Daff Owen/Ffest y "Farmers"

Brutus o Rufain Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

"Twm Ddwl"


V. FFEST Y "FARMERS"

NID llawer diwrnod o dwrw a rhialtwch llawn a gaffai plant Cwmdŵr ar hyd blwyddyn gyfan. Ond yr oedd un, sef diwrnod ffêst y Farmers," pan ddeuai bron pob ffermwr a gweithiwr yn yr ardal at ei gilydd i'r gwesty i ddathlu pen blwydd y gymdeithas ddyngarol a gartrefai yno. Llawer amaethwr, a fuasai gynt. yn byw yn yr ardal, ond yn awr a drigai mewn plwyf neu sir arall, a ddeuai ar ymweliad â'r hen le ar y diwrnod arbennig hwn. A'r un modd llawer gweithiwr, brodor o'r pentref gwledig, ond a oedd erbyn hyn yn ennill ei fywioliaeth yng nglofeydd y Deheudir, a ddeuai hefyd i weld ei berthynasau ar adeg hapus y wledd. Felly rhwng popeth yr oedd diwrnod "ffêst y Farmers" yn ddydd o lawenydd i bobl hynaf Cwmdŵr yn ogystal ag i'r plant. Ond ni hidiai y rhai ieuainc gymaint am wedd ddyngarol y clwb, llyncid eu holl sylw hwy gan y pethau mwy gweladwy—y faner, y regalia, yr orymdaith, y gwisgoedd, ac yn enwedig yr afr wen o Aberhonddu, a flaenorai'r cwbl.

Dechreuid plethu cangau o wahanol goedydd uwch drws a ffenestri'r gwesty ddiwrnodau cyn y dydd mawr, ac erbyn dyfod o'r Sadwrn yr oedd pileri ac ystlysau'r cyntedd wedi eu cuddio â blodau o bob lliw. A chyn canol dydd treiddiai arogl hyfryd y bastai drwy holl rannau agosaf y pentref, fel rhwng y cwbl safai'r pentrefwyr fel pe ar flaenau eu traed yn disgwyl yr amgylchiad mawr oedd unwaith eto wrth y drws.

Felly y bu ar bob Sadwrn cyn y Sulgwyn oddiar cyn cof y neb a oedd yn fyw, ac felly y tybid y byddai hefyd ar yr un Sadwrn yn 1889.

Ond erbyn hyn yr oedd Sergeant Foster, yr ysgolfeistr, wrth yr awenau, ac awgrymid o bryd i'w gilydd, gan fwy nag un aelod, y gwelai Gwmdŵr ychwaneg y tro hwn—rhywbeth mwy teilwng o'r ardal a'r gymdeithas nag a fu erioed cyn hynny. Yr oeddid eisoes wedi penderfynu—gyda mwyafrif bychan, mae'n wir— i'r orymdaith fynd i'r eglwys i wrando pregeth fer gan y ficer cyn dychwelyd mewn rhwysg at y danteithion. Sonnid am bethau eraill hefyd, ond nid oedd cymaint sicrwydd am y rheini, er bod y Sergeant yn brysur anarferol, ac yn galw yn y Farmers ddengwaith yn y dydd.

Dyma'r prynhawn wedi dod o'r diwedd. Yr oedd y tywydd yn braf a'r ymwelwyr o bell yn dechreu ymdyrru i'r lle, ac yn galw mewn ambell ddrws i ofyn hynt hen gyfeillion bore oes.

Am ddau o'r gloch gelwid y Roll, a rhaid oedd i bob aelod dalu ei ôl-ddyled erbyn y pryd hwnnw. Wedi dibennu galw'r enwau dechreuwyd yr arwisgo, a llawer ffermwr mewn brethyn gwlad a fu ymron methu'i adnabod ei hun o dan liwiau disglair yr arwisgoedd newydd.

Ond o'r holl rai rhwysgus i gyd, y pennaf oedd yr ysgrifennydd, h.y., ein hen gyfaill y Sergeant. Nid yn unig yr oedd ei sgarff yn fwy lliwus, ond yr oedd hefyd fwy o sêr arni, a thu ôl iddi yr oedd pedwar medal yn hongian wrth rubannau o wahanol liwiau ar ei fron i hawlio iddo y lle amlycaf.

Cyn bod yr arwisgo ar ben, clybuwyd sŵn cras a thabyrddu egniol o gyfeiriad Trecastell. "Brass Band! byth na chyffro i!" ebe Shams y Gof. "Dyma hi o'r diwedd!"

Nid oedd clyw Shams wedi ei dwyllo, oblegid seindorf bres yn wir oedd yno yn agoshau i'r pentref, a'r seiniau yn dod yn fwy eglur bob cam y deuai. Gwenai y Sergeant gyda boddhad i'w ryfeddu, oblegid golygai y sŵn fod y Milwriad yn Aberhonddu wedi mynd allan o'i ffordd i barchu ei hen Sergeant trwy dorri ei reol i beidio gadael seindorf y gatrawd fynychu gwleddoedd o'r fath. Nid oedd yr ysgolfeistr yn sicr cyn hyn y deuai y seindorf o gwbl, felly bu yn ddigon doeth i fod yn dawel ar y pwnc. Ond bellach, yr oedd pob amheuaeth ar ben, ac ambell un o'r ffrindiau mwyaf ei sêl yn curo cefn yr ysgolfeistr, a'r holl westy yn un berw drwyddo.

Yn y pentref yr oedd pawb naill ai y tuallan ar garreg y drws neu ynteu y tu ôl i lenni'r ffenestr yn syllu ar yr afr a'i chyrn goreuredig, a'i chyfrwy amryliw, ac ar y sawdwyr cerddgar yn ei throedio hi i'r ysgwâr o flaen y Farmers.

Cyn pen canu dwsin o nodau yr oedd pob crwt a oedd o fewn hanner milltir i'r lle, naill ai eisoes yn yr ymyl neu yn ei rhedeg hi rhag colli'r sbri. Yn eu plith yr oedd Daff, Wil mab y Gwehydd, Glyn, Twm Ddwl (lloeryn y pentref), a rhyw ddeugain eraill yn troedio gam a cham â'r cerddorion newydd hyn a oedd yn deffro holl adseiniau'r cwm â'u miwsig byddarol.

Wedi ei marchio hi yn y blaen am ryw gymaint, trowyd i lawr o'r brif heol i'r ysgwâr, ac wedi ffurfio ohonynt gylch o flaen y tŷ, a chanu ychydig yn rhagor, diweddwyd yn sydyn ar chwibaniad mishtir y band!

Ar hyn daeth y Sergeant a dau arall allan o'r tŷ yn dwyn bob un ei lestr yn llawn o gwrw. Wedi hynny dygwyd allan nifer o wydrau gan ferch y tŷ, ac â'r rhain estynnwyd i'r cerddorion dieithr foddion i dorri eu syched.

A hwy wrth y gwaith hwn, mawr oedd yr edmygu ar yr offer, a'r cerddorion eu hunain, gan blant y pentref, rhai wedi eu swyno gan y dillad "coch a melyn,' eraill gan y trombone (sef yr offeryn a estynnai yn ôl a blaen ac a oedd un foment yn ddwylath o hyd, a phryd arall lai na hanner hynny), ond y rhan fwyaf, ac yn eu plith Twm Ddwl, Daff, a Glyn, gan y ddrwm fawr a oedd mor bwysig i'r holl fiwsig.