Ni ganwn am gariad Creawdwr yn ddyn

Clyw, f'enaid, clyw! mae nefol gân yn tonni Ni ganwn am gariad Creawdwr yn ddyn

gan William Williams, Pantycelyn

Yr afon a lifodd rhwng nefoedd a llawr
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

238[1] Canu am Gariad Crist.
11. 11. 11. 11.


1 NI ganwn am gariad Creawdwr yn ddyn,
Enynnodd cyn oesoedd o fewn iddo'i Hun;
Ni chwilia ceriwbiaid, seraffiaid, na saint,
Ehangder, na dyfnder, nac uchder ei faint.

2 Rhyfeddod angylion yng nghanol y nef,
Rhyfeddod galluoedd a thronau yw ef;
Diffygia'r ffurfafen a'i sêr o bob rhyw
Cyn blinwyf fi ganu am gariad fy Nuw.

3 Fy enaid, gwêl gariad yn fyw ar y pren,
Ac uffern yn methu darostwng ei ben;
Er marw fy Iesu, er hoelio fy Nuw,
Parhaodd ei gariad trwy angau yn fyw.

4 O! ryfedd ddoethineb—rhyfeddod ei hun!—
A ffeindiai'r fath foddion i brynu'r fath un;
Fy Iesu yn marw—fy Iesu oedd Dduw,
Yn marw ar groesbren i minnau i gael byw.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 238, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930