Vancouver Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Tua'r Gogledd


XXXII. Y "97"

BLWYDDYN hynod yn hanes British Columbia a fu y '97. Dyna flwyddyn Klondyke pan ddaeth "twymyn yr aur" heibio unwaith eto ac y profodd yn waeth na'r un ymweliad o'r fath oddiar California yn y '49. a Ballarat yn y '51.

Gwyddid ers tro fod aur yn British Columbia ei hun, yn enwedig yn ei rannau gogleddol, ond pan ddaeth y si fod y mwyn mewn helaethrwydd rhyfeddol y tu hwnt i'r Chilcoot a'r "White Horse,' cyfododd y wlad fel un gŵr i gyrchu tuag yno.

Gwag oedd pob gweithfa-nid oedd neb i gadw'r peiriannau i fynd; gwag hefyd pob perllan a maes am fod pob garddwr ac aradwr o ynni, naill ar Yukon eisoes neu ar ei ffordd tuag yno. Yr un modd, ychydig yn ddiweddarach, oedd pob siop ac ysgol am nad arhosai na gwas nac athro (a feddai bris tocyn i Dyea) i gynnal y gwaith.

Yn yr amser cynhyrfus hwn bu farw meistr Daff yn Vancouver, a daeth nai i'r gŵr yn berchennog y Stôr. Rhywfodd neu'i gilydd ni allai y Cymro gyd- dynnu â hwnnw, a phenderfynodd ynddo ei hun nad arhosai yn hir odano. Diau y byddai Daff cyn bo hir wedi dechreu ar ei law ei hun, hyd yn oed pe bai byw yr hen feistr. Ond nid oedd eto yn barod i'r anturiaeth, a dyrysodd angau felly ei amcanion i raddau. heblaw hynny, beth a dalai agor busnes yn Vancouver y dyddiau hynny a phopeth mor ansicr a chythryblus yn y lle? Ni wyddai yn iawn beth i'w wneuthur, ond un noson daeth i'w feddwl y cwestiwn,—paham na allai yntau fynd i Yukon i dreio'i lwc? Gwyddai beth oedd gwaith caled gystal â neb, a phwy a wyddai nad oedd Ffawd o'r diwedd yn mynd i wenu arno yntau?

Po mwyaf y meddyliai am y peth, disgleiriaf i gyd y gwelai bethau yn agor. A hyd yn oed pe na lwyddai, ni byddai'n waeth arno nag yr oedd yn bresennol, a gallai ddod yn ôl i Vancouver i ail—droedio'r un llwybrau drachefn.

Ac o ran hynny ped elai "y gwaetha'n waetha," ac y gadawai ef ei esgyrn o dan eira Klondyke, nid oedd na gwraig na phlentyn—na llawer o gyfeillion ychwaith —i alaru amdano.

Ar hyn daeth i'w gof y tair menyw yn Frazer's Hope, a chyfododd rhywbeth i'w wddf yn y syniad na ddychwelai atynt mwy.

Diwedd y cwbl, fodd bynnag, oedd iddo benderfynu mynd i dreio 'i siawns am dymor yng ngwlad Yukon. Fe fyddai byw yn syml yno, a dychwelai â chymaint o'r aur ag a fedrai ei gasglu, i'w helpu yng ngosod i fyny ei fusnes wedi ei ddyfod yn ôl. Ac erbyn hynny byddai Vancouver yn ddiau wedi gwella o'r dwymyn unwaith eto.

Ond cyn mynd ohono i'r daith fawr rhaid oedd ffarwelio â charedigion Frazer's Hope ac adrodd wrthynt ei fwriadau.

"Mynd i Klondyke! wir !" ebe Mrs. Jones, "Derdishefoni ! beth yw'ch meddwl chi? Otych chi'n mynd i aros ynghanol y savages a'r bad men i gyd? Ac os na laddiff un o'r rheini chi fe fyt yr wolves a'r bears chi lan yn fyw!"

"Look here, 'y merch i," ebe hi wrth Miss Selkirk, "Mae e'n mynd i'n gadael, ac i fod yn ysglyfaeth yn yr hen le cas yna yn yr eira. 'Does dim modd adnabod dynion, nac oes wir. Siaradwch ag ef, Jessie! Rhesymwch ag ef, wnewch chi, 'merch i?"

Ond Miss Selkirk ni ddywedai air, er cymaint y cymhellai Mrs. Jones hi i wneuthur hynny. Eto i gyd yr oedd yn ei hwyneb hi ryw bryder na allai Daff ei esbonio o gwbl ar y pryd.

"Lol i gyd, Miss Selkirk," eb yntau yn fyrbwyll, er mwyn cysuro Mrs. Jones yn fwy na dim arall. 'Dyw'r Klondyke ddim yn waeth lle nag unrhyw fan arall, lle'r ymgasgla dynion at ei gilydd. Y mae cystal siawns yno i'r gweithiwr diwyd ag sydd mewn unman am wn i, ac heblaw hynny does dim i'w wneud yn Vancouver ar hyn o bryd. 'Rwy'n penderfynu mynd, ac os gwêl Duw yn dda, mi ddof yn ôl mewn rhyw ddeunaw mis. Bydd y dwymyn ar ben erbyn hynny, a phethau fel cynt unwaith eto."

Felly i ffwrdd yr aeth—o Frazer's Hope y diwrnod hwnnw, ac o Vancouver ymhen tridiau. Casglodd ei gwbl ynghyd, a chan werthu peth, ac ystorio'r gweddill, yr oedd yn barod i gychwyn.

Bu cryn amheuaeth yn ei feddwl beth fyddai'n oreu—dwyn ond ychydig arian gydag ef, neu fynd a'r cwbl a feddai. Yn y diwedd, penderfynu mynd â'r hanner a wnaeth, gan adael yr hanner arall yn y Bank of Canada hyd nes y dychwelai.

Bu adeg neu ddwy yn ystod yr anturiaeth y credai mai da iddo fyddai cael ei holl eiddo yn y belt am ei ganol, ond ar y cyfan cysur iddo oedd gwybod ped elai'r cwbl yn fethiant yn y gogledd, na byddai yn hollol dlawd pan wynebai ar wareiddiad drachefn.