Cywydd y Farn Fawr

Cywydd y Farf Cywydd y Farn Fawr

gan Goronwy Owen

Cywydd Bonedd a Chynneddfau yr Awen

Cywydd y Farn Fawr.

Dod ym' dy nawdd a hawdd hynt,
Duw hael, a deau helynt;
Goddau f' armeth o'm nerthyd
Yw Dydd Barn a diwedd byd;
Dyddwaith; paham na 'n diddawr
Galwad i'r ymweliad mawr?

Mab Mair a gair yn gwiriaw
Y dydd ebrwydded y daw;
A'i saint cyttun yn unair
Dywedant gwiriant y gair;
A gair Duw 'n agoriad in',
Gair Duw a gorau dewin;
Pa'nd gwirair y gair a gaf,
Iach rad! a pham na chredaf?

Y dydd diogel y daw,
Boed addas y byd iddaw!
Diwrnod anwybod i ni
A glanaf lu goleuni;
Nid oes, f' Arglwydd, a wyddiad
Ei dymp, onid ef a'i Dad.
Mal cawr aruthr yn rhuthraw,
Mal lladron dison y daw;
Gwae 'r diofal ysmala;
Gwynfyd i'r diwyd a'r da.
Daw angylion, lwysion lu,
Llym naws, â llumman Iesu;
Llen o'r ffurfafen a fydd
Mal cynfas, mil a'i cenfydd;
Ac ar y llen wybrenog
E rydd Grist arwydd ei grog.

Yno 'r Glyw, Ner y gloywnef,
A ferchyg yn eurfyg nef;
Dyrcha 'n uchel ei helynt,
A gwân adenydd y gwynt;
A'i angylion gwynion, gant,
Miloedd yn eilio moliant.
Rhoir gawr nerthol a dolef,
Mal clych, yn entrych y nef;
Llef mawr goruwch llif mor-ryd,
Uwch dyfroedd, aberoedd byd.
Gosteg a roir ac ust draw;
Dwrf rhaiadr darfu rhuaw;
Angel a gân, hoywlan lef,
Felyslais nefawl oslef.
Wrth ei fant, groywber gantawr,
Gesyd ei gorn, mingorn mawr;
Corn anfeidrol ei ddolef,
Corn ffraeth o saernïaeth nef.
Dychleim, o nerth ei gerth gân,
Byd refedd a'i bedryfan;
Pob cnawd o'i heng a drenga,
Y byd yn ddybryd ydd a;
Gloes oerddu 'n neutu natur,
Daear a hyllt, gorwyllt gur!
Pob creiglethr crog a ogwymp,
Pob gallt a gorallt a gwymp;
Ail i'r âr ael Eryri,
Cyfartal hoewal a hi.

Gorddyar, bâr, a berwias
Yn ebyr, ym myr, ym mas,
Twrdd ac anferth ryferthwy,
Dygyfor ni fu for fwy;
Ni bu ddylif yn llifo
Ei elfydd yn nydd hen No.
Y nef yn goddef a gaid,
A llugyrn hon a'i llygaid,
Goddefid naws llid, nos llwyr,
Gan lewyg gwyn haul awyr.
Nid mwy dilathr ac athrist
Y poenloes cryf pan las Crist.
Y wenlloer yn oer ei nych,
Hardd leuad, ni rydd lewych.
Syrth nifer y ser, arw son!
Drwy 'r wagwybr draw i'r eigion;
Hyll ffyrnbyrth holl uffernbwll
Syrthiant drwy 'r pant draw i'r pwll;
Bydd hadl y wal ddiadlam
Y rhawg a chwyddawg a cham;
Cryn y gethern uffernawl,
A chryn a dychryn y diawl;
Cydfydd y fall â'i gallawr;
Car lechu 'n y fagddu fawr.

Dyfyn a enfyn Dofydd,
Bloedd erchyll; rhingyll a'i rhydd:—
“Dowch, y pydron ddynionach,
Yng nghyd, feirw byd, fawr a bach;
Dowch i'r farn a roir arnoch,—
A dedwydd beunydd y boch”.

Cyfyd, fal yd o fol âr
Gnwd tew eginhad daear;
A'r môr a yr o'r meirwon
Fil myrdd uwch dyfnffyrdd y don;
Try allan ddynion tri-llu—
Y sydd, y fydd, ac a fu,
Heb goll yn ddidwn hollol,
Heb un o naddun yn ol.
Y dorf ar gyrch, dirfawr gad,
A 'n union ger bron Ynad.
Mab Mair ar gadair a gaid,
Iawn Naf gwyn o nef gannaid,
A'i osgordd, welygordd lân,
Deuddeg ebystyl diddan.
Cyflym y cyrchir coflyfr,
A daw i'w ddwy law ddau lyfr:
Llyfr bywyd, gwynfyd y gwaith,
Llyfr angau, llefair ingwaith.
Egorir a lleir llith
O'r ddeulyfr amryw ddwylith:
Un llith o fendith i fad,
Ar diles air deoliad.
Duw gwyn i le da y gyr
Ei ddeiliaid a'i addolwyr.
I'r euog, bradog eu bron,
Braw tostaf! ba raid tystion?
Da, na hedd Duw, ni haeddant,
Dilon yr, delwi a wnant.
Y cyfion a dry Ion draw,
Dda hil, ar ei ddeheulaw;
Troir y dihir,—hyrddir hwy,
I le is ei law aswy.
Ysgwyd y nef tra llefair
Iesu fad, a saif ei air:
“Hwt! gwydlawn felltigeidlu,
I uffern ddofn a'i ffwrn ddu;
Lle ddiawl a llu o'i ddeiliaid,
Lle dihoen a phoen na phaid;
Ni chewch ddiben o'ch penyd;
Diffaith a fu 'ch gwaith i gyd;
Ewch—ni chynnwys y lwysnef
Ddim drwg—o lân olwg nef'
At wyllon y tywyllwg,
I oddef fyth, i ddu fwg.”

O'i weision, dynion dinam,
Ni bydd a adnebydd nam;
Da 'n ehelaeth a wnaethant;
Dieuog wŷr, da a gânt.

Llefair yn wâr y Câr cu,
Gwâr naws, y gwir Oen Iesu:
“Dowch i hedd, a da 'ch haddef,
Ddilysiant, anwylblant nef,
Lle mae nefol orfoledd
Na ddirnad ond mad a'i medd;
Man hyfryd yw mewn hoywfraint,
Ac amlder y ser o saint,
Llu dien yn llawenu,
Hefelydd ni fydd, ni fu.
O'm traserch darfum trosoch
Ddwyn clwyf, fal lle bwyf y boch
Mewn ffawd didor a gorhoen,
Mewn byd heb na phyd na phoen.”

Gan y diafl ydd â 'r aflan,
A dieifl a'u teifl yn y tân.

Try 'r Ynad draw i'r wiwnef,
A'i gâd gain â gyd ag ef,
I ganu mawl didawl, da,
Oes hoenus! a hosanna.
Boed im' gyfran o'r gân gu,
A melused mawl IESU!
CRIST Fyg a fo 'r Meddyg mau;
Amen!—a nef i minnau.

Tarddiadau golygu