Daff Owen/Cyfaill Mewn Taro

Yr Anffawd Fawr Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Cwm Rhondda


IX. CYFAILL MEWN TARO

GADAWYD y gwair a'r wagin lle yr oeddynt, cariwyd gweddillion Sioned gyda dagrau i ystafell barchusaf y ffermdy, a gwnaed popeth a oedd yn weddaidd o dan ergyd mor dost. Dygodd y ffermwr Ddaff i'w dŷ ei hun, a'i amgeleddu yno dros adeg y trengholiad a'r angladd.

Ond pan aeth y llanc gyda Shams y Gof i'r bwthyn yn ymyl yr heol i nôl ei ddillad goreu, O! mor wag y lle! ac mor oer yr aelwyd! Trechwyd Daff gan ei deimladau'n llwyr yno, a chan bwyso 'i ben ar fraich yr hen sgiw, fe wylodd fel pe ar dorri ei galon.

"Der' di, 'machgen i, chei di ddim cam, tra gall Shams y Gof, ta' beth," ebe'r Samaritan hwnnw, a gwyddai Daff fod yr hen gyfaill rhyngddo a'r gwaethaf beth bynnag a ddigwyddai. Peth arall a wnaeth. Shams hefyd, heblaw cysuro'r amddifad, oedd galw gyda phawb yn y pentref (heb wybod i Ddaff), a gofyn help i dalu am arch dderi i'r hen gymydoges; oblegid, ebe fe, 'r oedd Sioned Owen yn rhy dda i'w chladdu gan y plwy'." Y gof hefyd oedd yn cyd-gerdded â Daff wrth ddilyn yr arch i'r gladdfa, ac yn eistedd wrth ei ochr pan yn clywed darllen odidog "bennod y claddu" yn y gwasanaeth. Yn wir, yn nhŷ Shams y treuliodd Daff fwyaf o'i amser ar ôl yr angladd, oblegid, er y gwyddai fod pob drws yn agored iddo, at ei hen gyfaill yr ymwasgai, a chydag ef yr ymgynghorai.

Gwerthwyd y celfi, a thalwyd y mân ddyledion; ac wedi hynny dechreuodd Daff feddwl ei gynlluniau am y dyfodol.

"Paid â bod mewn un brys, 'y machgen i," ebe Shams garedig. "Rwy'n deall dy fod di'n rhydd o'r ysgol bellach; dewis di dy lwybr fel y mynnot, ac yna fe gawn weld p'un fydd y ffordd oreu i ti gynnig ato"

"Wel, fel hyn Shams,—Fe glywais mam yn sôn llawer am yr amser y bu nhad ym Morgannwg yn y gweithie, a'r arian mawr a enillodd e' yno. Ostler oedd e' yng Nghwm Rhondda y pryd hynny o dan yr Ocean,' ac yr oedd e'n rhoi gair da iawn i'r lle. Ma' rhyw 'want arno i ei threio yno, os caf i le. 'Roedd nhad un amser yn 'nafus am i mam fynd yno i fyw, mae'n debig, ond âi hi ddim."

"Eitha' da, Daff, treia hi yn yr Ocean,' ac os na byddi di wrth dy fodd yno, wel, fe wn i am un drws a fydd yn agored i ti wedyn. Ie, a chofia, machgen i, gymaint o olwg oedd gan dy dad ar dy fam, waith fe ddath yn ôl o Gwm Rhondda, er cystal lle oedd hwnnw, am na fynsai hi fynd yno i fyw. Dyn t'luaidd oedd dy dad, Daff.

A chyda llaw ma' gennyf innau gefnder yn Nhonypandy, a phan fyddi di yn mynd i ffwrdd fe ddo i gyda thi cyn belled â hynny, waith mae isha 'i weld e'n fawr arna' i."

"O, diolch yn fawr, Shams, a diolch am bopeth 'rych chi wedi 'i neud drosto i hefyd. 'Roedd mam yn meddwl llawer amdanoch chi, Shams, ac 'rwy'n siwr 'i bod hitha'n diolch hefyd."

"Twt, lol i gyd. 'Netho i ddim mwy na rhywun arall."

"Good luck, Daff!"

Ac aeth y gof gwlad ymaith oddiwrth y llanc mewn ffordd anarferol iawn iddo ef; oblegid wedi mynd gam neu ddau oddiwrtho, cafodd afael ar gadach gwyn o rywle, ac â hwnnw hir-sychodd ei wyneb gan ddiweddu drwy chwythu ei drwyn yn chwyrn i'w ryfeddu.