Daff Owen/Dros y Chilcoot
← Tua'r Gogledd | Daff Owen gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon) |
Cymorth y Gwan → |
XXXIV. DROS Y CHILCOOT
Ac ni bu ar y Skagway brinder o weiddi nac o dreisio ychwaith. Rhwng rhegfeydd atgas y gyrwyr mileinig, a dolefau cur yr anifeiliaid druain, yr oedd y trail yn uffern barod.
Aeth Daff i fyny gyda'i ymyl am oddeutu milltir, ac er ei fod ef, gwaethaf y modd, wedi clywed rhegfeydd eirias fwy nag unwaith yn y Rhondda, ac wedi clywed sôn, gwaeth fyth, am greulondeb ambell i halier yno, eto yr oedd ei brofiad hwn ar y Skagway y tu hwnt i'r cwbl a glywsai.
Ni welodd ef ei Gyd-Gymry yn wynnach erioed nag o'u dal gyferbyn â barbariaid erchyll y trail.
Trodd yn ei ol yn drist iawn, ac wedi cyrraedd ohono eilwaith gabanau Dyea, eisteddodd yn un o'r restaurants i gymryd lluniaeth, ac i feddwl. Da ydoedd iddo ei ddychwelyd, oblegid ymhlith y newyddion diweddaraf a ddeuthai i lawr dros y Chilcoot yr oedd y sôn bod newyn yn bygwth y Klondyke, ac na adewid i neb pwy bynnag adael Llyn Bennett i gyfeiriad y gogledd heb allu ohono ddangos fod yn ei feddiant ddigon o ymborth dros y gaeaf. Bwriad Daff, cyn clywed hyn, oedd cynnig y llwyb arall i'r llyn, sef yr un serth dros y Chilcoot Pass ei hun. Ond beth a dalai iddo fynd y ffordd honno ychwaith, i gael ei droi yn ôl wedi dringo drwy waethaf y daith. Ond rhaid oedd gwneuthur rhywbeth, a hynny'n fuan. Ac onid elai yn ei flaen, rhaid oedd mynd yn ôl, h.y., i Vancouver,—ac yn fethiant!
Wedi mynd ohono allan i'r heol unwaith eto, canfu o'i flaen nifer o Indiaid yn dilyn ei gilydd fel ag y gwelsai y sandwich-men yn ei wneuthur gartref. Ond yn lle bod yn "ddolennau hysbysiaeth" fel y sandwich-men, cario pob un ei sach lawn a wnâi y rhain. Yn nes i lawr ar y llwybr gwelodd rai dynion gwynion yn gwneuthur yr un peth, ac o ofyn, deallodd Daff mai wedi eu hurio i gludo'r sachau dros y Pass i Lyn Bennett yr oeddynt, a bod tâl da am y gwaith, ond nad gormod y tâl ychwaith, am fod y Pass yn serth a'r llwythi yn drwm.
Dros y Chilcoot yr oedd y llwybr byrraf i gyrraedd y dyfroedd uchaf, ac am na allai yr un "creadur pwn ddringo'r ffordd honno, rhaid oedd wrth nerth dyn i gludo popeth dros wyneb y tarenni enbyd.
O weld yr Indiaid a'r cludwyr eraill wrth eu gorchwyl, daeth i feddwl Daff y gallai yntau gludo sachau gystal â neb pwy bynnag.
Onid oedd ef wedi gwasanaethu prentisiaeth wrth y gwaith yn y La Dernière yn Winnipeg gynt? Ac onid oedd wedi dal ei dir gystal â neb yno? Ac yn hytrach na dychwelyd i Vancouver yn waglaw fe ymladdai â'r Chilcoot hyd dranc!
I'w syndod deallodd fod 40 cent y pwys am y llafur, ac mai tueddu i godi yr oedd y gyflog bob dydd. Yr oedd hyn bron cystal â Klondyke ei hun, a chan mai brys i gyrraedd yno cyn cau o'r tymor oedd yn peri i hur y cludwyr godi cymaint, daliodd Daff ar y cyfle, a gwelwyd ef yn fuan yn y rheng a'i sach ar ei gefn.
Gwir bod y gwaith yn un llafurus dros ben, ond yr oedd y profiad yn y La Dernière yn ei helpu, ac o hynny llwyddodd i guro'r dynion gwynion eraill yn rhwydd. Cofiodd am y chwysu mawr ym melinau Winnipeg serch hynny, a pharodd yr atgof radd o anesmwythder iddo. Ond bellach, yn yr awyr agored iach yr ydoedd, ac i'w foddhad mawr sylwodd nad oedd yn chwysu yn afresymol fel ag y gwnâi yn y La Dernière.
Garw iawn oedd llwybr y cludwyr hyd yn oed ar y lleoedd gwastad. Ond pan godai i serthni blaen y cwm a arweiniai i'r Pass ei hun yr oedd y droedffordd nid yn unig yn arw, ond yn gul a llithrig hefyd. Mewn un man, rhaid oedd croesi cornant neilltuol, gam a cham, dros goeden syrthiedig a wasanaethai fel pont drosti.
Cymerai Daff seibiant mynych yn y rhannau anhawsaf o'r daith. Credai y talai hynny'n well nag aros i luddedu'n lân cyn gosod y baich i lawr. Yn y "codi " a'r "gosod i lawr yr oedd y fantais gan Ddaff ar y dynion gwynion eraill. Gollyngent hwy y llwyth i lawr heb un meddwl am y ffordd gynilaf o wneuthur hynny, a chodent ef i fyny drachefn gyda'r gwastraff mwyaf ar eu nerth. Ond yr oedd yr Indiaid wedi dysgu'r grefft yn rhywle fel ag y gorfuwyd i Ddaff ei dysgu gynt yn y La Dernière, ac ef mewn canlyniad oedd yr unig ddyn gwyn yn awr a allai gystadlu â hwynt. Cyflogid Daff gan ddau Americaniad ieuanc, a oedd yn iau nag ef ei hun. Tybiai ef mai dau fachgen of deuluoedd da oeddynt, dau fel pe wedi newydd adael y Brifysgol, ac yn mynd i'r Klondyke oddiar antur deg. O leiaf, nid oedd olion llafur ar eu dwylo, ac nid oedd prinder arian ar yr un ohonynt. Yr oeddynt ill dau o ysbryd uchel ac yn gryn sports, h.y., nid yn eu hiaith a'u honiadau yn gymaint ag yn eu hymagweddiad distaw tuag ato ef.
Yr oedd un ohonynt, Mr. St. Clair, wedi aros ar y traeth gyda'r pentwr nwyddau pan gymerth Daff y sach gyntaf i fyny i'r snowline, tra dilynwyd ef gan yr ail, sef Mr. Bradbury, i fyny at y man o dan frig yr eira, lle y pentyrrid yr holl sachau cyn cychwyn tramwy yr ail stage enbyd i gopa'r Pass. Rhwng y ddau ddyn ieuanc, un ar y traeth, a'r llall o dan gysgod y Chilcoot, y cerddai Daff drwy gydol y dydd, sef i fyny yn llwythog ac yn wag i lawr, hyd nes gyda'r hwyr yr oedd yr holl sachau ymborth a'r cydau offer yn ddiogel gyda'i gilydd ychydig o bellter oddiwrth fôn y grisiau ia.
Yn un o'r pynnau a gludwyd i fyny yn gynnar yn y dydd yr oedd pabell ddarpar o wneuthuriad neilltuol, ac erbyn dwyn o Ddaff y sach olaf at y crug o dan gysgod y Pass yr oedd Mr. Bradbury wedi llwyddo i godi honno ar ei pholyn, ac wedi cynneu tân coed mewn gradell fechan a oedd hefyd yn rhan o eiddo'r ddau ŵr ieuainc. Ac nid yn unig yr oedd yno dân, ond yr oedd ar hwnnw drachefn badell ffrio yn llawn golwythion o facwn. Sawrus a denol dros ben oedd yr ymborth hwn i Ddaff, ac wedi bwyta ohono ef hyd ddigon, gorweddodd yn gynnar i gysgu hun y blinderog, ac yn y wybodaeth y byddai trannoeth yn waeth fyth.