Cywydd y Farf

gan Goronwy Owen

Cywydd y Farn Fawr

Cywydd y Farf.

Cefais gystudd i'm gruddiau,
Oer anaf oedd i'r en fau;
Oerfyd a gair o arwfarf,
A dir boen o dori barf.
Mae goflew im' ac aflwydd,
A llwyni blew llai na blwydd;
Crinwydd fal eithin crynion
Yn fargod: da bod heb hon;
Trwsa 'n difwyno traserch,
Athrywyn mwynddyn a merch.

Mynych y ffromai meinwen
Wrth edrych ar wrych yr en;
Difudd oedd ceisio 'i dofi:
“Ffei o hon, hwt!”—ffoi wnai hi.
Caswaith, er däed cusan,
Ymdrin â merch â'm drain mân;
Briwo 'i boch wrth ei llochi;
Och! i'r rhawn; ac ni char hi;
Ac aflwydd el â'r goflew;
Sofl a blyg, ond ni syfl blew.
Cas gan feinwar ei charu,
O waith y farf ddiffaith, ddu.
Pwn ar en, poen i wr yw,
Poenus i wyneb benyw.
Pleidwellt na laddai pladur,
Rhengau o nodwyddau dur.
Dreiniach, fal pigau draenog,
Hyd en ddu fal dannedd og;
Brasgawn, neu swp o brysgoed;
Picellau fal cangau coed;
Ffluwch lednoeth, yn boeth na bo!
Gwyll hyllwedd, gwell ei heillio
Ag ellyn neu lem gyllell,
Farf ddiffaith! ni fu waith well.
Ond gwell, rhag y gyllell gerth,
Ennyn gwalc yn wen goelcerth;
Mindrwch gwlltwr gweindrwch, gwandrwm;
Dyrnwr a'i try, dwrn hwyr trwm;
Ellyn â charn cadarn coch,
Hwswi bendrom sebondroch,
Tan fy marf, ar bob arfod,
Y rhydd ei annedwydd nod—
Briw cyfled â lled ei llafn,
Llun osgo llaw anysgafn;
O'm grudd y rhed y rhuddwaed;
Bydd lle craf wanaf o waed;
Gwelid o glust bwygilydd
Ddau ben yr agen a rydd;
Hifio fy nghroen a'm poeni;
Llwyr flin yw ei min i min.

O mynnai, nef im' unwaith,
En iach, heb na chrach na chraith,
Yn ddifrif rhown ddiofryd
Holl hifwyr a barfwyr byd.
Rhown ddinidr iawn eidduned,
Llw diau, myn creiriau cred,
Na fynnwn i fau wyneb
Un ellyn noeth na llaw neb.

Medrusaidd im' ei drawswch,
A gwynfyd yw byd y bwch;
Odid, filyn barfwyn bach,
Y gellid cael ei gallach;
A chywilydd, o choeliwch,
I ddyn na bai ddoniau bwch;
Hortair, na thybiai hurtyn
Ddawn ei Dduw 'n addwyn i ddyn.

Croesaw y farf, wiwfarf, yt;
Cras orthwf, croesaw wrthyt!
Na fid digrif yn ddifarf,
Na 'i fin heb oll i'w harfolli;
Arfollaf a harddaf hi;
A dioddefaf dew ddudarf
Rhag eillio, gribinio barf.

Tarddiadau golygu