Daff Owen/Munudau Cyffrous

Tua'r Gorllewin Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Rheolau Neu Ddynoliaeth


XXVIII. MUNUDAU CYFFROUS

Ac nid peryglon i'w hanwybyddu oedd y rhai a wgai arno ychwaith. Chwythai'r gwyntoedd i lawr drwy gymoedd culion y Sierras, a chyda hwynt daeth oerlaw a rynnai'r llanc ymron. Ond y gwlychu a'r rhyndod, gwell gan Ddaff oedd gorwedd wrth fon craig na cheisio cysgu yn y sied eira lle yr oedd pob cysgod yn wrthrych ofn, a'r sŵn lleiaf yn floedd.

Cododd yn gynnar o'i orweddfan llaith fore trannoeth, ac wedi troedio trwy sied neu ddwy ymhellach, daeth yn sydyn at bont hir a groesai gilfach ddofn. Gwnaed. hi o drawstiau mawr wedi eu cyplysu ynghyd gyda'r fath gadernid ag i allau dal o dan y llwythi trymion a âi drosti.

Fel y mwyafrif o bontydd y gorllewin, nid oedd iddi ganllaw o unrhyw fath, a chan fod y gwynt yn ysgubo i lawr drosti, dim ond trwy ymdrech mawr y gallai Daff gadw ar ei draed arni ar ambell eiliad. Po nesaf yr elai ef at ganol y bont cryfaf i gyd oedd y gwynt, ac i'w fraw mawr gwelai fod yn y man hwnnw ambell agen o droedfedd neu ychwaneg rhwng trawstiau'r llawr â'i gilydd. Ac o edrych i lawr i'r dwfn rhwng y rheini gwelai yno lifeiriant mawr o lan i lan yn ymruthro drwy'r gwaelodion. Bu bron i'w ben syfrdanu wrth yr olwg, ond cafodd y meddwl i ostwng ar ei liniau, ac yn y modd hwnnw, gan benlinio ei ffordd o drawst i drawst, y cyrhaeddodd ben pellaf y bont. O ymyl y gilfach ofnadwy ymestynnai sied eira arall, hir a thywyll, a chyn myned iddi oedodd Daff ychydig i ail-ennill ei anadl ac i dawelu ei fron ofnog. Beth pe deuthai trên ac yntau ar ganol y bont! Torrodd chwys oer drosto wrth feddwl am bosibilrwydd y peth, a diolchodd am na feddyliodd hynny ar y trawstiau. Buasai'r digwyddiad yn ddigon iddo golli ei ben pan oedd arno fwyaf o angen bod yn bwyllog.

A'i fron eto'n gythryblus, aeth rhagddo i'r sied hon a gychwynnai'n uniongyrchol oddiar wefus y graig. Am fod pob sied y deuthai ati hyd yn hyn wedi ei hadeiladu'n union, gwelsai oleuni drwyddynt o'r un pen i'r llall. Ond gan fod y diwrnod hwn yn niwlog, ac hefyd am fod y sied hon ar ychydig o dro, tywyllach oedd hi nag arfer. Sylwodd Daff ar y tywyllwch mwy a phetrusodd ryw gymaint rhag myned i mewn.

Ond ebe fe wrtho ei hun,—" Daff! wna hyn mo'r tro! Yr wyt yn nervous ar ôl helbul yr hen bont. Mae British Columbia y tu hwnt i'r sied ddiwetha', cofia!"

Ar hyn agorodd ei ysgwyddau, ac ymlaen ag ef. Yr oedd wedi cerdded deuparth o'r ffordd, ac wedi mynd heibio i'r tro olaf yn y sied, a'r pen draw felly yn y golwg, yn sydyn gwelodd rhyngddo â'r goleu ryw gorff mawr yn symud yn araf tuag ato. Safodd y llanc fel pe ar darawiad wedi ei droi yn faen. Ond y foment nesaf cododd yr anghenfil ar ei draed ôl, a chyda rhu a swniai yn y lle gwag fel can taran, dechreuodd symud tuag at y llanc yn gynt. Gydag ysgrêch a barodd fraw hyd yn oed i'r gwaeddwr ei hun rhuthrodd Daff yn ôl y ffordd y daeth, nid amgen nag at enau'r sied a diwedd y bont.

Erbyn cyrraedd y man hwnnw credai y truan am eiliad nad oedd modd dianc, am fod y creadur o'i ôl, y llwybr tyllog uwchlaw'r dylif o'i flaen, y graig serth un ochr, a dyfnder na welai ei waelod yr ochr arall. Heb wybod yn iawn beth a wnai dechreuodd ddringo piler cyntaf y sied, a da oedd iddo gynnig hynny, oblegid nid cynt yr oedd efe wedi dringo deuddeg troedfedd nag y daeth y creadur i'r goleu. Arth ddu enfawr ydoedd hwnnw, yn llawn llid a gwancus yr olwg. Am y foment yr oedd Daff yn ddiogel, ond fel yr oedd waethaf iddo ef medrai yr arth ddringo hefyd. Hynny yn wir a ddechreuodd ei wneuthur ar unwaith, a chan mai dringo yr un piler ag a wnaethai Ddaff oedd y ffordd unionaf at ei ysglyfaeth, hynny a wnaeth.

Ond yr oedd Daff erbyn hyn ar y nenbren, a phan drodd ef a gweld bod y creadur yn ei ddilyn, llusgodd ei hun dros oleddf y to hyd at ochr y graig, lle yr oedd y piler arall tebig i'r un y dringasai ef gyntaf. Pan welodd fod yr arth yntau wedi cyrraedd y nenbren, llithrodd y llanc i'r llawr dros yr ail biler hwn.

Ond yr oedd y creadur yn ei ddilyn yn eiddgar, ac yn tramwy yn union yr un ffordd ag a aethai yntau, sef i fyny i'r piler allanol, yna dros y tô, ac wedyn i lawr dros biler y graig, ac yn groes i'r ffordd haearn, er cyrraedd y piler allanol unwaith eto.

Yr oedd Daff erbyn hyn wedi gwneud y cylch ddwywaith, ac yn dechreu dringo am y trydydd tro. Ymdeimlai ei hun yn colli ei nerth, a gwybu yn ei galon nad hir y gallai ddal y chware ofnadwy hwn. Ond yn sydyn clywodd drên yn chwibanu wrth ddechreu cymryd ohono y bont o'r ochr draw, a daeth gobaith yn ôl i fynwes y llanc eto. Hanner awr yn ôl, pan oedd ef ei hun ar y bont, dyfodiad y trên a fyddai iddo'n alanas o'r mwyaf, ond yn awr fe welodd yn ei ddyfod ei unig obaith am achub bywyd. A phan feddyliodd fod y peiriant yn ddigon agos dechreuodd chwifio ei freichiau o nen y sied a gweiddi ar y gyrwyr i aros. Ofer y bu hynny, fodd bynnag, ac oherwydd y niwl a sŵn y peiriant ni welwyd ac ni chlywyd mohono gan yr un ohonynt. Ffodus i'r pen oedd y peth serch hynny, oblegid er na welwyd Daff gan y gyrwyr gwelwyd ef gan yr arth, a gwnaeth y chwifio diorffwys i hwnnw ruo a ffyrnigo'n fwy fyth. Ac heblaw hynny, dyna'r peth a dynnodd ei sylw oddiwrth y trên a oedd yn prysur agoshau ato drwy y niwl. A chan mai gweld y llanc yn unig a wnâi'r arth, a gweld yr arth yn unig a wnâi'r gyrwyr, tarawodd y peiriant y creadur yn ei ochr nes yr oedd yn gelain, ac ef eto yn rhedeg yn ôl a blaen o un piler i'r llall.

Ataliwyd y trên, a disgynnodd y gyrwyr i weld yr arth, a phan gyda'i gilydd yn sylwi ar ei faint anferth, ymlithrodd Daff yn dawel i lawr o'r tô i'w hymyl, a rhwng ei wendid a'i brofiad ofnadwy llewygodd yno yn eu plith.