Clyw, f'enaid, clyw! mae nefol gân yn tonni
← Mae mwynder cnawd a byd yn myned heibio | Clyw, f'enaid, clyw! mae nefol gân yn tonni gan Frederick William Faber wedi'i gyfieithu gan Evan Keri Evans |
Ni ganwn am gariad Creawdwr yn ddyn → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
237[1] Engyl yr Iesu
11. 10. 11. 10. 9. 11.
1 CLYW, f'enaid, clyw! mae nefol gân yn tonni
Hyd ddaear werdd, a glannau llaith y lli:
Bendigaid gân sy'n gwneud i'r enaid lonni
Am newydd oes heb bechod ynddi hi.
Engyl yr Iesu, engyl y wawr,
Canant eu croeso i deulu'r nos yn awr.
2 Awn, awn ymlaen; ein galw mae yr engyl,
"Dos, enaid blin, mae'r Iesu'n dwedyd Dos'";
A thua'n cartre' nefol, mae'r Efengyl,
A pheraidd sain, yn arwain yn y nos.
Engyl yr Iesu, &c.
3 Draw, draw ymhell, galwadau'r Iesu seiniant,
Fel clychau hwyrol dros y ddaer a'r lli,
A miloedd, dan eu beichiau'n llesg, glustfeiniant—
O! Fugail mwyn, dwg hwynt i'th gorlan Di.
Engyl yr Iesu, &c.
4 Cenwch ymlaen, angylion, wrth ein gŵylio,
Cenwch in geinciau o'r caniadau fry;
Nes torri dydd y gân ar nos yr ŵylo,
Nes chwalu o gariad Duw bob cwmwl du.
Engyl yr Iesu, &c.
Frederick William Faber
Cyf: Evan Keri Evans
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 237, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930