Daff Owen/Rheolau Neu Ddynoliaeth

Munudau Cyffrous Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Frazer's Hope


XXIX. RHEOLAU NEU DDYNOLIAETH

PAN ddaeth Daff ato'i hun yr oedd yn gorwedd yn ochr y ffordd haearn, a thri swyddog y trên yn sefyll uwch ei ben. Rhoddodd un ohonynt ei lestr tê wrth ei enau.

"Pŵr ffelo! y mae wedi cael siwrnai arw, onid yw? Sylwch ar ei lodrau yn garpiau i gyd, a'i benliniau wedi eu brifo'n dost. Nid dynoliaeth peth fel hyn, nage'n wir. Anwariaeth noeth yw, meddaf i."Ond," ebe'r trydydd, "gŵyr pob 'hobo cyn cychwyn ar ei daith beth sydd iddo i'w ddisgwyl o'i ddal. Ac heblaw hynny, nid peth dibwys i neb ohonom ninnau ychwaith ydyw torri'r rheolau fel hyn."

"Edrych yma, Sam," ebe'r cyntaf, "onibai fy mod yn gwybod yn amgenach amdanat, mi ddywedwn mai ti yw y dyn caletaf a welais erioed. Gwna di, fel y mynnych, wrth gwrs, ond amdanaf fy hun 'does dim yn y byd a wna i mi adael y truan 'hobo' hwn i farw yma yn y diffeithwch. Edrych arno, y mae wedi llewygu'r eilwaith!"

Wedi ail ddogn o'r tê, agorodd Daff ei lygaid eto, ac ymhen ennyd ymdrechodd godi. Ac wedi eistedd am ychydig yn agos i'r arth farw, fe welodd y tri swyddog ryw ffordd oddiwrtho yn sisial â'i gilydd yn sobr dros ben.

Diwedd yr ysgwrs fu i'r hwn a siaradodd gyntaf nesu ato a dywedyd wrtho'n garedig,—"Yr ydych mewn picil garw, gyfaill. Ond mae'n rheolau ni yn gaeth iawn,—'does dim pardwn am helpu 'hobo' i drên. Chwi ellwch ddringo dipyn, debig. Mae ambell van yn anodd, mae'n wir, ond chwi synnech rwydded yw ambell un arall. Rym ni'n mynd i fyny i'r sied i edrych a oes yno ragor o eirth. Peryglus iawn yw eirth ar bob pryd, wyddoch. Felly, pan ddown yn ôl, peidiwch am eich bywyd â gadael inni 'ch ffeindio yn eistedd y fan hon! Glywch chi?"

"Rheolau'n wir!" ebe'r un gŵr yn ddistaw. "Llestri pridd, goelia i!"

Ar hyn aeth Samaritan y ffyrdd haearn gyda'i gyd-swyddogion am ennyd i dywyllwch y sied. Cyfododd Daff, ac wedi dau neu dri chynnig, llwyddodd i ddringo i un o'r vans, a gorweddodd yno i lawr. O! mor flinedig ond eto a mawl a gweddi yn llond ei galon! Nid oedd rhagor o eirth yn y sied, mae'n debygol, oblegid y foment y llwyddodd Daff i ddringo i'r van, daeth y swyddogion yn ôl, ac ail—gychwynnodd y trên i'w daith.

Ymhen rhyw hanner awr, a Daff rhwng cwsg a dihun yn nhywyllwch y van, fflachiodd goleuni lamp i mewn, a chlybuwyd trwst traed dyn yn cerdded yn ôl a blaen fel pe yn chwilio'n ddyfal am rywbeth. Daeth y chwiliwr unwaith i'r gongl lle yr oedd Daff yn gorwedd, ond methiant mawr fu y chwilio dyfal, oblegid heblaw na chafodd yr hyn a geisiai fe gollodd rywbeth yno hefyd. Digwyddodd hynny yn ymyl wyneb y llanc, a phan estynnodd hwnnw ei law allan, wele, yr oedd yno lestr alcan bychan wedi ei adael ar ôl. Twym hefyd oedd y llestr ac yn arogli'n gryf o dê chwaethus. Profodd y llanc blin y tê yn gyntaf, ac yna yfodd ef i gyd. Wedi hynny fe syrthiodd i drymgwsg, ac ni wybu ragor amdano'i hun, hyd nes yr oedd haul diwrnod arall yn taflu ei belydrau ato drwy agen uwchben drws y van.

Ar ei ddihuno, gwelodd yn ei ymyl y llestr tê, ac o hynny fe gofiai am y diwrnod blaenorol, am hunllef y bont ac enbydrwydd yr arth. Ha! ychydig a feddyliasai ef gynt y byddai i'w fedr yn dringo coed Cwmdŵr y pryd hwnnw arbed ei fywyd yn y Rockies ymhen blynyddoedd! Yna fe wenodd mewn boddhad am y swyddogion a aeth i chwilio am yr eirth, ac yn enwedig am arwr y llestri pridd. Diolchodd i Dduw am yr arbed ac am ddanfon dynion i'w lwybr a gyfrifai fod gweithredu yn ysbryd y Crist yn sefyll yn uwch na chadw at lythyren unrhyw reol ddynol a wnaed erioed. Nes ymlaen yn y dydd safodd Daff ar ei draed yn y van, a thrwy'r agen uwchben y drws syllodd allan ar wlad eang, fras, ddyfradwy, a oedd yn gwenu ymhlith ei pherllannoedd. "British Columbia, gwlad yr heulwen!" ebe fe. Dyma hi, ac yn llawn y gair a ddywedwyd amdani!"

Ac yntau yn y teimlad hwn, arhosodd y trên mewn man unig. Agorwyd drws ei van yn dawel, ac ebe llais distaw o rywle,—"Hei! y chi sydd i mewn yna, gwrandewch! Amhosibl yw i ni'ch cario ymhellach. Neidiwch i lawr yn y fan hon. Y mae pentre oddeutu milltir yn nes ymlaen ar eich cyfer. Lwc dda! Hobo! a pheidiwch ag ymyrraeth ag eirth mwy. Gormod o dasg, yn wir. Ffarwel!

Neidiodd Daff i lawr ac edrychodd am berchen y llais. Ond nid oedd neb yn y golwg, ac am hynny fe ddiosgodd ei benwisg yn foesgar i'r wlad newydd yn gyffredinol, gan obeithio bod arwr y llestri pridd yn ei weld. Yna aeth i'r pentref a oedd ar ei gyfer.