Daff Owen/Yr Anffawd Fawr

Colli a Chael Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Cyfaill Mewn Taro


VIII. YR ANFFAWD FAWR

NI phrofodd Daff erioed yn ei fywyd amser mwy adfydus na'r dyddiau y bu Glyn ar goll. Er y chwilio i gyd, credai yn ei galon (er na ddywedodd hynny wrth neb, naddo, hyd yn oed wrth ei fam) mai yng ngwaelod Llyn y Tro Mawr oedd gerllaw lôn y Dyffryn y ceffid corff ei gyfaill. A phan ddaeth y llythyr o Ferthyr i ddywedyd bod Glyn yn ddiogel yno, nid oedd neb yn fwy balch na'r hwn a oedd yn gyfrannog ag ef yng ngofal y ddrwm.

Ac er na feddyliodd Daff ddim am hynny ar y pryd, rhoddodd encil Glyn liw gwell ar drosedd y cyfaill a ddaliodd ei dir. Ac yr oedd digon o'r pentrefwyr wedi gweld Twm Ddwl yn ei thabyrddu hi i lawr dros yr heol brynhawn y Sadwrn hwnnw, ac yn cofio mai ef oedd gyfrifol, os cyfrifol hefyd, am yr holl helbul.

Un peth a darawodd Daff yn fawr y dyddiau hynny oedd tynerwch ei fam tuag ato. Un o anian addfwyn oedd Sioned Owen yn naturiol, ond pan welodd hi y trybini yr aethai ei mab yn ddifai iddo, torrodd ei theimlad mam allan yn ddengwaith cryfach, a pharodd i Ddaff ei hanwylo yn fwy nag erioed.

Ymhen blynyddoedd lawer ar ôl hyn, a hi bellach wedi marw ers amser, cofiai Daff, ynghanol siom a chaledi gwlad estron, yn fynych am y dyddiau hyn, a pharai'r atgof amdanynt iddo golli llawer deigryn am ei fam hoff.

Ond ar hyn bryd yr oedd y ddau gyda'i gilydd yn y bwthyn ger yr heol, yn breuddwydio am yr amser hyfryd oedd yn neshau pan fyddai Daff yn gweithio, a'i fam yn "cadw tŷ iddo. Dim rhagor o help gan y plwyf wedi hynny, bid sicr! Byddai ef yn gweithio'n galed, yn talu pawb, ac yn dal ei ben i fyny cystal â neb pwy bynnag. O mor felys a fyddai'r bywyd hwnnw!

Ond er yr holl freuddwydion disglair hyn, digon diflas oedd mynd i'r ysgol heb Lyndŵr, a gwaeth fyth o fod yn gwybod bod hwnnw eisoes yn y lofa, ac yn ennill arian mawr. Ac i lanw cwpan ei gur yn hollol, cyfeiriai yr ysgolfeistr byth a hefyd ar goedd yr holl ysgol at helynt y ddrwm fawr. Ac O! anodd oedd dioddef hyn, a'r plant yn ei boeni a'i sennu yntau yn ôl llaw!

Paham na frysiai'r misoedd iddo gael ymadael â'r lle atgas, a dechreu ar fod yn ddyn? Gwyddys mai dyna hanes pob hogyn pedair-ar-ddeg oed, ond ni wyddai Daff mo hynny, a chredai ei bod yn waeth arno ef nag ar neb o'i gyfoedion.

A druan ohono! Gwaeth eto oedd yn ôl!

A hi yn gynhaeaf gwair prysur anarferol, aeth Sioned Owen yn ôl ei harfer i helpu'r ffermwr cyfagos ar ddiwrnod y cywain. Nid oedd yn teimlo'n dda yn y bore, ond beth am hynny, heddiw neu ddim oedd eisiau'r help. Ac felly allan yr aeth, gan gymryd ei lle yn y rheng o fenywod a groesai Gae Du'r Allt gan garfanu ynghyd y gwair y ffordd yr elent yn barod i'r wagin a'i cludai i'r ydlan.

Bygythiai'r tywydd dorri, ac felly rhaid oedd dal ati i grynhoi cymaint ag a ellid o'r cynnyrch cyn dyfod o'r glaw. Cludwyd llwyth ar ôl llwyth o'r cnwd sawrus i glydwch, ac awgrymodd rhywun mai da fyddai parhau i gywain a chael y pryd bwyd yn ddiweddarach. Felly y gwnaed, ond cyn pen hanner awr yr oedd Sioned Owen wedi syrthio yn y rheng, a dwy o'i chymydogesau wrth y garfan yn ceisio dal ei phen i fyny.

Rhedodd un arall at y ffermwr a pharodd hwnnw i'w was garlamu i Drecastell am feddyg yn ddioed. Daeth y physygwr cyn gynted ag yr oedd modd, ond erbyn cyrraedd ohono ef y cae gwair yr oedd enaid Sioned Owen wedi hedeg, a Daff, druan, yn hollol amddifad o dad a mam.