D oes eisiau'n bod, nac ofn, na chlais, na chlwy'
← Y bugail mwyn o'r nef a ddaeth i lawr | 'D oes eisiau'n bod, nac ofn, na chlais, na chlwy' gan Bernard o Clairvaux wedi'i gyfieithu gan Thomas Jones, Dinbych |
Fe dorrodd y wawr: sancteiddier y dydd → |
234[1] Digon yn yr Iesu.
10. 10. 10. 10.
'D OES eisiau'n bod, nac ofn, na chlais, na chlwy',
Ar f'enaid tlawd, heb fod gan Iesu fwy;
Anfeidrol fwy o werth sydd yn ei waed;
Os trengi wnaf, mi drengaf wrth ei draed.
2 O! Iesu gwiw, gwyn fyd a brofo o'th ddawn,
A'th gariad pur, yn felys nerthol iawn;
I hwn mae'n ddigon tra fo ynddo chwŷth;
Nid oes i'w gael, na'i geisio, ragor byth.
3 Fy Iesu hardd, hyfrydwch nefol lu,
Mor bêr i'r glust yw sain dy enw cu!
I'r genau mae fel mêl yn felys bur,
Fel nefol win i'r galon dan ei chur.
4 Amdanat, Iesu, 'n fynych mae fy nghwyn;
Pa bryd y caf dy lon ymweliad mwyn?
Pa bryd y caf fi lawenhau'n dy wedd?
Pa bryd y caf fy llenwi oll â'th hedd?
St. Bernad,
efelychiad: Thomas Jones, Dinbych
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 234, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930