Cywydd Bonedd a Chynneddfau yr Awen

Cywydd y Farn Fawr Cywydd Bonedd a Chynneddfau yr Awen

gan Goronwy Owen

Cywydd i'r Awen

Cywydd Bonedd a Chynneddfau yr Awen.

Bu gan Homer gerddber gynt
Awenyddau, naw oeffynt,
A gwiw res o dduwiesau
Tebyg i'w tad, iawn had Iau;
Eu hachau o Ganau gynt,
Breuddwydion y beirdd ydynt.

Un Awen a adwen i,
Da oedd, a phorth Duw iddi!
Nis deiryd, baenes dirion,
Naw merch clêr Homer i hon.
Mae 'n amgenach ei hachau;
Hŷn ac uwch oedd nac ach Iau.

Nefol glêr a'i harferynt;
Yn nef y cae gartref gynt.
A phoed fad i wael adyn
O nef, ei hardd gartref gwyn!
Dod, Ion, im' ran o honi,
Canaf ei chlod hoywglod hi;
Llwyddai yn well i eiddil
Borth tau na thafodau fil.

Dywaid, pa le caid Awen
Cyn gosod rhod daear hen,
A chael o'r môr ei ddorau,
A thyle dŵr o'th law dau,
A bod sail i'th adailad,
Ein Creawdr, Ymerawdr, mad?

I'r nef, ar air Naf ur oedd,
Credaf pand cywir ydoedd,
Ser Bore a ddwyrëynt
Yn llu i gydganu gynt;
Canu 'n llon, hoywlon, eu hawdl,
Gawr floeddio gorfoleddawdl;
Ac ar ben gorphen y gwaith
Yn wiwlan canu eilwaith;
Caid miloedd o nerthoedd nef
Acw 'n eilio cân wiwlef;
Meibion nef yn cydlefain
A'u gilydd mewn cywydd cain:

“Perffaith yw dy waith, Duw Ion,
Dethol dy ffyrdd a doethion,
A mad ac anchwiliadwy,
Dduw mawr, ac ni fu ddim mwy!”
Per lefair cywair eu cân,
Pob ergyr fal pib organ,
Can mil-ddwbl accen amlddull,
Llawn hoen, heb na phoen na ffull.

Gwanai eu gwiwdeg hoenwawr,
Ewybr eu llef, wybr a llawr;
Fe 'u clywai 'r ser disperod,
Llemain a wnai rhai 'n i'w rhod;
Ffurfafen draphen a droe,
Ucheldrum nef a chwildroe.

Daeth llef eu cân o nefoedd,
Ar hyd y crai fyd cryf oedd;
Adda dad ym Mharadwys
Clywodd eu gawr, leisfawr lwys;
Hoffai lef eu cerdd nefawl,
Ac adlais mwynlais eu mawl;
Cynhygiai eu cân hoywgerdd,
Rhoe ymgais ar gais o'r gerdd.
Difyr i'w goflaid Efa
Glywed ei gân ddiddan dda;
Canai Adda, cain wiwddyn;
Canent i'w Ner o bêr berth,
O'r untu hyd awr anterth;
Ac o chwech ym mhob echwydd
Pyngcio hyd nad edwo dydd.

Cân Abel oedd drybelid,
Diddrwg heb hyll wg a llid;
Anfad ei gân, bychan budd,
Accen lerw-wag Cain lawrudd;
Ni chydfydd Awenydd wâr
A dynion dybryd, anwar;
Ion ni rydd hyn o roddiad
Wiwles, ond i fynwes fad.

Cynnar o beth yw canu;
Awen i Foesen a fu;
Awen odiaeth iawn ydoedd,
Wrth adaw 'r Aipht angraifft oedd.
Cant, cant, a ffyniant i'w ffydd,
Cyn dyfod canu Dafydd.
Pyngcio wnae fe, fal pencerdd,
Nefol a rhagorol gerdd.
Prydodd dalm o bêr Salmau—
Fwyned im' ynt, f'enaid mau!
Canu dwsmel a thelyn
Yn hardd a wnai 'r gwiwfardd gwyn;
Gyda 'i law ydd ae 'r Awen;
Wi! wi! i'r llaw wisgi, wén.
Ewybr oedd y boreddydd
Ei lasi ym min dichlais dydd:

“Deffro, fy nabl, parabl per,
I ganu emyn gwiwNer;
I'm Ion y rhof ogoniant
A chlod â thafod a thant.”

Am ganu ni fu, ni fydd,
Hoyw ei fawl, ei hefelydd.

Awen bêr, wiwber ei waith,
Oedd i Selyf ddisalw eilwaith.
Fe gant gân —gwiwlan y gwau—
Cân odiaeth y Caniadau.
Pwy na char ei Ros Saron,
Lili, a draenllwyni llon?
Y mae 'n ail, y mwyn eiliad,
I gywydd Dafydd ei dad.

Dygymydd Duw ag emyn
O Awen dda a wna ddyn.
Prawf yw hon o haelioni
Duw nef, a da yw i ni.
Llesia gân yn llys gwiwnef,
Mawr gerth yw ei nerth yn nef.
Pan fo 'r côr yn clodfori,
Cydlef llu nef oll â ni,
Ag atteb cân yn gyttun,
Daear a nef a dry 'n un.

Dyledswydd a swydd hoyw sant
Yw gwiw gân a gogoniant;
Dysgwn y fad ganiad gu,
Ar fyr iawn i'w harferu.
Cawn Awenlles cân unllef
Engyl a ni yng ngolau nef,
Lle na thaw ein per Awen,
“Sant, Sant, Sant! Moliant! Amen.”

Tarddiadau golygu