Frazer's Hope Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Y "97"


XXXI. VANCOUVER

PEDWAR diwrnod ar ôl ei ddyfod i lawr o'r Rockies, penderfynodd Daff ei bod yn bryd iddo feddwl am ei gynnal ei hun yn y wlad newydd, ac felly yn ystod ei forefwyd cyfeiriodd at y peth wrth Mrs. Selkirk.

"Yr ydych wedi bod yn garedig iawn wrthyf," eb ef, "ond rhaid i mi fynd bellach; clywaf fod galw mawr am weithwyr yn Vancouver. Os caniatewch imi ymweld â chi yn awr ac yn y man, bydd yn bleser o'r mwyaf gennyf ddyfod. Ond rhaid yw mynd ar hyn o bryd, fodd bynnag."

Gwelodd y gwragedd reswm y peth, a chan ei fod ef yn awgrymu am ymweliadau mynych, haws oedd ymado'r tro hwn. Ond pan soniwyd gyntaf wrth Mrs. Jones am ei fwriad i fynd i Vancouver ni fynnai hi er dim ei adael i fynd.

"'Dych chi ddim wedi hanner gwella eto, 'y machan annwl i!"

Ond pan ymgomiodd Daff ei hun â hi, a dangos. ei fod yn eithaf penderfynol yn ei fwriad, gwelodd hithau y peth yn ei oleu iawn, ond ni rwystrai hynny hi i'w siarsio i ddod i'w gweld cyn bo hir, a chael tipyn o'r hen iaith unwaith eto.

Cyn ei ymado, fodd bynnag, gwnaeth hi iddo gymryd pum punt ar fenthyg ganddi hi, i'w talu yn ôl y pryd y mynnai. Yr un modd gwnaeth Mrs. Selkirk iddo gymryd y "dillad newid" i gyd oddiwrthi hithau; a phan ar fedr mynd gwasgodd Miss Jessie arno gymryd bag a'i gynnwys oddiwrthi hi hefyd. Ac ymhlith llawer o bethau defnyddiol eraill yn y bag hwnnw, darganfu Daff ei hen bâr dillad wedi eu glanhau a'u cyweirio yn ofalus.

Wrth fynd allan o Frazer's Hope teimlai Daff ei fod nid yn unig wedi ennill cyfeillion trylwyr yn y pentref bychan, ond hefyd eu bod o'r fath nad aent yn y mymryn lleiaf rhyngddo a'i hunan-barch.

"Bendith ar eu pennau!" ebe fe. "Mi ddangosaf iddynt nad yw eu tosturi a'u hymgeledd wedi eu gwastraffu'n ofer." Yna fe gofiodd am eiriau'r Hen Lyfr,—"Bum newynog, a chwi a roisoch i mi fwyd; noeth, a dilladasoch fi; bum ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi." Ac yn y meddwl hwn llanwyd ei galon a theimlad o'r tyneraf at y rhai oedd wedi bod mor dda wrtho yn ei ddydd blin.

Aeth yn ei flaen i Vancouver yn galonnog, ac efallai bod yr olwg daclus a oedd arno erbyn hyn wedi ei helpu i lwyddo yn y lle newydd hwnnw. Oblegid llwyddo a wnaeth, a hynny ymron ar unwaith.

Beth pe bai wedi mynd i mewn i'r lle yn y wedd y cyfarfu Miss Selkirk ag ef ar yr heol! Tebig iawn na byddai wedi ei gyflogi mor uniongyrchol, a dywedyd y lleiaf, oblegid yn Vancouver, fel pob man arall, y wedd allanol yw y tarawiad cyntaf.

Pan ymofynnodd ef yn y Stôr gyntaf am le ar y Staff digwyddodd iddo son am ei frawd yn Winnipeg, a'r rheswm iddo ddyfod ymlaen i Vancouver.

"A ddywedsoch chi mai brawd Mr. Wm. Owen, Winnipeg, ydych chwi? ebe'r perchennog.

Mewn atebiad tynnodd Daff lythyr ei frawd allan, ac estynnodd ef iddo.

Popeth yn dda, Mr. Owen," ebe'r gŵr. "Adnabûm lawysgrif eich brawd ar unwaith. Buom ein dau yn cydwasanaethu un adeg yn ystôr Hamilton a Hamilton, yn Chicago. Ac os ydych chi rywbeth yn debig iddo ef, gellwch eich ystyried eich hun ar ein Staff o'r foment hon. Pa bryd y byddwch chi'n barod i ddechreu ar eich gwaith?

Cymerodd Daff y prynhawn hwnnw i chwilio am lety cysurus, a bore trannoeth aeth i'r Stôr yn llawn o awydd at y gwaith. Penderfynodd ennill iddo'i hun gystal enw a'i frawd yngolwg y gŵr a brisiai hwnnw gymaint. Felly, mynnodd ddysgu popeth ynglŷn a'r fusnes a'r moddion goreu i'w hehangu a'i llwyddo.

Yn ei oriau hamddenol mynychodd y lleoedd y byddai'n well o fyned iddynt, ac wrth ymwneud â'r rhai hyn, nid hir y bu cyn deall fod yn Vancouver nid yn unig lawer o Gymry, ond hefyd gymdeithas Gymreig luosog. Cafodd dderbyniad calonnog i hon, a phan ddeuthpwyd i wybod mai gyda chôr meibion y Rhondda y daeth ef gyntaf i'r America, rhaid i'r gymdeithas ei glywed yn canu, a gwnaed yn fawr ohono ymhob modd.

Eglurodd yma fel yn Frazer's Hope mai fel swyddog y perthynai ef i'r cantorion, ac, fel yn Frazer's Hope hefyd, rhaid oedd iddo er hynny "ei chynnig hi."

Erbyn hyn dechreuai fagu ymddiriedaeth ynddo'i hun fel datganwr, a chanodd iddynt "Yr Hen Fwthyn Bach To Gwellt" gyda chymeradwyaeth fawr. Bu yn ddoeth yn newisiad ei gân, oblegid nid oes dim a apelia'n fwy at y Cymry oddicartref nag atgofion o'r fath, ac heblaw hynny gwyddai Daff hon yn dda, a chanai yr hen alaw annwyl gyda'r unrhyw wres angerddol ag a deimlasai yng nghanu ei fam gynt. Yn wir, credai fod yr ymlyniad wrth ei hoff alawon hi yn cadw'r hen gysylltiad yn gyfan o hyd, a hapus iawn oedd ef am y peth.

O droi ymhlith Cymry Vancouver daeth Daff i wybod am Gymry eraill yn British Columbia, rhai mewn pentrefi bychain megis Frazer's Hope ynghanol unigeddau'r wlad, ac eraill fel yn Nanaimo ar yr ynys yn gymdeithasau lluosocach. Cyn pen chwe mis yr oedd Mr. Daff Owen, diweddar o'r Rhondda, yn wybyddus ymhob cylch Cymreig, y tu hwnt i'r Rockies, fel gŵr ieuanc teilwng.

Ac o hynny cafodd fwy nag un cynnig manteisiol iddo ei hun gan fasnachwyr eraill a gystadleuai â'i gyflogydd cyntaf. Ond nacaodd ymadael â'i hen feistr, gan benderfynu mai i agor busnes ar ei law ei hun yn unig yr âi ef oddiwrth y gŵr a roddodd iddo'r siawns gyntaf yn Vancouver.

Fel hyn ymlithrodd yr amser heibio, flwyddyn neu ddwy, Daff yn fawr ei barch gan ei holl gydnabod, a busnes ei feistr yn llwyddo yn ei ddwylo.

Ond er ei holl brysurdeb nid angof ganddo y tair a'i hymgeleddodd yn Frazer's Hope. Ai i fyny atynt yn fynych, ac nid byth y deuai oddiyno heb yr ymdeimlad o serch dwfn tuag atynt. Cafodd drafferth o'r mwyaf i beri i Mrs. Jones dderbyn ei phumpunt yn ôl, ac i Mrs. Selkirk gymryd tâl am y dillad a roesai hithau iddo. Hoff gan y ddwy, serch hynny, ei ysbryd annibynnol wedi'r cwbl.

Ni bu sôn o'r un ochr na'r llall am yr hen ddillad, a oedd wedi eu cyweirio a'u gosod yng ngwaelod y bag. Pe gwypid y gwir, edrychai Daff ar y rheiny fel y masgot a fynnodd iddo lwc allan o anlwc. Cofiai ef yn dda am y Sul cyntaf y gwisgwyd hwy yn y Rhondda, pan gyfarchodd y Cantwr ef yn gellweirus fel yr Ocean Swell. Ynddynt hwy y croesodd ef Iwerydd, y gwaeddodd "Buddugoliaeth!" yn Chicago, ie, ac y penliniodd am ei fywyd ar bont y Sierras. Rhaid oedd eu cadw (er na wisgai mohonynt mwy) i'w atgofio am y dyddiau a'r treialon a fu.

Ond er na fynnai Daff gymryd oddiar law y gwragedd yn Frazer's Hope, o'r hyn gyfrifai ef yn gardod, eto yr oedd am iddynt deimlo ei barch mawr tuag atynt, a chwmni difyr dros ben oedd yr un a aethai ar ei wahoddiad ef i waered o'r pentref bychan i Vancouver i Ginio Gwyl Ddewi 1896. Yno yr oedd Mrs. Jones yn ei helfen, a Mrs. Selkirk a Jessie, er na ddeallent yr hanner a ddywedwyd, yn yr un ysbryd llawen hefyd.

Pan ddaeth pen blwydd Mrs. Selkirk, derbyniodd gyfrol hardd o'r Songs of Scotland,' gyda nôd Vancouver ar yr amlen fawr, a'r un modd cafodd Jessie gopi o "Blodwen " ar ei phenblwydd hithau. Yr oedd Mrs. Jones, ebe hi ei hunan, wedi anghofio bod y fath beth â phenblwydd yn bod, ond nid oedd hynny yn un rhwystr i Ddaff ddwyn gydag ef ar un o'i ymweliadau gopi hardd o "Lyfr Tonau ac Emynau yr enwad y perthynai hi iddo yn yr hen wlad.

"Y peth i'r dim, Daff bach! Fe gaf lawer o gysur wrth ddarllen a chanu'r rhain. Diolch yn fawr ichi,i machan annwl i! 'Rwy'n cretu, wir, ta'r Duw Mawr yn ei drugaredd a'ch alws chi yma ar y cynta' i gysuro hen wreigen fel fi. Pan yn canu'r hen donau beautiful hyn fe fydda' i 'n ôl yn Nowlesh bob tro, bydda' wir. Ma' 'want arno i ambell waith i werthu'r cwbwl yma, a mynd yn ôl, ond ma' nhw'n gweud wrtho i fod Dowlesh a Merthyr wedi troi'n Sasnigaidd iawn erbyn hyn, a beth 'nawn ni yno felly fwy nag yma Fe f'aswn yn ddiarth tost. A 'blaw hynny, yma ma' ngŵr i yn gorwedd, a'm bachan bach hefyd. Fe fydda' fe 'run oetran a chi'n 'nawr pe b'asa' fe byw. Ond dyna fe, trefan Duw oedd i fod, a wetyn, be sy' gen' i i'w 'weud?"