Mae mwynder cnawd a byd yn myned heibio

Fe dorrodd y wawr: sancteiddier y dydd Mae mwynder cnawd a byd yn myned heibio

gan John Owen Williams (Pedrog)

Clyw, f'enaid, clyw! mae nefol gân yn tonni
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

236[1] Yr un o hyd
11. 10. 11. 10.

1 MAE mwynder cnawd a byd yn myned heibio,
Diflanna oes fel breuddwyd gwael ei lun;
Ond er pob peth sy'n newid ac yn cilio,
Tydi, O! Grist, y sydd o hyd yr un.

2 Cymdeithion mwyn, o un i un, ânt ymaith,
A'n gado ninnau yn yr anial fyd;
Ond ynot Ti y cawn ar hyd yr ymdaith
Gydymaith dwyfol fydd yr un o hyd.

3 Os cyfnewidiol ydyw nwyd a theimlad,
Os gwamal ein meddyliau gwibiog ni,
Tangnefedd fydd i'r neb a ŵyr dy gariad,
Oblegid digyfnewid ydwyt Ti.

4 Ar ben y daith pan fo pererin unig
Wrth borth y byd a ddaw, heb gwmni dyn,
Diogel fydd, a'i ran yn fendigedig;
Tydi, O! Grist, y sydd o hyd yr un.

John Owen Williams (Pedrog)


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 236, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930