnw o'n cydgenedl sydd yn gorvod ymvudo yn veunyddiol i amryw barthau o'r byd, nis gallwn lai na'ch anerch i amlygu ein cydymdeimlad â'r achos teilwng a bleidir genych, a datgan ein llawenydd vod i ni gydwladwr o'ch sevyllva a'ch medr chwi sydd yn barod i gychwyn oddiwrthym ar y genadwri ganmoladwy hon, ac vod genym voneddwr mor ymddiriedus i gynrychioli Cymry Prydain ynghynhadledd y Wladva Gymreig sydd i'w chynal yn Evrog Newydd yn ystod y vlwyddyn hon.—Arwyddwyd : John Hughes (Ceiriog), John Mason, Thomas Evans."

Ve welir mai yn 1858 yr aeth M. D. Jones i'r Unol Daleithau ar ei neges Wladvaol, a chavodd ei genadwri dderbyniad brwdvrydig yn yr holl sevydliadau Cymreig. Ond ymddengys na pharhaodd y brwdvrydedd Cymreig hwnw yn hir iawn—evallai am mai ysglodion tlodi oedd ei gynud, neu am nad oedd weledigaeth eglur am y dull a'r modd i weithredu, neu am ddarvod ymranu ac ymbleidio. Gellid casglu eglurhadau vel yna oddiwrth y Drych yn y blwyddi hyny, a chylchlythyrau W. B. Jones a J. M. Jones, yn cynyg am sevydlu "Cambria Newydd" yn Missouri ar diroedd Eli Thyer.

Y covnod credadwy nesav i hyny ydoedd cyvarvod ymadawiad Edwyn Roberts, Tach. 10, 1860, yn cychwyn ei hunan am Batagonia. Ebai'r Drych: "Mae pleidwyr y symudiad gwladvaol yn prysur berfeithio eu cynlluniau er dwyn y peth i weithrediad. Daeth Edwyn Roberts i'n swyddva tra "ar ei fordd i Patagonia;" ond wedi cyraedd New York, cavodd ei berswadio i vyned i Gymru i wneud ei ran yno dros yr achos: dywedid mai folineb oedd iddo veddwl myned ei hunan i wlad anial Patagonia, a hwyliodd yn y 'City of Manchester.' Ymddengys yn ddyn ieuanc calonog a hynod bendervynol."

Wedi yr uchod nid oes genym govnodion am y cyfrawd Gwladvaol yn yr U. Daleithau, hyd lythyr Eleazer Jones.

22, Broadway, N, Y., Ion. 6, 1865.

Aethum at yr ychydig gyveillion sydd yn y ddinas yn favriol i'r symudiad, ac wedi llawn ystyriaeth, y pendervyniad unvrydol yw— vod amgylchiadau y wlad hon yn bresenol mewn ystyr arianol a gwleidyddol yn gyvryw ag sydd yn ei gwneud yn amhosibl i ni vod o un cymorth i'r symudiad. Nid oes yn ein plith lawer yn veddianol ar gyvoeth, vel ag i allu cymeryd bonds i sicrhau echwyn. Hevyd y mae y telerau a dderbyniasoch mor amwys vel nas gallwn yn bresenol, heb beryglu interest y dyvodol, eu cyhoeddi a'u hargymell ar y wlad, am nad oes ynddynt ddim yn gymelliadol i rai sydd yn gwybod manteision yr Homstead Law yma. Credu yr ydym mai distawrwydd vyddai oreu nes y bydd rhyw gyvnewidiad ar yr amgylchiadau. Mae y savle gymer y wasg Gymreig oll o'r bron gyda golwg ar y rhyvel, wedi chwerwi miloedd lawer tuag at Gymry Prydain, a gwnai yr eiddigedd hwnw niwaid i'r mudiad yn awr pe gwthid y peth i sylw. Cevais gryn ymddiddan ddoe gyda Berwyn ar y mater. Anvonais ysgriv i'r Drych i hysbysu beth sy'n myn'd yn mlaen, a hysbysu yr amser i'r vintai gyntav gychwyn, &c., ond heb gyveirio at yr echwyn a phethau sydd amhosibl eu gwneud o'r ochr hyn yn awr, rhag peri i elynion y symudiad watwor a niweidio yr amcan. ELEAZER JONES.

Ve welir wrth ddyddiad y llythyr blaenorol vod hyn ar vin ymadawiad y Vintai Gyntav—a gwell hwyrach gwneud bwlch yn y van yma i roi ar glawr rai cyveiriadau geidw linynau hanes y cyfrawd yn yr Unol Daleithau yn y cyraedd. Covier eto mai yn y cyvwng hwn y bu'r Rhyvel Gartrevol vawr, ac yr andwywyd gobeithion ac amgylchiadau S. R. druan—vel llu mawr eraill o Gymry aiddgar yr Unol Daleithau. Eithr ni lwyr ddifoddwyd y tân. Yn union wedi i'r Vintai Gyntav gychwyn, ac i Gymry'r Taleithau ymysgwyd peth o'u syvrdandod, y mae hanes am ddau ohonynt, beth bynag, yn cymeryd i vynu eu pac i ddilyn y Vintai drwy bob anhawsderau—ac yr oedd y rhai hyny yn lleng y pryd hwn—sev D. Williams, Durhamville, Oneida, a Hugh J. Hughes, Wisconsin. Bu D. W. wedi hyny ar ymweliad i'w hen vro, yn 1873—4, a dychwelodd i'r Wladva at ei deulu yn y Luzerne," 1876, lle y gorfenodd ei yrva rai blyneddau yn ol. Ymddyrysodd y llall (H. J. H.) yn y chwalva vu ar y Wladva yn 1867, ac yr aeth rhai o'r gwladvawyr i Santa Fe, ac yntau gyda hwy. Y mae dau enw arall o Gymry yr Unol Daleithau yn perthyn i'r cyvnod hwn, sev Edwyn Roberts a Berwyn. Aethai blaenav yn gydymaith L. J. i barotoi ar gyver y Vintai Gyntav, a'r olav yn un o'r vintai hono vynodd anelu am y Mimosa" o New York yn syth. Wedi hyn y mae dysbaid o saith mlynedd cyn i Gymry'r Taleithau vedru cydio o ddiviiv yn y mudiad gwladvaol, ac y daeth enw D. S. Davies ar y blaen yn y cyfrawd am long Wladvaol.

Nodiadau

golygu