Cywydd Bonedd a Chynneddfau yr Awen Cywydd i'r Awen

gan Goronwy Owen

Cywydd i Lewis Morys

Cywydd i'r Awen.

Ar ddull Horas. llyfr iv, Can. 3.
Quem tu, Melpomene, semel, etc.



O chai fachgen wrth eni,
Wyd Awen deg, dy wên di,
Ni bydd gawr na gŵr mawrnerth;
Prydu a wna; pa raid nerth?
Ni char ffull, na churo ffest,
Na chau dwrn, o chaid ornest.
O bâi 'n agwrdd benigamp,
Ni chais glod gorfod y gamp.
Yn ei ddydd e ni ddiddawr
Gael parch am yru march mawr.
Ni chyrch drin na byddinoedd,
Ni char nâd blaengad a bloedd;
Ni chaiff elw o ryfelwaith,
Na chlod wych hynod ychwaith;
Na choron hardd, ddigardd ddyn,
Draw i gil o droi gelyn.
Mawl a gaiff am oleu gerdd,
A gwiw seingan gyssongerdd—
Barddwawd fel y gwnai beirddion
Defnyddfawr o wlad fawr Fon.

Cymru a rif ei phrif-feirdd;
Rhifid ym Mon burion beirdd;
Cyfran a gaf o'u cofrestr,
A'm cyfrif i'w rhif a'u rhestr;
Mawrair a gaf ym Meirion
Yn awr, a gair mawr gwŷr Mon.
Llaesodd ar aball eisoes
Cenfigen ei phen a ffoes.

O f' Awen deg, fwyned wyt!
Diodid dawn Duw ydwyt!
Tydi roit â diwair wên
Lais eos i lysowen.
Dedwydd o'th blegid ydwyf,
Godidog ac enwog wyf.
Cair yn son am Oronwy,
Llonfardd Mon, llawn fyrdd a mwy;
Caf arwydd lle cyweiriwyf,
Dengys llu â bys lle bwyf.

Diolch yt, Awen dawel;
Dedwydd wyf, deued a ddêl;
Heb Awen baich yw bywyd,
A'i rhodd yw rhyngu bodd byd.

Tarddiadau golygu