Y Gusan Cywilydd!

gan Robin Llwyd ab Owain

Dafydd Orwig
Cyhoeddwyd gyntaf ar Dalwrn y Beirdd, Tachwedd, 1996 yna ar y We, Rhagfyr, 1996.

Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr. Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020. Mae'r englyn yn cyfeirio at gerddi sy'n anog trais, 'pwy rydd ei waed i'r pridd hwn' ayb.

(Ar ol ail-ddarllen gwaith Gerallt Lloyd Owen. Fe ddarllenwyd y penill ar Talwrn y Beirdd dan y teitl 'Y Glorian'. Chafodd o fawr o farciau, diolch byth.)


Ni all Hitler a'i dyrau - o chwerwedd
Na chariad at ynnau,
Na'r iaith, na Chymru hithau
Roi ystyr i gur a gwae.