Daff Owen/Cymorth y Gwan

Dros y Chilcoot Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Ymrwymiad Newydd


XXXV. CYMORTH I'R GWAN

TYBYGAI Daff nad oedd wedi cysgu ond rhyw ddwyawr neu dair pan glywai rywun yn symud o gylch y babell, ac wedi codi ohono i'w eistedd a throi fflap y babell i edrych allan, gwelodd ei bod hi eisoes yn dechreu dyddio, a bod Mr. Bradbury yn brysur wrth y radell a'i dân coed unwaith yn rhagor.

Cyn hir yr oedd y borefwyd yn barod, ac wedi cyfranogi ohono, tynnwyd y babell i lawr a dechreuwyd trefnu ar gyfer gwaith mawr y dydd. Yn unpeth, penderfynwyd bod cinio i'w darparu ar ben y Pass ganol dydd, a bod dwyawr o seibiant ar ôl hynny, a bod Daff yn yr amser hwnnw i ddyfod i lawr i wylio'r eiddo wrth droed y rhiw tra âi Mr. St. Clair i fyny i gael ei ginio yntau a dychwelyd i gymryd ei le yn y gwaelod drachefn.

Paratowyd hefyd raff i'w threfnu o dan ddwy ysgwydd Daff, ac wrth hon y gafaelai Mr. St. Clair i helpu Daff i fyny gyda'r llwythi hyd hanner ffordd, a'r un modd deuai Mr. Bradbury i waered i'w helpu dros lawer o'r hanner arall. O ddilyn y cynllun hwn rhoddwyd cymorth mawr i'r cludydd, ac ar yr un pryd cadwyd llygad ar yr eiddo yn y ddeufan. Serth a lithrig iawn oedd y llwybr serch hynny, a llawer gwaith y collasai Daff ei droed onibai am y rhaff a'i cynhaliai.


Ai yr Indiaid i fyny heb gymorth na rhaff nac arall, ac yr oedd yn syndod i bawb y modd y medrent ddal ati cyhyd. Aent heibio fel dynion yn cerdded yn eu cwsg, heb sylwi dim ar neb, er cymaint y boen a'r lludded.

Ond yr oedd terfyn hyd yn oed ar wydnwch corff Indiad, ac yr oedd Daff wedi sylwi bod yr hynaf ohonynt —Red Snake—yn dechreu dangos arwyddion amlwg o wendid; ac unwaith pan oddiweddwyd ef ar y llethr gan Ddaff, tynnodd y Cymro allan o'i logell botel fechan o frandi (yr oedd Mr. Bradbury wedi ei orfodi i'w chymryd y bore hwnnw), a rhoddodd ddogn ohoni i'r hen bagan oedd ar lewygu o dan ei faich.

"Ugh! heap good! oedd yr unig air a lefarwyd gan yr Indiad am y caredigrwydd, ond yr oedd diolch y llygaid yn dywedyd mwy nag un gair llafar ar y pryd.

Aeth Daff rhag ei flaen a'i lwyth i'r copa, ac ar ei ddychweliad i lawr yn waglaw cyfarfu à Red Snake yn pesychu a chrynu gymaint ag erioed wrth geisio cyrraedd pen y dibyn.

Ar ei siwrnai nesaf i fyny rhyfeddai Daff ychydig na byddai wedi cyfarfod â'r Indiad yn dyfod i lawr, ac am na wnaethai hynny ofnai y gwaethaf amdano, oblegid nid lle i ddyn claf yn sicr oedd llethrau'r Chilcoot. Ac ef yn y meddwl hwn aeth yn ei flaen ychydig wedyn, pan glywodd yn sydyn ei law chwith riddfan poenus. Gosododd Daff ei lwyth i lawr ar y foment ac edrychodd i gyfeiriad y griddfan. Yna, ddecllath islaw y llwybr, wedi llithro dros ddibyn bychan, yr oedd Red Snake a'i lwyth. Neidiodd y Cymro i lawr ato, tynnodd ef yn rhydd oddiwrth strap ei bwn, a gosododd ei fraich o dan ei ben. Trodd yr Indiad ei olwg at ei waredydd, ond amlwg oedd ei fod mewn poen dirfawr.

Gan adael ei bwn ei hun yn y man y'i taflwyd i lawr, cariodd Daff y truan i fyny i gopa'r Pass, a pharodd syndod nid bychan i Mr. Bradbury wrth ollwng i lawr o'i gefn wrth y tân, nid llwyth o flawd gwenith, ond— Indiad byw.

Eglurodd i'r gŵr ieuanc hwnnw yr anhap, a'r modd y gadawodd ef ei bwn o nwyddau ceisio achub bywyd. Ac wedi gosod y truan, gyda chymorth Mr. Bradbury, mor gysurus ag a allai, aeth yn ôl i gludo ei bwn ei hun i fyny i'r Pass at y pynnau a oedd yno yn barod. Gadawyd llwyth yr Indiad yn y man y syrthiodd.

Eglur fod yr hen wr wedi torri asen neu ddwy, ac o ddyngarwch teg penderfynwyd ei gadw yn eu pabell hwy y noson honno. Yn y cyfamser aeth Daff i lawr unwaith eto am lwyth arall ac i hysbysu Mr. St. Clair am y ddamwain, ac i ofyn iddo ymweld â chyflogydd yr Indiad, i ddywedyd wrth hwnnw am y modd y bu, fel y gallai ofalu am ei was ei hun. Ond yr oedd y cyflogydd—" Yank" mawr o Maryland—yn ddigon oer yn y peth, a phan welodd mai dyn ieuanc oedd Mr. St. Clair ceisiodd siarad dros ei ben.

"Beth yw dy feddwl di, youngster," ebe fe, "yn ymyrraeth â gweision dynion eraill? A oes gennyt ddim busnes dy hun i'w feindio? Ac nid yw'r hen ysgerbwd yn ddim ond Indiad wedi'r cwbl!"

"Dim ond Indiad!" Fflamiodd Mr. St. Clair ar hyn. "Dim ond bywyd dynol, 'rwyt ti'n feddwl, y dyhiryn! Efallai y carit ei saethu, fel ag y gwnest â'r ceffyl truan hwnnw ar y Fflats y ddoe. Edrych di yma! Os na wnei di dy ddyletswydd i ofalu am y pŵr ffelo hwn, fe ofalaf i, cyn naw bore yfory, nad ei di gam ymhellach na Llyn Bennett ar y siwrnai hon, beth bynnag ddaw. Cymer dy ddewis!"

Ar hyn trodd y gŵr ieuanc ar ei sawdl gan adael yr Yank mawr i dyngu a rhegu ar ei ôl. Ond yr oedd y siarad plaen wedi cyrraedd yr amcan. Bore trannoeth danfonwyd pedwar Indiad gan yr adyn i ddwyn eu cydwladwr allan o babell y bechgyn, a chredwyd fod y digwyddiad ar ben.

Ymhen amser hir wedi hynny deuthpwyd i wybod mai trosglwyddo'r dioddefydd i ddwylo'r Indiaid eraill yn unig a wnaeth yr Yank wedi'r cwbl. Ni chostiodd ei ofal ffyrling iddo ef, ac onibai i Ddaff wneuthur rhan dyn y prynhawn hwnnw, tebig mai ei adael i rynnu i farwolaeth a gawsai yr hen Indiad. o ran ei feistr ei hun.