Daff Owen/Torri'r Cynlluniau
← Pontypridd | Daff Owen gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon) |
Sôn am y Daith → |
XVIII. TORRI'R CYNLLUNIAU
O HOLL ddyddiau llawn ei fywyd ni bu i Ddaff erioed lawnach un na hwn. Y bore yn fawr ei bryder am lwydd ei hoff gôr meibion ym Mhontypridd, y prynhawn yn wledd o ganu na chlywodd Cymru, nac un wlad arall ychwaith ei gwell; yna'r llongyfarchiadau, pan oedd dynion cryfion, o'u teimladau yn cofleidio ei gilydd fel pe baent hogennod ysgol; ac yn ddiweddaf, y llythyr hwn yn ei daro yn fud pan oedd ei galon a'i dafod, oherwydd y fuddugoliaeth, yn fwyaf chwannog i lawen siarad. O weld ei wedd gythryblus, gofynnodd gwraig y llety yn garedig a oedd wedi derbyn newydd drwg. Nid gwirionedd a fyddai ateb ei fod, ac eto, oherwydd ei wyneb sobr, a'i daw dieithr, naturiol oedd iddi gasglu hynny. Ymhen ychydig amser aeth Daff i'w wely, neu o leiaf i'w ystafell, ac yno yn ei ddagrau darllenai ac ail-ddarllenai'r llythyr fel un mewn breuddwyd.
Teimlai'r llanc, rywfodd, fod llaw gan Ragluniaeth yn hyn oll, a bod ei fam yn agos iawn ato y noson honno. Canys, onid oedd hi erioed, yn ei dyddiau dedwyddaf, wedi sôn ganwaith am weld Daff yn siopwr mawr, a hithau yn cadw ty iddo? Bellach, dyma'r cyfle wedi dod i'w mab, ond hyhi, fam dda, yn gorwedd yn ei bedd.
Credai Daff yn ddiysgog ei bod hi o fyd yr ysbrydion, yn ei annog i fynd at ei frawd; a hynny, iddo ef, a dorrai bob dadl. Rhaid oedd mynd, costied a gostiai! Ie'n wir, y gost-beth amdani? Nid oedd yr enillion wedi bod yn foddhaol yn ddiweddar, ac felly yr oedd gan Ddaff lai ar ei elw yr amser hwnnw nag à fuasai ganddo chwe mis yn ôl. Gofyn am help? Benthycio arian? Dim byth, oddiwrth undyn byw, leiaf o bawb oddiwrth y brawd na welsai mohono erioed! Nid oedd hwnnw yn ei lythyr wedi pennu un amser neilltuol ar ei ddyfod. Felly fe ysgrifennai yn ôl ato i dderbyn y cynnig ac i ddiolch amdano heb nodi dyddiad ei fyned. Ond oni welai Môr Iwerydd ef—Daff o Lywel— yn ei groesi cyn pen chwe mis, wel, nid yr hen Ddaff a fyddai o gwbl, ac nid y breichiau, na bu arnynt erioed ofn gwaith, oedd y rhai a symudai mor hoyw wrth ei ochr y foment honno. " O'r Pentra ag e'! O'r Treorci bach ag e'!" Dyna oedd y waedd wrth enau'r lefel, ac ar y partin dwpwl" y bore ar ôl yr Eisteddfod.
"Fachan byw! On'd oe'n nhw'n canu? Diwc annwl! Bu'r "Tyrol" bron tynnu'r pafiliwn am 'n penna'. Do, ta'n i'n marw! Chlywas i 'rio'd shwd beth! Am unwaith o leiaf boddhawyd pleidwyr y ddau gor lleol y naill fel y llall yn y dyfarniad, ac yr oedd Dai'r Cantwr a Shoni'r Halier yn gyd—arwyr am y tro, ac yn siarad ill dau yn garedig am y cór gwrthwynebol.
"Run man i fi 'weud y gwir," ebe D. Y., "pan glywasi Dreorci yn dechra'r War Horse,' mae'n ddobinó arno'n ni heddi', myntwn i wrth m' hunan. Ma'n nhw'n ormod i ni, y tro hwn, arno i ofn."
"Dyna beth od!" ebe Shoni 'n ôl. "Dyna'r very thing a 'wetas inna', pan o'ech chi foys yn clatsho ar y Tyrol. Ond dyna hi—teg yw teg—on'd iefa, Daff? A chyda llaw dyna dawal wyt ti, D.O., heddi'— be' sy'n bod, bachan? O'et ti ddim yn y 'Steddfod?"
"Own, wrth gwrs, ond yr ych chi gantorion yn 'wilia cymynt 'ch hunan, do's dim shawns i un tawal fel fi i ddoti gair i miwn ar 'i edge."
"Ha! Ha! tawal wir! Beth pe b'asa chi'n i weld e' ddo' yn y Bont ar ôl y feirniata'th, boys!— fe! my nabs, y bachan tawal, cofiwch yn citsho am genol 'rhen Ifan sy'n catw'r drws i'r côr, a'r ddou yn i walsan hi fel dou newydd—ddod—ma's o Benbont. O, ia, tawal! very tawal, ar fencos i! So long, boys! Come! Jim!"
Ffarwel i Langyfelach lon
"O—o—o'r Trehorci ag e'!"
Ymhen rhyw hanner awr ar ôl y siarad hwn, a hwy, sef D.Y. a D.O. ill dau yn gweithio'n ddiwyd yn y "talcen," trodd y Cantwr at Daff, a dywedodd,— "Ma' Shoni'n itha' iawn—be' sy'n bod heddi', Daff? 'dwyt ti ddim wedi gweud dwsan o eiria' trw'r bora. Collast ti dy wedjan n'ithwr ? Dyna beth pert! y côr yn ennill, a thitha'n colli! Be' sy' arnot ti, D.O.? Gwêd!"
Yr oedd Daff wedi meddwl adrodd holl helynt y llythyr wrth ei bartner ar y "Spel Whiff," ond gan i hwnnw ei holi fel hyn cyn dyfod o'r amser seibiant, gosododd ei fandril i lawr, aeth at ei gôt a hongiai ar y post, ac allan o un o'r llogellau tynnodd allan y llythyr o Winnipeg, a'i estyn i'w gyfaill heb air o eglurhad. "O! ware teg, D.O!" ebe hwnnw. Jocan own i! 'Dwy i ddim mo'yn darllen dy 'lythyron caru di, bachan. Dod e'n ôl !"
"Na, D. Y., does genny' ddim gwell cyfaill na chi. Darllenwch e'!"
Hynny a wnaed, a phan ddaeth y Cantwr i ddeall y cynnwys, fe chwibanodd yn isel a hir—seiniol yn ddatganiad o'i syndod. Estynnodd y llythyr yn ôl yn barchus ryfeddol, ac am beth amser ni ynganwyd gair gan yr un ohonynt. Ond yn fuan torrodd y Cantwr ar y distawrwydd eilwaith, "Dyna fe—ym lwc i o hyd! Wedi i fi gâl partner piwr, rhaid i fi'i golli a o achos rhwpath ne'i gilydd o hyd! Dyna William Jones y Betws—bachan cystal a wishgws grys yrio'd. Fe losgws e' i farwola'th 'run pryd y twymws 'rhen ffluwchan y clust 'ma ! A dyma titha' yto—yn mynd i bendraw'r byd wedi i fi ddechra serchu yndot ti! Yr wyt ti'n mynd, sbo?
Yr oedd tynerwch neilltuol yn y gofyniad olaf, a rhwng hynny a'i deimladau ei hun, ni allai Daff yn ei fyw ateb ar air. Yr unig beth a wnaeth oedd amneidio'n gadarnhaol â'i ben; ac ar hyn ail—gydiodd yn ei fandril ac aeth i gongl pella'r talcen i ergydio yno wrtho ei hun.
"Gwell hyn," ebe fe yn ei feddwl, 'na gneud hen fapa o'm hunan flaen Dai, ta beth.. Pe b'asa'r hen chum wedi gweud ond un gair yn rhacor fe faswn yn llefen fel plentyn, 'rwy'n siwr." Ac er mwyn osgoi yr ail-blentyndod, a oedd mor beryglus o agos, parhaodd Daff wrtho ei hun, hyd ddiwedd y shift, pan aeth y ddau lowr adre ochr yn ochr, ill dau yn dawedog iawn, ond eto yn gyfeillion mwy mynwesol nag erioed.