Fe dorrodd y wawr: sancteiddier y dydd

D oes eisiau'n bod, nac ofn, na chlais, na chlwy' Fe dorrodd y wawr: sancteiddier y dydd

gan William Nantlais Williams (Nantlais)

Mae mwynder cnawd a byd yn myned heibio
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

235[1] Yr Atgyfodiad
10. 10. 11. 11.

1 FE dorrodd y wawr: sancteiddier y dydd,
Fe ddrylliwyd yr iau: daeth y Cadarn yn rhydd,

Fe gododd y Ceidwad, boed moliant i Dduw,
Fe goncrwyd marwolaeth, mae'r Iesu yn fyw.

2 Cyhoedder y gair, atseinier y sôn,
A thrawer y Salm soniarus ei thôn,
Dywedwch wrth Seion alarus a gwyw
Am sychu ei dagrau, mae'r Iesu yn fyw.

William Nantlais Williams (Nantlais)

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 235 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930